Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn/Pennod V
← Pennod IV | Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn gan Griffith Williams, Talsarnau |
Pennod VI → |
PENNOD V.
MR. HUMPHREYS A'I GYMYDOGION.
NIs gwyddom am yr un dyn yn meddu mwy o ddylanwad yn ei gymydogaeth ei hun na'r hybarch Richard Humphreys; ac nid gydag un dosbarth o'r trigolion yr oedd yn meddu hyny, ond gyda phob dosbarth o honynt. Yr oedd yr hen a'r ieuangc, y tylawd a'r cyfoethog, y doeth a'r annoeth am y cyntaf i dalu gwarogaeth iddo ac i eistedd wrth ei draed i gymeryd eu dysgu ganddo. Edmygai y Dyffrynwyr ef mor fawr fel ag yr oeddynt, yn ddiarwybod iddynt eu hunain, yn ymdebygu iddo. Byddai bron bawb o honynt yn amcanu gosod eu syniadau allan yn y dull doeth, pert, a philosophaidd oedd mor naturiol iddo ef. Buom am flynyddoedd heb adnabod neb o frodorion y Dyffryn ond Mr. Humphreys, ac yr ydym yn cofio yn dda ein bod yn teimlo yn hynod o wylaidd yn nhŷ'r capel y tro cyntaf y buom yno, gan mor debyg yr oeddym yn gweled pawb i'r doethawr o'r Faeldref. oedd llawer o honynt yn ddynion mawr, corphorol, fel yntau, ac yn hynod debyg iddo yn eu hymddiddanion; a chan ddyfned yr argraff oedd ein gwron wedi ei adael ar ein meddwl yr oeddym, wedi myned i'r capel, bron yn methu a pherswadio ein hunain nad cynulleidfa o athronwyr oedd yn sefyll o'n blaen ond daethom i ddeall wedi hyny mai nid Humphreys oedd pawb. Dywedai un ohen frodorion y Dyffryn—yr hwn sydd wedi gadael y gymydogaeth er's blynyddoedd iddo ar ei ymweliad a'i hen gartref fyned i'r cyfarfod eglwysig, "Ac mewn gwirionedd," medddai, "Mr. Humphreys oeddwn yn ei glywed yn mhawb; ei sylwadau ef, ei ddull ef, ac hyd yn nod tôn ei lais ef." Yr oedd wedi ennill y dylanwad mawr oedd ganddo yn ei gymydogaeth mewn dull hollol deg a chyfreithlon; ac ni byddai byth yn ei ddefnyddio ond i'r dybenion goreu.
Pe gofynid mewn pa beth yr oedd dirgelwch ei ddylanwad, gellid ateb ei fod mewn amryw bethau. Yn un peth—
Yr oedd yn gallu ymdaflu i'w canol, a bod yn un o honynt. Nid oedd annibyniaeth ei amgylchiadau, na choethder ei feddwl, yn gwneyd iddo ymddidol, na dywedyd wrth un o honynt, Saf hwnt. Byddai yn dra gofalus rhag pasio neb o'i gydnabod ar y ffordd heb ddyweyd rhyw air siriol wrthynt. Cofus genym fyned gydag ef o'r capel i'w dŷ un noson; yr oedd yn hirddydd haf, a'r hîn yn bur hyfryd. Dywedai rywbeth wrth bob un a'n cyfarfyddai. Gwraig lwyd, deneu, esgyrniog, ond bywiog a siriol, oedd y gyntaf a'n cyfarfu," Yn enw dyn, hon a hon," ebai wrth hono, "paham na ofyni fendith ar dy fwyd, dywed, yn lle dy fod mor ddrwg yr olwg ac mor gul o gig."
Wedi myned yn mlaen ychydig, gwelai ddyn yn gorwedd ar ben clawdd y ffordd, "Wel hai," meddai wrth hwnw, "beth yr wyt ti yn gosod dy hun ar ben y clawdd i'r gwybed bach, dywed?"
Cyn cyrhaedd y Faeldref, trodd i mewn i dŷ bychan oedd ar ochr y ffordd i gael tori ei wallt, ac meddai wrth yr Hair Cutter, "Paid di a bod yn hir yn sadio dy hun o'm cwmpas i."
"Gadewch lonydd, Mr. Humphreys," ebe yntau, "ni bydd neb yn canlyn arnaf i frysio ond chwi."
"A wyddost ti hyn, mai ychydig o bobol y Dyffryn yma sydd yn arfer rhoddi pris ar amser?"
Fel hyn y byddai yn rhydd a chyfeillgar gyda phawb o'i gydnabod. Ymgymysgai â hwynt gyda phob peth perthynol iddynt fel ardalwyr. Yr oedd yn gynghorwr yn eu cyfarfodydd plwyfol, a chymerai ran fel gwladwr a dinesydd gydag etholiadau seneddol. Yr ydym yn ei gael ar un adeg yn Harlech, ar ddiwrnod cynyg Marchog dros y Sir. Wedi i ryw un gynyg R. Richard, Ysw., o Gaerynwch, cynygiodd Mr. Humphreys Syr William Wynne. Yr oedd yno ryw gyfreithiwr yn meddwl tipyn o hono ei hun, a dywedodd wrtho, "Pregethwr ydych, onide?" "Ie," ebai yntau, "ond a ydyw hyny yn peri nad wyf yn wladwr a dinesydd?" Tybiodd y cyfreithiwr, mae yn debyg, y buasai yn gwneyd iddo gywilyddio a gostwng ei ben, ond cafodd weled yn lled fuan ei fod wedi methu ei ddyn. Yr oedd Mr. Humphreys yn teimlo, os oedd i gael ei drethu a'i drin gan y cyfreithiau fel pawb o ddeiliaid y llywodraeth, fod ganddo hawl i ymgymeryd â phethau gwladol, fel dinesydd arall, er ei fod yn bregethwr.
Nid oedd Mr. Humphreys wedi ei alw yn Hedd ynad yn y Sir, ond fe wnaeth lawer o waith y swydd yn y Dyffryn. Gwrandawodd lawer cŵyn, a thrwy ei gynghor doeth a phrydlon adferwyd heddwch rhwng llawer dau o'i gymydogion. Trwy ei fod mor agos at bawb, byddai yn hawdd gan lawer redeg ato i achwyn eu cam. Byddai rhai yn myned weithiau gyda phethau nad ystyrid ganddo ef yn bwysig, ac ni byddai efe yn arfer gwneyd pethau felly yn fwy, ond yn llai, os gallai. Aeth gwraig o'r gymydogaeth i achwyn ar ei gŵr o herwydd rhyw gam-ymddygiad o'i eiddo: "Wel aros di," gofynai Humphreys, "beth oeddyt ti yn ei wneyd i'w gythruddo." Bu y wraig, druan, yn ddigon gonest i ddyweyd y gwir wrtho. Gwelai Mr. Humphreys ei bod wedi rhoddi tramgwydd i'w gŵr, a bod bai mawr arni, a gofynodd iddi, "A ddywedaist ei fod wedi dy daro di?
"Na, ni tharawodd fi," ebai y wraig.
"Wel, fe ddylasai wneyd," ebai yntau.
Felly bu raid i'r wraig droi allan heb lythyrau oddiwrth yr offeiriad i lusgo ei gŵr i garchar y tro hwnw.
Dro arall cyfarfu â hen chwaer ar y ffordd, yr hon oedd wedi ei chythruddo yn ddirfawr gan un o'i chymydogesau. Dechreuodd achwyn ei cham wrth Mr. Humphreys, ac wrth ei gweled mor llawn o'r yspryd dial, dywedai wrthi, "Gadewch iddi, hon a hon bach, fe dâl yr Arglwydd iddi."
"Mi wn hyny," ebai hithau, "ond mi fydd y Brenin Mawr. yn hir ofnadwy yn talu iddi." Adroddai Mr. Humphreys yr hanesyn hwn yn aml, a hyny am y credit oedd yr hen wraig yn ei roddi i'r Hollalluog.
Hefyd yr oedd Mr. Humphreys yn gallu mwynhau ei gymydogion. Trwy ei fod yn troi cymaint yn eu plith, yr oedd yn adnabod gwahanol gymeriadau y gymydogaeth yn dda. Byddai yn arfer dyweyd fod mesurau traed pobl y Dyffryn yn lled gyffredin ganddo, ac y byddai yn gweled y mesurau hyny yn ffitio traed pawb. Hawdd ydoedd deall oddiwrth y cyfeiriadau mynych a wneid ganddo at ei gymydogion ei fod yn arfer a sylwi ar eu harferion, a mwynhau llawer arnynt. Os byddai arno eisieu cadarnhau rhyw ddywediad, neu egluro adnod neu ddiareb, odid fawr nad ymddygiadau rhai o'r Dyffrynwyr a ddygid yn mlaen ganddo i hyny. Gofynai cyfaill ieuangc iddo wrth gyd-deithio âg ef unwaith, sut yr oedd deall y gair hwnw, "Rhyw un a wasgar ei ddâ, ac fe a chwanegir iddo a rhyw un arall a arbed fwy nag a weddai, ac a syrth i dlodi." "Wel aros di, William," ebai yntau, "rhyw esponiad pur lythyrenol a wna dy dro di. Yr oedd dwy wraig yn y Dyffryn acw wedi myned i'r mynydd i ymofyn pawb ei faich o fawn, ac wedi dyfod adref, fe roddodd un danllwyth da ar y tân i wneyd cinio i'r teulu, ac fe wnaeth hyny yn brydlon gyda haner ei baich. Cymerodd y llall fawnen, a thorodd hi yn ddarnau, a gosododd hwy ar y tân, ac yna dechreuodd chwythu, a dyna lle y bu yn rhoddi mawnen a chwythu, mawnen a chwythu, nes y llosgodd y baich i gyd, ac heb wneyd cinio i'r teulu yn y diwedd. Yr oedd hono, ti weli, yn arbed mwy nag a weddai' o'r mawn, a thrwy hyny yn methu a gwneyd y cinio yn barod er llosgi y baich i gyd."
