Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch (testun cyfansawdd)
← | Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch (testun cyfansawdd) golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon |
→ |
I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch |
CYFARWYDDIADAU
AT
BRYNU, CADW, A MAGU
MOCH.
YNGHYDA'R MODD I'W LLADD, A CHIWRIO,
A HALLTU Y CIG.
HEFYD,
LLYFR DOCTOR MOCH,
YN GOSOD ALLAN
EU HAFIECHYDON, A'R MODDION I'W
MEDDYGINIAETHU.
CAERNARFON:
CYHOEDDEDIG AC AR WERTH GAN H. HUMPHREYS.
Nodyn Pwysig
Mae llyfrau yn cael eu cyhoeddi ar Wicidestun oherwydd eu bod o ddiddordeb hanesyddol fel rhan o gorpws llenyddiaeth yr iaith Gymraeg. Nid yw'r cyfan o'r cyfarwyddyd ynddynt yn addas at ddibenion cyfoes. Mae nifer o'r cyfarwyddiadau yn y llyfr hwn yn anghyfreithiol bellach—yn groes i ddeddfau cadw anifeiliaid, cam-drin anifeiliaid, hylendid bwyd, camddefnyddio cyffuriau ac eraill.
CYNWYSIAD.
CYFARWYDDIADAU AT GADW A MAGU MOCH.
Y Fantais o gadw Moch
Yr Hwch Fagu
Ei nhatur epilgar
Pa fath Hwch fagu i'w phrynu
Pa fodd y dylid cadw Hwch fagu
Sylwadau terfynol ar y pen hwn
Am y gwahanol rywogaethau o Foch, a'u triniaeth gyffredinol
Mochyn Berkshire
Mochyn China
Mochyn Essex
Yr Hen Fochyn Prydeinig.
Amrywiol Rywogaethau ereill
Tail Moch
Am ddewis Mochyn, gyda golwg ar ei besgi
Am Epilio a Magu Moch
Diddyfnu y Perchyll—Hychod—Baeddod
Am Gytiau Moch—Glanweithdra
Ffurfiad a Sefyllfa y Cytiau
Am Borthi a Phesgi Moch
Y dull o Olchi Moch
Pa fodd i wybod pwysau Mochyn wrth ei fesur
Modrwyo Mochyn
Nodiadau cyffredinol ar gadw Moch
Triniaeth fisol Hwch fagu
Taflen o'r rhywogaethau Prydeinig o Foch a'u lliwiau
gwahaniaethol-Moch brid mawr-Moch brid bach
Am ladd Moch
Ciwrio a halltu y cig
AM AFIECHYDON MOCH, A'R MODDION I'W MEDDYGINIAETHU
Am y Dwymyn (fever) mewn Moch
Am Ddolur y Gwddf (quinsey)
Am Chwarenau mewn Moch
Am Foch yn laru ar Fwyd, neu yn ei daflu i fyny ar ol ei
fwyta
Am Glefyd y Gwaed (Gargut)
Am y Clefyd a adnabyddir wrth yr enw Spleen, neu Ddueg
mewn Moch
Am y Coler mewn Moch
Am y Clafr mewn Moch
Agenau neu Holltau yn nghrwyn Moch
Am Ryddni mewn Moch
Am y Colic ar Foch
Am y Pla mewn Moch
Am y Frech Goch
Am Afiechyd yn yr Ysgyfaint
Am y Geri, neu y Bustl, mewn Moch
Am y Chwantachglwyf mewn Moch
Am Chwydd o dan y Gwddf
¶
CYFARWYDDIADAU
AT GADW A MAGU MOCH:
Y FANTAIS O GADW MOCH.
PRIODOL iawn yr ystyrir y mochyn, o ran ei bwysigrwydd fel moddion cynaliaeth ac elw i'r dosparth isaf o bobl, yn nesaf at y fuwch; ac yn wir, mewn llawer o bethau y mae yn fwy cyrhaeddadwy, yn haws ei borthi, ac hyd yn nod yn fwy defnyddiol na'r anifail gwerthfawr a phwysig hwnw.
Diau nad oes un anifail ag sydd yn cael ei gadw yn fwy cyffredinol, nac yn cael ei werthfawrogi yn fwy trwy yr holl fyd, nag ydyw y mochyn.
Y mae yr anifail gwerthfawr hwn yn cael ei gadw gan filoedd a bobl ag ydynt yn rhy dylawd i gadw un anifail arall, ac ymddengys fel pe byddai y creadur yma yn gallu ymgyfaddasu at anghenion ac amgylchiadau pawb. Nid yw yn ymddangos fod neb yn rhy dylawd i gadw un, ac nid oes ond ychydig iawn o bobl yn rhy gyfoethog i'w ddiystyru.
Yn mha anifail y ceir cynifer o ragoriaethau amrywiol? Nid oes un anifail arall mor epilgar, yn pesgi mor gyflym, nac yn cyrhaedd ei lawn faintioli mor fuan; nid oes un anifail arall yn enill pwysau cyfartal ar yr un swm ac ansawdd o ymborth. nac yn cario cymaint o gig ar ffrâm mor fechan, nac yn cynyrchu mor lleied o wâst. Nid yw cig yr un anifail arall, ychwaith, mor werthfawr nac mor gyffredinol ddefnyddiol. Y mae porc yn rhagorol a maethlawn yn ei gyflwr ffresh, y mae yr un mor dda wedi ei biclo, ac y mae y goreu o bob cig at ei halltu. Nid oes un anifail mor galed neu mor hawdd ei gadw, neu a ddaw yn ei flaen ar y fath amrywiaeth o ymborth; a bydd i'r cwt gwaelaf wneyd y tro iddo. Gellir galw y mochyn yn etifeddiaeth y dyn tylawd; yn Nghymru, efe ydyw bank y gweithiwr a'r llafurwr; ac yn yr Iwerddon, adnabyddir ef fel "y gŵr boneddig sydd yn talu yr ardreth."
Nid wyf yn meddwl fod braidd neb a wâd nad ydyw y mochyn, a'i drin yn briodol, yn alluog i gynyrchu enill mawr, gan fod pawb sydd yn eu cadw yn cydnabod eu bod "yn talu;" pa un bynag a fyddo ai y gweithiwr gyda'i un mochyn, neu y person gyda'i ddau neu dri, y ffermwr gyda'i ddeg neu ddeuddeg, neu y porthmon gyda'i ddau neu dri chant o honynt. Pa fodd bynag, y mae yr enill a ddeillia oddiwrth gadw moch yn dibynu i raddau helaeth ar y driniaeth a ymarferir, neu ar y rhywogaeth neillduol a gedwir, a'r draul a elo i'w porthi. Lle y mae un dyn yn enill £2 ar bob mochyn, y mae y llall yn gwneyd dwbl y swm hwnw, tra y mae un arall yn gwneyd pedwar gwaith y swm a nodwyd.
Y mae llawer o ffyrdd i gadw moch, er gwneyd iddynt dalu; ac y mae yn debyg nad oes ond ychydig o bersonau yn eu cadw gydag un bwriad arall. Bydd i un dyn gadw hwch, a gwerthu ei pherchyll yn wythnos oed; ceidw un arall hwy am bedwar mis, gan eu gwerthu fel perchylliaid; un arall a'u ceidw nes y byddont wedi tyfu i gyflawn faintioli, gan eu gwerthu fel moch teneuon; a'r pedwerydd a'u pesga at wneyd bacwn, neu at fridio. Ond yn gymaint a bod cynifer o wahanol ffyrdd at beri enill, rhaid fod rhyw ffordd yn fwy enillgar na'r llall; a'n dyben ni yn bresenol ydyw dangos yr un fwyaf enillgar, yn ol profiad y rhai goreu am fagu moch, yn enwedig gyda golwg ar weithwyr a llafurwyr.
Yn ystod y blynyddoedd diweddaf, y mae pris blawd haidd—ac yn wir pob math o rawn—wedi bod weithiau mor uchel fel ag i dynu i lawr yr enill ar besgi moch at facwn hyd ddim braidd; a gellir dywedyd agos yr un peth am berchyll hefyd; nid oes ond ychydig neu ddim proffit i'r llafurwr neu y gweithiwr tylawd yn y wlad, wrth amcanu at besgi y rhywogaeth gyffredin o foch ar flawd a fyddont wedi ei brynu, os bydd y pris yn uchel.
Rhaid y bydd gan ffermwyr, y rhai a feddant eu blawd a'u cynyrchion llysieuol eu hunain, pytatws, maip, rwdins, a gwreiddiau ereill, yn nghyda digonedd o laeth ysgum a golchion y llaethdy, fantais fawr ar bawb a brynant fwyd i'w moch; ac os gall rhywrai besgi moch er mantais iddynt eu hunain, rhaid mai y ffermwr, y melinydd, neu y darllawydd ydyw hwnw. Y mae y mochyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer y llaethdy, yn gymaint felly ag ydyw y llaethdy ar gyfer y mochyn. Y mae yr anifail yma yn difa holl laeth ysgum ac enwyn y llaethdy, ac fel ad—daliad am hyny y mae yn dychwelyd mewn cig un geiniog am bob chwart o'r hyn a yfa. Y mae hyn, pa fodd bynag, yn eithaf da gyda golwg ar y rhai a gadwant eu gwartheg eu hunain, &c., ond nid yn gymhwys at y miloedd o bobl dylodion, gweithwyr, a llafurwyr, y rhai a gadwant foch er mwyn gwneyd ychydig enill oddiwrthynt. Gan hyny, ni a nodwn allan gynllun trwy ba un y gellir cadw mochyn gan weithwyr a phobl dylodion, nad ydynt yn meddu yr un o'r manteision a nodwyd uchod, ond y rhai, er hyny, a allant wneyd llawer mwy o enill wrth fagu moch bach na thrwy besgi moch tewion. Felly ni a soniwn yn bresnol am YR HWCH FAGU
YR HWCH FAGU
yr hon sydd yn dra epilgar, ac mor enillfawr, ac hefyd mor rhwydd a rhad i'w chadw. Am yr hwch fagu, dywed Mr. Kinard B. Edwards, awdwr adnabyddus a galluog ar bob math o anifeiliaid a ffowls, yn mhlith y Saeson, fel y canlyn:
"Yr oedd genyf yn ddiweddar hwch fagu a ddygodd i mi dri thorllwyth (35 o foch bach o gwbl,) yn ystod deuddeng mis o amser. Nid oedd yr hen hwch yma (neu yn hytrach, yr hwch ieuangc yma, fel y dylwn ei galw, oblegyd nid oedd pan ymadewais â hi mor hen) yn costio i mi ond ychydig iawn at ei chadw er pan y prynais hi am bunt, yn dri mis oed. Y mae wedi byw ar bwcedaid o olchion o'r tŷ (erwyn pytatws, ac ysbwrial o'r fath,) fore a hwyr, ynghydag ychydig ysgarthion o ardd fechan, ac ychydig laswellt a borai yn ystod y dydd mewn perllan fach. A rhoddi amcan argyflawn werth yr ymborth a roddais iddi, yn sicr nid ydoedd wedi costio i mi fwy na saith geiniog yn yr wythnos er pan yr oedd genyf. Yr wyf yn cyfrif fy mod wedi enill yn glir £25 yn y flwyddyn ar yr hwch yma yn ystod y tair blynedd blaenorol cyn i im ei gwerthu hi a'i thorllwyth olaf. Yn ystod y tair blynedd hyny, yr oedd yr hwch yma wedi fy anrhegu âg oddeutu 90 o foch bach o gwbl, y rhai a werthais am bunt yr un ar gyfartaledd, yr hyn a gyrhaeddai oddeutu £30 yn y flwyddyn."
Richardson, ysgrifenydd manwl ar gadwraeth moch, a ddywed fel hyn:-"Yn ol yr amcangyfrifiad lleiaf, y mae enill o £300 i £400 y cant ar y gost o fagu hychod a pherchyll."
