Neidio i'r cynnwys

Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern/Pennod III

Oddi ar Wicidestun
Pennod II Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern

gan William Rees (Gwilym Hiraethog)

Pennod IV

Pennod III

Llythyr y Parch. T. Pierce ar nodwedd a llwyddiant llafur gweinidogaethol Mr. WILLIAMS yn Llynlleifiad—Ei gystudd—Ei ymweliadau â Chymru—Ei symudiad yn ol i'r Wern—Graddau o adferiad—Ei ail gystudd—Cystudd a marwolaeth ei ferch hynaf—Ei ddyddiau olaf yntau—Ei farwolaeth a'i gladdedigaeth—Cystudd a marwolaeth ei fab hynaf.

"At y Parch. W. Rees, Dinbych.

"Liverpool, Meh. 24, 1841.

"ANWYL FRAWD,—Mae y gorchwyl teilwng sydd genych mewn llaw, sef crynhoi ynghyd hanes bywyd yr haeddbarch a'r byth-goffadwriaethol Mr. WILLIAMS, o'r Wern, yn beth ag sydd yn tynu sylw y wlad arnoch, a'i golwg atoch, a'i dysgwyliad wrthych, mewn pryder ac awyddfryd mawr.

"Mae teilyngdod gwrthddrych eich Cofiant y fath, fel y geilw ar bawb a wyddent ychydig am dano i'ch cynnorthwyo, trwy anfon i chwi y pethau hyny yn ei gymmeriad a'i hynodent fel un yn rhagori ar bawb yn ei oes. Diau nad gormod dweyd hyny am dano ef,

Dyn yn ail o dan y nef—i WILLIAMS
Ni welir, rhaid addef;
Myrdd welir mewn mawr ddolef,
Drwy y wlad ar ei ol ef.

"Gan fy mod wedi cael y fraint o gyd-weinidogaethu ag ef yn y dref hon am dair blynedd, a'r rhai hyny y blynyddoedd diweddaf o'i weinidogaeth, meddyliais y gallai ychydig o'i hanes yn ein plith, am yr yspaid hwnw, fod o ryw ddefnydd i chwi. Dir y gellir dweyd am dano ef, fod ei oes i gyd wedi bod o ddefnydd mawr yn yr holl eglwysi cynnulleidfaol trwy Gymru, ac o fendith fawr i ni fel cenedl; ond gyda phriodoldeb y gellir dweyd am dano, fod ei lwybr fel y goleuni, yr hwn a lewyrchai fwy-fwy hyd estyniad llinyn y cyhydedd tragywyddol yn nef y nef. Felly anrhydeddwyd Llynlleifiad â'i weinidogaeth pan oedd fel tywysen aeddfed, ac amlygiadau eglur arno ei fod yn ymyl y nefoedd.

"Dechreuodd ei weinidogaeth yma yn mis Hydref, 1836. Effeithiodd ei ddyfodiad i'n plith ar y cynnulleidfaoedd yn rhyfeddol; ac er y dywedai rhai mai fflam a ddiffoddai yn fuan ydoedd, etto mae yn ddigon amlwg ei bod yn parhau hyd heddyw, a phob arwyddion y pery hefyd hyd ddiwedd amser, ïe, i dragywyddoldeb. Achosodd ddeffroad, gorfoledd, a phryder mawr yn yr eglwysi, a bu o fendith a llesâd mawr i grefydd yn y dref hon, ac i lawer o eneidiau; teimladau lluaws o'r rhai sydd yn gynnes iawn at ei enw, ac a barchant ôl ei draed mewn diolchgarwch i'r Arglwydd am ei anfon yma, a chael eistedd dan ei weinidogaeth.

"Ni ddangosodd yn ei weinidogaeth gyhoeddus ond ychydig o'r hyawdledd a'r tanbeidrwydd a'i hynodent flynyddoedd yn ol, etto yr oedd y fath nerth yn ei eiriau, awdurdod yn ei ymresymiadau, a'r fath blethiad o ddifrifoldeb a mwyneidd-dra yn ei ysbryd, fel y byddai yn sicr o gael gafael yn meddwl yr holl gynnulleidfa. Nid boddloni cywreinrwydd, na choglais tymherau dynion a amcanai efe, ond cael gafael. ddifrifol yn eu teimladau a'u cydwybodau oedd ei unig ymgais; a braidd bob amser y llwyddai yn hyny. Nid anfynych y gwelid y dagrau tryloywon yn treiglo dros ruddiau hyd y nod y rhai caletaf yn y gynnulleidfa.

"Bu yn foddion i ddwyn yr eglwys dan ei ofal i wisgo ei blodau yn fuan, a blodeuo fwy-fwy yr oedd tra y bu yn aros gyda ni; a dilys y gellir dweyd heb betruso, mai ffrwythau toreithiog dilynol i'r blodau hyny oedd y diwygiad nerthol a fu yma yn fuan ar ol ei ymadawiad; ac y mae yr eglwys hyd heddyw yn parhau i fod yn llawen fam plant, ac arwyddion o foddlonrwydd Iôr ar ei hymdrechiadau.

"Yr oedd Mr. W. yn llawn o ysbryd yr hen ddiwygwyr: gwrthsafai bob math o gadwynau gorthrwm, yn wladol a chrefyddol. Gwyddom yn dda fod llawer o'r ysbryd hwn ynddo trwy ei oes, ond wedi dyfod yma bu yn ddiwygiwr mwy cyflawn nag erioed: torodd trwy a thros yr hen ffurfioldeb a'r gwastadrwydd oeddynt fel cadwynau yn lleffetheirio crefydd yn yr eglwysi. Dangosai y mawr bwys a'r anghenrheidrwydd o fod pob aelod yn yr eglwys wrth ei waith, chwiorydd yn gystal â brodyr; torodd waith i bawb, a bu'n foddion, i raddau helaeth, i godi pawb at ei waith.

"Nid oedd ef yn cyfyngu ei ddefnyddioldeb i'r pwlpid yn unig, ond yr oedd ei holl fywyd yn pregethu, ac megys yn gyssegredig at lesâu dynion yn mhob man: tanbeidiai Cristionogaeth yn ei holl gyfeillachau; seiniai gras yn ei eiriau, a phelydrai efengyl yn ei wedd. Yr oedd ei fywyd santaidd, a'i ysbryd hynaws, yn ennill iddo barch a chariad oddiwrth y rhai mwyaf anystyriol; ac effeithiodd trwy ei ymddyddanion personol er llesâd tragywyddol i lawer o eneidiau.

"Sefydlodd a chefnogodd amrywiol o gymdeithasau daionus, y rhai sydd etto yn flodeuog a llwyddiannus yn ein plith; a thra y byddo y rhai hyn ar draed, byddant yn ddysglaer gof-golofnau o lafur, ymdrech, a doethineb yr hybarch Mr. WILLIAMS. Mynych goffeir ei enw gyda theimladau hiraethlon, a dagrau tryloywon, yn nghymdeithas y Mamau hyd heddyw, yr hon gymdeithas a sefydlodd ac a bleidiodd efe; yr hon hefyd sydd wedi bod o fendith fawr, ac sydd hefyd a'i heffeithiau daionus yn amlwg mewn llawer o deuluoedd. Felly, nid yn unig y mae ei ôl ef ar yr eglwysi, ond hefyd yn nhai ac anneddau ugeiniau o Gymry Llynlleifiad.

