Cofiant y diweddar Barch Robert Everett/Gorseddfainc Anwiredd
← At Weinidogion yr Efengyl | Cofiant y diweddar Barch Robert Everett gan David Davies (Dewi Emlyn) |
Dyfyniadau o Bregeth II |
GORSEDDFAINC ANWIREDD.
Salm 94: 20.—"A fydd cyd—ymdeithas i ti â gorseddfainc anwiredd, yr hon a lunia anwiredd yn lle cyfraith?'
Gweddi yw y Salm hon yn erbyn llwyddiant y rhai drygionus yn eu cynlluniau anghyfiawn a gorthrymus; ac yn y weddi hon y mae y Salmydd yn apelio at Dduw, ac yn gofyn, “ A fydd cydymdeithas i ti â gorseddfainc anwiredd," &c. Fel pe dywedasai, anmhosibl yw i hyny fod—ni dderbynia y gorthrymydd un cymeradwyaeth oddiwrthyt ti―nis gelli edrych ar anwiredd, a drwg ni thrig gyda thi.
Amos a ddywed am y drygionus (pen. 6: 3), "Y rhai ydych yn pellhau y dydd drwg, ac yn nesâu eisteddle trais." Mae llawer eisteddle trais a llawer gorseddfainc anwiredd i'w cael yn y byd pechadurus hwn. Gorseddfaine anwiredd oedd gorseddfainc Pharaoh, pan y gorthrymai genedl Israel yn yr Aipht, y bwriai eu bechgyn diniwed i'r afonydd rhag cynyddu o'r genedl, ac y gomeddai iddynt fyned i addoli eu Duw yn ol ei orchymyn. Gorseddfainc anwiredd oedd gorseddfainc Jeroboam fab Nebat, ac Ahab, ac Ahaziah, a Herod, a Nero, a llawer o'u bath a welir eto yn estyn eu teyrnwialen dros eu deiliaid gorthrymedig.
"Yr hon a lunia anwiredd yn lle cyfraith." Nid oes un rheol yn deilwng o'r enw "cyfraith," pwy bynag fyddo ei hawdwr—pa un bynag ai Ymerawdwr ar ei sedd unbenaethol, ai gwerinwyr mewn cydgyngorfa—nid yw yn deilwng o'r enw anrhydeddus "cyfraith," heb ei bod yn rheol uniawn a daionus. Dyna y rheolau a deilyngant yr enw "cyfraith," sef y rhai a amcanant at degwch a llesiant y deiliaid, ac a gyd-agweddant âg egwyddorion cyfraith yr Arglwydd. Ond y mae llawer i'w cael, fel y nodir yma, yn llunio anwiredd "yn lle cyfraith." Cyfyngwn ein sylwadau at y caethiwed Americanaidd, fel y mae yn dwyn y nodweddiad hwn. Sylwn,
I. Fod y testyn hwn yn ddarluniad priodol o'r trefniant caeth, fel y mae yn bodoli yn ein gwlad.
"Gorseddfainc anwiredd ydyw." Nid ar egwyddorion gwirionedd a thegwch y mae y gallu caeth yn sylfaenedig. Nid oes hawl gyfiawn gan un dyn i ddal perchenogaeth mewn dyn arall. Mae cymeryd meddiant o ddyn fel pe byddai yn anifail direswm yn "anwiredd," oblegid nid anifail direswm ydyw y mae yn meddu ar reswm, yn meddu ar enaid anfarwol, ac nis gellir ei amddifadu o'i hawl i ymddwyn fel bôd rhesymol, heb filwrio yn erbyn egwyddorion tragywyddol gyfiawnder a gwirionedd.
