Neidio i'r cynnwys

Cofiant y diweddar Barch Evan Rowlands, Ebenezer, Pontypwl (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Cofiant y diweddar Barch Evan Rowlands, Ebenezer, Pontypwl

gan Ellis Hughes, Penmaen

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Cofiant y diweddar Barch Evan Rowlands, Ebenezer, Pontypwl

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader

COFIANT

Y DIWEDDAR

BARCH. EVAN ROWLANDS,

EBENEZER, PONTYPWL, MYNWY.


GAN Y


PARCH. ELLIS HUGHES,

PENMAIN, MYNWY.






"Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi air Duw:
ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt."—PAUL.




CAERDYDD:
ARGRAFFWYD GAN E. WALTERS, NORTH CHURCH-STREET.
1864.
Pris Pedair Ceiniog.

AT Y DARLLENYDD.

Cyfansoddwyd a chyhoeddwyd y Cofiant hwn ar ddymuniad Cyfarfod Chwarterol y sir hon. Bu Mr. Rowlands am lawer o flyneddau yn aelod o Undeb y sir, ac mor uchel ei nodweddiad fel gweinidog, ac aelod o'r Undeb, fel y teimlai ei frodyr yn y weinidogaeth, a lluaws o'i gyfeillion, y buasai yn ddymunol cael Cofiant am dano. Ymdrechwyd ei gael o fewn cylch y gallai y cyffredin ei gyrhaedd. Nid ydyw wedi ei gyfansodddi yn hollol ar gynllun Cofiantau yn gyffredin. Gallesid cael llythyrau gan lawer o enwogion, yn cynwys eu syniadau am dano; ond buasai hyny yn chwyddo y Cofiant i ormod o faintioli. Rhoddwyd nodiadau byrion gan ychydig o'i gyfeillion a ddygwyddasant eu gwneud pan yn ysgrifenu atom yn mherthynas i'r Cofiant. Gobeithiwn y bydd ei ddarlleniad yn fendith i laweroedd, ac yr addasir ni oll i gael ei gyfarfod yn ngwlad yr hedd.

YR AWDWR.

COFIANT, &c.

TYFODD ambell i gedrwydden mewn lleoedd digon annhebyg i gedrwydd dyfu ynddynt. Cafwyd ambell i bren ffrwythlawn yn nghanol llawer o rai diffrwyth. Tarddodd y lili allan weithiau yn mhlith drain. Blodeuodd briallu heirdd ar ochrau cloddiau digon diolwg. Bwrlymodd dyfroedd iachusol grisialaidd allan, weithiau, mewn llanerchau digon diffrwyth. Cafwyd perlau weithiau mewn lleoedd digon gwael yr olwg arnynt; a chloddiwyd allan drysorau gwerthfawr o fynyddau a ymddangosent yn ddigon llwydaidd yr olwg allanol arnynt. Cyfododd yr Arglwydd ddynion enwog o fanau digon anenwog, mewn amseroedd digon annhebyg, ac o amgylchiadau digon anfanteisiol. Ur y Caldeaid eilun-addolgar y cyfododd yr Arglwydd Abraham, tad y ffyddloniaid. O'r cawell llafrwyn yn yr hesg, ar lan afon Nilus, y cyfododd yr Arglwydd Moses enwog, arweinydd pobl Dduw o dŷ'r caethiwed. O fod yn fugail defaid ei dad y cyfododd yr Arglwydd Dafydd, yn llywydd ar Israel etholedigion Duw. Yn Bethlehem fechan, yn llety'r anifeiliaid, y ganwyd Iachawdwr y byd; ac yn Nazareth anenwog yn Galilea y dygwyd ef i fyny. Mynych y gwiriwyd geiriau yr Arglwydd trwy y prophwyd, "Canys fel y mae y nefoedd yn uwch na'r ddaear, felly uwch yw fy ffyrdd I na'ch ffyrdd chwi; a'm meddyliau I na'ch meddyliau chwi." Aml i fechgyn glew a droisant allan yn wŷr ardderchog yn ngwasanaeth Arglwydd y lluoedd, a anwyd ac a fagwyd yn mynwesau cymoedd, ar lechweddau bryniau, ac yn ngheseiliau mynyddoedd gwyllt Walia.

Mewn amser, mewn man, ac mewn amgylchiadau digon anfanteisiol, ar yr olwg allanol, y ganwyd gwrthddrych ein Cofiant, iddo droi allan i'r byd yn ddyn cyhoeddus, yn genad Duw, ac yn weinidog i Efengyl ei Fab ef. Ond ffrwyth hen feddyliau tragywyddol yr Arglwydd oedd iddo gael eni i'r byd, yn y man, ar y pryd, ac yn yr amgylchiadau y gwnaeth ei ymddangosiad ar y ddaear; neu, ynte, goruwch-lywodraethwyd y cyfan i'w gael i'r weinidogaeth, er cynorthwyo adeiladaeth corph Crist. Yn sir Drefaldwyn, yn y rhan uchaf o honi, yn agos i'r ffordd sydd yn arwain o Fachynlleth i Lanfair-caereinion, a thua dwy filldir o dreflan Mallwyd, mae cwm, a elwir Cwm Tafolog. Yn y cwm hwn y ganwyd y diweddar Rowlands, Ebenezer, Pontypool. Tua deg mlynedd a thriugain yn ol y cymerodd yr amgylchiad le. Nid oedd dim enwogrwydd, am a wyddom, yn perthyn i Gwm Tafolog y pryd hwnw, ardal fel o'r neilldu i bob man ydoedd. Pell oddiwrth y môr, pell oddiwrth dref marchnad. Gallesid myned o un pen i'r cwm yn fuan i Lanbrynmair, neu dros y mynydd i ardal hyfryd y Cemes, a glànau prydferth afon Dyfi, neu o'r pen arall gallesid myned yn fuan i Mallwyd, a Dinas Mawddwy, neu dros fwlch y Fedwen i Garth-beibio, Llanerfil, a Llanfair. Yn gysylltiedig â Chwm Tafolog yr oedd y Dugoed, lle gwibiai gwylliaid cochion Mawddwy gynt yn nheyrnasiad y Frenhines Elizabeth, ac yn y fan hwnw mae Llidiart Croes y Barwn, lle y llofruddiodd y gwylliaid y Barwn Lewis Owen, ysw., hen daid yr enwog Dr. Owen.

Pan y ganwyd gwrthddrych ein cofiant, nid oedd yn agos i Gwm Tafolog un lle addoliad; gallesid d'weyd am dano, fel y barnai un am ardal arall, ei fod yn lle iach iawn, nid oedd yr un meddyg yn byw yno-ei fod yn lle heddychol, nid oedd yr un cyfreithiwr yn byw yno—a'i fod yn lle tra digrefydd, nid oedd yr un pregethwr yn byw yno. Y pryd hwnw, nid oedd yn Nhafolog ond ychydig o dyddynwyr, gweithwyr tir, a bugeiliaid defaid; magu ychydig anifeiliaid, a defaid, a chodi, a chario mawn, yn nghyd a nyddu gwlân y defaid, i wneyd dillad o frethin cartref, oedd eu prif orchwylion. Mewn man dinôd, a elwid Ty'nypwll, yn Nghwm Tafolog, y ganwyd gwrthddrych ein cofiant, yn ngwanwyn y flwyddyn 1792. Nid ydyw yn ymddangos fod ei rieni yn ymwneyd dim â chrefydd, oddieithr eu bod yn myned weithiau i'r gwasanaeth i hen lan Mallwyd, ac feallai yn achlysurol yn myned i wrandaw i fanau eraill, pan fyddai cyfleusdra yn caniatâu, ond nid oes genym le i gasglu eu bod wedi gweled y pryd hwnw werth gwir grefydd. Ychydig feddyl. iasant pan y ganwyd ef, eu bod wedi cael y fraint o fod yn rhieni i blentyn fuasai yn cyfodi yn ddyn o gyhoeddusrwydd yn y byd,fel gweinidog yr efengyl trwy Gymru, ac a fuasai yn foddion i droi llawer o eneidiau o'r tywyllwch i'r goleuni; ac o feddiant Satan at Dduw. Digon tebyg pan anwyd y bachgen, na feddyliodd ei dad na'i fam ofyn y gofyniad, "Beth fydd y bachgenyn hwn?" Cyn belled ag y gwyddom, efe oedd y pregethwr cyntaf a anwyd yn Nghwm Tafolog. Crybwyllasom eisioes,mai Ty'nypwll oedd enw y tŷ y ganwyd ef ynddo. Safai rhwng Tymawr a Gellywen. Gallwn dybied mai nid enwog iawn oedd y tŷ lle cafodd ei eni ynddo, wrth ei enw; deallwn nad yw y tŷ mewn bod er's blynyddau bellach; gadawodd ei breswylwyr ef; aeth yn fyrddyn adfeiliedig; cariwyd rhai o'i geryg, mae'n debyg, i'r cloddiau cyfagos; mae y gweddill o hono wedi ei gladdu er's llawer dydd, ac nid oes fawr o ôl yr hen drigfa yn bresenol ar gael; ond yma y cafodd y dyn Duw y soniwn am dano ei ddwyn i fod. Yn y flwyddyn 1797, daeth ein tad, y diweddar Wm. Hughes, yn weinidog i Dinas Mawddwy, o fewn i dair neu bedair milldir i le genedigol Mr. Rowlands, pan oedd efe rhwng pump a chwech mlwydd oed; ymwelai ein tad â Chwm Tafolog i bregethu, fel y byddai amgylchiadau yn caniatâu, a bu y bachgen Evan Rowlands yn gwrando arno. Llwyddodd yr efengyl yn raddol yn Nhafolog-y naill deulu ar ol y llall a enillwyd i gofleidio crefydd y groes; ac yn y flwyddyn 1821, adeiladwyd capel a elwir Bethsaida, wrth ymyl y ffordd o Fallwyd i Lanfair, yn Mhenrhiw'rcul, mewn man cyfleus i Gwm Tafolog, Dugoed, Nantyrhedydd, a'r Groeslwyd. Mae yno gyfnewidiadau wedi eu gwneud erbyn hyn, ffordd newydd wedi cael ei gwneud yn îs ac yn nês i'r afon na'r capel; ond ni wnaeth hyny y capel fawr yn fwy anghyfleus i drigolion yr ardaloedd nag oedd pan adeiladwyd ef. Nid ydym yn gwybod am un ardal bron yn Nghymru, ag y mae cyfnewidiad er gwell wedi cymeryd lle yn rhagorach nag yn Nghwm Tafolog. Pan anwyd Rowlands yno, nid oedd yno fawr neb yn grefyddol, ond erbyn hyn, nid oes yn Nghwm Tafolog fawr neb, os oes un, heb fod yn grefyddol mewn enw ac ymddangosiad, a gobeithiwn eu bod felly oll mewn gwirionedd. Ardal wedi ei chwbl enill at grefydd ydyw Cwm Tafolog; mae yno ddynion enwog fel crefyddwyr, gweddiwyr, a chantorion; gwyddom am lawer fu yno, ac mae genym bob lle i gredu am danynt fod eu hysbrydoedd yn bresenol yn ngwlad yr hedd. Un oddiyno ydyw y Bardd enwog, a gymerodd ei enw barddonol oddiwrth ardal ei enedigaeth, sef Tafolog," yr hwn fu yn fuddygol mewn amryw o Eisteddfodau pwysig; os ymrydd ati, a phenderfynu cyrhaedd safle uchel fel bardd, bydd yn sicr o Gadair Farddonol cyn hir. Gweinidog presenol yr eglwys yn Bethsaida, Penrhiw'rcul, ydyw y Parch. Edward Williams, Dinas, yr hwn sydd wedi bod yn llafurus, defnyddiol, a llwyddianus, yn yr ardaloedd hyny.