Nid oes yr un anifail a ddwg enill yn fwy rheolaidd nac yn fwy cyflym nag a gwna yr hwch, ac nid oes un anifail, o'i maintioli, y gellir ei gadw ar lai o draul arianol, nac yn gofyn mor lleied o lafur a thrafferth i edrych ar ei ol. Y mae hychod a ddygir yn rheolaidd at y baedd, ac a ddygant dorllwythi lluosog, os byddant yn famau gofalus, yn sicr o droi allan yn enillgar iawn. Os bydd i'r hwch gymeryd y baedd, fel y gwnant yn gyffredin, yn mhen deng niwrnod ar ol dyfod a pherchyll, yn lle yn mhen wyth wythnos ar ol hyny, wrth gŵrs cynyrcha fwy o foch bach yn ystod yr amser y bydd i chwi ei chadw i fridio, a chewch fwy o enill ar gyfartaledd yn y diwedd. Gan hyny, y mae yn gwbl bosibl i hwch ddwyn i mewn enill blynyddol o £30 o leiaf, er y rhaid edrych ar y fath enill fel peth nad ydyw bob amser yn gyrhaeddadwy. Gellir dyweyd fod prisiau moch bach yn amrywio, ac nad yw y pris a nodwyd yn flaenorol am danynt bob amser i'w gael; ond, mewn gwirionedd, y mae prisiau y cyfryw trwy Loegr a Chymru, yn ystod y blynyddau diweddaraf, ar gyfartaledd yn nes i £1 nag i 18s., ac yn nghymydogaeth trefydd, a lleoedd poblog, y mae y pris yn gyffredin yn fwy na £1. Gan hyny, nid oes dim i rwystro i neb wneyd yr enill uchod yn y rhan fwyaf o ardaloedd ein gwlad. Dylai hwch fagu dda ddwyn deg o foch bach o leiaf yn mhob torllwyth.
Nid oes dim mwy o anhawsder, ac y mae llawer iawn llai o gost, i gadw hwch fagu, nag i besgi mochyn trwy yr haf at ei ladd yn y gauaf er cael bacwn; ac y mae yn ddyogel genym, oddiwrth y profiad a gawsom, yn ol prisiau cyffredin grawn a blawd, fod yr enill yn anghydmarol fwy wrth gadw hwch nag wrth fagu a phesgi mochyn, naill ai at borc neu facwn.
Y peth mwyaf gwerthfawr mewn cysylltiad â'r hwch ydyw
EI NATUR EPILGAR,
a'r cyflymder â pha un y mae yn dwyn torllwyth ar ol torllwyth i'r byd, a'r oedran cynar yn mha un gellir diddyfnu ei moch bach, a'u gwerthu; a thrwy gadw hwch fagu y gellwch fwynhau y manteision hyn, y rhai ydynt un o'i phrif ragoriaethau. Y mae ar gof a chadw mewn hanes fod un Mr. Tilney, o Essex, ar un pryd yn feddiannol ar hwch a ddygodd iddo 301 o foch bach mewn tri thorllwyth ar ddeg, ac y mae Mowbray yn crybwyll am hwch a fagodd bedwar ar bymtheg o foch mewn un torllwyth. Nid yw torllwyth o ddeuddeg, pedwar ar ddeg, neu un ar bymtheg, ond pethau cyffredin iawn.
Yn y fan hon ni a ddyfynwn dystiolaeth gŵr enwog arall ar y cwestiwn dan sylw:
"Yr wyf fi yn credu y byddai i'r rhan fwyaf o lafurwyr ag oedd yn cadw un mochyn, gael allan y byddai yn llawer mwy enillgar iddynt gadw hwch fagu, hyd yn nod pe byddai raid iddynt werthu ei moch bach am nawswllt neu ddeg yr un, yn hytrach na magu mochyn i'w besgi. Gellir cael 'nerobau o facwn (o'r fath ag ydyw) mewn unrhyw gyflawnder o wledydd tramor, lle y mae ŷd yn rhad, i gydymgais â'n marchnadoedd ni gartref. Ond nid felly gyda moch bach; nid oes berygl am unrhyw gydymgais tramorol gyda hwy, ac mor bell ag y byddo 99 allan o bob 100 o fagwyr moch yn y wlad hon yn cadw mochyn i'w besgi ar gyfer pob un a geidw hwch, nid oes dim perygl na bydd digon o ofyn bob amser ar foch bach, ac na bydd eu prisiau byth yn îs o lawer nag y maent ar yr adeg bresenol."
PA FATH HWCH FAGU I'W PHRYNU.
Wrth brynu hwch fagu, y mae yn ofynol i chwi edrych allan eich bod yn cael hwch "agored," neu un heb ei dyspaddu. Dylai fod o hyd da o ran ei chorph, ac o un o'r rhywogaethau mawrion Prydeinig diwygiedig. Nid yw byth yn talu i gadw un o'r creaduriaid garw, esgyrniog, hirgoesog, a haner newynllyd hyny ag a welir yn cael eu cadw mor fynych gan lafurwyr ar gommins neu diroedd wâst; y maent yn fwyteig tu hwnt i bob rheswm—gofynant gymaint ddwywaith o ymborth i'w cadw mewn cyflwr da ag a aiff i gadw hwch o rywogaeth ddiwygiedig yn y cyffelyb gyflwr. Gellwch wybod yn lled dda i ba faintioli y tŷf y perchyll, oddiwrth faint ac ymddangosiad y fam, yr hon y dylech bob amser fod yn awyddus am ei gweled. Os bydd yu bosibl, ceisiwch hwch ag y byddo ychydig o groesfridiad mochyn China ynddi, fel y mae yn y rhan fwyaf o'r rhywogaethau diwygiedig; y mae hychod felly yn hawdd eu cadw mewn cyflwr da, a phob amser yn meddu torllwythi lluosog. Gellwch gael hwch o'r fath a ddysgrifiwyd am oddeutu deunaw swllt, yn wyth neu ddeng wythnos oed. Beth bynag a wnewch, byddwch yn ofalus i gael hwch fagu o rywogaeth dda.
PA FODD Y DYLID CADW HWCH FAGU.
Y mae yr un awdwr yn myned yn mlaen, ac yn dy-wedyd: "Pan yn son am gadw hwch fagu, yr wyf yn meddwl un fel ag y dylid ei chadw. Y mae dwy ffordd o gadw hwch-un ffordd yn enillgar, a'r llall yn golledus. Ni wnaiff y tro eu cadw fel y cedwir hwy yn fynych. Nid oes, yn fy meddwl i, yr un math o fochyn mor dueddol i gael ei esgeuluso a'r hen hwch; dysgwylir iddi hi ymdaro drosti ei hun, yn debyg i'r modd y gwna ffowls y ffermwr, yn y modd goreu y gallant!' Fel rheol, y mae yr hwch fagu yn cael rhy fychan o ymborth, yn byw mewn cwt budr ac mor deneu a milgi, yn rhedeg ar hyd y ffyrdd, y comins, a'r tiroedd agored, i durio am chwilod, gwreiddiau, a rhyw fath o ymborth a ddichon gael. Yn ol y dull yma o ymddwyn tuag ati, anaml y mae mwy nag un torllwyth, neu ddau yn y man pellaf, i'w cael oddiwrthi yn y flwyddyn; ac nid yw y moch bach, trwy ddiffyg gofal priodol, prinder bwyd, a chyflwr gwanllyd y fam, ond prin werth haner y pris a ddylent gyrhaedd yn gyffredin."
Pa mor bwysig bynag ydyw digonedd o ymborth, a hyny yn rheolaidd, nid weithiau gormod a phryd arall rhy fychan, y mae yn ofynol cofio fod glanweithdra a chlydwch yn llawn mor bwysig er sicrhau llwyddiant.
SYLWADAU TERFYNOL AR Y PEN HWN.
Nid oes unrhyw anifail yn geni ei rai bach yn rhwyddach a mwy didrafferth, yn gystal ag yn ddyogelach nag y mae yr hwch, ac y mae hyny yn beth mawr; ac y mhellach, hyd y gwyddys, nid oes un anifail yn llai darostyngedig i afiechydon nag ydyw y mochyn; er eu bod hwythau, fel y cwbl o waith llaw yr Hollalluog, yn agored i ryw annhrefn weithiau yn eu cyfansoddiad, naill ai trwy aflerwch dyn, neu ynte eu hesgeulustra eu hunain. Ond cawn sylwi ar hyn rhagllaw, dan y penawd AFIECHYDON MEWN MOCH.
Bydded i ni yn awr gymharu yr enillion a geir trwy gadw hwch fagu, ar gyfer yr enill a geir trwy fagu a phesgi mochyn at ei ladd er mwyn cael ei facwn. Wel, yr ydym yn prynu mochyn ieuangc am 18s.; y mae y draul o'i gadw tra y mae yn tyfu i fyny i'w gyflawn faintheb, ioli oddeutu yr un faint a chadw hwch-ceiniog yn y dydd; neu 30s. yn ystod y deuddeng mis. Yn awr, Lorfatybiwch eich bod yn dechreu pesgi y mochyn yn yr oed yma; bydd iddo fwyta 8 cant o flawd i'w wneyd yn ddigon tew i bwyso, dywedwch, ugain ugain, neu bedwar cant, a bydd yn werth £10; dengys hyn fod £6 Ss. allan o £10, wedi ei dreulio ar y mochyn yma, gan adael £3 12s. o enill ar gyfer £38 a enillid trwy yr hwch fagu yn ystod pedwar mis ar bymtheg! oblegyd gellid gwneyd hyny yn glir oddiwrthi yn yr yspaid hwnw o amser, fel y dangoswyd yn flaenorol (tudal. 8,) os byddis yn weddol lwyddiannus a gofalus. Y mae yn eithaf amlwg gan hyny ein bod yn iawn wrth ddywedyd, hyd yn nod pe gwerthid moch bach am 10s. yr un, a phe byddai i'r draul o gadw yr hwch fyned yn fwy nag a amcan-gyfrifir genym, fod er hyny swm mawr o arian yn weddill yn ffafr cadw yr hwch fagu.
Y mae yn eithaf adnabyddus fod y mochyn yn un o'r anifeiliaid goreu am bori, a'i fod yn dyfod yn ei flaen ar bob math o lysiau. Mewn rhai siroedd yn Lloegr cedwir hwy wrth y cannoedd, os nad miloedd, a gyrir hwy beunydd i'r maesydd i bori, neu ynte i ymchwilio am lysiau. Mor belled ag y byddwn yn alluog i godi digon o borfa, rywle o haner cant i bedwar ugain tunell yr acer a chofier na bydd i hwch wedi tyfu i'w chyflawn faintioli fwyta ond llai na chwe' thunell mewn deuddeng mis,) ni ddylai yr un llafurwr fod ar ol am fwyd iddi, am y byddai i glwt bychan o dir roddi digonedd o borfa iddi.
Gwneler prawf ar hyn,—ni bydd y draul ond ychydig; y mae gan y rhan fwyaf o lafurwyr ryw fath o gwt mochyn; ac os nad oes, gellid codi un am o ddwybunt i dair. Gallai gael hwch ieuangc am oddeutu deunaw swllt, ac yna gallai ddechreu. Bydded iddo gadw cyfrif manwl o'i holl dreulion nes y byddo wedi gwerthu ei dorllwyth cyntaf, ac yna gall weled faint a fydd ei enill, a pha un a fydd yn werth iddo fyned yn ei flaen gyda'r gorchwyl ai peidio.
Terfynwn y sylwadau hyn ar hychod magu yn ngeiriau yr un awdwr galluog ag y crybwyllwyd am dano yn flaenorol:
"Un gair at fy nghyfaill y llafurwr, yr hwn y dichon nad oes ganddo un cyfaill i'w gynorthwyo, ond yr hwn sydd yn barod i gynorthwyo ei hun; ac nid oes dim cynorthwy yn debyg i hunan-gymhorth, na phrofiad yn gyffelyb i'r un y rhaid i chwi ei brynu ar draul eich poced eich hun. Dechreuwch yn iawn; adeiladwch gwt priodol, a chedwch hwch fagu iawn, a rhoddwch iddi yr holl sylw a gofal a nodwyd yn flaenorol, ac yr wyf yn credu yn onest y bydd i chwi gael eich hun yn gyfoethocach dyn o ryw £20 neu £25 yn y flwyddyn. Yr wyf yn gwbl hyderus nad oes ond ychydig enill ar besgi mochyn gydag ymborth wedi ei brynu yn ddrud; ond fe'ch argyhoeddir fod elw mawr ofagu moch bach, fel y bydd i brawf byr ei arddangos i chwi.
"Un gair eto at fy mrodyr cyfoethocach. Os ydych chwi yn rhy dda allan eich hunain i ofalu am wneyd arian trwy gadw hwch fagu, gadewch i mi awgrymu i chwi y modd i roddi blwydd-dal o £20 i ryw lafurwr teilwng yn eich cymydogaeth, yr hyn a allai fod yn esiampl i'w gymydogion, am y byddont yn fwy tueddol i gymeryd gwers gan un o'r un dosbarth a hwy na chenych chwi. Adeiladwch gwt mochyn i'r dyn tlawd yma, a rhoddwch iddo hwch fagu, ar y telerau fod iddo godi digon o ymborth iddi yn ei ardd ei hun, ac fod iddo ofalu am yr anifail, a chadw ei chwt yn lân, a pheidio gwario mwy na thri swllt y pen ar bob mochyn a ddiddyfnir; nid yw pobl dylodion, fel rheol, ond yn haner porthi (hyny ydyw, newynu) eu hanifeiliaid, pa un bynag a fyddont ai ffowls, moch, gwartheg, neu asynod: camgymeriad dybryd ydyw cadw unrhyw anifail ar lai na digon o fwyd, yn enwedig gwartheg a moch.