Sefydlodd hefyd gymdeithas y Merched Ieuainc, yr hon sydd etto yn parhau yn flodeuog, gweithgar, defnyddiol iawn. Annogai ef y merched ieuainc i fywiogrwydd a ffyddlondeb, ac y mae ôl ei gynghorion i'w weled ar y gymdeithas, ac yn cael eu cadw mewn ymarferiad yn ymddygiadau ac ymdrechiadau ei haelodau hyd heddyw; ïe, dylaswn ddywedyd hefyd yn eu gweddiau taerion, a'u dagrau. Diau y gellir edrych ar y cymdeithasau hyn fel rhyw gynnorthwyyddion (auxiliaries) neillduol i'r eglwysi.

"Efe a sefydlodd hefyd gymdeithas y Dynion Ieuainc. Ar hon hefyd y mae argraffiadau amlwg o'i gynghorion a'i gyfarwyddiadau tadol, y rhai ni ellir yn hawdd eu dileu o feddyliau blodau y cynnulleidfaoedd.

"Pleidiai sobrwydd a dirwest yn wresog a chadarn, etto'n foneddigaidd, ac yn deilwng o hono ei hunan. Yr oedd ei holl ymresymiadau yn hynaws ac yn ddengar, heb gablu neb. Yr oedd tynerwch ei feddwl, haelwychder ei farn am, a'i ymddygiadau tuag at y rhai nad oeddynt yn hollol o'r un farn ag ef, yn rhagori ar bawb a welais i erioed; llwyddodd felly er ennill llawer iawn o feddwon a diotwyr i dir sobrwydd, a llawer hefyd i roi cam yn mhellach yn mlaen, sef i dir crefydd a duwioldeb. Mewn gair, nid oes un sefydliad, na changen o grefydd yn ein plith, fel enwad o Annibynwyr Cymreig yn y dref hon, nad oes ei ôl ef arnynt oll, er eu gwellhad a'u cadarnhad. Rhedai ei ysbryd ef trwy bobpeth y rhoddai ei law arno.

"Mae ëangder a chyssondeb ei olygiadau duwinyddol, nefolrwydd awenyddawl ei ehediadau, tanbeidrwydd a gwreiddioldeb ei ddrychfeddyliau, &c., yn bethau mor adnabyddus, fel nad oes eisiau i mi ddweyd dim am danynt yn y llythyr hwn.

"Yr oedd yn rhagori hefyd fel athronydd ar bawb a adwaenais i erioed. Adwaenai ddynion o ran eu tueddiadau a'u hegwyddorion yn fuan iawn; a dewisai ei brif gyfeillion o ddynion, nid wrth eu siarad a'u tafodau teg, ond dynion o egwyddorion cywir, a sefydlogrwydd meddwl; yn rhai wedi profi eu hunain felly yn y tywydd, a than y croesau. Nid ymddiriedai un amser i ddynion poethlyd, y rhai a redent mewn sel benboeth o flaen pob gwynt.

"Yr oedd fel pe buasai wedi cyrhaedd adnabyddiaeth berffaith o natur trwyddi oll. Yr oedd ei gwmni a'i gyfeillach bob amser i mi yn werthfawr iawn, ac yn llawn o addysg ac adeiladaeth. Pob tro yr eisteddwn yn ei gwmni, byddai fy meddwl yn cael ei eangu, a'm hysbryd ei loni: ni chodais o'i gyfeillach erioed, heb achos i farnu fy mod wedi cael rhyw adeiladaeth. Ymddangosai ef bob amser nid fel un am ragori ar bawb arall, ond am ddysgu ereill i ragori. Yr wyf yn credu mai llawenydd ei galon fuasai fod ei frodyr oll yn well pregethwyr nag ef ei hun. Byddai yn llawenhau yn fawr pan welai arall yn rhagori arno mewn unrhyw ddawn neu dalent; cefnogai hyny mor dadol gyda'r sirioldeb mwyaf.

"Wedi cyffwrdd â'r tant hwn, sef fy nghyfeillachau personol gydag ef, nid wyf yn gwybod pa beth i ddweyd, na pha fodd i dewi. Colled fawr i mi oedd ei ymadawiad; yr wyf yn teimlo felly, a diau y teimlaf yn hir. Gellir dweyd yn eofn, fod y Dywysogaeth wedi cael colled ar ei ol ef; colled a deimlir yn hir yn yr holl eglwysi cynnulleidfaol; ond colled fwy yn yr eglwysi oedd dan ei ofal neillduol. Teimlir y golled hon gan ein holl frodyr yn y weinidogaeth; ond, o bawb, fel person unigol, (a rhoi ei anwyl a'i serchog blant yn eithriad,) yr wyf yn gorfod credu mai y fi a gafodd y golled fwyaf. Yn y golled hon collais frawd serchog a thad tyner ar unwaith—athraw a hyfforddwr tirion a doethïe, plaid a diffynwr ffyddlon a thrwyadl, fel y gallaf ddwedyd

Os gellwch, rhoddwch mewn rhi'—y cwynion
Wna cannoedd o'i golli :
Ni ddichon fod modd ichwi
Allu dweyd fy ngholled i.

"Am y tair blynedd gyntaf o'm gweinidogaeth yma, cefais y fraint a'r anrhydedd o gyd-lafurio â'r serchog gyfaill a ffyddlon frawd, Mr. Breese. Ei ymadawiad ef i Gaerfyrddin fu'n ergyd drom i'm teimladau, ac yr wyf yn teimlo y golled hòno hyd heddyw; collais y pryd hyny frawd a chyfaill caredig iawn. Am yn agos i ddwy flynedd wedi hyny, bu'm yma yn amddifad mewn ystyriaeth; dim ond ymweliadau brodyr dyeithrol yn eu tro. Gyda fy mod yn dechreu eu hadwaen, byddent yn ymadael, a thrwy hyny ail waedu y clwyf am ymadawiad Mr. Breese.

"Y tair blynedd ganlynol bu yr hybarch dad, Mr. W., gyda fi; a gallaf ddweyd ei fod ef a Mr. B. wedi bod o gymhorth a lles mawr i mi, fel nas gallaf byth eu hanghofio.

"Yr oedd ymadawiad Mr. W. yn fwy annyoddefol, ac yn taro'n drymach yn un peth, am fod effeithiau ymadawiad Mr. B. wedi tyneru y teimlad, yn fwy parod i dderbyn argraff ddyfnach, felly yr oedd fel yn ail-waedu hen archoll; peth arall, am mai MARW a wnaeth Mr. W. Cefais y fraint o weled Mr. B. droion ar ol ei ymadawiad, a gobeithio y caf etto; ac y mae modd cael gohebu trwy lythyrau gydag ef; ond Mr. W., "Teithiodd lwybr ar hyd yr hwn ni ddychwel," ac nid oes fodd cael llythyr o'i hanes ef na'r wlad y preswylia: "Ni ddychwel efe ataf fi, ond myfi a af ato ef." Ein cysur, yn ngwyneb yr holl ergydion yw, fod Pen yr eglwys yn fyw, ac y medr efe ofalu am Sïon, a gwisgo rhyw Eliseus â mantell yr Elias hwn etto. Bydded i hyn ein cynhyrfu i fwy o ymdrech a ffyddlondeb yn ngwinllan Crist. A pharotoer ni i gael ail-gyfarfod â'n cyfeillion etto mewn gwlad na bydd raid ymadael mwy.

Ydwyf, &c., "THOMAS PIERCE."

Er cryfed y darluniad a rydd ein parchedig frawd, yn y llythyr uchod, am ei "waith a llafur ei gariad," yn ystod tymhor byr ei weinidogaeth yn Llynlleifiad, diau y tystia'r eglwys yno, ar ol ei ddarllen, nad oes ynddo ddim uwchlaw'r gwirionedd, ond yn hytrach na fynegwyd y cwbl a allesid.