"Llunio anwiredd yn lle cyfraith" a wneir i gynal i fyny y gallu caethiwol. Ymchwiliad i'w ansawdd a'r modd y mae yn cael ei ddwyn yn mlaen a ddengys hyny yn eglur, Y mae y dyn ei hun yn cael ei ladrata, ac y mae ffrwyth ei lafur am ei oes yn cael ei ladrata. Ni fedd y caeth was ddimeiddo y meistr ydyw yr hyn oll ag ydyw a'r hyn oll a enilla. Pleidio dros gaethiwed ydyw pleidio dros ladrad yn y ffurf waethaf y bodola lladrad yn mhlith trigolion llygredig y ddaear. Lladron dynion" y mae yr Arglwydd yn ei air yn galw caeth—ddalwyr a chaethfeistri, a cheir eu henwau yn y rhestr dduaf o ddrwgweithredwyr o fewn Llyfr Duw. 1 Tim. 1: 9, 10, "Gan wybod hyn, nad i'r cyfiawn y rhoddwyd y gyfraith, eithr i'r rhai di—gyfraith ac anufudd * * * i buteinwyr, i wryw-gydwyr, i ladron dynion, i gelwyddwyr, i anudonwyr," &c.
2. Mae y gosodiadau a wneir i amddiffyn caethiwed yn dinystrio y drefn deuluaidd, yn mhlith y miliynau a ddelir yn y caethiwed. Y cysylltiad teuluaidd ydyw y cysylltiad mwyaf cysegredig a fedd dynoliaeth. Nid oes dim mewn bod ag y mae deddfau Duw wedi codi cymaint o amddiffyniad iddo ag ydyw y cysylltiad teuluaidd. Mae'r wraig yn eiddo y gwr a'r gwr yn eiddo y wraig, ac nis gall neb gyffwrdd a'r cysylltiad hwn heb daro yn erbyn gorseddfainc y nef. Mae y rhieni i olygu dros eu plant a'u dwyni fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Mae ar bob priod a thad rwymau i amddiffyn purdeb ei wraig a phurdeb ei ferch, yn fwy na'i fywyd naturiol ei hun. Ond y mae y gosodiadau caeth yn llwyr ddadymchweliad ar y cysylltiad teuluaidd yn ei holl ranau―nid oes hawl gan y gwr i'w wraig, na chan rieni i'w plant—ac 1. Y mae y gosodiadau a wneir i gynal ac amddiffyn caethiwed yn osodiadau i gynal ac amddiffyn lladrad, a hyny yn yr ystyr waethaf.
nid yw bodolaeth y drefn deuluaidd yn cael ei chydnabod mwy na bodolaeth y cyfryw drefn yn mhlith anifeiliaid y maes—ac os nad yw hyn yn llunio anwiredd yn lle cyfraith, nis gwyddom pa beth sydd. Yn yr ystyr yma y mae y caethiwed Americanaidd yn rhagori mewn anfadrwydd a ffieidd—dra ar gaethiwed pob oes a gwlad arall ar y ddaear. Caethiwed yr Aipht, yn nyddiau Pharaoh greulon, ni chyffyrddai â'r cysylltiad teuluaidd. Y caethiwed Rhufeinaidd a gydnabyddai y cysylltiad hwn. Serfdom Rwssia ni chyffyrddai â'r berthynas deuluaidd. A dywedir fod caeth—ddalwyr Pabyddol Brazil yn dechreu gosod symudiadau ar weithrediad i atal ysgariad teuluoedd eu caethion.
