Cofiant y diweddar Barch Robert Everett/Rhaglith

Oddi ar Wicidestun
Cofiant y diweddar Barch Robert Everett Cofiant y diweddar Barch Robert Everett
Rhaglith
gan David Davies (Dewi Emlyn)

Rhaglith
Cynwysiad

Y RHAGLITH.

Bywgraffyddiaeth sydd gangen werthfawr ac addysgiadol o lenyddiaeth; ond yr ydym ni fel Cymry wedi ei hesgeuluso i raddau gormodol; ac y mae yn bryd i ni ddiwygio. Y mae dynion sydd wedi bod yn gymwynaswyr i'r cyhoedd, ac yn fendith i'r byd, yn deilwng o goffadwriaeth barchus.

Cydnabyddid yr hybarch Dr. Everett fel prif ddyn yr Annibynwyr Cymreig yn America. Edrychid i fyny ato fel tad a phrif arweinydd yr enwad. Wedi iddo huno yn yr Iesu, coleddid dysgwyliad cyffredinol am ymddangosiad buan ei Gofiant; ond, yn anffodus, ni chafodd y dysgwyliad hwnw ei gyflawni hyd yn awr.

Ar anogaeth teulu y Doctor yr ymgymerais â'r gwaith o olygu ei Gofiant; ond yr wyf wedi cael fy hun dan lawer o anfantais i wneyd cyfiawnder â'r gwaith; a drwg yw genyf na fuasai y gorchwyl wedi disgyn i ran rhywun yn meddu mwy o adnabyddiaeth bersonol o hono, yr hwn a allasai ddarlunio ei deithi a'i nodweddau, heb achos ym ddibynu cymaint ar ddesgrifiadau rhai eraill. Yr wyf yn ymwybodol fod diffygion yn perthyn i'r Cofiant; ond diffyg gallu a phrinder defnyddiau yw yr achos o honynt, ac nid pall mewn ewyllys, na diffyg edmygedd o'r gwrthddrych parchus. Nis gallesid cael ychwaneg o hanes ei fywyd boreuol yn Nghymru, am fod ei gymdeithion yr amser hwnw wedi myned i ffordd yr holl ddaear. Diamheu fod llosgiad ei dŷ, yn y wlad hon, wedi dinystrio llawer o gofnodion allasai fod yn gymorth neillduol at gyfansoddi hanes ei fywyd boreuol. Nid oedd galwad am fanylu ar hanes holl flynyddau ei fywyd yn America, gan ei fod yn byw yn lled debyg un flwyddyn ar ol y llall, ond fel yr oedd yn parhaus gynyddu mewn ysbrydolrwydd a nefoleidd-dra meddwl.

Teimlaf yn ddiolchgar i'r rhai sydd wedi anfon defnyddiau at y Cofiant, a thrwy eu cydweithrediad serchog, hyderaf yr ystyrir cynwysiad y llyfr yn ddyddorol a buddiol, er fod diffygion ynddo. Gobeithiaf na theimla neb o'r cyfeillion hyny yn galed ataf, am dalfyru rhyw bethau yn eu hysgrifau, a gadael rhyw bethau allan. Yr oedd yn angenrheidiol gwneuthur hyny er mwyn gochelyd gormod o ail-adroddiadau, gan fod amryw wedi cyffwrdd â'r un materion.

Yr oedd Dr. Everett yn arfer ysgrifenu ei feddyliau mewn llaw fer Gymreig, a llaw fer Seisonig, nad oes nemawr yn awr yn medru ei darllen: ond y mae un o'i ferched wedi llwyddo i'w deongli; a cheir yn y Cofiant rai pregethau byrion a lloffion wedi eu codi o'i law fer. Cofied y darllenydd nad oedd wedi ysgrifenu y rhai hyny yn gyflawn, nac wedi eu bwriadu i'r wasg, ac felly eu bod i raddau yn anmherffaith. Cyflwynir hwy i'r cyhoedd fel engreifftiau o'r dull y byddai yn bras-linellu ei bregethau, gan adael darnau i'w llanw yn ddifyfyr wrth eu traddodi, yn enwedig ar y diwedd.

Drwg genyf fod amryw ysgrifau rhagorol o'i waith, y rhai y bwriedid eu cyhoeddi, wedi cael eu gadael allan, rhag chwyddo y llyfr yn ormodol, a rheidio codiad yn ei bris. Yr wyf wedi amcanu gwneyd y detholiad o'i gyfansoddiadau yn ddangosiad teg o'i arddull a'i athrylith, trwy gyfleu amrywiaeth o erthyglau ynddo, rhai yn dduwinyddol ac athrawiaethol, rhai yn wrthgaethiwol, a rhai yn ymarferol.

Nid wyf yn meddwl fod eisiau gwneyd esgusawd dros gyhoeddi Adran Seisonig yn y Cofiant, gan y gwna hyny gynyddu ei werth a'i ddefnyddioldeb mewn lluaws o deuluoedd; yn neillduol i'r ieuenctyd.

Dymuna teulu yr hybarch Everett arnaf, i ddefnyddio y cyfleusdra hwn i gyflwyno eu diolchgarwch gwresocaf i bawb a gyfranasant at gyfodi y gofgolofn hardd sy'n nodi gorphwysle olaf eu hanwyl dad, yn mynwent y Capel Uchaf, Steuben .

Y mae'r teulu wedi ychwanegu llawer at werth y gyfrol trwy roddi ynddi ddau ddarlun (steel engravings) hardd o'r Doctor a Mrs. Everett. Cyflawnodd yr arlunydd ei waith yn gampus. Anfynych iawn y gwelir ardebau mor berffaith .


Gallaf hysbysu y darllenydd fod olrhain bywyd duwiol , ac edrych wedi dros ysgrifau pur ac efengylaidd y tad Everett wedi bod yn lles a bendith i fy meddwl i, a'm bod yn gobeithio y bydd olrhain a darllen yr un pethau , yn lles a bendith i'w feddwl yntau .

Yr wyf yn gostyngedig gyflwyno y gyfrol hon i'm cyd genedl , gyda gweddi ar i Dduw y cariad ei bendithio i fod yn lles tragywyddol i lawer.

D. DAVIES (DEWI EMLYN).
Parisville, O. , Tach . 13 , 1879.

CYWEIRIAD GWALLAU.

Tud llinell yn lle darllener
13 10 diniweidrwydd diwydrwydd
42 27 Haul Hawl
52 16 rwyfodd rywfodd
97 19 Emmonds Emmons
148 6 cymerind cymeriad
166 29 ddaear daear
235 4 ddeddf deddf
242 28 y deddf y ddeddf
271 17 dau ddau
281 15 yn ddysgwyl i ddysgwyl
300 24 deilliaw deillia
317 27 anllad anlladrwydd
318 5 odddiwrth oddiwrth
337 13 eu ein