Cofiant y diweddar Barch Robert Everett/Bywyd Boreuol Dr. Everett hyd ei Ddyfodiad o'r Athrofa
← Cynwysiad | Cofiant y diweddar Barch Robert Everett gan David Davies (Dewi Emlyn) |
Gweinidogaeth Dr. Everett yn Ninbych |
COFIANT
Y PARCH. ROBERT EVERETT, D. D.
PENNOD I.
Bywyd Boreuol Dr. Everett hyd ei Ddyfodiad o'r Athrofa.
Ganwyd ef Ionawr 2, 1791, mewn lle o'r enw Gronant, yn mhlwyf Llanasa, yn Sir Flint. Y mae rhai lleoedd yn y byd wedi myned yn enwog o herwydd eu cysylltiad â phersonau nodedig. Bydd Bethlehem yn enwog tra pery y byd, fel lle genedigol Dafydd, a Iesu y Messia, mab Dafydd; a bydd Tarsus yn enwog fel lle genedigol Paul. Bydd Cwmhyswn yn enwog fel lle genedigol Williams, o'r Wern, tra byddo swn yn adseinio trwy y cwm hwnw; a bydd y Gronant yn en wog fel lle genedigol Doctor Everett, tra byddo y nant hono yn murmur ar ei gwely gro.
Enw Ysgotaidd yw Everett. Ysgotyn oedd hen daid, a Seisones oedd hen nain y Doctor. Cafodd y gwaed cymysg yna ei gymysgu yn mhellach gyda gwaed Cymreig. Hona athronwyr fod cymysgiad achau yn gwellhau epil; ac y mae hanes y teulu hwn yn ymddangos yn gefnogol iawn i'r cyfryw olygiad. Enwau ei rieni oeddynt Lewis a Jane Everett. Yr oeddynt yn bobl grefyddol, ac yn aelodau o eglwys Annibynol Newmarket. Bu ei dad yn oruchwyliwr mewn gwaith mwn plwm ger y Gronant, am lawer o flynyddau. Yr oedd ganddo deulu mawr o blant, dim llai nag un-ar-ddeg o honynt. Yr oedd yn ddyn deallus a gwybodus. Heblaw bod yn oruchwyliwr yn y mwnglawdd, yr oedd ei dad hefyd yn bregethwr cynorth wyol gyda'r Annibynwyr. Fel pregethwr, hysbysir ni yn Hanes Eglwysi Annibynol Cymru gan y Doctoriaid Rees a Thomas, ei fod yn barchus a defnyddiol. Gwnaeth ymdrechion canmoladwy i roi ysgol dda i'w blant. Yn y teulu crefyddol parchus yna y dygwyd Robert Everett i fyny. Ychydig o adgofion sydd ar gael am ei ddyddiau boreuol; y mae treigliad pedwar ugain o flynyddau wedi eu hysgubo i lwch anghof. Diameu fod hyny yn golled, oblegid y mae ambell dro plentynaidd yn nodweddiadol o yrfa ddyfodol dyn, ac yn esboniad neillduol ar ddadblygiad ei fywyd. Crybwyllir am un tro felly mewn cysylltiad â Robert ieuanc. Unwaith rhoddodd bachgenyn arall farbles iddo; yn fuan gwelai ei dad ef yn eu taflu ymaith, a gofynodd iddo, pa’m yr oedd yn gwneyd hyny ? Ateb odd yntau, " Pe buaswn yn eu cadw i chwareu, ni buaswn ddim gwell na bechgyn eraill. " Ymddengys fod ysbryd ymddidoli oddiwrth y byd, ac awydd rhag ori ar ffordd gyffredin rhai eraill, wedi ei feddianu yn foreu. Un tawel, dystaw a phur ddichwareu ydoedd pan yn blentyn, Yr oedd ynddo ryw bethau yr amser hwnw fel yn arwyddo ei fod i arwain bywyd gwahanol i'r cyffredin.
Robert oedd y trydydd plentyn i'w rieni. Cyrhaeddodd eraill i sefyllfaoedd parchus a rhyw gymaint o enwogrwydd. Yr henaf oedd Ann Hughes; bu hi fyw am dymor yn hen gartref y teulu yn Gronant. Yr ail, Sarah, yr hon a fu farw yn Steuben; Thomas, yr hwn a fu yn ysgolfeistr a lliwiedydd, a fu farw yn Remsen, N. Y.; Lewis, yr hwn a fu am flynyddau yn weinidog parchus a llafurus mewn amryw eglwysi, megys Llangwyfan, Llanrwst, Trefriw, Nant-y-rhiw a Dyserth, ac a fu farw Ebrill 21, 1863, yn 65 oed; Elizabeth Hughes, New York Mills, ger Utica, N. Y.; Jane Davies, Newmarket, Sir Fflint. Bu farw rhai o honynt yn ieuainc.
