Neidio i'r cynnwys

Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch/Am ladd moch, a chiwrio a halltu eu cig

Oddi ar Wicidestun
Taflen o'r rhywogaethau Prydeinig o foch Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch


golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon
Am afiechydon moch, a'r moddion i'w meddyginiaethu


AM LADD MOCH, A CHIWRIO A HALLTU EU CIG

Y mae rhai wedi meddwl nad yw mochyn yn dyoddef dim poen wrth gael ei ladd; ond camgymeriad dybryd yw hyny. Y mae y mochyn druan yn teimlo, ac yn teimlo yn llym hefyd. Buasai yn dda iddo lawer gwaith pe na buasai yn teimlo; pe felly, y fath loesau a arbedasid iddo. Cyn ei farw yn gyffredin, ar ol gollwng ei waed, y mae yn cael ei fwrw i lestriaid o ddwfr berwedig, er mwyn tynu ymaith ei wrych; ac yn mhellach, bydd yn cael ei dynu allan o'r dwfr berwedig, cyn i'w fywyd ymado, ac yn cael tynu allan ei ymysgaroedd yn fyw! Dengys hyn fod yn angenrheidiol ymarfer mwy o dynerwch wrth ladd mochyn, nag a wneir yn gyffredin.

Un dull tra chyffredin yn y wlad o ladd mochyn ydyw rhwymo rhaff am ei ên uchaf, a'i thaflu ar drawst neu nenbren; y mae y rhaff hon yn cael ei thynhau nes peri i'r anifail sefyll ar flaenau ei fysedd ol, a'i drwyn i fyny yn yr awyr. Yna y mae y cigydd yn perlinio o'i flaen, a chan gymeryd cyllell finiog, yn gyntaf efe a eillia ymaith ychydig o'r gwrych o flaen ei wddf; yna trywana ef, ac wedi hyny tyn allan ei gyllell. Daw llyn o waed o hono mewn canlyniad i hyny, yr hwn a ddelir mewn llestri priodol, er mwyn gwneyd pwdin gwaed. Llacêir y rhaff raddau; y mae y mochyn druan yn pendroni, ei lygaid yn glasu, peidia ei ysgrechiadau—syrthia; a byddai farw yn fuan. Ond Och! yn gyffredin y mae y cigydd yn cael tâl am ei waith fel job; y mae arno frys; a chyn bod yr anadl wedi ymadaw o gorph y creadur truan, ïe, cyn iddo ddarfod gruddfan, bwrir ef i'r twb ysgaldian; yna tynir ef allan mewn eiliad, gosodir ef ar fwrdd, a thynir ymaith ei wrych trwy ei grafu â chyllell. Yna tynir allan ei berfedd, a bydd yn dda os bydd y creadur truenus wedi gorphen ei yrfa cyn i hyn gymeryd lle.

Mewn hen amseroedd, ymddengys na byddai ein cigyddion mor frysiog, neu yr oeddynt yn fwy trugarog. Mewn hen olion o'r amseroedd gynt, gellir gweled fod penau moch wedi cael eu taro ar asgwrn y talcen yn yr un modd ag y ceir fod penau ychain ac anifeiliaid ereill yn yr un cyfnod. Mor dda fuasai genym pe buasai y drefn hon yn cael ei dylyn gan ein cigyddion diweddar! Pe buasai y mochyn wedi cael ei amddifadu yn gyntaf o'i deimladrwydd trwy ergyd drom ar y talcen, a thrwy hyny wneyd yr ymenydd yn ddideimlad, buasai yn gwbl yn nwylaw y cigydd, a gallasai hwnw wneyd âg ef fel y mynai, a hyny gyda mwy o dynerwch, a chyda mwy o gyflymdra a llai o drafferth.

