Cofiant y diweddar Barch Robert Everett/Tristâu yr Ysbryd Glan

Oddi ar Wicidestun
Cyflwr Pechadur a'i Achubiaeth trwy Ras Cofiant y diweddar Barch Robert Everett

gan David Davies (Dewi Emlyn)

"Llestri Digofaint" a "Llestri Trugaredd"

TRISTAU YR YSBRYD GLAN.

TRADDODWYD YN NGHYMANFA UTICA, MEDI 12, 1843.

Eph. 4: 30.-"Ac na thristewch Lan Ysbryd Duw, trwy yr hwn y'ch seliwyd hyd ddydd prynedigaeth."

Ar ol sylwi yn y rhan flaenaf o'i lythyr ar rai o brif athrawiaethau yr efengyl, y mae yr apostol yn dyfod yn mlaen at bethau ymarferol; ac yn mhlith y dyledswyddau a nodir y ceir geiriau y testyn, "Ac na thristewch," &c. Sylwn,

I. Ar yr enw a roddir ar Ysbryd yr Arglwydd—"Glan Ysbryd Duw." Gelwir ef felly yn dra mynych yn yr Ysgrythyrau, i osod allan,

1. Ei burdeb personol a hanfodol. Y mae yn Ysbryd Glan, o ran ei Berson tragywyddol. Y mae yn hanfodol lân. Nid oes neb felly ond Duw yn unig; gallai dynion fod yn ddynion (er nad yn ddynion da) heb fod yn sanctaidd ; gallai angelion fod yn angelion (er nad yn angelion da) heb fod yn sanctaidd ; ond nis gallai Duw fod yn Dduw heb fod yn sanctaidd.

Mae yn anfeidrol lân-yn rhagori mewn sancteiddrwydd ar y creaduriaid sancteiddiaf yn y bydysawd. Yn yr ystyr yma, dywedir ei fod yn gosod ynfydrwydd yn erbyn ei angelion, a'r nefoedd nid ydynt yn lân yn ei olwg ef.

Mae yn anghyfnewidiol lân. Mae creaduriaid Duw yn cynyddu mewn sancteiddrwydd, neu mewn dirywiad yn barhaus; ond y mae Duw ei hun, o ran ei lendid neu ei burdeb moesol, fel yn mhob priodoledd arall, yr un o dragywyddoldeb i dragywyddoldeb.

2. Ei swydd. Gelwir ef yn Ysbryd Glan am mai glanhau yr halogedig yw ei swydd rasol yn nhrefniant gogoneddus ein hiechydwriaeth. Ac y mae yn diamheuol genyf mai o herwydd hyn yn benaf y mae yn dwyn yr enw "YSBRYD GLAN" yn Ysgrythyrau y Gwirionedd.

II. Y gwaith a briodolir iddo yn y testyn—"selio hyd ddydd prynedigaeth." Mae yr ymadrodd yma yn cyfeirio at waith y marsiandwr yn rhoddi ei sêl ei hun ar ei nwyddau, (goods) ei hun. Pan y byddai marsiandwyr yn myned i wlad bell i wneyd eu marsiandiaeth, gwedi prynu, byddai pob un yn gosod ei sêl briodol ei hun ar ei feddianau, fel y byddai iddo eu hadnabod oddiwrth eiddo pob marsiandwr arall wedi eu dwyn tuag adref. Felly y mae Duw yn selio ei eiddo ef; a'r sêl a ddefnyddia efe yw ei ddelw ei hun, yr hon y mae yn ei hargraffu ar ei bobl trwy weithrediadau ei Ysbryd a thrwy foddion yr efengyl. Wrth y sêl hon y cydnabyddir ni yn eiddo i'r Arglwydd yn "nydd prynedigaeth."

