Neidio i'r cynnwys

Cwm Eithin/Enwadau Cwm Eithin

Oddi ar Wicidestun
Cwm Annibynia. Mudo a Dyddiau Ysgol Cwm Eithin

gan Hugh Evans, Lerpwl

Ein Capel Ni


PENNOD XVI

ENWADAU CWM EITHIN

NI fyddai hanes bywyd gwledig unrhyw gwm yng Nghymru agos yn gyflawn heb ddisgrifiad gweddol fanwl o'r gwahanol enwadau a bywyd y capel, oherwydd mai'r capel. oedd bron yr unig beth a ddylanwadai ar fywyd plentyn heblaw ei gartref. Yno'r oedd ei ddiddordeb, am gyfarfodydd y capel y dyhëai, yno y cyrchai ar ôl ei ddiwrnod gwaith. Mae'n rhaid cofio bod plant a phobl mewn oed yn credu mai eu henwad hwy yw'r gorau o ddigon. Mae'n debyg fod syniadau pawb lawer yn ehangach am enwadau eraill yn awr nag oeddynt pan oeddwn i'n blentyn. Na feier arnaf, gan hynny, os byddaf yn dywedyd mai'r enwad y cefais y fraint o fod yn aelod ohono oedd y gorau o ddigon, ac felly disgrifiad o fywyd fy nghapel bach fy hun yn unig a allaf ei roddi. Ei flaenoriaid a'i athrawon yn unig a adwaenwn yn iawn (hynny yw, os oedd digon yn fy mhen i'w hadnabod yn iawn); hwy oedd fy arwyr.

Yr oedd y dadleuon enwadol wedi lliniaru llawer erbyn fy amser i, er y daliai pob enwad yn selog dros ei gredo. Yr oedd yr hen chwerwedd cas wedi diflannu, felly yr oedd yr enwadau yn hollol gyfeillgar yng Nghwm Eithin pan gofiaf ef, ac mae'n sicr fod erledigaethau hen Berson Llanfryniau wedi eu closio at ei gilydd. Ond yr oedd ôl yr hen helyntion i'w gweled neu i'w clywed yn amlwg iawn, oherwydd pan fyddai pregethwr o un enwad yn pregethu gydag enwad arall, caech ei glywed bron bob amser yn myned allan o'i ffordd i ddyfynnu darn o bregeth neu sylw o waith rhywun yn perthyn i'r enwad a wasanaethai ar y pryd, gan gyfeirio ato fel "gweinidog enwog gyda'ch enwad parchus chwi" Pahan y byddai eisiau dywedyd bod un o'r pedwar enwad crefyddol a wnaeth gymaint i Gymru yn barchus, oni bu amser yr edrychai'r enwadau ar ei gilydd heb fod felly? Cefais lawer o hwyl wrth glywed ambell bregethwr bach, na châi lawer o gyhoeddiadau gyda'i enwad ei hun, yn sôn am gewri parchus eich enwad parchus chwi." Byddaf yn clywed ambell un hyd y dydd hwn o brif bregethwyr Cymru yn gwneud hyn. Tebyg eu bod wedi eu codi mewn rhan o'r wlad lle y parhaodd y chwerwedd yn hwy nag y dylasai, ond bydd yn merwino fy nghlustiau bob tro y clywaf y geiriau "Eich enwad parchus chwi." Tybed fod angen dywedyd am enwad crefyddol ei fod yn barchus? Ach a fi!