Er ei fod, bellach, yn tynu tua thriugain oed, yr oedd ei ysbryd mor fywiog, a'i alluoedd mor gryfion; ei feddyliau mor dreiddiol, a'i awyddfryd gweithgar mor awchus, ag y buasent erioed. Adnewyddai ei ieuenctyd fel yr eryr;' ond er hyny yr oedd arwyddion dadfeiliad i'w gweled yn lled amlwg yn ei babell—ei ddyn oddiallan. Yr oedd ei wynebpryd yn graddol gulhau, a'i ysgwyddau yn araf grymu yn barhaus wedi marwolaeth Mrs. Williams, yr hyn a brofai fod rhyw estron yn' dystaw fwyta ei gryfder, a bod ei gyfansoddiad wedi dechreu rhoddi ffordd. Edrychai ei frodyr a'i gyfeillion lliosog ar yr arwyddion hyn gyda dwys bryder.

Yn nechreu Gwanwyn 1838, cychwynodd ar ddiwrnod anghyffredin o oer a drychinllyd, i fyned i Heol Mostyn, i gyfarfod Dirwestol; safodd yn hir iawn yn y gwynt a'r gwlaw ar y Pier Head, i ddysgwyl i'r agerdd-long hwylio; rhoddwyd ar ddeall o'r diwedd ei bod yn rhoddi i fynu fyned y diwrnod hwnw, o herwydd y tywydd; ond ni roddai WILLIAMS i fynu; aeth i ymofyn am y cerbyd oedd ar gychwyn i Gaernarfon. Rhedodd y rhan fwyaf o'r ffordd o'r Pier Head i swyddfa'r cerbyd, nes oedd yn chwys drosto, a chychwynodd yn union yn y cyflwr hwnw, yn wlyb at y croen gan y gwlaw, ac yn wlyb o chwys hefyd, a daeth gyda'r cerbyd i Dreffynnon, a llettyodd yno y noson hòno. Cyn cyrhaeddyd yno, teimlai iasau yn ymaflyd ynddo, a fferdod a chrynfa drwyddo oll. Nid oedd nemawr well drannoeth, ond daeth i Mostyn, a chymmerodd ei ran yn ngwaith y cyfarfod, ond gydag anhawsdra mawr y gallai sefyll i fynu. Y dydd canlynol, ymddangosai ryw faint yn well, a cherddodd gyda'i gyfeillion, Rees, Dinbych; Pugh, Mostyn; a Hughes, Treffynnon, i Bagillt, i gynnal cyfarfod Dirwestol yno; daliodd yn lled ganolig drwy y dydd, ond cafodd noswaith led galed; y boreu drannoeth, ymddangosai yn isel ac yn wael iawn. Dychwelodd y boreu hwnw yn ol i Lynlleifiad, ac mor gynted ag y cyrhaeddodd adref, aeth i'r gwely yn wael iawn, lle y bu yn gorwedd am rai wythnosau, a phob tebygoliaeth, am hir ysbaid, na buasai yn cyfodi drachefn.

Ei afiechyd, fel y sylwyd, oedd anwyd trwm. Yr oedd yn gwisgo ymaith gyda phrysurdeb anarferol. Methai y meddygon yn lân yn eu cais i'w dwymno a'i chwysu, ac nid oedd ganddynt ond gobaith gwan iawn am ei fywyd; ond, pa fodd bynag, llwyddwyd i'w chwysu o'r diwedd, a dechreuodd loni a chryfhau ychydig yn raddol, ond yr oedd peswch caled yn parhau arno, ac yn gwrthod gollwng ei afael o hono, er pob ymdrech.

Wedi iddo ymgefnogi ychydig, a dyfod yn ddigon galluog i'r daith, cynghorai ei feddyg ef i ddyfod drosodd i Gymru, fel y moddion mwyaf effeithiol i'w gryfhâu, a chael buddugoliaeth ar ei elyn—y peswch. Mor fuan ag y teimlai ei hun yn alluog i'r daith, daeth trosodd i dŷ y caredigion hoffus hyny i weision ac achos Crist, Mr. John, a Miss S. Jones, o Nanerch, swydd Fflint, lle y cafodd dderbyniad serchoglawn, ac ymgeledd dirion a gofalus am oddeutu tair wythnos. Teimlai ei hun yn gwellhau i raddau tra y bu yno, a meddyliodd y gwnaethai marchogaeth les iddo; ac wedi benthyca ceffyl i'r pwrpas, cymmerodd daith am bythefnos drwy ranau o sir Gaernarfon a Meirionydd, a dychwelodd yn ol wedi sirioli a chryfhau i raddau; ond yr oedd ei beswch o hyd yn parhau, fel yn benderfynol na chawsai na chyfferi meddygol, nac awyr hen wlad anwyl ei enedigaeth a'i weinidogaeth, beri iddo ollwng ei afael o'i ysglyfaeth.

Cyn cychwyn oddicartref i'r daith hon, ysgrifenodd at ei fab ieuengaf, yr hwn oedd y pryd hyny yn Llanbrynmair. Y pigion canlynol o'r llythyr hwnw a ddangosant agwedd a theimlad ei feddwl ei gystudd:yn

"Llynlleifiad, Ebrill 16, 1838.

"ANWYL BLENTYN,—Y mae yn ddrwg genyf fod eich teimladau mor ofidus o herwydd fy afiechyd; yr oeddwn yn ofni hyny o herwydd bod cymmaint o straeon yn cael eu taenu ar hyd y wlad. Mi a fum yn sal iawn, ond yr oedd Dr. Blackburn yn lled hyderus yr amser gwaethaf a fu arnaf; dywedai fod y lungs yn iach.

Yr wyf yn dyfod yn well bob dydd yn awr—yn pesychu llai, ac yn dechreu teimlo gwell archwaeth at fy mwyd, yr hwn hefyd sydd yn cynnyddu bob dydd.

Y mae y Dr. yn fy nghynghori i fyned i'r wlad am dair wythnos neu fis mor gynted ag y delo y tywydd yn ffafriol. Yr wyf yn bwriadu myned i Nanerch at Miss Jones, bydd yno le cysurus iawn i mi.

"Yr wyf yn gobeithio, ac yn gweddio, ar fod yr afiechyd hwn o fendith fawr i mi, i'm dwyn i fyw yn nes at Dduw, ac i bregethu Crist yn well nag y darfu i mi erioed.

"Yr oeddwn yn teimlo awydd i fyw ychydig yn hŵy er mwyn fy mhlant. Y mae llawer iawn o weddïau wedi, ac yn cael eu hoffrymu i'r nef ar fy rhan. * * * * Anwyl blentyn, gobeithiaf eich bod yn ymdrechu cynnyddu a myned rhagoch mewn dysg, ond yn enwedig mewn crefydd; crefydd yw sylfaen bywyd defnyddiol. Ffarwel, anwyl William.

Ydwyf, eich cariadlawn "DAD."

Erbyn iddo ddychwelyd adref i Lynlleifiad, nid oedd ofnau ei gyfeillion am dano wedi cael eu cwbl symud, na'u gobeithion am ei adferiad yn cael seiliau cryfion i fod yn hyderus, oddiwrth ei ymddangosiad, er fod cryn gyfnewidiad er gwell wedi cymmeryd lle. Ni chafodd aros gartref ond ychydig drachefn; cynghorodd ei feddyg ef i gymmeryd mordaith; a phenderfynodd fyned i Abertawy. Dygwyddodd fod cadben llong o Abertawy ag oedd yn adnabyddus iddo yn Llynlleifiad y pryd hwnw, yr hwn a gynnygiai ei gymmeryd gydag ef, ac felly y bu. Bu orfod i'r llestr, o herwydd gwynt gwrthwynebus, droi i borthladd Caergybi; a chafodd felly gyfleusdra am y tro olaf i dalu ymweliad â'i anwyl gyfeillion yn y dref hòno. Cawsant eu cadw yno am dridiau neu bedwar. Sylwai y Parch. W. Griffiths ei fod mor fywiog a siriol ei ysbryd ag y gwelsai ef erioed; a bod ei gyfeillach a'i ymddyddanion yn hynod fuddiol ac adeiladol.

