Neidio i'r cynnwys

Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn/Pennod II

Oddi ar Wicidestun
Pennod I Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn

gan Griffith Williams, Talsarnau

Pennod III

PENNOD II

MR. HUMPHREYS A'I DUEDDIADAU CREFYDDOL.

DYWEDASOM yn barod fod ei dad a'i fam yn aelodau eglwysig gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn y Dyffryn; ond nid oedd yn arferiad, nac yn wir yn oddefol, i rieni fyned a'u plant gyda hwy i'r cyfarfodydd eglwysig y pryd hwnw. Ond er hyny cafodd Richard Humphreys ei fagu yn grefyddol, mor bell ag yr oedd dangos erchylldod pethau drwg, a'r niwed oedd mewn arfer llwon a rhegfeydd yn myned; ac nis gallodd erioed gymeryd "enw yr Arglwydd ei Dduw yn ofer." Bu yn y Dyffryn-pan oedd efe o gylch deng mlwydd oed-ddiwygiad grymus, trwy yr hwn yr ychwanegwyd llawer at yr eglwys; a byddai yntau yn arfer dyweyd ei fod y pryd hwnw wedi teimlo awydd cael crefydd. Ond yr oedd yn cael ei hunan yn dywyll iawn am ei natur, a bu yn hir cyn gweled dymunoldeb a theg- wch yr Arglwydd Iesu, na theimlo ei angen am dano yn Waredwr iddo. Ond pan ydoedd o gylch un-ar-hugain oed gwnaeth ei feddwl i fyny i "geisio doethineb," a bwriodd ei goelbren gyda phobl yr Arglwydd.

Derbyniasom amryw hysbysiadau am ei ddychweliad at grefydd, ac y maent oll yn cytuno mai gwaith graddol oedd yn cael ei gario yn mlaen arno. Ni ddychrynwyd ef gan na tharanau na mellt, na mynydd yn mygu, na llais udgorn, ond y "llef ddistaw fain" a'i tynodd ef allan i wneyd proffes o'r Gwaredwr. Gwnaeth yr Arglwydd âg ef, fel gydag Ephraim gynt, "Dysgodd iddo gerdded, gan ei gymeryd ef erbyn ei freichiau; tynodd ef â rheffynau dynol ac â rhwymau cariad; cododd yr iau ar ei fochgernau, a bwriodd ato fwyd." Dywedodd wrtho, "Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn wyf yn dy ddysgu di i wellhâu, gan dy arwain yn y ffordd y dylit rodio." Llawer gwaith y dywedodd, os gwyddai ddim am waith yr Yspryd, mai araf iawn y dygwyd ef yn mlaen arno ef. Ond wrth ddyweyd na theimlodd bethau grymus iawn ar ei feddwl, ni fynem i neb dybied nad oedd yn teimlo, ïe, yn teimlo yn ddwys a difrifol. Yr adnod a fu yn gynhaliaeth iddo yn adeg ei droedigaeth oedd, "Canys. meirw ydych, a'ch bywyd a guddiwyd gyda Christ yn Nuw." Y mae yn anhawdd peidio a theimlo rhyw gysegredigrwydd at yr adnodau hyny y mae rhai wedi cael eu bywyd trwyddynt mewn argyhoeddiad. Digwyddasom fod yn agos i'r fan lle yr aeth y Royal Charter yn ddrylliau, yn fuan ar ol hyny, pryd y boddwyd rhai cannoedd o deithwyr oedd ar ei bwrdd. Ond fe gafodd nifer bychan eu bywyd trwy iddynt allu cyrhaedd y làn ar hyd rhaff a daflwyd iddynt ; a gwelsom ddarnau o'r rhaff hono yn cael eu cadw yn ofalus, er coffadwriaeth am y waredigaeth a gafwyd trwyddi. Felly y teimlir tuag at yr adnodau hyny y cafodd trueiniaid eu bywyd ynddynt, fel ag i allu ffoi rhag yllid a fydd. A hon ydyw hen adnod Richard Humphreys, "Canys meirw ydych, a'ch bywyd a guddiwyd gyda Christ yn Nuw."