Yng Nghwm Annibynia y'm ganwyd, a bûm yn Annibynnwr selog am yn agos i saith mlynedd. Un o blant y Parch. Michael Jones oeddwn; ond pan symudais i Gwm Eithin collais fy Annibyniaeth. Ac y mae'n debyg fod pob un yn colli ei Annibyniaeth pan fo 'n rhywle rhwng pump a saith mlwydd oed. Ni chaiff lawer o'i ffordd ei hun ar ôl hynny, mae'n rhaid iddo ddyfod yn un o'r Methodistiaid, er bod rhai yn eu galw eu hunain yn Annibynwyr hyd yn oed ar ôl priodi! Nid rhyw lawer o Annibynwyr oedd yng Nghwm Eithin. Aros un ochr i'r Cwm yn ei gilfachau yr oeddynt, ac yr oedd y capel nesaf dros ddwy filltir o'm cartref newydd, tra'r oedd dau gapel Methodist o fewn milltir, a'm mam wedi bod yn mynychu un ohonynt flynyddoedd yn ôl y lleiaf a'r pellaf o'r ddau, os oedd peth gwahaniaeth yn y ffordd. Yno y'm cefais fy hun. Er mor ieuanc oeddwn arhosodd lle pur gynnes yn fy nghalon i'r Annibynwyr. Credwn mai hwy oedd yn dyfod nesaf at y Methodistiaid. Yr oedd yno hen ferch a thri hen lanc o Annibynwyr yn byw yn ymyl ein capel bach ni, ag ôl Diwygiad '59 wedi aros yn drwm arnynt, a deuent i'n capel ni weithiau, yn enwedig ar gyfarfod diolchgarwch. Yr oeddynt yn danbaid yn eu gweddïau, un ohonynt yn borthwr hynod iawn yn y gwasanaeth. Gwaeddai "He, He," gyda rhyw lais treiddgar. Cofiaf un tro C. R. Jones, Llanfyllin, yn aros gyda'i frawd John Jones Rhoed ef i bregethu nos Sul yn ein capel ni. Yr oedd gŵr ieuanc o'r Bala yn y daith yn hanu o Borthmadog. Rhoed y ddau i bregethu. Cydgerddwn â nifer adre, a'r siarad oedd mai'r efrydydd oedd wedi pregethu orau, ond bod yr hen lanc wedi gweiddi mwy o lawer o "He, He" pan oedd C.R. yn pregethu. Ond nid oedd yn hollol fel safety match Ioan Jones. Soniai Ioan Jones am hen frawd a arferai borthi yn y moddion yn frwdfrydig iawn yng nghapeli ei enwad ei hun. Ni thaniai yng nghapeli'r enwadau eraill.

Byddwn yn myned i gapeli'r Annibynwyr yn awr ac eilwaith i ddarlithoedd a chyfarfodydd pregethu, pryd y byddai "Hwfa Môn," "dyn y foch arian," ac eraill yn pregethu, a byddwn i, fel pob hogyn arall, yn edrych mor ddoeth a phwysig ag y medrwn mewn capel dieithr.

