Cwm Eithin/Rhestr o Enwau Lleoedd a Phobl

Oddi ar Wicidestun
At y Darllenydd Cwm Eithin

gan Hugh Evans, Lerpwl

Cynnwys


RHESTR O ENWAU LLEOEDD A PHOBL Y
CRYBWYLLIR AMDANYNT YN CWM EITHIN


Wrth ysgrifennu'r llyfr bwriadodd Hugh Evans iddo fod yn ddisgrifiad o ardal wledig nodweddiadol Gymreig. Oherwydd hynny, dychmygol hollol yw llawer o enwau'r lleoedd a'r personau a ddisgrifir yn y llyfr. Ni chytunai'r awdur â datgelu cyfrinach yr enwau hyn adeg yr ail— argraffiad yn 1933. Serch hynny, ymhen amser, fe gasglwyd ganddo restr o enwau, a chytunodd roddi rhestr gyflawn ynghyd â map o'r ardal mewn argraffiadau diweddarach. Hugh Evans ei hun a roes imi, ar dafod leferydd, y rhestr ganlynol. Dynoda'r enwau lleoedd yr ardal arbennig honno a gyfenwyd gan yr awdur yn Cwm Eithin. Gwelir nad yw llawer o enwau'r bobl ond enwau ffug hollol, tra'r lleill yn dangos ychydig newid, addasu ac ystumio ar yr enwau priodol.

Cynnwys Cwm Eithin rannau o Sir Ddinbych a Sir Feirionnydd. Ymestyn, mewn un rhan, o Bentrefoelas i'r Bala, gan gynnwys Cwm— Penanner, Cwmtirmynach a Chwm Main; yna mewn hanner cylch o'r Bala i Landderfel, Llandrillo, Cynwyd a Chorwen, gyda chyfeiriadau at Lyndyfrdwy a Llangollen; yna'n ôl trwy Fryneglwys, Gwyddelwern, Melin y Wig, Hafod Elwy a Cherrigydrudion i Bentrefoelas. Y prif ardaloedd o fewn Cwm Eithin, a chefndir y cyfan o'r gwaith, yw Llangwm (Llanfryniau), Cerrigydrudion (Llanaled), Llanfihangel Glyn Myfyr (Llanllonydd)) a Chwm Main (Cwm Annibynia a Chwm Dwydorth).

Nid rhyfedd i Hugh Evans ddewis ' Cwm Eithin' yn enw i'w lyfr,— nodwedd amlycaf yr holl ardal yw'r tyfiant aruthrol o eithin aur a welir ymhobman.

W.W.


