Cofiant y diweddar Barch Robert Everett/Y Ddeddf Foesol

Oddi ar Wicidestun
Sylwadau ar Brynedigaeth Cofiant y diweddar Barch Robert Everett

gan David Davies (Dewi Emlyn)

Cyflwr Pechadur a'i Achubiaeth trwy Ras

Y DDEDDF FOESOL.

Peth o bwys mawr i ni, fel creaduriaid cyfrifol a deiliaid barn, ydyw iawn syniad am ddeddf Duw. Heb syniadau addas am y ddeddf, ni bydd ein hymddygiadau yn deilwng tuag ati; ac heb hyn, nis gall ein bod yn gwir edifarhau o'i throseddu; a chan mai un o ddybenion goruchel ymddangosiad Mab Duw oedd i "fawrhau y ddeddf, a'i gwneuthur yn anrhydeddus," mae yn amlwg fod gwybodaeth o'r ddeddf yn angenrheidiol, er i ni feddu ar syniadau addas am dano Ef, ei swyddau, a'i, waith. Sylwn:

1. Fod y ddeddf foesol yn ddatganiad o ewyllys yr Arglwydd, megys rheol ymddygiad i ddynolryw, fel y maent yn greaduriaid rhesymol ac yn ddeiliaid o'i lywodraeth ef.

Mae deddf bob amser yn cynwys datguddiad o ewyllys rhyw un mewn awdurdod; felly mae'r ddeddf deuluaidd, ac felly mae'r ddeddf wladol; maent yn argraffiadau o ewyllys y cyfryw ag sydd yn dwyn y llywodraeth. Cofiwn ninau fod pob gorchymyn yn y ddeddf foesol yn ddatganiad i ni o sanctaidd ewyllys yr Arglwydd; ei chroesi ydyw croesi ei ewyllys ef.

2. Mae y ddeddf yn rheol awdurdodol.

Nid cyngor ydyw yn unig, yn dangos beth fyddai oreu i ni wneyd, er mae yn wir (fel y cawn eto grybwyll) ei bod yn dangos y peth sydd oreu, yn yr ystyr uchaf. Ond nid fel cyngor neu gyfarwyddyd diawdurdodol y mae yn dangos hyny. Ond rheol osodedig gan Dduw ydyw, yn amlygu ei ewyllys yn gadarnhaol a gorchymynedig. Ei throseddu, ie yn y lleiaf o'i gorchymynion ydyw taro yn erbyn yr awdurdod uchaf, yr orsedd benaf, a'r llywodraeth ogoneddusaf sydd mewn bod.

3. Mae deddf Duw yn rheol gyhoeddus.

Mae bod yn gyhoeddus yn beth hanfodol i ddeddf bob amser; gweithrediadau cyhoeddus ydynt weithrediadau pob llywodraeth gyfiawn. Yr oedd yn angenrheidiol bod y ddeddf yn gyhoeddus, modd y byddai i greaduriaid rhesymol Duw, fel deiliaid ei lywodraeth, i wybod ewyllys eu Harglwydd. Y mae mor gyhoeddus, fel ag y mae yn ysgrifenedig, mewn rhyw ystyr, ar weithredoedd y greadigaeth ac ar gydwybodau y rhai nid oes ganddynt ond goleuni natur; mae yn cael ei hesbonio a'i hegluro yn barhaus yn ngoruchwyliaethau rhagluniaeth; ac yn benaf y mae yn argraffedig yn Ngair y Gwirionedd. Rhoddwyd hi i Israel ar Sinai yn y modd mwyaf cyhoeddus; ac y mae gweinidogaeth y prophwydi, a Christ ei hun, a'i apostolion, wedi ei dal allan ar gyhoedd ger bron y byd o oes i oes, fel y rheol ogoneddus ag y mynai Duw i ni rodio wrthi. Ac yn awr, gan mai rheol gyhoeddus ydyw, cofiwn mai peth cyhoeddus ydyw ei throseddu, ac mai mewn llys rhyfedd gyhoeddus y byddwn ninau yn fuan, yn rhoddi cyfrif o'n hymddygiadau tuag at ei gofynion sanctaidd.