Anfarwolodd Mr. Humphreys goffadwriaeth un o'i hen gymydogion trwy ei ail adrodd, sef Richard Williams, Corsddolgau. Efe oedd y cymydog agosaf i deulu y Faeldref; ac yr oedd yn hynod am ei atebion pert, ac am ei arabedd. Hen dy salw yr olwg oedd Gorsddolgau pan oedd Richard Williams yn byw ynddo, a gofynai Humphreys iddo un diwrnod,
"Oes arnoch chwi ddim ofn byw yn yr hen dŷ bregus acw, Richard?"
"Nac oes," ebai yntau, "bydd arnaf ofn marw ynddo yn aml."
Wedi i Mr. Humphreys briodi, gwahoddodd ei hen gymydog, Richard Williams, i ddyfod i weled Mrs. Humphreys. Aeth yntau, a gofynodd Humphreys iddo,
"Beth ydych yn ei feddwl o honi, Richard?"
"Wel," atebau yntau, "y mae yn debyg eich chwi yn'ei leicio hi, ond am danaf fi, gwell gen i Betty": a'r Betty hono oedd ei wraig ef ei hun. Wedi i Mr. Humphreys adeiladu tŷ newydd, gwahoddwyd Richard Williams i'w weled. Byddai yr hen gymydog yn arfer a chael benthyg arian gan deulu y Faeldref, ac yr oedd arno ddwy bunt iddynt y pryd hwnw. Mrs. Humphreys a ymgymerodd a bod yn arweinydd iddo trwy y tŷ newydd. Aeth ag ef o'r naill ystafell i'r llall, a phan oedd yn myned i'r pantry dywedai Mrs. Humphreys,
"Dyma ystafell ein bara beunyddiol ni, Richard."
"O felly," ebai yntau, "Pa le y mae ystafell—Maddeu i ni ein dyledion—eto, Mrs. Humphreys?"
Yr oedd Mr. Humphreys ac yntau yn dychwelyd gyda'u gilydd un tro o'r morfa; yr oeddynt yn dyfod ar hyd lwybr gwlyb a chorsiog. Cadwai Mr. Humphreys ar y blaen, a chwiliai am y lle meddalaf ar y gors, er mwyn y digrifwch a gai gyda'i gymydog ffraeth; ac wrth fyned gofynai Humphreys yn aml,
"A aethoch chwi dros eich esgidiau bellach, Richard? "Naddo eto," atebai yntau.
Wedi myned ychydig yn mlaen, gofynai Mr. Humphreys drachefn, "A aethoch chwi dros eich esgidiau bellach, Richard Williams?"
"Naddo eto," oedd yr ateb drachefn. Cadwai Mr. Humphreys ar y blaen o hyd, a phan oedd efe ei hunan yn suddo yn bur ddwfn yn y gors, dywedai y drydedd waith,
"Yr ydych chwithau wedi myned dros eich esgidiau bellach."
"Naddo eto," meddai yr hen gymydog yn ei ddull cwta ei hun.
"Wel sut felly," gofynai Humphreys, gan edrych dros ei ysgwydd arno, a'i weled at haner ei goesau yn y gors, "Clocsiau sydd genyf," oedd yr ateb a gafodd.
I'r Eglwys y byddai Richard Williams yn arfer a myned ar y Sabbath, a gofynwyd iddo yn y Faeldref unwaith,
"A ydych yn cael rhywbeth yn yr Eglwys, Richard?"
"Y mae yn llawer haws cael peth yno nag yn eich capel chwi," oedd ei ateb.
Sut felly?" gofynwyd yn ol.
"Y mae yno lai yn dyfod i chwilio, ac felly nid oes cymaint o gip ar hyny sydd yno," ebai yntau.
Ond nis gallwn ddyfod i ben ag ysgrifenu hanes yr holl ymgomio a fu rhwng y ddau. Gwnaeth Mr. Humphreys lawer teulu yn llawen wrth ail adrodd ei hen gymydog o Gorsddolgau. Teimlai Mr. Humphreys yn gyffelyb gyda'i holl gymydogion, a byddai yn gallu tynu rhyw gymaint o fêl hyd yn nod o'r rhai mwyaf geirwon o honynt.
Peth arall oedd yn gwneyd fod ei ddylanwad mor fawr yn y Dyffryn ydoedd—Ei fod yn gallu cydymdeimlo â hwy.
Arferai fyned i ymweled â'r cleifion ac â'r rhai profedigaethus. Gallai ddyweyd ar hyn fel y gŵr o wlad Us, "Y cwŷn ni wyddwn a chwiliwn allan;" a gwnaeth i galonau llawer o wragedd gweddwon lawenychu. Ysgafnhaodd eu bronau lawer gwaith trwy ei ddull teimladwy yn gofyn sut y byddent, pan y cyfarfyddai â hwynt ar y ffordd. "Sut yr ydych chwi, hon a hon bach, a'ch twr plant?" Nid fel gweinidog Methodistaidd yn chwilio am Fethodistiaid y gymydogaeth y byddai efe, ond fel cymydog yn chwilio am gymydogion: a byddai ganddo air yn ei enau i'w cysuro, a cherdod yn ei law tuag at ddiwallu angen y rhai anghenus o honynt.
Gwnaeth Mr. Humphreys gais at ei gyd-ffermwyr, ar ryw auaf caled, i geisio ganddynt ffurfio math o gymdeithas tuag at gynorthwyo tlodion y gymydogaeth; ond deallodd yn fuan nad oedd modd cael digon o gyd-weithwyr i wneyd dim yn effeithiol. Wedi methu yn yr amcan clodwiw, penderfynodd ef a Mrs. Humphreys y gwnaent eu goreu i'w helpu trwy y tymmor caled hwnw. Gwahoddent y rhai mwyaf anghenus o honynt i'r Faeldref, a chyfranent yn helaeth iddynt. Gofynai ei was iddo wrth edrych ar un henafgwr yn gwegian dan y baich oedd efe wedi ei osod ar ei ysgwyddau, fel yr oedd yn myned oddiwrth y tŷ, "Tybed y gall o ei gario adref, meistr?" "Gad iddo fo, Robert," ebai yntau, "yr wyf fi yn leicio peth fel yna;" ac ychwanegai, "Na ollwng ef ymaith yn waglaw; gan lwytho, llwytha ef."
Cymerwyd tenant iddo yn sal, a bu am amser maith yn methu dilyn ei alwedigaeth. Byddai Mr. a Mrs. Humphreys yn ymweled ag ef yn aml, ac yn danfon rhywbeth. iddo yn feunyddiol; ac wedi iddo ddechreu gwella, a myned o gwmpas, gwahoddwyd ef i'r Faeldref. Wedi iddo fyned yno, gofynai Humphreys, "Sut y mae hi rhyngot ti a'r Doctor, R. O.?"
"Nis gwn," meddai yntau, "dyna y bill wyf fi yn ei ofni yn fawr."
"Wel galw am dano, ni bydd iddo fyned yn fwy felly, a gad i mi ei weled," ebai ei landlord.
Gwnaeth yntau felly, a galwodd drachefn, a gofynodd Humphreys, "A ydyw y bill genyt? gad i mi ei weled." Estynwyd ef iddo, ac er ei fod yn amryw bunnoedd, dywedodd wrtho, "Gad hwn i mi, mae yn arw i mi adael i ti ymladd â'r byd â dy faich ar dy gefn." Ni chlywodd R. O. air o son am y bill byth mwy.
Yr oedd Mr. Humphreys yn dyner wrth bawb ond tramps. Pan yr elai rhai o honynt hwy at ei ddrws, y peth cyntaf a wnai fyddai dyweyd, "Wel aros di, hen frawd, gad i mi weled dy ddwylaw;" ac os na byddai ôl gweithio arnynt, byddai yn rhaid iddo fyned ymaith yn waglaw, os na byddai yn cael lle cryf i feddwl y byddai arno eisieu bwyd.
Nis gallai edrych ar neb yn ymboeni gyda dim heb roddi help iddo, os gallai. Digwyddodd iddo, pan yn myned i'w gyhoeddiad, un dydd Sadwrn, ddod o hyd i ryw saer coed, a chanddo faich bren trwm, ac wedi cyddeithio ychydig dywedai, "Gadewch i mi gario eich baich am ychydig,"
"Na, nid felly," ebai yntau, "nis gallaf feddwl i ŵr o'ch urddas chwi gario fy maich i."
"Wel na," atebai yntau," rhaid i mi ei gael—' Dygwch feichiau eich gilydd' ydyw y gorchymyn." Yna cymerodd y darn pren ar ei ysgwydd gref. Teimlai ei gydymaith ei hunan yn myned yn llawer ysgafnach heb yr ysgwyddaid pren, a gadawodd ef ar yr hwyaf i Mr. Humphreys. Cyn hir dechreuodd yntau ymdeimlo â'i bwysau, a thrwy nad oedd ei gyfaill yn son am ei gymeryd yn ol, dywedodd Mr. Humphreys, " Wel, o hyn allan, bydded i bob un ei faich ei hun;" ac yna aeth i'w ffordd.