"Yr wyf fi, trwy brofiad, wedi cael allan mai y Tamworth ydyw yr hwch fwyaf defnyddiol yn gyffredinol, a'r oreu am epilio hefyd, a ellir gael. Y maent yn fawr, yn hytrach yn meddu coesau a thrwynau hirion; ond y maent yn gelyd, yn famau gofalus, ac yn cynyrchu torllwythi Iluosog. Mochyn y ffermwr ydynt mewn gwirionedd, ac nid yw eu moch bach byth yn pallu cyrhaedd y pris uchaf yn y farchnad, oblegyd ar gyfrif eu maintioli a'u caledrwydd, y maent yn ymddangos yn 'obeithiol' i olwg y prynwr fel rhai y gellid eu gwerthu yn ddeufis oed. Fel moch i gael eu pesgi at facwn, y maent yn mhell tu hwnt i bob rywogaeth arall, am fod llai o gig gwyn ynddynt, a chynyrchant yr hams goreu a'r bacwn mwyaf rhagorol at frecwest. Gellir eu cael yn hawdd mewn bocs bychan ar hyd y rheilffordd, heb ond ychydig draul, pe byddai rhywun yn dymuno gwneyd prawf arnynt."
¶
AM Y GWAHANOL RYWOGAETHAU O FOCH,
A'U TRINIAETH GYFFREDINOL.
Y mae tri rhywogaeth o foch a brisir yn fwy arbenig nag ereill yn y wlad hon. Y cyntaf ydyw Mochyn Berkshire; yr ail, Mochyn China; a'r trydydd ydyw, Mochyn Essex (y rhywogaeth ddiweddaraf a diwygiedig o'r olaf.) Y rhai hyn hefyd ydynt y rhywogaethau a nodir yn fwyaf amlwg gan brydweddion gwahanol; er fod eu croesi, a neillduolion yn eu porthiant a'u sefyllfaoedd, yn cynyrchu amrywiaethau a wahaniaethant i raddau bychain y naill oddiwrth y llall, braidd yn mhob un o siroedd Lloegr a Chymru.
Y mae Mochyn Berkshire, yr hwn yw gwreiddyn y rhan fwyaf o'r rhywogaethau, o liw cochlyd, ac ysmotiau duon hyd-ddo; clustiau lled fawrion, yn gogwyddo yn mlaen, ond yn sythion; yn ddwfn o ran ei gorph, gyda choesau byrion ac asgwrn bychan. Cyrhaedda i'w lawn faint yn fuan, pesga yn rhwydd, a chyda chyflymdra rhyfeddol hefyd. Y mae y rhywogaeth hon, pan yn cael triniaeth dda, yn tyfu i faintioli dirfawr. Y mae Culley yn crybwyll am fochyn Berkshire, yr hwn a besgwyd gan amaethwr yn sir Gaerlleon, ac a fesurai o flaen y trwyn hyd fôn y gynffon, naw troedfedd ac wyth modfedd; ei uchder yn yr ysgwydd oedd bedair troedfedd a phum' modfedd a haner. Pan yn fyw, pwysau yr anifail anferthol yma 1410 pwys; ac wedi ei lanhau, a'i drin gan y cigydd, pwysai 1215 pwys!
Y mae Mochyn China, a siarad yn gyffredinol, o faintioli bychan. "Y mae y corph," medd awdwr diweddar, "agos yn berffaith grwn yn ei ffurf; y cefn yn gostwng oddiwrth y pen; tra y mae y bol, ar y llaw arall, yn isel, ac mewn rhai tewion o honynt, cyffyrdda braidd â'r ddaear. Y mae y clustiau yn fychain ac yn fyrion, yn tueddu at fod yn haner syth, ac yn gyffredin wedi eu gosod ychydig yn ol; y mae yr asgwrn yn fychan; y coesau yn feinion a byrion; y gwrych prin yn deilwng o'r enw, am eu bod mor feddal, nes y maent yn debycach i wallt; gwyn ydyw eu lliw yn fwyaf cyffredin, du ambell waith, a brith yn achlysurol. Ystyrir y rhai gwynion yn fwyaf dewisol, ar gyfrif tynerwch rhagorach eu cig. Y mae y wyneb a'r pen yn annhebyg i eiddo unrhyw fath arall o foch, tebygant yn hytrach i wyneb a phen llô; gan hyny, os unwaith y gwelir y rhywogaeth hon, ni anghofir hi yn hawdd. Y mae moch China yn fwytawyr da, cyrhaeddant eu llawn faint yn fuan, a phesgant yn dew ar lai o ymborth, a thrymhant fwy mewn amser pennodol nag unrhyw foch o'r amrywiaethau Ewropeaidd."
Moch Essex.—Y mae y moch a berffeithiwyd, a defnyddio y gair yn derfynol, yn swydd Essex, yn sefyll yn uchel, ar gyfer rhyw ddybenion, yn mysg y rhywogaethau Prydeinig. Dywedir fod y perffeithiad wedi cael ei effeithio trwy groesi rhwng hen fochyn Essex a mochyn Naples; ond y mae yn debyg fod a wnelai mochyn China a Berkshire rywbeth â'r gwellhad. Y mae y mochyn yn cael ei ddysgrifio fel yn meddu clustiau sythion; pen main hir; corph hir a gwastad, gydag asgwrn bychan; y lliw gan amlaf yn ddu, neu ddu a gwyn, a'r croen yn dyner, ac heb ddim blew braidd. Y mae yn fwytâwr cyflym, ond gofyna fwy o gyfartaledd o fwyd nag a ddylai gael, gyda golwg ar y pwysau a gyrhaedda; ac heblaw hyny, dywedir ei fod yn anifail anesmwyth ac anfoddlon. Y mae yr hychod yn epilio yn dda, a chynyrchant dorllwythi o wyth i ddeuddeg o rifedi; ond dywedir nad ydynt ond mammaethod lled wael.
Yn ychwanegol at y tair rhywogaeth uchod, efallai y dylem grybwyll gair am
Yr Hen Fochyn Prydeinig.—Mochyn afrywiog, esgyrniog, gydag ystlysau gwastad, trwyn hir, clustiau lliprynaidd, a gwrych breision a garw, ydoedd hwn. Nid oes neb yn hidio nemawr am dano yn awr. Er hyny, meddai rai rhinweddau—yr oedd o faintioli a chaledwch mawr, ac yr oedd yr hychod yn rhai da am fagu a rhoddi sugn i dorllwythi mawrion; a phan wedi eu pesgi, byddai eu cig yn dda o ran ei ansawdd, a digon o resi cochion trwyddo. Ond nid oedd tueddiad i besgi, modd bynag, yn mysg eu rhagoriaethau; oblegyd er eu bod yn bwyta yn orwangcus, nid oeddynt nac yn magu cig nac yn pesgi mewn cyfartaledd. At wella y diffyg yma, dygwyd rhywogaethau moch China a Naples i'r wlad hon. Gwnaeth y croesfridiad yma les mawr i'r hen rywogaeth frodorol, er nad ydynt yn cael eu hoffi yn fawr iawn eto.
Amrywiol Rywogaethau ereill.—Er mai y tri rhywogaeth a nodwyd sydd yn cymeryd y blaen yn bresenol yn yr Arddangosfaoedd, eto y mae rhai rhywogaethau ereill na ddylem fyned heibio iddynt yn ddisylw. Dyna rywogaeth fawr, wỳn a du, swydd Gaerlleon; moch gwynion Suffolk a Hampshire; a moch brithion swydd Sussex a'r Amwythig-y mae y rhai hyn yn dra adnabyddus yn mysg rhywogaethau ein gwlad. Y maent yn fwy garw, a siarad yn gyffredinol, na moch Berkshire a China. Y mae y naill a'r llall o honynt wedi cael eu trosglwyddo yn lled helaeth i Gymru ac Ysgotland, lle yr ymddengys fod rhywogaeth wèn, llai o ran gwerth, wedi cael ei chyfleu yn gynarach, os nad ei naturioli. Y mae hefyd yn Ysgotland, fochyn llwyd bychan, naturiol i'r wlad yn ol pob ymddangosiad, yr hwn a ymbortha yn finteoedd ar borfeydd naturiol yr Ucheldiroedd (Highlands,) a chynyrcha gig tra rhagorol. Trwy ei borthi yn dda gydag ymborth o ddyfais dyn, gellir ei godi i faintioli tra mawr. Ond y rhywogaeth a werthfawrogir yn fwyaf cyffredin yn Mhrydain ydyw cymysg o foch lliw tywyll China gyda moch Berkshire, neu rai o'r amrywiaethau mwyaf o'r hen fochyn Prydeinig. Y mae y croesiad yma yn meddu lluaws o nodweddau da, ac y mae yn un hynod o epilgar. Y mae daearfochyn Hampshire naill ai yn perthyn neu yn gyfathrachol i amrywiaeth Berkshire; mochyn du ydyw hwn, cymhwys iawn i weithwyr, canys y mae yn dra hawdd ei fwydo a'i besgi, ac felly y mae yn dra gwerthfawr.
Yn yr Iwerddon, lle y mae y mochyn gwreiddiol a chynhenid yn cael ei ddarlunio, gan un o ysgrifenwyr galluog y wlad hono, fel yn "dal, hirgoes, esgyrnaidd, trwm-glustiog, garw ei flewyn, ac yn tebygu mwy o lawer i faedd gwyllt nag i fochyn gwareiddiedig," da genym hysbysu fod y rhywogaeth wedi gwella yn fawr yn ystod y blynyddau diweddaf, ac fod yr hen foch anfuddiol hyn yn prysur ddiflanu ac ar fyned, heibio. Y mae y rhywogaethau diwygiedig o foch yn bresenol yn yr Iwerddon mor debyg i foch Lloegr a Chymru fel nas gellir yn 'hawdd wahaniaethu rhyngddynt.
TAIL MOCH.
Pwngc pwysig ydyw hwn gyda golwg ar foch, ac anifeiliaid ereill, o ran hyny hefyd. Gan mai felly y mae, dichon mai gwell i ni wneyd ychydig sylwadau ar y pen hwn, cyn myned yn mhellach. Nid ydyw tail moch yn cael ei gynilo na'i werthfawrogi yn agos mor uchel ag y dylai gael. Y mae yr enill ar besgi mochyn at facwn yn fynych yn cael ei gyfyngu i'r tail a geir; ac oni wneir o goreu o hwn yn mhob ffordd, ni ystyrir fod y gorchwyl o besgi yr anifail ond y nesaf peth i ddim. Ar y pen yma, dywed un awdwr craffus fel y canlyn:-"Hysbysir fi yn barhaus gan weithwyr a llafurwyr y gallant brynu y bacwn yn Lloegr yn llawer rhatach nag y gallant ei gael trwy besgi mochyn eu hunain ar flawd wedi ei brynu. Credir fod pob anifeiliaid a borthir âg ymborth brâs, megys ŷd, blawd, a theisenau olew, yn dychwelyd yn ol un ran o dair o'r draul yn eu tail. Y mae tail mochyn a borthir ar flawd yn werth teirgwaith cymaint ag eiddo mochyn a besgir ar lysieufwyd. Bydd i fochyn a fwytao werth £4 o flawd roddi allan o leiaf werth £1 o dail. Oddiyma y tardd y pwysigrwydd o gadw a dodi allan yn y dull goreu yr hyn yn rhy fynych a adewir i fyned yn wastraff."
AM DDEWIS MOCHYN, GYDA GOLWG AR EI BESGI.
Y moch goreu, gyda golwg ar hychod a baeddod, at besgi, a ddewisir yn ol yr ymddangosiadau canlynol. Dylai fod ganddynt gyrph hirion a mawrion, ochrau a boliau dyfnion, coesau byrion, a chefn llydan, yn orchuddiedig â gwrych cryfion. Ni ddylai fod gan yr hwch ond deg o dethi, neu ddeuddeg yn y man pellaf; a chyda golwg ar eu lliw, y gwỳn neu y goleu ydyw y goreu; y rhai brithion a ystyrir y gwaelaf, am eu bod yn fwy darostyngedig i'r frech goch.
