Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn/Pregeth VII
← Pregeth VI | Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn gan Griffith Williams, Talsarnau |
Pregeth VIII → |
PREGETH VII.
Y DDWY DEYRNAS.
"Yr hwn a'n gwaredodd ni allan o feddiant y tywyllwch, ac a'n symmudodd i deyrnas ei anwyl Fab."—COLOSSIAID i. 13.
AR ryw olwg nid oes dim ond un deyrnas yn bod, a Duw yn fendigedig ac unig benaeth y deyrnas hono. Oblegyd y mae Ef yn llywodraethu ar bob peth a greodd. Er lluosoced y bydoedd ac amled rhifedi y ser a'r planedau, nid oes yr un o honynt wedi eu gwneyd gan neb ond Duw. Y mae y cwbl a wnaed gan Dduw dan lywodraeth Duw. Nid oes na dyn, nac anifail, nac angel, na chythraul, na chymaint ag un llwchyn o'r greadigaeth nad ydyw dan ddeddf i Dduw. Ond y mae y testun hwn yn amlwg yn golygu rhyw ddwy deyrnas, sef meddiant y tywyllwch a theyrnas anwyl Fab Duw. Y mae y ddwy deyrnas yna yn golygu rhywbeth gwahanol i lywodraeth fawr gyffredinol Duw. Yn gymaint a bod Duw yn anfeidrol ddoeth a da, galluog ac uniawn, yn gwneyd fel y mae yn gweled yn dda yn y nefoedd ac ar y ddaear, yn mhlith llu y nef fel trigolion y ddaear, y mae yn beth pur rhyfedd fod llywodraeth na dim meddiant gan neb ond Efe. Pa fodd y goddefodd i'r diafol wrthryfela a denu dynion i wrthryfela? Pa fodd y cymerodd llywodraeth pechod le, neu pa fodd y goddefodd Duw i'r llywodraeth yma fod yn ei deyrnas, sydd gwestiynau pur anhawdd ei hateb; y maent yn gorwedd yn ddwfn yn mynwes y Duw mawr. Ond y mae yn bur amlwg fod meddiant y tywyllwch yn bod, a bod pechod wedi cymeryd lle: ond y mae hefyd yn bod deyrnas anwyl Fab Duw. Nid ydyw y deyrnas yma ddim yn groes i lywodraeth gyffredinol Duw, ond yn berffaith wrthwynebol i feddiant y tywyllwch. Y mae meddiant y tywyllwch yn cynwys plaid wrthwynebol i lywodraeth gyfiawn ac uniawn y Jehofahac y mae teyrnas anwyl Fab Duw yn cynwys gwrthdarawiad nerthol i holl amcanion y diafol, teyrnas yr hwn yma a elwir yn " feddiant y tywyllwch." Y mae yr Arglwydd Iesu yn cydnabod fod ganddo deyrnas, pan y cyfeiria, pe buasai diafol yn bwrw allan ddiafol, neu gythraul yn bwrw allan gythreuliaid, nad allasai ei deyrnas ddim sefyll i fyny. Y mae ganddo ef ryw le mawr yn y byd; gelwir ef "Tywysog llywodraeth yr awyr;" ac y mae llawer, fel y mae gwaethaf y drefn, yn meddiant y tywyllwch. Sylwn
I. MEDDIANT Y TYWYLLWCH.
II. Y WAREDIGAETH, neu y symudiad o'r meddiant hwnw.
III. RHAI SYLWADAU AR DEYRNAS ANWYL FAB Duw, fel y mae hi wedi ei hamcanu i fod yn atalfa ac yn feddyginiaeth i'r rhwyg mawr o wrthryfel angylion a dynion yn erbyn Duw.