3. Mae y gosodiadau a ffurfir i amddiffyn caethiwed yn gwadu hawl dyn i ddiwyllio ei feddwl fel bôd rhesymol. Y meddwl yw rhan benaf dyn. Yr enaid yw y meddwl, ac yn ol trefn Duw y mae ar bob dyn rwymau i ddiwyllio a dysgyblu ei feddwl, a lleshau ei enaid. O! gymaint o foddion a drefnodd Duw i ddyn i leshau ei enaid!—moddion cynyddu mewn gwybodaeth—moddion cynyddu mewn rhinwedd a phurdeb—moddion dynol—moddion dwyfol—moddion mewn rhagluniaeth—moddion efengyl y bendigedig Dduw. Y meddwl yw y rhan angylaidd o ddyn, dyma y rhan sydd yn ei debygoli i angylion Duw, ac i Dduw ei hun! Ond y mae y trefniant caeth yn ei osod dan yr anfanteision mwyaf gyda golwg ar ddiwyllio ei feddwl, ac enill ei lesiant penaf, gyda golwg ar y byd hwn a'r hwn a ddaw. Yn hyn yr ymddengys un o nodweddion gwaethaf y trefniant caeth. Ymddifadai y dyn o'i ddynoliaeth—a blotiai ymaith (pe byddai modd) ei ysbryd anfarwol—i'w wneuthur yn anifail cyfleus i wasanaethu y dyn gwyn! Ai nid llunio anwiredd yn lle cyfraith yw hyn?
4. Mae y gosodiadau a ffurfir i amddiffyn caethiwed yn sefyll rhwng dyn a'i dragywyddol iachawdwriaeth. Yr efengyl yw moddion iachawdwriaeth. "Chwiliwch yr Ysgrythyrau, canys ynddynt hwy yr ydych chwi yn meddwl cael bywyd tragywyddol, a hwynthwy yw y rhai sydd yn tystiolaethu am danaf fi." "Melusach yw dy air na'r mêl, ac na diferion y diliau mêl"—" gwerthfawrocach na miloedd o aur ac arian " —" ynddynt hwy y rhybuddir dy was, ac o'u cadw mae gwobr lawer." Ond y mae y caethwas, yn y rhan amlaf o'r Talaethau caeth, yn cael ei wahardd i chwilio yr Ysgrythyrau. Gosodir dirwyon trymion a charchariad ar y rhai a gynygiant ei addysgu i adnabod llythyrenau enw ei Geidwad! Fel hyn tuedda y trefniant caeth, nid yn unig i'w ysbeilio o ddedwyddwch penaf y bywyd presenol, ond o unig foddion ei ddedwyddwch tragywyddol. "Gorseddfainc anwiredd" yn wir ydyw a "llunio anwiredd yn lle cyfraith" a wneir i geisio ei ategu a'i gynal.
5. Mae y trefniant caeth yn niweidio ei bleidwyr. Nis gall dyn niweidio ei gyd—ddyn heb wneyd rhyw niwed ar yr un pryd iddo ei hun. Mae y caethfeistri yn gwneyd y niwed mwyaf iddynt eu hunain, trwy dynu euogrwydd ar eu cydwybodau, a thrwy feithrin ynddynt eu hunain dymerau hunanol, arglwyddaidd, a nwydwyllt. Gwna bodolaeth y trefniant hwn y niwed mwyaf i foesau eu plant, trwy y dygiad i fyny a gânt mewn llygredigaethau nas gellir yn hawdd eu darlunio, a thrwy feithrin ynddynt yr un ysbryd ag a welant yn llywodraethu eu rhieni. Effeithia yn fawr ar ysbryd y wlad lle y bodola, mewn barbareidd-dra a chreulonder—ac ni edy neb o'i bleidwyr heb niwed, a hyny yn llawer mwy nag y maent yn ymwybodol o hono eu hunain.
II. Mai y ffurf waethaf o ddal i fyny ddrygau moesol neu osodiadau pechadurus mewn gwlad ydyw eu hamddiffyn trwy ddeddfau dynol.