Ond y mae diwygiad i raddau helaeth wedi cymeryd lle yn ddiweddar yn hyn, yn enwedig yn y trefydd, lle mae yr orchwyliaeth o roddi ergyd drom i'r mochyn ar ei dalcen, cyn tori ei wddf, yn enill tir yn gyflym, a deallwn nad oes un cigydd parchus yn esgeuluso gwneyd hyny. Mewn ardaloedd gwledig, pa fodd bynag, y mae yr hen arferion creulon yn ffynu yn barhaus, a'r dull barbaraidd o daflu y mochyn i ddwfr berwedig, yn cael dal ato o hyd, a hyny yn fwriadol ac er ateb dyben; oblegyd clywais gigydd parchus o'r wlad yn dywedyd yn ddiweddar, "Nid yw mochyn byth yn ysgaldian cystal a phan y mae bywyd ynddo." Camgymeriad mawr ydyw hyn; nid oes eisiau dim ond peidio gadael i'r anifail oeri a myned yn stiff, neu anystwyth.

Pwngc tra phwysig yn nghynyrchiad bacwn da ydyw, fod i'r mochyn gael ei ladd mor gyflym ag y byddo modd, a chyda mor lleied o gyffro ag a fyddo yn bosibl. Dylid ei newynu, heb ganiatâu un math o ymborth iddo am o leiaf bedair awr ar hugain cyn ei ladd; a rhaid cymeryd y gofal mwyaf i'w drywanu yn y wythen fawr, fel y byddo iddo waedu mor gyflym, ac mor rwydd hefyd, ag y byddo yn bosibl.

Y mae Mr. Richard Pick, o Sowerby, yn ddiweddar wedi mabwysiadu y cynllun o saethu moch gyda bwled yn flaenorol iddynt gael eu trywanu a'u gwaedu, yr hyn sydd yn rhoddi terfyn ar eu dyoddefiadau ar unwaith; ond dylid bod yn dra gofalus nad elo y bwled i ysgwyddau yr anifail.

Y dull mwyaf cyffredin, a thyner hefyd, o ladd mochyn sydd fel hyn:—Darparir bwrdd, yn lled—ogwyddo ychydig mewn un cyfeiriad; rhoddir dyrnod i'r mochyn ar y talcen gyda gordd bren, yr hyn a'i gwna yn gwbl ddideimlad; yna teflir ef ar y bwrdd, trywanir ei ddwyfron â chyllell, neu yn hytrach yn y man hwnw lle y mae y ddwyfron yn cyfarfod y gwddf. Llifa y gwaed yn rhwydd, a derbynir ef i lestri wedi eu parotôi at y pwrpas hwnw. Yn flaenorol i hyn dylai fod twb, neu ryw lestr mawr arall, wedi ei ddarparu, yr hwn yn awr a lenwir â dwfr berwedig. Rhaid i'r dwfr fod yn ferwedig, ond rhaid ei dymheru, ar ol ei dywallt i'r twb, gydag un ran o bedair o ddwfr oer. Bwrir y mochyn i hwn, a chrafir ymaith ei wrych gyda min cyllell. Y mae y gwrych y dyfod i ffwrdd yn rhwyddach os caiff y mochyn ei ysgaldian cyn iddo stiffio a chwbl oeri, ac oddiar hyn y mae rhai cigyddion wedi coleddu y syniad cyfeiliornus mai gwell ydyw ei ysgaldian tra y mae bywyd ynddo. Wedi hyny crogir yr anifail i fyny, agorir ef, a thynir allan ei berfedd. Torir ymaith y pen, y traed, &c., a rhenir corph y mochyn, gan ei dori i fyny ar bob ochr i asgwrn y cefn. Bydd cyllell gref a gordd bren yn angenrheidiol at y gorchwyl yma, y rhai a atebant y dyben yn well na llif. Dylai y tu fewn i'r mochyn gael ei olchi yn lân gyda dwfr a sponge, er symud ymaith yr oll o'r gwaed.

CIWRIO A HALLTU Y CIG.