4. Mae deddf yr Arglwydd yn rheol gyfiawn.

"Mae y ddeddf yn sanctaidd,” medd yr apostol, "a'r gorchymyn yn sanctaidd, ac yn gyfiawn ac yn dda.” Mae hi yn gofyn bob amser yn ol teilyngdod y gwrthddrych, yn ol cyneddfau y deiliaid, ac yn ol y moddion o wybodaeth ag y buont yn eu mwynhau. Nid yw yn gofyn llai gan yr uchaf a'r cryfaf ei alluoedd yn mhlith angylion y nef, nag iddo garu yr Arglwydd ac ufuddhau iddo “a'i holl galon, a'i holl feddwl ac a'i holl nerth," a'i gyd angel "fel ef ei hun." Ac nid yw yn gofyn llai na hyn gan neb o honom ninau ar y llawr. Yr un mewn sylwedd ydyw ei gorchymynion i holl ddeiliaid y llywodraeth, trwy yr holl fydoedd, ac yn mhob sefyllfa a'u gilydd. Yr oll ag ydym y mae hi yn ofyn, llai nis gall dderbyn yn gymeradwy, a mwy nid yw yn gofyn. O! mor ddoeth y Deddfroddwr, yn gallu gosod deddf mewn un gair, yn addas i sefyllfa pob cerub, seraph, angel a dyn, yn mhob sefyllfa, a than bob amgylchiad, pa un bynag ai yn y byd hwn, ai yn yr hwn a ddaw.

5. Mae deddf yr Arglwydd yn eang yn ei gofyniadau.

"Yr ydwyf yn gweled diwedd," medd y Salmydd, "ar bob perffeithrwydd; ond dy orchymyn di sydd dra ëang." Mae y deddf yn cynwys holl ddwyfol orchymynion yr Ysgrythyrau. Rhoddwyd hi yn ddeg o orchymynion, ac y mae y deg gorchymyn hyn yn ddiau yn grynodeb cyflawn o ddeddf yr Arglwydd. Rhoddwyd hi hefyd mewn dau orchymyn yn cynwys y ddwy lech, ac ar y ddau orchymyn hyn y mae yr holl gyfraith a'r prophwydi yn sefyll. Ie, mewn un gair, "cyflawnder y gyfraith yw CARIAD." Ond ar yr un pryd, y mae ei hysbrydolrwydd a'i hawdurdod ddwyfol yn rhedeg trwy holl orchymynion sanctaidd yr Ysgrythyrau, ac y mae yn eu cynwys oll. Y mae deddf yr Arglwydd mor ëang, fel y mae yn ein gosod dan y rhwymau mwyaf i ufuddhau i Dduw yn yr hyn oll y mae yn ei orchymyn, i wylio ac ymochelyd rhag yr hyn oll y mae yn wahardd, ac i dderbyn yn ddiolchgar a pharodol bob grasol gynygiad ag y mae yn ei osod ger ein bronau. Fel hyn y mae y ddeddf foesol yn ein gosod dan y rhwymau mwyaf i dderbyn yr efengyl, ac i gredu a'r galon yn Mab Duw er iechydwriaeth dragywyddol. Mae anghrediniaeth ac anedifeirwch yn mhob dyn yn wrthryfel yn erbyn y ddeddf foesol. Amhosibl ydyw i ni groesi y ddeddf sydd yn gorchymyn i ni garu Duw a'n holl galon, yn fwy uniongyrchol a than amgylchiadau mwy cyffrous, na thrwy anghredu y dystiolaeth a dystiolaethodd Duw am ei Fab, a gwrthod derbyn y fath drefn rasol er ein iechydwriaeth. Yn hyn y mae eithafoedd drwg calon dyn fel gelyn Duw yn dyfod i'r amlwg. Yn hytrach nag ufuddhau i Dduw, gwell ganddo lynu yn ei felus chwantau, er mai y diwedd yw colli ei enaid dros byth. Gwneler yr ystyriaeth yn ddwys a dwfn ar ein meddyliau, fod deddf y nef yn ein gosod dan y rhwymau mwyaf i dderbyn lesu Grist, gwrando arno, a byw iddo. "Diwedd y gorchymyn yw cariad o galon bur, a chydwybod dda, a FFYDD DDIRAGRITH."