"Yr wyf yn hyderu (meddai mewn llythyr ataf o Gaergybi) y gwna y fordaith lawer o les i mi. Yr wyf yn ceisio meddwl fy mod yn pesychu llai yn barod. Taflodd y gwynt ni yma, ac yr oedd yn dda genyf gael ymweled â'r cyfeillion yn y lle hwn. Bwriadwn hwylio y fory," &c.

Wedi cyrhaeddyd Abertawy, cafodd wahoddiad a derbyniad caredig i letya gan Mr. a Mrs. Hughes, Yscety Isaf, gerllaw y dref hono. Y goffadwriaeth ganlynol am dano, tra yn lletya yno, a dderbyniodd yr ysgrifenydd mewn llythyr oddiwrth Mr. Thomas Nicolas, pregethwr ieuanc gobeithiol perthynol i eglwys Trefgarn, swydd Benfro, yr hwn sydd yn bresennol yn fyfyriwr yn Athrofa Windsor, Llynlleifiad, dan arolygiaeth y Parch. Mr. Brown:

"Trefgarn, Ion. 4, 1841.

"ANWYL SYR,—Deallaf eich bod wrth y gorchwyl o gasglu Cofiant am y diweddar Barch. Mr. WILLIAMS. Gwelais ar amlen y DYSGEDYDD ddymuniad oddiwrthych ar i bawb a wyddent rywbeth o bwys am dano, ei anfon atoch. Efallai y bydd yr hanesyn byr a ganlyn o werth genych.

"Bûm yn ddiweddar drwy ran o swydd Forganwg; bûm yn lletya un noson yn Yscety Isaf—y man y lletyai Mr. WILLIAMS, pan y bu drosodd am ei iechyd, a lle y mae ei goffawdwriaeth yn anwyl a bendigedig. Dywedai Mrs. Hughes, fod ei ymddygiad, tra y bu yno, yn wir ddelw o symledd, gostyngeiddrwydd, a duwiolfrydigrwydd. Ofnai yn fawr rhag bod o ddim trafferth nac anghyfleusdra i neb; byddai yn hynod ddiolchgar am y gymmwynas leiaf; ac ymdrechai wneuthur rhyw ad-daliad am bob un. Ymddangosai yn dra awyddus am adferiad iechyd, fel y gallai wneyd mwy o ddaioni; cwynai yn aml iawn nad oedd wedi gwneuthur nemawr iawn o ddaioni yn ei oes. 'Yr wyf yn penderfynu, yn nghymhorth y nef, (meddai,) os caf wella, i bregethu yn well, a gweithio mwy nag erioed.'

"Daliodd Mrs. Hughes sylw arno un boreu, ei fod yn edrych yn hynod o bruddaidd ac isel ei feddwl; a chan dybied mai gwaeledd ei iechyd, ac nad oedd yn gwellhau cystal â'i ddysgwyliad, oedd yr achos, hi a ddywedodd wrtho, Yr wyf yn rhyfeddu atoch, Mr. Williams, fod gwr o'ch bath chwi yn gofidio wrth feddwl am farw, mwy nâ phe byddech yn meddwl am fyw.' Taflodd olwg dreiddiol arni, ond methodd ateb gair; crymodd ei ben ychydig, a sylwai Mrs. Hughes fod y dagrau yn llifo ar hyd ei ruddiau: pan welodd hithau hyny, gadawodd ef, gan fyned i barotoi boreufwyd. Wedi i'r teulu ymwasgaru, galwodd arni, ac wedi iddi eistedd gerllaw iddo, dywedai, Dywedasoch gyneu, eich bod yn rhyfeddu ataf fi, fy mod yn drwm fy nghalon gyda golwg ar farw, yn awr mi a ddywedaf i chwi, y mae arnaf fawr awydd byw i wneyd llawer mwy dros Grist nag a wnaethum erioed. O! nid wyf wedi gwneuthur dim! A pheth arall, dymunwn fyw nes gweled fy mhlant wedi tyfu i fynu i allu gofalu am danynt eu hunain.'

Yr wyf yn meddwl mai drannoeth wedi'r ymddyddan uchod yr aeth Mr. WILLIAMS i Abertawy heb feddwl llai na dychwelyd yn ol i'r Yscety eilwaith, ond cafodd lythyr yn y dref, oddiwrth ei deulu gartref, yn ei hysbysu fod ei fab hynaf wedi dychwelyd adref o'r Coleg i dalu ymweliad â'i deulu, penderfynodd i fyned adref y diwrnod hwnw gyda'r agerdd-long, 'rhag' ebe efe, 'na chaf gyfle i'w weled ef byth mwy.' Felly ymadawodd â Morganwg. Yr eiddoch, &c.,

"THOMAS NICOLAS."

Cafodd gryn lawer o les yn y daith hon, yr oedd ryw gymmaint yn gryfach erbyn dychwelyd adref; ond dilynodd ei hen beswch ef bob cam o'r daith yn mlaen ac yn ol; methodd awyr y môr na'r mynydd a chael ganddo ollwng ei afaelion o hono.

Penderfynodd gynnyg pregethu unwaith drachefn, wedi cyrhaedd adref; nid wyf yn gwybod ddarfod iddo anturio pregethu er dechreuad ei afiechyd cyn y Sabboth cyntaf wedi iddo ddychwelyd o'r Deheudir; yr oedd dan gaeth waharddiad ei feddyg i beidio; yr oedd yr iau hon yn gorwedd yn anesmwyth iawn ar ei war; yr oedd fel "llô heb ei gynefino" â hi, a mynych teimlai awydd i ddryllio y rhwymau, a thaflu y rheffynau hyn oddiwrtho. Cyn ei gychwyn i'r Deheudir, ysgrifenai ataf, a dywedai yn ei lythyr, "Yr wyf gryn lawer yn well, ac yn meddwl y gallwn bregethu, ond dywed y Doctor nad gwiw i mi sôn—I dont like that at all." Dro arall mewn ymddyddan, dywedai, "Byddai yn dda genyf gael gwybod barn onest y meddygon am danaf; os ydynt yn meddwl na allaf wellhau, mi a bregethwn fy ngoreu tra daliai yr ychydig nerth sydd genyf—y mae yn garchar mawr i mi fod fel hyn.' Pa fodd bynag, y Sabboth crybwylledig, tòrodd bob cyfraith ag oedd ar y ffordd, ni allai ymattal yn hwy. Yr oedd cenadwri y cymmod "yn ei galon, yn llosgi megys tân, wedi ei chau o fewn ei esgyrn, blinasai yn ymattal, ac ni allai beidio." Ei destun y nos Sabboth hwnw, ydoedd Act. 24, 25, "Dos ymaith ar hyn o amser, a phan gaffwyf amser cyfaddas mi a alwaf am danat." Yr oedd rhyw ddifrifolder a dwysedd anghyffredinol yn ei ddull y waith hon, a rhyw ddylanwad anarferol gyda'r genadwri. Yr hen dân a fuasai yn llosgi cyhyd yn ei galon, yn rhedeg allan fel hylif poethlym, nes oedd y calonau caletaf yn dadmer yn ei wres. Diwreiddiodd corwynt ei weinidogaeth y noson hòno lawer o hen dderi cedyrn ag oeddynt wedi dal llawer rhuthr nerthol cyn hyny; a diau y gellir edrych ar yr oedfa hono, fel rhagredegydd i'r diwygiad grymus a dòrodd ar eglwys a chynnulleidfa y Tabernacl yn lled fuan ar ei hol.

