Cofiant y diweddar Barch Robert Everett/Dyfyniadau o Bregeth

Oddi ar Wicidestun
Pob Dyn yn Ddiesgus Cofiant y diweddar Barch Robert Everett

gan David Davies (Dewi Emlyn)

At Weinidogion yr Efengyl

DYFYNIADAU O BREGETH.

Salm 130: 3, 4. "Os creffi ar anwireddau, Arglwydd, O Arglwydd, pwy a saif; ond y mae gyda thi faddeuant, fel y'th ofner."

Mae y Salmydd yn nechreu y Salm hon yn adrodd y trallod y buasai ynddo, a'r modd y bu iddo yn ei drallod alw ar enw yr Arglwydd. "O'r dyfnder y llefais," &c. Nid trallod yn nghylch y freniniaeth ydoedd (os Dafydd yn wir oedd awdwr y Salm), ond trallod yn nghylch ei gyflwr, y cyfryw drallod ag yr oedd golwg ar Dduw yn maddeu anwiredd yn tueddu i'w symud. Hyderwn fod rhai yn y dyddiau hyn yn gwybod am y trallod hwn. "O'r dyfnder y llefais arnat," &c. Nid oes neb yn galw ar Dduw ond o ryw ddyfnder." "Ni raid i'r rhai iach wrth feddyg, ond y rhai cleifion." Ac y mae yn dda i ni allu meddwl nad oes un "dyfnder" yn y byd presenol nad oes modd codi golwg oddi yno at Dduw wrth y drugareddfa. Yn yr adnod nesaf, y mae yn dangos ei awyddfryd a'i bryder, ar fod yr Arglwydd yn gwrando ei weddiau. "Arglwydd, clyw fy llefain," &c.

Mae achos genym i ofni fod llawer yn ymarfer yn allanol â'r ddyledswydd o weddio, heb fawr o wasgfa na chaledi arnynt am i'r Arglwydd eu gwrando. Ond y mae gwir weddio yn cynwys y teimlad hwn. Yna y dywed, "Os creffi ar anwireddau, Arglwydd, O Arglwydd pwy a saif?" Sylwn,

I. Ar yr hyn a briodolir yma i'r Arglwydd, sef "craffu ar anwireddau." Wrth hyn y golygir yn ddiau y bydd iddo ddwyn yr anwireddus i gyfrif, fel y gwna y barnwr gwladol ddwyn y drwg—weithredwr i gyfrif. Gallwn nodi yma.

1. Y bydd yr Arglwydd yn sicr o gyfrif â dynion am eu pechodau. Nid "os" o amheuaeth yw yr "os" hon, ond o gadarnhad. Megys y geiriau hyny o eiddo ein Hiachawdwr, "Os myfi a âf ac a barotoaf le i chwi mi a ddeuaf drachefn ac a'ch cymeraf chwi ataf fy hun." Fel pe dywedasai, yr wyf yn myned gyda sicrwydd, a dychwelaf gyda'r un sicrwydd i'ch derbyn ataf fy hun, "fel lle yr wyf fi, y byddoch chwithau hefyd." Felly, gyda sicrwydd daw Duw i gyfrif â dyn am ei anwireddau.

Nid oes lle i gilio oddiwrth hyn. Mae cyfiawnder tragywyddol Duw yn galw am fod barn—mae y cam y mae llawer yn gael oddiwrth orthrymwyr yn y byd presenol yn galw fod barn—mae diogelwch a dedwyddwch y dosbarth rhinweddol o'r bydysawd yn galw fod barn—mae y cam-gyhuddiadau a ddygir yn erbyn Duw a'i orsedd lân, gan elynion iddo, yn peri y bydd rhaid bod barn. Gyda sicrwydd gan hyny, daw Duw i gyfrif â dynion am eu hanwireddau.

2. Bydd y cyfrif yn gyfrif manwl—bydd yr Arglwydd yn "craffu ar anwireddau." Y gair "craffu" a arwydda sylw manwl. Bydd sylw barnol yn cael ei wneyd ar bob anwiredd—ar bob gweithred anwireddus, ac ar bob esgeulusdod pechadurus. Ar weithredoedd pechadurus yn erbyn Duw—yn erbyn dynion—ac yn erbyn ein lles penaf ein hunain. Pob anmharch o'r efengyl a'i hordinhadau—pob cam a wnaed â saint y Goruchaf. "Am bob gair segur a ddywedo dynion y rhoddant gyfrif yn nydd y farn." "Duw a ddwg bob gweithred i farn, a phob peth dirgel, pa un bynag fyddo ai da ai drwg." Mae Duw yn sylwi ar ffyrdd dyn, ac y mae "yn dal ar ei holl gamrau ef."