6. Mae y ddeddf yn ysbrydol ac yn fanwl yn ei gofyniadau.

Nid ufudd-dod i'r gorchymyn yn y llythyren yn unig y mae hi yn ofyn, ond y mae yn gofyn cywirdeb calon yn mhob ufudd-dod. Ac ar y galon yn benaf y mae hi yn edrych. "Nid fel yr edrych dyn yr edrych Duw, canys Duw a edrych ar y galon." Nid oedd ymddygiadau y Phariseaid yn nyddiau ein Hiachawdwr, er mor ddichlynaidd yn allanol, yn gymeradwy yn ngolwg yr Arglwydd. "Beddau wedi eu gwyngalchu" oeddynt, er eu holl gyflawniadau, am nad oedd eu calon yn uniawn gyda Duw. Nis gall deddfau dynion gyrhaedd ond yr ymddygiadau gweledig yn unig; mae deddf Duw yn craffu ar ysgogiadau mwyaf dirgelaidd y meddwl, yn gystal ag ar y gweithrediadau mwyaf cyhoedd. Meddyliwn yn ddifrifol am ei hysbrydolrwydd a manylrwydd ei gofyniadau. Pob gweithred gyhoedd a dirgel, yn y tywyllwch ac yn y goleuni, y mae yn craffu arnynt; pob gair segur, pob meddwl dirgelaidd, pob egwyddor ddrwg, pob dyben annheilwng—maent oll yn cael eu hysgrifenu i lawr erbyn dydd y cyfrif diweddaf!

7. Deddf ddaionus ydyw deddf yr Arglwydd.

Mae y gorchymyn yn gyfiawn, yn sanctaidd ac yn DDA. Mae ufudd-dod i'r ddeddf yn peri y dedwyddwch mwyaf i'r enaid, fel y gallwn ddyweyd yn ëofn mai "o'i chadw y mae gwobr lawer." Mae ei gorchymynion y fath fel mai nefoedd yw ufuddhau iddi, ac uffern yw peidio. Byddwn yn meddwl weithiau pe buasai i Dduw, pan y creodd ddyn ac angel, roddi ei wybodaeth a'i ddoethineb anfeidrol ar weithrediad i ymchwilio er cael allan gyfarwyddiadau a rheolau i greaduriaid rhesymol ymddwyn wrthynt, modd y byddent yn berffaith ddedwydd, na buasai modd cael gwell gosodiadau nag a gynwysir yn y ddeddf foesol; "Ceri yr Arglwydd dy Dduw a'th holl galon, a'th holl feddwl, ac a'th holl nerth; a'th gymydog fel ti dy hun." Amhosibl ydyw i un creadur rhesymol fod yn ddedwydd yn un rhan o greadigaeth y Jehofa, pe bai hyny y nef ei hun, heb ei fod yn caru Duw ei Greawdwr ac yn golygu gogoniant ei enw yn beth blaenaf; a lles ei gyd greadur fel ei les ei hun. Gelyniaeth at Dduw, a malais a llid at ddynion a effeithia annedwyddwch mewnol yn mhob sefyllfa, bydded yr amgylchiadau allanol y peth y byddont. Ac o'r tu arall, bod dan lywodraeth cariad at Dduw yn oruchaf, a chariad at ein cymydog fel ni ein hunain a rydd sylweddol ddedwyddwch o fewn y fynwes, bydded yr amgylchiadau allanol mor chwerw ag y byddont. Nis gall uffern ei hun wneyd y dyn yn druenus sydd yn meddu ar yr egwyddor yma, ac nis gall y nefoedd ei wneyd yn ddedwydd hebddi. O! mor ddedwydd a fyddai y byd hwn pe bai dynion yn ufuddhau i ddeddf yr Arglwydd. Dyma sydd yn llanw y nefoedd a'r dedwyddwch mwyaf, maent yno yn ufuddhau yn ddiwyro i'w gorchymynion sanctaidd. Os gwelir ninau byth yno, rhaid ein llwyr gyfnewid i'w delw sanctaidd.

8. Mae deddf yr Arglwydd yn osodiad angenrheidiol, yn tarddu, nid o ben-arglwyddiaeth, ond o natur pethau.

Nid am fod Duw yn uwch na ni, ac yn meddu ar y gallu a'r awdurdod i wneyd hyny, y mae yn gorchymyn i ni ei garu a'n holl galon; ond am fod hyny ynddo ei hun yn weddaidd; mae y rhwymedigaeth yn tarddu oddiar y peth ydym ni, a'r peth ydyw ef, a'r berthynas rhyngom ag ef fel ein Gwneuthurwr a'n Cynaliwr, a rhan ein henaid. Nid gosodiad a roddwyd i ddyn yw y ddeddf, yn yr ystyr fanylaf, megys rhodd o benarglwyddiaeth. Rhoddiad oedd ei chyhoeddi yn y dull y gwnaed, yn hytrach na rhyw ddull arall ; ond peth yn bod yw y ddeddf. Y foment y bo creadur rhesym-ol yn bod, a golygu bod Duw yn bod, y mae y rhwymedigaeth cynwysedig yn y ddeddf yn bod o angenrheidrwydd.