Yr oedd tynerwch ei fynwes yn myned weithiau ar y ffordd iddo weithio allan benderfyniadau ei feddwl. Gwnaeth benderfyniad un tymor na byddai iddo werthu dim o gynyrch y fferm ond am arian parod, a mynegodd y ddeddf i'w was, fel na byddai i hwnw werthu dim yn ei absenoldeb. Ond cyn machlud haul yr un dydd ag y mynegwyd y cynllun hwn, fe ddaeth dau gymydog iddo, ac aelodau o'r eglwys yr oedd efe yn weinidog arni, i ofyn am bytatws ar werth. Gofynai yntau a oedd ganddynt arian. "Nac oes, dan yr amser a'r amser," ebent hwythau. Ar hyn fe aeth yn wrthdarawiad rhwng tynerwch ei galon a phenderfyniad ei feddwl; a bu dystawrwydd tra yr oedd yr ymrysonfa yn cymeryd lle yn ei feddwl. Yn y man dywedai, "Os nad allaf werthu pytatws i chwi, heb dori fy ngair, gallaf roddi cynghor i chwi, Ewch at Ann (sef Mrs. Humphreys) a gofynwch am fenthyg arian iddi tan y pryd a nodasoch." Aeth y dynion, a dychwelasant yn fuan, prynasant y nwyddau gan Mr. Humphreys, a thalasant am danynt gydag arian Mrs. Humphreys.
Peth arall oedd yn gwneyd i'w gymydogion feddwl mor uchel am dano ydoedd—Gwyddent ei fod yn caru eu lleshad ac yn llawenhau yn eu llwyddiant. Yr oedd ei ymdrechion diflino i'w hyfforddi gyda golwg ar bethau y ddau fyd yn brawf o'r fath gryfaf iddynt fod ganddo wir ofal calon am danynt. Nis gwyddom am neb a dalodd fwy o sylw nag ef i egwyddorion cyffredin bywyd; a byddai bob amser yn ymdrechgar i ddysgu ei gymydogion yn y pethau hanfodol i'w dedwyddwch fel aelodau cymdeithas. Byddai rhai o honynt, mae yn wir, bron a digio wrtho, am y byddai yn arfer dyweyd wrthynt fod y rhan fwyaf o dlodi cymydogaeth yn rhywbeth oedd yn cael ei dynu gan y trigolion am eu penau eu hunain. Dywedai wrthynt nad oedd tlodi wedi ei rwymo wrth neb fel corph y farwolaeth, fel na ellid gweled rhyw gyfleusdra i daflu y baich gorthrymus i lawr, a hyny yn gyfreithlon. Priodolai y rhan fwyaf o dlodi gwlad i'r arferiad niweidiol o brynu ar goel; a cheisiodd, pan yn masnachu, ac wedi hyny, ddysgu ei gyd-ardalwyr fod "dal llygoden a'i bwyta," er mor helbulus ydyw hyny, yn llawer hapusach i deimlad pob dyn gonest na "bwyta yr ysgyfarnog cyn ei dal." Yr oedd yn credu fod yn bosibl i deulu ranu ei enillion fel ag i gael angenrheidiau bywyd, ond iddo beidio gwario arian am yr hyn nid yw fara; ac yr oedd ganddo reswm da dros ei farn, sef, bod rhai tlodion yn gallu byw heb redeg i ddyled. Ac am ei fod yn credu felly, byddai yn llefaru wrth ei gymydogion, ac yn dangos y manteision a ddeuai o fabwysiadu "Hwda i ti, a moes i minau." Llawer gwaith y dywedodd na byddai yr un gath byth yn myned at gath arall i ofyn benthyg llygoden i aros iddi hi gael amser i ddal un. Gallem feddwl nad yw y traethodau byrion, ond cynhwysfawr, a ymddangosodd yn Y Traethodydd er's dros ugain mlynedd yn ol, ac a welir yn mysg ei ysgrifeniadau yn y gyfrol hon, ar "Dlodi," "Hwda i ti, a moes i minau," &c., yn ddim ond casgliad o'r mân-wersi a roddwyd ganddo yn y Dyffryn a'i hamgylchoedd ; a chynghorem y darllenydd i droi atynt a'u bwyta bob brawddeg o honynt; a gallwn sicrhau, os na fyddant yn flasusfwyd o'r fath a garai ambell un, y byddant yn fwyd maethlon iawn, ac y byddai i gymdeithas yn fuan ddyfod yn dêg yr olwg, er mor llygredig y mae wedi myned wrth brynu ar goel.
Byddai yn teimlo rhyw fath o ofal tadol am ei holl gymydogion; a phan y byddai i rai o honynt symud i gymydogaeth arall i fyw, pryderai yn eu cylch, a galwai gyda hwy bob amser yr elai i'r cyfleusdra. Gofynai i un oedd wedi myned i gymydogaeth arall, "Sut yr wyt ti yn dyfod yn mlaen yn dy gartref newydd, hwn a hwn?" "Da iawn," ebai yntau, y mae pawb yn ddigon diwenwyn i mi." "Y mae yn ddrwg genyf glywed hyny," atebai Mr. Humphreys, "oblegyd yr wyf yn ofni nad wyt yn llwyddo fawr," ac ychwanegai, "A wyddost ti hyn, mai ar i fyny y mae cenfigen yn cerdded, nid oes ganddi sodlau i fyned ar i waered."
Nid oedd ei ofal yn llai am danynt gyda golwg ar eu dedwyddwch ysprydol. Gallasai ddyweyd yn bur groew, "fod iddo dristyd mawr a gofid dibaid am lawer o honynt. Yr oedd ganddo un cymydog, yr hwn oedd yn ŵr call, ac yn wladwr parchus, yn arfer diota, ac weithiau yn meddwi. Teimlai Mr. Humphreys yn ddwys yn ei achos, a gwnaeth bob peth oedd yn ei allu i'w gael oddiwrth ei arferion pechadurus. Gweddiodd lawer drosto, a rhoddodd lawer cynghor caredig iddo; ond er y naill a'r llall, parhau i ymlynu wrth ei hen arferion yr oedd efe. Pan sefydlwyd y Gymdeithas Ddirwestol yn y gymydogaeth, dywedodd Mr. Humphreys yr ardystiai efe er mwyn ei gymydog; a llwyddodd drwy hyny i'w gael yn ddirwestwr. Yn fuan ar ol hyny dechreuodd fyned i wrando ar y Methodistiaid, gan adael y capel lle yr oedd ei wraig yn aelod; ac nid hir y bu cyn ymuno â'r eglwys. Pan y clywodd y gweinidog lle yr oedd ei wraig yn aelod, a lle y byddai yntau yn achlysurol yn arfer myned i wrando, ei fod wedi ymuno â'r Methodistiaid, aeth ato, a gofynodd iddo beth oedd yr achos iddo eu gadael hwy? a'i ateb ydoedd," Yr oeddwn i fel dafad wedi myned i'r siglen, a chwithau o draw yn galw arnaf i godi; ond daeth Richard Humphreys ataf, ac ymaflodd yn fy llaw, gan fy nwyn i dir sych a diogel, ac mi gredaf ei fod ef yn caru lles fy enaid." Nid yw yr hanesyn hwn ond un o lawer am y dylanwad iachusol a deimlwyd gan lawer o honynt.
Byddai yn cymeryd mantais ar bob amgylchiad i gynyrchu meddyliau mawr yn ei gymydogion am ddaioni Duw tuag atynt. Gofynodd un o'i gyfeillion iddo, ar adeg o sychder a gwres anarferol—y ddaear yn cochi ac yn ymagor o dan ei effeithiau, a'r anifeiliaid yn dioddef gan brinder porfa a dwfr "A oes genych ddim arwydd gwlaw, Mr. Humphreys." "Dim ond hyny," ebai yntau," Duw da iawn y cawsom ni ef erioed, ac yr wyf yn credu y cawn ef yn Dduw da eto, ac y bydd i ni gael gwlaw cyn iddi fyned yn rhy bell arnom."
Yr oedd gwaith ei gymydogion yn galw am dano i bregethu i'w tai mor fynych yn dangos y meddwl mawr oedd ganddynt am dano, a'u parch dwfn iddo; a byddai yn dda iawn ganddo yntau gael myned i'w cartrefi, a dysgu iddynt ffordd Duw yn fanylach. Yr ydym trwy garedigrwydd Mr. William Lewis, Tymawr, Llanbedr, wedi cael sylwedd un o'r pregethau hyny, a dodwn hii lawr fel enghraifft o'r lleill. Ei destyn ydoedd
SALM XXIII.