I. MEDDIANT Y TYWYLLWCH. Nid ydyw yn golygu fod ganddo wir hawl, yr ydym yn deall. Y mae yn golygu rhyw beth, ond nid fod ganddo hawl deg a chyfiawn yn y meddiant. Y mae diafol yn ei wrthryfel wedi fforffetio hawl ac ewyllys da Duw; ac o ran hawl wirioneddol i bethau, nid oes ganddo ddim. Nid ydyw yn greawdwr i neb; o ran hyny, gallwch fod yn bur ddiofal nad oes arnoch ddim rhwymau gwasanaeth i'r diafol. Ni chreodd neb o honoch, temtiodd chwi bɔb un, a chyd—ffurfiodd llawer mae'n debyg ag ef mewn temtasiynau pur ofnadwy ond ni chynaliodd erioed mo honoch am funyd. Nid wyt wedi derbyn dim gwirioneddol dda oddiar ei law erioed. Y mae llawer wedi byw a marw, yr wyf yn ofni, yn ei wasanaeth, ond ni chawn fod neb yn derbyn y cyflog yn gysurus. Ond pa beth ydyw y meddiant? Yn
1. Y mae ganddo feddiant wedi ei enill ar ddynolryw. Enillodd ryw fattle ar blant dynion—clywsoch am dani —ar ein rhieni cyntaf, ac yr ydym ninau yn canlyn wedi myn'd i'r un ochr ag ef; nid ydym yr un fath ag ef yn hollol, ond y mae wedi ein henill ni drosodd. Nid ydyw y right of conquest bob amser yn deg. Nid ydyw yn degwch i'r naill deyrnas oresgyn y deyrnas arall am fod y naill yn gryfach na'r llall, neu am fod arfau gwrthryfel gan un ac heb ddim gan y llall. Pe buasai Napoleon yn darostwng Ynys Prydain, ni fuasai yn fuddugoliaeth deg ac nid oedd y buddugoliaethau a enillodd yn rhoddi lle teg iddo deyrnasu ar lawer o deyrnasoedd Ewrop:—
felly nid ydyw y gongewest y darfu y diafol ei henill ar ddynolryw ddim yn un deg iddo deyrnasu.
2. Y mae hon yn feddiant o hunan-ymroddiad i'r diafol. Nid oes gan ddyn ddim hawl i roddi ei hunan i neb yn groes i ewyllys ei Greawdwr: ond, ar yr un pryd, y mae ganddo ryw lun o allu i wneyd hyny. Y mae Duw wedi rhoddi i ddyn ryw feddiant arno ei hunan sydd yn gosod gallu ynddo i roddi ei hunan at y gwasanaeth a glywo ar ei galon. Gall roddi ei aelodau yn arfau annghyfiawnder i bechod;" pa fodd y gwyddoch hyny? Y mae yn gwneyd hyny, am hyny pa fodd y rhaid fod neb heb wybod. Ond nid oes ganddo ddim hawl, y mae yn troseddu cyfraith cyfiawnder wrth wneyd. Nid ydyw hynyna chwaith ddim yn sound, ond dyna ydyw meddiant y tywyllwch. Mae gan y diafol orsedd yn y byd, a gorsedd ar galonau plant dynion, cynifer ag sydd yn ei feddiant.
II. Y WAREDIGAETH. Ond pa beth ydyw y waredigaeth? "Yr hwn a'n gwaredodd ni o feddiant y tywyllwch." Wel y peth mawr, mawr, sydd arnom ni eisieu yn y byd, cyn myn'd o hono ydyw, y peth a alwai yr hen bobl y "tro mawr," ein "troi ni o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw." Dyma ydyw, diangfa gyfreithlon oddiwrth y condemniad sydd ar satan ac ar holl ddeiliaid ei lywodraeth, a diangfa hefyd o'r slavery caled o wasanaeth y diafol a phechod: ac y mae hyn yma yn beth mawr iawn. Os marw wneir yn meddiant y tywyllwch ni bydd genym ddim i etifeddu ond yr un lle a'r diafol yn y pen draw. Y lle sydd wedi ei barotoi i ddifol a'i angylion fydd ein lle, os marw wnawn yn ei feddiant. Y mae yn cael ei alw yn "feddiant y tywyllwch," o herwydd fod y diafol yn ffeindio po dywyllaf fydd ei deyrnas ef, diogelaf fydd ei deiliaid. Mae rhyw gydwybodolrwydd yn ei feddwl ef nad ydyw pethau ddim yn iawnnad ydyw pethau ar sail gyfiawn ac uniawn, ac nad oes neb sydd yn ei wasanaeth ef ar eu mantais; am hyny y mae yn ofalus iawn rhag i neb gael y goleuni, rhag iddynt deimlo yn anesmwyth, oblegyd gŵyr ef nad all eu cadw yn ei wasanaeth ond waethaf yn eu gên. Pan deimlant nad ydyw pob peth yn dda, am hyny y mae am eu cadw mewn digon