Wrth "ddydd prynedigaeth" y mae i ni ddeall dydd rhyddhad y corph o'r bedd, dydd yr adgyfodiad cyffredinol. Ystyr y gair prynedigaeth yw rhyddhad neu ymwared. Defnyddir ef yn fynych i osod allan warediad neu ryddhad eneidiau pechaduriaid, trwy ras, o gaethiwed gwasanaeth pechod i sefyllfa plant rhyddion yn nhy a gwasanaeth yr Arglwydd. "Gan wybod nad â phethau llygredig, megys arian ac aur y'ch prynwyd oddiwrth eich ofer ymarweddiad," &c. 1 Pedr, 1 : 18. "Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau, yn ol cyfoeth ei ras ef," Eph. 1: 7. Ond wrth y prynedigaeth yn y testyn y golygir rhyddhad y corph o garchar y bedd, yn y dydd hwnw am yr hwn y llefara Mab Duw pan y dywed, Na ryfeddwch am hyn; canys y mae yr awr yn dyfod yn yr hon y caiff pawb a'r sydd yn y beddau glywed ei leferydd ef; a hwy a ddeuant allan," &c. Ioan 5: 28, 29. Yn y dydd hwnw y bydd sylweddolion cyrph y saint yn dyfod i fyny yn gyrph ysbrydol, anllygredig, cyffelyb i'w gorph gogoneddus ef. Am y brynedigaeth hon y llefara yr apostol, Rhuf. 8: 23, "Gan ddysgwyl y mabwysiad, sef prynedigaeth ein corph." Yn y dydd rhyfedd hwn, bydd eiddo yr Arglwydd yn cael eu hadnabod wrth y sêl neu y ddelw a roddwyd arnynt yn nhymor eu bywyd ar y ddaear.

III. Yr ymddygiad y gelwir ni i wylio rhagddo, sef "tristâu yr Ysbryd Glan," &c. Cawn enwi yma rai o'r amrywiol ffyrdd ag y dylem eu gochelyd, yn y rhai y tristeir Glan Ysbryd Duw.

1. Edrych yn fach ar y dylanwadau a fwynheir genym yn barod o eiddo yr Ysbryd Glan, sydd yn tueddu i'w dristâu. Nid oes un Cristion nad yw yn ddeiliad o ryw ddylanwadau oddiwrth yr Ysbryd Glan-rhyw deimlad o ddrwg pechod-rhyw bigiadau cydwybod o herwydd cyflwr y byd-rhyw ddymuniad am ymadnewyddiad mewn crefydd, &c. Ac yn wir yr wyf yn ameu a oes un dyn dan yr efengyl nad yw yn ddeiliad dylanwadau gwerthfawr ar amserau oddiwrth y tragywyddol Ysbryd-mewn atalfeydd, mewn cymelliadau, mewn argyhoeddiadau, &c. Yn awr, gochel di ddibrisio y dylanwadau sydd ar dy feddwl, ac felly dristâu y Dyddanydd nefol; ond o'r tu arall, ymdrecha eu meithrin, a gweddia am eu cynydd.

2. Edrych yn fach ar y moddion a drefnodd yr Ysbryd Glan er ein iachawdwriaeth, sydd yn tueddu i'w dristâu. Mae holl foddion iachawdwriaeth o drefniad yr Ysbryd Glan. Efe a'n cynysgaeddodd â'r Gyfrol Ddwyfol, "Dynion sanctaidd Duw a lefarasant, megys eu cynhyrfwyd gan yr Ysbryd Glan." Efe yw awdwr y doniau gweinidogaethol yr ydym yn eu mwynhau; o'i anfoniad ef y mae ein hathrawon. Efe a drefnodd i ni freintiau yr Ysgol Sabbothol, y gyfrinach neillduol, y cymundeb, y weddi ddirgel, y manteision teuluaidd; ie, yr holl foddion am ein tragywyddol fywyd, y rhai yr ydym yn eu mwynhau, ydynt o'i drefniad a'i osodiad ef. Gwylia ei dristâu trwy waeddi, "Manna gwael," uwchben y moddion yr ydwyt yn eu mwynhau.