Ond er mwyn bod yn uniongred ar y pen hwn, ni a ddyfynwn o waith Mr. Richardson, yr hwn sydd wedi talu sylw mawr i fagwraeth moch :
Yn y lle cyntaf, dyfnder digonol yn y corph, a digon o hyd, fel y gallo ymeangu yn ei led. Bydded y lwyn a'r fron yn llydain. Y mae lled y lwyn yn arddangos fod yno ddigon o le i'r ysgyfaint chwareu, a chylchrediad iachus i'r gwaed mewn canlyniad i hyny, yr hyn sydd yn hanfodol at beri i anifail ddyfod yn ei flaen, a phesgi. Dylai yr esgyrn fod yn fychain, a'r cymalau yn feinion. Nid oes dim yn dynodi rhywogaeth uchel yn well na hyn; ac ni ddylai coesau yr anifail fod yn hirach nag a geidw ei fol rhag llusgo hyd y llawr, pan fyddo yn hollol dew.
"Y goes yw y gyfran fwyaf anfuddiol o'r mochyn, ac o ganlyniad nid oes arnom angen am ychwaneg o honi nag a fyddo yn ofynol i gynal y gweddill o'r corph. Edrycher am fod y traed yn gedyrn ac iachus; am fod y bysedd yn gorwedd yn agos at eu gilydd, ac yn pwyso yn wastad ar lawr: hefyd, am fod yr ewinedd yn wastad, sythion, ac iachus.
"Y mae llawer un yn dywedyd nad yw ffurf pen y mochyn ond o ychydig neu ddim pwys, ac y gallai mochyn da feddu pen afluniaidd, nad ydyw o bwys i neb ond i'r anifail sydd i'w gario; ond yr wyf fi yn ystyried fod pen pob math o anifeiliaid yn un o'r prif bethau sydd yn arddangos puredd neu amhuredd y rhywogaeth.
"Canfyddir fod anifail o rywogaeth uchel bob amser yn cyrhaedd llawn dyfiant yn gynt, yn cymeryd cig yn gynarach, ac yn rhwyddach, ac yn fwy buddiol yn mhob peth, nag un o rywogaeth amheus neu amhur; a chan mai fel yna y mae pethau yn bod, yr wyf yn ystyried na ddylai y neb a fyddo yn prynu mochyn fyned heibio i'r pen yn ddisylw.
"Y pen ag sydd debycaf i addaw, neu yn hytrach i ganlyn rhywogaeth dda, ydyw un heb fod yn meddu gormod o asgwrn, heb fod yn rhy fflat ar y talcen, nac yn meddu trwyn rhy hir-yn wir, dylai y trwyn fod yn fyr yn hytrach, y talcen braidd yn grynaidd, ac yn adgyrfio i fyny; a dylai y glust, er yn lliprynaidd, ogwyddo ychydig yn mlaen, a bod yn deneu ac ysgafn ar yr un pryd.
"Ni fynwn ychwaith i'r prynydd fyned heibio yn ddisylw hyd yn nod i gerddediad mochyn. Os bydd ei gerddediad yn swrth, trwm, a marwaidd, tueddid fi i'w wrthod, am yr amheuwn nad yw yn iach, os na byddai rhyw afiechyd gweledig yn bodoli ynddo y pryd hwnw, ei fod ar fin tori allan; nis gall fod un arwydd gwaeth na phen lliprynaidd a llusgol, yn cael ei gario megys pe buasid am ei ddefnyddio fel pummed,coes.
"Bid sier, os byddwch yn prynu mochyn at ei ladd, neu hwch dòrog, prin y gallwch ddysgwyl ysgafnder cerddediad; ond yr wyf fi yn cyfeirio yn benaf at brynu ystorfoch ieuaingc, y ganghen gyffredin o fagwraeth moch, am mai hi ydyw yr un fwyaf enillgar.
"Ac nid yw y lliw ychwaith i'w adael yn hollol ddisylw. Gyda golwg ar foch, yr un modd a phob math o dda byw, byddai i mi ddewis y lliwiau hyny ag a nodweddant ein rhywogaethau gwerthfawrocaf. Os bydd y gwrych yn deneu, edrychwn am ddu, am y dynodai hyny gysylltiad â moch tyner Naples; ond os byddant yn rhy lwm o flew, tueddid fi i ofni cysylltiad rhy agos â'r amrywiaeth hwnw, a diffyg caledrwydd o ganlyniad, yr hyn, gan nad pa mor ddibwys bynag ydyw, os eu cig a fydd mewn golwg genych, a wna y cyfryw anifeiliaid yn anturiaeth beryglus fel ystorfoch, am eu bod mor agored i gael anwyd, ac o ganlyniad yn ddarostyngedig i fagu afiechyd. Os moch gwynion a fyddant, ac heb fod yn rhy fychain, buaswn yn eu hoffi am eu bod yn arddangos cysylltiad â mochyn China. Os goleu neu felynaidd a fyddant, neu goch gydag ysmotiau duon, adnabyddwn yr anifail dymunol hwnw-mochyn Berkshire; ac felly yn mlaen gyda phob amrywiaeth dichonadwy o liwiau. Gall y sylwadau hyn ymddangos yn ddibwys i rai darllenwyr, ac efallai i ryw ddosbarth o bobl ag sydd yn gynefin â magu moch; ond gallaf eu sicrhau mai dyna y sylwadau pwysicaf a wnaethum i eto, ac y` byddai yn lleshaol i'r porthmon pe yr edrychai atynt yn fanwl."
¶
AM EPILIO A MAGU MOCH.
Gallwn sylwi yn gyffredinol fod un baedd i gael ei ganiatâu at ddeg o hychod, a dylai y naill a'r llall fod yn flwydd oed cyn gadael iddynt gymharu. Y mae yr hwch yn gyffredin yn cynyrchu perchyll yn yr eilfed wythnos ar bymtheg, a dichon iddi gael tri thorllwyth mewn blwyddyn, ond gwell ydyw peidio gadael iddynt gymeryd y baedd bob adeg pan y gofynant ef, rhag i'r perchyll gael eu gwanhau trwy eu bod yn ddiffygiol o nerth i'w sugno. Gofalwch na byddo yr hychod yn rhy dewion ar yr adeg pan y byddont yn cynyrchu perchyll; ond gellwch eu porthi yn helaeth wedi hyny, fel y byddo iddynt roddi rhagorach maeth i'r perchyll.
Yr adeg oreu o'r flwyddyn i'r hwch gymeryd y baedd ydyw o fis Tachwedd hyd ddiwedd mis Mawrth, neu ddechreu Ebrill. Os bydd i'r hwch golli yr adeg hono, neu heb fod yn awyddus am y baedd, bydd i ychydig geirch wedi ei grasu, a'i ddod yn ei hymborth bob bore a hwyr, ei thueddu i'w dderbyn.
Dylid cymeryd gofal mawr o hychod pan y byddont yn dyfod a pherchyll, a dylid eu cau mewn cwt, rhag dygwydd damweiniau. Ni ddylid gosod dwy o honynt gyda'u gilydd, rhag iddynt crwedd y naill ar y llall, a thrwy hyny niweidio eu hunain. Bydded iddynt fwrw eu perchyll yn y cwt, pe amgen collid y perchyll, yr hyn a barai golled fawr i'r meithrinydd.
Os bydd i'r hwch ddwyn nifer mawr o berchyll, gall y perchenog ei chynorthwyo trwy borthi y moch ieuaingc gyda llaeth cynhes, gydag ychydig o siwgr brâs ynddo, fel y byddont yn gallu ei gymeryd.
Pan y mae hwch wedi dwyn nythiad cyflawn o berchyll, gellir rhoddi iddi haidd wedi ei feddalu mewn dwfr; y mae yn tueddu at ei hoeri, ac y mae yn ei nerthu, ac yn maethu ei chyfansoddiad. I'r dyben o gadw hychod rhag gwneyd niwaid, a bod yn ddireidus ar adeg dwyn perchyll, bydded iddynt gael dwfr yn lle digonedd o laeth, neu y golchion goreu o'r llaethdy, yr hyn a farnoch yn briodol i'w roddi iddynt.
Y mae hychod ieuaingc yn arbenig yn gofyn cael eu gwylied, rhag iddynt fwyta y perchyll y maent yn eu cynyrchu. Fel rhagflaenydd i hyny, bydded i chwi fwyd? yr hwch, am ychydig ddyddiau cyn yr amser y dysgwyl iwch iddi ddyfod a pherchyll, â digonedd o ymborth; neu, os bydd hyny wedi ei wneyd, ac yn aneffeithiol, bydded i chwi olchi cefnau y moch gydag yspwng (sponge) wedi ei drochi mewn trwth o aloes a dwfr wedi ei dwymo.
DIDDYFNU Y PERCHYLL—HYCHOD—BAEDDOD.
Pan y mae yn angenrheidiol diddyfnu y perchyll, yn absenoldeb yr hwch, porthwch hwy gyda'r llaeth goreu a ellwch ei hebgor o'r llaethdy; ac er i chwi ddechreu ei roddi iddynt yn gynhes, gellwch, yn mhen tair wythnos, ei roddi iddynt yn oer, os byddwch yn bwriadu eu magu; ac yna gallant, neu yn mhen mis o'r man pellaf, gael eu porthi ar eu penau eu hunain, neu eu cadw i grwydro oddiamgylch gyda hwch arall. Ein cynghor ydyw, os ydys am fagu âl o foch da, ar fod i'r hwch gael ei chadw mewn cyflawnder o wellt glân, a'i chwt yn glir oddiwrth bob math o fudreddi.
Y mae rhai hychod yn bridio nes y maent yn chwe' blwydd oed; ond ni ystyrir fod y baedd, wedi iddo gyrhaedd pum' mlwydd oed, o unrhyw wasanaeth mwyach at genhedlu; o ganlyniad, wedi iddynt gyrhaedd yr oedran hwnw, y maent yn cael eu pesgi at wneyd brawn, &c., neu dan yr amgylchiadau bacwn da.
Y perchyll a gynyrchir yn ystod mis Mawrth, ac yn nghorph yr haf, a ystyrir fel y rhai goreu i'w magu, am fod yr oerni yn y gauaf yn eu gwasgu, ac yn eu cadw yn ol. Yna, wedi i chwi ddewis y goreuon o'r hychod a'r baeddod at fridio, bydded i chwi gyweirio yr holl wrywiaid, a dyspaddu yr holl fenywiaid ag y byddoch yn bwriadu eu magu; oblegyd felly y gwneir i'r moch goreu ddyfod yn eu blaenau, a chynyddu mwy o lard, neu floneg.
Dylai moch gwryw gael eu cyweirio pan fyddont oddeutu chwe' mis oed; oblegyd y maent yn yr oedran hwnw yn dechreu gwresogi, a gwnant foch cryfach. Gellir gwneyd hyn naill ai yn y gwanwyn, neu yn nydd- iau Gwyl Fiangel, ac yn y dull canlynol:—Torwch hollt groes yn nghanol y cwd uwchben yr arenau, yna tynwch hwy allan yn dyner, ac eneiniwch yr archoll gyda thàr. Ond ni ddylid dyspaddu hychod nes y byddont yn dair neu bedair blwydd oed; er gwneyd hyn, torwch yn nghanol y tenewyn, hollt a fyddo o led dau fŷs, gyda chyllell fechan finiog, a thynwch allan gôd yr enedigaeth, a thorwch hi ymaith; yna gwnïwch yr archoll i fyny, eneiniwch ef, a chedwch yr hwch mewn cwt cynhes am ddeuddydd neu dri; yna gollyngwch hi allan, a bydd iddi besgi yn fuan.
Dan y pen hwn nis gallwn lai na rhoddi o flaen y darllenydd sylwadau awdwr arall, yr hwn a enwyd yn flaenorol, am yr ystyriwn eu bod yn dra phriodol a gwerthfawr. Megys gydag anifeiliaid gwareiddiedig ereill y mae yn annichodadwy cadw âl berffaith ac enillgar o'r mochyn, heb epiliad doeth a gofalus. Dyma a ddywed:—
"Wrth ddewis rhiaint eich ystôr, rhaid i chwi gofio yn fanwl am y gwrthddrych a fyddo genych mewn golwg—pa un ai eu magu at borc ai bacwn a wneir; a pha un a ddymunech gyfarfod y farchnad gynaraf, ac felly gael rhywfaint o enill trwy roddi allan y swm lleiaf a ellir o arian, ac heb golli amser; ai ynte a fwriedwch ymfoddloni i aros am fwy o enill, er iddo fod ychydig yn hwyrach.
