Cwm Eithin/Y Trigolion: Y Forwyn a'r Ymborth
← Y Trigolion: Y Gwas a'r Gweithiwr | Cwm Eithin gan Hugh Evans, Lerpwl |
Byddigions-Helynt yr Arian Mawr → |
PENNOD IV
Y TRIGOLION:
Y FORWYN A'R YMBORTH
YN ffermydd mwyaf Cwm Eithin ceid pen forwyn, yr ail forwyn, a'r hogen. Disgwylid i'r pen forwyn allu gwneud menyn, pobi, golchi, smwddio, ceulo a gwneud caws, yr ail forwyn i'w chynorthwyo a dysgu pob gwaith i'w pharatoi ei hun i gymryd lle'r ben forwyn ei hunan. Oherwydd wedi i un gyrraedd safle pen forwyn, yr oedd wedi cyrraedd oedran priodi, oni byddai ysbryd hen ferch yn ei chorddi. Cryn anrhydedd i lanc oedd cael pen forwyn yn briod. Yr oedd yr ail forwyn i edrych ar ôl y moch a'r lloeau, a gofalu rhoi bwyd i'r naill a gwlyb i'r lleill yn ei bryd, er y gofalai pob un ohonynt alw ei sylw at y ffaith ei bod yn amser. Golygfa arddunol iawn yw gweled y forwyn â bwcedaid o fwyd moch ym mhob llaw, a gwialen o dan ei chesail, a deg neu ddwsin o foch newynog o'i chwmpas am yr uchaf yn ei ffordd ei hunan yn gofyn bendith ar y bwyd. Yna myned a gwlyb i'r lloeau, a phob un ohonynt yn gwylied amdani i roddi hergwd iddi hi a'i bwced, a cholli'r gwlyb am ben ei blouse neu ei jumper—O nage, ei ffedog fras. Gwaith yn gofyn medr neilltuol yw dysgu llo bach i ddechrau cymryd ei wlyb; rhaid i'r eneth roi ei llaw yn ei geg; ond y mae ganddi hyn o gysur, ni raid iddi wisgo menyg i lanhau y grât, oherwydd fe ofala y llo bach am gadw'i llaw yn wen a sidanaidd, trefn natur i gadw llaw yr eneth o forwyn yn dyner ac esmwyth.
Dywedid pethau doniol iawn am rai o'r merched smart yr oedd y Llywodraeth yn eu hanfon o gylch y wlad i ddysgu'r ffermwyr sut i wneud eu gwaith amser y rhyfel. A diau mai golygfa ddiddorol dros ben a fuasai gweld merch ieuanc o'r dref yn rhoddi gwlyb i lo bach heb ddysgu ei gymryd ei hunan.
Yr oedd yr hogen at alwad pawb, ac i gynorthwyo ac i'w gwneud ei hun yn ddefnyddiol, a gofalu ychydig am y plant os byddai rhai. Ond y mae yn syndod mor ychydig o ofal sydd yn angenrheidiol am blant yn y wlad; mae ynddynt ryw reddf i ofalu amdanynt eu hunain na fedd plant tref mohoni, yn enwedig y rhai moethus ohonynt. Yn ychwanegol at waith tŷ, arferai y morynion odro, taenu ystodiau, troi a chyweirio gwair, casglu a chribinio, myned ar ben y das i helpu'r taswr, ac yn aml ddadlwytho, gafra, a chodi'r ŷd. Gwaith caled i'r cefn oedd gafra, a golwg ddigon digalona fyddai ar aml eneth â chroen go denau, pan fyddai'r ŷd yn llawn ysgall; ond rhaid oedd gafael ynddo, a gellid torri llewys hen fetgown go dew wedi ei droi heibio, neu hen got Bob, y gwas, i'w rhoddi am y breichiau. Cofiaf y gallai Morris Llwyd afra ŷd yn llawn o ysgall wedi torchi ei lewys a gwasgu'r afr â'i freichiau noeth. Hwsmon oedd ef ac ar y blaen yn torri byddai, ond dangosai i'r bechgyn a'r genethod yn awr ac eilwaith sut i wasgu gafr yn llawn ysgall i'w mynwes. Gofalai y wraig am wneud bwyd yn ystod y cynhaeaf, a chyfarwyddai'r genethod i'w wneud amser arall.