BUGAIL defaid oedd cyfansoddydd y Salm hon wedi bod; ond fe'i codwyd o fod yn fugail i fod yn frenin ar Israel. Yn yr adnod gyntaf mae yn dyweyd am yr Arglwydd, mai efe ydoedd ei Fugail, ac am hyny na byddai eisieu arno. Nid yn unig nid oes eisieu arnaf, ond ni bydd eisieu arnaf. Fe all pob un o honom ninau ddyweyd yr un fath a Dafydd, ond i ni gael yr Arglwydd yn Fugail i ni—ei gael o'n plaid i olygu trosom, ac i ofalu am danom. Cymhariaeth ydyw hon ag y byddai duwiolion y Beibl yn ffond iawn o edrych arni—y Brenin Mawr fel eu Bugail. Y mae Iesu Grist yn dyweyd am dano ei hunan," Myfi yw y Bugail da; y Bugail da sydd yn rhoddi ei einioes dros y defaid." Y mae yn adnabod ei ddefaid ei hun i gyd, a hwythau yn ei adnabod yntau; maent yn adnabod ei lais, ac yn ei ganlyn, yntau yn myned o'u blaen hwynt ac yn eu harwain, a dyna ddywed efe am danynt, "A minau ydwyf yn rhoddi iddynt fywyd tragwyddol, ac ni chyfrgollant byth, ac ni ddwg neb hwynt allan o'm llaw i." Mi fyddwch chwi, y bugeiliaid yma, yn arfer dyweyd eich bod yn adnabod wynebau eich defaid, pe bae'ch heb weled y nôd. Ond am yr Arglwydd yn Fugail, dywedir, "Wele myfi, ïe myfi, a ymofynaf am fy mhraidd, ac a'u ceisiaf hwynt. Fel y casgl y bugail ei ddeadell ar y dydd y byddo yn mysg ei ddefaid gwasgaredig; felly y ceisiaf finau fy nefaid, ac a'u gwaredaf hwynt o bob lle y gwasgerir hwynt iddo ar y dydd cymylog a niwliog." Felly y dywed Dafydd am dano, " Adnabuost fy enaid mewn cyfyngder." Beth feddyliwch chwi am dano, mhobol i. Fel hyn y dywed am dano ei hun, "Y golledig a geisiaf, a'r darfedig a ddychwelaf, a'r friwedig a rwymaf, a'r lesg a gryfhaf." Y mae yn dda iawn i ni gofio hyn am dano.
Ein hanes ni yw crwydro a myned ar gyfrgoll. Felly y dywed Dafydd am dano ei hunan, "Cyfeiliornais fel dafad wedi colli;" ac un ddiamcan iawn ydyw y ddafad at ddyfod yn ol. Rhaid i'r bugail fyned ar ei hol, onide nid oes fawr o obaith am dani. Felly yn union yr wyt tithau, fy nghydddyn, mi fedrwn yn rhwydd iawn fyned o'r ffordd, ac ar grwydr; ond y mae y Bugail yma yn myned ar ol yr hon a gollwyd, hyd oni chaffo Efe hi; ac wedi ei chael, y mae yn ei dodi ar ei ysgwyddau ei hun yn llawen—yn llawenychu ei hun, ac yn galw eraill i gyd—lawenhau ag ef. "Nid yw ewyllys eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd gyfrgolli yr un o'r rhai bychain hyn." Diolch iddo—rhown ein hunain iddo, a siaradwch wrth eich gilydd am y Bugail da.
Y mae ganddo ei gorlan hefyd, chwi gofiwch. Y mae yn dysgwyl i'w ddefaid gydgyfarfod i son am dano—i gynal ei enw yn y byd—ac y mae ganddo le da iddynt yn y diwedd. Cânt fyned i'r nefoedd ato i fyw. Nid rhyw chwith iawn fydd y marw yma i'r rhai hyn, na'r byd tragwyddol wedi hyny. Dywedir yn llyfr y Dadguddiad, "Eu bod ger bron gorseddfaingc Duw," a bod yr Oen yn eu bugeilio hwynt, &c. "Pwy ydyw y rhai hyn?" meddai un o'r henuriaid, "ac o ba le y daethant?" "Arglwydd, ti a wyddost," meddai Ioan. Yr oeddynt yn leicio holi eu gilydd yn eu cylch hwynt. Erbyn edrych, rhai wedi dyfod o'r cystudd mawr oeddynt, rhai fel ninau yn union, heb ragoriaeth yn y byd arnynt, ond eu bod wedi golchi eu gynau a'u cânu yn ngwaed yr Oen, ac oblegyd hyny y maent ger bron yr orseddfaingc.
Y mae ganddo hefyd ei borfa fras—lle iddynt orwedd mewn porfeydd gwelltog, gerllaw y dyfroedd tawel. Welsoch chwi erioed mor dda y mae y rhai hyn yn ffitio eu gilydd. Ni fedr y defaid fyw heb y borfa, na fedrant; ac fe fydd y borfa yn well o'r defaid. Mi welais i gae yn Lleyn, a darn o hono yn wyrddlas iawn, yn wahanol iawn i'r darn arall, ac mi ofynais i i'r gŵr oedd pïa'r tyddyn, "Sut y mae y darn yna gymaint yn well na'r darn acw?" "Oh," meddai y ffermwr, "cadw y defaid ddarfu i mi ar y darn gwyrddlas yna, ac nid oes dim tebyg iddyn' nhw am rywiogi tir." Felly yn union y mae gyda ninau. Ni fedri di a minau ddim byw heb yr Arglwydd Iesu Grist; trwy gredu ynddo, a'i garu, a byw iddo, dyna'r ffordd i ni i gael bywyd. Y mae yn ddigon gwir fod arnom ni i gyd ei eisieu ef; ond a wyddoch chwi beth? y mae arno yntau ein heisieu ninau. Y mae ganddo ef faddeuant pechodau, yr ydym ninau yn euog. Wel, ni thâl maddeuant pechodau i neb arall ond i'r euog. Ei gyfiawnder mawr, beth feddyliet ti am dano yn wisg i dy guddio? Felly y dywed un am dano, "Gwisgodd fi â mantell cyfiawnder." Wel, rhaid cael y pechadur i'w wisgo. Ar gyfer y pechadur y mae ei gyfiawnder. Fe aiff y drefn fawr yn ofer, os na cheir pechaduriaid ato. Y mae yn derbyn pechaduriaid mawr, fel y dywedir am y Manasseh hwnw, "Efe a weddiodd, ac yntau a fu boddlawn iddo." Cymododd Duw ag ef, ac wedi i'r cymod gael ei wneyd, welsoch chwi erioed fel y mae nhw yn dygymod â'u gilydd, fel y defaid a'r borfa—y naill yn canmol y llall. Felly y mae yr Arglwydd yn addaw iddynt trwy y prophwyd Eseciel, "Mewn porfa dda y porthaf hwynt," &c. Ac y mae Dafydd yn dysgwyl mewn hyder am dani, ac yn ei chael yn helaeth. A mwy eto, "Y mae yn dychwel ei enaid, ac yn ei arwain ar hyd lwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw." Y mae yn son am leoedd enbyd, "Glyn cysgod angau," ond nid ofnai niwed. Yr oedd y cwbl yn oleu o'i flaen; ac yntau wedi ei godi uwchlaw ei elynion. Fel hyn y mae yn terfynu, "Daioni a thrugaredd yn ddiau a'm canlynant holl ddyddiau fy mywyd." A dyma ei benderfyniad,—" Preswyliaf yn nhŷ yr Arglwydd yn dragywydd." Wel, beth feddyliech chwi am gael yr Arglwydd yn Fugail i chwi? Y mae yma rai yn hen; y mae efe yn dyweyd, "Hyd henaint hefyd myfi yw, ïe, myfi a'ch dygaf hyd oni phenwynoch." Y mae glyn cysgod angau o'n blaen, ac y mae yn rhaid i ni fyned trwyddo bob yn un ac un, gofelwch am y Bugail hwn yn arweinydd, ac ond i ni allu dyweyd" Yr wyt ti gyda mi," ni bydd raid i ninau "ofni niwed."
Wrth derfynu hanes Mr. Humphreys a'i gymydogion gellir dyweyd ei fod wedi cario yr un arferion yn mlaen wedi symud i gymydogaeth Pennal. Byddai yn rhoddi cyfran benodol bob wythnos i ymweled a'r cleifion a'r teuluoedd profedigaethus, a pharhaodd i wneyd hyny, hyd nes y lluddiwyd iddo gan lesgedd i barhau. Ni chafodd ond tymhor byr i droi yn mysg ei gymydogion newydd, ond gadawodd argraff ddofn ar eu meddyliau, ac y mae ei goffadwriaeth yn fendigedig ganddynt oll.
Ysgrifenodd dair o ysgrifeniadau byrion i'r Methodist o hanes ei henafiaid yn y Dyffryn, a chan eu bod mor ddifyrus i'w darllen ac mor llawn o addysgiadau ni a'u dodwn hwynt i mewn yma. Testynau yr ysgrifeniadau ydynt, "Enwogion Dyffryn Ardudwy yn Nyddiau Cromwell—Cynt a Chwedi," "Modryb Lowri," "Gwers ar ryddid, ac anrhydedd, o'r oes ddiweddaf i hon."
ENWOGION DYFFRYN ARDUDWY YN NYDDIAU CROMWELL—CYNT A CHWEDI.