Os cael bacwn i'r farchnad ddiweddar fydd eich amcan, byddai yn dda i chwi ddewis yr amrywiaethau mwyaf a thrymaf o foch, gan ofalu am fod y rhywogaeth yn meddu yr ansoddau hyny ag ydynt yn fwyaf tebyg i sicrhau enill da; sef tyfiant, a rhwyddineb i besgi. Ar y llaw arall, os eich amcan fydd cael porc, chwi a ganfyddwch mai gwell fydd i chwi gymeryd yr amrywiaethau lleiaf: y cyfryw ag a gyrhaeddant lawn faintioli yn gyflym, a'r rhai ydynt debycaf o gynyrchu y cig tyneraf. Wrth gynyrchu porc, nid yw yn dda ei fod yn rhy frâs, heb gyfartaledd cyfatebol o gig coch; ac ar yr ystyriaeth yma, cynghorwn chwi i geisio hwch o groes-rywogaeth, yn hytrach nag un o waedoliaeth China bur, oblegyd byddai gorfrasder yn debyg o ddeillio oddiwrth yr olaf.
"Bob amser, pa un bynag ai porc ai bacwn a fydd mewn golwg, y pyngciau a ddylid edrych am danynt ydynt yn yr hwch, pen bychan a bywiog, bron lydan a dofn, asenau crynion, poten fawr, morddwyd yn cyrhaedd i lawr bron hyd y gàr, lwyn ddofn a llydan, boncluniau mawrion, a hyd mawr yn y corph mewn cyfartaledd i'w uchder. Y mae un nodwedd ag y dylid ei gadw mewn golwg bob amser, ac efallai mai dyma y peth penaf y dylid sylwi arno; sef esgyrn bychain. Bydded y baedd yn llai o faintioli na'r hwch, yn fyrach ac yn fwy cryno yn ei ffurf, gyda gwddf uchel a chryf, llygad bywiog, pen bychan, cig cadarn a chaled, a'i wddf wedi ei orchuddio â chryn lawer o wrych: o berthynas i bethau ereill, edrycher am yr un pyngciau ag a ddysgrifiwyd wrth son am yr hwch.
"Y mae epilio mewn terfynau rhy gyfathrachol, neu epilio o fewn cylch yr un rywogaeth, yn dueddol i gynyrchu bychander maintioli, ac hefyd i niweidio ffrwythlondeb yr anifail; gan hyny, dylid ei ochel. Ond yr wyf yn gwybod fod rhai epilwyr yn dal nad yw y croesiad cyntaf yn niweidiol mewn un modd, ond ei fod yn y gwrthwyneb yn cynyrchu epil ag ydynt yn dueddol i gyrhaedd llawn dyfiant yn gynt, ac i besgi yn rhwyddach. Gall hyn fod mewn rhai engreifftiau; y mae felly mewn da corniog; ond mor bell ag y mae a fyno moch â'r peth, nid wyf wedi cael prawf o hyny fy hunan, ac yr wyf yn glynu o hyd wrth y cynghor a roddais. Y mae gwahaniaeth barn hefyd o berthynas i'r oedran i ddechreu epilio; bydd i foch ddechreu epilio, os caniateir iddynt, yn yr oedran cynar o chwech neu saith mis; ond ni ddylid cefnogi yr arferiad yma. Fy nghynghor i ydyw, bydded y fenyw o leiaf yn flwydd oed, a'r gwryw o leiaf yn ddeunaw mis; ond os bydd y flaenaf wedi cyrhaedd ei hail flwyddyn, a'r olaf ei drydedd, gellir dysgwyl torllwyth cryfach a lluosocach."
Y mae awdwr profiadol arall yn ysgrifenu fel y canlyn. ar y pwngc hwn:—"Y mae yr hwch yn dra epilgar, os cymharir hi âg anifeiliaid mawrion pedwartroediog ereill, ac ar gyfer hyny y mae wedi ei darparu âg o ddeuddeg i un ar bymtheg o dethi. Amser ei beichiogrwydd yw un wythnos ar bymtheg; y mae nifer y rhai bach yn amrywio cryn lawer, byddant yn fynych yn llai na deg, ac yn achlysurol mor uchel ag ugain. Y mae y porchellyn yn dra thyner; ac ni ddylid caniatâu i hwch fagu borchella yn y gauaf, ond bob amser yn y gwanwyn a'r hydref, pan y mae y tywydd heb fod mor oer ac ymborth yn fwy helaeth. Y mae perygl arall yn aros y torllwyth, ar gyfrif tueddion cig-fwytaol y fam, y rhai a barant iddi weithiau anghofio rhwymedigaethau mam, a naturiaeth hefyd, a difa ei hepil ei hun! Gan hyny, dylid ei gwylio yn ofalus, a'i phorthi yn helaeth ar yr adegau hyny. Rhaid i'r baedd, o herwydd yr un achos, gael ei gadw draw o gwbl. Drachefn, nid anfynych y llethir y rhai bach i farwolaeth gan y fam, am eu bod yn ymgladdu o'r golwg yn y gwellt; ac er rhagflaenu hyny, ni ddylid rhoddi ond ychydig wellt, a hwnw yn sych a bỳr, odditanynt. Diddyfnir y perchyll yn chwe' wythnos oed; ac wedi eu diddyfnu, dylid eu porthi â blawd a llaeth, neu ynte flawd a dwfr.
"Y mae lluaws o bobl yn meddwl y dylai hychod gael eu cadw yn deneu tra yn epilio; ond cyfeiliornad mawr ydyw hyny; canys wedi i hwch ddyfod a pherchyll, bydd i ran fawr o'r noddau a dröid yn llaeth, pe byddai mewn cyflwr da, fyned yn naturiol at faethloni ei chyfansoddiad.
"Pan fyddo arnoch eisiau y perchyll at eu pesgi, bydded i chwi dori ar y rhai gwryw, a dyspaddu y rhai benywaidd, yr hon orchwyliaeth sydd yn berffaith gyfatebol. Dylid ymddiried y gweithrediadau hyn bob amser i feddyg anifeiliaid, neu ryw berson cymhwys arall, os na byddwch yn gwbl feistr ar y gorchwyl hwnw eich hunan.
"Ar adeg diddyfnu y perchyll, arferir eu modrwyo; sef dodi modrwy haiarn yn madruddyn y trwyn, i rwystro i'r anifail durio a thori i fyny lawr y cwt mochyn. Y mae yr orchwyliaeth hon yn afreidiol mewn moch y bwriedir eu troi allan i'r coedwigoedd neu y caeau; ond lle y byddo yn ofynol, y mae yn fwy dewisol na'r drefn farbaraidd ac aneffeithiol o dori ymaith y madruddyn."
Yr ydym wedi bod yn lled fanwl gyda'r pwngc o epilio a magu moch, am yr ystyrir yn gyffredin gan borthmyn ei fod yn bwngc gwir bwysig; ac y mae y dyfyniadau a wnaethom o weithiau tri o'r prif efrydwyr yn y mater hwnw, yn deilwng o sylw pob un a fyddo yn teimlo dyddordeb yn magwraeth y mochyn; er y gallant, mewn ychydig fanylion, fod yn gwahaniaethu i raddau dibwys mewn rhai pethau.
¶
AM GYTIAU MOCH—GLAN WEITHDRA.
Dichon y gall rhai feddwl yn isel am y pwngc hwn; ond er hyny, ac er fod moch i'w cael yn mhob gwlad mewn cyflwr llwyddiannus, a bod eu cyfansoddiad wedi ei gyfaddasu at bob hinsawdd, eto canfyddir eu bod yn gwaethygu, ac heb ddyfod yn mlaen cystal, mewn eithafion gwres ac oerni. Canfyddir hwy yn eu cyflwr naturiol, pan yn preswylio naill a'i mewn gwledydd eithafol o boeth neu oer, yn chwilio am y lleoedd cyfaddasaf i'w cyfansoddiad.
Y mae moch, yn eu cyflwr dof, yn gofyn cael eu cadw yn dra sychion a chynhesion, onitê ni ddeuant byth yn eu blaenau yn dda. Gellir eu gweled yn y tywydd oer bob amser yn ymgladdu yn y gwellt a'r gwasarn a roddir iddynt fel gwely, ac fel hyn dynodant eu hawydd naturiol at wres. Gan hyny, dylai cytiau y moch fod mewn llecyn gysgodog, ac yn gwynebu y dehau neu y gorllewin, os bydd modd. Os cedwir hwy mewn cytiau bychain, dylai fod agorfa fechan yn mhob pen iddynt, fel ag i ollwng awyr iach drwyddynt i'w gwyntellu. Gellir cadw y rhai hyn yn agored bob amser yn ystod y misoedd haf; ond ni ddylid eu hagor i ollwng awyr i mewn ond unwaith bobyneildydd yn y gauaf, a hyny yn y bore, a gofaler am eu cau i fyny at yr hwyr.
Canfyddir y bydd i foch dyfu hyd yn nod pe yr esgeulusid yr holl bethau hyn; ond yr ydym yn gwybod trwy brofiad y tyfant ac y pesgant yn gyflymach o lawer, ac y byddant yn fwy iachus, os telir sylw priodol iddynt. Os bydd y tywydd yn deg, gall ychydig oriau o ryddid wneuthur mawr les i iechyd a chyflwr mochyn ar ei dyfiant, ac os ca ychydig borfa, goreu oll.
Cedwir moch yn gyffredin mewn cyflwr cywilyddus o fudr; eu cytiau heb awyr iach yn myned drwyddynt, y gwellt odditanynt yn ffiaidd, eu buarth cyfyng ronyn gwell na thomen wleb, a chroen yr anifail o ganlyniad yn orchuddiedig â chrêst a phob math o amhureddau. Y mae yr hen ddywediad, "Yr hwch wedi ei golchi yn dychwelyd i'w hymdreiglfa yn y dom," megys yn cadarnhau y syniad mai un naturiol fudr ydyw yr anifail yma; ond nis gellir beio y dull cyffredin o drin y mochyn, gyda golwg ar hyn yn rhy lym, oblegyd nid ydyw yn naturiol yn fudr, fel y tybiai rhai, ond y mae yn hoffi cael ei gadw yn sych a glân, yn gystal a chynhes, fel y gall pawb weled wrth sylwi ar yr hyfrydwch a arddengys pan y mae ei groen yn cael ei grafu a'i ysgrwbio. Gan hyny, yr ydym yn atolygu ar bawb sydd yn cadw moch, am iddynt gadw eu cytiau yn y cyflwr sychaf a glanaf ag y mae modd, newid y gwellt yn fynych, a chrafu croen y mochyn o leiaf unwaith yn yr wythnos. Trwy wneyd hyn, pe byddai yr anifail heb fymryn o ymborth yn ychwaneg nag arferol, bydd iddo ddyfod yn ei flaen a phesgi i raddau uwch, a bydd y cig yn fwy pur a thyner.
Ffurfiad a Sefyllfa y Cytiau.—Tuag at wneyd y mochyn yn gysurus, dylai ei gwt gael ei rana yn ddwy ran ystafell at gysgu, a buarth agored, y naill yn agor i'r llall. Dylai yr ystafell lle y byddont i gysgu fod tua saith troedfedd ysgwâr; wedi ei hadeiladau a'i thoi yn gadarn, er mwyn cadw gwlybaniaeth allan; a'r llawr, yr hwn y dylid ei wneyd o fyrddau cryfion, a ddylai redeg ychydig ar oriwaered at y drws. Dylai y buarth allanol fod tua deg troedfedd ysgwâr, wedi ei balmantu yn gadarn â llechfeini mawrion, ac yn rhedeg ychydig ar oriwaered mewn cyfeiriad pennodol, fel y gallo yr ysgarthion redeg i gwter o dan y ddaear. Y mae yn ddymunol i'r adeilad fod gerllaw y domen, fel y gallo yr holl wlybaniaeth redeg iddi, ac hefyd fel y galler trosglwyddo yr holl ysbwrial sylweddol iddi yn ddigolled. Bydded i chwi gadw digonedd o wellt yn y cwt ac yn y buarth, fel y byddo iddo sugno lleithder a thom, a rhacier y cyfan allan yn rheolaidd, a rhodder gwellt newydd yn ei le. Y mae yr arian a gollir trwy adael i'r dom redeg ymaith, trwy fygdarthiad—hyny ydyw, trwy iddo ehedeg ymaith i'r awyr —yn fwy nag a feddyliai llawer un. Dylai buarth y cwt mochyn, os bydd modd, fod yn agored i'r haul, gan fod y moch yn dra hoff o dorhenlo yn ei belydrau. Dylai y llestri bwyta a osodir o flaen y moch yn y buarth fod yn gafnau cryfion o geryg, y rhai nis gellir yn hawdd eu dymchwelyd. A dylai y rhai hyn gael eu golchi a'u hysgwrio bob dydd; oblegyd er mai anifail budr yr ystyrir y mochyn, y mae bob amser yn fisi ar ei fwyd.