Gwelwn mai digon anfanteisiol fu blynyddau borau oes Mr. Rowlands iddo gyrhaedd gwybodaeth, cofleidio crefydd, a dyfod yn weinidog efengyl y tangnefedd ; ond er yr holl anfanteision allanol, yr oedd rhywbeth yn mhen y bachgen Evan yn wahanol i fechgyn o'i oed yn gyffredin. Pan fyddo yr Arglwydd yn cyfodi rhai i gyflawni gwaith neillduol iddo ef, bydd yn eu cynysgaeddu â galluoedd naturiol cyfaddas i lanw y cylchoedd y bwriada iddynt droi ynddynt; felly yr oedd rhyw beth yn y bachgen Evan, er yn fachgen, ag oedd yn rhagbarotoad iddo i waith ei oes, sef gwaith mawr y weinidogaeth efengylaidd. Treiglodd blynyddau ymaith cyn i neb fod yn ddigon craff, mae'n debyg, i ganfod fod defnyddiau pregethwr a gweinidog i'r Gwaredwr yn Evan Rowlands; bu yntau ei hunan hefyd flynyddau heb un syniad yn nghylch, nac un meddwl am y fath waith; ac eto, er y cwbl, yr oedd rhywbeth ynddo ag oedd yn ei wneud yn wahanol i fechgyn ei oes a'i ardal yn gyffredin. Deallodd cyn hir fod y gwahanol seiniau a wnai ef ac eraill o'i gydgreaduriaid yn Iaith; ond bu am rai blynyddau, mae yn debyg, heb un syniad fod mwy o ieithoedd yn bod yn y byd nag iaith ei fam, yr hen Gymraeg anwyl; cyrhaeddodd y wybodaeth hefyd, trwy ryw foddion, fod egwyddor yn perthyn i'r iaith, ac mai gwahanol lythyrenau yr egwyddor, trwy eu gosod at eu gilydd, oedd yn gwneud geiriau; a deallodd fod ychydig lyfrau wedi eu hargraffu, y rhai a gynwysent beth wmbredd o wybodaeth, pe gallasai ond cael yr agoriad i fyned i mewn iddynt. Trwy yr awyddfryd ymchwiliadol oedd yn naturiol ynddo, a thrwy ddefnyddio yr ychydig fanteision oeddynt yn ei gyrhaedd, dysgodd egwyddor yr iaith yn gyflym; a chyn hir cyrhaeddodd y medr gwerthfawr o ddarllen; ymhyfrydai mewn caneuon a llyfrau difyrus o wahanol fath, cymaint oedd yn ei gyrhaedd yr amser hwnw, ac yn yr ardal yr agorodd efe ei lygaid ynddi gyntaf erioed. Tua blwyddyn cyn ei eni yr oedd achos crefydd wedi dechreu yn Ninas Mawddwy; a'r flwyddyn y ganwyd ef, yr oedd y Parch. W. Thomas, Bala, wedi gweinyddu swper yr Arglwydd am y waith gyntaf yn y Dinas, yn nhŷ Rowland Gruffydd, iddo ef a rhyw chwech eraill, oeddynt wedi teimlo ar eu calonau ymuno i ddechreu achos yno, ac ymdrechu cyfodi enw y Gwaredwr yn y lle. Pan oedd Evan Rowlands yn llanc tua phymtheg oed, yr oedd yr eglwys yn y Dinas wedi lluosogi, capel wedi ei adeiladu, a'n tad wedi ymsefydlu yno, i lafurio yn eu plith. Deallodd Evan mai rhyw Lyfr hynod iawn oedd y Llyfr oedd gan y crefyddwyr, a alwent, "Y Beibl." Teimlodd yntau awydd yn ei galon i fod yn berchenog ar y Llyfr rhyfedd hwnw. Nid ydym yn deall ei fod y pryd hwn wedi dyfod i'r goleuni am dano ei hun fel pechadur, nac am drefn gras Duw ar ei gyfer; hyny ydyw, nid oedd yn un o ddychweledigion yr Arglwydd y pryd hwn; ond mae yn ymddangos i ni fod ei awydd am gael y Beibl i'w feddiant yn brawf fod yr Arglwydd o'i ras wedi dechreu y gwaith da ynddo. Gwir nad oedd ond bach a gwan iawn; ond yr oedd yn dechreu y gwaith da, yr hwn sydd erbyn hyn wedi ei orphen mewn rhan, yn ngogoneddiad ei enaid, ac a gyflawn orphenir pan adgyfodir ei gorph o lwch y bedd, ac y ca ei enaid a'i gorph gyflawn fwynhad o dragywyddol etifeddiaeth y saint yn y goleuni. Mae goleuni dwyfol wedi dyfod i feddwl rhai gyda sydynrwydd a chyflymdra y fellten, pan oeddynt yn nghanol y tywyllwch. Rhoddwyd ergyd gras ar galon rhai pan oeddynt yn nghanol eu cryfder annuwiolaidd, nes eu taro i'r llawr ar unwaith, a'u cyfnewid yn hollol yn y fan. Mae gwaith gras yn eraill fel toriad y wawr, yn wanaidd iawn yn y cychwyniad, ond yn myned oleuach, oleuach, hyd ganol dydd; neu fel tarddiad bach gwan o ddwfr, ond yn tarddu hefyd, yn rhedeg yn mlaen, gan gynyddu, nes o'r diwedd ymdywallt yn afon nerthol i fôr mawr tragywyddol ogoniant.

Pan oedd Evan Rowlands rhwng 16 a 17 mlwydd oed, penderfynodd y mynai Feibl yn feddiant iddo ei hun; ond pa fodd i'w gael, oedd bwnc dyrus i'w benderfynu; nid oedd ganddo fodd ei hun i'w brynu. Os byddai gan lanciau y wlad fel efe ychydig geiniogau yn eu llogellau erbyn ffair y Dinas, i brynu ychydig o ddanteithion ddiwrnod y ffair, ystyrient eu hunain yn gyfoethog iawn; ond yr oedd arno efe eisiau mwy na rhyw ychydig docins i brynu cacenau melusion, sef, digon i ddyfod i feddiant o'r dorth gyflawn o fara y bywyd. Nid oedd yn meddu y cyfoeth a brynai Feibl ei hun; ac nid oedd ei dad yn gweled un gwerth iddo gael Beibl; ni roddai arian ar un cyfrif, er bod yn ddigon galluog i hyny, i Evan i brynu Beibl. Yn y tywyllwch yr oedd druan, heb weled ei werth erioed iddo ei hun, ac felly ni welai ei werth ychwaith i'w fab. Gobeithiwn iddo ddyfod o'r tywyllwch mawr hwnw i'r goleuni wedi hyny.

Yr oedd yn dywyll fodd bynag ar Evan am Feibl, rhwng ei dlodi ei hun, ac anewyllysgarwch ei dad, i roddi arian iddo i bwrcasu un ; ond yn y cyfyngder, yr oedd brawd ganddo yn alluog i roddi benthyg digon o arian iddo i brynu y Gyfrol Sanctaidd, ac felly y bu. Llwyddodd i gael benthyg arian gan ei frawd i brynu Llyfr rhyfedd y crefyddwyr. Anaml iawn, os byth, y mae pob drws yn cau yn erbyn y rhai sydd yn gwir ddymuno am ddaioni. Bu yn dywyll iawn ar lawer o etifeddion gogoniant, mewn llawer iawn o amgylchiadau; ond nid yn aml, os un amser, y buont mewn tywyllwch, heb un pelydryn o oleuni, y cauodd yn eu herbyn mor gyflawn, heb un drws yn agoryd iddynt i gael gwaredigaeth. Felly agorodd un drws i wrthddrych ein cofiant, yn ei gyfyngder am gael Beibl yn etifeddiaeth iddo ei hun. Nid gorchwyl hawdd iawn oedd i bob gradd gael meddianu y Beibl y pryd hwnw; nid oedd y gymdeithas fawr er taenu Gair yr Arglwydd yn rhad trwy Gymru, Lloegr, a'r byd, ond newydd ddyfod i fodolaeth yr amser hwnw; yn ei babandod bron yr oedd, ond erbyn heddyw, hi ydyw brenhines y cymdeithasau; ac y mae wedi dyfod â'r Ysgrythyrau Sanctaidd yn bur a chyflawn i gyrhaedd hawdd y tlotaf yn ein tir. Mor ddiolchgar y dylem fod am y gwelliant mawr sydd wedi cymeryd İle yn hyn.

Yr oedd Evan Rowlands, trwy ryw foddion, wedi dyfod i'r wybodaeth fod gan Wm. Hughes, gweinidog Dinas Mawddwy,Feibl i'w werthu, ac wedi cael benthyg yr arian gan ei frawd, dych'mygwn ei weled yn hwylio ei gamrau tua'r Dinas, ei lygaid yn loëw o londer, a'i galon yn llawn llawenydd, gan feddwl dyfod i feddiant o'r trysor; ac wrth gerdded yn mlaen, yn fynych yn teimlo ei logell, rhag i'r arian gilio allan o honi cyn iddo gyrhaedd tŷ y gweinidog. Fodd bynag, cadwodd hwynt yn ddiogel nes cyrhaedd pen y daith; wedi myned i mewn i'r tŷ, a d'weyd ei neges, heb amgylchu na môr, na mynydd, cafodd y Beibl i'w law; yr oedd yr arian yn ei ddwrn yn barod, a thalodd am dano gyda hyfrydwch calon. Teimlai ei hun fel wedi ysgafnhau wedi gwneud hyn, fel pe buasai yr ychydig arian yn ddyeithriaid peryglus yn ei logell, ac fel pe buasai wedi cael gwaredigaeth o faich trwm; nid rhyfedd chwaith oedd hyfrydwch ei deimlad, wrth ymadael â'r ychydig arian am Feibl, oblegid yr oedd yn cael yn eu lle yr hyn oedd werthfawrocach nag aur, ïe, nag aur coeth lawer, a'r hyn oedd felusach na mêl, ac na diferiad y diliau mêl.

Nis gwyddom pa un o'i frodyr a fenthycodd yr arian iddo. Aeth un brawd iddo i'r Brif Ddinas, ac yno y bu farw yn fuan ar ei ol ef. Yr oedd brawd arall iddo yn agos i'r Dinas. Dyn call, doniol, a medrus oedd hwnw. Bu flynyddau lawer gyda'r achos goreu yn y Dinas, a bu yn ddefnyddiol iawn yn ei ddydd. Mae yntau wedi myned er's blynyddau rai i ffordd yr holl ddaear; ac yn bresenol, mae yn ddiau genym, yn nghwmni y Gwaredwr mawr, ac ysbrydoedd y cyfiawnion, y rhai a berffeithiwyd. Mae ei weddw yn fyw, ac yn ffyddlawn gyda chrefydd. Merch ydoedd hi i Shon James, Tŷgwyn, ger y Dinas, a chwaer i'r Parch. Hugh James, Llansantffraid, Sir Drefaldwyn. Yr oedd Shon James yn un o'r hen flaenoriaid callaf, efengyleiddiaf, a ffyddlonaf fu gyda chrefydd erioed yn Nghymru; mae yntau yn ngwlad yr hedd er's llawer dydd. Cerddodd ef a'r ffyddlon Rowland Evans, Dolobran, ganoedd lawer o filldiroedd i Lan y Mawddwy, yn ol ac yn mlaen, gan ymdrechu yn deilwng gyda'r ychydig achos yno, ac addysgu y plant yn yr ysgol Sabothol. Meddylied trigolion Mawddwy am eu blaenoriaid; ffydd y rhai dilynant; maent hwy yn bresenol yn medi mewn llawenydd y wobr dragywyddol.