Y mae bacwn yn cael ei giwrio mewn lluaws o wahanol ffyrdd. At wasanaeth teulu:—gosodir ef yn gyffredin ar fwrdd, ac yna rhwbir i mewn iddo halen, ac ychydig nitre wedi ei ychwanegu, yn gyntaf ar un ochr, yna ar yr ochr arall, naill ai gyda llaw noeth, neu â math o faneg a wneir yn bwrpasol at halltu. Yna dodir ychydig wellt ar lawr un o'r tai allan, rhoddir y nerob arno, gyda'r croen at i lawr—yna gwellt, yna nerob arall, ac felly yn mlaen. Ar y cwbl gosoder bwrdd neu blangc, a phwysau trymion neu geryg mawrion ar dop yr oll. Yn mhen tair wythnos neu fis, bydd y cig wedi halltu digon, a achroger ef i fyny ar fachau yn nhylythau y gegin. Y mae yr arferiad gyffredin o losgi coed a mawn mewn ceginau lle y mae nerobau o gig moch wedi eu hongian fel hyn, yn rhoddi i'r bacwn ryw felusder nad ellir byth ei gael mewn peth a brynir am arian.

Dull arall sydd fel y canlyn:—Parotowch bicl, trwy ferwi halen cyffredin a nitre mewn dwfr; cymysgwch, at un mochyn o faintioli canolig, un pwys o siwgr coch brâs gyda haner pwys o nitre, a thrwy gymysgu yr oll o'r siwgr a'r nitre ag y bydd arnoch ei eisiau ar y dechreu, bydd i chwi atal iddo gael ei ladrata gan weision a morwynion, a phlant; rhwbiwch hwn i mewn iddo yn dda gyda'r fan eg halltu; yna rhowch y cig yn y picl, a gadewch iddo orwedd ynddo am ddeuddydd; ar ol hyny cymerwch ef allan o'r picl, a rhwbiwch ef gyda dim ond halen; yna rhoddwch ef yn ei ol yn y picl.

At giwrio cig y mochyn yn dyner:—Ffurfiwch bicl melus trwy ferwi triagl gyda halen a dwfr; rhwbiwch y cig gyda siwgr a nitre; ychwanegwch ychydig o bicl cryf at y cig; rhoddwch y cig yn hwn, a gadewch ef i orwedd ynddo am dair wythnos. Os bydd ychwaneg o le yn y cask, llenwch ef i fyny â thriagl. Bydd i wyth pwys o halen, un pwys o nitre, a chwe' pheint o driagl, fod yn rhywbeth tua digon at bob can'pwys o gig, a chymer oddeutu pum' galwyn o ddwfr. Yn mhen oddeutu tair wythnos y mae mwy neu lai o amser yn angenrheidiol yn ol maintioli y mochyn—tynwch y cig allan o'r picl, a chrogwch ef yn y tŷ sychu. Tra yn y tŷ sychu, dylai y nerobau gael eu hongian a'r gwddf i lawr. Gellwch dori allan yr ham, a thrimio y nerob, yn ol eich chwaeth elch hun. Y mae gan braidd bob sir ei dull ei hun o wneuthnr hyn. Yna, os bydd genych y moddion, symudwch eich hams a'ch bacwn i'r tŷ mygu. Ni ddylid gadael iddynt gyffwrdd y naill yn y llall. Ond cymeryd gofal am hyn, gellwch eu hongian mor agos at eu gilydd ag y dymunoch. Y mae tai mygu o bob maintioli, ond y mae y rhai lleiaf o honynt yn ateb y dyben yn gystal a'r rhai mwyaf. Cyn hongian y cig yn y tŷ mygu, dylai gael ei rwbio drosto yn dda â bran. Gwneir y tân o flawd llif, yr hwn a losga yn araf, gan roddi allan fwy o fwg nag o fflamau. Yn yr orchwyliaeth o fygu, bydd i'r cig golli rhwng pymtheg ac ugain pwys y cant—y mae hon yn ffaith ag y dylid yn wastad ei chadw mewn cof.