o dywyllwch ac anwybodaeth. Y mae teimlad cyffelyb mewn dyn gyda golwg ar ei bechod. Dywed yr Arglwydd Iesu Grist, "A hon yw y ddamnedigaeth, ddyfod goleuni i'r byd;"—na dyna y waredigaeth,— ond, "a charu o ddynion y tywyllwch yn fwy na'r goleuni." Pa fodd y mae dynion yn actio mor afresymol? Yn wir, nid yw dynolryw ddim yn eu cof yn iawn gydag un peth y mae pechod y gwâll yma—yn wallgofrwydd ar ddyn. Dywedir fod rhyw mono-mania yn bod, hyny ydyw, yn wallgof mewn rhyw un peth; bydd rhai weithiau felly. Dyma un peth y mae plant dynion yn wallgof ynddo oll, "caru y tywyllwch." Y mae dyn yn naturiol yn caru y goleuni, "Melus yn ddiau ydyw y goleuni, a hyfryd ydyw i'r llygaid weled yr haul." Beth ydyw y gwall sydd ar ddyn, ynte, ei fod yn caru pechod? Y mae mewn ystyr foesol yn caru y tywyllwch ac yn casau y goleuni. Pa fodd y mae yn actio mor afresymol ac annghyson ag ef ei hun? Dyna ydyw yr achos, "o herwydd fod ei weithredoedd yn ddrwg." Y mae gan ddyn gydwybodolrwydd mai un hagr a drwg ydyw pechod, ac mai melus ydyw yn ei enau, ond y mae am gael y lle tywyllaf i'w gyflawni.
III. HEFYD Y MAE YMA DEYRNAS ANWYL FAB DUW. Pa beth yw hon? Y mae yn cael ei galw weithiau yn "Deyrnas Dduw;" "Teyrnas amynedd Duw;" "Teyrnas Dduw a'i gyfiawnder Ef." Mae yn beth rhyfedd iawn i'r Duw mawr oddef pechod i gymeryd lle, a goddef y gwrthryfel, ac na buasai yn peidio a chreu creadur rhesymol a welai y Duw mawr a wrthryfelai. Yr wyf yn meddwl na chawsai gymeryd lle, ond y mynai Duw ogoneddu ei ras mewn cadarnhau gorsedd-faingc a theyrnas ei Fab i wrthsefyll holl niweidiau teyrnas y tywyllwch. Beth a wnaeth, ond sefydlodd, sylfaenodd hon yn gyfiawn ac uniawn yn Nghyfryngwr mawr y Testament Newydd, ac y mae hon mor nerthol ag y bydd iddi wrthsefyll holl allu meddiant y tywyllwch. Mae Mab Duw wedi ymddangos yn y byd i ddattod gweithredoedd diafol," a bydd ei deyrnas wedi ei dinystrio bob yn dipyn. Teyrnas anwyl Fab Duw aiff rhagddi ac a lwydda. Ni bydd brenin y deyrnas ddrwg yma ddim yn frenin o hyd,—ni chaiff y sway y mae yn gael yn awr yn hir. Bydd wedi ei orchfygu a chau arno yn fuan. Y mae yn awr yn gwneyd llawer iawn o orchestion, ac y mae yn cael llawer at ei wasanaeth na fuasai yn cael y degwm oni bai ei fod yn cael y dyn at y gwaith. Ond mae Duw wedi sylfaenu teyrnas gras ac amynedd Duw, ac wedi ei sylfaenu yn ei gyntaf—anedig, ac yn ei unig-anedig y bydd yn gosod ei phyrth hi. Y mae y deyrnas yn deyrnas i Dduw; arferir amynedd mawr at y deiliaid gwrthryfelgar. Teyrnas ydyw i'r deiliaid gwrthryfelgar i ffoi iddi, ac nid oes neb yn 'safe' ond wedi ffoi yma. Rhaid dy gael i dir Emanuel. Nid yw yn groes i lywodraeth fawr y Jehofah. Trefn y llywodraeth fawr ydyw fod i'r enaid a becho farw, sef fod i'r neb fyddo yn euog o fai ddioddef ei gospi yn ol haeddiant y bai hwnw; ond yn nhrefn teyrnas gras Duw, y mae yr euog yn diangc, y mae y diniwed wedi ei ddal, "y Cyfiawn yn lle yr annghyfiawn." Teyrnas odidog iawn yw hon. Y mae Brenin y deyrnas wedi marw, i'r deiliaid i gyd gael eu bywyd; ffo yma, a byddi yn safe. Nid oes neb o ddeiliaid teyrnas gras wedi ufuddhau yn berffaith i'r gyfraith yn eu personau eu hunain; y mae y Brenin wedi gwneyd hyny. "Efe a fawrhaodd y gyfraith, ac a'i gwnaeth hi yn anrhydeddus." Ie, y mae y Duw mawr yn maddeu, a phasia heibio i fyrdd o feiau yn y rhai sydd yn ffoi yma am eu bywyd—diangant byth gan eu Barnwr:—act ydyw hon sydd yn agor drws o obaith i bechadur tlawd; yma y maddeuir iddo ei ddrwg, ac y derbynir ef i heddwch a ffafr Duw.
