Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn/Pennod VII
← Pennod VI | Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn gan Griffith Williams, Talsarnau |
Pennod VIII → |
PENNOD VII.
MR. HUMPHREYS A'I GYNGHORION.
Gŵr yn hebgor cynghor call
I rengoedd o rai angall.—GWERYDDON.
Y MAE un awdwr yn galw y "Diarhebion Cymreig," yn "weddillion doethineb yr hen Gymry." Yn y bennod hon yr ydym ninau yn bwriadu rhoddi gweddillion doethineb yr hybarch Richard Humphreys, fel y deuant i'r golwg yn y cynghorion a roddwyd ganddo ar wahanol achlysuron. Nid oes dim yn ddangosiad eglurach o'r adnabyddiaeth ddofn oedd ganddo o'r ddynoliaeth, ac o'r sylw manwl a dalai efe i ysgogiadau cymdeithas, na chyfaddasder ei gynghorion ar gyfer yr amgylchiadau y rhoddwyd hwynt ganddo. Y mae craffder, doethineb, a synwyr, wedi eu cerfio yn annileadwy ar yr oll o honynt. Dywed Solomon, "Lle ni byddo cynghor y bobl a syrthiant," ac mai "yr hwn a gymero gynghor sydd gall." Trwy gymeryd cyngor gall yr ieuangc ddysgu oddiwrth brofiad yr hen, a thrwy hyny ragflaenu llawer o gamgymeriadau. Ni a ddechreuwn trwy osod ger bron y darllenydd y rhai hyny sydd yn dwyn perthynas â phriodas. Nid oes yr un adeg ar oes dyn y mae yn sefyll mewn mwy o angen cynghor na'r cyfnod hwn ar ei fywyd. Gyda golwg ar yr amser i briodi dywedai fel hyn: Y mae yn amlwg fod eisieu ystyried, nid yn unig pwy, ond pa bryd i briodi. Dylai dyn ieuangc fod am rai blynyddoedd yn gwneyd prawf ar y byd, ac o hono ei hunan, cyn priodi, fel y gallo wybod a fedr efe ei lywodraethu ei hun cyn myn'd i lywodraethu teulu; a gweled pa faint sydd ganddo yn ngweddill o'i gadw ei hun cyn addaw cadw neb arall. Nid ydyw priodi, er ei fod yn osodiad Duw, ond direidi, heb fod rhyw olwg resymol am fywioliaeth, heblaw dyweyd fod y plwyf yn ddigon cryf, a bod hwnw i bawb. Cynildeb yn moreu oes am ddeng mlynedd yn y mab ieuangc, a phum' mlynedd fe allai yn y ferch ieuangc, a fyddai bron yn ddigon i'w diogelu rhag eisieu wedi iddynt fyned i'r ystâd briodasol. Ond yn lle hyny nid oes ond ychydig o'n pobl ieuaingc yn gwybod gwerth arian hyd oni phriodant, ac erbyn hyn deallant y dylesid gwybod yn gynt. Cant eu hunain mewn llyn dwfn cyn dysgu nofio, pan y gallasent ymarfer mewn dwfr basach, lle nad oedd perygl iddynt."
Ond pan y gwelai ddyn yn myned i oedran mawr cyn priodi, dywedai wrth hwnw "y mae yn rhaid i ti briodi yn bur fuan bellach, neu dalu yn ddrud i rywun am dy gymeryd."