Mae plant brawd gwrthddrych ein cofiant yn awr yn eu cyflawn nerth, ac yn ffyddlon gyda'r gwaith da. Un o honynt ydyw James H. Rowlands, o Wigan, yn bresenol. Gwr enwog iawn mewn cerddoriaeth; a'r llall ydyw Ioan H. Rowlands, Dinas Mawddwy, i'r hwn yr ydym yn ddyledus am amryw gofnodion a gynwys ein cofiant. Ond yn nhŷ y gweinidog y gadawsom Evan Rowlands, wedi cael Beibl i'w law, a'i galon yn dychlamu o lawenydd. Nid ydym yn gwybod pa bethau a gymerasant le tra y bu yn y tŷ gyda phryniad y Beibl; diamheu i'n tad deimlo llawenydd yn ei galon wrth weled Evan yn dyfod mor bryderus i geisio Beibl, ac feallai i'w enaid ddyrchafu at Dduw mewn diolch am yr olygfa, a gweddi drosto, am iddo gael bendith dragywyddol yn y trysor oedd wedi bwrcasu. Golwg wir ddyddorol oedd gweled bachgen o oedran Evan Rowlands y pryd hwnw, wedi dyfod rai milldiroedd mewn awyddfryd mawr i brynu Beibl. Wedi cael y Beibl, digon tebyg mai yr hyn a dynodd ei sylw gyntaf oedd hanesion rhyfedd yr hen Lyfr. Wedi myned dros hanes y cread, y patriarchiaid henafol, y diluw aruthrol, ac heibio i Abraham, Isaac, a Jacob, cafodd ddyddordeb hynod yn hanes Joseph, a gwaredigaeth Israel o'r Aipht; a theimlodd hyfrydwch mawr iawn fel ninau lawer tro, pan yn ieuanc, yn hanes Dafydd y bugail yn soddi y gareg lefn yn nhalcen y cawr mawr o Gath, ac yn tòri pen Goliath â'i gleddyf ei hun, a buddygoliaeth fawr pobl yr Arglwydd ar y Philistiaid dienwaededig. Daeth yn mlaen hefyd at hanes Iesu mawr, yr hanes hynotaf o holl hanesion y greadigaeth. Ei enedigaeth, ei fywyd, ei waith, ei ddyoddefiadau, ei farw, ei adgyfodiad, a'i esgyniad i'r nef. Nid oedd Evan y pryd hwn yn ymhyfrydu cymaint yn athrawiaethau dyfnion y dwyfol Air, nac wedi meddwl mai llyfr egwyddorion oedd yn benaf, ac mai fel y cyfryw y dylasai gael ei efrydu. Bu yr hen Feibl, fodd bynag, yn llyfr parch ganddo. Mae gan ddynion ddillad parch, fel eu galwant, ac esgidiau parch, i'w gwisgo weithiau ar achlysuron neillduol; ac mae gan rai pobl Feibl parch, cadwant ei ddail mor lân, ac ni agorir ei gloriau un amser, ond ar amgylchiadau neillduol iawn, drwy bedwar chwarter y flwyddyn; ond nid yn y modd yna y golygai Evan Rowlands i'w Feibl ef i fod yn Feibl parch; eithr trwy ddisturbio ei ddail yn aml, a mynu gwybod ei gynwysiad ôl a gwrthol. Mae ei hen Feibl ef yn dyst mewn bod yn awr, mai nid parch trwy ei adael yn llonydd oedd y parch roddodd ei berchenog iddo ef; ond y parch hwnw o'i gadw mewn gwaith yn barhaus, a dyma y parch mae Awdwr y Beibl yn ddymuno iddo gael gan bawb. Bu yr hen Feibl yn gydymaith anwyl iddo ef drwy ei oes, a chafodd ynddo yr hyn y cân am dano byth. Nid ydym yn gwybod pa bryd y dysgodd ein cyfaill ysgrif enu; ond wedi dysgu, ysgrifenodd mewn gwahanol fanau, yn yr hen Lyfr, a ganlyn:—"I was 17 years age when I came a possessor of a Bible. E. Rowland's Book, 1809, bought of the Rev. W. H., Dinas Mawddwy, when 17 years of age. This is the first Bible I was owner of. Blessed be God for it. Borrowed money to pay for it. My F—— would not give them to me, though he possessed some hundreds then.—E. R. Dyma y Beibl cyntaf erioed a ddaeth i'm meddiant I, a hyny t rwy gael benthyg modd i'w brynu gan fy mrawd, pan oeddwn rhwng 16 a 17 oed.—E. Rowlands."

Bugeila defaid, trin anifeiliaid, a llafurio y ddaear fu gorchwylion Rowlands yn moreu ei oes; gwelsom ei fod yn agos i ddwy flwydd ar bymtheg oed pan gafodd Feibl gyntaf i'w feddiant. Nid oes genym ddim o'i hanes am y pum mlynedd dyfodol. Pa faint o ddefnydd a wnaeth o'r Beibl? pa faint o bregethau a wrandawodd? pa faint o gymdeithas crefyddwyr a fwynhaodd? pa fa faint o ymdrech fu gan ddiafol i gadw meddiant o orsedd ei galon? pa gyffroadau a deimlodd am fater ei enaid? pa faint a deimlodd oddiwrth fin cleddyf yr Yspryd, ac argyhoeddiad ei gydwybod? pa faint o weithiau y bu yn ceisio gweddio, ac yn methu? yn ceisio peidio, ac yn methu hyny hefyd ? pa feddyliau a wibiasant trwy ei fynwes, am angau, barn, a byd tragywyddol? Nid tebyg i Yspryd yr Arglwydd lwyr gilio oddiwrtho yn ystod y blynyddau hyny.

Symudodd ei dad a'r teulu i dyddyn bychan a elwid Blaencwmllune, ardal gyfagos i'r Cemes. Yr oedd ein tad yn arfer myned i bregethu i dŷ cyfagos yno a elwid Drws-y-nant, lle byddai ychydig ddysgyblion i'r Gwaredwr yn arfer cyfarfod, ac ychydig bobl yn dyfod yn nghyd i wrando y gair yn cael ei bregethu. Byddai ein tad hefyd yn pregethu mewn lle arall ychydig filltiroedd yn nes i Machynlleth, a elwid Ty'n-rhos. Bu pregethiad yr efengyl yn fendith i fagad o bobl yn yr ardaloedd hyn y pryd hwnw. Yn y cyfnod hwn yr ymunodd Mr. Rowlands à chrefydd, ac y daeth yn ddysgybl cyhoeddus i'r Gwaredwr, a hyny yn mhen tua phum mlynedd wedi iddo gael Beibl i'w feddiant, a phan oedd tua dwy ar ugain oed, tua'r flwyddyn 1814. Yr oedd eglwys fechan wedi ei ffurfio yn Drws-y-nant, ac yn ol yr hyn a allwn ddeall, golygwn mai yno y derbyniwyd ef yn aelod eglwysig. Barna rhai mai yn Llanwrin (yr hwn le ddaw dan ein sylw eto) yr ymunodd â chrefydd; ond ymddengys yn fwy tebygol mai yn Drws-y-nant y derbyniwyd ef. Bu yn y cyfnod hwn yn gwasanaethu mewn fferm yn yml Drws-y-nant, o'r enw Cwmeidrol. Pan yno, ymddengys fod ei enaid yn llawn tanbeidrwydd a gwres crefyddol. Dywedir y byddai yn arfer canu hyd lechweddi a meusydd Cwmeidrol, nes y byddai y cymoedd cyfagos yn adsain. Yr oedd ei lais fel udgorn. Ni wyddai y pryd hwnw ddim am wendid corph na meddwl. Symudodd wedi hyn o Flaen-cwm-llune, ac aeth i drigo i Llanwrin. Mae Llanwrin ychydig filltiroedd yn uwch i fyny na Machynlleth, ac ychydig filltiroedd yn îs i lawr na'r Cemes, ond yr ochr arall i afon Dyfi, yr hon a red i lawr o Fawddwy i Aberdyfi. Mae Llanwrin mewn man hyfryd, wrth wadn mynydd, ar ymyl gwastadedd prydferth, trwy yr hwn yr ymlithra yr afon Dyfi tua'r môr. Yn Machynlleth yr oedd yr eglwys agosaf i Llanwrin, a'r pryd hwnw dan ofaly Parch. Dd. Morgans; ond yr oedd pregethu yn achlysurol yn Llanwrin, ac ychydig enwau yno yn addoli Duw. Yr oedd ein tad hefyd yn arfer myned i bregethu i Ty'nrhos, yn agos i'r Cemes, lle byddai ychydig bobl yn arferol o ddyfod yn nghyd i wrando y gair. Mae yn yr ardaloedd hyny gyfnewidiadau mawrion er gwell wedi cymeryd lle erbyn hyn. Mae capel bychan yn agos i Ty'nrhos, a chapel da arall wedi ei adeiladu rhwng yno a Mallwyd, sef capel Sammah, y rhai ydynt yn bresenol dan ofal y Parch. Hugh Morgans, cydymaith a chyfaill anwyl i Mr. Rowlands er boreu ei oes. Parhausant yn gyfeillion calon hyd ddiwedd oes Rowlands, a byddant yn gyfeillion, mae yn ddiau genym, am byth yn y nef. Ymaflodd Rowlands â'i holl galon mewn crefydd pan ddaeth ati. Gweddïai yn daer am ei llwyddiant; a dywedai ei oreu am ei gwerth. Bu yn dra defnyddiol am rai blynyddau fel aelod yn Llanwrin a Rhiw'r gwreiddyn; er mae yn Llanwrin yr oedd y pryd hwn yn preswylio, gyda'i hen gydnabod yn y Dinas y teimlai ei hun gartref, ac yno yr oedd cartrefle ei serch. Teimlai awydd yn ei galon yn aml i fyned yno, ac i Ty'nrhos, i wrando ein tad yn traddodi hen wirioneddau yr efengyl. Ond yr oedd cryn ffordd ganddo i gerdded i'r Dinas, ac yr oedd afon Dyfi yn rhwystr mawr ar ei ffordd i fyned iTy'nrhos, am nad oedd pont i groesi yr afon, ond naill ai i lawr yn agos i Machynlleth, neu i fyny yn agos i Mallwyd. Ond nid oedd Dyfi na phob rhwystrau eraill, yn ddigon i attal Evan Rowlands i ymwasgu at ei hen gyfeillion. Ai i Ty'nrhos i gyfarfodydd a gynelid yno, a mawr fwynhäai ei hun wrth gyduno â'r rhai a gyfarfyddent yno i addoli yr Iôr. Ymwelai mor fynych y gallai â'i hen gyfeillion yn y Dinas. Pan fyddai yn y Dinas, carai ei hen gydnabod yno yn fawr ei glywed yn gweddio, ac yn d'weyd ei feddyliau am grefydd yn y cyfeillachau. Cwbl gredodd ei hen gyfeillion yn y Dinas fod Yspryd yr Arglwydd wedi ymaflyd yn ei enaid. Sylwent wrth eu gilydd fod rhywbeth yn Evan Rowlands nad oedd yn ei gyfoedion yn gyffredin. Gwelent ol darllen a meddwl ar ei syniadau; a theimlent fod gafael a nerth yn ei weddiau. Cytunasant hwy â'u gweinidog i roddi anogaeth iddo i arfer ei ddawn yn fwy cyhoeddus, gan arwyddo iddo y gallasai fod yn fwy defnyddiol felly gydag achos y Gwaredwr, ac yn fendith i'w gydgreaduriaid. Dechreuodd yntau ddweyd ychydig yn gyhoeddus, ar brydiau, a bu yn Llanwrin, Rhiw'rgwreiddyn, a manau eraill, yn arfer llefaru, yn of ei alluoedd, o dan y pulpudau. Nid oedd eto wedi cael ei awdurdodi i esgyn i'r pulpudau i gyhoeddi efengyl y tangnefedd. Agorodd ein tad ac ereill, fodd bynag, cyn hir iawn, y ffordd i Evan Rowlands i gael myned i'r pulpudau i gyhoeddi cenadwri y cymod. Penderfynodd yn fuan lwyr-ymroddi i'r gwaith; ond yr oedd yn teimlo fod arno eisiau dysgeidiaeth. Trwy gynildeb a diwydrwydd, ac, fe allai, gynorthwy ychydig gyfeillion, cyrhaeddodd fodd i gael ychydig ysgol. Yr oedd y diweddar Barch. O. Owens, Rhesycae, y pryd hwnw yn cadw ysgol ddyddiol yn y Dinas. Aeth yntau at O. Owens i'r ysgol. Yr oedd yno fel cawr mawr yn mhlith y plant; ac ni buasai fawr gorchwyl iddo gario haner dwsin o honynt ar ei ysgwyddau llydain; ond yr oedd yn eu plith mor llon a brithyll, ac mor ddiniwed a'r oen. Ymroddodd i ddysgu, ac yn ol manteision yr ysgol hon, dringodd ychydig i'r lan ar hyd grisiau dysgeidiaeth. Yr amser hwn, ac am flynyddau wedi hyn, yr oedd Athrofa yn Neuaddlwyd, dan ofal y Parch. Thos. Phillips, wedi hyny Dr. Phillips. Yr oedd yr Athrofa hon y pryd hwnw mewn bri mawr yn Nghymru. Derbyniodd llawer o weinidogion enwog Cymru eu haddysg yn y Neuaddlwyd. Nid oedd enwogrwydd neillduol yn perthyn i Golegdy Neuaddlwyd. Hen dŷ tô gwellt ydoedd, yn cynwys ond dwy ystafell; eto rhoddwyd addysg dda gan yr enwog Phillips i lawer gweinidog doniol a gyfododd yn ein gwlad. Efe fu yn cyfeirio meddwl yr anwyl a'r enwog David Jones, Madagasgar, a lluaws mawr ereill o weinidogion Duw a fuant ddefnyddiol yn Nghymru a gwahanol ranau ereill o'r byd. Yr ydym yn cofio yr amser pan fyddai cyhoeddiad dau o fyfyrwyr Neuaddlwyd yn ddigon i sicrhau cynulleidfaoedd mawrion i'w gwrando; ac nid rhyfedd chwaith, oblegid, yn y cyffredin, pregethent gyda nerth a bywiogrwydd neillduol, gan amlygu fod sel danllyd yn enyn o'u mewn. Nid oes ond goleuni y byd tragywyddol a ddatguddia pa faint o ddaioni a wnawd trwy siroedd Cymry trwy bregethau miniog myfyrwyr Neuaddlwyd.