Bu am o gylch blwyddyn "yn cloffi rhwng dau feddwl," a chymerodd lawer o bwyll i ystyried gyda pha un o lwythau yr Arglwydd y byddai goreu iddo fwrw ei goelbren. Byddai yn myned rai gweithiau i'r Cutiau, gerllaw yr Abermaw, i wrando yr Annibynwyr, yn ystod y flwyddyn hon; ac wrth ei weled yn myned mor bell, yr oedd llawer wedi meddwl mai Annibynwr a fyddai. Ond o'r diwedd gwnaeth ei feddwl i fyny ar y ddau beth: dewisodd yr Arglwydd yn Dduw iddo, a'i eglwys yn mysg y Trefnyddion Calfinaidd yn gartref; ao ni bu edifar ganddo. Wedi iddo wneyd y penderfyniad hwn, yr oedd un peth wed'yn y teimlai radd o bryder yn ei gylch, sef myn'd i'r seiat y tro cyntaf. Galwodd gyda'i ewythr, Griffith Humphreys—yr hwn oedd yn un o hen flaenoriaid y Dyffryn—gan lawn fwriadu myned gydag ef y noson hono; ond er ei fawr dristwch nid oedd yr hen flaenor yn myned y tro hwnw, ac aeth Richard Humphreys yn ol heb amlygu ei fwriad iddo. Aeth mis heibio cyn iddo wneyd ail gais, ac yn ystod yr amser hwn fe ddaeth W. Richard, Tyddyn-y-pandy-yr hwn a fu yn flaenor ffyddlon yn y Gwynfryn, ac wedi hyny yn Llanbedr, byd nes y lluddiwyd ef gan farwolaeth barhau i wybod am y trallod yr oedd ynddo. Galwodd gydag ef, ac addawodd fyned ag ef i'r cyfarfod eglwysig y noswaith nesaf. Aeth William Richard oddicartref y diwrnod yr oedd yr eglwys i ymgyfarfod, ond ymdrechodd ddychwelyd mewn amser i allu cadw ei air â Richard Humphreys. Erbyn teithio yn ol i'r Dyffryn yr oedd William Richard yn teimlo yn rhy flinedig i fyned i'r capel; ond galwodd gyda Richard' Humphreys, yn ol ei addewid, ac aethant ill dau yn nghyd; ond ni awgrymodd William Richard nad oedd am fyned i'r cyfarfod. Erbyn iddynt fyned at y capel, cawsant fod y cyfarfod wedi dechreu; agorodd William Richard y drws, a daliodd ef yn agored nes i Richard Humphreys fyned heibio iddo; aeth yntau allan, gan dynu y drws yn ol, a dywedai wrtho ei hun, "Dyna fo, mi wneiff yn burion bellach." Felly gadawyd Richard Humphreys yn unig o ran William Richard, a llawer gwaith y dywedai wrtho, "Mi wnest di, William, dro digon sal â mi." Ond chwareu teg i William Richard, gwyddai ei fod yn ei ddanfon i aelwyd gynes, a bod yno frodyr anwyl i'w ymgeleddu, ac yn eu plith yr oedd y diweddar Barch. Daniel Evans— "ŵr anwyl" —yn bregethwr ieuangc, yr hwn oedd yn cadw ysgol yn y gymydogaeth ar y pryd. Y mae yn rhaid fod yn dda gan yr eglwys fechan gynnulledig yn hen gapel y Dyffryn gael dyn ieuange o gymeriad Richard Humphreys i'w plith; ac yr oedd yn dda iddo yntau gael cartref iddo ei hunan mewn eglwys lle yr oedd hen frodyr profiadol a ffyddlon i ofalu am dano.

Sylwa un wrth son am ddychweliad Richard Humphreys at grefydd fel hyn:" Y mae dynion craffus yn ein dysgu fod y moddion y mae yr Ysbryd Glân yn ei fendithio er dychwelyd pechadur at Dduw yn gadael eu heffeithiau neillduol ar y dychweledig dros ystod ei oes. Os trwy foddion cyffrous yr effeithir ei droedigaeth, ond odid na fydd gan fygythion a rhybuddion y Beibl fwy o effaith ar y cyfryw na dim arall; a phan y caiff ambell i wledd ar yr Aberth mawr, yn ngodreu mynydd Sinai y bydd yn ei chael bron bob amser.' Ac y mae yn cyfeirio at hanes troedigaeth y diweddar Barch. John Williams, Llecheiddior, er dangos hyn. Ei ddychrynu gan daranau a mellt a gafodd ef at Fab Duw, a byddai byth wed'yn am arwain ei wrandawyr at yr un golygfeydd dychrynllyd. Ond am Richard Humphreys, fel y sylwasom yn barod, yr olwg ar dynerwch a daioni Duw a'i denodd ef ato, ac y mae yn ddiamheu mai dyna y rheswm dros mai ceisio meithrin meddyliau tyner am y Duw mawr mewn eraill oedd un o amcanion blaenaf ei weinidogaeth.