Rhoddodd y cynghor canlynol i ferch ieuangc, yr hon sydd heddyw yn fam yn Israel, ac yn ei gofio yn dda. Yr oedd ar daith yn Lleyn, a John Williams, Llecheiddior, gydag ef; llettyent un noswaith mewn tŷ lle yr oedd nifer o blant wedi eu magu; ac ebe John Williams, "Mr. Humphreys rhoddwch gynghor i Mary yma i chwilio am ŵr, fel y rhoddasoch i Miss.——"
"Ni roddais i erioed gynghor i un ferch ieuangc i chwilio am ŵr John, ond cynghor i ddewis gŵr pan y ca'i gynyg arno a roddais i." "Wel gadewch i ni ei gael," meddai y teulu. Ar hyn trodd yntau at Mary, a dywedai yn ei ddull siriol a dengar,—
"Mary bach, peidiwch cymeryd dyn diog: mae o yn ddrud iawn i'w gadw, ac ni ddwg nemawr i mewn. Gochelwch ddiottwr, canys y mae yn berygl iddo fyned yn feddwyn. Peidiwch cymeryd dyn digrefydd, rhag i'r 'Arglwydd ddigio wrthych, a'i adael felly; a pheidiwch er dim cymeryd ffwl, canys y mae yn anmhosibl gwneyd hwnw byth yn gall."
Adroddodd sylw hen gymydog iddo wrth deulu oedd yn igallu prisio eiddo yn hytrach na challineb a rhinwedd, ac yn dra awyddus i'w merch briodi un nad oedd mor gymeradwy ganddi hi, ac yn gofyn cynghor i'r hen wladwr, yr hwn a ddywedai—"Nid oes genyf fi ddim i'w ddywedyd rhyngoch ond pe deuai dyn gwirion i'ch tŷ chwi, efallai nad â allan mor fuan ac yr ewyllysiech iddo fyned." Dichon y sylw hwn fod er addysg i rieni yn gystal a phlant. Dywedai wrth ddyn ieuangc o joiner oedd yn gweithio iddo" Pan y byddi yn meddwl priodi, machgen i, gofala am gael dynes fedr wneyd gwaith; gwell i ti gael gwraig a chan' punt yn môn ei braich, nag un a chan' punt yn ei phocked.
Wrth briodi pâr ieuangc byddai yn arfer dyweyd, "Ymdrechwch beidio gwario ond un-geiniog-ar-ddeg o bob swllt a enillwch."
Pan yn cyfarfod â merch ieuangc, yr hon oedd yn myned i oedran glew, dywedai, Y mae yn rhaid i ti beidio a chodi marciau G———n, neu ni phriodi di byth."
Unwaith pan ar daith yn Sir Gaernarfon, daeth i'w ran fyned i letya i dŷ lle y canfyddai wraig mewn oed, a gwraig ieuangc yn eu galar—wisgoedd. Yr oedd y wraig ieuangc yn brysur gyda'i goruchwylion ar hyd y tŷ, a'r hen wraig yn eistedd i ymddyddan a'r pregethwr. O'r diwedd deallodd Mr. Humphreys mai merch yn nghyfraith i'r hên wraig oedd yr ieuangc, a'i bod wedi colli ei phriod er's tro bellach; a dywedai wrth yr hen wraig: "Gwelais ferched yn nghyfraith yn byw gyda'u mamau yn ein gwlad ninau; ond costiai yn lled ddrud iddynt yn gyffredin. Gofelwch am fod yn dyner wrthi." Yn mhen amser y mae yn myn'd i'r un daith drachefn, a digwyddodd iddo fyn'd i'r un fan i letya. Y pryd hyn yr oedd y wraig ieuangc wrth y drws yn ei dderbyn yn siriol dros ben, a pharhaodd yn hynod o groesawus tra y bu yno. Pan drodd yr hen wraig ei chefn, torodd y weddw ieuangc at Mr. Humphreys a dywedai: Y mae yn dra thebyg eich bod yn methu esponio y gwahaniaeth sydd yn fy ymddygiad y tro hwn." Yr wyf yn ei weled," meddai yntau, "ond nis gallaf ddyfalu pa beth yw yr achos o hono." "Pan oeddych yma o'r blaen," meddai hithau, "diferasoch air a greodd fyd newydd arnaf fi, ac nis gallaf ddirnad maint fy nyled i chwi. Byth er hyny y mae fy mam yn nghyfraith mor garedig tuag ataf ag y mae modd iddi fod. Nid oeddwn o'r blaen gystal fy mharch a morwyn."
