Cofiant y diweddar Barch Robert Everett/Swyddogaeth Eglwys Crist

Oddi ar Wicidestun
"Llestri Digofaint" a "Llestri Trugaredd" Cofiant y diweddar Barch Robert Everett

gan David Davies (Dewi Emlyn)

Pob Dyn yn Ddiesgus

SWYDDOGAETH EGLWYS CRIST.

Yr ydym wedi meddwl er's tro y buasai yn dda genym allu dweyd gair, pe gallem wneyd hyny yn briodol hefyd, ar swyddogaeth eglwys Crist. Y mae o bwys i bob cymdeithas, er ei chysur a'i llwyddiant, fod ei swyddogion yn ddynion doeth, medrus a ffyddlon, a'u bod hefyd yn derbyn gan y rhai y llafuriont iddynt yr ymddiried sydd weddus iddynt yn eu sefyllfa swyddol. Ac o bob cymdeithas ag y mae hyny yn bwysig iddi, eglwys Dduw sydd yn benaf felly.

Eglwys Crist yw y gymdeithas fwyaf goruchel sydd mewn bod. Y mae yn gymdeithas o osodiad ac o drefniad dwyfol. Mae pob peth ynddi i gael ei wneyd yn addas ac mewn trefn, yn ol y portread a'r gorchymyn dwyfol. Cymdeithas ydyw i gario allan yn ymarferol ddybenion mawrion ymgnawdoliaeth a gwaith y Gwaredwr—sef dadymchweliad teyrnas Satan, tröedigaeth dynion at Dduw, sefydliad gwirionedd a rhinwedd trwy yr holl ddaear, ac yn y cyfan gogoneddu enw ein Tad yr hwn sydd yn y nefoedd.

Mae yn perthyn i eglwys Crist weinidogion i draethu gair y bywyd—a diaconiaid. Am yr olaf yn benaf y mae ein bwriad i ddweyd ychydig yn awr.

Ystyr y gair diacon yw gweinyddwr, gweithiwr, neu lafurur. Da fyddai i ddiaconiaid bob amser gofio ystyr priodol eu henw—maent wedi eu galw i'r swydd i weithio, nid i wisgo anrhydedd y swydd yn unig, ond i weithio, ac i weithio yn egniol ac yn ddiwyd, fel rhai sydd i roddi cyfrif. Perthyna i'r swydd yn arbenig i ofalu dros bethau allanol eglwys Crist.

Maent i ofalu am dy yr Arglwydd ei gysegr cyhoeddus i edrych ar ei fod yn lle cyfleus, cysurus a glân, a phob peth o'i ddeutu yn drefnus a dymunol, fel lle addas a deniadol i'r gynulleidfa ddyfod iddo i addoli yr Arglwydd.

Mae yn perthyn i'r diaconiaid i ofalu dros dlodion y gynulleidfa, na byddont mewn eisiau. Dylai hyn gael ei gofio yn ddyfal. Er fod trefn yn y wladwriaeth, yn ngwledydd cred, dros y peth hyn, eto nis gallwn feddwl fod yr eglwysi i'w adael yn ddisylw, ond y dylent edrych yn ofalus na bo neb yn eu plith yn cael eu gadael mewn eisiau a chaledi. Mae dynoliaeth yn gofyn hyny, pa faint mwy yr efengyl?

Perthyna i'r diaconiaid ofalu am gynaliaeth gweinidogaeth yr efengyl yn eu plith yn anrhydeddus ac yn ddi-ofid i'r rhai sydd yn llafurio. Mae diofalwch yn

nghylch cynaliaeth briodol y weinidogaeth wedi bod yn ofid mawr i lawer o weinidogion ffyddlon Iesu Grist. Llawer o'r rhai hyn sydd wedi bod yn drallodus, yn gyfyng arnynt, heb wybod beth i'w wneyd; a hyny yn tarddu, nid oddiar ddiffyg medr yn y gynulleidfa i'w cynal, nac o ddiffyg serch atynt a'r dymuniadau goreu am eu cysur; ond o ddiffyg sel a bywiogrwydd yn y diaconiaid i osod yr achos yn deilwng ger bron y gynulleidfa, a myned o amgylch yn yr amser mwyaf priodol i dderbyn eu gwirfoddol gyfraniadau. Dylai y diaconiaid edrych yn ddyfal at hyn. "Bydded efe yn ddi—ofn yn eich plith chwi," ond pa fodd y gall gwas yr Arglwydd fod yn "ddi—ofn" tra y byddo yn methu talu ei ddyledion cyfiawn, ac yn methu cynal ei deulu? "Na chau safn yr ych sydd yn dyrnu yr yd"—nid am ychain y mae Duw yn llefaru, ond am ei weision, gweinidogion yr efengyl.

Mae yn perthyn i swydd y diaconiaid hefyd i anog a chymell i haelfrydedd cyffredinol, i ysbryd cyhoeddus, a lledaeniad achos yr efengyl trwy y byd. Mae achosion cyhoeddus yn cael cam o ddiffyg mwy o ffyddlondeb yn hyn; ac y mae yr eglwysi eu hunain yn cael cam o eisiau galw allan eu teimladau haelfry dol a'u cyfraniadau haelionus dros achos y Gwaredwr yn gyffredinol, a dychweliad y byd ato. Nis gall un eglwys gynyddu mewn gras a bod yn brin yn ei chyfraniadau a lle na bo cynydd mewn gras, ac yn y gras o haelfrydedd Cristionogol yn arbenig, nid oes yno ryngu bodd Duw; nid oes yno yfed yn helaeth i Ysbryd Crist, "yr hwn ac efe yn gyfoethog a ddaeth er ein mwyn ni yn dlawd," ac nid oes yno ymaddfedu i ogoniant y nef, lle y mae pawb yn haelfrydol fel Crist ei hun.