Mae amrywiol iawn o ragorfreintiau yn perthyn i'r deyrnas hon nad ydynt i'w cael un ffordd arall. Yma y mae Duw yn gyfiawn ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu." Byddi dan gondemniad cyfraith Duw byth yn mhob man arall, nes dy ddyfod i deyrnas anwyl Fab Duw. Tu allan i'r deyrnas yma yr wyt yn gondemniedig gan yr unionaf o gyfreithiau, ac yn wrthryfelgar yn erbyn y llywodraeth unionaf sydd bosibl; ond yn nheyrnas anwyl Fab Duw y mae dy fywyd i ti i'w gael. Dywed cyfiawnder, "Gollwng ef yn rhydd, myfi a gefais Iawn gan Frenin y deyrnas. Dywed y ddeddf wrtho, "Nid wyf finau yn dy gondemnio," yr wyf wedi cael boddlonrwydd yn Nhywysog iachawdwriaeth y creadur tlawd:"—"Yr wyf finau," meddai Duw, "yn foddlawn er mwyn cyfiawnder fy anwyl Fab."—Mae wedi diangc byth gan ei Farnwr.
Hefyd, y mae y fendith fawr o faddeuant pechodau yn cael ei hestyn i ddeiliaid y deyrnas yma. Gellir dywedyd am hyny, "Maddeuir anwiredd y rhai a drigant ynddi." Nis gellir dyweyd hyny am ddynion y ddaear. Er fod yr Arglwydd yn drugarog iawn, er ei fod yn hoffi maddeu a chuddio bai, ac yn Dduw parod i faddeu, ni faddeua i bawb. Y mae miloedd, a miliynau hefyd, mae'n ofidus meddwl, yn perthyn i deyrnas fawr y Duwdod na fyn Duw faddeu iddynt; ni ddaethant i'r drefn—i gyd—ffurfiad â'r plan. Nid oes edifeirwch na maddeuant y tu allan i deyrnas anwyl Fab Duw. Ond y mae Brenin y deyrnas hon yn Dywysog wedi ei ddyrchafu, "i roddi edifeirwch i Israel a maddeuant pechodau :" ond rhaid dy gael i dir Emanuel er hyny. Mae hyn yn beth mawr i ni ddynion. Peth difrif i ddyn ydyw bod yn bechadur; nid ydyw y cythraul ond pechadur; y mae yn bechadur hên, mae'n wir, a brwnt iawn. Nid oes dim dymunol ynddo; y mae rhywbeth go ddymunol mewn llawer o ddynion er eu holl ddrwg; ond un atgasrwydd ydyw y diafol; ond, ar yr un pryd, nid ydyw plant dynion ddim yn dduwiol nes y byddont wedi derbyn maddeuant pechodau. Y mae eu hachos yn ddrwg, a'u cyflwr yn anaele, nes dyfod i deyrnas anwyl Fab Duw. "Gwyn fyd y neb y maddeuwyd ei drosedd ac y cuddiwyd ei bechod; gwyn fyd y dyn ni chyfrif yr Arglwydd iddo anwiredd." Nid oes yr un o'r gwynfydedigion hyn i'w cael ond yn nheyrnas anwyl Fab Duw; ac os oes rhywbeth a fynoch a maddeuant, dyma y fan am dano. Y mae ychydig o bethau mewn rhyw fanau penodol o'r byd, ond y mae pethau eraill i'w cael yn mhob man. Dwg Duw fara allan o'r ddaear bron yn mhob man, ond y mae rhai pethau na cheir ond mewn rhyw un cwr o'r byd. Felly maddeuant pechodau, y mae i'w gael yn unig yn nheyrnas anwyl Fab Duw, a rhaid dy gael yno cyn y ceir ef, "Maddeuir anwiredd pawb a drigant ynddi;" ac ni faddeuir anwiredd neb ond a drigant yno.