Wedi unwaith ail ymaflyd yn ei waith, nid hawdd fuasai cael ganddo ei ollwng eilwaith; ac felly aeth yn mlaen gan bregethu, weithiau unwaith, ac weithiau ddwywaith bob Sabboth am gryn dymmor, ac nid oedd yn teimlo bod pregethu yn gwneuthur nemawr ddim niwed iddo, ac yr oedd yn llawen dros ben o herwydd hyny. Fel hyn yr oedd yr haul megys yn dechreu ad-dywynu ar ei babell, ei obaith ei hun, a gobeithion ei gyfeillion lluosog yn dechreu cryfhau am estyniad ei oes dros rai blynyddau yn mhellach.

Cynghorwyd ef drachefn i fyned cyn diwedd y flwyddyn hon i ffynnonau Llandrindod, a hwyliodd tuag yno gyda'i ferch hynaf; yr oedd hithau hefyd yn bur wael ei hiechyd, profodd y ddau lesâd mawr oddiwrth y dyfroedd, a dychwelasant adref wedi cryfhâu a sirioli yn dda.

Daliodd yn lled lew drwy y gauaf dilynol, pregethai ddwywaith yn mron bob Sabboth. Ond nid oedd y seibiant hwn ondo fyr barhad; oblegid ar noson y rhyferthwy mawr, y pummed o Ionawr, (fel y crybwyllwyd o'r blaen) taflodd y rhuthrwynt y ffumer, yr hon a ddisgynodd ar dô y tŷ, gan ei ddryllio, ac ymdywallt i'r llofft yn garnedd fawr ar wely yno, yn yr hwn, drwy drugaredd, nid oedd neb yn cysgu y noswaith hono. Parodd hyn ddychryn nid bychan i'r teulu, cyfodasant o'u gwelyau, a chafodd y ferch hynaf anwyd trwm, yr hwn, yn nghyd â'r dychryn, a'i daliodd pan oedd eisioes mewn cyflwr o fawr wendid, ac a fu yn foddion i brysuro o leiaf ei marwolaeth. O'r dydd hwnw allan, parhaodd i nychu a gwaelu hyd ei thrancedigaeth. Yr oedd ef yn neillduol o hoff o'i ferch hon, ac yn wir, yr oedd pawb a'i hadwaenent yn ei mawr hoffi, o herwydd ei symledd duwiolfrydig, ei challineb dymunol, ei thymher hynaws, a'i hymddygiad caredig a llednais. Rhaid fod edrych ar y fath flodeuyn prydferth yn gwywo gerbron ei lygaid o ddydd i ddydd, yn ergyd trwm iawn i'w deimladau; gweled yr hon oedd dymuniant ei lygaid, ag oedd erbyn hyn wedi dyfod yn alluog i gymmeryd gofal llywodraeth amgylchiadau ei dŷ, a'r hon y gobeithiasai y cawsai weinyddiaeth ei llaw dyner yn nyddiau henaint a nychdod; ei gweled yn prysuro ymaith o'i flaen, ar ol ei mham, ac yn arwyddo y buasai iddi yn fuan ei adael ef a'r plant ieuengaf yn amddifaid wylofus ar ei hol, oedd raid fod yn chwerwder chwerw iddo. Ond er llymed oedd y prawf hwn iddo yn ei wendid, ymgynnaliodd dano uwchlaw pob dysgwyliad, fel y cafwyd achlysur i sylwi o'r blaen. Llewyrchodd ei nodwedd fel Cristion ymroddgar, fel plentyn ymostyngar i ewyllys ei Dad nefol, yn dra rhagorol yn ystod amser y profiad tanllyd hwn. Nid ymroddiad costogaidd ysbryd ystyfnig, yr hwn a "chwanega ddig," ond "ni waedda," pan groeser ei ewyllys a'i deimlad, oedd yr eiddo ef, ac nid un tawel yn unig ydoedd, ond un siriol ewyllysgar, parod a llawen, ymddangosai yn hollol megys pe na buasai ganddo un ewyllys na theimlad o'r eiddo ei hun yn yr achos. Pregethasai lawer ar y rhinwedd Cristionogol hwn, ac yn awr nerthwyd ef yn rhyfedd i osod esiampl ragorol o honi. Mynych y dywedai wrth ei chyflwyno mewn gweddi, "Yr ydym yn ei gadael yn dy law di, Arglwydd, a dyna y lle goreu iddi, y mae yn well ac yn ddiogelach yno, nag yn un man arall; cymmer hi, a chymmer dy ffordd gyda hi."

Mawr oedd gobaith a dysgwyliad ei gyfeillion, buasai gwyneb blwyddyn tymmor hâf y fl. 1839, yn adnewyddiad iddo ef a'i anwyl ferch; ond nychu, a gwaelu yn brysur oedd hi; ac adnewyddu ei nerth yn hytrach yr oedd ei beswch a'i anhwyldeb yntau. Pa fodd bynag, parhaodd i fyned yn mlaen yn ei lafur gweinidogaethol, ac i dalu ymweliadau achlysurol â'i frodyr a'r eglwysi yn y Dywysogaeth, hyd ddiwedd yr hâf hwnw.

Tua diwedd Awst y flwyddyn ddywededig, dywedodd y meddyg wrtho fod yn rhaid iddo adael Llynlleifiad, a dychwelyd yn ol i Gymru, onidê, nad oedd dim gobaith y byddai efe nac Elizabeth fyw ond ychydig amser; ac mai dyna yr unig foddion tebygol i'w gwellhau. Yr oedd ei afael yn yr eglwys a'r gynnulleidfa yn y Tabernacl, yn dyn iawn; a'u gafaelion hwythau ynddo yntau yn dynach, dỳnach, bob dydd: ond yn awr, rhaid oedd iddynt ollwng eu gilydd, er mor anhawdd; gwelai ef, a gwelai yr eglwys mai dyna oedd trefn y nef, a llwybr dyledswydd; ac felly yn fuan wedi hyn, rhoddodd ofal gweinidogaethol yr eglwys i fynu, wedi tair blynedd o lafur diflin a llwyddiannus, ond hyny o attaliad a barasai y cystudd arno.

Pan ddeallasant eglwysi y Wern a'r Rhos, ei fod dan orfod i symud yn ol i Gymru, cytunasant, er eu mawr anrhydedd, i anfon gwahoddiad caredig iddo i ddychwelyd yn ol atynt i dreulio gweddill ei ddyddiau gyda'r hen braidd y buasai yn eu ffyddlon fugeilio flynyddau lawer; canys yr oeddynt heb weinidog er pan ymadawsai Mr. WILLIAMS. Derbyniodd eu gwahoddiad, daeth drosodd, a chymmerodd dŷ, y nesaf i'r hwn y buasai byw ynddo o'r blaen cyn symud i Lynlleifiad.

Nos Sabboth, Hydref 20, 1839, traddododd ei bregeth ymadawol yn Llynlleifiad, i gynnulleidfa luosog a galarus. Yr oedd, yn groes i bob dysgwyliad, yn hynod o fywiog a hwylus ei ysbryd; pregethodd yn mhell dros awr gyda rhwyddineb anghyffredin; yr oedd golwg effeithiol ar y gynnulleidfa, y dagrau yn treiglo dros y gwenau boddhaol a eisteddent ar eu gwynebau. Haws yn ddiau fyddai dychymmygu teimladau y fath gynnulleidfa ar y fath achlysur, nag a fyddai eu darlunio. Diau fod yno lawer yn ei wrando dan yr argraffiad na chaent weled ei wyneb, na chlywed ei lais, ond odid, byth wedi hyny; a buasai yn hawdd ganddynt syrthio ar ei wddf, a'i gusanu, ac wylo yn dost, o herwydd hyny, fel y gwnai yr Ephesiaid gynt wrth ymadael â Phaul.