Bywyd caled oedd bywyd gwas ffarm, llawer caletach a chaethach oedd bywyd y forwyn. Rhaid oedd iddi hi godi hanner. awr wedi pump i alw ar y llanciau, golau tân, cael y llestri godro'n barod erbyn y deuai'r gwartheg i'r fuches, ac yna byddai ar drot o'r bore gwyn tan nos.
Prin y cai hamdden i fwyta; a phan ddeuai adeg noswylio byddai'n rhaid iddi hi glirio a golchi llestri swper ar ôl i bawb arall orffen, ac ni feiddiai neb ddyfod i'w swper cyn wyth. Pe deuai un dri munud cyn wyth, edrychai y meistr ar y cloc ac yn wgus iawn ar y troseddwr, ac yn ddigon aml byddai hen gynffonnwr yn y fintai, hen gwmon feallai, yn hwyr yn dyfod i swper; ni fyddai ef wedi meddwl ei bod yn wyth o'r gloch, yr amser wedi mynd heb iddo ef gysidro. Ac ni fyddai cymaint o frys i fwyta swper. Byddai gan y meistr hamdden yr adeg honno i ofyn barn yr hwsmon am y tywydd; a beth a fyddai orau i fyned ato yn y bore, a châi y gwas bach gyfle i roi ei big i mewn os byddai yn un go ffraeth. A cheid hamdden i chwerthin. Felly âi yn naw cyn y byddai'r morynion wedi gorffen eu gwaith; ac os byddent yn ymolchi ac yn gwneud eu gwallt ar ddiwrnod gwaith, ni wn pa bryd y gorffennent. Hyn a wn i, a welais â'm llygaid ac a glywais â'm clustiau: dwy eneth o forwyn yn eistedd i lawr wedi gorffen eu gwaith am ugain munud wedi naw, yn goleu cannwyll frwyn i ddarllen, un Drysorfa Plant, a'r llall ryw lyfr arall nas cofiaf yn awr. Yr oedd yno doreth o lyfrau. Ugain munud i ddeg union ar y cloc clywn y meistr yn gweiddi, "I'ch gwlâu, enethod! Fe fydd digon o drafferth i'ch codi chi yn y bore, mi wn." Yr un peth drachefn ym mhen rhyw bum munud. Troesant hwythau y cŵn allan, ac i fyny y grisiau â hwy. Gallai fod yr uchod dipyn yn eithriadol; ond y ffaith oedd na welodd llawer meistr ddim ond gwaith a gwely ei hunan, ac ni ddaeth i'w feddwl o gwbl fod ar na morwyn na gwas, na merch na mab, angen dim oriau hamdden. "I'ch gwlâu gael ichwi godi yn y bore," oedd y peth pwysig. Ystyrrid £3/10/o yn gyflog da i forwyn.
Ceid rhagor o hamdden yn y gaeaf. Pan fyddai'r dydd yn fyr byddai swper yn gynharach, a thipyn o orffwys cyn swper. Nid yw'n beth i synnu ato y byddai llawer o'r genethod yn bur anodd eu codi yn y bore; ac ni ddylasai Williams Pant y Celyn synnu llawer iddo fethu â deffro geneth o forwyn i nôl cannwyll iddo un tro. Dywedir y byddai'r hwyl canu yn dyfod drosto yn y nos yn aml pan fyddai oddicartref; ac wedi canu pennill yn ei gwsg neu yn effro byddai yn awyddus i'w ysgrifennu cyn iddo fyned yn angof. Un tro arhosai mewn ffarm ddieithr; daeth yr hwyl ato, a cheisiodd ddeffro'r hogen i nôl golau iddo. Mae'n debyg nad oedd matches yr adeg honno; ond methiant glân fu ei ymgais, a chanodd y pennill doniol a ganlyn iddi:
Mi wela'n awr yn eglur,
Ped elai clychau'r Llan,
A rhod y felin bapur,
A gyrdd y felin ban,
A'r badell fawr a'r crochan
Yn twmblo drwy y tŷ
A'r gwely'n torri tani,
Mai cysgu wnelai hi.