Trwy ei ymroddiad ei hun, ac ychydig gynorthwy gan ereill, gweithiodd Evan Rowlands ei ffordd i'r Neuaddlwyd. Yr oedd yn awr wedi myned i anadlu mewn awyr newydd, ac i gymdeithas ereill, oeddynt yn cydymdrechu fel ei hunan, i gyrhaedd y ddysgeidiaeth angenrheidiol i waith mawr y weinidogaeth; a hyny trwy anfanteision lawer. Yr oedd bod yn mysg rhai oeddynt yn mhell o'i flaen, a rhai oeddynt ar ei ol mewn dysgeidiaeth, yn fanteisiol iddo. Gwnaeth yr Athraw ei ran iddo, a gwnaeth yntau ei ran drosto ei hun. Mwy na allwn ni yw darlunio ei holl helyntion tra bu yn Neuaddlwyd. Gwyddom na fu mewn llawnder mawr tra fu yno, a gwyddom iddi fod yn gyfyng ddigon arno rai prydiau. Cadwyd ef yn Neuaddlwyd am dri mis cyfan gan hen gyfaill iddo yno, yn gwbl ar ei draul ei hun. Yr oedd Rowlands yn foddlon a dedwydd neillduol yn mhob cyfyngder. Un tro, pan wedi bod mewn man yn pregethu-yr oedd cryn daith hefyd i'r lle hwnw—cafodd y swm fawr o swllt am ei bregeth. Wedi dychwelyd at ei gymdeithion nos Lun, adroddai ei hanes fel y canlyn:—"I had shilling, boys, for my sermon—bought half quire of paper and half ounce of tobacco, I got two-pence again, and that's all in the world." Buasai yr amgylchiad yna yn ddigon i yru ambell un bymtheg llath islaw bod yn bruddglwyfus; ond yr oedd ef yn gallu myned i'w wely mor siriol, a chysgu mor dawel, a phe buasai ganddo bum cant o bunau wrth gefn. Ymddiriedai yn ddiysgog yn Rhagluniaeth y Nef. Yr oedd un peth yn dda, nid oedd yn gostus i fyw yn ardal Neuaddlwyd, ond gallu byw yn galed; ac yr oedd efe wedi dysgu y wers hono cyn myned yno. Gofalodd rhagluniaeth fodd bynag iddo gael digon at ei gynaliaeth tra bu yn ymdrechu am addysg yn Neuaddlwyd. Yr oedd ei fryd ar gyrhaedd cylch o ddefnyddioldeb gyda chrefydd, ac addasrwydd i'r cylch y gwelai yr Arglwydd yn dda iddo gael troi ynddo. Ymgynaliodd yn siriol a boddlon yn mhob amgylchiad; cyflymodd yn mlaen mewn dysg; cynyddodd yn gyfartal mewn dawn i ymadroddi, a chyn hir, cyrhaeddodd safle lled uchel fel pregethwr. Yr oedd dau beth yn fanteisiol neillduol iddo—yr oedd ganddo corph cryf, a meddwl cryf, a gwnaeth y defnydd priodol o'r ddau. Gobeithiai Mr. Rowlands, wedi bod am gryn dymhor yn Neuaddlwyd, fel pob myfyriwr arall, yr agorai rhagluniaeth ddrws o ddefnyddioldeb gweinidogaethol o'i flaen, a gobaith ni chywilyddiwyd fu ei obaith yn hyn. Y pryd hwnw yr oedd y Parch. Edw. Davies yn ymadael o Rhoslan a Chapel Helyg, sir Gaer'narfon, i Drawsfynydd a Phenstryd, swydd Feirionydd. Gofynai y cyfeillion yn Eifionydd i Mr. Davies, ar ei ymadawiad oddiyno, pwy a feddyliai a fuasai yn debyg o wneud y tro iddynt ar ol ei ymadawiad ef. Nododd yntau Mr Rowlands fel dyn plain, dirodres, a chryf, a fyddai yn alluog i fyned trwy bob tywydd, ac yn bregethwr da. Wedi treulio yr amser a fwriadai yn Neuaddlwyd, aeth ar daith i sir Gaer'narfon, a chafodd alwad gan yr eglwysi yn Rhoslan a Chapel Helyg, i ddyfod i lafurio yn ngwaith y weinidogaeth yn eu plith hwy. Derbyniodd yr alwad. Symudodd i sir Gaernarfon; ac ar yr 8fed dydd o Ebrill, 1824, ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn Capel Helyg a Rhoslan. Hanes ei urddiad sydd fel y canlyn:—

"Mercher a'r Iau, y 7fed a'r Sfed o Ebrill, 1824, y cynaliwyd cyfarfod yn Capel Helyg, swydd Gaer'narfon, yn yr hwn y neillduwyd E. Rowlands, diweddar fyfyriwr yn Athrofa Neuaddlwyd, i waith y weinidogaeth. Y nos gyntaf am 6, dechreuwyd yr addoliad gan E. Jones, Neuaddlwyd, a phregethodd D. James, o Rosymeirch, a J. Griffiths, Pentraeth. Dydd Iau am 10, dechreuwyd yr addoliad gan Ll. Samuel, Bethesda. Traddodwyd y gyn-araeth gan D. Griffiths, Talysarn. Gofynwyd y gofyniadau gan T. Lewis, Pwllheli. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan W. Hughes, Dinas. Pregethodd Thos. Phillips, Neuaddlwyd, ar ddyledswydd y gweinidog, ac E. Davies, Trawsfynydd, ar ddyledswydd yr eglwys. Am 2, dechreuwyd yr addoliad gan J. Williams, Ffestiniog, a phregethodd W. Hughes o'r Dinas, a T. Phillips, Neuaddlwyd. Am 6, gweddiodd W. Davies, Penuel, a phregethodd W. Roberts, a D. Jones, Myfyrwyr o'r Neuaddlwyd." Dyna'r cyfarfod pwysig yna drosodd, a'r rhan fwyaf o'r rhai oeddynt ynddo ydynt cyn hyn wedi myned i ffordd yr holl ddaear. "Y tadau, pa le y maent hwy?" Pwy a ŵyr faint o goffa mewn llawenydd sydd wedi bod ganddynt yn y nef am gyfarfod yr Urddiad yn Capel Helyg. Wedi cael ei urddo, yr oedd Mr. Rowlands wedi dyfod o fewn cylch y weinidogaeth, a bod yn ddefnyddiol yn ddiau oedd y nod uwchaf y cyfeiriai ato. Ymroddodd ati o ddifrif i ddarllen a myfyrio y Beibl, a llyfrau da eraill. Nid oedd yn ddiog mewn diwydrwydd, ond yn wresog yn yr yspryd yn gwasanaethu yr Arglwydd. Nid oedd yr addysg oedd wedi allu gael cyn myned i'r weinidogaeth, ond wedi cyfodi syched yn ei enaid i ymeangu yn fwy mewn gwybodaeth a dysg. Llafuriodd i ddeall athrawiaethau mawrion crefydd, treiddiai i mewn i'r gwirioneddau mawrion dwyfol, a thraddodai ei bregethau gyda sel a nerth mawr. Nid oedd wedi myned i ryw lawnder mawr o bethau y byd wedi ymsefydlu yn sir Gaernarfon, oblegid nid oedd yr eglwysi yn Capel Helyg a Rhoslan yn gryfion a chyfoethog; ac nid oedd yr eglwysi y pryd hwnw wedi dysgu ond ychydig ar y wers o haelfrydedd at gynaliaeth y weinidogaeth. Llafuriodd, mae'n wir, y blynyddau y bu yn swydd Gaernarfon; ond llafuriodd dan lawer o anfanteision. Bu ei gynydd yn eglur i bawb a'i hadwaenent, a bu ei weinidogaeth yn fendith i laweroedd. Nid ydym yn golygu fod Mr. Rowlands, mwy nag eraill, heb ei golliadau pan oedd yn Capel Helyg a Rhoslan. Dywed y Parch. E. Davies yn ei lythyr atom fel y canlyn:—"Ond, ryw fodd ni tharawodd y gymydogaeth cystal ag yr oeddid yn dysgwyl; efallai pe buasai ychydig yn fwy siriol a chymdeithasol, y buasai yn taraw yn well. Nid oedd. gan neb, hyd a glywais erioed, un amheuaeth am ei onestrwydd a'i dduwioldeb, ac hwyrach, pe buasai ychydig yn fwy mwynaidd, ac yn llai sarug, y buasai yn well." Gallasai rhai feddwl wrth ei ddull weithiau fod tuedd i fod yn sarug ynddo, ond gŵyr y rhai a'i hadwaenent oreu, ei fod yn llawn cymdeithasgarwch, sirioldeb, a serch. Ymddengys i ni na pherthynai grwgnachrwydd i'w yspryd. Pan fyddai cyfyngder arno, nid oedd wedi dysgu cwyno wrth eraill. Fe allai ei fod ar rai amgylchiadau wedi cadw ei gyfyngder yn ddirgelaidd, pan y buasai yn ddoeth a da iddo ei amlygu i eraill. Yr oedd un Sabboth mewn lle yr bregethu yn y boreu a'r hwyr. Yr oedd i bregethu mewn lle arall y prydnawn, ac i ddychwelyd yn ol erbyn yr hwyr; yr oedd saith milldir a haner i'r lle hwnw, a'r un faint wrth gwrs i ddyfod yn ol. Darparodd y cyfeillion anifail i'w gario. Yr oedd hyny yn wir garedigrwydd; aeth yntau ar ei gefn; ond gyda hyny cofiodd nad oedd ganddo ddim yn ei logell i dalu y tollborth y gwyddai oedd ar y ffordd. Aeth yn y fan yn rhy lwfr i hysbysu y cyfeillion yr amgylchiad; disgynodd, a dywedodd ei fod yn dewis cerdded, yn hytrach na chymeryd yr anifail. Felly y bu; aeth i'r lle a phregethodd, a dychwelodd at ei gyhoeddiad erbyn yr hwyr. Costiodd y daith iddo lafur caled, ac yr oedd ei draed druain wedi pothellu yn ddrwg. Nid ydym yn golygu mai tlodi oedd yr achos ei fod heb ddim yn ei logell y pryd hwn, ond naill ai wedi anghofio cymeryd ychydig arian gydag ef, neu wedi golygu na buasai arno angen am arian cyn dychwelyd.