YN gymwys ddau can' mlynedd yn ol, yr oedd yn byw yn Uwch-law'r-coed, yn mhlwyf Llanenddwyn, yn Nyffryn Ardudwy, un Colonel Jones, yr hwn oedd yn perthyn i fyddin Oliver Cromwell; yr oedran ar un o'r trawstiau sydd mewn rhan a chwanegwyd at yr hen anedd ydyw 1654. Gellid meddwl fod yr hen adail wedi ei rhoddi ar ei gilydd er dyddiau y Frenines Elizabeth. Mae yn y darn newydd swyddfa fechan o ffawydd y Baltic, lled gryno, a gwneuthuriad llwyr arni, yn yr hon y byddai y Colonel yn ysgrifenu ac yn cadw ei gyfrifon. Dywedir ei fod yn gryf dros werinlywodraeth, ac felly yn wrthwynebwr i Charles yr ail. Y mae beddadail yn mynwent Llanenddwyn wedi ei gwneuthur iddo, ac arni yr argraff hon, E. I. 1665. Dywed traddodiad mai mewn ymddangosiad y claddwyd ef ac nid mewn gwirionedd, i ddallu llygaid y llywodraeth. Dywedir mai o'r Iwerddon y daeth y corff marw, gan nad pwy ydoedd. Yr oedd hefyd yn cydoesi âg ef un Griffith Prys Pugh, yr hwn oedd etifedd y Benar Fawr, yn yr un ardal. Yn ol pob hanes a ddisgynodd am dano, gellir casglu ei fod yn un o wŷr ceffylau Cromwell—un o'r ironsides. Cof yw gan ysgrifenydd y llinellau hyn glywed ei fam yn son am yr ymladdfeydd y bu ynddynt. Yr oedd hi mor agos perthynas a neb oedd yn fyw i'r etifedd diweddaf, Griffith Pugh, yr hwn oedd yn ŵyr i'r hen filwr. Nid oes braidd rith o amheuaeth nad i fyddin Cromwell yr oedd Griffith Prys Pugh yn perthyn, canys y mae yn hysbys, drwy draddodiad, ei fod yn wrthwynebwr i deulu Corsygedol, y rhai oeddynt yn bleidwyr gwresog i'r ddau Charles. Bu Charles yr ail, pan yn ffoadur, yn lletya yno noson: y mae y gwely a'r ystafell lle y bu yn cysgu yn cael eu cadw fel pe byddent gysegredig, i'w dangos i'r cywrain, hyd heddyw. Dangosai yr hen Fychan, Corsygedol, ei fwriad i gau darn anferth o'r mynydd at ei dir; ond safodd yr hen filwr yn wrol yn ei erbyn, gan fyned a'i drosol ar ei ysgwydd at Gorsygedol (yr oedd y ffordd i'r mynydd yn arwain heibio yno), a thröai i'r gegin i danio ei bibell, gan adael ei drosol ar wâl y cwrt, ac yna i fyny ag ef i'r mynydd, a chwalai y clawdd newydd bron at ei sylfaen, ac wedi hyny adref ag ef y ffordd y daethai, ac felly ni chauwyd mo'r ffridd tra y bu yr hen filwr byw. Pan fu farw Griffith Prys Pugh, aeth rhyw un yn llawn llythyr at Mr. Fychan, i ddyweyd fod ei wrthwynebwr, etifedd y Benar Fawr, wedi marw. "Wel," ebe yntau, "fe fu farw gŵr, ond nid ydwyt ti ond ffwl." Fel y mae yn hysbys, yn fuan wedi marw Cromwell, chwalwyd ei fyddin, ac aeth yr ironsides bob un, neu o leiaf aeth y rhan fwyaf, i'w treftadaethau, oblegyd mân-uchelwyr oeddynt gan mwyaf—yr oedd llawer ychwaneg o'r dosparth hwn y pryd hyny nag sydd yn awr. Y mae perchenogion etifeddiaethau mawrion wedi llyncu y mân-uchelwyr, ac nis gwyr odid neb erbyn hyn fyned o honynt i'w boliau hwynt. Yn mhen enyd wedi i hen filwr Benar Fawr a'i farch ddychwelyd adref, anrhegodd gymydog tylawd a'i ddillad milwrol; wrth ba rai y gallai y cyfarwydd wybod mai dillad milwr Cromwell oeddynt. Goddiweddwyd yr hen frawd hwnw ryw ddiwrnod ar y brif-ffordd gan ddau o foneddigion ieuaingc, y rhai, wrth weled y dillad oedd am yr hen ŵr, a dybiasant mai efe oedd y milwr, a buont yn dra dirmygus o hono, gan roddi pob enwau gwaeth na'i gilydd arno. Parodd hyn i'r hen ŵr chwerwi yn ddirfawr wrth y ddau; aeth ar eu hol, a deallodd eu bod wedi troi i westdŷ Llanddwywe, yr hwn nad oedd neppell oddiwrth Benar Fawr, i gael bwyd a diod iddynt eu hunain a'u meirch; aeth yntau i'r Benar, ac adroddodd yr hanes i'r hen filwr, ac er gyru y cwch i'r dŵr yn ddigon effeithiol dywedai wrtho, "Y mae yn sicr eu bod hwy yn meddwl mai chwi oeddwn i; pe bawn i yn eich lle chwi mi dalwn i'w hesgyrn, oblegyd chwi ellwch guro y ddau, gan eich bod chwi a'ch ceffyl mor gyfarwydd âg ymladd. Ar hyn, dyma waed yr hen Gymro yn dechreu twymno; cyfrwyodd ei farch, ac wedi cymeryd gwialenffon gref yn ei law, ymaith ag ef; ond erbyn cyrhaedd y dafarn, cafodd fod y ddau foneddwr wedi cychwyn i'w taith tua Glyn Cywarch, i ymweled â rhai o'r hil dêg oedd y pryd hyny yn byw yno. Aeth yr hen filwr nerth ei garnau ar eu hol, ac yn mhen o gylch pum milldir goddiweddodd hwynt yn Morfa Harlech, ac heb seremoni dechreuodd eu cystwyo yn ddiarbed. Gwnaethant hwythau eu goreu i'w hamddiffyn eu hunain, ond nid oedd dim yn tycio, yr oedd yr hen filwr yn eu mesur yn ddiarbed y naill ar ol y llall, ac nis gallasent hwy braidd gyffwrdd âg ef. Gwaeddai un o'r ddau arno a dywedai, "A wyddoch chwi pwy ydw' i?" "Na wn i," ebai yntau, "ac nis gwaeth genyf." "Mr. Fychan o Gaethle." "Fe allai," ebai yntau, "ni bu hi erioed gaethach arnat ti." Dechreuodd y ddau waeddi murdwr dros yr holl gymydogaeth; daeth hyny a hen wraig allan o'i thŷ, a phigfforch yn ei llaw, a thyngodd y mawr lŵ hyllaf y rhoddai hi y bigfforch drwyddo os na pheidiai a lladd y bobl; ar hyn gadawodd y milwr iddynt fyned, canys ni oddefai ei anrhydedd iddo ymladd â hen wraig. Dywedir i'r hen wraig hon fod mewn ffafr gyda'r milwr tra y buont byw. Efallai iddi hi fod yn foddion i'w atal, rhag gwneuthur mewn awr ddrwg yr hyn ni fynasai ei wneyd mewn oriau gwell. Ni welwn yma
1. Lewder ac annibyniaeth milwyr Cromwell; ni bu dynion erioed yn gwisgo arfau marwolaeth oddiar egwyddorion uwch; sef, er amddiffyn rhyddid crefyddol eu gwlad, yn erbyn gormes Charles yr Ail, yn wladol ac yn eglwysig.
2. Gwelwn yn nrych yr hanesyn hwn boethed oedd y rhagfarn yn eu herbyn yn mynwesau y mawrion, a hyny bellach yn dyfod allan yn dra rhwydd; canys yr oedd Cromwell wedi gorphwys oddiwrth ei lafur. Fel hyn yr arfer plant dynion dalu i'w cymwynaswyr goreu.
3. Gwelwn wired yr hen ddiareb, "Yn mhob gwlad y megir glew." Nid ydyw Dyffryn Ardudwy ond llanerch lled anhygyrch, eto wele ddau filwr dewr wedi dyfod oddiyno i fyddin anorchfygol ironsides Cromwell. Yn ystlys ogledd-ddwyreiniol y Dyffryn, y ganwyd Edmwnd Prys, awdwr y Salmau Cân; yn ei ystlys ddeheuol y ganwyd William Phillip, yr hwn oedd fardd campus yn ei ddydd. Y mae pawb sydd yn gwybod dim am feirdd a barddoni yn gwybod mai y prif-fardd oedd yr archddiacon; ond y mae William Phillip yn llawer llai hysbys. Ganwyd ef yn agos i Dalybont yn mhlwyf Llanddwywe. Ei dad oedd oedranus pan ganed ef, a thybiai rhai y gellid ei
"Dadu yn fwy godidog."
Pa fodd bynag am hyny, gan nad ydym yn duo enw neb, ni adawn y traddodiad i farw. Phillip William oedd ei dad cyfrifol, gan nad pwy oedd ei dad naturiol. Trodd y bachgen allan yn fardd, er nad cystled a'r archddiacon, eto llawer gwell na'r cyffredin. Dywed traddodiad ei fod yn wrthwynebwr calonog i lywodraeth Cromwell,—yr oedd yn Llanwr cydwybodol,—deallai mai Ymneillduwr oedd Cromwell, a dichon mai hyn oedd yr achos o'i fod mor annghymeradwy o hono. Anfonwyd swyddogion unwaith i'w ddal; nid oeddynt yn ei adwaen; cyfarfuant âg ef heb fod neppell oddiwrth y tŷ, mewn gwisg tra chyffredin, a gofynasant iddo a oedd William Phillip gartref? "Yr oedd yn y tŷ pan oeddwn i yno," ebai yntau; ac aeth pawb i'w fan. Yr oedd yn dipyn o ddaroganwr, a dywedai
"Daw brenin braf i'n bro;
Ond ust William nes delo."