Nid oedd dim Bedyddwyr yng Nghwm Eithin. Gallwn i edrych o ben y top ddeng milltir i bob cyfeiriad heb weled yr un Bedyddiwr, ac yr oeddwn yn hogyn go lew cyn gwybod dim amdanynt, er i mi glywed enw Christmas Evans lawer tro. Daeth Pedr Hir" i fyw i dop y Cwm ar ôl i mi ymadael. Clywais y gellid gweled ei ben ef yr adeg honno o'm cartref dros ysgwydd Mwdwl Eithin, pan âi i'r mynydd i ddysgu Groeg yn lle dal poachers. Cefais fraw i waelod fy esgidiau pan welais gapel Bedyddwyr gyntaf yn fy oes. Y waith gyntaf y'm cefais fy hun ym mhrif dre Cwm Eithin, wrth gerdded trwy'r dre a rhythu ar ei rhyfeddodau mawrion, gweled golau ar flaen peipen yn ystabl yr Hotel, a methu â gweled cannwyll frwyn na channwyll wêr yn y beipen; ac wrth i mi ymhela â hi aeth y golau allan. Ar ôl myned allan o'r ystabl, cerddais ychydig is i lawr y dref. Gwelais adeilad â bwrdd ar ei dalcen, ac arno Baptist Church. Wel, wel," meddwn wrthyf fy hun, mae nhw wedi dwad. Mae hi wedi darfod arnom yng Nghymru. Fe gawn ni yr Ymneilltuwyr ein llosgi bob copa walltog. Tybed fod a fynno'r hen. Berson rywbeth â'u dwyn hwy yma i ddial arnom ni, blant yr Ysgol Gerrig?" Ychydig yn gynt clywswn yr hen flaenor yn dywedyd ei fod yn ofni bod yr Ymneilltuwyr yn myned yn debycach i'r Eglwyswyr a hwythau yn myned yn debycach i'r Pabyddion, ac yr ofnai mai yn Babyddol yn ei hôl yr âi Cymru. Pabistiaid y galwai fy nain y Pabyddion, a siaradodd lawer yn fy nghlyw am eu creulonderau at y Protestaniaid yn amser Mari Waedlyd. Pan welais Baptist Chapel, cymerais yn ganiataol mai'r Papistiaid oeddynt. Pwy na fuasai yn cael braw wrth eu gweled wedi cyrraedd i waelod Cwm Eithin? Ymhen amser ar ôl hynny, yr oedd yno wraig wedi bod yn byw yn Llundain ac yn arfer gwrando gyda'r Bedyddwyr, ac wedi dychwelyd i'w hen. gartref yn Llanllonydd, un o frigau Cwm Eithin, a dymunai gael ei bedyddio. Trefnodd nifer o'r Bedyddwyr o rywle â dau neu dri o'u gweinidogion i ddyfod i Lanllonydd i'w bedyddio. Y prynhawn Sul a ddaeth, ganol haf, a'r haul yn entrych y ffurfafen. A gwelwyd y ffyrdd a'r llwybrau o bob cyfeiriad yn ddu gan bobl yn cyrchu i Lanllonydd, rhai ar hyd y cymoedd a rhai dros y bryniau. Euthum innau yn y dyrfa yn llawn chwilfrydedd. Mae afon enwog yn rhedeg trwy Lanllonydd. a phont faen i'w chroesi, a llyn braf o'r tu ucha i'r bont. Ac yr oedd ei ddwfr yn loyw a grisialaidd y diwrnod hwnnw, a'r gro mân o'i waelod yn adlewyrchu goleuni'r haul. Yr oedd y bont a'r llechwedd wrth y llyn yn orlawn o bobl pan gyrhaeddais, ond gan fy mod yn fychan o gorffolaeth gwthiais drwyddynt a heibio i gornel y bont ar y llechwedd yn ymyl y llyn. Yno y syllais mewn gorchwyledd ar y Sacrament Cysegredig yn cael ei weinyddu gan weinidog tua chanol oed gyda defosiwn ac urddas. Gwrandewais yr anerchiadau a'r pregethu wedyn yng nghapel y Methodistiaid gan rai o'r gweinidogion a ddaethai yno. Ni allaf ddywedyd beth oedd enw'r un o'r gweinidogion, a'r unig beth sydd wedi glynu yn fy nghof o'r gwasanaeth yw darn o emyn:—

"Af ar ôl yr Apostolion
A aeth yn ffyddlon o fy mlaen,
Ac a gladdwyd yn y dyfroedd
Fel gorchmynnodd Iesu glân."

Ni fu arnaf byth ofn y Bedyddwyr ar ôl hynny.

Nid llawer o Wesleaid oedd yng Nghwm Eithin. Capeli bychain a chynulleidfaoedd bychain oedd ganddynt. Fel rhyw ddolen gydiol rhwng y ddau enwad arall a'r Eglwys yr edrychwn i arnynt yr adeg honno. Ni wn yn iawn paham. Mae'n debyg mai un rheswm oedd eu bod yn dysgu cwymp oddi wrth ras a minnau wedi fy nysgu ac yn credu nad oedd y fath beth yn bosibl. Ond y mae'n rhaid i mi addef y byddai cwymp yn beth pur fynych yn eu mysg yng Nghwm Eithin yr adeg honno. Yr oedd llawer gormod o yfed, mae'n sicr, gyda phob enwad, ond fe gredwn i a llawer eraill eu bod hwy yn fwy goddefgar na'r enwadau eraill at aelodau yn slotian.

Byddwn yn myned i'w capel i gyfarfodydd. Cofiaf fyned yno un tro i wrando'r Parch. Owen Cadwaladr Owen, mab y Parch. Cadwaladr Owen, Dolwyddelan. Yr oedd y Wesleaid wedi taenu'r newydd ei fod yn well pregethwr o lawer na'r mab arall oedd yn fugail gyda ni y Methodistiaid yn rhai o gapeli Cwm Eithin, ac aeth llawer o Fethodistiaid yno i farnu, a minnau yn eu mysg. Mae'n rhaid i mi addef ei fod lawer mwy parablus na'i frawd iau, ond nid argyhoeddwyd ni ei fod yn well pregethwr. Yr oedd iaith blaenoriaid y Wesleaid yn llawer mwy steilus na iaith ein blaenoriaid ni; yr oedd un neu ddau ohonynt fel pe buasai ganddynt iaith neilltuol ar gyfer y Sul. Yno y clywais y geiriau "Eisteddleoedd," "Moddiannau," a "Chyfeillach' gyntaf yn fy oes, yn cyfateb i "Seti," "Cyfarfodydd " a "Seiat" gennym ni.