Rhoddasom o'r blaen sylwedd ei bregeth ymadawol ag eglwysi a chynnulleidfaoedd y Wern, a'r Rhos, rhoddwn yn y fan hon etto sylwedd yr un hon â Llynlleifiad. Y testun oedd

EPHES. IV. 10—13.

"Yr hwn a ddisgynodd, yw yr hwn hefyd a esgynodd," &c.

I. Sefyllfa bresennol yr eglwys :—Y mae mewn cyflwr o wasgariad. 1. Mae yn wasgaredig iawn mewn ystyr ddaearyddol (geographical); a rhaid iddi fod felly tra yn y byd hwn. Y mae y saint yn wasgaredig ar hyd wyneb y ddaear,―ychydig yma, ac ychydig acw.

2. Mewn ystyr Ragluniaethol. Mae llawer yn gorfod gadael y cyfeillion crefyddol yr unasant gyntaf â hwy, a myned i blith dyeithriaid. Mae mawr wahaniaeth yn amgylchiadau bydol y naill a'r llall o honynt.

3. Mewn ystyr sectaraidd. Y mae y gwahaniad hwn yn llawer mwy nag y dylai fod.

II. Sefyllfa bresennol Crist,—" Goruwch yr holl nefoedd." Y mae yn y sefyllfa fwyaf manteisiol i gynnull yr eglwys at ei gilydd, a'i gwneud yn un.

1. Y mae mewn lle ag y gall oruwch-reoli holl amgylchiadau rhagluniaeth i ateb y dyben hwn.

2. Y mae yr holl ddylanwadau Dwyfol yn ei feddiant, i'r dyben i gymhwyso a gosod yr amrywiol swyddwyr yn yr eglwys, ag y mae eu gwasanaeth yn anghenrheidiol er perffeithio y saint,—" Ac efe a roddes rai yn apostolion, &c.—i berffeithio y saint—hyd oni ymgyfarfyddom oll," &c.

III, Sefyllfa yr eglwys yn y byd a ddaw.

1. Cyferfydd yr holl saint â'u gilydd yn yr un man, er mor wasgaredig ydynt yn bresennol.

2. Cyfarfyddant mewn perffaith undeb ffydd.

3. Mewn perffeithrwydd gwybodaeth.

4. Yn berffaith rydd oddiwrth bechod a gofid.

5. Nid ymadawant â'u gilydd byth drachefn.

Ystyriwn, Beth a gawn ni wneyd mewn trefn i ymbarotoi erbyn y cyfarfod mawr hwnw?

1. Cyrchu yn mlaen gymmaint ag a allom, myned rhagom at berffeithrwydd.

2. Helpu ein gilydd yn mhob modd galluadwy i ni.

3. Ymdrechu ein goreu i gael ereill gyda ni.

4. Cydweithredu â'n gilydd yn mhob peth y gallwn gyduno yn ei gylch—Cyfarfod wrth yr un orsedd, yfed yr un ysbryd, ymolchi yn yr un ffynnon, a chymmeryd ein cyfarwyddo gan yr un seren.

5. Pa beth a gaf i'w ddywedyd wrth y rhai nad ydyw yn debyg y cawn eu cyfarfod yn y nefoedd!

Symudodd yn nghorff yr wythnos hono, gyda'i deulu, i'r tŷ crybwylledig gerllaw Gwrecsham; a'r Sabboth canlynol ail-ymaflodd yn y weinidogaeth yn mhlith ei hen braidd."

Ymddangosai yn mhen ychydig wythnosau ar ol ei symudiad o Lynlleifiad, ei fod yn gwellhau o ddifrif; dywedai ei fod yn teimlo ei hun yn cryfhau bob dydd, a'i fod yn bur agos mor gryfed ag ydoedd cyn ei gystudd; ond yr oedd ei anwyl Elizabeth yn gwanhau yn brysur; ac Och! nid oedd ei welliant yntau ond megys tywyniad haul am fomentyn rhwng dau gwmwl dudew, ar ddiwrnod cawodog yn mis Hydref.

Yr oedd diwygiad nerthol wedi tòri allan yn y Wern ychydig amser cyn ei symudiad yno o Lynlleifiad, ac yr oedd hyny yn rhoddi hyfrydwch dirfawr i'w feddwl. Gwahoddodd yr ysgrifenydd, a'r brawd Jones o Ruthin, ato i gynnal cyfarfod yno yn fuan wedi ei ddyfodiad atynt, a dyna y cyfarfod diweddaf y bu ef ynddo ar y ddaear, er iddo bregethu rai gweithiau wedi hyny. Yr oedd ei weddiau a' 'i anerchion yn hynod ddwysion a gafaelgar y cyfarfod hwn. Yr oedd ei deimladau yn methu dal yn y gymdeithas eglwysig ar ol y moddion cyhoeddus yr hwyr olaf, wrth anerch y dychweledigion ieuainc. "Yr wyf yn gweled yma lawer o wynebau," meddai, "na feddyliais y cawswn eu gweled byth yn eglwys Dduw, rhai o honoch ag y bum yn amcanu at eich dychweliad flynyddau lawer, ac yn methu; treuliais hyny o ddoethineb a dawn a feddwn i geisio cyrhaedd ac ennill eich calonau, ond yn ofer; gorfu i mi eich gadael yn annychweledig; ond cefais fy arbed a'm dychwelyd yn ol i'ch gweled yn ddychweledigion yr Arglwydd, gobeithio. Y mae fel breuddwyd genyf weled rhai o honoch. O mor ddiolchgar y dymunwn fy mod am gael byw i weled y pethau a welaf heno." Yr oedd hyn, hyd y gallaf gofio, tua diwedd Tachwedd.

Yr oedd yn dal i wella yn ddymunol hyd Rhagfyr yr 20fed: yn hwyr y dydd hwnw, yr oedd yn siriol ymddyddan gyda'i gyfaill a'i hen gymmydog, y Parch. T. Jones, gynt o Langollen, yn awr o Minsterley, yr hwn a ddaethai i ymweled ag ef, pan yn ddisymwth, ar ei waith yn pesychu, torodd llestr gwaed o'i fewn, a rhedodd cryn lonaid cwpan ffwrdd oddiwrtho. Dygwyddodd yn ffodus fod y meddyg, Dr. Lewis o Wrecsham, yn y tŷ ar y pryd, yn talu ymweliad â'i anwyl Elizabeth, yr hon erbyn hyn ydoedd yn wael iawn, ac yn cadw ei gwely. Dododd y meddyg ef yn ei wely, gyda gorchymyn iddo i ymgadw yn llonydd, i beidio na symud na siarad dim, a phethau ereill. Yr oedd y dyrnod hwn yn farwol yn ei ganlyniadau: o'r awr hòno allan ni feddyliodd am wella. Mor siomedig yw pob gobeithion daearol! Pan oedd ei obaith ef ei hun, a'r eiddo cannoedd o gyfeillion pryderus, am ei adferiad, ac estyniad o rai blynyddau yn mhellach at ei oes werthfawr a defnyddiol,—pan oedd y gobaith hwn, meddaf, yn dechreu ymagor a blodeuo, wele un awel wenwynig yn anadlu arno, nes y mae yn gwywo ac yn cwympo i'r llawr yn ddisymwth!

Adgryfhaodd ryw ychydig wedi hyn, fel y gallai ddyfod o'r gwely, ac i lawr i'r tŷ, ond nid cymmaint ag i roddi y sail leiaf i hyderu am ei welliant.