Y mae amryw englynion campus, debygwn i, ar ei ol, y rhai a gyfansoddodd pan y teimlai ei fod yn agoshau i'w fedd. Y mae un o honynt fel y canlyn:
"A gym'rais, a gefais, a ga—a'r eiddo
A roddais i'r t'lota;
Ond o'r swm a adewais yma,
Ni chym'rais, ni chefais, ni cha'
Yr oedd yn gydwybodol yn nefnyddiad ei dalent; ni chanai er dial ar neb, oddieithr un tro pan oedd rhywun wedi tori y clawdd gwrysg oedd ganddo am ei faes rhŷg du—rhŷg du oedd prif lafur y ffarmwr yn y dyddiau hyny—ac ebai'r bardd,
"Miaren neu ddraenen ddrwg,
O dan ei ael a dyno ei olwg."
Yr oedd yn ddiweddar faingc yn Eglwys Llanddwywe yn perthyn i Hendre Fechan o waith ei ddwylaw ef ei hun. Dymunai William Phillp yn un o'i englynion gael ei gladdu yn mynwent Llanddwywe, ac i'w lwch
——"gael llonydd
Hyd ddydd y farn, a da iawn fydd."
Ond rhy brin y gwnaed hyny âg ef; clywsom ddarfod agor ei fedd, er mwyn cael cyfleusdra i gladdu rhyw un ynddo.
Y mae amryw draddodiadau am Edmwnd Prys, ond ni chaf grybwyll ond un o honynt, i ddangos, er nad ydoedd mor ofalus ag y dylasai fod i rodio yn ddiesgeulus, eto ei fod yn ddigon medrus i ddianc o'r fagl wedi ei ddal. Pan oedd yn gwasanaethu Eglwys Maentwrog, yr oedd chwedlau annymunol yn cael eu lledaenu yn ei gylch; ac yr oedd yn mysg ei blwyfolion un hen Lanwr selog, penderfynol iawn yn ei ffordd, ac yr oedd yn gryn wrthwynebwr i'r archddiacon; ond ni ddywed traddodiad pa un ai o herwydd y chwedlau a daenid yn ei gylch, ai ynte o herwydd rhywbeth arall; modd bynag, penderfynodd gymeryd mantais ar y chwedlau hyn, i roddi achwyniad yn ei erbyn mewn llys Eglwysig. Pan ddeallodd yr archddiacon hyny, teimlodd fod ei amser yntau wedi dyfod, a chyfansoddodd bregeth y Sabbath ar eiriau y goruchwyliwr annghyfiawn:—"Mi a wn beth a wnaf, fel pan y'm bwrier allan o'r oruchwyliaeth," &c.; ac wedi traethu rhyw gymaint ar y testyn, trodd i edrych ar yr hen ŵr, yr hwn a eisteddai yn lled agos i'r pulpud (nid oedd ei elyniaeth at yr offeiriad yn ei rwystro i'r Eglwys), a dywedodd amrywiol weithiau, gan bwysleisio yn ddifrifol, a chyfeirio ato, "Mi a wn beth a wnaf." "Mi a wn beth a wnaf." "Mi a wn beth a wnaf." Aeth y goruchwyliwr annghyfiawn a'r bregeth ar unwaith o feddwl yr hen ŵr, a llanwyd y lle gan yr ymryson oedd rhyngddo ef â'r offeiriad, yr oedd ei holl natur ar unwaith yn fflam o nwydau drwg, ac atebodd y pregethwr yn uchel," Beth a wnei di yr hen—— a gwneyd dy waetha?" Erbyn hyn yr oedd yr archddiacon yn ddiogel, a'r hen ŵr yn y fagl. Yr oedd y bregeth wedi ateb ei dyben.
Heb fod yn mhell o gymydogaeth y Dyffryn yr hanodd Ellis Wynn, awdwr penigamp Bardd Cwsg. Gŵr hynod yn ei oes, a hono yn gyffredinol yn dra llygredig. Credai pawb mai gŵr da oedd Ellis Wynn. Ac yn ddiweddaf oll, o'r un gymydogaeth yr hanodd y Dr. William Owen Pughe. Nid rhaid dywedyd dim am dano ef, y mae ei Eiriadur wedi anfarwoli ei enw, fel y cofir am dano holl ddyddiau y ddaear. [1]
MODRYB LOWRI.
YR hon oedd wedi ei geni bedair blynedd cyn blwyddyn y rhew mawr, ar yr hon flwyddyn y symudodd ei rhieni o'r Farchynys, sydd tua chwe' milldir o Ddolgellau, i Eithinfynydd, yn ystlys ddwyreiniol Dyffryn Ardudwy. Cerddodd hithau yr holl ffordd, sef o wyth i ddeg milldir, o'r Farchynys dros Fwlch-y-rhiwgur i Eithinfynydd, yn bedair blwydd oed. Croesodd lawer bryn, a phant, a goriwared, ar ei deutroed. Yr ydoedd o gyfansoddiad cryf, cafodd ei magu mewn llawnder yn gystled ag mewn llafur. Yr ydoedd yn ddynes dal a glandeg yn ei dydd. Priododd rhwng pump a deg-ar-hugain oed (sef mewn adeg gymhwys), bu iddi bedair o ferched, tair o ba rai sydd eto yn fyw, yr oeddynt oll yn wragedd parchus, tegwedd, a threfnus. Bu iddi un mab hefyd, yr hwn sydd eto yn fyw ac iach, ac a fu yn bob cysur i'w fam tra y bu ar y ddaear; tynodd hyn fendithion nid ychydig am ei ben, yn ol yr addewid i'r rhai a anrhydeddant eu tad a'u mam, canys y mae yn llwyddiannus yn ei amgylchiadau tymhorol, yn barchus gan ei holl gymydogion, yn dda ei ddeall, yn gelfydd ei law, yn ddoeth ei gyngor—" heb absenu â'i dafod na gwneuthur drwg i'w, gymydog." Bu farw Modryb Lowri tua dwy flynedd ar hugain yn ol mewn henaint teg, ac yn llawn o ddyddiau. Yr oedd yn ei phedwaredd flwyddyn ar bymtheg a phedwar ugain pan y bu farw. Y mae ei mab a'i merched, y rhai a adawodd ar ol, yr ochr chwith i bedwar ugain, nid llawer llai eu blynyddoedd, a'u dodi yn nghyd, na dau ugain ar bymtheg; ac o ran pob ymddangosiad, gallant estyn eu dyddiau hyd yn gant—sef "os yr Arglwydd a'i myn."
Ond nid yw hyn oll ond rhagdraith i'r hyn sydd genym i'w ddywedyd am Modryb Lowri, yr hon oedd yn hynod gyflawn o synwyr cyffredin. Wrth hyn nid ydym yn deall cyfran gyffredin o synwyr, ond ei bod wedi ei chynysgaeddu yn helaeth â'r synwyr hwnw a elwir synwyr cyffredin. Nid oedd ei synwyr hi yn goethedig, nac yn ddyrchafedig, hyny yw, nid oedd wrth natur nac o ddygiad i fyny fel Hannah More, ond mi daerwn yn hyderus eu bod cyn gyflawned âg un ferch yn ei hoes o synwyr cyffredin— y synwyr hwnw sydd yn adwaen ei le—yn ei fesur ac yn ei bwyso ei hunan—yn canfod ei wallau a'i ddiffygion—mewn gair, y synwyr sydd fuddiol i bob peth ac i bob amcan yn y byd sydd yr awr hon, ac yn yr hwn a fydd. Nid yw talent heb synwyr cyffredin ond yn peryglu ei pherchen, ac yn ei osod yn wawd i ynfydion. Ond am Modryb Lowri, ni chwarddodd neb erioed, hyd yn nod yn ei lewis, am ei phen hi; gwyddai pawb ei bod hi yn llawn llathen, ac yn un ŵns ar bymtheg trwm trwm i'r pwys. Gorfyddai i'r athrodwr a'r enllibwr gymeryd rhyw un arall yn destyn.
Ond fel nad ymddangoswn fel yn curo awyr, rhoddwn ger bron y darllenydd yr enghraifft hon o gallineb Modryb Lowri. Byddem yn yr arfer o ymweled â'r hen fam yn awr ac eilwaith. Tua blwyddyn, neu beth yn ychwaneg, cyn marw fy Modryb Lowri, ymwelsom â hi, ac wedi pasio y cyfarchiadau cyffredin, gofynasom, "Beth debygech chwi am y byd? y mae yn dda gen i gael eich barn am dano, oblegyd yr ydych yn cofio llawer am ei arferion er's pedwar ugain a deg o flynyddoedd. Y mae rhai yn taeru yn wyneb uchel ei fod yn waeth waeth er yr holl bregethu a chadw Ysgolion Sabbathol a phob moddion i'w wellhau. Ond pa beth, dybygech chwi, am hyn, canys yr ydych yn dyst llygad o'r hyn sydd, ac o'r hyn a fu?"
"Nis gwn yn iawn pa fodd i'ch hateb," meddai, "ond os da yr wy'i yn cofio, drwg iawn oedd y byd y pryd hwnw, sef pan oeddwn i yn enethig fechan. Nosweithiau llawen, canu efo'r tannau,
"Yr interlude aelodog
A'r cardiau dauwynebog,'
y twmpath chware, a chware tenis tô. Fel hyn y byddai yr ieuengctyd, a'r hen yn eistedd i edrych arnynt. Diwrnod canu a dawnsio oedd y Sul, pan gyntaf yr wyf fi yn ei gofio. Ac heblaw hyn, yr oedd pawb yr un fath: fel y dywed yr hen air, 'Nid oeddym oll ond moch o'r un wâl,' neu
'Adar o'r un lliw,
Yn hedeg i'r un lle.'
