Croeso mewn Llys

Oddi ar Wicidestun

gan Sypyn Cyfeiliog

Mi a welais lys, a dwy a deg llys,
ac ni welais lys mor lwys edmig
âcirc;’r llys a hoffaf er lles i’w phennaf,
nid llaes y’i molaf, mal Celliwig;
yn llwyr degwch nef, yn llawr Bachelldref,
y lle y bydd dolef bob Nadolig;
a llu o geraint, a llyn tra meddwaint,
a llewychu braint bro hil Meurig;
a llawer cerddawr, a llawen grythawr,
a llawenydd mawr uwch llawr llithrig;
a llef gan dannau, a llif gwirodau,
a llafar gerddau gorddyfnedig;
a lliwgoch baladr gan llin Cadwaladr,
a llafn gwaedraeadr, coelfeingadr cig;
a thro cerddorion, a thrydar meibion,
a thrabludd gweision gosymddeithig;
a thrulliad trablin, a thrallawd cegin,
a thrilliw ar win i wan blysig.
Tair cynneddf y sydd, tirion lawenydd,
ar briflys Dafydd, difefl ryfyg:
ba ddyn bynnag fych, ba gerdd a fetrych
gydag a nodych yn enwedig,
dyred pan fynnych, cymer a welych,
a gwedi delych, tra fynnych trig.