3. Duw ei hun fydd yn galw y pechadur i gyfrif—– efe fydd yn craffu, "Os creffi ar anwireddau, Arglwydd," &c. Nid ymddiried y gorchwyl hwn a wna i un o'i brophwydi―nid i un angel nac archangel, ond dyfod ei hun a wna. Bydd y gorchwyl yn ddigon pwysig i alw am bresenoldeb Duw ei hun. Duw, yn mherson y Gwaredwr yn ein natur ni, fydd yn barnu y byd mewn cyfiawnder yn y dydd mawr a ddaw.

II. Na ddichon yr annuwiol sefyll barn â Duw. "Os creffi ar anwireddau, Arglwydd, O Arglwydd pwy a saif?"

Ymofynwn yn mha fodd y mae dynion yn ceisio sefyll yn awr, gan wrthsefyll argyhoeddiadau a chymelliadau yr efengyl, ac edrychwn a allant ar y tir hwnw, neu a oes gobaith ar ryw dir arall, i sefyll barn â Duw?

1. Mae dynion yn ceisio sefyll yn awr trwy wadu bodolaeth pechod. Dyma y tir y saif yr anffyddiwr arno—gwadu gwirionedd y Beibl, a gwadu bod dyn yn gyfrifol i Dduw yn ol y Beibl; felly mewn effaith gwada nad oes anwiredd yn perthyn iddo. Lle nad oes deddf, nid oes gamwedd. Ar y tir hwn y ceir llawer yn ceisio sefyll—ac y maent yn y modd hwn yn gallu sefyll yn awr i wrthdaro ac i droi heibio yn llwyddianus bob cymelliad o eiddo yr efengyl sydd yn galw arnynt i ildio y cweryl a throi at Dduw mewn edifeirwch. Maent yn eithaf tawel—troant y Beibl o'r neilldu—dysgwyliant farw fel yr anifail—a chwarddant am ben y son am farn a byd i ddyfod! Ond a saif yr annuwiol fel yna, pan graffo Duw ar ei anwireddau? A all efe wadu gwirionedd y Beibl pan y gwelo y Barnwr wedi esgyn i'w orsedd, a'r llyfrau wedi eu hagoryd? A all efe wadu y Beibl pan y gwelo bob egwyddor ynddo wedi ei gyflawni, a'i gydwybod o'i fewn yn adseinio i bob cyhuddiad a ddygir yn ei erbyn o lyfrau'r farn? O na, ni bydd neb yn gallu bod yn anffyddiwr, na sefyll ar dir anffyddiaeth, yn y dydd rhyfeddol ac ofnadwy hwnw.

2. Mae rhai yn ceisio sefyll yn awr trwy wadu y gosp am bechod. Er proffesu mewn rhan ddwyfolder yr Ysgrythyrau, mynant nad oes cosp ddyfodol yn bod, neu, nad yw yn dragywyddol. Er i Dduw dystio mor eglur yn ei air am y dragywyddol gosp ag y gwna am y dragywyddol wobr—er fod tragywyddoldeb trueni y damnedigion a thragywyddoldeb gwynfyd y saint yn cael eu dal allan yn yr un adnodau, y naill ar gyfer y llall, megys yn y geiriau hyny, "y rhai hyn a ânt i gospedigaeth dragywyddol, ond y rhai cyfiawn i fywyd tragywyddol”—a thrachefn, "y rhai a ddyoddefant yn gospedigaeth ddinystr tragywyddol oddi ger bron yr Arglwydd ac oddiwrth ogoniant ei gadernid ef, pan ddel efe i'w ogoneddu yn ei saint ac i fod yn rhyfeddol yn y rhai oll sydd yn credu".—a llawer o Ysgrythyrau eraill o gyffelyb ystyr—eto ceir llawer yn gwadu y cyfan am y gosp ddyfodol, ac yn sefyll yn dalgryf mewn anedifeirwch ac anghrediniaeth o'r efengyl. Gwrthsafant saethau llymaf argyhoeddiadau yr efengyl yn nghysgod athrawiaeth wael a disail Unifersaliaeth! Ond O! a safant ar y tir yna pan graffo Duw ar eu hanwireddau?—pan bydd y beddau yn agor a'r meirw yn cyfodi, rhai i fywyd tragywyddol a rhai i warth a dirmyg tragywyddol—pan bydd y ddwy dorf wedi ymgasglu ger bron y Barnwr cyfiawn, y nef ac uffern yn y golwg—a safant hwy y pryd hwnw?