Nid oedd un cyfiawn i ragori ar ei gymydog."
"Ond, Modryb Lowri, beth meddwch chwi am 'stâd bresenol y byd, pa un ai gwell ai gwaeth na chynt?"
"Yn siwr, rhaid cyfaddef fod llawer o wylltineb ac afreolaeth ynddo eto, yn nghyda rhagfarn, llid, a chenfigen; ond y mae rhyw ddau fath o bobl yn ymddangos i mi yn bresenol, rhai yn ymdrechu i wellhau y byd ac i gadw ei ddrwg arferion i lawr. Y mae y 'rwan dda a drwg i'w gweled. Nid oedd pan oeddwn i yn ieuangc ond drwg a gwaeth. Y mae bechgyn a genethod yn cael llawer o fanteision yn y dyddiau hyn ragor a geid gynt yn more fy oes i. Nid oedd y pryd hwnw nemawr ddim i atal llygredigaeth ond tylodi, cosbi lladron, a chrogi llofruddion."
Yn awr, ddarllenydd, beth ddywedi di am dystiolaeth Modryb Lowri? Nid oedd hi yn proffesu crefydd gyda'r un o'r sectau fel ei gelwir. Tybiaf y byddai yn cymuno yn y Llan, cyhyd âg y gallodd godi o'i chongl. Gwrandawodd lawer ar bregethu Crist gyda'r Methodistiaid, a darllenodd lawer ar ei Beibl, a chlywsom y byddai yn gweddio yn fynych. Ond methodd rhagfarn a'i dallu fel y rhan fwyaf o'i chydoeswyr. Yr oedd synwyr cyffredin yn fur iddi ar bob llaw, yr hwn hefyd a ddysgai iddi rodio canol llwybr barn. O mor werthfawr yw synwyr cyffredin i bawb a'i medd. Nid yw synwyr cyffredin wedi ei ddarpar i gredu pob peth a glyw. Profa bob peth, a deil yr hyn sydd dda—yr hyn sydd resymol. Y mae synwyr cyffredin yn dysgu i bawb bwyso penau yn hytrach na'u cyfrif, gan farnu pethau wrth eu heffeithiau, a dwys ystyried eu holl ganlyniadau. Y mae yn ddigon a gwneyd i'r llygod chwerthin yn nhyllau yn y muriau wrth weled y mân 'ffeiriadon yn troi y gath yn yr haul i'r werin a'r cyffredin, gan hòni olyniad apostolaidd iddynt eu hunain, a bedydd adenedigaeth, yr hyn a ellir ei effeithio yn unig trwy eu dwylaw hwy: ond y mae synwyr cyffredin yn mhawb a'i medd yn dywedyd, gyda dirmyg, "Diau mai chwi sydd bobl, a chyda chwi y bydd marw doethineb."
Nid yw holl rasau y Cristion ddim amgen na synwyr wedi ei sancteiddio gan yr hwn a anadlodd yn ein ffroenau anadl einioes naturiol, yr hwn hefyd a ddichon anadlu bywyd o ras i'n galluoedd rhesymol; ac os gras, gogoniant hefyd.
Gwel darllenydd mor werthfawr yw mamau campus. Nid oedd ar brïod Modryb Lowri, hyd y gwyddys, na champ na rhemp. Modd bynag, mi debygwn, nad oedd ei bwysau yn dyfod yn agos i bwysau Modryb Lowri. Ond y mae ei hol hi ar ei theulu hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth: y maent yn gryfach, yn iachach, yn harddach, ac yn gallach na chyffredin, ac eto nis gwn a gyrhaeddodd un o honynt fesur a phwysau Modryb Lowri. [2]
GWERS AR RYDDID AC ANRHYDEDD O'R OES DDIWEDDAF I HON.
FE ddywed diareb mai "Pa hwyaf y bydd dyn byw, mai mwyaf wêl, a mwyaf glyw." Daeth i'm clustiau inau yn ddiweddar ryw hanesyn am beth a ddygwyddodd tua phedwar ugain mlynedd yn ol, ac am ei fod yn cynwys gwersi buddiol i'r oes hon gosodaf ef ger bron y darllenydd. Daeth un Griffydd Evan o Uwchglan at Mr. Evan Fychan o Gorsygedol, ac a ddywedodd wrtho, "Y mae eich tenant sydd yn Mhenycerig (y ddau le gerllaw Harlech) wedi myned at y Methodus, ac nid oes dim daioni i'w ddysgwyl oddiwrtho mwyach; hwy a'i gwnaent cyn dyloted a llygoden eglwys, a pha beth a wna â thir nac â dim arall? Ceir gweled yn fuan na ddaw o hono, fel y dywedais, ond anhwylusdod." "Y mae yn ddrwg genyf glywed," ebai Mr. Fychan, "yr oedd Harri yn burion tenant." "Oedd o'r goreu," ebai Griffydd Evan, " ond y mae y cwbl drosodd er pan yr ymunodd â'r bobl yna, oblegyd ni wna bellach ddim ond crwydro a gwario ei arian; a chan na wna efe ddim â'i dyddyn, buaswn yn ddiolchgar am eich ewyllys da os gosodwch Benycerig i mi." "Wel," ebai Mr. Fychain, "nid hwyrach y gelli di ei gael, ond ni osodaf mohono i ti heddyw—caf weled Harri cyn bo hir, a chaf wybod pa fodd y mae pethau yn sefyll." Cyn hir anfonodd y gŵr boneddig at Harri i ddyweyd fod arno eiseiu ei weled—aeth yntau i Gorsygedol heb oedi dim, ond nid heb ofni fod rhyw ddrwg ar droed; ac wedi i'r meistr a'r tenant gyfarch i'w gilydd yn eu dull arferedig, torai Mr. Fychan ato a dywedai, "Y mae Griffydd Evan o Uwchglan, yn dyweyd wrthyf dy fod wedi myned at ryw bobl, ac na wnei di mwy na thrin tir na thalu am dano; a ydyw hyny yn bod?" "Nac ydyw, Syr; os caf ffafr yn eich golwg, a chael bod yn denant i chwi fel cynt, triniaf fel cynt, a thalaf am dano fel rhyw dyddynwr arall; ac os methaf, mi a droaf fy nghefn, ac a âf ymaith yn ddiddig." "Wel, o'r goreu Harri," meddai Mr. Fychan, "ti elli fod yn ddiofal na chaiff neb dy dyddyn tra y triniech di ef ac y talech am dano,—cymer di dy ffordd dy hun i fyned i'r nefoedd." Ni welwn yn nrych hyn o hanes fod Mr. Fychan yn deall rhyddid crefyddol yn well na llawer o foneddigion Cymru yn y dyddiau hyn. Nid yw perchenogion tiroedd yn dinystrio cyfrifoldeb y tyddynwyr, ac nid yw cyfrifoldeb y meistr yn dinystrio cyfrifoldeb y gwas, na chyfrifoldeb y feistres yn diddymu cyfrifoldeb y wasanaethferch—i'w arglwydd ei hun y mae pob un yn sefyll neu yn syrthio. Nid ydyw yr awdurdodau gwladol yn gyfrifol dros neb o'r deiliaid, fel ag i beri i'r deiliaid beidio a bod yn gyfrifol eu hunain ;—y mae yn wir fod person y plwyf a phregethwr cynulleidfaol mewn cyfrifoldeb pwysig, ond nid yw y cyfrifoldeb hwn yn lleihau dim ar gyfrifoldeb y plwyfolion a'r gynulleidfa, ac nid yw dyledswydd y naill yn gynwysedig yn nghyfyngu rhyddid y llall. Teg yw i bawb gael ei ffordd ei hun i fyned i'r nefoedd; felly caniatäai Mr. Fychan—caniatäed eraill yr un peth ar ei ol, ac edryched pawb pa fodd y defnyddia ei ryddid.