Wrth roddi cynghor i swyddogion eglwys lle y cynhelid Cyfarfod Misol unwaith, dywedai, "Y mae llawer o son yn Eglwys Loegr am dignity of the Church, a'r peth y maent hwy yn ei ystyried yn dignity ydyw, cael ei ordeinio gan esgob, a bod ei gweinidogion yn wŷr bonheddig, &c., ond y mae gwir dignity yn gynwysedig mewn bod swyddogion yr eglwys yn dduwiolion, a'r aelodau ieuaingc yn sychedig am fod yn fawr mewn gras a sancteiddrwydd."
Dro arall wrth gynghori swyddogion eglwysig, dywedai, "Gofelwch am fod yn flaenoriaid. Y mae rhai yn blaenori heb fod yn flaenoriaid, a rhai blaenoriaid heb flaenori, ac o'm rhan i gwell genyf y cyntaf."
Cyfarwyddai flaenor ieuangc fel hyn, "Pan y byddi yn rhoddi achos o ddysgyblaeth ger bron yr eglwys, ymdrecha wneyd hyn heb amlygu dy farn dy hun, onide fe fydd i lawer dy wrthwynebu."
Dywedai wrth gyfaill ieuangc oedd yn ei wasanaeth, yr hwn oedd yn dechreu pregethu, "Pan y byddi yn myned. i ymweled â chyfeillion mewn profedigaethau, paid byth a cheisio eu cynal trwy fychanu eu trallodion; y mae pawb yn meddwl rhywbeth o'u profedigaethau, a dangos dithau dy fod yn cydsynio â hwy am faint eu trallodau; ac ar ol i ti enill lle trwy dy gyd-ymdeimlad â hwy, byddant yn barod i gymeryd cynghor genyt."
Wrth gynghori pregethwr ieuangc a amheuid o fod yn chwyddedig ei yspryd, dywedai, "Nac annghofiwch un amser wrth bregethu i bechaduriaid mai pechadur ydych eich hunan. Dywedir am ambell i ferch ieuangc sydd yn teimlo yn agos fel ag y dylai, wedi rhyw dro anhapus yn ei bywyd, na chododd hi byth mo'i phen ar ol hyny. Y mae hen dro anhapus wedi cymeryd lle yn ein hanes ninau, a dylem ostwng ein penau mewn cywilydd wrth feddwl am dano. Cofiwch chwithau hyny."
Byddai yn dyweyd wrth y rhai fyddai yn llwyddo yn y byd, eu bod mewn perygl o fyned yn gybyddion os na byddai iddynt ddysgu cyfranu; dywedai, "Mae llwyddiant heb haelioni yn gwneyd un yn gybydd, a llwyddiant heb gynildeb yn gwneyd un yn wastraffwr."