3. Esgeuluso ein cydgynulliad sydd yn tristâu Glan Ysbryd Duw. Mae lle i ofni fod llawer yn ein dyddiau ni yn byw yn yr "arferiad" o esgeuluso eu cydgynulliad; fel y dywed yr apostol, "Heb esgeuluso eich cydgynulliad eich hunain, megys y mae arfer rhai," Heb. 10: 25. Trwy esgeuluso yr ydym yn colli dwy fendith ar unwaith-yr ydym yn colli bendith y cyfarfod a esgeulusir, a thrwy dynu euogrwydd ar ein cydwybodau yr ydym yn anghymwyso ein hunain yn fawr i fwynhau bendith y cyfarfod nesaf. Fel hyn i'r esgeuluswr y mae y moddion yn myned yn llai ei werth o bryd i bryd, a'i enaid yn cael ei adael mewn culni ysbrydol. Rheol y Cristion ddylai fod, peidio esgeuluso un moddion ag a allo ei fwynhau. Dichon iddo golli moddion lawer tro, trwy gystudd, neu trwy fod o gyrhaedd y moddion ar yr amser, neu y cyffelyb. . Ond ni ddylai esgeuluso unwaith yn ei dymor; oblegid y mae arno angen dylanwad pob moddion o drefniad Duw idd ei ddwyn yn mlaen yn ffordd bywyd tragywyddol.

4. Peidio gofyn am ei gymdeithas a'i gymorth mewn dyledswyddau crefyddol sydd yn tristâu yr Ysbryd Glan. Mae hyn yn sarhad arno yn ei swydd yn ngwaith iechydwriaeth-ei waith yw "cynorthwyo ein gwendid ni," Rhuf. 8: 26. Trwyddo y cyflawnir dyledswyddau crefyddol yn gymeradwy; hebddo, ni bydd cyflawniad un ddyledswydd ond yn ffurfiol, yn Phariseaidd, ac anghymeradwy. Os esgeuluso gofyn am ei gwmni y byddi wrth fyned i'r cwrdd gweddi, pa ryfedd os bydd y cwrdd gweddi hwnw i ti yn galed a di-wlith? Os esgeuluso gofyn ei gymdeithas wrth fwrdd y cymundeb, wrth yr allor deuluaidd, yn y pwlpud, dan y pwlpud, neu pa le bynag, pa ryfedd ei fod yn dy adael?

5. Rhoddi lle yn ein mynwes i feddyliau cnawdol a llygredig sydd yn tristâu yr Ysbryd Glan. Cofiwn mai Ysbryd Glan yw, ac nas gall ei burdeb anfeidrol ei oddef i gymeryd ei drigfan lle y mae meddyliau aflan yn cael eu coleddu. Un nwyd lygredig yn cael ei choleddu a gaua ddrws y galon yn erbyn sanctaidd bresenoldeb yr Ysbryd Glan. Am hyny y dywed y Salmydd, "Meddyliau ofer a gaseais, a'th gyfraith di a hoffais."

6. Rhoddi lle i feddyliau anghymeradwy neu ddweyd geiriau anghymeradwy am eraill sydd yn tristâu yr Ysbryd Glan. Gofynir yn y 15fed Salm, Arglwydd, pwy a drig yn dy babell? pwy a breswylia yn mynydd dy sancteiddrwydd?" ac atebir yn mhlith pethau eraill, mai y dyn hwnw "yr hwn nid yw yn absenu â'i dafod," nac yn "derbyn enllib yn erbyn ei gymydog," a'r hwn "a wnelo hyn nid ysgogir yn dragywydd."

7. Trwy fyned yn ddiachos i ffordd y brofedigaeth yr ydym yn tristâu yr Ysbryd Glan. "A ddichon gwr ddwyn tân yn ei fynwes heb losgi ei ddillad? A ddichon gwr rodio ar hyd marwor heb losgi ei draed?" Diar. 6:27, 28. Dyben y gofyniad cyffrous hwn yw, dangos fod yr hwn sydd yn rhedeg yn ddiachos i wyneb profedigaethau yn dra sicr o gael niwed.