Mewn cyfarfod yn Abersychan, lle yr oedd dau o weinidogion Saesonig, perthynol i'r Wesleyaid, yn bresenol, adroddodd Mr. Rowlands yr hanes uchod, er dangos y llafur oedd yn nheithiau rhai o'u gweinidogion Cymreig. Cyfododd un o'r gweinidogion uchod i fyny, a dywedodd nad oeddynt hwythau yn Lloegr heb deithiau meithion ar brydiau i bregethu; ei fod ef wedi cerdded pymtheg milldir lawer gwaith i bregethu, ond nad oedd ei draed yn blistro; a'r casgliad oedd efe yn ei dynu oedd, fod ei draed ef yn galetach na thraed ei frawd Mr. Rowlands. Casgliad pur naturiol, ond fe allai nad oedd y Sais yn gorph mor drwm ag ef uwch ben ei draed. Nid ydym yn golygu am fynyd mai balchder barodd i Mr. Rowlands beidio amlygu ei amgylchiad, pan oedd heb ddim i dalu y toll-borth, ond nerth y teimlad hwnw oedd yn ei fynwes i beidio amlygu i eraill pan fyddai yn gyfyng arno. Mae rhai yn rhy dueddol i gwyno ac achwyn, ac felly yn ei gwneud yn anghysurus bod yn eu cwmpeini, o herwydd eu heithafion yn yr ochr hono. Barnwn fod Mr. Rowlands yn rhy dueddol i fyned i eithafion yr ochr arall.

Yn y flwyddyn 1829, daeth ar daith i sir Fynwy. Yn mhlith yr eglwysi yr ymwelodd â hwynt yn y sir hon, yr oedd Ebenezer, Pontnewynydd, ger Pontypwl. Yr oedd yr eglwys yn Ebenezer ar y pryd heb weinidog. Cafodd ei bregeth yno y fath ddylanwad ar feddyliau aelodau eglwys Ebenezer, fel y penderfynasant i roddi galwad iddo i ddyfod i lafurio atynt hwy. Yntau, wedi dwys a difrifol ystyried yn ddiamheu, a atebodd eu galwad yn gadarnhaol; ac yn y flwyddyn uchod, symudodd o sir Gaer'narfon, a dechreuodd ei weinidogaeth yn Ebenezer. Wele hanes ei sefydliad yn Ebenezer, o'r Dysgedydd:—

"Sefydliad y Parch. Evan Rowlands yn Mhontypwl Gor. 15fed a'r 16eg, 1829. Y dydd cyntaf, cyflawnwyd y rhanau arweiniol o'r addoliad gan y brawd D. Davies, Penywain; a phregethodd y brodyr M. Morgans, Blaenafon, a T. Thomas, Caerlleon. Am 10 dranoeth, dechreuwyd yr oedfa gan L. Roberts, Cwmdu, a phregethodd y brawd Hopkins o Langatwg; yna gofynodd Ꭹ brawd Davies, Penywain, amlygiad o'r undeb rhwng y gweinidog a'r eglwys, yr hyn a roddwyd yn y dull arferol, ac yna gweddiodd am fendith ar y sefydliad ; wedi hyny pregethodd y brawd D. Lewis, o'r Aber, i'r gweinidog a'r bobl, er eu hanog i lanw eu lle yn y berthynas newydd. Am 2 o'r gloch gweddiodd D. Davies, o'r Gwestynewydd, a phregethodd y brodyr D. Hughes, o'r Casnewydd, a Thomas, o Gaerlleon (yn Saesnaeg), a Stephens, o Nantyglo. Wedi hyny, yn yr hwyr, gweinyddwyd gan y brodyr L. Lewis, Gwenddwr, a Sylvanus, Philadelphia. Cafwyd yma gyfarfod neillduol o gysurus, a hyderwn y bydd gwenau y nef ar y gwaith.—Cyfaill."

Rhyfedd gyfnewidiadau y byd hwn—nid oes yn bresenol ond ychydig iawn ar dir y byw o'r rhai oeddynt yn gweinyddu yn y sefydliad hwn.

Nid annyddorol gan y darllenydd gael yma ychydig o hanes Capel Ebenezer. Mae y capel dros filltir o dref Pontypwl, mewn ardal a elwir Pontnewynydd. Yn y flwyddyn 1721, derbyniwyd Mr. Edmund Jones yn aelod yn Penmain. Dechreuodd bregethu yn 1723. Ordeiniwyd ef yn Nghwm Ebwyfawr, tua'r flwyddyn 1739, yn gynorthwy i'r Parch. David Williams, gweinidog Penmain. Yn fuan wedi hyn, dechreuodd bregethu yn ardaloedd Pontypwl. Yn 1740, symudodd i fyw i'r Transh. Ffarm fechan ydyw y Transh ar fron y bryn, ger Pontnewynydd. Daeth i'w galon ddymuniad cryf i gael capel yn yr ardal hono. Dyn hynod oedd Edmund Jones, yr hwn a elwir yn gyffredin," Yr Hen Brophwyd o Bontypwl." Credai mewn arwyddion a gweledigaethau; a dysgwyliai, mae'n debyg, am arwydd pa le oedd y capel bwriadedig i gael ei adeiladu. Un diwrnod, fodd bynag, gwelodd belydrau dysglaer yr haul trwy y cymylau yn taro ar fan neillduol yn y goedwig oedd yn ngolwg ei dŷ, a'r adar yn pêr byncio yn y lle yr un pryd. Penderfynodd yn y fan mai dyna y lle yr oedd y capel i fod, ac felly y bu. Adeiladodd ei Ebenezer yn nghanol y coed yn y fan hono. Rhaid mai trwy ffydd yr oedd yr Hen Brophwyd yn gweithio; oblegid y pryd hwnw nid oedd ond ychydig drigolion yn agos i'r lle. Fodd bynag, daeth achos blodeuog yn Ebenezer. Ar ol marwolaeth yr Hen Brophwyd, daeth y doniol a'r boneddigaidd Ebenezer Jones yn weinidog i gapel Ebenezer, a bu yn llafurus a llwyddianus iawn am flynyddau. Yn nesaf ato ef daeth Mr. Rowlands yno. Yn nhymor dyfodiad Mr. Rowlands yno, yr oedd yr ardal wedi myned yn dra phoblogaidd—gweithiau glô wedi cael eu hagoryd o gylch y lle; ac er mor anghyfleus yr oedd Capel Ebenezer yn ymddangos pan adeiladwyd ef gan yr Hen Brophwyd, mae yn bresenol yn nghanol poblogaeth luosog, ac mewn man hynod gyfleus. Hen gapel cadarn, trymaidd, yn ol ffasiwn y dyddiau gynt, oedd Ebenezer yr Hen Brophwyd; ac nid oedd dim yn ddeniadol ynddo, ond y teimlad nefolaidd, a'r tân sanctaidd, oedd yn mynwes yr eglwys a gyfarfyddai ynddo i addoli. Yn yr hen gapel hwn y bu Mr. Rowlands yn tywallt allan ffrydlif ei fyfyrdodau yn mhethau mawrion Duw am amryw flynyddoedd. Ond rhai blynyddau cyn terfyniad ei weinidogaeth, adeiladwyd capel newydd, hardd, a chyfleus, yn lle yr hen adeilad. Talwyd yn gyflawn hefyd am dano, ac ychwanegwyd darn helaeth o dir at y fynwent. Torwyd i lawr y coedwigoedd gan mwyaf oedd yn ei amgylchynu; ac yn bresenol, mae y capel hardd yn ymddangos mewn lle ysgafn, prydferth, a dymunol iawn. Yr ydym yn cofio bod mewn Cymanfa yn Ebenezer, ychydig flynyddoedd wedi dyfodiad Mr. Rowlands yno. Yr oedd efe y pryd hwnw yn ei gyflawn nerth a'i fywiogrwydd. Gallesid barnu wrth edrych arno, nad oedd terfyn bron ar nerth ei gorph a'i feddwl. Trefnai y Gymanfa gyda medr neillduol. Ymddangosai fel tywysog yn mhlith y llu; ac wrth gyhoeddi y gwahanol oedfaon, yn nghyd â'r sylwadau pwrpasol a wnai ar y pryd, yr oedd yn ddoniol dros ben; fel y sylwai rhai o'r gweinidogion,—"Rhyfedd at athrylith ac arabedd y dyn yna." Mae llawer o'r gweinidogion ac o'r dyrfa fawr a gyfansoddent y Gymanfa enwog hono, wedi ehedeg ymaith i fyd yr ysbrydoedd fel yntau cyn hyn. Cymanfa ardderchog oedd, a diamheu genyf y cenir byth yn y nef am waith gras Duw ynddi. Daeth Mr. Rowlands i Ebenezer yn y flwyddyn 1829. Bu farw Ebrill 23ain, 1861. Felly, bu yn gweinidogaethu yn Ebenezer ychydig dros 31 o flynyddau. Pan oedd y Parch. T. Rees, D.D., Abertawe, yn Cendl, ysgrifenodd ysgrif ddarluniadol o Mr. Rowlands fel dyn a phregethwr, ac y mae yn hyfrydwch mawr genym osod ysgrif alluog Dr. Rees ger bron y darllenydd. Mae yr ysgrif yn deilwng o'i hawdwr ac o'i gwrthddrych, a diau genym y teimlir hyfrydwch wrth ei darllen.