Dywedai wrth gymydog oedd trwy ei lafur, ei ddiwydrwydd, a bendith yr Arglwydd, wedi bod yn llwyddianus yn y byd, "Da iawn, hwn a hwn, yr wyt ti wedi dechreu adeiladu dy glochdy o'r gwaelod, a'i godi yn raddol o dan dy draed i'r top, ac y mae llawer o debyg y galli di sefyll ar ei ben. Y mae rhai yn cael eu cyfodi i ben clochdai wedi i eraill eu hadeiladu, ac yn gyffredin y maent yn rhy ben-ysgafn i allu sefyll arno. Y mae rhai sydd wedi dyfod i fyny trwy eu llafur eu hunain yn gallu trin eu heiddo yn llawer gwell na'r rhai sydd wedi ei gael ar ol i eraill lafurio am dano." A byddai wrth anog i ddiwydrwydd yn dyweyd, Mai nid mewn bod yn gyfoethog y mae yr hapusrwydd, ond mewn myn'd yn gyfoethog; ac nid mewn bod yn dlawd y mae trueni, ond mewn myn'd yn dlawd." Cynghorai yr eglwys yn ei gartref fel hyn, "Peidiwch a dyweyd dim am eich gilydd, os na bydd genych ryw dda i'w ddywedyd. Peidiwch a drwgdrybio eich gilydd, a pheidiwch a bod yn rhy barod i gredu pob chwedl a glywch am eich gilydd; nithiwch hwy yn bur dda cyn rhoddi llety iddynt. Yr wyf yn cofio yn dda nad oedd ond ychydig o'r chwedlau a fyddai yn cael eu dyweyd am danaf fi, pan oeddwn yn ieuangc, yn wirionedd; ac yr wyf wedi gwneyd fy meddwl i fyny er's talm i beidio a chredu ond o gylch un ran o dair o chwedleuon cymydogaeth; a chynghorwn chwithau i rodio wrth yr un reol. Byddwch yn yspryd yr efengyl bob amser; yn debyg i'r aderyn yr hwn sydd bob amser yn ei adenydd, er nad yw bob amser ar ei adenydd, ond byddai yn barod pa bryd bynag y gwela berygl. Byddai bod felly yn fantais i chwithau i ymddyrchafu at Dduw." Pan y byddai rhai o'r frawdoliaeth yn cwyno eu bod yn oerion gyda chrefydd, dywedai, "Mai gwres gwaith oedd yr hapusaf o bob gwres."
Cwynai gwraig gyfrifol wrtho unwaith ei bod mewn profedigaeth oddiwrth ryw bersonau nad oedd fawr o foneddigeiddrwydd yn perthyn iddynt " Na feindiwch," ebai yntau," mae yn haws i chwi ddyoddef nag iddynt hwy dori ar eu harfer."
Pan yn tori ei farf mewn tŷ capel, cynygiwyd iddo lian glân i dderbyn y lather oddiar ei wyneb; ond gwrthododd ef, gan ddewis papyr yn ei le, a dywedai, "A wyddost di hyn, William, fod yn well peidio a difwyno peth, na'i olchi ar ol ei ddifwyno, fel ag y mae peidio pechu yn well na chael maddeuant ar ol pechu."
Anogai bawb i ymdrechu bod yn y canol gyda phob peth, a dywedai, "Byddaf yn gweled mantais o fod yn y canol, pe na byddwn ond yn myned trwy lidiart; y mae y cyntaf yn ei hagor, a'r olaf yn ei chau, a minau yn cael myned trwyddi heb gyffwrdd fy llaw arni."
Pan y daeth gŵr agos at grefydd o hyd iddo ar y ffordd unwaith, gofynai, " W. T. sut yr wyt ti? Ai ar y terfyn yr wyt ti o hyd ?" "Ie, yn wir, eto," oedd yr ateb, "Cofia mai lle ofnadwy sydd o dan y bargod; dyna y man lle y mae y dafnau brasaf yn disgyn," meddai yntau. "Ar y rhiniog yr oeddyt pan yn fachgen, gwylia di settlo yn y fan yna." W rth edrych ar un o'i gyfeillion a golwg digalon arno, gofynai, "A oes rhywbeth yn dy boeni di, machgen i ?"
"Oes y mae," ebai y cyfaill." "Na hitia ddim, ni weli di byth ffwl yn poeni."