¶
AM BORTHI A PHESGI MOCH.
Y mae y dull o borthi moch yn un o bwysigrwydd mawr. Fel anifeiliaid gwangcus dylid cadw golwg yn barhaus arnynt. Ni ddylid rhoddi ormodedd o fwyd cyn eu bod wedi prifio yn dda, ac ni ddylid eu porthi yn rhy aml. Rhodder iddynt ymborth yn gymedrol, y fath ag a'u ceidw mewn cyflwr da, ac yn rhwystro iddynt fod yn rhy farus. Os bydd i'r moch grwydro llawer yn ystod y dydd, a bwyta gormod o laswellt, yn enwedig yn y gwanwyn, y maent yn ddarostyngedig i fath o haint yn eu coluddion, yr hyn a eilw y Saeson yn gargut—nid ydym yn gwybod am enw Cymraeg arno. O ganlyniad, cyhyd ag y byddoch yn eu troi allan, ymarferwch â'u porthi bob bore a hwyr, ac ni fydd yn agos gymaint o berygl.
Mewn manau gwledig, lle y mae coedwigoedd mawrion i'w cael, a lle nad yw y borfa o fawr werth at ddim dyben arall, byddai epilio a magu moch yn orchwyl tra enillgar i'r llafurwr; oblegyd pan y mae ganddynt gylch eang grwydro, ni ofynant ond ychydig ymborth heblaw yr hyn a loffant eu hunain wrth bori o dan y coed, ac wrth gloddio am fân bryfaid a gwreiddiau o wahanol fathau—at y gorchwyl olaf y mae eu trwynau hirion a chryfion yn eu gwneyd yn dra chyfaddas. Nid ydys yn eu pesgi âg ymborth pryn, oddigerth yn y gauaf, a phan besgir y moch at y farchnad, neu i'w lladd. Y mae yn beth inwy cyffredin, pa fodd bynag, i'r llafurwr gadw mochyn neu ddau yn y cwt, er mwyn ychwanegu at foddion cynaliaeth ei deulu; ac hyd yn nod pan y cedwir ef gyda'r amcan cyfyngedig yma, nid yw y mochyn yn anifail dibwys. Y mae Cobbett yn gwneyd sylw craff ysmala ar hyn:—"Bydd i olwg ar hanerob neu ddwy o gig moch yn mhen y bwthyn, wneyd mwy tuag at gadw dyn tlawd rhag herwhela a lladrata, nag a wna cyfrolau cyfain o actau seneddol. Y maent yn dda hefyd at larieiddio y dymher, a meithrin cydgordiad teuluaidd."
Os byddwch yn myned i brynu porchell at ei borthi a'i ladd, gwell ydyw ceisio un a fyddo yn un mis ar bymtheg oed tua'r Nadolig, oblegyd tua'r amser hwnw neu yn Ionawr ydyw yr adeg oreu i ladd yr anifail. Oddieithr bod eisiau porc tyner, ni ddylid ei ladd tan flwydd oed. Yn yr haf, gellir porthi y mochyn ar unrhyw ysbwrial o'r gegin neu o'r ardd, yn cynwys crwyn maip a phytatws, gwehilion y bwrdd, dail cabaits, &c.; ond os gellir cael llwch haidd, neu soig o ddarllawdy neu dŷ tafarn, yn lled rad, y mae y naill neu y llall yn ymborth da iddo. Ond dylid cofio yn wastad mai po goreu fyddo yr ymborth, goreu a fyddo y porc. Dylai y bwyd fod o natur lysieuol, neu gan mwyaf felly; ni ddylid rhoddi iddo ddim ymborth o natur gigol, heblaw golchion oddiar y bwrdd. Beth bynag a roddir iddo, cynygier ef yn ddognau bychain, a hyny yn fynych, gan ei fod yn bwysig peidio gadael i'r mochyn fyned i gyflwr anarferol o wangclyd. Anoethineb mawr ydyw haner newynu moch, ac ad—delir am hyny trwy gael ysgerbwd teneu a gwael, na fyddo prin yn werth ei ladd.
Y mae gan ffermwyr fanteision mawrion i borthi moch. Mae y gwellt—fuarth ynddo ei hun, yn cynyrchu cynaliaeth ddigonol iddynt; ac y mae llawer o foch yn flwydd oed cyn derbyn dim ymborth ond a gasglant eu hunain, eto y maent mewn cyflwr da. Gydag ysbwrial yr ysgubor, a'r gwellt, y maip, y moron, a'r meillion, a orweddant hyd y lle, ystyrir y gall ffermwr gynal moch yn y cyfartaledd o un at bob saith neu wyth erw o dir a fyddo ganddo dan gnwd, heb wybod am yr hyn a fwytânt. Anfynych y megir moch yn y fath rifedi fel ag i beri codi cnydau pennodol ar eu cyfer, er fod rhai ysgrifenwyr yn haeru y cynyrchent, yn y cyfryw amgylchiad, fwy o enill mewn llai o amser nag anifeiliaid ereill a borthir yn y dull hwnw. Mewn manau lle y megir moch ar raddfa eang, adeiladir rhês briodol o sheds, buarthau, a chafnau bwyta; ac heblaw ysbwrial a golchion cymysg y fferm, codir cnydau geirwon o bytatws, cabaits, moron, a maip Sweden, gogyfer a'r moch.
Dechreuir ar y gorchwyl o besgi moch tua mis Medi, pa un bynag ai at borc ai bacwn y bwriadwyd hwy. Os at borc, ni ddylid eu pesgi mor dewion. Yn y naill amgylchiad a'r llall, rhaid iddynt gael ymborth maethlon; yr unig ragocheliad ydyw peidio dechreu porthi yn rhy gyflym, onidê gellir eu syrffedu. Y defnyddiau goreu at borthi ydyw haidd a blawd pŷs; ac os gellir rhoddi llaeth iddynt ar yr un pryd, naill ai wedi ei ysgumio neu ei gorddi, bydd yn llawer haws eu porthi, a gwellheir ansawdd y cig hefyd. Y mae llawer iawn o bobl yn porthi eu moch ar bytatws; ond yn yr amgylchiad hwn nid yw y cig mor galed a rhagorol, ac y mae y brasder yn lled rydd a llipa.
Gall bwyd meddal wneyd y tro yn burion foch pan fyddont yn tyfu, ond nid dyna yr ymborth a roddir iddynt pan besgir hwy at eu lladd. Y mae y rhai a besgant foch at eu gwasanaeth eu hunain yn gyffredin yn rhoddi iddynt ddogn neu ddau o geirch yn feunyddiol am bedwar diwrnod ar ddeg cyn eu lladd, ac ni roddant iddynt ond llaeth wedi ei ysgumio neu ei gorddi i'w yfed; a'r diwrnod cyn ei ladd, ni ddylai y mochyn gael math yn y byd o ymborth.
Pan na byddo amgylchiadau rhyw rai yn hyfforddio iddynt ddylyn yr un o'r cynlluniau a nodwyd o borthi at ladd, gellir defnyddio pytatws wedi eu berwi, a'u cymysgu â dyrnaid neu ddau o flawd ceirch, yn eu lle.
Ond er yr hyn a nodwyd uchod, nis gellir gwadu nad ydyw y Gwyddelod yn magu porc rhagorol trwy borthi moch a phytatws, a hyny braidd yn gwbl. Nid ydyw mor frâs a'r porc a gynyrchir trwy borthi â phŷs a haidd, ond y mae, ar y cyfrif hwnw, yn well at ystumog ag sydd yn anghynefin âg ymborth cryf. Y mae maip Sweden, moron, ac ŷd wedi ei friwsioni, ynghydag ychydig flawd pŷs neu ffa, yn ymborth rhagorol at besgi moch, a gellir ei gael am ychydig yn fwy na haner y draul yn ol yr hen drefn—pytatws a blawd.
Terfynwn ein sylwadau ar borthi, gydag ail—adroddiad o ocheliadau pwysig awdwr arall ar y pwngc yma:—
"1 Gochelwch borthi y moch yn fudr.
2. Nac anghofiwch roddi dognau cymedrol o halen yn yr ymborth a roddwch iddynt—canfyddwch y bydd hyn les mawr.
3. Bwydwch hwy ar adegau rheolaidd.
4. Glanhewch y cafnau cyn rhoddi bwyd ynddynt.
5. Peidiwch a rhoddi gormod o fwyd ynddynt; na roddwch ond cymaint ag a fwytânt ar un pryd.
6. Rhoddwch iddynt amrywiaeth o ymborth. Bydd i amrywiaeth greu, neu o leiaf gynyddu chwant bwyd, ac yn mhellach y mae yn meithrin iechyd. Arweinier chwi berthynas i'r amrywiaeth gan liw y dom a fwriant; dylai hwn fod o dewedd canolig, ac o liw llwyd. Os bydd yn galed, cynydder swm y rhuddion a'r gwreiddiau noddlyd; os bydd yn rhy feddal, lleihäer neu atalier y gyfran an o ruddion, a gwnewch yr ymborth yn dewach: os gellwch, ychwanegwch gyfran o ŷd—peth wedi dyfetha, ac felly yn anghyfaddas at unrhyw bwrpas arall, a wna y tro yn burion.
7. Porthwch eich ystôrfoch ar wahan, yn ddosparthiadau, yn ol eu cyflyrau perthynasol; cedwch hychod torog ar eu penau eu hunain; a moch at facwn a rhai at borc ar eu penau eu hunain. Nid ydyw yn ddymunol cadw yr ystôrfoch yn rhy gigog, canys y mae porthiad uchel, pa mor ddyeithr bynag yr ymddengys hyny, yn cael ei ystyried yn rhwystr iddynt gyrhaedd maintioli a ffurf briodol. Y mae yn well porthi moch a fwriedir at facwn yn feddal, ac heb fod yn rhy helaeth, nes iddynt gyrhaedd eu llawn faint; yna gellwch eu dwyn i'r cyflwr goreu ag sydd yn ddichonadwy, a hyny mewn yspaid rhyfeddol o fyr. Trwy y drefn yma y codir y moch anferthol hyny a bwysant ddeuddeg cant yn fynych, neu o leiaf haner tunell.
8. Peidiwch ag esgeuluso cadw eich moch yn lân, sychion, a chynhesion. Y mae hyn o bwysigrwydd hanfodol, ac nid ydyw fymryn yn llai felly na'u porthi; canys bydd i ymborth gwael lwyddo yn well gyda'r pethau hyn, na'r ymborth goreu hebddynt.'
Ar ddiwedd y rhagocheliadau hyn y mae awdwr arall yn sylwi fel y canlyn:—"Tra y byddaf yn son am lanweithdra, gadewch i mi ail—adrodd am y lles a ddeillia oldiwrth olchi moch; bydd i hyn ad—dalu am eich trafferth lawer gwaith."
Y DULL O OLCHI MOCH.
Y prif atalfa ar ffordd moch i ddyfod yn eu blaenau ydyw gadael iddynt orwedd mewn gwlybaniaeth. Os bydd gwrych eich moch yn sefyll i fyny, ac yn edrych yn arw, y mae yn arwydd ar unwaith nad ydynt mewn cyflwr da. Felly cymerwch haner pegaid neu ychwaneg o ludw, berwch ef yn drwyth; yna gosodwch y moch a fyddont yn goddef felly ar faingc, a golchwch hwy â'r trwyth yma, gan eu crafu âg ysgrafell nes y byddo yr holl grêst wedi dyfod oddiar eu crwyn; yna golchwch hwy â dwfr glân, a lluchiwch ludw drostynt, a bydd i hyny ladd y llau, a pheri i'r moch ddyfod yn eu blaenau yn rhagorol, ac yn gwbl glir oddiwrth bryfaid.
¶
PA FODD I WYBOD PWYSAU MOCHYN WRTH EI FESUR.