Pleidwyr caethiwed a ddywedant na ddylem wrthwynebu y trefniant hwn, oblegid mai un o sefydliadau y wlad ydyw, a'i fod yn sefydliad cyfreithlawn yn y wlad, trwy fod y gyfraith wladol yn ei amddiffyn. Yn awr sylwn, (1.) Nid yw y Cyfansoddiad cyffredinol yn ei amddiffyn—nid yw yn ei gynwys nac yn ei bleidio. Gofalwyd wrth ffurfio y Cyfansoddiad i beidio gosod y geiriau caethwas na caethiwed o'i fewn. Yr oedd caethiwed yn bod yn y wlad pan ffurfiwyd y Cyfansoddiad, ac y mae ynddo osodiadau a gydnabyddant ei fodolaeth, ond nid oes gair ynddo yn bleidiol i gaethiwed, nac yn gofyn am ei barhad oesol yn y wlad. Dilewyd caethiwed mewn aml un o'r Talaethau ar ol ffurfiad y Cyfansoddiad, heb gyfnewid dim ar y Cyfansoddiad ei hun, a gellid ei ddileu yn gwbl o'r wlad oll heb gyfnewid gair yn y Cyfansoddiad. Ond eto yn (2.) Y mae cyfreithiau yn bodoli o fewn ein gwlad sydd yn ei bleidio―cyfreithiau a ffurfiwyd gan y Gydgyngorfa, megys cyfraith y caeth ffoedig a ffurfiwyd yn 1850—yn gystal a chyfreithiau y caeth—dalaethau eu hunain. Yn awr ceisiwn brofi y gosodiad uchod, sef mai ceisio cynal trefniadau pechadurus trwy gyfreithiau dynol ydyw y ffurf waethaf o gyflawni pechod.
1. Y mae cynal drygau moesol neu osodiadau pechadurus trwy ddeddfau dynol yn gosod awdurdod ddynol i wrthsefyll yr awdurdod ddwyfol, megys pe byddai dyn yn ogyfuwch a Duw—ïe megys pe byddai dyn yn uwch na'i Greawdwr, mewn teilyngdod ac mewn awdurdod. Ac felly y gwneir yn yr achos hwn. Duw a ddywed, "Na orthryma yr amddifad a'r weddw, na'r dyeithr a fyddo o fewn dy byrth;" ond y dyn a ddywed, Gwnaf orthrymu yn ol fy mympwy fy hun—er fod fy Nghrewr yn fy ngwahardd, mynaf ddeddfau o'm heiddo fy hun i wrthsefyll ei ddeddfau Ef. Geilw gynadleddau, cynulla Gydgyngorfäau, ac yn y cynadleddau a'r Cydgyngorfäau hyny, ffurfia ddeddfau er dileu a diddymu, pe gallai ddeddf dragywyddol Duw.
2. Mae cynal drygau moesol trwy ddeddfau dynol yn amcanu at osod doethineb ddynol i ragori ar ei ddoethineb Ef. Mae deddfau Duw yn argraffiadau o'i ddoethineb, sef o'i ddeall anfeidrol i wybod yr hyn sydd oreu, ac o'i ddaioni anfeidrol i ddewis yr hyn sydd oreu. A phan y mae dyn yn ffurfio deddfau croes i'w ddeddfau ef, y mae megys yn dweyd, Na, mi wn i yn well nag Efe beth ddylai fod, ac y mae genyf galon well na'r eiddo Ef i ddewis yr hyn a ddylai fod! Dyna ysbryd y deddfau caeth a'r trefniadau gorthrymus a bleidir o fewn ein gwlad, ac a amcenir y dyddiau hyn, trwy rym y cleddyf, i helaethu eu dylanwad a'u hawdurdod.
3. Mae cynal drygau moesol trwy ddeddfau dynol yn heriad beiddgar ar allu barnol Duw i gosbi am bechod. Mae deddfau Duw yn wastad yn cynwys bygythiad o ddwyfol farn am anufudd—dod. Nid yw y bygythiad bob amser i'w gael mewn cynifer o eiriau, eto y mae i'w ddeall. "Duw a ddwg bob gweithred i farn, a phob peth dirgel, pa un bynag fyddo ai da ai drwg." Gosod deddfau i amddiffyn yr hyn y mae Efe yn ei wahardd, ydyw herio yn gableddus ei allu i gosbi.