3. Mae dynion yn ceisio sefyll yn awr trwy briodoli yr achos o'u pechadurusrwydd i ryw beth arall heblaw eu drygioni eu hunain. Safant yn gryfion yn ngwyneb galwad yr efengyl arnynt i edifarhau am eu pechodau, trwy briodoli yr achos o'u pechodau i'r Adda cyntaf, a dywedant, Beth a allwn ni wrth ein bod yn bechaduriaid, onid o herwydd camwedd Adda yr ydym y peth ydym, a pha beth sydd genym ni i'w wneyd? Mae y cysgod hwn, dan yr hwn y saif llawer i geisio esmwythau eu cydwybodau yn bresenol, yn gymysgedd o wirionedd ac anwiredd. Gwir yw i'r Adda cyntaf bechu, ac i'r hiliogaeth ddynol syrthio ynddo fel deilen; ond y mae yn wirionedd gwerthfawr hefyd fod Duw yn ymwneyd â dyn yn awr ar delerau cyfamod arall, sef cyfamod yr ail Adda, yr Arglwydd o'r nef. Ar ol rhoddiad yr addewid o Had y Wraig, y mae yr holl fyd yn cael ymwneyd â hwy yn ol telerau cyfamod yr ail Adda. Yr ydym ni wedi cael ein geni ar blatform yr ail Adda, Gwaredwr y byd. Nid pechod yr Adda cyntaf a gondemnia y dyn yn y farn, ond ei anghrediniaeth ei hun, yn gwrthod cwympo i mewn â thelerau esmwyth cyfamod yr ail Adda, sef telerau cyhoeddus ac adnabyddus yr efengyl. "A hon yw y ddamnedigaeth, ddyfod goleuni i'r byd, a charu o ddynion y tywyllwch yn fwy na'r goleuni, am fod eu gweithredoedd hwy yn ddrwg." Ni saif neb yn y farn dan gysgod cyfamod Eden—mae dwyfol ras wedi datguddio trefn arall, ac y mae y drefn hono wedi ei datguddio yn helaeth i ni. "Oni bai fy nyfod a llefaru wrthynt, ni buasai arnynt bechod, ond yr awr hon nid oes ganddynt esgus am eu pechod." "Pwy a ddichon sefyll?"

4. Mae rhai yn ceisio sefyll yn awr, trwy feddwl y dichon na arfaethwyd eu hachub. Dywed yr annuwiol yn aml, Beth a allaf fi wneyd? os arfaethwyd fy achub fe'm hachubir―os arfaethwyd fy ngholli fe'm collir—beth sydd genyf fi i'w wneuthur ond aros amser Duw. Ofnym fod dosparth mawr o wrandawyr efengyl yn aros ar y tir hwn. Priodolant yr achos o'u colledigaeth i arfaeth Duw, heb ystyried fod arfaeth Duw yn ëang—mor ëang a'r efengyl a'i galwadau. O'r arfaeth y daeth efengyl a'i galwad eang a grasol. Fe arfaethodd Duw ddanfon ei Fab i wneyd cymod dros bechod y byd—ac fe arfaethodd ddanfon ei efengyl i alw ar bawb i gredu ynddo fel y byddont gadwedig. Nid oes dim yn arfaeth Duw yn anghyson âgalwad fawr yr efengyl—a'r efengyl a'i galwad rasol yw ein rheol ni, ac wrth hon y cawn ein barnu yn y dydd mawr a ddaw. Mae arfaeth dragywyddol Duw a galwad gyffredinol yr efengyl yn berffaith gyson a'u gilydd, a'r cyfan a berthynant i arfaeth ac i efengyl yn bleidiol i ni ddynion i ddyfod at Iesu, credu ynddo a byw iddo, fel y caffom fyw byth gydag ef mewn gogoniant. Nis gall neb dynu un esgus oddiwrth arfaeth lân Duw, i'w cysgodi na'u hesgusodi mewn anufudd—dod i'r efengyl.

5. Rhai a geisiant sefyll yn awr yn nghysgod beiau proffeswyr. Meddyliant fod ganddynt grefydd, yn rhagori ar lawer sydd yn ei phroffesu. Wel, dichon fod hyny yn bod gyda golwg ar y rhai na feddant ond y broffes yn unig ac y mae llawer o ffaeleddau yn y goraf o ddynion yn y byd hwn. Ond os oes rhai yn ymddwyn yn annheilwng o'u proffes, a ydyw hyny yn cyfnewid dim ar grefydd ei hun? Nac ydyw i'r graddau lleiaf. Yr un yw ei gwirionedd, ei dwyfolder a'i gwerth, a'r un yw rhwymau pob dyn i'w chredu a'i chyffesu a byw wrth ei sanctaidd reolau, beth bynag yw ymddygiad eraill tuag ati. Ni saif neb yn y farn yn nghysgod ffaeleddau pobl eraill." Pwy a ddichon sefyll?"