Dyry Kinnaird B. Edwards y cyfarwyddyd a ganlyn o berthynas i biclo neu giwrio hams;

"Cymerwch o Bay salt, un pwys,
Saltpetre, tair owns,
Halen cyffredin, haner pwys,
Triagl, dau bwys.

Y mae hyn yn ddigon at ddwy ham o 14 i 16 pwys bob un; dylent fod yn y picl am dair wythnos neu fis. Dylid troi yr hams yn rheolaidd yn y picl, a bwrw y gwlych drostynt.

Wrth giwrio hams neu facwn yn gyffredin, y mae yn ddymunol defnyddio yr un swm o soda cyffredin ag o saltpetre, owns a haner at bob 14 pwys o ham neu facwn, gan ddefnyddio yr un swm o halen ag a nodir uchod. Y mae y soda yn atal y caledwch hwnw a geir mor aml yn nghig coch y bacwn, ac yn ei gadw yn iraidd drwyddo. Y mae y cyfarwyddyd yma wedi cael ei ddefnyddio gan rai o brif housekeepers y deyrnas."

Weithiau lleddir y moch cyn eu bod wedi cyrhaedd llawn faintiolaeth, a thynir ymaith eu gwrych trwy eu deifio; dywedir fod bacwn a hams y rhai hyn yn meddu blas ac arogl anarferol o dyner a moethus.

Y blawd llif goreu at fygu hams ydyw yr hwn a geir oddiwrth dderw, a dylai fod yn drwyadl sych. Y mae y blawd llif a geir oddiwrth ffawydd cyffredin yn rhoddi blâs annymunol ar y cig, rywbeth heb fod yn annhebyg i benwaig cochion.

Y mae bacwn Wiltshire o ansawdd tra danteithiol, ond y mae yr achos o hyny yn amlwg, ac nid ydyw i'w briodoli i unrhyw orchwyliaeth o giwrio. Parotôir y bacwn hwn oddiwrth foch wedi eu porthi ar y llaethdy. Dyma y gwir ddirgelwch. Gellir gwneyd yr un sylw am facwn Cumberland hefyd.

Mewn rhai siroedd, blingir y mochyn cyn ei giwrio. Y mae rhyw ychydig mwy o enill i'w gael, wrth gŵrs, oddiwrth yr orchwyliaeth hon; ond y mae y bacwn yn israddol o ran gwerth, gan ei fod yn dueddol i ddyfod yn rusty, yn gystal ag i leihau yn ddirfawr wrth ei ferwi. Defnyddir y crwyn i wneyd cyfrwyau.

Dylai hams a nerobau gael eu hongian bob amser mewn lle sych. Yn wir, byddai yn dda ciwrio yr hams mewn canvas neu lian, megys ag y gwneir gyda'r Westphalian hams.

Anhawdd iawn ydyw cadw bacwn yn nhymor yr haf, neu mewn gwledydd cynhes; ond y mae peiriant wedi ei ddyfeisio yn ddiweddar, am ba un y mae breinteb (patent) wedi ei chael, yr hon a wna gadwraeth cig, o dan yr amgylchiadau mwyaf anffafriol, yn berffaith rwydd. Ond ni ddylai y peiriant yma gael ei ddefnyddio oddigerth pan fyddo angenrheidrwydd yn galw am ei weithrediad, a byth o ddewisiad, pan y gellir mabwysiadu y gorchwylaethau cyffredin.