"Y PARCH. EVAN ROWLANDS, Pontypwl.

"Mae Mr. Rowlands oddeutu 63 oed. Yn ddyn o gorph mawr, nodedig o luniaidd, tua phum troedfedd a deg modfedd o daldra—ei wyneb yn arw iawn gan ol y frech wen; ond mae ei dalcen mawr, llawn, a'i ddau lygad bywiog a siriol, yn fwy na digon o iawn am erwindeb ei wyneb. Y darluniad goreu a allwn roddi o'i feddwl, yw dweyd ei fod yn debyg i'w gorph, yn un mawr, garw, lluniaidd, a nerthol. Dichon nad oes nemawr o weinidogion, os oes un, yn Neheudir Cymru, wedi darllen mwy o weithiau duwinyddion hen a diweddar na Mr. Rowlands. Mae ei lyfrgell yn cynwys amryw ganoedd o gyfrolau, yn yr argraffiadau goreu, o weithiau y prif dduwinyddion, o'r oes Buritanaidd i lawr hyd yr oes hon; a thybiwn nad oes un ddalen o'r cyfrolau hyn heb ei throi ganddo a'i darllen yn ofalus. Yn gymaint a'i fod yn ddarllenwr mor fawr, gellir casglu yn naturiol fod ei bregethau yn gyfoethog o ddrychfeddyliau, ac mai nid cruglwyth o benau llymion ydynt. Rhana ei bregethau yn drefnus i benau a changenau; ond nid gyda rhyw dlysni benywaidd. Nid mewn bertrwydd y mae rhagoriaeth ei bregethau yn gynwysedig; ond mewn cyd—gasgliad o feddyliau grymus, nodedig am eu newydd-deb (freshness), er nad ydynt ond anfynych wedi eu caboli yn ofalus. Mae yn nghwrs cyffredin ei weinidogaeth gyd-gyfarfyddiad dedwydd iawn o'r athrawiaethol a'r ymarferol. Anfynych y clywir ef yn traddodi pregeth athrawiaethol, heb un ergyd ymarferol ynddi; nac ychwaith bregeth ymarferol, heb un nodiad athrawiaethol. Yn ei ieithwedd hefyd, ceidw ar lwybr canolog, rhwng y rhai a draddodant eu meddyliau mewn iaith sych a diaddurn, a'r rhai a'u claddant dan haenau o eiriau chwyddedig a brawddegau blodeuog. Mae Mr. Rowlands yn draddodwr hapus iawn—parabla yn eglur—nid yw un amser yn ddiffygiol o ddigon o eiriau cryfion a phwrpasol; ac y mae ganddo lais cryf a pherseiniol, a'r fath lywodraeth ar agwedd ei wynebpryd, fel y llefara ei olwg yn llawn mor effeithiol a'i eiriau. Ei drefn gyffredin yw siarad yn weddol araf, ond nid yn farwaidd, am yr haner awṛ gyntaf, gan bwysleisio yn gryf yn awr a phryd arall; ac yna, am yr ugain mynyd diweddaf (canys ychydig gyda thri chwarter awr ydyw hyd ei bregethau), cyfyd ei lais yn uchel, a thonid ef yn anarferol o beraidd, dair neu bedair o weithiau yn ystod yr amser hwnw; a bydd ei wrandawyr gyda phob toniad a rydd i'w lais, mewn tymher i waeddi allan, "Melus, moes eto." Medrai ganu ei bregethau mor effeithiol a neb pwy bynag; ond ni chlywsom ef erioed yn gwneud hyny, canys pregethwr yw, ac nid fiddler ydyw. Saith mlynedd ar hugain i'r haf hwn y clywsom ef yn pregethu gyntaf. Gwrandawsom ef y pryd hwnw chwech neu saith o weithiau; a phe na buasem wedi ei weled na'i glywed byth wedi hyny, yr ydym yn sicr nas gallasem ei anghofio. Er ei fod yn awr mewn gwth o oedran, nid ydym yn gallu deall fod ei feddwl, na'i beirianau llafar wedi anmharu yn y mesur lleiaf. Dichon ei fod yn ei ddull cyffredin o draddodi, yn ystod y deg neu y pymtheg mlynedd diweddaf, wedi myned rywfaint yn fwy gwasgarog, (diffusive) a thrwy hyny i raddau, ar amserau, yn llai effeithiol; ond rhodder ef i bregethu yn olaf o dri ar ddiwedd cymanfa, neu gyfarfod chwarterol, pryd na byddo ganddo o'r eithaf dros o haner awr i ddeugain mynyd o amser, a mil i un na fydd ef yn sicr o'i ergyd. Gwelsom ef yn ddiweddar ar ddau o amgylchiadau felly, yn bwrw allan ddrychfeddyliau fel peleni o dân, nes cynhyrfu cynulleidfaoedd mawrion fuasent wedi lluddedu wrth wrando deg neu ddeuddeg o bregethau, yn ystod y diwrnod, mewn capel gorlawn, fel buasent oll yn sefyll ar eu traed, wedi llwyr anghofio eu lludded; ac ar ei waith yn diweddu, teimlai pawb yn siomedig, am na buasai yn parhau awr yn ychwaneg.

'Dyna ddarluniaid byr ac anmherffaith, ond cywir, feddyliwn, cyn belled ag yr â, o'r Parch. Evan Rowlands fel dyn ac fel pregethwr. Mae ei enw a'i nodweddiad, fel gweinidog da i Iesu Grist, yn deilwng o'u trosglwyddo i lawr i'r oesoedd a ddel.

"Ebrill 30, 1855. THOMAS REES, Cendl."

Ni pheidiodd Mr. Rowlands, trwy ystod ei weinidogaeth, ag efrydu gwahanol gangenau dysgeidiaeth, ac hyd y nod yr ieithoedd clasurol. Gŵyr y rhai sydd gydnabyddus â gweithiau hen awduron, fod llawer o honynt yn dueddol i fritho eu gwaith â geiriau ac ymadroddion yn yr ieithoedd Lladin, Groeg, a Hebraeg; a chan fod llyfrgell Mr. Rowlands yn cynwys llawer o weithiau yr hen dadau Puritanaidd, cyfarfyddai â lluaws o'r cyfryw eiriau a brawddegau. Ni foddlonai heb chwilio allan eu hystyr yn gyflawn, a llwyddodd i raddau helaeth iawn yn hyn. Nid oedd yn ysgrifenu llawer ei hun. Darllenwr a meddyliwr mawr oedd.

Yn y flwyddyn 1838, yr oedd i bregethu ar bwne neillduol yn nghyfarfod chwarterol y sir, a gynaliwyd yn Heolyfelin, Casnewydd. Cyhoeddodd y bregeth hono yn llyfryn 6ch., ar ddymuniad ei frodyr yn y weinidogaeth. Gwerthodd rai miloedd o honi, gan mwyaf yn Ngwent a Morganwg. Byddai yn dda i ail argraffiad o honi gael eu taenu trwy eglwysi Cymru y dyddiau hyn. Rhoddwn yma destun, mater, a chynllun y bregeth hono, er i'r darllenydd gael gweled, mai nid ysgafn a di-sylwedd oedd ei bregethau. Testun,—Galarnad i, 4: "Y mae ffyrdd Sion yn galaru, o eisiau rhai i ddyfod i'r ŵyl arbenig: ei holl byrth hi sydd anghyfanedd, ei hoffeiriaid yn ocheneidio, ei morwynion yn ofidus, a hithau yn flin arni." Mater,—"Y cysylltiad sydd rhwng ymddygiadau ac ymdrechion crefyddol Eglwys Gristionogol a llwyddiant gweinidogaeth y cyfryw sydd yn gweinidogaethu yn eu plith.' Ymdriniodd â'r pwnc yn y drefn ganlynol:—"I. Dangos fod y gosodiad hwn yn osodiad rhesymol a phwysig. Mae rheswm yn canmol cydymdeimlad a chydweithrediad yn yr hyn sydd dda. Hefyd, mae yn bwysig, o herwydd mai gogoniant Duw ac achubiaeth eneidiau sydd mewn golwg yn y cysylltiad gweinidogaethol. Ymddengys ei bwysigrwydd, os craffwn ychydig ar y pethau canlynol:

"1. Oddiwrth ymarferiadau cyffredin ac adnabyddus i ni.

"2. Mae moesol deimladau gweision Crist yn dangos ei bwys.

"3. Mae hanesyddiaeth yn cadarnhau pwys y gosodiad.

"4. Dywediadau pendant yr Arglwydd Iesu a ddangosant bwys y gosodiad, yr hwn a ddywedodd, "Cwi yw halen y ddaear," &c.

"II. Sylwn, gan fod y gosodiad blaenorol yn rhesymol a phwysig, ei fod yn beryglus neillduol i Gristionogion fod yn. euog o beidio sylwi arno, ac yn enwedig ei wrthwynebu, trwy beidio cynorthwyo eu gweinidogion, er llwyddiant y weinidogaeth achubol. Ac mewn trefn i hyny gymeryd lle, angenrhaid yw i'r eglwys (os ewyllysia weled llwyddiant ar yr achos), i fod yn ofalus i sylwi ar y pethau hyny y dylent fod yn ochelgar neillduol rhag eu gwneuthur.

"1. Rhaid iddynt fod yn ofalus rhag na meddwl nac ymddwyn, megis pe byddent yn golygu nad oes angenrheidrwydd i neb ond y gweinidog i fod yn llafur a'r ymdrech, mewn trefn i gael adfywiad a llwyddiant ar grefydd yn eu mysg.

"2. Gochel rhag i Dduw eich cael yn euog o feio ar weinidogaeth y gweinidog, o herwydd ei bod yn aflwyddianus, os nad ydych chwi yn gwneud eich dyledswydd o gydwybodol weddio, llafurio, ac ymddwyn fel Cristionogion.

"3. Gochelwch rhag sefyllan fel edrychwyr, a gadael i'r gweinidog nychu ei hun, wrth ymdrechu myned â'r gwaith yn mlaen.

"4. Byddwch ofalus na feioch ar y gweinidog am bregethu yn eglur, llym, a chymhwysiadol.

"5. Nac ofnwch ac nac arswydwch rhag i'r annuwiolion i ddychrynu a thramgwyddo, o herwydd eu bod yn cael clywed eu bai o'r areithfa.

"6. Byddwch ofalus na chefnogoch y dyn terfysglyd ar un cyfrif.

"7. Os bydd eglwys am gynorthwyo ei gweinidog i ddwyn yn mlaen yr achos, bydded iddynt fod yn ofalus neillduol na wrthwynebont ei bregethau yn eu hymddygiadau a'u geiriau.

"III. Gan fod y gosodiad yn rhesymol a phwysig, diau ei fod yn teilyngu ein sylw a'n cefnogiad.


"Ond dan y pen hwn mae yn angenrheidiol i sylwi ar y pethau hyny y dylai yr eglwys gyrchu atynt, a'u gosod mewn gweithrediad, mewn trefn i gael llwyddiant ar y weinidogaeth yn eu mysg.

"1. Gofalu am gynal eu gweinidog, fel y gallo lwyr-ymroddi a chyflwyno ei holl amser at waith y weinidogaeth, os bydd hyny yn alluadwy.

"2. Dwys weddio drosto, a hyny yn ddyfal a difrifol.

"3. Gwnaed yr eglwys gydwybod o gydymdrechu a'r gweinidog i achub eneidiau, gan eu cipio fel o'r gyneuedig dân.