O hyn allan yr oedd ef a'i ferch, megys y sylwai wrthi un diwrnod, fel yn rhedeg am y cyntaf tua phen y daith. Cymmerwyd yr hanesyn canlynol am danynt allan o'r Dysgedydd am Mai, 1840 :—

"Ymddengys eu bod yn arfer ymddyddan â'u gilydd am farw, ac am fyned i'r nef, fel pe buasent wedi cynnefino â hyny, ac yn ymhyfrydu yn y meddwl o gael eu datod a bod gyda Christ, gan gredu mai llawer iawn gwell ydyw. Byddai Mr. WILLIAMS, pan godai y boreu, yn myned at ei gwely i edrych am dani. Ac un tro gofynai iddi,' Wel, Eliza, pa fodd yr ydych chwi heddyw?' 'Gwan iawn, fy nhad,' oedd yr ateb. Ebai yntau, Yr ydym ein dau ar y race, pwy a â gyntaf i'r pen, debygech chwi?' 'O,' meddai hithau, ‘dysgwyliaf mai myfi, fy nhad—fod genych chwi waith i'w wneuthur etto ar y ddaear.' 'Na,' ebe yntau, 'meddyliwyf fod fy ngwaith innau agos ar ben.' 'Wel,' ebe hithau, 'yr wyf yn meddwl mai myfi a â'n gyntaf.' Atebai yntau, 'Hwyrach mai felly y mae'n oreu—fy mod i ychydig yn gryfach i ddal yr ergyd.' 'Ond a ydych yn hiraethu am weled pen y daith?' eb efe drachefn. 'Ydwyf o'm calon,' oedd ei hateb. 'Paham hyny? Am y caf weled llawer o'm hen gydnabyddiaeth, a chaf weled fy mam, a mwy nâ'r cwbl, caf weled Iesu.' 'Ho,' ebe yntau, 'wel, dywedwch wrthynt fy mod innau yn dyfod.""

Yr oedd ef a hithau fel hyn yn cyd-aeddfedu yn brysur i'r bedd ac i'r nefoedd; ac yn ol rhagddysgwyliadau y ddau, y hi gyrhaeddodd ben y daith gyntaf. Yr oedd ei dyddiau olaf yn llawn tangnefedd. "Tangnefedd! Tangnefedd!" oedd ei geiriau olaf, ac felly yr aeth "i dangnefedd," ac y gorphwysodd yn ei hystafelloedd, ar yr 21ain o Chwefror, 1840, a chladdwyd hi yn mynwent capel y Wern, yn yr un bedd a'i mam, ar y 26ain o'r un mis; yn y 22ain flwyddyn o'i hoedran.

Rhaid i ni bellach ddychwelyd yn ol ato yntau, a chawn ef yn prysuro yn gyflym ar ei hol; yn gwaelu ac yn aeddfedu bob dydd—dyddiau ei filwriaeth" ar derfynu, ac nid oes ganddo bellach ond "dysgwyl am ei gyfnewidiad." Un diwrnod daeth y Parch. J. Pearce, o Wreesham, i ymweled ag ef; yr oedd newydd orphen trefnu amgylchiadau ei dŷ; gofynodd Mr. Pearce iddo, pa fodd yr ydoedd? "Yr wyf yn awr," eb efe, "wedi cwbl ddarfod â'r ddaear, dim ond y nefoedd bellach !"

Pa nesafi angeu ac i'r nefoedd yr oedd yn tynu, cynnyddai ei deimlad dros achos Crist ac eneidiau dynion yn barhaus. Yr adfywiadau grymus oeddynt yn yr eglwysi y dyddiau hyny a lanwent ei galon â llawenydd a diolchgarwch. "Yn Chwefror diweddaf," medd y Parch. B. W. Chidlaw, o'r America, "yr ymwelais ag ef, pan ar fy nhaith drwy ranau o'm gwlad enedigol, ond nid oedd gobaith am ei adferiad. Yr oedd diwygiadau mawrion yn y Wern a'r Rhos—dwy o'r cynnulleidfaoedd a fuasent gynt dan ei ofal gweinidogaethol—lluoedd yn dyfod at yr achos, ac yntau yn analluog i adael ei ystafell. Dywedodd gyda mawr deimlad, a'r nefoedd yn llon'd ei enaid, 'Dyma fi fel hen huntsman methedig, yn swn yr helfa, ond yn methu canlyn; mae fy nghalon gyda hwy, a mawr lwydd ar eu holl ymdrechiadau i achub eneidiau. 0! pe buasai yr Ysbryd yn mhlith gweinidogion ac eglwysi ugain mlynedd yn ol, buasem heddyw yn canu caniadau buddugoliaeth.'

Cynnaliwyd cyfarfod yn Rhos oddeutu pum wythnos cyn ei farwolaeth, yn yr hwn yr oedd "nerthoedd y byd a ddaw" mewn modd anghyffredinol yn deimladwy,—ugeiniau o bechaduriaid "dan gerdded ac wylo yn ymofyn y ffordd tua Sïon." Yr oedd pryder a gofal dwys ar ei feddwl yn nghylch y cyfarfod hwnw: anfonai aml genadwri yn ystod y dydd i'r cyfarfod, er annog a chymhell ei frodyr yn y weinidogaeth, a'r eglwys yn ei gwaith, i'w sicrhau, er ei fod yn absennol oddiwrthynt yn y corff, ei fod yn bresennol gyda hwynt yn yr ysbryd; ac i ddeisyf eu gweddiau drosto ef a'i blant.

Y boreu trannoeth, aeth yr ysgrifenydd, a'r brawd Jones, o Ruthin, i ymweled ag ef. Yr oedd wedi codi o'r gwely, ac yn eistedd wrth y tân yn y llofft. Daethai y Parch. W. Griffiths o Gaergybi, a Joseph Jones, ysw., drosodd o Lynlleifiad y boreu hwnw i ymweled ag ef. Nid anghofiwn byth yr olwg a gawsom arno pan aethom i'r ystafell! Pan welodd ni, cyfododd ar ei draed, a'i wyneb yn dysgleirio fel wyneb angel; tybiem fod holl alluoedd ei enaid a'i deimladau fel wedi ymgodi i'w wynebpryd; ei ddau lygad oeddynt yn gyffelyb i feini tanllyd, ac ar yr un pryd fel dwy ffynnon o ddwfr yn bwrw allan eu haberoedd gloywon, Dilynodd pob llygad yn yr ystafell siampl yr eiddo ef, ac wylasom ynghyd. fy mrodyr anwyl," eb efe, "mor dda genyf eich gweled yn dychwelyd o faes y frwydr! Cawsoch fuddugoliaeth ogoneddus ddoe! a minnau yma, yn hen filwr methedig yn swn y frwydr, ond yn methu dyfod i gymmeryd rhan ynddi. O fel y dymunaswn fod gyda chwi, ond nid felly y gwelodd fy Nhywysog yn dda: rhoddodd fi o'r neilldu, ond gwnaeth hyny yn dirion iawn, ni chymmerodd fy nghoron oddiar fy mhen, ni fwriodd fi i'r domen. O! pe buaswn yn yr ysbryd a'r teimladau yr wyf ynddynt y dyddiau hyn bump ar hugain o flynyddau yn ol, pa faint mwy o ddaioni a wnaethwn nag a wnaethum! Mi a gefais amser, talentau, a dylanwad, y gallaswn, ond eu hiawn ddefnyddio, ysgwyd yr holl Dywysogaeth; ond Och! darfu i minnau chwarae â hwynt; a pheth rhyfedd iawn ydyw na buasai fy Meistr mawr yn fy mwrw ymaith oddiger ei fron, fel llestr heb hoffder ynddo!"