Y mae medru tynu y gormodedd o halen o'r cig, cyn ei ddefnyddio, yn beth ag sydd wedi cael ei fawr ddymuno o bryd i bryd. Y mae ei fwydo mewn dwfr, at ba un yr ychwanegwyd carbonate of soda, wedi ei gael yn dra defnyddiol; felly hefyd y mae ychwanegiad o'r un sylwedd, neu o galch, at y dwfr yn mha un y byddo wedi ei ferwi, neu newid y dwfr wedi i'r cig gael oddeutu haner ei ferwi. Y mae morwyr yn cael allan fod golchi y cig mewn dwfr hallt yn dra effeithiol; ond gellir cyrhaedd yr amcan yn well o lawer trwy yr orchwyliaeth fferyllaidd syml a ganlyn.

Dodwch y cig mewn dwfr cynhes, ac wedi iddo fod ynddo am rai oriau, ychwanegwch ato gyfran fechan o sulphuric acid. Yn mhen tair neu bedair awr, tynwch ef allan, a golchwch ef ddwywaith neu dair mewn dwfr; at y dwfr olaf ychwanegwch gyfran fechan o carbonate of soda. Tynwch y cig allan o'r dwfr hwn, golchwch ef drachefn, a berwch ef at giniaw. Canfyddwch fod yr holl halen braidd wedi ei dynu ymaith yn llwyr, os nad yn gwbl felly; ond na fydded i chwi ryfeddu os bydd lliw y cig wedi tywyllu i raddau; nid yw y gwaethygiad yn cyrhaedd dim yn mhellach na hyny; y mae blâs y cig yn parhau yr un a phan yr halltwyd ef gyntaf, ac y mae mor iachusol a chig ffresh. Dichon fod yn bosibl gwneyd yr orchwyliaeth syml yma yn wasanaethgar mewn mordeithiau hirion; oblegyd ceir fod hir arfer cig wedi ei halltu, heb ddigonedd o lysiau i'w ganlyn, yn cynyrchu llawer o afiechydon.

Cynllun llawer mwy syml ydyw mwydo y bacwn dros nos mewn dwfr oer. Mor gryf ydyw tueddiad halen at ddwfr, fel y mae mwydo y cig mewn dwfr am bedair awr ar hugain, neu hyd yn nod am ddeunaw awr, yn gyffredin yn symud ymaith unrhyw ormododd o flâs halen. Y mae yn ymyryd llai â blâs y cig nag unrhyw gymysgiadau fferyllaidd pa bynag, ac ar y cyfrif yma, yn gystal â'r dull hawdd i'w ddwyn yn mlaen, y mae yn tra rhagori ar bob cynllun arall.

Y mae Mr. J. Hawkins, o Farchnad Portobello, Dublin, yn gwneyd y sylwadau canlynol ar y pwngc o giwrio cig moch, ac yn gymaint a'i fod yn giwriwr o ran ei alwedigaeth, y mae cryn bwys yn yr hyn a ddywed.

Ar ol myned trwy fanylion y weithred o ladd y mochyn —yr hon nid yw yn annhebyg i'r olat, a'r fwyaf trugarog, a nodwyd genym ni (tudal. 41)—y mae yn myned yn mlaen fel y canlyn ar y pwngc o dori i fyny y mochyn a'i halltu:—

"Gosodir y mochyn ar fwrdd cry neu faingc gadarn; yna torir ymaith ei ben yn glòs i'w glustiau; wedi hyny agorir y mochyn i lawr ar hyd y cefn. Defnyddir math o fwyall neu lif at wneyd hyny, a thynir allan yr asgwrn cefn ac esgyrn bonau y cluniau. Yna torir ymaith y traed ol, fel ag i adael coes i'r ham. Wedi hyny torir y coesau blaen wrth gymal y goes, chrafir y cig i fyny oddiar yr asgwrn, ac oddiar asgwrn y balfais, yr hwn a dynir allan yn gwbl noeth o dan yr ochr. Yna rheder y llif ar hyd yr asenau, fe. ag i'w cracio; ar ol hyny gorweddant yn gwbl fflat. Yna rhenir y mechyn yn wastad i fyny y cefn, a bydd yr ochrau yn barod at eu halltu; yr hams o hyd yn aros yn nglŷn â hwy. Dyma y dull o dori i fyny y mochyn a ymarferir yn swydd Wicklow yn yr Iwerddon.