4. Trwy hyn, amcenir gwisgo pechod â math o urddas, neu â'r hyn a gydnabyddir megys urddas gan ddynion. Hyn a gefnoga weithredwyr drygioni yn eu drygioni. Dylai urddas berthyn i bob cyfraith, ac y mae cyfreithiau cyfiawn a daionus yn urddasol ac yn teilyngu parch. Yn awr, pan y ffurfir deddfau gan ddynion i amddiffyn gosodiadau llygredig a drygionus, y mae yn dra anhawdd darbwyllo y rhai a weithredant yn ol y deddfau hyny eu bod yn gwneuthur drwg ac y dylent ymwrthod â'r cyfryw. Mor anhawdd ydyw darbwyllo y rhai a fasnachant yn y diodydd meddwol (er engraifft) eu bod yn gweithredu mewn gorchwylion drygionus, trwy demtio eu cymydogion i yfed a meddwi, a thrwy gynorthwyo i'r holl dlodi a'r gofidiau cartrefol, a'r drwg—weithredoedd a gyflawnir mewn cyssylltiad â'r fasnach hono! A phaham hyny? Am fod y gorchwyl dan nawdd y gyfraith wladol—mae'r gyfraith wedi gwisgo y gorchwyl â math o urddas, fel y mae dynion yn gweithredu ynddo heb un gradd o gywilydd. Felly yn y gorchwyl o fasnachu mewn dynion, yr hyn sydd fil gwaeth a mwy cywilyddus na'r fasnach feddwol. Y gorchwyl hwn a wisgir ag anrhydedd y gyfraith, ac y mae y slave—trader, wrth fyned o amgylch o blanhigfa i blanhigfa i ymofyn am ei nwyddau dynol, i brynu merched ieuainc i ddybenion trythyll (pa wynaf goreu i gyd) mor uchel ei ben ac mor ddigywilydd a'r porthmon sydd yn prynu ac yn gwerthu anifeiliaid! Amddiffyniad y gyfraith a dyn ymaith bob teimlad o warth a chywilydd oddiar ei feddwl.
5. Mae y cam a wneir trwy ddrygau moesol a amddiffynir mewn gwlad gan ddeddfau dynol, yn effeithio yn helaethach, a'r effeithiau hyny yn cyrhaedd mwy o bersonau, na phe byddai y cyfryw ddrygau wedi eu gadael heb ddeddfau dynol i'w hamddiffyn. Golygwn y drwg o ladrata eiddo un dyn gan ddyn arall, neu unrhyw ddull o orthrymu, megys fod y cyfoethog yn gorthrymu y tlawd trwy ei orfodi i lafurio ei dir heb ei gydnabod mewn cyflog—neu unrhyw ddrygau eraill—gadawer y drygau hyny i ymladd eu ffordd yn mhlith dynolion, heb gyfraith i'w hamddiffyn, ac nis gallant effeithio cymaint o niwed na chyrhaedd cynifer o wrthddrychau, a phan y ffurfir cyfreithiau dynol i'w hamddiffyn. Pa fodd y mae cynifer a phedair miliwn o lafurwyr ein gwlad (yr hyn a gynwys bron y seithfed ran o'r holl drigolion) yn cael eu dal dan y fath orthrwm gan ychydig filoedd o gaethfeistri? Pa fodd y llwyddir i allu gwneyd hyny? Deddfau dynol a ffurfir i amddiffyn y drwg—llunio anwiredd trwy gyfraith a wneir, ac felly y cynyrchir y fath effeithiau.