"O, (ebe un o honom,) yr ydym yn mawr hiraethu, ac yn gobeithio am eich gweled yn ail ymddangos ar y maes etto." "Nid oes genyf fi nemawr o obaith am hyny, (ebe yntau,) ond pe bai hyny i fod, yr wyf yn gobeithio y byddwn yn llawer gwell milwr nag y bum erioed."

Yr oedd ei anwyl Elizabeth ar gyffiniau y glyn, yr amser hwn, aethom gydag ef i ymweled â hi cyn ymadael, ni allai hi wneyd nemawr ond siriol wenu arnom, yr hyn a ddangosai ei phrofiad ac agwedd gysurus ei meddwl. Wedi eu gorchymyn i'r Arglwydd mewn gweddi fèr, ymbarotoisom i ymadael; ac O, fynudau cyssegredig! Edrychodd arnom gyda golwg nad yw yn bossibl ei desgrifio, a dywedodd, "Wel, fe allai, ac y mae yn debyg ein bod yn myned i ymadael y tro diweddaf, ond os na chawn weled wynebau ein gilydd ar y ddaear mwy, gadewch i ni dyngu ein gilydd yn y fan hon, y fynud hon, y bydd i ni gyd-gyfarfod yn y nefoedd!" Mewn gwirionedd, yr oedd y lle yn ofnadwy iawn! Llefarai y geiriau uchod gyda'r fath ddwysder a phwys, a greai deimladau ag oeddynt yn mhell tuhwnt i ddagrau; yr oeddynt ry sobr-ddwysion i ddagrau, ac felly ymadawsom.

Gwelsom ef unwaith drachefn, wedi gwaelu llawer, ac yn rhy wanaidd i ymddyddan nemawr, ond yn dra thawel a siriol. Gyda'n bod ni yno y waith hon, daeth y meddyg i mewn, yr hwn a gaeth-waherddai ollwng dyeithriaid i mewn ato, felly yn fuan, canasom yn iach iddo am byth ar y ddaear, ac ymadawsom. Meddyliem mai ei deimlad y pryd hwn oedd, "O hyn allan na flined neb fi."

Un noson yr oedd yn dwys ocheneidio, Mrs. Edwards, (o Gadwgan gynt, yr hon a fu yn gymmwynas-wraig dirion iddo ef a'i ferch drwy ystod eu cystudd,) a nesaodd at y gwely, a gofynodd iddo pa beth oedd yr achos, "Achos eneidiau dynion, (meddai yntau,) A oes dim a fedrech chwi wneyd tuag at achub eneidiau, Mrs. Edwards?" "Fe allai y gallwn wneyd mwy, pe byddwn fwy yn y goleu," ebe hithau. "Ië, ïe, (meddai yntau,) mwy yn y goleu am eu gwerth."

Nos Lun, yr 16eg o Fawrth, dymunodd gael gweled diaconiaid eglwysi y Wern a'r Rhos; ac wedi eu cael ato, ymddyddanodd gryn lawer â hwynt yn nghylch amgylchiadau yr eglwysi, a rhoddodd lawer o gynghorion iddynt. Wedi iddynt fyned ymaith, sylwyd ei fod yn colli ei wybodaeth ac yn prysuro ymaith, a'r boreu trannoeth oddeutu naw o'r gloch, a WILLIAMS o'r Wern nid oedd mwyach! Bu farw ar y 17eg o Fawrth, 1840, yn y 59 fl. o'i oedran.

Ar y 25ain ymgasglodd tyrfa luosog iawn o gyfeillion i dalu eu teyrnged olaf o barch iddo, drwy ganlyn ei farwol ran i dŷ ei hir gartref. Wrth y tŷ, cyn cychwyn y corff, darllenodd a gweddiodd y Parch. A. Jones, Bangor; a'r Parch. Dr. Raffles, Llynlleifiad; yna cychwynwyd tua'r Wern.

Aed â'r corff i'r capel, a dechreuwyd y gwasanaeth drwy ddarllen a gweddio gan y brawd S. Roberts, Llanbrynmair; cyfarchwyd y gynnulleidfa mewn areithiau byrion ac effeithiol gan y brodyr Pearce, o Wrecsham; Jones, o Lanuwchllyn; a Jones, o Ddolgellau. Drachefn wrth y bedd, traddododd y brodyr Rees, Dinbych, a Dr. Raffles, anerchion byrion; a chyn ymwasgaru, gweddiodd ei hen gyfaill, Roberts o Danyclawdd, gweinidog perthynol i'r Trefnyddion Calfinaidd. Yr oedd o leiaf bumtheg ar hugain o weinidogion yn bresennol.

Y Sabboth canlynol traddodwyd pregethau angladdol iddo gan agos yr holl weinidogion ag oeddynt yn bresennol yn y claddedigaeth, a chan lawer ereill hefyd. Cyflawnwyd y gwasanaeth hwn, y Sabboth hwnw, yn y Wern a'r Rhos, gan W. Rees, Dinbych, yn nghlywedigaeth cynnulleidfaoedd lluosog a galarus. Y testun oedd 2 Sam. 1, 19, "O ardderchawgrwydd Israel," &c.

Ei dri phlentyn galarus ac amddifaid o fam a thad, a chwaer hawddgaraf a duwiolaf, oeddynt wrthddrychau tosturi a chydymdeimlad; ond nid oedd angeu wedi gorphen ei waith etto y mab hynaf, James, pan oedd yn nghapel y Rhos, nos y Sabboth crybwylledig, yn gwrando pregeth angladdol ei anwyl dad, a gymmerwyd yn glaf gan waew llym yn ei goes. Daeth gyda'r ysgrifenydd drannoeth i gyfarfod i Lanuwchllyn, gan ddysgwyl cael llesâd, ond gwaethygu yr oedd y boen, a chwyddo yn fawr yr oedd ei aelod. Dychwelodd adref yn dra gwaeledd; parhaodd ei aelod yn boenus am rai wythnosau, a gwelwyd arwyddion yn fuan fod y darfodedigaeth angeuol wedi ymaflyd ynddo. Parhaodd i nychu a gwaelu hyd tua diwedd Mawrth, 1841, pryd y dilynodd ar ol ei fam, ei dad, a'i chwaer, i "dŷ ei hir gartref," a chladdwyd ef yn yr un bedd; ac felly—

Y pedwar hawddgar rai hyn
A roddwyd i'r un priddyn.

Yr oedd yn wr ieuanc o dymher ddystaw, gwylaidd, a gochelgar iawn. Ymddengys fod ei gydwybod yn hynod dyner. Dywedai ychydig cyn marw bod ofn rhag cael ei gyfrif fel un yn ceisio yr hyn nad oedd, wedi ei attal lawer gwaith i fynegu yr hyn a deimlai. Nad oedd mor amddifad o deimladau a chysuron crefyddol ar hyd ei fywyd, ag y gallasai ei gyfeillion gasglu oddiwrth ei ddystawrwydd; ac nad oedd yn amddifad o'r cysuron hyny yn yr oriau diweddaf. Ei fod yn hollol ac yn tawel ymorphwys ar Grist fel ei unig noddfa a'i obaith.

Bellach nid oes ond y ddau ieuengaf, Jane a William, wedi eu gadael o'r teulu hawddgar, yn anialwch y byd profedigaethus hwn; a boed i Dduw a Thad yr amddifaid eu bendithio, a'u cymmeryd dan gysgod ei adenydd; Duw a Chraig iachawdwriaeth eu tad a'u mam, eu chwaer a'u brawd, a fyddo yn Dduw a Chraig iachawdwriaeth iddynt hwythau—yn Arweinydd a Thywysydd hyd angeu, nes eu dwyn adref i uno gyda'r perthynasau anwyl sydd wedi blaenu, yn y ddedwydd wlad ag nad oes na chystudd, na galar, na marw ynddi.—Amen.

Nodiadau

[golygu]