Bod creadur rhesymol yn bod heb rwymau arno i garu Duw, ac i ufuddhau iddo mor belled ag y byddo ei ewyllys yn ddatguddiedig, ac ymddiried ynddo yn hollol (yr hyn bethau sydd gynwysedig yn y ddeddf) sydd mor amhosibl ag a fyddai i greadur fod yn annibynol ar ei Greawdwr, neu i ddyn fod yn Dduw! Mae ein rhwymau ni i ufuddhau i'n Llywydd anfeidrol yn tarddu, nid oddiar y gorchymyn yn unig, ond yn hytrach, am mai ein dyled yn wreiddiol ydoedd hyny, y rhoddodd yr Arglwydd y gorchymyn; am y dylasem ei garu y gorchymynodd i ni wneyd; ac am mai ein dyled oedd caru ein cymydog fel ein hunain, y rhoddodd i ni y cyfryw orchymyn. Mae ei orchymynion ef, ac felly ein rhwymedigaethau ninau, yn tarddu oddiar berthynasau sydd yn bod rhyngom ag ef, rhyngom a'r Arglwydd Iesu Grist, rhyngom a'r efengyl, a'r Ysbryd, ac a'n gilydd.

9. Yn ddiweddaf, mae deddf yr Arglwydd, fel ei Hawdwr, yn anghyfnewidiol.

Llawer o gyfnewidiadau sydd yn cymeryd lle yn neddfau dynion; ond mae y ddeddf hon yn para yr un o hyd. Nid ydyw wedi lleihau dim yn llymder a manylrwydd ei gofynion o ganlyniad i ddyn fyned i sefyllfa bechadurus. Peth rhy wael yn ngolwg deddf y nef oedd iselhau dim ar ei gofynion am i'r dyn fyned yn wrthryfelwr yn ei herbyn. Buasai hyn yn anghyfiawnder â Duw, ac a'i greadigaeth resymol hefyd, ac ni fuasai yn well na chymeryd plaid y gwrthryfelwr yn ei ymosodiad rhyfygus a ffiaidd yn erbyn yr orsedd dragywyddol. Nid yw ac nis gall y ddeddf wneyd hyn. Mae hi yn gofyn genym yn awr, gymaint ag erioed, ufudd-dod llawn i'w holl orchymynion. Nid ydyw y ddeddf ychwaith wedi cyfnewid gyda chyfnewidiad goruchwyliaethau. Mae dyn, fel deiliad ymweliadau grasol oddiwrth yr Arglwydd, wedi bod dan wahanol oruchwyliaethau, ond yr un ddeddf ydyw ei reol o hyd. "Ceri yr Arglwydd dy Dduw a'th holl galon," oedd ei llais o'r dechreuad hyd Moses-yr un oedd ei llais o Moses hyd y Messiah— yr un ydyw ei llais dan yr efengyl—ac y mae yn ddiau mai yr un yn sylweddol fydd ei llais yn y nef dros fyth. Gan mai ei sail ydyw y berthynas rhyngom a Duw, rhaid dyweyd mai tra y parha Duw yn Dduw, a dyn yn ddyn, bydd y ddeddf yn gofyn ei holl galon, a'i holl alluoedd, yn ol y manteision y byddo yn eu mwynhau, i garu a gwasanaethu yr Arglwydd. ddedwydd dragwyddoldeb! pan y bydd ein calonau ni a deddf y nef yn adseinio yn berffaith i'w gilydd! Y peth y byddo y ddeddf yn ofyn fydd ein hyfrydwch penaf ninau ei wneyd; ac yna bydd ein dedwyddwch yn yr Arglwydd yn gyflawn! Oddiwrth y pethau hyn gwelwn:

1. Y rhwymau sydd arnom i fendithio yr Arglwydd am ei ddeddf, ac am ei lywodraeth uniawn dros y byd. "Cenwch i'r Arglwydd ei saint ef; a chlodforwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef." Mae sancteiddrwydd ac uniondeb ei lywodraeth, yr un modd a'i ras anchwiliadwy ac anolrheinadwy, yn galw am fawl a chlodforedd oddiwrthym ni. Ychydig ydym yn glywed o glodfori yr Arglwydd am hyn. Pan y diolchir am ei ras ac am ei efengyl, ychydig o ddiolch a roddir am ei lywodraeth uniawn a'i gyfraith bur. Sonir am deulu y nef, eu bod yn "canu cân Moses a chân yr Oen." Maent yno yn molianu am ddeddf, ac am efengyl hefyd. Dysgwn ninau ar y llawr yr un nefol ganiadau.