6. Mae rhai yn ceisio sefyll yn awr trwy feddwl nad yw yr argyhoeddiadau ar eu meddyliau yn ddigon grymus. Maent yn meddwl fod pawb a ddaethant at grefydd erioed, yn wirioneddol, wedi cael yr argyhoeddiadau mor rymus nes y gorfu iddynt ddyfod—ac na chawsant hwy mo hyny. Yn awr y mae gwirionedd yn y dybiaeth yna. Mae y rhai a ddaethant at grefydd yn wirioneddol wedi gorfod ildio. Ond ildio o fodd a wnaethant—dewis ildio—ni, buasai rhinwedd yn yr ymddygiad heb ei fod felly. Ni rydd hyn eto ddim esgus erbyn y farn a ddaw. Ni feiddia neb, yn y dydd arswydol hwnw, ddweyd, Ni chefais ddylanwadau digon grymus i'm gorfodi i ddyfod—pe cawswn buaswn inau ar y llaw dde. O na, nid felly, gwrthod meithrin y dylanwadau fydd y condemniad. Meithrin y dylanwadau, drwy ystyried ein ffyrdd a thrwy ymbiliau a gweddiau, a'u cryfhant ac a'u cynyddant; a chwympo fel yr ydym i law y Gwaredwr a'i drefn a'n dwg i dir ag y byddwn yn llawenhau byth i ni gael y fraint o ddyfod iddo.

III. Y gwirionedd gwerthfawr a phwysig a ddatgenir yn y testyn, "Ond y mae gyda thi faddeuant fel y'th ofner." Tri sylw byr a wnawn yma.

1. Y fendith a gyhoeddir yw "maddeuant." Maddeu yw "dileu"—" cuddio "—" anghofio"—pellhau yr anwiredd, "gan belled ag yw y dwyrain oddiwrth y gorllewin." O fendith werthfawr i droseddwr nad oes ganddo fodd i sefyll ar dir yn y byd mewn hunanamddiffyniad.

2. Oddiwrth Dduw yn unig y deilliaw y fendith hon, "y mae gyda thi faddeuant." Dyma y man i droi am faddeuant—nid at y Pab na'i offeiriaid na neb arall, ond Duw. Duw yn unig a all faddeu. Cyfraith Duw yw y gyfraith a droseddwyd, ei enw ef a ddianrhydeddwyd ac a anmharchwyd, iddo ef y mae dyn yn gyfrifol am ei egwyddorion, ei ddybenion, ei deimladau a'i ymddygiadau. O'i dosturi anfeidrol ef y daeth allan drefn i faddeu—trwy rinwedd y pridwerth a dalwyd gan yr ail Berson ar y groes y cafwyd ffordd gyfreithlawn i faddeu—ac yn llaw ei Ysbryd grasol y gweinyddir y fendith—" y mae gyda thi faddeuant." O diolchwn am le i droi i ymofyn am y fath fendith gyfoethog.

3. Mae maddeuant yn cynyrchu ofn yn mynwes y derbynydd. Nid rhoi hyfdra mewn pechod a wna, ond i'r gwrthwyneb yn hollol—peri ofn—ofn mabaidd—ofn ei ddigio yn ol llaw, a hyny o gariad ato a pharch i'w ddeddfau. Dyma a ddywedai yr Iachawdwr yn fynych, pan oedd yma yn nyddiau ei gnawdoliaeth. Maddeuwyd i ti dy bechodau, dos ac na phecha mwyach." Ar dir edifeirwch yn unig y gweinyddir maddeuant, ac y mae edifeirwch yn cynwys gwyliadwriaeth rhag yr hyn yr ydym yn edifeiriol o'i herwydd.

ADDYSGIADAU.

1. Gwelwn nad oes genym le i ddysgwyl gallu sefyll yn y dydd a ddaw, oddieithr i ni dderbyn maddeuant, mewn edifeirwch, wrth orsedd gras, ac yn enw Iesu, yn ein tymor presenol. Marw allan o'r tir yna fydd yn arswydol yn wir.

2. Edrychwn ar fod gras Duw yn ngweinyddiad ei fendithion yn peri ynom fwy o ofn sanctaidd rhag dianrhydeddu ei enw. Ddeiliaid gras, edrychwch ar eich bod yn myned ar gynydd mewn pryder sanctaidd ac ofn pechu.