8. Yr ydym yn fynych yn tristâu yr Ysbryd Glan trwy esgeuluso gwneyd daioni pan y byddo ar ein llaw ei wneuthur. Llawer un a gollodd bresenoldeb y Dyddanydd nefol am faith amser o herwydd iddo esgeuluso gwneyd cymwynas i gymydog tlawd yn ei ymyl, mewn cystudd neu dlodi, neu bob un o'r ddau, pan y gallasai yn rhwydd wneyd hyny; a llawer un sydd yn cael ei adael o ran ei enaid fel mynydd Gilboa, heb na gwlith na gwlaw arno, o herwydd ei fod yn esgeuluso cydweithio gydag ymdrechion dyngarol yr oes, i ddwyn oddiamgylch ddaioni dynolryw a llwyddiant teyrnas ein Harglwydd ar y ddaear. Mae y cymydog tlawd cystuddiol yr esgeulusaist ymweled ag ef a gweinyddu i'w angenrheidiau, ysgatfydd, yn un o rai anwyl Duw, yn destyn eiriolaeth neillduol Iesu, ac yn wrthddrych gofal yr Ysbryd ; ac y mae y gymdeithas y cefaist gyfle i ymuno a hi ond a esgeulusaist, yn un o'r moddion cyhoeddus, hwyrach, a drefnwyd gan Dduw i dynu i lawr deyrnas y fagddu yn un o'i handdiffynfeydd cryfaf, ac i sicrhau teyrnasiad yr Emmanuel bendigedig dros yr holl ddaear; a pha ryfedd yw fod esgeuluso y cyfryw yn tristâu yr Ysbryd Glan.

IV. Pwysigrwydd y gocheliad, "Ac na thristewch Lan Ysbryd Duw," &c. Paham y dylem ochelyd ei dristâu?

1. Y Bôd mwyaf goruchel a'r sydd mewn bod—yw Ysbryd yr Arglwydd! Dylem wylio rhag tristâu, yn afreidiol, ein cydradd ddynion, pa faint mwy Ysbryd y tragywyddol Dduw?

2. Ein Cymwynaswr goreu yw. Efe yw yr Ysbryd sydd yn glanhau yr halogedig; o hono o hono y deillia ein holl rasau a'n holl ddyddanwch. Efe yw y

“Dyddanydd arall" yr hwn sydd yn aros gyda ei saint yn dragywydd. Gwyliwn rhag tristâu ein nefol Ddyddanydd.

3. Ein Perchen anfeidrol yw. Efe a'n seliodd fel ei eiddo ei hun, trwy argraffu arnom ei ddelw. Nid ydym at ein rhyddid i dristâu, heb achos, yr estron penaf. Pa faint mwy y dylem wylio rhag tristâu yr hwn yr ydym yn mhob ystyr yn eiddo iddo, ac wedi derbyn arnom ei ddwyfol sel?

4. Mae dydd yr ymweliad yn ein haros, ac yr ydym yn dysgwyl i'r Ysbryd Glan ein harddel yn y dydd hwnw; oblegid y mae wedi selio ei blant "hyd ddydd prynedigaeth." Dyna y dydd ag y bydd o'r pwys mwyaf i ni oll fod yr Ysbryd Glan yn gyfaill i ni, ac yn drigianydd ynom. O, bechadur! pa fodd y cyfarfyddi â'th Farnwr, heb fod yr Ysbryd Glan wedi gwneyd ei drigfan ynot, a gorphen ei waith ar dy enaid? Os heb hyn, byddi i'th gael yn aflendid dy holl bechodau ger bron yr orsedd buraf sydd! A chwithau sydd yn proffesu yr enw mawr, gofynaf, Pa beth ydych yn wneyd yn eich cynulliadau, a'ch holl ymwneyd a'i achos?—pa un ai ei dristâu, ai coleddu a meithrin yr ydych ei rasol weithrediadau?