Byddai yn hawdd ganddo roddi gair o gynghor fel y peth diweddaf wrth adael tŷ neu gyfaill. Clywsom un masnachwr yn dyweyd ei fod ef a Mr. Humphreys wedi ffurfio cyfeillach pan oeddynt yn bur ieuaingc, ac yn ei dŷ ef y byddai yn rhoddi i fyny pan y byddai yn pregethu yn eu tref. Byddai y cyfaill yn arfer a myn'd i'w hebrwng boreu Llun, hyd rhyw fan penodol. Cerddai yntau wrth ei ochr dan dywys y march a'i cariai, ac ymddyddan. Wedi cyrhaedd y fan i'r cyfaill droi yn ol, arferai ddyweyd bob amser wrth ffarwelio, "Good bye, my dear fellow, be sure of doing right." Clywsom y boneddwr hwnw, yr hwn erbyn hyn sydd yn hen afgwr parchus, yn dyweyd, nas gallodd erioed fyned heibio i'r llanerch hono ar y ffordd, lle yr Arferai droi yn ol heb gofio ei eiriau. Mae yr ymadroddion, "Be sure of doing right" iddo ef, fel pe byddent wedi eu cerfio a phin o haiarn.
Pan ar un o'i deithiau, aeth i letya at deulu parchus a charedig, ond heb fod yn proffesu crefydd. Yr oedd wedi bod yn hynod o'r difyrus i'r teulu, ac wrth fyned i ffordd dranoeth dywedai, gan edrych yn myw llygad y wraig, "Remember the great point, Mrs. Roberts bach." Tystiai y wraig fod ei eiriau diweddaf wedi bod fel cloch yn ei chlustiau am amser maith.
Yr oedd unwaith yn ymddyddan a gŵr ieuangc cyfrifol, ac o ddygiad da i fyny, ond yn lled ddifeddwl am grefydd, ac ar ddiwedd yr ymddyddan dywedai, "You are a great fool, but remember I mean a moral fool."
Pan yn cyd-fwyta â nifer o rai ieuaingc, byddai yn hawdd ganddo ofyn, "A wyddoch chwi pa bryd y bydd yn ddiogel i chwi roddi i fyny fwyta? Pan y byddwch wedi bwyta nes teimlo na waeth genych pa un ai bwyta ychwaneg ai peidio. Os byddwch wedi bwyta nes teimlo nas gallwch gymeryd ychwaneg, byddwch wedi bwyta gormod; ac os byddwch yn teimlo awydd i ychwaneg, byddwch wedi cymeryd rhy fychan." Cofied y glwth y rheol hon.
Wrth gynghori swyddogion eglwysig i deilyngu parch, ac nid ei ddisgwyl ar gyfrif eu swydd, dywedai fel hyn, "Dylai swyddogion eglwysig fod yn ofalus iawn i ymddwyn yn y fath fodd fel ag i deilyngu parch, ac nid ei ddisgwyl oherwydd swydd yn unig. Fe allai fod rhai pregethwyr a diaconiaid heb feddu dim llywodraeth ar eu heglwysi. Ond nid yw pethau yn eu lle felly. Ni bydd yr eglwys hono byth yn gysurus iddi ei hun lle na bydd y swyddogion yn dal llywodraeth addas ar yr aelodau. Ond y mae yn bosibl cam arfer hyn, sef fod swyddogion yn hòni llywodraeth heb ymdrechu i'w haeddu. Byddant felly yn dra thueddol i fyned i ymryson â'r aelodau, a'r aelodau drachefn à hwythau. Eu dadl hwy yna fydd, fod yr aelodau yn gwrthryfela yn erbyn y llywodraeth, pryd na bydd ond enw o swydd yn galw am barch ac ufudd-dod. Nid peth hoff yw clywed rhai mewn swyddau yn son llawer am eu hawdurdod a'u hawl. Er fod awdurdod ganddynt, nid yw yn weddus ei hòni bob amser; ceir ef yn naturiol os bydd pethau yn eu lle. Ni effeithiai yn dda i'r gŵr ddyweyd yn wastad wrth y wraig, "Myfi