6. Lle y byddo cyfreithiau dynol yn cael eu ffurfio i amddiffyn drygau moesol—bydded y drygau hyny mor ysgeler ag y byddont—y mae holl allu y wlad yn cael ei alw i amddiffyn y drygau hyny. Mae hyn yn gwbl amlwg, oblegid y mae y cleddyf bob amser yn llaw y Llywodraethwr i roi cyfreithiau y wlad mewn gweithrediad. Nid yw y Llywodraethwr yn dal y cleddyf yn ofer yn y peth hwn——beth bynag fyddo y deddfau, y cleddyf a'u hamddiffynant. Os y ddeddf a ddywed, bwrier i ffau y llewod y gwr a archo arch gan Dduw na dyn am ddeg-diwrnod-ar-hugain, hyny a wneir. Os y ddeddf a ddywed, bwrier i'r ffwrn dân wedi ei phoethi saith boethach nag erioed "y dynion na phlygant i'r ddelw aur a gyfodais," hyny a wneir. Yn awr, edrychwn ar ein sefyllfa ninau fel gwlad—onid yw yn arswydol meddwl fod gan ddynion tywysogaidd yn ein gwlad gymaint o rym i orthrymu eu cyd-ddynion ag sydd? Mae y caeth feistri Americanaidd wedi bod hyd yn awr mewn sefyllfa i allu hawlio holl alluoedd y wlad, y fyddin a'r llynges, i'w hamddiffyn yn eu hegwyddorion a'u gweithrediadau gorthrymus. Y Llywydd a'i Gyfringyngor, y Senedd a'r Uchaflys, oeddynt hyd yn ddiweddar, ac ydynt i raddau eto, at eu gwasanaeth, i gynal yr hyn a alwant yn "iawnderau y De"—sef y caethiwed mawr Americanaidd, ac i barhau a chadarnhau y drygioni hwn——a hyny yn unig am fod deddfau dynol o'u gwneuthuriad eu hunain mewn bod i'w pleidio!
7. Mae y cyfrifoldeb o ffurfio cyfreithiau annheg ac anghyfiawn yn gorphwys (mewn gwerinlywodraeth fel yr eiddom ni) ar laweroedd. Mae'r wlad yn euog ger bron yr Arglwydd yn y peth hwn—nid y De yn unig, ond y Gogledd hefyd. Mae y gallu caeth wedi ei fudddyoddef a'i amddiffyn yn hir, a ninau yn gwybod na ddylasai hyny fod. Euog, ac euog iawn ydym am orthrymu o honom y gwan a'r amddifaid—ein cydwybodau a'n cyhuddant, a'r byd yn gyffredinol a'n cyhudda am "lunio o honom anwiredd yn lle cyfraith." Sylwn yn
III. Nas gall y cyfryw orthrwm dderbyn un cymeradwyaeth oddiwrth yr Arglwydd. "A fydd cyd-ymdeithas i ti a gorseddfainc anwiredd?" &c.
Mae y gofyniad yn cynwys dau beth, sef yn gyntaf nas gall yr Arglwydd ei gymeradwyo—ac yn mhellach ei fod ei ffieiddio i'r graddau pellaf. Ychydig o sylwadau yn fyr a wnawn ar hyn.
1. Mae cymeriad glan y Jehofa, fel Bôd cyfiawn a sanctaidd, y fath fel nas gall roddi un cymeradwyaeth i orthrwm nac anghyfiawnder yn neb. Yr ydym yn gwybod gyda sicrwydd am rai dynion, nas gallant gymeradwyo yr hyn sydd ddrygionus, a hyny oddiar y wybodaeth flaenorol sydd genym am eu cymeriad. Pe dywedai rhyw un wrthym am ddyn ag y byddai genym dyb uchel am ei egwyddorion cyfiawn, ei fod yn cymeradwyo tro gwael, isel ac anghyfiawn cymydog iddo at wr tlawd, neu at weddw neu blentyn amddifad yn yr ardal—dywedwn yn uniawn, Na, nis gall hynyna fod, yr wyf yn adnabod y gwr yn rhy dda i allu goddef y dybiaeth wael yna am dano. Felly yr ydym ninau, hyderaf, yn adnabod yr Arglwydd yn rhy dda, oddiar y wybodaeth sydd genym am ei gymeriad cyffredinol, i allu meddwl y bydd iddo ef gymeradwyo gwaith dynion yn gorthrymu eu cyd-ddynion, a'r fath orthrymder a gynwysir yn y gaeth-wasanaeth a'r gaethfasnach. "Duw'r gwirionedd ac heb anwiredd, cyfiawn ac uniawn yw efe." Gelwir ef y "Sanct a'r Cyfiawn." "Ydwyt lanach dy lygaid nag y gelli edrych ar ddrwg, ac ni elli edrych ar anwiredd." "A fydd cyd—ymdeithas i ti," &c. Anmhosibl yw i hyny fod iddo Ef.