4. Gofalwch am fod yn wir awyddus ac ymdrechgar, am fod yr ordinhadau dwyfol yn cael effaith ddwys ar eich meddyliau.

"5. Gofalwch na wrthwyneboch ac na ddiffoddoch y cynhyrfiadau, a'r gwres, a'r argraff ddaionus, effeithiol, a dwys, a wna y moddion ar eich meddyliau, er eu cynhyrfu at ryw wasanaeth crefyddol trwy oedi.

"6. Rhaid i chwi ofalu bod yn fynych yn yr ymarferiad â moddion gras.

"7. Gofalwch am gyduno â'r gweinidog, os bydd ganddo ryw gynllun i'w gynyg er gwneuthur daioni, ac i ddwyn yr achos yn mlaen.

"8. Gofalwch am ymdrechu bod yn bresenol yn mhob cyfarfod perthynol i'ch cynulliad eglwysig.

"9. Byddwch ochelgar rhag cydymfiurfio ag egwyddorion, yspryd, a dybenion y byd presenol.

10. Gofalwch am ymddwyn yn ddidwyll yn eich masnach, er argyhoeddi y byd fod gwirionedd, sylwedd, ac uniondeb yn perthyn i grefydd Crist.

"11. Gochelwch ymorphwys ar y cyflawniadau cynesaf a'r hwyl ragoraf.

CYMHWYSIAD:—

"1. Gwelwn nad ydyw aflwyddiant y weinidogaeth Gristionogol yn hollol a gwastadol i gael ei phriodoli i ddiffyg doethineb, sel, ac ymdrech yn y gweinidog i lanw ei le yn ei swydd.

"2. Gwelwn fod bai mawr a phechod trwm yn gorwedd wrth ddrws yr eglwys hono roddasant alwad i weinidog i lafurio yn eu mysg, os na chynorthwyant ef.

"3. Gwelwn yr angenrheidrwydd i'r eglwys, os bydd am gael gwyneb y nef, a bendith a llwyddiant yn eu mysg, i godi at ei dyledswydd.

"4. Gwelwn ei bod yn bryd i Gristionogion adael heibio dywedyd, fod y byd yn ddiystyr o grefydd, gan gofio mai hwy a'u dysgodd, trwy eu bywyd dideimlad a dilafur.

"5. Gwelwn yn amlwg fod yn angenrheidiol i broffeswyr ddiwygio yn eu dull o fyw a'u hymdrech grefyddol, mewn trefn i ddiwygio'r byd.

"6. Cofiwn, frodyr, fod sylw manwl y Barnwr cyfiawn arnom, ac y bydd i'r hwn sydd yn ein gweled, ein galw yn fuan i gyfrif am ein hymddygiadau a'n gweithredoedd yn y corph.'

Galwodd Mr. Rowlands y bregeth hon yn Ocheneidiau y Gwyliedydd. Pe cai ei darllen yn gyffredinol, credwn y gwnae les dirfawr. Cynwys yr Alar-Gân, gan ein cyfaill, Mr. Edmund Jones, y fath grynhodeb o'r prif bethau yn mywyd, gweinidogaeth, a marwolaeth Mr. Rowlands, fel nad yw yn angenrheidiol i ni ychwanegu llawer. Bu yn gofalu am rai blynyddau am eglwys Abersychan gydag eglwys Ebenezer. Cafodd yr achos yno yn isel iawn, bu o fendith fawr yn y lle, yn barchus neillduol gan y cyfeillion, ac y mae yno yn bresenol eglwys flodeuog, yn cynwys pobl siriol, fywiog, a llawn o yspryd y gwaith. Bu yn ŵr uchel ac enwog yn ngolwg eglwysi Mynwy a Morganwg am flynyddau, ond daeth cenadon angau i ergydio y tŷ o glai, cafodd fath o ergyd parlysaidd, collodd rymusder ei gorph a'i feddwl, i raddau helaeth, ac araf rodio y bu ar lan afon marwolaeth am gryn dymhor cyn myned trwyddi. Gwelwyd nerth y natur ddynol ynddo pan oedd yn nyddiau ei nerth, a gwelwyd gwaelder a gwendid y natur ddynol ynddo yn mlynyddoedd diweddaf ei oes. Ymddiosgodd o'i wisgoedd gweinidogaethol cyn rhoddi heibio y tabernacl y preswyliai ynddo. Bu yr eglwys yn dyner o hono a gofalus am dano hyd ddiwedd ei ddyddiau yr oedd fel llestr methedig. Yn mis Ebrill, 1861, daeth yr ergyd marwol. Ar y 23ain o'r mis hwnw aeth trwy afon marwolaeth, yn 68 mlwydd oed, a diamheu genym, cyrhaeddodd ei enaid dir y bywyd yr ochr draw yn iach. Gallesid ysgrifenu llawer ychwaneg am dano, fel dyn, cyfaill, Cristion, a gweinidog. Yr oedd yn onest, didwyll, diragrith, a ffyddlon. Fel prawf o'i onestrwydd, nodwn yr engraifft ganlynol Pan oedd yn nhŷ ein tad yn ffarwelio, wrth gychwyn i'r Neuaddlwyd, aeth ein tad i'w hebrwng i'r cae oedd gerllaw y tŷ, ac wrth ymadael, rhoddodd benadur yn ei law, gan ddweyd, Cymerwch hwn, Evan Rowlands, i'ch cynorthwyo; os na ddeuwch yn alluog i'w dalu yn ol, ni ddysgwylir dim oddiwrthych; ni ŵyr neb am dano ond nyni ein dau; ond os deuwch yn alluog, ac os gwelwch un o'm plant rywbryd, ac y meddyliwch y bydd yn dda iddo wrtho, gallwch ei roddi iddo ef.' Pan oedd ysgrifenydd y Cofiant hwn yn yr Athrofa, adroddodd Mr. Rowlands yr hanes wrtho, a thalodd y penadur iddo. Trigai egwyddor gonestrwydd yn ddiau yn ei galon, ac nid oedd dichell yn ei yspryd. Yr oedd yn ddigyfnewid mewn ffyddlondeb i'w gyfeillion. Yr oedd yn Ymneillduwr egwyddorol a chydwybodol, yn gadarn a diysgog fel craig dros yr hyn a gredai ef oedd y gwirionedd. Ymgasglodd amrywiol o'i frodyr yn y weinidogaeth, a lluaws mawr o'i gyfeillion, i'w angladd. Claddwyd ei gorph wrth ymyl porth Capel Ebenezer, yn y llecyn â ddewiswyd ganddo i'w ran farwol gael gorphwys hyd ddydd caniad yr udgorn, a gosodwyd bedd-faen hardd arno gan ei anwyl gyfeillion. Derbyniwyd amryw nodiadau byrion am dano oddiwrth amryw o'i gydnabyddion, y rhai y bydd yn dda gan y darllenydd eu gweled:—

Dywed y Parch. E. Davies, Trawsfynydd, fel y canlyn:—"Nid oes genyf yn bresenol ddim yn neillduol i'w ddywedyd am yr hen frawd. Nid oes un amheuaeth ar fy meddwl nad ydoedd yn ddyn gonest, diweniaeth, a duwiol."

Y Parch. Morris Jones, diweddar o'r Varteg:—"Dymunwn eilio tystioliaeth dda i'm diweddar frawd a'm hen gymydog. Yr oeddwn yn adnabyddus o hono pan y dechreuodd bregethu, a phan yn y Neuaddlwyd, ac yn gymydog agosaf ato tra y bu yn gweinidogaethu yn Ebenezer, Pontypwl. Yr oedd Mr. Rowlands yn ddyn diwyd a bucheddol iawn. Byddai i'w gael yn wastadol yn ei lyfrgell, neu ar yr ystol, neu bulpud yn gweddio a phregethu. Nid ydwyf yn gwybod i ddyn na diafol gael lle i agor eu genau i'w absenu, oblegid cam-fucheddu. Yr oedd yn hoffi darllen tuhwnt i nemor o'i frodyr. Gwyddai fwy nag a ddywedai. Yr oedd ei weinidogaeth yn egwyddorol a chynhyrfiol, yn hytrach nag yn ddeniadol."

Y Parch. Edward Williams, Dinas:—"Dyn caredig a chyfeillgar iawn welais i Mr. Rowlands. Bum yn benthyca llawer o lyfrau ganddo, o bryd i bryd, ac yn eu dwyn o Ebenezer i Blaenafon i'w darllen. Cefais lawer o gynghorion a hyfforddiant ganddo yn nechreu fy ngweinidogaeth—mwy hwyrach na chan neb arall, mewn pethau gwir ymarferol a buddiol. Fel gwendid yn Mr. Rowlands, meddyliwn ei fod yn rhy dueddol i feithrin dislikes. Meithrinai gyfeillgarwch, ond yr wyf yn barnu ei fod yn euog o fod yn rhy dueddol i antipathy tuag at ambell un. Ambell bregethwr hwyrach fyddai o'r Coleg y buasai efe yn meddwl fod ychydig o chwydd athrofaol ynddo; ond mae genyf fi barch mawr iddo, ac ymddygodd tuag ataf yn gyfeillgar a thadol bob amser. Trwyddo ef fel crybwyllydd am i mi dd'od yma i supplio, y daethum i'r Dinas gyntaf.”

Y Parch. M. Morgans, Bethesda-y-fro:—"Bum yn cyd-drafaelu, yn cyd-bregethu, ac yn cyd-gysgu gydag ef lawer gwaith, a gallaf ddweyd fod yr anwyl Rowlands yn berarogl Crist yn mhob man, ac yn mhob peth."

Mr. Edmund Jones, Ebenezer:—"Pe buasai Mr. Rowlands farw 10 mlynedd yn gynt, buasai yn marw yn nghanol ei enwogrwydd a'i ddefnyddioldeb, a buasai llawer mwy o son am dano; ond fel y bu, y mae yn debyg, y gwelodd y Bôd mawr oreu iddi fod."

Yr ydym yn gadael ein hanwyl frawd bellach, wedi gwneud cyfiawnder â'i Gofiant hyd y gallem. Cyfarfod llawen gaffo awdwr a darllenwyr y Cofiant hwn ag ef yn ardaloedd anfarwoldeb. Amen.

GALAR-GAN
AR FARWOLAETH Y
Parch. EVAN ROWLANDS, Ebenezer,
PONTYPOOL,
Yr hwn a fu farw Ebrill 23ain, 1861, yn 68 mlwydd oed.
Gan. Mr. EDMUND JONES, Ebenezer.

SON am Rowlands, Ebenezer,
Sydd i mi'n ddifyrwch mawr,
Yn ei gwmni gyda phleser
Gynt y treuliais lawer awr;
Mewn ymddiddan cyfrinachol
Am wahanol bynciau'r dydd;
Neu am grefydd ymarferol,
Ynte athrawiaethau'r ffydd.

Mynych hefyd bûm yn gwrando
Arno gyda budd a blas
Yn cyhoeddi a darlunio
Trefn iachawdwriaeth gras;
'Rhyn a wnai ar rai adegau
'Mhell tuhwnt i ddysgwyl dyn;
Esgyn byddai'r fath ddring-raddau,
Nes anghofio braidd ei hun.


Ond yn nghanol ei frwdfrydedd,
A phan wedi'i lyncu'n lân
Gan ddylanwad y gwirionedd,
A'i deimladau fel ar dân;
Medrai yno'n dra rhyfeddol,
A naturiol yn mhob rhan,
Adfeddianu'i hun yn hollol,
Heb ddiffygion mewn un man.