sydd i fod yn ben; rhaid i ti blygu." Er mai y gŵr yw pen y wraig, nid trwy hòni hyny y derbynia efe y parch mwyaf, ond trwy lanw ei le fel y cyfryw. "Myfi ydyw'r pen," o'r goreu; ond pa fath ben ydwyt? Ai pen papyr sydd yna, ai pen asyn, ynte ai pen dyn? "Myfi ydyw'r pen." Ie, o'r goreu yn y pen y mae y llygaid, ac oddifewn i'r pen y mae yr ymenydd; dyna gartref y synwyr; os pen, dangos hyny trwy iawn arwain a threfnu. Mae yn bosibl mewn eglwys i swyddogion ddyrysu eu hamcanion wrth sefyll dros eu hawl; rhaid ymdrechu am y cymhwysderau, a dilyn yr ymarferiadau sydd yn cynyrchu parch oddiwrth eraill. Mae dynolryw yn gyffredin yn caru gwir ofal am danynt. Pan ymddangoso blaenoriaid yn gwir ofalu am yr aelodau mewn profedigaethau neu ar ymylon peryglon maent wrth hyny yn enill gradd dda yn eu meddyliau. Ni a derfynwn y bennod hon trwy gofnodi y sylwadau a wnaeth mewn ffordd o gynghor i'r hen bobl yn y seiat fawr, dydd Llun y Sulgwyn, yn Liverpool, yn y flwyddyn 1856. Yn y cyfarfod hwn yr oedd y diweddar Mr. Morgan, yn rhoddi cynghor i'r bobl ieuainge; Mr. Lumley i'r canol oed; a Mr. Humphreys i'r hen bobl, yr hyn a wnaeth fel hyn: "Mae tori dyn ymaith yn nghanol ei ddyddiau yn cael ei olygu yn yr Ysgrythyrau yn beth annymunol, a'i fod drwy hyny megys yn ei ddifuddio o weddil ei flynyddoedd; ac fel bendith ar ddyn sonir am amryw o'r hen batriarchiaid eu bod wedi marw mewn oedran teg ac yn gyflawn o ddyddiau. Peth dymunol iawn ydyw gweled rhai yn myned yn hen, ond y mae y Brenin Mawr yn gosod treth drom ar bob un sydd yn cael myned felly. Rhaid dioddef llawer gwaew yn yr aelodau, a chael ei amddifadu o'i nerth, colli ei glyw, y golwg yn pallu, a'r gwŷr cryfion yn crymu: y rhai sydd yn malu yn methu am eu bod yn ychydig; colli naw rhan o ddeg o'i gyfeillion, &c. Mae cryn lawer o drethoedd o'r natur yma i'w talu gan henaint: ond y gamp ydyw bod yn ddiddig o dan y trethoedd hyn, a pheidio a bod yn bigog, grwgnachlyd a thuchanllyd. Dywediad rhyw ŵr oedd, fod yn rhaid i duchan gael y drydedd: y mae yn llawer gwaeth na'r degwm. Yr hyn a geidw ddyn mewn henaint yn heddychol a chysurus yw cael ei lenwi â thangnefedd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall. Yn Nghrist y mae tangnefedd heddychol, dyddanwch a chysur cariad, digon i wneyd rhai yn dirfion ac iraidd mewn henaint. Nid mewn maintioli y mae cynydd henaint yn gynwysedig; eithr cynydd mewn defnyddioldeb, cynydd mewn aeddfedrwydd i'r nefoedd, cynydd mewn sylweddoldeb, fel y dywysen ar fin y cynhauaf. A glywsoch chwi y ddau ffermwr yn ymddyddan a'u gilydd y dydd o'r blaen, yn nghylch y cae gwenith. Yr ydwyf wedi sylwi, meddai un, nad yw eich cae gwenith yn tyfu dim. Os nad yw yn tyfu, ebe y llall, y mae yn aeddfedu. Felly adeg i aeddfedu ydyw hen ddyddlau. Y mae hen ddysgyblion yr Arglwydd Iesu i fod fel balast yn y llong, i'w chadw yn steady yn nghanol tymhestloedd a ddichon godi a churo arni."