2. Mae uniondeb a thegwch ei ddeddfau Ef yn eu holl ranau yn dangos nas gall Efe gymeradwyo gwaith neb yn llunio deddfau anwir a gosodiadau gorthrymus. Deddf Duw a gynwysir mewn un gair, sef cariad. "Cyflawnder y gyfraith yw cariad." "Ceri yr Arglwydd dy Dduw a'th holl galon, ac a'th holl enaid, ac â'th holl feddwl." Hwn yw y cyntaf a'r gorchymyn mawr yn y gyfraith. A'r ail sydd gyffelyb iddo, medd ein Hiachawdwr, "Câr dy gymydog fel ti dy hun." "Ar y ddau orchymyn hyn y mae yr holl gyfraith a'r prophwydi yn sefyll." Ni ddaeth un gair erioed o'i orseddfainc ef ond a gyd—orwedda gyda y cysonedd mwyaf â'r gyfraith yna. Ac nid yw yn ddichonadwy i Fôd ag y mae ei orchymynion oll yn codi oddiar y fath egwyddor, gymeradwyo dim sydd yn orthrymus ac anghyfiawn yn neb o'i greaduriaid.
3. Mae y barnedigaethau arswydol â pha rai y mae yr Arglwydd wedi ymweled â thrigolion ein byd ni, o oes i oes, am y pechod o orthrymu, yn dangos nad yw Efe yn ei gymeradwyo. Gorthrymu y rhai rhinweddol a'r gweiniaid oedd un o'r pechodau a ddygodd y dylif mawr ar y byd. "Byd y rhai anwir" y geilw yr apostol y byd y pryd hwnw. "Ac onid arbedodd efe yr hen fyd, eithr Noë, pregethwr cyfiawnder, a gadwodd efe ar ei wythfed, pan ddug efe y diluw ar fyd y rhai anwir." 2 Pedr 2: 5. Diau i'r addfwyn Enoch ddyoddef llawer am ddwyn ei dystiolaeth yn erbyn yr anwir ddynion, cyn i Dduw ei symud ef—a Noë yr un modd. Gorthrwm ac anllad a ddygodd y gawod o dân a brwmstan ar Sodom a Gomorrah yn nyddiau Lot. Gorthrymu meibion Israel a'u dal mewn caethiwed a ddygodd y deg plâ ofnadwy hyny ar Pharaoh a'i luoedd, y darllenwn am danynt yn hanes y waredigaeth o'r Aipht. Deddfau gorthrymus oedd deddfau Belsassar, pan ollyngodd Duw luoedd y Mediaid a'r Persiaid yn rhydd arno i'w ddarostwng a dinystrio ei lywodraeth. Felly y mae hanes y byd yn profi mai un o'r prif achosion yn mhob oes—ïe, y prif achos—o farnau amlwg odddiwrth Dduw ar deyrnasoedd a gwledydd y ddaear, ydoedd y pechod o orthrymu y gweiniaid a'r angenus. Nis gall Duw, gan hyny, awdwr y barnedigaethau hyn, gymeradwyo dim sydd yn orthrymus. Dywedwn un gair eto,
4. Bydd gweinyddiadau tragwyddoldeb yn profi hyn. Y rhai rhinweddol, addfwyn, tirion wrth eraill, fydd teulu y nef—y rhai cyfiawn tuag at Dduw, a chyfiawn at dynion a gyrhaeddant y fro ddedwydd hono. "Nid â i mewn iddi ddim aflan, nac yn gwneuthur ffieidd-dra, na chelwydd,” &c. A phwy fydd y rhai colledig? Dyma yw iaith y Beibl, "Eithr i'r rhai sydd gynhenus ac anufudd i'r gwirionedd, eithr yn ufudd i anghyfiawnder, y bydd llid a digofaint.' Rhuf. 2: 8. A thrachefn, "Canys digofaint Duw a ddatguddiwyd o'r nef yn erbyn pob annuwioldeb ac anghyfiawnder dynion, y rhai sydd yn atal gwirionedd mewn anghyfiawnder." Rhuf. 1: 18. A thrachefn, "Ond i'r rhai ofnog, a'r digred, a'r ffiaidd, a'r llofruddion, a'r swyn-gyfareddwyr, a'r eilun-addolwyr, a'r holl gelwyddwyr, y bydd eu rhan yn y llyn sydd yn llosgi â thân a brwmstan; yr hwn yw yr ail farwolaeth." Bydd y ddwy sefyllfa byth yn dangos na bu iddo ef erioed gymdeithas â'r hyn sydd orthrymus ac anghyfiawn.