Dyma lle'r oedd cuddiad cryfder,
'Rhwn mor enwog gynt a fu,
Am fod ynddo'n cwrdd mewn cymod
Eithaf nodau o bob tu;
Weithiau'r oedd fel taran nerthol,
Nes yn taro pawb yn syn;
'Reiliad nesaf mor ddigynhwrf
Ag yw'r dyfroedd yn y llyn.

Weithiau'r oedd fel corwynt uchel,
Weithiau fel yr awel lwys;
Weithiau fel y fellten danbaid,
Weithiau'n hafaidd iawn a mwys;
Weithiau fel rhyferthwy'n llifo,
Gan ysgubo'r oll yn lân;
Weithiau'n disgyn oddiwrtho
Rhyw gawodau o wlith mân.

Fel cyfangorff o eithriadau,
Weithiau byddai'n fywiog iawn,
Mewn hedegog ddrychfeddyliau,
Ac athrylith ynddo'n llawn;
Brydiau eraill, byddai'n farwaidd—
Pruddglwyf oedd ei gyson groes,
Yr hwn deimlad wnaeth ei argraff
Arno'n ddwys ar derfyn oes.

Er bod golwg gadarn, gawraidd,
Ar ei gorph ac yn ei wedd;
Eto nychlyd oedd a gwanaidd
Hir flynyddau cyn ei fedd;
Felly'r meddwl mawr, gafaelgar,
Fu mor dreiddgar drwyddo draw,
Hwnw'n raddol oll a wywodd,
Gyda'r corph ysgydwodd law.

Dyna'r modd dybenodd gyrfa
Un fu'n enwog yn ei ddydd;
Un a'i enw fydd mewn coffa,
Er i'w gorph falurio'n bridd;

Un â'i enw berarogla
Amryw oesau gyda'r llu;
Un o'r tri chadarnwyr cynta',
'N eglwys Ebenezer fu.

O ran dullwedd pregethwrol,
Nid oedd gaboledig iawn;
Eto'n gryf a dylanwadol,
Ac amrywiaeth ynddo'n llawn;
Medrai drin yr athrawiaethol,
'R egwyddorion o bob rhyw,
A'u hesbonio'n gysylltiadol,
'Nol dysgeidiaeth Llyfr Duw.

Fel meddyliwr, 'roedd yn wreiddiol,
A chyfansawdd ynddo'i hun;
Nid oedd byth mewn gwisg fenthycol,
Yn dynwared unrhyw ddyn;
Gwir, y codai mewn rhan weithiau
Ddrychfeddyliau amryw rai;
Eto'u gwisgo a'u traddodi
Yn ei ddull ei hun a wnai.

Cyrhaedd cylch y weinidogaeth,
Nid trwy gyfrwng dysg a wnaeth;
Ond cymhwysder ei swyddogaeth
Oddi uchod iddo ddaeth;
Yntau ati ymgyflwynodd,
Gorph a meddwl yn un fryd,
Dawn ac amser a gysegrodd,
A'i ymdrechion oll yn nghyd.

Ni fu neb yn fwy gafaelgar
Ac ymroddgar ar ei daith,
Nag oedd ef yn mhob cysylltiad,
Hyd orpheniad ei ddydd gwaith;
Gwir lafurus, athraw cymhwys,
Ydoedd ef yn Eglwys Dduw,
Tra mewn nerth, a iechyd ganddo,
Ei ffyddlonach ni bu'n fyw.

Mewn gwybodaeth ysgrythyrol,
Dringodd ef yn uchel iawn,
A chymhwysder esboniadol
A breswyliai ynddo'n llawn;
Medrai borthi'r praidd yn gyson
A'r danteithion goreu'u rhyw,
Ac arlwyo'r bwrdd yn odiaeth,
O'r amrywiaeth sy'n Ngair Duw.


Eto dysgu egwyddorion
Cristionogaeth yn mhob rhan,
Fu prif nod ei weinidogaeth,
I ryw fesur, yn mhob man;
Ac mewn dysgu pethau felly,
Ni fu'n agos nac yn mhell,
Yn mhlith holl Genhadon Iesu,
Y mae'n ddiau, neb oedd well.

Yn yr eglwys megis blaenor,
Hefyd 'roedd yn enwog iawn;
Iddi byddai'n ŵr o gynghor,
A chymhwysder ynddo'n llawn;
Medrai godi'r gwan digalon,
Medrai gwympo'r balch diras,
Medrai wledda'r pererinion
Ar y manna peraidd flas.

Eilwaith, pan mewn cyfarfodydd,
Gyda brodyr uwch mewn dysg,
Cymeradwy ydoedd beunydd,
A derbyniol yn eu mysg;
Parch ac urddas delid iddo
Gan bob graddau yn mhob man,
Pawb feddyliai'n dda am dano,
A'i hadwaenent ef mewn rhan.

Uchel ydoedd mewn nodweddiad,
Dyn a Christion, yr un wedd;
Dan ei goron mewn anrhydedd
Y disgynodd ef i'r bedd;
Ni fu 'rioed yn warth i grefydd,
Nac i'r eglwys yn un pla;
Ond yn hytrach addurn beunydd
Iddi oedd ei enw da.

Annibynwr egwyddorol
Ydoedd ef o ran ei farn;
Ond am gulni sêl sectyddol
Ni cheid ynddo braidd un darn;
Yn ei fywyd dyn rhyddfrydig
At bob enwad ydoedd e';
Wedi'i farw, dyrchafedig
Yw ei enw trwy'r holl le.
'Roedd fel cyfaill eto'n gywir,
A diddichell yn ei nod,
Ac yn siriol, hawddgar, geirwir,
'Nun â'i air o hyd yn bod;


Nid oedd ynddo ddim yn wamal,
Neu anwadal mewn un wedd,
Medrai hefyd ddal cyfrinach
Mewn dystawrwydd fel y bedd.

Dyma'r gwr mewn gwir ddarluniad,
A'i gymeriad wedi'i roi,
Enwog oedd yn mhob cysylltiad,
Ynddo yma bu'n ymdroi;
Un mewn nod ac ymddygiadau,
Fel mewn geiriau oedd o hyd,
Yn addysgu i bob graddau
Foes a rhinwedd yn un fryd.

Dyna'i nodwedd egwyddorol,
Pan oedd gyda ni yn byw,
Un yn hoffi gwneud daioni,
Er llesoli dynolryw;
Ac am hyny teimlir colled
Ar ei ol, ac hiraeth mawr,
Gan yr oll o'i hen gydnabod,
Oddiamgylch yma'n awr.

Yr oedd ef yn marn y werin
Yn ddyn cysegredig iawn;
Dyn crefyddol anghyffredin,
A phob rhinwedd ynddo'n llawn;
Dyn heddychlon yn mhlith dynion,
Parod oedd i guddio'r bai;
Ond aberthu egwyddorion,
Er gwneud hyny, byth nis gwnai.

Dyna'r dyn a'i holl hynodrwydd,
Fu'n oruchel yn ei ddydd;
Ond er hyny, mewn dystawrwydd
Gorwedd heddyw yn y pridd;
Yr y'm ninau am ddymuno
Heddwch fo i'w lwch yn awr,
Yn y graian oer i huno,
Hyd yr adgyfodiad mawr.

Bu ef fyw am dalm o amser
Wedi gorphen ei ddydd gwaith,
Methiant meddwl ac iselder
A'i gorchfygodd ar ei daith;
'Rhyn a'i gwnaeth mor brudd a gorwael,
Hyd nes oedd fel baban bron,
Rai blynyddau cyn ymadael
A chyffiniau'r ddaear hon.


Felly, dyma'r hwn fu unwaith
'Nun o gewri mawr y ffydd,
'Rhwn gyflawnodd lawer campwaith,
A gwrhydri yn ei ddydd;
Ar y terfyn bron o sylw,
Gan ei holl gyfeillion gwiw;
Can's mewn rhan edrychent arno
Fel yn farw, er yn fyw.

Ac mae hyn i ni yn dysgu
Fod cael marw yn y gwaith,
Yn fwy bendith na hir nychu
Oddi amgylch pen y daith;
Can's cael marw yn eu swyddau,
Ac yn eu cysegrol wisg,
Gadwa enwau rhai personau
Mewn hir goffa yn ein mysg.

Marw'n nghanol ffrwst yr yrfa,
Megis Moses, sydd yn fraint,
Hyn gynyrcha'r effaith ddwysa',
Gyda galar mwya'i faint;
Marw dan ogoniant Williams,
Yn Ynysoedd Môr y Dê—
Dyna ddyn, mewn rhyw ystyriaeth,
Yn cael marw yn ei le.

Felly'n hanwyl gyfaill Rowlands,
Credwn buasai yn fawrhad
Iddo farw pan mewn urddas,
Ac yn enwog trwy'r holl wlad;
Hyn fuasai yn creu tristwch,
Gyda galar llawer mwy,
Ac yn dryllio ar y t'rawiad
Ambell galon bron yn ddwy.

Hyn fuasai'n peri syndod
A chyffroad trwy bob rhan,
Pe'n cael marw ryw ddiwrnod
Pan oedd ar ei uchel fan;
Ond nid felly, bu yn aros
Am flynyddau yn ein mysg,
Mewn neillduedd, wedi diosg
Ymaith ei swyddogol wisg.

Ac am hyny, pan ddaeth angau,
Yn ei greulonderau llym,
I roi'r ergyd olaf iddo,
Ni effeithiodd nemawr ddim

Ar deimladau ei gydnabod,
Ni fu'n alaeth o fawr hynt;
Canys amryw a ddysgwylient
Am y newydd hwnw'n gynt.

'Roedd ei fethiant a'i hir nychdod,
I ryw raddau'n parotoi
Ein meddyliau i gyfarfod
Yr amgylchiad heb gyffroi;
Eto'n teimlo'n ddwys, ddifrifol,
Trwy'n mynwesau pan y daeth
Awr y ffarwel ymadawol,
Awr y cyfyngderau caeth.

Cario'r groes heb un grwgnachrwydd
Wnaeth ef yma gyda ni,
Gan ymgrymu mewn dystawrwydd,
Pan oedd dynaf dani hi;
Fe wnawd felly'n rhyfedd ganddo,
Ar gyffiniau oer y bedd,
Pan oedd angau'n brathu iddo,
Ddydd a nos ei farwol gledd.

Mewn amynedd ac addfwynder,
Dyoddefodd gystudd hir,
Ac aeth adrau dan ei goron,
Iach yw 'nawr, heb boen na chur;
Dianc wnaeth ar bob gofidiau,
I ryw wlad sy'n well i fyw,
'Mhell o gyrhaedd gorthrymderau,
I breswylio gyda Duw.

Ffarwel mwyach, er ein galar,
Gael ei gwm'ni yn y cnawd;
Pe ymchwiliem gyrau'r ddaear,
Ni chaem yno'n hanwyl frawd;
Os yw hyn i ni yn adfyd,
Y mae'n wynfyd iddo ef;
Yn lle cystudd, ca wir iechyd,
Yn lle daear, deyrnas nef.

'Nawr yn mhlith y dorf berffeithiol,
Diau ei fod yr ochr draw,
Dan ei urdd a'i goron freiniol,
Ac aur—delyn yn ei law;
Wedi dechreu'r gân soniarus,
Cân am haeddiant marwol glwy,
Cân a'i gwna yn orfoleddus,
Oesoedd annherfynol mwy.




Argraffwyd gan E. Walters, Caerdydd.

Nodiadau

[golygu]

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.

 

[[Categori: Ellis Hughes, Penmaen]]