"Pan y mae yr ochrau yn barod at eu halltu, rhwbier hwy yn dda ar du y croen, a llanwer i fyny y twil a wnaed trwy dynu allan asgwrn y balfais gyda halen. Yna gosoder yr ochrau, pob un ar ei phen ei hun, ar lawr wedi ei fflagio, ac ysgydwer halen drostynt Yn mhen un diwrnod, neu ddau ddiwrned os bydd y tywydd yn oer, rhaid eu halltu drachefn yn yr un modd; ond yn awr gellir rhoddi dwy ochr gyda'u gilydd, a saltpetre wedi ei wneyd yn llwch wedi ei luchio dros bob ochr, yn y cyfartaledd o ddwy owns at bob ochr, os bydd o faintioli arferol bacwn, Yn mhen tridiau neu bedwar rhaid i'r ochrau gael eu newid drachefn, a rhaid rhwbio coesau yr hams, cynhyrfu yr hen halen arnynt, a lluchio ychydig halen ffresh drostynt, a gellir yn awr csod pump neu chwech o ochrau y naill uwchlaw y llall. Gellir gadael yr ochrau fel hyn am wythnos, pan y gellir eu pentyru y naill uwchlaw y llall, hyd ddeg neu ugain o ochrau, os byddwch wedi lladd cynifer â hyny o foch. Gadewch hwy felly am fwy na thair wythnos, nes y byddont wedi dyfod yn galed. Yna gellir eu hystyried fel wedi eu perffeithio, a chadwant am o chwech i wyth mis, neu cyhyd ag y byddoch yn dymuno.

"Pan fyddo arnoch eu heisiau at eu defnyddio, neu at y farchnad, cyfodwch yr ochrau o'r halen, a bydded iddynt gael eu hysgubo a'u glanhau yn dda; tynwch ymaith yr ham, a chrogwch hi i fyny, a sychwch hi â thân mawn. Os bydd arnoch eisiau lliw brown, lluchiwch ychydig o flawd llif pren caled dros y mawn. Os crogir hwy i fyny mewn cegin lle y mae mawn yn cael ei losgi, a gadael iddynt aros yno, ond heb fod yn rhy agos i'r tân, cynyrchir yr un effeithiau yn union, ac os bydd y bacwn wedi ei rwbio yn dda â halen, bydd yn gig rhagorol.

Yn Belfast a Limerick. y mae y cynllun o dori y cig i fyny yn gwahaniaethu peth oddiwrth y dull yn Wicklow; y mae esgyrn y balfais yn cael eu gadael i mewn, ac y mae yr hams yn cael eu tori ymaith pan y mae y mochyn newydd ei ladd, ac yn cael eu ciwrio ar wahan, yr hyn a bair nad yw yr hams yn myned yn rhy heilltion—bai ag y cwynir o'i herwydd weithiau gyda golwg ar hams Wicklow.

Y mae y dull Seisonig o dori i fyny a chiwrio y mochyn yn lled debyg i'r dull a ymarferir yn Belfast a Limerick, gyda hyn wahaniaeth—ac eithrio Hampshire, a rhyw un sir arall―nid ydynt byth yn mygu eu bacwn. Siroedd Cumberland, York, a Hampshire ydynt y prif rai yn Lloegr am giwrio bacwn; ae y mae bacwn Hampshire yn cael ei ystyried ar y cyfan y goreu yn yr holl deyrnas."