2. Yn ngwyneb hawddgarwch y ddeddf foesol, dysgwn gasâu a ffieiddio pob pechod. "Nid adnabuaswn i drachwant,” medd Paul, "oni bai ddywedyd o'r ddeddf wrthyf, na thrachwanta." Yn nrych y ddeddf y gwelwn ddrwg pechod. "Anghyfraith yw pechod." Daliwn ein cyflwr a'n bywyd yn ngwyneb deddf ysbrydol a manwl y Jehofa. O! pa faint o feddyliau ofer, o eiriau segur, ac o weithredoedd drygionus yr ydym wedi bod yn euog o honynt! pa faint o ddybenion anghywir, o syniadau cnawdol, o ddymuniadau anghyfreithlawn!-ac O! yr anfri a'r anmharch a roddwyd ar efengyl Mab Duw! Cywir iawn yw y darluniad a roddir o honom gan y prophwyd, "Y pen oll sydd glwyfus, a'r holl galon yn llesg; o wadn y troed hyd y pen, nid oes dim cyfan ynddo, &c."

3. Gwelwn oddiwrth yr hyn a ddywedwyd am y ddeddf, mor ddiesgus ydyw dyn fel troseddwr. Nis gall y ddeddf beidio ei ofyn, nis gallasai yntau gael bodolaeth fel creadur rhesymol heb fod dani, ac nis gall byth fod yn ddedwydd heb ufuddhau iddi. Nid yn ngwyneb efengyl yn unig yr ydym yn ddiesgus am ein pechod; yr ydym felly hefyd fel deiliaid y ddeddf foesol.

4. Gwelwn ryfeddol ddarostyngiad Mab Duw, yn cymeryd achos troseddwyr deddf y nef arno ei hun. Yr oedd efe yn gwybod yn berffaith am deilyngdod gofynion y ddeddf; ac yr oedd yn gwybod mai yn hollol ddiachos yr oedd dyn wedi ei throseddu, ac nas gellid byth amddiffyn ei gymeriad fel troseddwr. Eto o'i fodd, o gariad a thosturi atom ni, fe gymerodd ein hachos ni arno ei hun, ac a fu foddlawn i'n troseddiadau ni gael eu cyfrif arno ef! O, ryfedd ddarostyngiad a gras ein Gwaredwr bendigedig! Trwyddo ef y mae modd ein hachub heb wneyd cam â'r ddeddf. Y mae ei gofynion wedi eu hateb, y felldith wedi ei dyoddef yn ei berson ef, ac yn ein natur ni. Yn awr, y mae y troseddwr yn cael maddeuant, nid tu cefn i'r ddeddf, ond mewn perffaith gysondeb â'i gofynion oll.

5. Dysgwn gydnabod ein dyledswyddau pwysig, fel rhai sydd i roddi cyfrif—ein dyledswyddau tuag at Dduw ein Creawdwr, tuag at Grist ein Gwaredwr, tuag at ei Ysbryd, tuag atom ein hunain, a'n cydgreaduriaid yn gyffredinol. Peth o bwys mawr ydyw dyledswydd dyn, fel un sydd gyfrifol i Dduw. Y mae llawer yn son am hyn gydag ysbryd iach, ac â chalon gyfan iawn. Ond nid felly y dylai fod. Pa beth sydd ddyledswydd, a pha beth nad yw, a ddylai gael ei ystyried genym megys pe byddem yn ymyl y farn sobr. Yno y byddwn yn fuan yn rhoddi cyfrif.

Byddwn yn meddwl yn fynych, ond i ni gael syniadau addas am eangder a manylrwydd y ddeddf, y byddai yn hawdd iawn penderfynu beth yw dyledswydd pob dyn gyda golwg ar edifarhau, a chredu. yr efengyl. Os dylem garu Duw ac ufuddhau iddo, diau y dylem ymostwng mewn edifeirwch o herwydd troseddu o honom ei lân orchymynion; ac os dylem ei garu fel y mae y ddeddf yn gofyn, diau y dylem dderbyn y dystiolaeth am ei anwyl Fab. Gwadu hyn, yr ydym yn meddwl, ydyw gwadu un o'r prif bethau a ddysgir i ni yn Ngair y Gwirionedd.