Mae yn perthyn i ddiaconiaid yr eglwysi hefyd i weinyddu mewn pethau ysbrydol. Camgymeriad hollol ydyw meddwl mai ❝gwasanaethu byrddau” yn unig sydd berthynol iddynt. Maent i fod yn ddynion llawn o'r Ysbryd Glan ac o ffydd, yr hyn sydd yn dangos fod gwaith ysbrydol yn perthyn iddynt. Maent i gynorthwyo y gweinidogion yn nygiad yn mlaen gyfarfodydd cyfrinachol yr eglwys, ac i flaenori yn y cyfarfodydd hyny yn absenoldeb y gweinidogion. Maent i fod yn ddiwyd mewn ymweled â'r cleifion a'r trallodus yn eu hadfyd a'u cyfyngderau. Maent i ymweled â'r rhai a ddianrhydeddant eu proffes trwy gamymddygiadau, i geisio eu hadgyweirio a'u hadferu; ac iddynt yn briodol y perthyna trefnu pob achos o ddysgyblaeth i'w osod ger bron yr eglwys. Ac yn y cyfan yn ddiau dylent ymddwyn yn addfwyn a thirion, ac eto yn benderfynol i gynal iawnderau Brenin Seion ac anrhydedd ei achos.

Dylai eglwysi Crist gofio fod dyledswyddau pwysig yn gorphwys arnynt hwythau tuag at y rhai sydd yn gweinyddu yn eu plith yn y pethau pwysig hyn.

Dylent ufuddhau iddynt yn yr Arglwydd yn barodola siriol. Y mae awdurdod yn perthyn i bob swydd yn eglwys Crist—nid awdurdod ddynol—nid wedi ei derbyn o lys dynol—ond o lys y nef—awdurdod Crist fel Brenin ei saint. Mae pob swyddog yn nhy Dduw yn gweinyddu yn enw yr Arglwydd Iesu Grist; a chan mai yn ei enw y maent yn gweini, y mae hyny yn cynwys eu bod yn gweini yn awdurdod eu Brenin. Ofnym nad yw eglwys Dduw yn ystyried awdurdod swyddogaeth yr eglwys fel y dylont. "Ufuddhewch i'ch blaenoriaid, ac ymddarostyngwch; oblegid y maent hwy yn gwylio dros eich eneidiau chwi," &c. Dyma orchymyn Duw, ac y mae awdurdod yr orsedd yn cyd—fyned a'r gorchymyn. Pan bo cyngor neu gyfarwyddyd swyddogion eglwys Crist yn unol â rheswm ac â gair yr Arglwydd, y mae yn cael ei wisgo ag awdurdod y Brenin Iesu, ac nis gellir anufuddhau, heb daflu sarhad ac anmharch ar goron yr Emmanuel ei hun.

Dylai yr eglwysi ddangos ysbryd o gydymdeimlad tyner â'r diaconiaid, ac nid bod yn haerllug i feio, lle na byddont yn cydweled yn mhob peth. Nid ydym yn ddysgwyl gallu cydweled yn hollol yn mhob peth; ac nis gallwn ddysgwyl na bydd diffygion a chamgymeriadau yn bod weithiau; ond dysgwn gydymdeimlo a'n gilydd a bod yn addfwyn. "Gwneler eich holl bethau chwi mewn cariad."

Dylai yr eglwysi gynorthwyo a chalonogi eu swyddogion trwy ddangos parodrwydd meddwl yn nghyflawniad eu dyledswyddau crefyddol, gan ystyried eu dyledswyddau yn wir freintiau, yn hyfrydwch ac nid yn faich. "Nid trwy gymell," medd yr apostol," ond o barodrwydd meddwl." Fel hyn bydd gorchwylion yr eglwys yn gyffredinol yn cael eu dwyn yn mlaen yn esmwyth a hyfrydol, yn ol tystiolaeth Duw ei hun am ffyrdd doethineb—" Ei ffyrdd hi sydd ffyrdd hyfrydwch, a'i holl lwybrau hi ydynt heddwch."

Dylem gofio swyddogion yr eglwysi mewn dyfal weddiau drostynt at Dduw, am iddo eu nerthu a'u cysuro yn eu gwaith. Cofier y gweinidogion mewn gweddiau; "O frodyr, gweddiwch drosom." Cofier hefyd y diaconiaid mewn gweddiau. Mae eu gwaith yn bwysig a'u cymorth yn unig a ddaw oddiwrth yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nefoedd a daear. Byddwn yn fynych ger bron yr Arglwydd ar ran ein gilydd mewn gweddiau, "Llawer a ddichon taer weddi y cyfiawn"—a bydd ei amddiffyn ef drosom—bydd ein heneidiau yn llwyddo—a'i enw a gaiff y gogoniant.