Yr oedd yn beth priodol i forwyn weu a gwnïo, a darllen y wers at yr Ysgol Sul, ac ehangu ei gwybodaeth gymaint ag a allai. Ni welais neb yn crosio yno. Credaf y gwyddai yr hen drigolion rywbeth amdano, ond na feddylient lawer o'r gwaith, oherwydd os ceid y genethod yn symera, clywid ambell hen fam yn gweiddi, "By be ydych chi'n neud yn y fan yna yn gweu lasie?" Nid wyf yn cofio bod yno yr un piano yn y Cwm i neb ei ganu; yr oedd yno ambell delyn. Yr organ gyntaf a welais oedd yr un yr âi William Thomas, Pentrefoelas, â hi o gwmpas y wlad mewn cerbyd i gadw cyngherddau.
Yng Nghylchwyl Lenyddol Caergybi, Nadolig 1859, cynigiwyd gwobr am Nofel Gymraeg yn disgrifio'r Llafurwr Cymreig. Enillwyd y wobr gan "Llew Llwyfo," a rhoddir gair uchel iawn i'r gwaith gan y beirniad," I. D. Ffraid." Ond ymddengys i mi fod y "Llew" wedi bod yn fwy llwyddiannus i ddisgrifio pethau salaf gwas ffarm na'i bethau gorau; a phe buaswn wedi darllen Huw Huws[1] pan oeddwn was ffarm cyn i'r "Llew" ddyfod ar ei daith gyngherddol, ef, ac "Ap Madog," a "Iago Pencerdd," os cofiaf yn iawn, nid wyf yn meddwl yr aethwn i wrando arno yn canu. Ond â'i ddisgrifiad o fywyd yr eneth o forwyn y mae a fynnwyf yn awr. Os yw y disgrifiad a rydd y "Llew" o fywyd yr eneth o forwyn ym Môn, ac yn enwedig ei ddisgrifiad o'r fel yr ymddygid ati ddiwrnod ffair gyflogi, agos yn gywir, rhaid bod gwareiddiad rhai rhannau o Gymru yn anhraethol is na gwareiddiad Cwm Eithin. Yr oedd y forwyn yn barchus yng Nghwm Eithin yn yr hen amser gynt. Os oedd ei gwaith yn galed, ei diwrnod yn hir, a'r bwyd yn blaen, ni welid harddach merched yn unman na gennod Cwm Eithin, "Morynion glân Meirionnydd.'
YMBORTH
Ni ellir cyhuddo trigolion Cwm Eithin o lythineb. Cofier hefyd nad oedd y bwyd a osodid ar y ford gron o flaen y tân ddim yn wahanol yn amser F'ewyrth a Modryb, ac nad oedd ond ychydig iawn yn well ar ddyfodiad cyntaf Meistr a Meistres i deyrnasu. Byddent hwy yn cael te a lliain ar y ford. Rhoddaf restr o'r prydau yma. Caent frecwast tua saith, cinio hanner dydd, tamaid bedwar o'r gloch, a swper ar ôl noswylio. Yr oedd mainc o'r tu ôl i'r bwrdd mawr i'r dynion eistedd i gael eu bwyd. Yr hwsmon yn dyfod i mewn yn gyntaf, ac yn eistedd ym mhen draw'r fainc. Byddai'r hwsmon, fel rheol, yn ddyn iach, cryf, ac yn fwytawr cyflym os oedd yn deilwng o'r enw. Yr amser priodol i'w gymryd i fwyta pryd o fwyd oedd chwarter awr. Pan eisteddent wrth y bwrdd i frecwast, dyweder, y peth cyntaf a wnâi pob un oedd gosod ei benelin chwith ar y bwrdd a'i ben i orffwys ar ei law, a thynnu y tancar â'i lond o faidd neu frowes i'w hafflau o dan ei enau, a chyda llwy haearn neu bren codai'r maidd i'w enau yn gyflym a llynciai ef mewn dim amser; yna torrai'r hwsmon glyffiau o'r dorth haidd, ac ychydig o'r cosyn, ac yr