  • Aer y Pyllau—Enw ar Y Clawdd Newydd, rhwng Cerrig-y-Drudion a Rhuthun, yw Y Pyllau.
  • Bardd y Drysau— R. H. Jones, Wallasey194
  • Betsan y Garwyd—Gwraig i Ellis y Garwyd, nai John Ellis y cerddor. Tyddyn bychan yn ardal Dinmael, oedd Y Garwyd.
  • Bowen, Mr., Twrnai—Enw dychmygol i gynrychioli twrnai o Gorwen.
  • Bryn Bras—Tu ôl i ffermdy Pen-y-bryn, Ty'n Rhyd, Cerrig-y-Drudion.
  • Bwlchrhisgog—Gallt rhwng gorsaf Berwyn (Llan— gollen) a Glyn Dyfrdwy.
  • Clough, Mr.—Enw iawn porthmon yn byw yn Llandrillo.
  • Carreg Fawr Syrior (ffridd)—Yn ymyl Llandderfel.
  • Cors Pant Dedwydd—Rhwng Cerrig-y-Drudion a Glas—fryn.
  • Cwm Annibynia—Cwm Main (rhwng Pont-y-Glyn a Dinmael, ac yn gorffen yn y Big— faen, y Sarnau).
  • Cwm Dwydorth—Ffug—enw ar yr uchod.
  • Cwm Main —Yr enw arferol ar yr uchod.
  • Edwards, John—Crydd, Cerrig-y-Drudion.
  • Edwards, William—Yn byw yn y Colomendy, Cynwyd.
  • Elian, ffynnon—Yn agos i Fae Colwyn
  • Ellis, Jenny / William—Gŵr a gwraig Llys Dinmael Uchaf, lle bu'r awdur fyw am ddwy flynedd.
  • Ellis, John—Y cerddor. Ewythr yr awdur. Am hanes John Ellis gweler adroddiadau capel M.C. Llanrwst.
  • Ellis, Robert—Yn byw yng Nghefn Brith, yn ymyl Cerrig—y—Drudion. Yn arfer dyrnu yn Hendre ar Ddwyfan, y fferm agosaf i gartre'r awdur.
  • Ellis, William—Nai John Ellis, y cerddor. Gweler hefyd Ellis, Jenny, uchod.
  • Elusendai—Yng Ngherrig-y-Drudion.
  • Ffowc, Peter—Aer Tŷ Gwyn, Llangwm.
  • Gruffydd yr Odyn—Enw ar y Maerdy, Corwen, yw yr Odyn.
  • Hafod Elwy—O'r tu uchaf i Gerrig-y-Drudion. Yn awr o dan lyn dwr Penbedw.
  • Henblas, Yr—Fferm yn ymyl Capel Gellioedd.
  • Huw Dafydd, Cwm Eithin —John Parry, Moelfre Fawr, Cerrig—y—Drudion, ond yn byw yn Bryn Bras pan gymerth yr ymddiddan yma le.
  • Huws, Evan—Pen-y-gaer, y tu uchaf i Tynrallt.
  • Huws, John, Cwm Eithin—Y Castell, bwthyn ar y llechwedd tu ôl i Disgarth Ucha, Llangwm.
  • Jac Lanfor—Dyma'r unig enw y gwyddys amdano.
  • Jac y Pandy—Mab Pandy'r Glyn, y tu isaf i Bont y Glyn. Yr oedd yn perthyn i deulu John Ellis y cerddor.
  • Jones, Beti, Ceunant-Cymeriad allan o hen goel ar lafar gwlad.
  • Jones, Edward, Aeddren—Enw fferm yn ymyl Capel Gellioedd, oedd Aeddren.
  • Ffermwr, Tŷ Cerrig, Llangwm.
  • Jones, Evan, Aeddren—Tad yr Edward Jones uchod
  • Jones, John, Pen-y-Geulan —Pen-y-Geulan, Cynwyd
  • Jones, Richard, Cwm Eithin —Ffermwr Tŷ Cerrig, Llangwm
  • Jones, Robert—Brawd ' Jac Glan y Gors.' Bu farw ym Mwlch-y-Beudy, Cerrig-y-Drudion.
  • Jones, Robert, Tŷ Newydd—Mab Tŷ Tafarn, Llangwm. Yr unig dafarn yn y llan.
  • Jones, Siân—Gwraig Evan Jones, sadler. Yn pobi ac yn gwerthu bara mewn tŷ bychan, ym mhen uchaf llan
  • Jones, Thomas—Bardd, Cerrigellgwm.
  • Jones, Thomas, Llidiart y Gwartheg / Jones, Thomas, töwr Yr un dyn. Yn byw mewn tŷ mewn rhes o dai yn ymyl Cerrig- y-Drudion.
  • Jones, William, Lerpwl—Mab y Lion, Cerrig-y-Drudion, a ddaeth yn contractor mawr yn Lerpwl, ac a adwaenid fel William Jones, Duke Street.