Y mae yr orchwyliaeth o giurio bacwn at wasanaeth y llynges dipyn yn wahanol oddiwrth y dull cyffredin halltu. Y mae tipyn mwy o fedrusrwydd yn cael ei ymarfer er tori y mochyn i fyny yn ddarnau mor agos i'r un maintioli ag y byddo yn bosibl. Doder dwfr, yn mha un y byddo halen a saltpetre wedi eu toddi. yn y twb ciwrio, a gadewch iddo sefyll ynddo am o dair i bedair wythnos. Yna darparer bari!, a gorchuddier ei waelod â haen a wair a halen, a llenwch ef i fyny gyda haenau « bore a halen, bob yn ail, hyd at y top, pryd y gorchuddir ef, ac y cauir i fyny y baril yn y fath fodd fel ag i gau allan yr awyr hyd ag y byddo yn bosibl. Wedi hyny torer twl yn mhen y baril, a thywallter y picl i mewn, nes y bydd y cask wedi ei lanw i fyny, yna rhoddir plug neu ystopell yn y twll, a bydd y cig yn fuan yn barod at ei ddefnyddio. Y mae porc hallt, fel y gelwir ef, yn gyffredin yn ymborth llawer mwy defnyddiol ac iachus nag un math arall o'r cigoedd wedi eu preserfio, neu y beef hallt a ddefnyddir yn y llynges, a phob math arall o longau o ran hyny.

Y prif niweidiau ag y mae bacwn, ar ol cael ei giwrio, yn ddarostyngedig iddynt, ydyw y tueddiad i ddyfod yn rusty, neu o flâs drwg a sychlyd; bryd arall, y mae yn cael ei orchuddio âg wyau rhyw wybed bychain a elwir yn gyffredin yn jumpers. Y mae y peth cyntaf yn dygwydd yn fynych os bydd i'r cig gael ei sychu yn rhy agos at y tân, neu gael ei amlygu yn ormodol a diangenrhaid i effeithiau yr awyr Wrth sychu y cig, dylai fod mor agos i'r tân fel ag i deimlo ei ddylanwad-ac mor bell oddiwrtho fel ag i atal iddo ffrio, a dyfod i feddu ar flas drwg, nes derbyn yr enw cyffredin, "bacwn rusty."

Y mae rhai yn cynghori gwyngalchu y bacwn gyda dwfr calch ar ol i'r cig sychu, ac y mae hyn yn ddiau yn rhagflaeniad sicr a phenderfynol; ond gellir atal yr aflwydd yn llawn cystal trwy giwrio y cig â bran plaen, neu unrhyw sylwedd iachus arall a geidw yr awyr oddiwrtho.

Nid yw yn angenrheidiol dyweyd llawer am y jumpers, heblaw crybwyll, pe byddai i'r bacwn gael ei orchuddio gyda sach, nen ryw ddefnydd arall a fyddo wedi ei wau yn glòs, ni bydd y gwybed a ddodwyant yr wyau yn alluog i fyned i mewn at y cig, ac o ganlyniad dodent yr wyau yn y sach. Y mae bacwn a fyddo yn noeth, mewn sefyllfaoedd darostyngedig i gael effeithio arno a'i wlychu, trwy gyfnewidiadau yn lleithder yr awyr, braidd yn sicr gael ei orchuddio âg wyau y jumpers. Ond yn ffodus, nid ydynt o ryw bwys mawr; oblegyd y mae bacwn, lle y byddont yn bodoli, yn gyffredin o'r blas goreu a mwyaf danteithiol.

Wrth derfynu, goddefer i ni ddywedyd, fod llawer llai wedi cael ei siarad a'i ysgrifenu am y mochyn nag y mae yn ei deilyngu. Y mae yn gyrhaeddadwy i'r rhai na feddant y manteision i gadw unrhyw anifail arall. Gall unrhyw ddyn, er heb feddu troedfedd o dir, mewn ychydig amser gynyrchu y rhywogaeth oreu o foch, a magu a chiwrio ei facwn ei hun. Mor belled a hyny y mae yn gwbl annibynol ar ereill am un o brif ddanteithion y bwrdd.

Nodiadau

[golygu]