oedd y bara ceirch a selen o 'fenyn yn y cyrraedd, a thyn pig a'i lond o laeth enwyn i bawb yfed yn ei dro. Yn union deg, edrychai'r hwsmon ar hyd y rhes i weled a oedd pawb wedi gorffen ac yna gwthiai bawb allan o'i flaen, ac aent oll at eu gorchwyl. Pan ganai'r corn cinio, eid trwy'r un drefn; llond tancar o botes, a hwnnw yn ddigon di-lygaid yn aml, yna darn o beef neu mutton hallt wedi ei ferwi. Yr oedd yn flasus a maethlon. Dro arall ceid lwmp o facwn melyn bras. Ceid pwdin reis neu dymplen eirin i ginio yn y cynhaeaf a diwrnod yr injan, a chaniatâd i orffwys am awr ar ôl cinio, ond bod yr amser a gymerid i fwyta yn cael ei dynnu o'r awr. Ni cheid gorffwys ddiwrnod cario. Tamaid gelwid y pryd a alwn ni yn de; tua phedwar o'r gloch, byddai llond tancar mawr o siot oer neu gynnes, fel y byddai'r tywydd, neu fara llaeth. Byddai'r caws a'r ymenyn ar y bwrdd a llond y tyn pig o laeth enwyn. Ond byddai raid clirio'r tancar cyn estyn at y caws a'r 'menyn, neu ceid clywed gair o dafod drwg y feistres yn bur fuan. A job ofnadwy i lawer un fel myfi oedd hynny'n aml, gan mor llawn y llenwid hwy. Yr unig ffordd i gael allan o hynny oedd gwneuthur ffrind o'r forwyn, a cheid aml un dyner- galon yn eu mysg. Pan welai un bron â thorri ei galon wrth ben ei dancar, ysgubai ag ef i'r briws a'i gynnwys i hocsied fwyd moch cyn y byddai'r feistres wedi cael hamdden i droi rownd. Diolch am hogen o forwyn ffeind, rhodd fawr i aml hogyn gwan ei stumog. Ond yr oedd ambell hen genawes yn eu mysg hwythau. Eu hyfryd waith oedd dangos y sbâr yn y tancar i'w meistres, a chael y llanciau i helynt. Ceid un cwpanaid o de mewn ambell le os byddai'r wraig yn un garedig, ac un frechtan wen neu ganthreg i de ddydd Sul; a byddai rhyw fath o bwdin i ginio ddydd Sul. Uwd, llymru, neu faidd bron bob amser i swper. Ni thyfid nemor ddim gwenith yn y rhan o Gwm Eithin lle y trigiannwn i, ac ni welid tamaid o fara gwyn ond ar y Sul o un pen i'r flwyddyn i'r llall, dim ond bara ceirch a bara haidd.
Yr oeddwn yn casáu bara ceirch pan oeddwn yn hogyn, gallwn fwyta fy ngwala o fara amyd, a dywedir mai dyma'r rheswm fod fy ngwep mor llwyd. Cofiaf un gaeaf yn dda iawn ar ôl cynhaeaf drwg a'r haidd yn fall. Anfonodd fy hen ewythr yr haidd i Gruffydd yr Odyn ei grasu cyn ei falu, i dreio gwneuthur bara ohono; ond wedi ei falu a'i bobi, yr oedd fel toes neu yn ôl dywediad y trigolion, yr oedd fel plwm; gwythiennau gleision yn rhedeg drwyddo. Yr oedd y bara ceirch yn well ond ni allwn ei gyffwrdd. Gaeaf i'w gofio oedd hwnnw, ond rhyfedd fel y deuthum trwyddo. Yr oedd y tatws yn dda, a'r llaeth a'r maidd; a byddwn yn cael gafael ar ambell wy a'i ferwi wrth ferwi col haidd i'r ceffylau, a byddai Mary y forwyn yn celcio ambell ddarn o gaws i mi. Rhyfedd ac ofnadwy oedd troeon yr yrfa.