Ymddengys i Robert Everett ymuno â chrefydd yn eglwys Annibynol Newmarket, yn 1808, pan tua 17 Y gweinidog yno yn yr amser hwnw oedd y Parch. T. Jones, genedigol o Ben-y-bont, plwyf Llanedi, Sir Gaerfyrddin; yr hwn a fu yn gweinidogaethu yno am un-flynedd-ar-ddeg-a-deugain. Dywedai y Parch. D. Morgan, Llanfyllin, am dano yn Hanes Ymneillduaeth : "Yr oedd yn weinidog syml, doeth, a synwyrlawn—yn efengylaidd ei egwyddorion, a difrycheulyd ei ymddygiadau, yr hyn bethau a enillodd iddo barch mawr, dylanwad cryf, a chymeradwyaeth gwresog, gyda ei gyfeillion a'i gydnabyddion. Astudiai ei bregethau yn dda, a byddent yn llawn o efengyl." Dan fugeiliaeth y gwr diwyd a ffyddlawn yna y cychwynodd Robert Everett ei yrfa grefyddol. Canfyddwyd yn fuan fod ynddo alluoedd a chymwysderau at waith y weinidogaeth, ac anogwyd ef i bregethu; a dechreuodd ar y gwaith tua'r Nadolig, 1809. Y testyn cyntaf y pregethodd arno oedd Heb. 2:11, "Canys yr hwn sydd yn sancteiddio, a'r rhai a sancteiddir, o'r un y maent oll. Am ba achos nid yw gywilyddus ganddo eu galw hwy yn frodyr." Traddodwyd hono mewn cwrdd eglwys. Ei bregeth gyhoeddus gyntaf ydoedd oddiwrth y geiriau yn Psalm 130 : 3, 4, "Os creffi ar anwireddau, Arglwydd, O Arglwydd, pwy a saif ? Ond y mae gyda thi faddeuant fel y'th ofner." Ceir ei breg eth ar y testyn hwn yn Nghenhadwr, Ebrill, 1859. Dengys ei destynau cyntaf mor hoff ydoedd o wirion eddau mewnol a bywyd-roddol y trefniant efengylaidd, Diameu iddo daro key-note ei weinidogaeth faith yn berffaith yn ei bregethau cyntaf.
I'w gymhwyso i'r gwaith pwysig oedd mewn golwg ganddo cafodd fyned i'r Ysgol Ramadegol yn Dinbych, ac ar ol bod yno ryw gymaint o amser, cafodd ei dderbyn i'r Athrofa Annibynol yn Ngwrecsam, yn Ionawr, 1811. Nid ydym yn gwybod yn sicr a oedd Dr. Jenkyn Lewis wedi rhoddi i fyny ofal yr athrofa pan aeth ef yno, ond tybiwn nad oedd; beth bynag am hyny, gwyddom mai dan ofal Dr. George Lewis y treuliodd ef y rhan fwyaf o'i amser yno. Yr oedd hwnw yn aelod gwreiddiol o Trelech, Sir Gaerfyrddin, ac wedi bod flynyddau mewn ysgolion dan ofal offeir iad Trelech, offeiriad Llanddowror, Parch. Owen Davies, Trelech, Parch. J. Griffith, Glandwr, Parch. D. Davies, Castell-Hywel, a bod dair blynedd yn athrofa Caerfyrddin. Yr oedd yn ysgolhaig rhagorol, yn ddyn o feddwl grymus, ac yn awdwr enwog. Dywedir am dano fel athraw : " Yr oedd ei gymwysder a'i lwyddiant fel athraw mor uchel yn ngolwg noddwyr yr athrofa, fel yr oeddynt yn barod i wneyd unpeth er mwyn iddo aros mewn cysylltiad â hi. A chymaint oedd ei ddylanwad ar y myfyrwyr, fel yr oeddent yn tybio nad oedd gwr cyffelyb iddo ar wyneb y ddaear." Gwel y Geirlyfr Bywgraffyddol, tu dal. 670. Cafodd Dr. Everett y fantais o fod dan addysg y dyn galluog yna am amryw flynyddau.
Nid ydym yn sicr pa bryd y daeth allan o'r athrofa, ond ymddengys yn debyg mai yn 1815 y cymerodd hyny le. Yr oedd yn ystyriol o'r mawr bwys iddo iawn ddefnyddio ei amser tra o dan addysg, a bu yn egniol iawn i wneyd hyny. Gwnaeth gynydd rhagorol fel efrydydd. Yr oedd amryw bethau yn ffafriol iddo, megys y ffaith iddo fyned i'r ysgol yn ieuanc, ei allu oedd gloewon, ei ddiniweidrwydd, a'i ymroddiad mawr. Cyrhaeddodd wybodaeth helaeth o'r Lladin, y Groeg, a'r Hebraeg.
Diameu i ddylanwad dau ddyn mor rhagorol a Jones, Newmarket, a Dr. Lewis, wneuthur argraff ddofn ac árosol ar ei feddwl teimladol, a bod yn gym orth mawr iddo i ffurfio nodwedd feddyliol bur, efeng ylaidd a phenderfynol, fel y daeth allan o'r athrofa yn llawn o yni a gloewder, gwres a nerth, i ymosod ar waith cynauaf yr efengyl.