Sancteiddir hwy yno. Y mae Yspryd Duw yr hwn a'u gwnaeth, ac anadl yr Hollalluog yr hwn a'u bywiocaodd; yn eu bywhau yn holl bethau teyrnas Dduw; ac yn wir mae cael Yspryd Duw i'n mendio yn beth mor fawr ynddo ei hunan a chael Duw i'n cyfiawnhau. Y mae dyn wrth natur nid yn unig wedi ei gondemnio i farw, ond y mae afiechyd marwol wedi cymeryd gafael yn ei natur ef, ac heb i Yspryd Duw ei feddyginiaethu trwy rinwedd y feddyginiaeth sydd yn yr efengyl, bydd hwnw yn ddigon am ei fywyd. Nid ydyw Duw yn cyfiawnhau neb ond y rhai sydd o ffydd Iesu, ac nid ydyw ffydd Iesu yn neb heb ei chwmpeini. Ni buasai ond haner peth i ti gael dy gyfiawnhau, ond mae Iesu Grist yn feddyg a "ddichon hefyd yn gwbl iachâu y rhai trwyddo ef sydd yn dyfod at Dduw, gan ei fod ef yn byw bob amser i eiriol drostynt hwy."
Hefyd y mae arweiniad i'w gael yn y deyrnas hon. Addewid fawr iawn ydyw hon. Dywedir am Ysbryd Duw ei fod yn tywys i bob gwirionedd, a'i fod yn arwain hyd y diwedd hefyd. Nid afraid i neb o greaduriaid rhesymol Duw ydyw dylanwad yr Yspryd mawr. Nid oes na dyn nac angel yn safe yn eu nerth eu hunain. Rhaid i bob creadur rhesymol sydd mewn bod, cyn y bydd yn ddyogel, fod yn llaw Duw. Dyn wedi colli Duw a gwrthryfela yn ei erbyn―dyn anianol heb fod ag Yspryd Duw ganddo— sydd mor siwr o fyn'd o'i le ag iddo ysgogi; ond y mae Yspryd y deyrnas yn tywys y pererinion i bob peth da, a hyd y diwedd hefyd. Os oes rhyw le lawer gwell ar yr hen ddaear yma na'i gilydd, ni ryfeddech wel'd dynion yn gwerthu y cyfan i feddianu hwnw; ond nid oes ond manteision ac anfanteision i'w cael yma ar y goreu; ond dyma le eang iawn yn llywodraeth y Duwdod mawr wedi ei neillduo i ddwylaw y Cyfryngwr, y mae yn lle i enill ynddo mewn pob modd heb golli dim sydd yn werth ei gadw. Mae dy fywyd yn safe, bydd dy obaith wedi ei seilio yn dda, bydd saig dy fwrdd yn saith mwy—ti gei lawenydd yn dy galon "mwy na'r amser yr amlhaodd ŷd a gwin" yr annuwiol.
Hefyd, y mae yr amddiffyn i'w gael yn nheyrnas anwyl Fab Duw. Y mae yn beryglus iawn yn mhob man arall. Nid oes ond rhyw gam rhyngot ag uffern yn mhob man arall; nid oes ond anadl einioes rhyngot a myn'd i dragwyddol wae yn mhob man arall; ni byddai ond i'th droed lithro ar ryw lethr, neu i'th geffyl drippio danat, na byddet mewn tragwyddol wae. Ond am y cyfiawn caiff bob peth gydweithio er daioni iddo, a chaiff fod yn fwy na choncwerwr ar ei holl elynion.
Hefyd, y mae y deyrnas hon yn arllwys ei deiliaid i gyd i'r nef. Rhaid dy gael i hon, cyn y gweli deyrnas gogoniant. Pe cawn i fyn'd i ogoniant wedi darfod a'r fuchedd hon, byddai yn dda iawn; wel, rhaid dy gael i deyrnas gras yn gyntaf: felly y mae nid yn unig yn bod, ond felly y mae i fod. "Yr Arglwydd a rydd ras a gogoniant, ni atal Efe ddim daioni oddiwrth y rhai a rodiant yn berffaith." Y mae teyrnas gras yn arllwys ei ei deiliaid i ogoniant o hyd; fel y delont yn aeddfed, y maent yn slippio i ogoniant. Y mae y saint yn diangc yn filoedd o deyrnas gras. Ac os dymunet fyned i'r hen deml fawr tŷ dy dad—" lle mae llawer o drigfanau "rhaid dy gael i'r porth yma.