Ychydig iawn a fynychai Eglwys Llanfryniau er i'r hen Berson wneud ei orau i orfodi pawb i fyned yno. Rhyw nifer tebyg i deulu Arch Noah oeddynt. Yr oedd Eglwys Llanaled ychydig yn well, am fod yno Berson oedd yn un o'r rhai mwyaf rhyddfrydig yn yr oes honno; ond yr oedd y trigolion wedi gweled gormod o'r sgriw i feddwl yn uchel o'r Eglwys i wneud llawer â hi. Fy syniad i'r pryd hwnnw oedd mai lle i bobl yn cadw cŵn hela, y stiwardiaid, cipars a disgyblion y torthau ydoedd hi, ac nid oedd gennyf fawr feddwl o'r naill na'r llall ohonynt. Methwn yn lân â deall pe buasai y Person yn myned i gadw seiat gyd â hwy, y cawsai lawer o hwyl. Clywais am y Parch. John Williams, Llecheiddior (os wyf yn cofio'r enw yn iawn), offeiriad duwiolfrydig yn byw yn amser y Diwygiad Methodistaidd, wrth weled llwyddiant a gwerth y seiadau o dan arweiniad Williams Pantycelyn ac eraill, yn penderfynu ceisio cadw seiat yn ei Eglwys. Un nos Sul hysbysodd ei fod am gael cyfarfod i gael rhydd-ymddiddan am bethau crefydd; rhyddid i bawb ddywedyd eu profiad a pheth a fyddai'n pwyso fwyaf ar eu meddwl; hwyrach y gallent yn y modd hwnnw gynorthwyo llawer ar ei gilydd. Noswaith y cyfarfod a ddaeth, ond ni ddaeth ond tri yno hen wraig dlawd, gwraig gyfoethog, a ffarmwr cefnog. Ar ôl i'r offeiriad ddechrau'r cyfarfod a rhoddi anerchiad agoriadol byr, trôdd ar yr hen wraig dlawd, "Wel, Mari, mae'n dda gen i eich gweld wedi troi i mewn. Beth sydd gennych chwi i'w ddweud wrthym ni?"

"Chwi wyddoch, Mr. Williams, mai hen wraig weddw dlawd ydwyf fi; dim ond deunaw o'r plwy at fyw. Mae hi'n galed iawn arna'i. 'Rydw i yn methu â chael digon o fwyd; mi 'rydech chwi yn ŵr o ddylanwad mawr, ac mi roeddwn yn meddwl y gallech chwi fy helpu i gael ychydig chwaneg.'

"Ie; wel, Mrs. Jenkins, mae'n dda iawn gen i eich gweld chwi wedi dywad atom ni heddiw. A wnewch chwi ddweud gair o'ch profiad wrthym ni; rywbeth sydd ar eich meddwl chwi?"

"Fe fidd yn dda odieth geni gael gweid, Mr. Williams. Mae 'da fi riw boin yn fy ochr with ers amser. 'Rw i wedi bod gida llawer o ddoctoriaid, ond rw i yn ffaeli'n lan â chael dim reliff. 'Rw i'n gwbod eich bod chwi yn ŵr dysgedig, ac yr oeddwn i yn meddwl, 'falle, y gallech chwi roi rhiw gyngor i mi ffordd i gael madel â'r boin yma."

"Mae'n ddrwg gennyf fi, gyfeillion, mae arnaf ofn eich bod wedi camddeall natur y cyfarfod. Mae'n ddiau fod gennym ein treialon a'n helbulon gyda phethau y bywyd hwn, ond cyfarfod yr oeddwn i yn meddwl i hwn fod i ymdrin â phethau ysbrydolein treialon a'n temtasiynau, i'n paratoi ni ar gyfer y byd ar ôl hwn. Mae hen afon angau gennym i'w chroesi bob un ohonom; ac fe fydd arnom angen am rywbeth i'n cynorthwyo i groesi honno, ac i lanio'n ddiogel yr ochr draw. Beth sydd gennych chwi i'w ddweud, Mr. Morgan?"