Nid hir y bu ar ol ymuno â'r eglwys heb dynu sylw yr hen frodyr fel dyn ieuangc gobeithiol, a dysgwylient y byddai o les mawr gydag achos yr Arglwydd yn eu plith; ac ni chywilyddiwyd hwy am eu gobaith. Yn fuan ar ol hyn yr oedd y diweddar Mr Owen Jones, Gelli, Sir Drefaldwyn, i fod yn holwyddori y plant yn yr Abermaw. Aeth yntau a'r diweddar Barch. Daniel Evans i'w ei' wrando; ond er eu dirfawr siomedigaeth hwy, a degau eraill, lluddiwyd y gŵr parchedig i ddyfod; a bu yn rhaid i Daniel Evans holi y plant. Ar ol iddo ef holi, gofynwyd i Richard Humphreys ddyweyd gair wrth y plant, ond atebodd, "Nid wyf yn teimlo dim awydd i fod yn ddyn cyhoeddus, ond am Gristion, mi garwn fod yn Gristion da." Ychydig y mae yn ofnus sydd o'r un deimlad ag ef. Y mae llawer mwy yn caru cyhoeddusrwydd nag sydd yn 'caru bod yn saint cywir; ac y mae cyhoeddusrwydd, heb "Gristion da" yn sylfaen iddo, yn fwy o nychdod nag o nerth i achos yr Arglwydd. Ond pa un bynag a oedd 'Richard Humphreys yn caru cyhoeddusrwydd ai peidio, yr oedd yn dyfod yn fwy amlwg o ddydd i ddydd ei fod yn "llestr etholedig," a bod gwaith mawr ar ei gyfer yn ngwinllan ei Arglwydd.

Yn mhen rhyw yspaid o amser ar ol iddo ymuno â chrefydd, aeth yr eglwys y perthynai iddi i deimlo y dylent gael ychwaneg o flaenoriaid. Anfonwyd y cais i'r Cyfarfod Misol; a phenodwyd Owen Evans, tad y diweddar Barch. Humphrey Evans, gydag un arall—ni chawsom ei enw—i fyned i'w cynorthwyo. Noson yr etholiad a ddaeth, a bwriasant goelbrenau, a'r goelbren a syrthiodd ar Richard Humphreys. Wrth ddychwelyd adref dranoeth, dywedodd Owen Evans wrth gyfaill iddo, "Bu eglwys y Dyffryn yn bur hapus yn ei dewisiad neithiwr; cawsant ddyn ieuangc gobeithiol yn flaenor; ac yr wyf fi yn credu fod defnydd pregethwr ynddo hefyd." Trwy y dewisiad hwn dygwyd ef i deimlo cyfrifoldeb swydd, ac ymaflodd yn ei gwaith ar unwaith. Cyfarfodydd gweddio oedd yn y Dyffryn bob nos Sabboth y pryd hwnw, trwy fod y Gwynfryn ac Abermaw gydag ef yn daith Sabboth, a byddai. rhyw un yn adrodd pennod o'r Beibl ar ddechreu y cyfarfod gweddi yn fynych. Gofynid i Richard Humphreys i'w gwrando, a byddai yn rhoddi crynodeb o gynnwys y bennod iddynt; a chan na wyddai pa bennod a adroddid ym mlaen llaw, yr oedd llawer yn rhyfeddu at eangder ei wybodaeth yn "Ngair yr Arglwydd." Aeth ym mlaen, a dechreuodd esbonio rhannau o'r Beibl. Bu'r Epistol at y Rhufeiniaid 'ganddo am beth amser yn ei esbonio, ac yr oedd ei sylwadau cynhwysfawr yn argyhoeddi meddyliau ei frodyr ei 'fod yn "ysgrifennydd wedi ei ddysgu i deyrnas nefoedd," gan ei fod yn dwyn allan iddynt "bethau newydd a hen." Ac wrth weled hefyd fod yr "Hwn a wnaeth enau i ddyn" wedi ei wneud yn "ŵr ymadroddus," fel ag y byddai bob amser yn siarad ei feddwl mewn iaith goeth, glir, a naturiol, yr oeddynt yn mynd ym fwy penderfynol nad oedd cylch y ddiaconiaeth yn ddigon eang i'w alluoedd cryfion ymddatblygu. Fel hyn, trwy " wasanaethu swydd diacon yn dda, enillodd iddo ei hunan radd dda, a hyfdra mawr yn y ffydd sydd yng Nghrist lesu," a theimlai swyddogion yr eglwys y perthynai iddi—ac nid plantos mohonynt—na, cewri oedd yn y Dyffryn yn y dyddiau hynny—y dylent ei annog yn ddifrifol i ymgymryd â gwaith mawr y weinidogaeth.