Hefyd, y mae peth fel hyn yn dyweyd fod deiliaid y deyrnas yma yn safe o ran eu bywyd. Y mae symud a gwaredu yn bod o feddiant y tywyllwch i deyrnas anwyl Fab Duw; ond nid oes rhai yn llithro o deyrnas anwyl Fab Duw i deyrnas y tywyllwch. Gwelais ryw dro gate yn agoryd i fyned allan o ardd bwystfilod: agorai i barc oedd o amgylch yr ardd—ond unwaith yr aech allan drwodd, nid oedd modd dyfod drwy yr un gate yn ol. Nid ydyw y porth sydd yn derbyn pechaduriaid i mewn i deyrnas Mab Duw yn agor i ti fyned allan, nid ydyw hyny yn ol rheol y deyrnas. Y mae dy fywyd yno yn ddiogel yn rhwymyn y bywyd gyda Christ yr Arglwydd.
Hefyd, nid ydyw y deyrnas yma ddim yn bod erioed. Er pan y mae gan Dduw greadigaeth y mae ganddo lywodraeth; ond nid ydyw teyrnas anwyl Fab Duw yn bod erioed. Cynlluniodd Duw hi er tragwyddoldeb, ond nid oedd deiliaid ynddi cyn y dyn cyntaf a edifarhaodd. Yr oedd Duw yn nhragwyddoldeb wedi gosod ei Fab i fod yn ben arni yn y natur ddynol, cyn cymeryd ein natur ni. Nid ydyw i fod yn dragwyddol fel y mae y mae symudiadau i fod iddi. Y mae y Brenin yn myned i roddi y deyrnas i fyny i Dduw a'r Tad, wedi dileu pob pendefigaeth, a phob awdurdod, a nerth, a bydd Duw oll yn oll. Ni bydd dim ond un deyrnas yn bod wedi hyny. Bydd Duw yn ngoruchwyliaeth cyflawnder yr amseroedd yn crynhoi yn Nghrist yr holl bethau sydd yn y nefoedd ac ar y ddaear ynddo ef; bydd dynion ac angylion, cerubiaid a seraphiaid wedi eu casglu at eu gilydd yn un deyrnas ddedwydd, a'i holl wrthryfelwyr wedi eu rhoddi yn y carchar tywyll—nid hyd y dydd mawr—ond o hyny allan. Beth am hyny? Wel, anwyl gyd-ddyn, rhaid i ti dendio yr adeg, rhaid dy gael ynddi cyn y bydd Mab Duw yn dywedyd, "Wele fi a'r plant a roddes Duw imi." Y mae ein hadeg i ddyfod i'r deyrnas yma yn fyr iawn. Caua angeu y drws yn fuan arnynt yn y bedd, lle nad oes moddion, nac ordinhadau, na gweithrediadau, ar feddyliau neb gan Yspryd Duw; ni byddi mewn sefyllfa i'th enill i'r deyrnas os profi angeu unwaith; na, y mae hwnw yn dy drosglwyddo i afael marwolaeth dragwyddol.
Pechaduriaid ydym oll; ond y mae yma noddfa yn nheyrnas anwyl Fab Duw y tâl i ti droi dy wyneb yma. "Yr wyf fi wedi gwrthryfela llawer yn erbyn anwyl Fab Duw," meddai rhywun. "Tro dy wyneb yma; maddeuir i ti y cwbl, ac ni chei faddeuant ar gyfrif neb ond yn enw yr hwn sydd Dywysog maddeuant;" tro dy wyneb yma, ac ymddygir yn anrhydeddus iawn; un honourable iawn ydyw Duw—maddeua i ti yn llawn—maddeua i ti o'i galon heb edliw beiau; pe baet yn dechreu cyffesu yn dy erbyn dy hun dy anwireddau i'r Arglwydd, maddeua i ti heb son am yr un. Teyrnas a ddeil y goleuni ydyw hon, y mae wedi ei sylfaenu mewn cyfiawnder, ac wedi ei chadarnhau mewn barn.[1]
Nodiadau
[golygu]- ↑ Ysgrifenwyd wrth ei gwrando gan Mr. HUGH JONES, Dolgellau.