Copa
Gwedd
← Y Patrwm Mawr | Copa gan Robin Llwyd ab Owain |
S4C |
Englyn (comisiwn) i'r cylchgrawn mynydda. Cyhoeddwyd gyntaf yn Barddas, Chwefror 1993. Ffynhonnell: [1] gwefan Rebel ar y We / Rhedeg ar Wydr.
Trosglwyddodd y bardd ei gerddi ar drwydded agored yn Ebrill 2020. |
Hwn yn gyson a geisiaf - yn barhaus
Tua'r brig ymdrechaf
O gam i gam ac fe gaf
Hithau'r iaith ar ei heithaf.