  • Lias y siop—Elias Williams, fferyllydd yng Ngherrig-y-Drudion. Tad Isaac, John a Gruffydd Williams, doctoriaid yn Llundain, a thaid Cecil Williams, Ysgrifennydd presennol Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion
  • Llanaled—Enw ar bentref Cerrig-y-Drudion
  • Llanfryniau—Enw ar Langwm
  • Llanllonydd—Llanfihangel Glyn Myfyr
  • Lloyd, John—Tŷ'n y Berth. Fferm yn ymyl Cynwyd
  • Llwyd, Morris— Hwsmon yn Hendre ar Ddwyfan, Llangwm. Yn byw mewn bwthyn ar ochr y Gwernannau.
  • Llwyd, William—Cychwynnydd yr achos Methodistaidd yn Lerpwl. Prynwr a gwerthwr 'sanau.
  • Mari Wiliam—Pen-y-Criglyn, bwthyn ar y boncyn o'r tu uchaf i Ysgol y Cyngor, Cynwyd.
  • 'Monyn '—Adwaenid fel Rhobert [?], Pig-y- bont, Llangwm.
  • Morgan Dafydd, Llanllonydd—Cadwaladr Lloyd, Rhiw Goch, pen-blaenor yng Nghapel Llanfìhangel Glyn Myfyr.
  • Morgan, Huw—Huw Hughes, Tŷ Nant, ffermdy tu ôl i Glyn Nannau, Llangwm.
  • Morgan, John—Enw dychmygol
  • Morus y Craswr —. Morris Williams. Yn byw mewn bwthyn yn y King, Cerrig-yn Drudion.
  • Morus y Crydd—Cefnder i fam yr awdur. Crydd yn cadw gweithdy yn Nhy'n Rhyd, Cerrig-y-Drudion.
  • Mwrog—Bailiff o dan yr Ecclesiastic Commissioners (helynt y degwm) ac yn byw yn Ninbych.
  • Mynydd Main—Rhwng Cerrig-y-Drudion a Phentre Llyn Cymer.
  • Owen, Tomos, Tai Mawr —Cwm Main. Tad Edward Owen (Owens & Peck, timber mcrchants, Bootle).
  • Pentre Gwernrwst—Yng Nghwmtirmynach
  • Phillip, Gwen—. Gwen Phillip Morris, o Gerrig-y- Drudion.
  • Plas yn Ddôl—Y Ddwyryd, Corwen
  • Richards, Ellen-. Yn byw mewn caban unnos, yn ymyl Tynygwern, Nannau, Llangwm. Gwraig Dafydd Richard, Tŷ Dafydd Richard.
  • Robert Nelar—Nelar yn gweithio i Elias Williams (Lias y Siop) tad y doctoriaid.
  • Roberts [?]—Botegir, Llanfihangel Glyn Myfyr
  • Roberts, Dafydd—Ty'n Rhyd, Cerrig-y-Drudion.
  • Roberts, Edward —Y Rhyl, gynt 0 Gynwyd. Yn fyw yn 1931, adeg cyhoeddi Cwm Eithin.
  • Roberts, Robert —Gwernannau, Llangwm.
  • Roberts, Thomas—Cwper, Cynwyd.
  • Rhyd, Olwen—Yn agos i Gellioedd Ucha, Cwmtirmynach.
  • Sali, Tŷ Tan y Berllan—Tŷ Nant, Llangwm.
  • Siôn Ifan—John Evans, Pennant, yn ymyl Tyn-y-gwern, Nannau, Llangwm.
  • Siôn y Fawnog —Evan (?) y Gaerwen, rhwng Cynwyd a Glan'rafon. Brawd iddo wedi priodi chwaer mam yr awdur.
  • Soar, Capel—Yng Nghwm Main.
  • Stephenson, William—Hafod Bleddyn, Cynwyd.
  • Syth, William—Edward Thomas. Yn byw yn llan Llangwm. Ewythr ' Uncle Ned ' (Edward Thomas, y Groudd) porthmon yn byw yng Ngherrig-y-Drudion.
  • Tŷ Dafydd Richard—Yn ymyl Tynygwern, Nannau, Llangwm.
  • Tŷ John y Cwmon—Y tu uchaf i Bont Tai'n rhos, gwaelod Cwmpenanner. Priododd Dafydd Richard a John y Cwmon ddwy chwaer.
  • Tŷ Twyrch —Ar ochr Mynydd Main rhwng Cerrig-y-Drudion a Phentre Llyn Cymer.
  • Watson, James—Ty'n Rhyd, Cerrig-y-Drudion.
  • ' Wil Bryn Hir —O Lanfihangel Glyn Myfyr.
  • Wil y Cwmon—Enw hollol ddychmygol.
  • Williams, Meistr —William Williams, Gwerclas, Cynwyd.
  • Williams, Evan, ffeltiwr—Byw yn agos i gapel Salem, Cynwyd.
  • Williams, William —Brawd Evan Williams, Yn byw yn agos i gapel Salem, Cynwyd.

Nodiadau[golygu]