Ymledodd sôn am flaenor ieuanc y Dyffryn trwy'r ardaloedd cyfagos, a dechreuodd pregethwyr a gweinidogion y sir gymryd sylw neilltuol o honno; a phob amser y cyfarfyddent ag ef byddent yn ei annog i ymaflyd yng ngwaith y cynhaeaf mawr. Gofynnai'r Parch Lewis Morris iddo, pan yn y Dyffryn un Saboth,

"Wel, Richard, ydych chwi ddim yn dechrau pregethu bellach?

"Nac wyf," atebai yntau;

"Sut felly, Richard?"

"Wel," ebe yntau yn ôl, "pe bawn yn dechrau unwaith, ni chawn roddi i fyny, hyd yn nod pe bawn yn bregethwr pur sâl."

Gofynnai cyfaill i'r Parch Daniel Evans, "A ydyw Richard Humphreys yn dechrau pregethu yn y Dyffryn acw, bellach?"

Atebai yntau, "Nac ydyw, ond gwae ni pan ddechreua, fe â o'n blaen yn ddigon pell."

Wrth weled nad oedd blaenoriaid y Dyffryn yn llwyddo i gael ganddo ymaflyd yn y gwaith, cymerodd y Cyfarfod Misol mewn llaw i'w cynorthwyo, ac anfonasant ato i ddymuno arno, er mwyn achos yr Arglwydd, i wrando ar lais yr eglwys. Nid oedd gan ein tadau, yn yr adeg foreuol hono ar Fethodistiaeth, ond ychydig o reolau a threfniadau gyda golwg ar y modd i dderbyn rhai i'r weinidogaeth. Os caent mewn dyn ieuangc arwyddion ei fod yn meddu crefydd bersonol, a syniad cywir am golledigaeth dyn yn yr Adda cyntaf, a'r modd i'w godi trwy yr ail' Adda, ynghyd a dawn rhwydd i osod ei feddwl allan, pob peth yn dda. Y mae yn gwestiwn genym a ydyw bod Llawer o ffurfiau i fyned trwyddynt yn ddiogelwch i'r, weinidogaeth: braidd na ddywedem nad ydyw; oblegid gall un ddyfod i fyny â llythyren rheol, a thrwy hyny hawlio rhan yn yr apostolaeth, tra ar yr un pryd y teimla pawb ei fod yn syrthio yn fyr yn wyneb ei hyspryd.

Wedi rhoddi dwys ystyriaeth i gymhelliadau ei frodyr, cydsyniodd o'r diwedd â'u dymuniad, ac addawodd bregethu y nos Sabboth canlynol; ac felly y gwnaeth Wedi esgyn i'r pulpud, dywedodd wrth y gynnulleidfa, "Peidiwch a dysgwyl ond yr un pethau genyf fi ag a fyddech arfer glywed genyf o'r blaen; nid wyf fi ond yr un yn y fan hon ag oeddwn ar lawr; ac nid wyf yn meddwl y gallaf foddhau eich hanner, a ffŵl ydyw y. dyn a amcana foddhau pawb." Yna aeth yn mlaen. Ei destyn oedd, "Dyro drachefn i mi orfoledd dy iachawdwriaeth; ac â'th hael Yspryd cynnal fi." Pregethu yn faith y byddai ar y cyntaf. A pha ryfedd? Yr oedd ei feddwl wedi ei lenwi at yr ymylon gan ei fyfyrdodau; ac wedi i'r argae gael ei agor, yr oedd yn rhaid iddo gael llawer o amser i ymwaghau. Yr oedd un nos Sabboth wedi ymollwng i bregethu; a sylwi bod y canwyllau yn darfod ar y pulpud barodd iddo ystyried y dylasai roddi fyny. Tranoeth yr oedd yn myned a'r ordd fawr fyddai ganddo yn trwsio cerig at ei gymydog, Hugh Evans, Coed-y-bachau, i gael coes newydd, ac meddai, "Mi fyddi yn rhy hir i mi dy aros: galwaf etto am dani." "Ni byddaf mor hir ag y buost ti yn pregethu neithiwr," ebai Hugh Evans yn ol. Ond nid oedd perygl iddynt dramgwyddo eu gilydd, gan eu bod yn gyfoedion ac yn gyfeillion mynwesol. Dechreuodd bregethu pan yn ddyn ieuangc naw-ar-hugain oed.

Nodiadau

[golygu]