"Wel, wir, Mr. Williams, yr oeddwn i yn meddwl, pan o'ech chwi yn sôn am yr afon sydd gyda ni i'w chroesi, am yr hen geffyl gwyn oedd 'da fi. Weles i yr un afon erioed na nofiws e hi, ond 'rw'i wedi ei werthu e. Pam na fase chi'n gweid wrtho i am yr hen afon yma cin i fi ei werthi e?"

Syniad pur gyffredin oedd gennyf am y cipar. Er enghraifft, rhywbeth yn debyg i syniad yr Iddew am y publican, er na ddioddefodd Cwm Eithin gymaint oddi wrth y cipars yn fy nghof i â llawer rhan arall o Gymru. Methwn â gweled y gallai fod a wnelo'r cipar lawer mwy â chrefydd na'r cŵn a ganlynai. Yn wir, nid oedd ambell un ohonynt yn yr oes honno yn annhebyg iawn ei olwg i rai o'r cŵn a ganlynai. Yr wyf braidd yn meddwl pe buaswn yn gwybod am benbleth Darwin i gael gafael ar y missing link yr adeg honno y buaswn wedi anfon ato i ddweud "Dowch i Gymru, ac mi a'i dangosaf i chwi." Ceir llun da o Guto'r cipar yn Robert Sion o'r Gilfach gan "Elis o'r Nant." Tebyg iawn i syniad Gwen Phillip am yr Eglwys oedd fy un innau y pryd hwnnw, ac yr oedd hwnnw gryn lawer yn uwch na syniad yr hen Berson am bobl y capel. Hen wraig erwin oedd Gwen Phillip. Gallai regi llawn gystal â'r un dyn yng Nghwm Eithin, a medrai witsio. Felly, fe fyddai gennym ni'r plant gryn lawer o'i hofn. Ni fuasai yr un ohonom yn meiddio tynnu wynebau a gwneud ystumiau o flaen drws ei thy hi. Er hynny, yr oedd cryn lawer ym mhen Gwen Phillip. Yr oedd ganddi fab a'i enw Wil, bachgen digon dawnus a medrus, a gallasai fod yn ddefnyddiol iawn mewn capel neu eglwys; ond tipyn o chwit-chwat ydoedd, a dechreuodd slotian gyda'r ddiod. Bu gyda'r Methodistiaid yn hir, yn cael ei ddiarddel, ac yn cael tro a myned yn ei ôl, ond blinasant arno yn y diwedd. Ymunodd yntau â'r Wesleaid, a bu yno am dymor yn cario ymlaen yn debyg, i mewn ac allan. Ond fe flinasant hwythau arno. Yna fe ymunodd â'r Eglwys, a'r diwedd fu iddynt hwythau ymwrthod ag ef, wedi mynd ohono dros ben llestri. Hysbyswyd ei fam fod Wil wedi cael ei droi o'r Eglwys. Cododd hithau ei dwylo uwch ei phen a beichiodd allan, "Wel, wel, mae Wil ni wedi colli'r trên olaf i'r nefoedd.'

Pan oeddwn yn cychwyn Y Brython pryderais lawer pa fodd i'w wneuthur yn anenwadol, oherwydd cael papur newydd cenedlaethol oedd fy syniad, a gofynnais a chefais gynghorion gwerthfawr gan rai o arweinwyr pob enwad. Ond ar ôl ei gychwyn cefais wmbredd o gwynion gan bobl enwadol, nad oedd Y Brython yn gwneuthur digon o sylw o'n henwad ni, a "dydech chwi byth bron yn sôn am ein capel ni," er, efallai, mai eu henwad hwy oedd yn cael mwyaf o sylw ar y pryd am fod cymanfa neu gyfarfodydd yr enwad hwnnw yn digwydd bod yr adeg honno, a sylw arbennig o'u capel hwy. Ymhen amser, ar ôl blino llawer ar fy meddwl gan ddywediadau brathog, deuthum i'r penderfyniad mai'r unig ffordd i wneuthur papur newydd yn anenwadol, yn ôl syniad rhai, oedd peidio â sôn dim am yr un enwad ond ein henwad ni, a phur ychydig am y capeli eraill o'n henwad ni.

Nodiadau

[golygu]