Dygwydda weithiau mewn llawer man, na bydd cyfleustra i bwyso mochyn heb fyned ag ef efallai lawer o filldiroedd o ffordd; a gwyddis yn dda mai creadur "anhydyn anhydrin" ydyw y mochyn at ei arwain yn mhell, ac nid gan bawb y bydd cyfleustra i'w gario. Gogyfer â'r rhai hyny, ni a gynygiwn y cyfarwyddiadau canlynol tuag at gael gwybod ei bwysau yn hwylus—dim ond ei fesur yn y cwt. Trwy hyn gellir cael hyny allan, o fewn dim, ac arbedir llawer o drafferth.
Cymerwch linyn a dodwch ef am frest yr anifail, gan sefyll yn union o'r tu ol i'w balfais, a mesurwch ar ddwy droedfedd pa nifer o droedfeddi ydyw mewn amgylchedd; yna, gyda'r llinyn, mesurwch o asgwrn bôn y gynffon, a chyfeiriwch y llinyn ar hyd y cefn at y parth blaen o'r balfais; cymerwch y mesur fel o'r blaen ar ddwy droedfedd, a dyna yw ei hyd. Yna gweithiwch y ffugyrau yn y dull canlynol:—
Amgylchedd y mochyn, 2 droedfedd,
Ei hyd ar y cefn, 2 droedfedd,
yr hyn o'i luosogi gyda'u gilydd a wna bedair troedfedd ysgwâr. Lluosogwch hyny drachefn gydag 11, yr hyn ydyw y nifer o droedfeddi a ganiateir ar gyfer pob troedfedd ysgwâr mewn anifeiliaid yn mesur llai na thair troedfedd o amgylchedd, a gwna 440 bwysi, yr hyn yw pwysau y mochyn.
Drachefn tybiwch fod mochyn yn mesur 4 troedfedd a chwe' modfedd o amgylchedd, a thair troedfedd a 9 modfedd o hyd ar y cefn—y mae hyny wedi eu lluosogi â'u gilydd yn gwneyd 16 o droedfeddi ysgwâr; ac wedi Iluosogi hyny gyda 16, yr hyn yw y nifer o bwysi a ganiateir i bob anifeiliaid a fesurant lai na 5, a mwy na 3 troedfedd mewn amgylchedd, a wna 264 o bwysi, sef pwysau y mochyn.
MODRWYO MOCHYN.
Yr ydym wedi son o'r blaen am fodrwyo mochyn, ond ein dyben yn awr ydyw galw sylw at fodrwy o fath newydd a ddefnyddir yn awr i'r pwrpas hwnw, ac a elwir y "Jewel Pig Ring." Ceir allan mai hon ydyw y fodrwy fwyaf syml, esmwyth, a pharhaol a fu erioed yn nhrwyn mochyn. Gellir dywedyd mewn gwirionedd am y fódrwy hon, "Unwaith wedi ei fodrwyo, wedi ei fodrwyo am byth." Pan y mae unwaith wedi ei gosod yn iawn yn nhrwyn y mochyn, y mae yn gwbl amhosibl iddo durio na throi i fyny y ddaear, ac nis gellir dywedyd hyny am lawer iawn o fodrwyau a ddefnyddir yn gyffredin. Nid yw yn peri dim poen, ond yn unig pan fyddo yr anifail yn turio y ddaear. Byddai yn dda i berchenogion moch gadw nifer o'r modrwyau hyn wrth law yn wastad yn ei tai, yn barod at angen.
¶
NODIADAU CYFFREDINOL
AR
GADW MOCH.
Y MAE trwyn byr, clustiau bychain, coesau byrion, gwrych teneu, cynffon main, bob amser yn dynodi rhywogaeth dda o'r mochyn, ac y mae yn un a ddaw yn ei flaen ac a besga yn rhwydd, ond am foch fel arall y maent hwy yn anhawdd eu cael yn mlaen, ac ni phesgant ychwaith.
Dylai moch a gedwir yn eu cytiau gael ychydig lô neu cinders, yr hyn sydd yn angenrheidiol, er iddynt dreulio eu hymborth yn dda.
Bydd i fochyn a gedwir yn lanwaith o ran ei groen, ddyfod yn mlaen yn llawer gwell, pesgi yn gyflymach, a bwyta llai o ymborth na mochyn a boenir gan bryfaid, ac a fedd groen budr.
Y mae cynhesrwydd yn anhebgorol angenrheidiol er magu neu besgi moch, ac am y rheswm yma y mae yn haws ac yn rhatach eu pesgi yn yr haf nag yn y gauaf.
Dylai moch gael digonedd o ddwfr ffresh bob amser, a da fyddai i lwmp o rock salt fod bob amser o fewn cyrhaedd iddynt.
Gellir arbed llawer iawn wrth roddi ymborth wedi ei ferwi i foch, yn lle ymborth amrwd, megys pytatws, mangolds, cabbaits, &c. Y mae newid eu hymborth hefyd yn meddu effaith dda arnynt.
Y mae blawd buckweed, yn gymaint a bod iddo effeithiau sydd yn cynyrchu cwsg, yn rhagorol at besgi moch, am ei fod yn tueddu i beri iddynt gysgu. Yn wir, dylai mochyn pan yn cael ei besgi, fod naill ai yn bwyta neu yn cysgu yn wastadol.
Wrth besgi porkers, neu foch at facwn, y mae bob amser yn ddymunol gosod dau o honynt gyda'u gilydd; ni fydd y llafur ond yr un faint, ac y mae y moch yn ymborthi yn well gyda'u gilydd nag ar eu penau eu hunain. Peidiwch byth a gadael i weddill o'r bwyd aros yn y cafn. Gellir bwydo mochyn yn fynych, ond ni ddylai gael ond yr hyn a fwyty i fyny yn lân a chyfangwbl.
Peidiwch byth a gwerthu mochyn ar haner ei besgi. Y mae llawer iawn llai o gost i besgi mochyn ar yr ail ddeng ugain o'i bwysau nag ar y deng ugain cyntaf.
Wedi i hwch gael ei neillduo at ei phesgi, dylid gadael iddi gymeryd y baedd, am y ceir allan fod beichiogiaid yn meddu effeithiau daionus, trwy ei fod yn tueddu at beri cwsg, a magu brasder.
Ychydig a ddeallir ar y pwysigrwydd o gadw mochyn, a llai na hyny, efallai, a ymarferir ar hyny. Y mae esiamplau aneirif wedi profi, o bryd i bryd, fod moch y cedwir eu crwyn yn lân, trwy eu brwshio a'u golchi yn achlysurol, yn dyfod yn mlaen ac yn pesgi yn llawer cyflymach, ac ar un dair o bedair, ac weithiau ar un ran o dair o fwyd, na phan y cedwir hwy mewn cyflwr budr.
Y mae yn anhebgorol angenrheidiol ychwanegu halen at olchion a bwyd moch; nid yw yn bosibl i unrhyw anifail ddyfod yn ei flaen heb ryw gymaint, yn enwedig pan gauir hwy yn eu cytiau.
Y mae esiamplau lluosog wedi profi y bydd i fochyn besgi mewn agos i haner yr amser ar ymborth wedi ei ferwi, yn hytrach nag ar beth amrwd, heblaw bod llai o lawer o fwyd yn angenrheidiol er cynyrchu yr un pwysau mewn mochyn. Y mae amser yn arian wrth besgi moch, fel yn mhob peth arall.
Dylai perchyll gael eu cyweirio pan yn sugno, yn bythefnos oed; y draul am wneyd hyny ydyw haner coron, pa un bynag ai bach ai mawr fyddo y torllwyth.
Ystyrir fod moch (ac yn wir, pob anifeiliaid) yn difa yn mhob wythnos un ran o dair o'u pwysau mewn ymborth. Nid oes un anifail yn cynyrchu mor lleied o wâst a'r mochyn; tra y mae ŷch yn cynyrchu 42 y cant, nid yw mochyn tew yn cynyrchu ond o 6 i 10 y cant.
Y ffordd fwyaf parhaus i fodrwyo mochyn ydyw gwneyd twll trwy fadruddyn y trwyn, gan wahanu yr asgwrn oddiwrth arwyneb y trwyn. Dylid gwneyd hyn tra y mae y mochyn yn ieuangc, pryd nad achosa ond ychydig o boen.
Cyfrifir fod gwerth y moch yn Lloegr a Chymru yn fwy na haner can' miliwn o bunnau.
Bydd i hiliogaeth un hwch—a chaniatâu bod yr haner o honynt yn fenywiaid—mewn 10 mlynedd gynyddu hyd 29 o filiynau.
Dylai cafn bwydo mochyn gael ei lanhau bob dydd gyda dwfr glân. Y mae sylwadau manwl wedi profi fod cafn glân yn gwneyd gwahaniaeth o bump i ddeg swllt wrth besgi mochyn.
Y mae yn ofynol rhoddi modrwy yn nhrwyn hwch, er ei hatal rhag codi i fyny waelod ei chwt, neu y borfa ar hyd pa un y caniateir iddi redeg.
Os bydd yn bosibl, bydded i'ch cwt mochyn wynebu y dehau, am fod gwres cynhes yr haul o'r pwysigrwydd mwyaf i foch, hen ac ieuaingc.
Dylai hwch gael ei phesgi yn dair blwydd oed, wedi iddi ddiddyfnu ei phummed torllwyth. Dylai y torllwyth cyntaf gael ei fwrw yn ystod hydref ei blwyddyn gyntaf, a'r pummed yn hydref ei thrydedd flwyddyn. Wrth "hydref" y golygwn fisoedd Awst, Medi, a Hydref.
Nitre a sulphur ydynt y cyffri goreu i foch. Bydd i ddogn achlysurol o'r cyfryw (tri chwarter owns,) wedi ei gymysgu ag ymborth yr hwch, dueddu yn fawr i'w chadw mewn cyflwr iachus, ac yn glir oddiwrth bob afiechyd.
Bydd i hwch fwyta oddeutu 2 can'pwys o wreiddiau bob wythnos yn y gauaf, ac efallai 3 can'pwys o borfa yn yr haf. Deugain tunell o wreiddiau (mangolds) i'r acr o dir a gostiant oddeutu 5s. y dunell i'w tyfu (y mae hyn yn caniatâu £10 ar gyfer rhent a llafur.)
Nid yw yn ddyogel rhoddi symiau mawrion iawn o mangolds i hychod; ychydig cyn iddynt ddyfod a moch, dywedir eu bod yn newynu eu rhai bach.
Nis gall neb gadw hychod mor rad, na gwneyd cymaint o enill oddiwrthynt, a'r rhai a feddant berllan fechan fel lle iddynt bori yn yr haf, a chlwt o ardd at dyfu mangolds, &c., at eu defnyddio yn y gauaf, yn gystal a bod yn feddiannol ar fuwch, llaeth ysgum yr hon a fyddai yn dra buddiol a maethlawn i'r moch bach.
Pan fyddoch yn bwriadu pesgi hwch at facwn, y mae yn talu yn well bob amser gymeryd un torllwyth o foch o honi yn gyntaf, ac wedi iddynt gael eu diddyfnu, yna pesgwch hi at facwn.
Y mae cig ceffyl wedi ei ferwi, neu yn wir unrhyw gig, yn dra gwerthfawr a maethlawn fel ymborth i godi moch ieuangc, ac y mae i'w gael braidd yn mhobman yn ddigon rhad. Gallech brynu hen geffyl neu fuwch, a fyddo wedi cyfarfod â damwain, neu farw yn ddisymwth, am rywbeth fel pymtheg swllt; felly dyma i chwi o 600 i 700 o bwysi o gig, o'r math mwyaf maethlawn, am oddeutu dimai y pwys. Dylid berwi y cig mewn crochan mawr, nes y byddo yn soup tew, a rhoddi bwcedaid neu ddwy o hono i bob torllwyth o foch, wedi ei gymysgu â bran, neu wreiddiau wedi eu berwi, fel ag i'w dewychu; ac ar y cyfryw ymborth bydd i'r moch besgi yn gyflym, tyfu, a dyfod yn eu blaenau.
Y mae blawd pŷs a ffa hefyd yn ymborth tra rhagorol a maethlawn i foch bach, a'i gymysgu gydag unrhyw olchion salw a ellwch gael, pan na bydd genych gig neu laeth ysgum. Costied a gostio, y mae o'r pwys mwyaf fod i foch bach, pan ddechreuant fwyta o'r cafn, gael ymborth a fyddo yn faethlawn iddynt, fel y gellir eu gwerthu pan yn saith neu wyth wythnos oed, yn y man pellaf. Cofiwch bob amser fod amser yn arian wrth fagu moch, fel yn mhobpeth arall.
Nid yw llaeth ysgum, neu faidd, yn anhebgorol angenrheidiol at fagu moch bach; ond os bydd i'w gael, gellir ei ddefnyddio yn fanteisiol er eu dwyn yn eu blaenau.