Clywais er ys tro maith yn ol hanesyn arall am Mr. Evan Fychan, yr hwn ydoedd yn dangos ei fod o flaen ei oes mewn rhyddfrydigrwydd ac anrhydedd, ac nid o flaen ei oes ei hun yn unig, ond o flaen hon hefyd ysywaeth. Yr oedd ystâd Bodidrys wedi dyfod iddo ar ol ei fam: aeth yntau rai dyddiau cyn amser talu rhent i'r hen balas. Deallodd un o'i denantiaid fod y meistr newydd wedi dyfod i Fodidrys, a chan ei fod yn byw yn gyfagos i'r palas, aeth y prydnawn y daethai y gŵr bonheddig i mewn i gyfarch gwell iddo; gan ddatgan ei ddymuniad fod iddo gael hir oes a hir iechyd i fwynhau yr etifeddiaeth a ddaethai mor ddiweddar i'w ran. Diolchodd Mr Fychan am ei ewyllys da, a dechreuodd ei holi am lwyddiant y gymydogaeth, ac yn enwedig ei ddeiliaid ef ei hun. Atebai ei denant, "Mae pawb ar y cyfan yn llwyddiannus; y mae diwygiad yn nhrin y tir, a mwy o galchio nag a fyddai gynt, a llawer clwt yn cael ei glirio, diwreiddir y cyll, y drain, a'r mieri, fel y gellwch weled, ond myned oddiamgylch." "Y mae yn dda genyf glywed," ebai Mr. Fychan, "oblegyd y mae yn hyfryd gweled y ddaear yn cael ymgeledd gan ddyn, gan ei bod yn rhoi cymaint o ymgeledd i ddyn—megys ag y mae y plant a fo yn gweini ymgeledd i'w mam oedranus heb golli eu gwobr, eithr yn wastad hwy a fendithir; felly y rhai a lafuriant eu tir a ddiwellir â bara, ac ni chardotant hwy yn amser y gauaf, pan nad oes dim i'w gael." "Ond," ebai y ffarmwr, "y mae yma un dynyn gwan o denant i chwi, a chymydog i minau. Y mae hwnw yn wahanol iawn i'r tenantiaid cyffredin, y me yn llwm a diafael, nid oes ganddo nag ewinedd na dannedd fel y cyffredin o ddynion y mae y tir yn tyfu yn ddrain a mieri, ac y mae y stock heb fod o lawer yn llawn; ac nid oes ganddo arian fel y gallo wneyd tegwch â'r tir; a phe byddai ganddo arian, ni byddai yn debyg o wneuthur y goreu o honynt." Gwrandawai y boneddwr yn bur ddifrifol ar y 'stori, a dywedai, "Y mae yn ddrwg iawn genyf glywed—yn ddrwg dros ben genyf.,". Ond,' ," meddai y ffarmwr, y mae tyddyn y dyn hwn yn gyfleus i mi, gan ei fod yn derfyn yn nherfyn â'r tyddyn lle yr wyf fi yn byw, teimlwn yn dra diolchgar i chwi, syr, am eich ewyllys da, os byddwch cystal a'i osod i mi, gan ei bod mor amlwg na wna y tenant presenol ddefnydd o hono." "Y mae yn ddrwg genyf dros y dyn gwan," ebai Mr. Fychan," ond yn gymaint na wna fe ddim o hono, ond gadael iddo dyfu yn ddrain a mieri, ti a'i cei, gwna y goreu o hono." Aeth y ffarmwr adref, ac yn lled foreu dranoeth daeth y gymydogaeth yn hysbys fod tyddyn y dyn gwan wedi ei osod i'w gymydog, a theimlai aml un yn bryderus rhag y byddai llawer o'r fath bethau yn dygwydd. Modd bynag, daeth i glustiau y dyn, druan, fod Mr. Fychan wedi gosod ei dyddyn i'w gymydog nesaf, a than grynu ac ofni aeth at ei feistr tir, a dywedodd "ei fod wedi clywed ei fod wedi gosod y tyddyn lle yr oedd ef yn byw i'w gymydog." "Ti a glywaist y gwir," ebai y meistr, "yr wyf wedi ei osod. Onid oedd dy gymydog yn dyweyd nad oeddit yn trin mohono, ond yn gadael iddo dyfu yn anialwch, ac nad oedd genyt ddim modd i'w drin, ac nad oedd genyt ddigon o anifeiliaid arno, a pha beth a wnei di â thir felly?" A'r dyn, truan a llwfr, a atebodd, "Nid yw fy stock ond ysgafn, ac y mae fy arian yn brin hefyd; ond ar yr un pryd, yr wyf wedi talu am dano hyd yma, buaswn yn ymdrechu i dalu eto pe cawswn y ffafr o gael aros ynddo." "Wel," ebai Mr. Fychan, "y mae yn rhy ddiweddar bellach, yr wyf wedi ei osod, ac ni byddaf un amser yn tori fy ngair." Ar hyn, torodd y gŵr i wylo yn hidl, a dywedodd nas gwyddai pa beth i'w wneyd, fod ganddo lawer o blant, a'r rhai hyny heb eu magu, ac nad oedd ond dyn egwan i enill bara iddynt wrth weithio; yr oedd y dagrau yn treiglo ar hyd ei fochau llwydion i'r llawr wrth ddywedyd hyn. Erbyn hyn, yr oedd Mr. Fychan yn teimlo, a dywedai wrtho, "Paid a thori dy galon, mi osoda ei dir yntau i tithau; fe ddywed dy gymydog ei fod ef wedi trin ei dyddyn yn bur dda, trinia dithau ef goreu y galloch ti, fel y gallych fagu dy blant bach yn symol cysurus." Felly fe aeth hwn adref, ac a ddywedodd ei hanes, sef ei fod ef a'i gymydog yn cael ffeirio dau dyddyn. "Y mae fy meistr newydd wedi gosod fy nhyddyn i i'm cymydog, a thyddyn fy nghymydog i minau." Nid hir y bu y trachwantus heb glywed fod ei dyddyn wedi ei osod i'w gymydog gwan; ac ni feddyliodd naws am gymeryd ei dyddyn ei hunan. Ond fel y ci a'r asgwrn cig yn y chwedl, yr hwn, wrth weled ei dremwedd yn y dŵr, a ollyngodd yr asgwrn oedd mewn gafael, er mwyn cael gafael ar y cysgod oedd yn y dwfr; felly yntau, wrth drachwantu tyddyn ei gymydog, fe gollodd ei dyddyn ei hunan. Ond pa fodd bynag, aeth at Mr. Fychan a gofynodd ai gwir oedd ei fod wedi gosod ei dyddyn ef i'w gymydog? "Ie," ebai Mr. Fychan, "digon gwir, oni osodais ei dyddyn yntau i tithau? Pa fath ddyn oeddit ti pan gymerit dŷ a thyddyn dyn gwan uwch ei ben, a'i dwr plant heb eu magu; dyna i ti le ffres, ceibia a chornbridda faint a fynech arno, gobeithio y gall pob un o honoch fyw, a byw yn well nag o'r blaen."—Yr oedd y boneddwr hwn mor llawn o anrhydedd ag ydoedd o synwyr cyffredin, a diamheu genyf ei fod yn llawn iawn o bob un o'r ddau —y mae llawer chwedl ar hyd ac ar led y gymydogaeth lle y cartrefai yn profi hyny. Y mae yr hanesyn uchod yn dangos na chai efe ddim llawer o drafferth gyda thyddynwyr a fyddent yn ceisio rhoi eu cyrn o dan rai eraill. Pwy byth a aethai ato ar y fath neges wedi clywed am y ddau denant hyn? Y mae rhai o'i fath eto yn bod yn Nghymru; gosodant eu tiroedd ar delerau rhesymol, ac os bydd y tenant yn ymadael, nid rhaid iddo adael ei feddianau ar ei ol; os bydd wedi gwneyd gwir welliant mewn sychu y tir, gwneyd magwyrydd, calchio, neu ryw gostau ereill, er gwir wellhad y lle, prisir y gwelliant gan wŷr parchus, un dros y gŵr bonheddig, a'r llall dros y tenant; ond deallaf nad llawer sydd felly yn Ngogledd Cymru; yr wyf yn ofni fod rhai yn meddwl am ba beth bynag sydd gan y ffarmwr, mai hwy a'i pïau, fel pe buasai yr anifeiliaid, yn wartheg a defaid, y ceffylau a'r moch, y naill fel y llall, yn eiddo the Lord of the Manor. Beth bynag yw dawn ac egni y ffarmwr a'i wraig a'i blant, eiddo y meistr yn ol ei feddwl ef ydynt oll. Os edrych y tenant rywfaint yn fwy boneddigaidd, ac os bydd ei blant wedi cael tipyn gwell dygiad i fyny na chyffredin, bydd perchenog y tir yn tybied mai o'i boced ef mewn rhyw fodd yr aeth y costau i gyd. Ond pa faint yw llôg y stock, a pha faint yw gwerth gofal, dawn, a diwydrwydd y ffarmwr a'i deulu? Ai nid ydyw yn iawn iddo gael llôg am ei arian, a thâl am ei lafur fel dyn arall? Paham y byddai raid i ffarmwr fod mor ochelgar rhag dangos yr un arwydd ei fod yn cyfoethogi ag ydoedd Gideon gynt rhag i'r Midianiaid wybod pa le yr oedd ei wenith ef? Gwelais lawer merch ieuangc yn medru chware y piano, ond anfynych y gwelais ferch i ffarmwr felly. Os gall ei rhieni fforddio rhoddi addysg felly iddi, paham y byddai raid iddynt hwy mwy na siopwr neu ryw fasnachwr arall wneuthur hyn? Ai merch y ffarmwr yn unig sydd i gael danod iddi ei pharasol, a hyny gan y meistr tir sydd wedi derbyn pob ceiniog o'i rent gan ei rhieni, a hwnw yn llawn cymaint ag ydyw y tir werth? Ond wedi i'r ffarmwr wellhau ei dyddyn trwy draul a llafur diflino, a bod y ffarm yn wirioneddol well, ac weithiau ei yru ymaith heb neb yn gwybod paham, gan adael llawer o ffrwyth ei lafur ar ol i'r sawl ni lafuriodd wrtho—gwybydded yr arglwyddi hyn fod Arglwydd y tenantiaid a hwythau yn y nefoedd, ac nad oes derbyn wyneb ger ei fron ef, ac na ddaw i ganlyn neb i'r byd mawr ond ei garacter, sef y modd yr ymddygodd yn y byd hwn,—bydd y brenin yno heb ei goron—y boneddwr heb ei deitl—yr esgob heb ei feitr, a'r holl swyddwyr heb eu swyddau—ond neb heb ei garacter, bydded dda neu ddrwg.[3]