SYLWADAU TERFYNOL.
1. Dysgwn oddiwrth hyn i ymostwng ger bron yr Arglwydd o herwydd pechod dirfawr ein gwlad. Nid oes gwlad ar y ddaear ag a ddylai wybod yn well am werth rhyddid na'r Talaethau hyn, ac eto yma y coleddir ac y coleddwyd dros hirfaith amser y gorthrwm mwyaf.
2. Dysgwn ryfeddu y dwyfol amynedd ei fod wedi ein goddef cyhyd, heb ymweled â ni â barnedigaethau. Nid y rhyfeddod yw fod y wlad yn sathrfa i'n gelynion; ond y rhyfeddod mwyaf o lawer ydyw na buasai barnedigaethau o ryw natur oddiwrtho Ef wedi disgyn arnom er's blynyddau lawer. Ei drugaredd a'i amynedd tuag atom sydd wedi bod yn fawr yn wir.
3. Diolchwn fod y wlad yn teimlo yn yr achos hwn, ac yn dechreu gweled yn lled gyffredinol mai dyma a barodd ein trallod presenol. Bu digywilydddra y bradwyr yn eu symudiadau yn foddion i oleuo y wlad, er mai da fuasai ganddynt ei gelu pe gallasent. Bron na ddywedent wrth alluoedd tramor eu bod gymaint am ryddhau y caethion a neb, tra y mae pob symudiad o'r eiddynt gartref yn dangos mai cadarnhau y fasnach a helaethu ei therfynau oedd eu hunig wrthddrych. Ond y mae gobaith am danom, tra y mae y wlad mor agos ag ydyw at fod yn unllais, mai dyma yr achos o'n terfysg a'n trallod.
4. Diolchwn fod rhwymau anwiredd yn dechreu llacio, a deddfau anwiredd yn dechreu cael eu dileu. Mae ein prif ddinas yn dir rhydd, ac y mae yr holl diriogaethau, trwy Ogledd a De yn dir rhydd. Diolchwn am hyny.
5. Ceisiwn gydnabod llaw yr Arglwydd yr hwn yn unig a all ein diogelu a pheri i ni ymwared yn nydd ein cyfyngder. "Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu; gorfoledded y ddaear, llawenyched ynysoedd lawer" Ymddengys rhai pethau, yn y cyfwng mawr hwn, fel pe byddai yr Arglwydd yn ein herbyn. Ond nid yw efe felly-ond ceisio ein dwyn i weled ein sefyllfa y mae a'n dwyn i wneyd cyfiawnder â'r gorthrymedig, fel y gallo yn ol egwyddorion ei lywodraeth ddaionus, roddi i ni waredigaeth-ïe, y fath waredigaeth ag a fyddai yn fendith i Dde a Gogledd yn nghyd.