Wedi i mi fod yn sôn am fwyd plaen, bwyd Cwm Eithin, diau y daw rhai i'r casgliad mai ychydig iawn oedd yr amrywiaeth. Ac felly yr oedd mewn llawer lle. Yn aml byddai'r dynion wedi laru'n lân ar botes. Cofiaf streic mewn un ffarm, y gyntaf y clywais erioed sôn amdani, yn erbyn potes-tanceri mawr wedi eu llenwi y naill ddydd ar ôl y llall. Ond y mae'n syndod gymaint o amrywiaeth a ellir ei wneud mewn bwyd llwy ond cael gwraig yn gogyddes fedrus, a chanddi galon hawddgar a da, awyddus i wneud tamaid blasus. Ni wyddai trigolion Cwm Eithin ddim am confectionery. Yr oedd dwy ddefod ymysg y gwragedd, pan roddid prawf ar eu gallu i baratoi gwledd, megis gwneud torth frith, ychydig o lightcakes neu gacen ar y radell. Prin yr oedd jam wedi ei eni. Y ddefod gyntaf oedd pan fyddai pâr wedi priodi. Ymhen ychydig ddyddiau âi holl wragedd y cylch yn finteioedd o bump neu chwech i edrych amdani hi fel y dywedid, sef am y wraig ieuanc, ac âi pob un â rhyw bresant gyda hi, o chwarter o de i fyny, yn ôl eu hamgylchiadau. Ai'r gwragedd tlodion yn eu tro. Nid oedd yn beth gweddus i neb beidio â myned, a byddai y rhoddion yn ychydig gymorth i'r cwpwl ieuanc gychwyn eu byd. Yr ail ddefod oedd " mynd i wledda." Digwyddai honno pan enid geneth neu hogyn i'r byd; âi gwragedd yn yr un drefn a chyda rhoddion cyffelyb. Yr adegau hynny ceid ychydig foethau; ond yr arfer gyffredin oedd cael nifer o wics o siop Siân Jones, eu tostio a'u gosod i nofio mewn 'menyn, a dywedyd "C'raeddwch ato fo, ma'n drwg gen i nad oes yma ddim byd gwell i'w gynnig ichi"; a dywedyd ar ôl iddynt orffen "nad oeddynt wedi bwyta dim," er y byddai dwsinau o wics wedi diflannu. Paham y galwyd y ddefod gyntaf yn edrych amdani hi," a'r ail yn "wledda," nis gwn. Pe buaswn i yn eu henwi, newidiaswn y drefn, ond y gwragedd a ŵyr orau.
Ond sôn yr oeddwn am ymborth beunyddiol teulu'r ffarmwr, a'r amrywiol fathau o fwyd llwy, &c., a ellid eu gwneud. I ddangos hynny ni allaf wneud yn well na rhoi hanes swper Beti Jones Ceunant. Llawer tro y cawsom ni y plant ef ar draws ein dannedd: "Mae isio'ch gyrru chi at Beti Jones y Ceunant garw iawn, dyna ddoi â chi at eich cacen laeth." Digwyddai hynny bryd swper, pan ofynnai ein mam : "Beth sydd arnoch chi isio i swper heno, blant, gael i chi fynd i'ch gwlâu?” Gofynnem ninnau un am y peth yma a'r llall am y peth arall; a phan na fyddai ein mam mewn hwyl i wneud rhagor nag un math o fwyd, dyna a glywem: "Mae eisieu eich anfon at Beti'r Ceunant."
Yr hanes oedd fod Beti Jones wedi hen flino yn coginio gwahanol fwydydd i'r plant. Yr oedd ganddi bump ar hugain ohonynt, ac ar bob un eisiau rhywbeth gwahanol i'w swper. Cymerodd yn ei phen y rhoddai ddiwedd ar yr helbul, trwy ffordd wreiddiol o'i heiddo ei hun. Dechreuodd ofyn i'r plant, o'r hynaf hyd yr ieuengaf, beth a gymerent i'w swper, ac aeth drwyddynt oll yn y drefn a ganlyn:
"Robin, be gymi di i dy swper heno?" "Uwd." |
"Da machgen i. Mae Llewelyn am fynd yn ddyn." |
Ar ôl derbyn yr holl gyfarwyddiadau, ymneilltuodd Beti i'r briws, yn hollol dawel, heb ddywedyd y drefn fel arfer, yr hyn a barodd gryn syndod i'r plant, nes peri iddynt edrych ar ei gilydd yn awgrymiadol, a cheisient ddyfalu beth a allai fod. Bu Beti yn y briws am gryn amser yn paratoi y gwahanol ddysgleidiau. Ymhen encyd daeth yn ei hôl i'r gegin a'r badell dylino yn ei breichiau, a gosododd hi ar ganol y bwrdd mawr, yna dechreuodd gario'r tanceri a'u cynnwys i mewn, dau ym mhob llaw. Ar ol dyfod â hwy i gyd ar y bwrdd tywalltodd gynnwys pob un i'r badell. Ar ôl gorffen, cymerodd yr uwtffon a throdd gynnwys y badell fel yr arferai droi yr uwd â holl nerth ei braich, nes oedd wedi ei gymysgu'n dda. Yna cymerodd y tanceri, a chyda chwpan glust llanwodd hwy o un i un, rhai yn hanner llawn a rhai tua thri chwarter llawn, a rhai yn llawn hyd yr ymyl, yn ôl gwybodaeth fanwl Beti o allu'r plant i glirio eu bwyd. Dechreuodd eu gosod yn un pen i'r bwrdd lle yr eisteddai Robin, ac aeth ar hyd un ochr i'r bwrdd rownd un talcen ac ar hyd yr ochr arall lle'r oedd meinciau. Edrychai'r plant yn wirion arni gan feddwl ei bod wedi drysu. Yna gafaelodd Beti yn yr uwtffon; cododd hi uwch ei phen, t'rawodd ei throed yn y llawr a'r bwrdd â'i dwrn, a gwaeddodd gydag awdurdod:
"At eich swper bob un, a'r un gair o geg yr un ohonoch. Bwytewch eich swper bob tamaid; mi ddysga i chwi gymryd be gewch chi i'ch swper. Welsoch chi rotsiwn beth â'r plant, deudwch? Beth ydech chi'n feddwl ydw i?"
Ymlusgodd pob un yn araf i'w le, a gosododd pob un ei benelin chwith ar y bwrdd, a'i ben i orffwys ar ei law, gan hel ei dancer o dan ei enau. Golygfa i'w chofio oedd honno. I dorri ar yr unffurfiaeth, digwyddai nad oedd llaw ddehau pob un o'r plant yr un ochr, felly, yn lle bod pob un â'i wyneb at wegil y nesaf ato, gwelid weithiau ddau â'u hwynebau at ei gilydd, a dau arall wedi troi eu cefnau at ei gilydd fel pe wedi syrthio allan. Golwg athrist oedd arnynt oll. Buont yn hir fwyta, gan edrych o dan eu cuwch dros ymyl y tancer a oedd ffordd o waredigaeth. Ond safai Beti yn ddisyfl wrth dalcen y bwrdd â'r uwtffon i fyny gan wasgu ei dannedd. Disgwyliai Beti eu clywed yn crafu gwaelod y tancer â'r llwy bren. Cyrhaeddodd ambell un yn agos i'r gwaelod; ond cyn hir gwelai Beti glustiau ambell un yn dechrau gwynnu. Gwaeddodd hithau, "I'ch gwlâu bob un," ac yn sicr ni fu gwell ganddynt erioed fyned i'w gwlâu na'r noson honno.
Pan fygythid swper Beti arnom, arferem swatio ar unwaith, a chymryd a gaem, er y gwyddem yn bur dda ynom ein hunain na fuasai ein mam yn cymryd llawer am roi swper Beti'r Ceunant i ni. Yr oedd y frân wen wedi ein hysbysu na chymerasai Beti lawer am wneud yr un peth eilwaith, oherwydd Robin, Siân a Thwm oedd yr unig rai a allodd godi i odro bore drannoeth. Bu llu ohonynt yn eu gwlâu am ddyddiau. Bu agos i nifer o'r plant canol golli'r fatel, oherwydd yr enwau a roddodd Beti arnynt a'r bwyd a roddodd iddynt. Ond er credu stori'r frân wen ni fu gennym erioed ddigon o wroldeb i sefyll dros ein hawliau i gael y peth a fynnem i'n swper. Ymostwng i'r trefniadau y byddem bob amser.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Huw Huws; neu, Llafurwr Cymreig, gan "Llew Llwyfo," 1860