¶
TRINIAETH FISOL
HWCH FAGU.
RHAGFYR.
Prynwch hwch ieuangc ddeufis oed, neu un o saith i wyth mis oed, naill ai yn barod i gymeryd y baedd neu newydd ei gymeryd.
RHAGFYR AC IONAWR,
Bwydwch hi â bwcedaid o olchion o'r tŷ (crwyn pytatws, gweddillion ar ol golchi plates, a'r cyffelyb,) ac hefyd teflwch i'w chafn yn feunyddiol gymaint o wreiddiau ag a'i digona, megys swedes, maip, moron, mangolds, neu grwyn pytatws.
CHWEFROR A MAWRTH.
Parhewch i roddi iddi y golchion o'r tŷ a'r gwreiddiau, neu gadewch i'r hwch fyned i'r berllan i bori glaswellt; os na bydd genych berllan, rhoddwch iddi ysbwrial o'r ardd, ffacbys, neu ryw lysiau a fyddwch wedi eu tyfu ar ei chyfer.
EBRILL.
Bydd iddi ddyfod â pherchyll yn gynar yn y mis hwn; cadwch hi a'i moch bach yn y cwt, a bwydwch hi deirgwaith yn y dydd â golchion o'r tŷ, gyda blawd haidd neu flawd ceirch wedi ei gymysgu trwyddo.
MAI.
Parhewch i roddi iddi yr un ymborth yn ystod y mis hwn, ond gadewch i'r hwch redeg allan i'r buarth neu y berllan am awr neu ddwy bob dydd, ac yn ei habsenoldeb bwydwch y moch bach yn y cwt gyda blawd haidd neu flawd ceirch wedi ei gymysgu â dwfr, ac ychydig laeth ysgum, os bydd genych beth.
MEHEFIN.
Yn gynar yn y mis hwn bydd eich moch bach yn ddeufis oed; gwerthwch hwy ar unwaith, ac yn mhen ychydig ddyddiau, wedi i'r llaeth ei gadael, hi a gymer y baedd drachefn.
GORPHENAF, AWST, A MEDI.
Porthwch hi fel yn mis Mawrth, ar olchion a llysiau, a gadewch iddi fyned allan i'r buarth neu y berllan.
HYDREF.
Bydd iddi gynyrchu ei hail dorllwyth; bwydwch hi yr un modd ag y cyfarwyddwyd gyda golwg ar y torllwyth cyntaf.
TAFLEN O'R RHYWOGAETHAU PRYDEINIG O FOCH
A'U LLIWIAU GWAHANIAETHOL.
A ganlyn sydd daflen o'r moch puraf a mwyaf diwygiedig yn Mhrydain Fawr, fel y dangosir hwy yn yr Arddangosfeydd, neu yr Exhibitions, trwy y wlad:—
Yorkshire | ..... | Gwyn |
Berkshire | ..... | Du, gyda thraed gwynion, a chlwt gwyn ar y wyneb (tudal. 14.) |
Essex (diwygiedig) | ..... | Du (tudal. 15.) |
Lincolnshire | ..... | Gwyn |
Cumberland | ..... | Gwyn, weithiau yn ysmotiog |
Lancashire | ..... | Gwyn |
Berkshire | ..... | Du a gwyn |
Essex | ..... | Du |
Moch Iarll Radnor | ..... | Gwyn |
Yorkshire | ..... | Gwyn |
Suffolk | ..... | Du a gwyn |
Hampshire | ..... | Du |
Dorset | ..... | Du |
Sussex | ..... | Du a gwyn |
Tamworth | ..... | Melyn, hefyd coch a gwyn |
¶
AM LADD MOCH, A CHIWRIO A HALLTU EU CIG
Y mae rhai wedi meddwl nad yw mochyn yn dyoddef dim poen wrth gael ei ladd; ond camgymeriad dybryd yw hyny. Y mae y mochyn druan yn teimlo, ac yn teimlo yn llym hefyd. Buasai yn dda iddo lawer gwaith pe na buasai yn teimlo; pe felly, y fath loesau a arbedasid iddo. Cyn ei farw yn gyffredin, ar ol gollwng ei waed, y mae yn cael ei fwrw i lestriaid o ddwfr berwedig, er mwyn tynu ymaith ei wrych; ac yn mhellach, bydd yn cael ei dynu allan o'r dwfr berwedig, cyn i'w fywyd ymado, ac yn cael tynu allan ei ymysgaroedd yn fyw! Dengys hyn fod yn angenrheidiol ymarfer mwy o dynerwch wrth ladd mochyn, nag a wneir yn gyffredin.
Un dull tra chyffredin yn y wlad o ladd mochyn ydyw rhwymo rhaff am ei ên uchaf, a'i thaflu ar drawst neu nenbren; y mae y rhaff hon yn cael ei thynhau nes peri i'r anifail sefyll ar flaenau ei fysedd ol, a'i drwyn i fyny yn yr awyr. Yna y mae y cigydd yn perlinio o'i flaen, a chan gymeryd cyllell finiog, yn gyntaf efe a eillia ymaith ychydig o'r gwrych o flaen ei wddf; yna trywana ef, ac wedi hyny tyn allan ei gyllell. Daw llyn o waed o hono mewn canlyniad i hyny, yr hwn a ddelir mewn llestri priodol, er mwyn gwneyd pwdin gwaed. Llacêir y rhaff raddau; y mae y mochyn druan yn pendroni, ei lygaid yn glasu, peidia ei ysgrechiadau—syrthia; a byddai farw yn fuan. Ond Och! yn gyffredin y mae y cigydd yn cael tâl am ei waith fel job; y mae arno frys; a chyn bod yr anadl wedi ymadaw o gorph y creadur truan, ïe, cyn iddo ddarfod gruddfan, bwrir ef i'r twb ysgaldian; yna tynir ef allan mewn eiliad, gosodir ef ar fwrdd, a thynir ymaith ei wrych trwy ei grafu â chyllell. Yna tynir allan ei berfedd, a bydd yn dda os bydd y creadur truenus wedi gorphen ei yrfa cyn i hyn gymeryd lle.
Mewn hen amseroedd, ymddengys na byddai ein cigyddion mor frysiog, neu yr oeddynt yn fwy trugarog. Mewn hen olion o'r amseroedd gynt, gellir gweled fod penau moch wedi cael eu taro ar asgwrn y talcen yn yr un modd ag y ceir fod penau ychain ac anifeiliaid ereill yn yr un cyfnod. Mor dda fuasai genym pe buasai y drefn hon yn cael ei dylyn gan ein cigyddion diweddar! Pe buasai y mochyn wedi cael ei amddifadu yn gyntaf o'i deimladrwydd trwy ergyd drom ar y talcen, a thrwy hyny wneyd yr ymenydd yn ddideimlad, buasai yn gwbl yn nwylaw y cigydd, a gallasai hwnw wneyd âg ef fel y mynai, a hyny gyda mwy o dynerwch, a chyda mwy o gyflymdra a llai o drafferth.
Ond y mae diwygiad i raddau helaeth wedi cymeryd lle yn ddiweddar yn hyn, yn enwedig yn y trefydd, lle mae yr orchwyliaeth o roddi ergyd drom i'r mochyn ar ei dalcen, cyn tori ei wddf, yn enill tir yn gyflym, a deallwn nad oes un cigydd parchus yn esgeuluso gwneyd hyny. Mewn ardaloedd gwledig, pa fodd bynag, y mae yr hen arferion creulon yn ffynu yn barhaus, a'r dull barbaraidd o daflu y mochyn i ddwfr berwedig, yn cael dal ato o hyd, a hyny yn fwriadol ac er ateb dyben; oblegyd clywais gigydd parchus o'r wlad yn dywedyd yn ddiweddar, "Nid yw mochyn byth yn ysgaldian cystal a phan y mae bywyd ynddo." Camgymeriad mawr ydyw hyn; nid oes eisiau dim ond peidio gadael i'r anifail oeri a myned yn stiff, neu anystwyth.
Pwngc tra phwysig yn nghynyrchiad bacwn da ydyw, fod i'r mochyn gael ei ladd mor gyflym ag y byddo modd, a chyda mor lleied o gyffro ag a fyddo yn bosibl. Dylid ei newynu, heb ganiatâu un math o ymborth iddo am o leiaf bedair awr ar hugain cyn ei ladd; a rhaid cymeryd y gofal mwyaf i'w drywanu yn y wythen fawr, fel y byddo iddo waedu mor gyflym, ac mor rwydd hefyd, ag y byddo yn bosibl.
Y mae Mr. Richard Pick, o Sowerby, yn ddiweddar wedi mabwysiadu y cynllun o saethu moch gyda bwled yn flaenorol iddynt gael eu trywanu a'u gwaedu, yr hyn sydd yn rhoddi terfyn ar eu dyoddefiadau ar unwaith; ond dylid bod yn dra gofalus nad elo y bwled i ysgwyddau yr anifail.
Y dull mwyaf cyffredin, a thyner hefyd, o ladd mochyn sydd fel hyn:—Darparir bwrdd, yn lled—ogwyddo ychydig mewn un cyfeiriad; rhoddir dyrnod i'r mochyn ar y talcen gyda gordd bren, yr hyn a'i gwna yn gwbl ddideimlad; yna teflir ef ar y bwrdd, trywanir ei ddwyfron â chyllell, neu yn hytrach yn y man hwnw lle y mae y ddwyfron yn cyfarfod y gwddf. Llifa y gwaed yn rhwydd, a derbynir ef i lestri wedi eu parotôi at y pwrpas hwnw. Yn flaenorol i hyn dylai fod twb, neu ryw lestr mawr arall, wedi ei ddarparu, yr hwn yn awr a lenwir â dwfr berwedig. Rhaid i'r dwfr fod yn ferwedig, ond rhaid ei dymheru, ar ol ei dywallt i'r twb, gydag un ran o bedair o ddwfr oer. Bwrir y mochyn i hwn, a chrafir ymaith ei wrych gyda min cyllell. Y mae y gwrych y dyfod i ffwrdd yn rhwyddach os caiff y mochyn ei ysgaldian cyn iddo stiffio a chwbl oeri, ac oddiar hyn y mae rhai cigyddion wedi coleddu y syniad cyfeiliornus mai gwell ydyw ei ysgaldian tra y mae bywyd ynddo. Wedi hyny crogir yr anifail i fyny, agorir ef, a thynir allan ei berfedd. Torir ymaith y pen, y traed, &c., a rhenir corph y mochyn, gan ei dori i fyny ar bob ochr i asgwrn y cefn. Bydd cyllell gref a gordd bren yn angenrheidiol at y gorchwyl yma, y rhai a atebant y dyben yn well na llif. Dylai y tu fewn i'r mochyn gael ei olchi yn lân gyda dwfr a sponge, er symud ymaith yr oll o'r gwaed.
CIWRIO A HALLTU Y CIG.
Y mae bacwn yn cael ei giwrio mewn lluaws o wahanol ffyrdd. At wasanaeth teulu:—gosodir ef yn gyffredin ar fwrdd, ac yna rhwbir i mewn iddo halen, ac ychydig nitre wedi ei ychwanegu, yn gyntaf ar un ochr, yna ar yr ochr arall, naill ai gyda llaw noeth, neu â math o faneg a wneir yn bwrpasol at halltu. Yna dodir ychydig wellt ar lawr un o'r tai allan, rhoddir y nerob arno, gyda'r croen at i lawr—yna gwellt, yna nerob arall, ac felly yn mlaen. Ar y cwbl gosoder bwrdd neu blangc, a phwysau trymion neu geryg mawrion ar dop yr oll. Yn mhen tair wythnos neu fis, bydd y cig wedi halltu digon, a achroger ef i fyny ar fachau yn nhylythau y gegin. Y mae yr arferiad gyffredin o losgi coed a mawn mewn ceginau lle y mae nerobau o gig moch wedi eu hongian fel hyn, yn rhoddi i'r bacwn ryw felusder nad ellir byth ei gael mewn peth a brynir am arian.
Dull arall sydd fel y canlyn:—Parotowch bicl, trwy ferwi halen cyffredin a nitre mewn dwfr; cymysgwch, at un mochyn o faintioli canolig, un pwys o siwgr coch brâs gyda haner pwys o nitre, a thrwy gymysgu yr oll o'r siwgr a'r nitre ag y bydd arnoch ei eisiau ar y dechreu, bydd i chwi atal iddo gael ei ladrata gan weision a morwynion, a phlant; rhwbiwch hwn i mewn iddo yn dda gyda'r fan eg halltu; yna rhowch y cig yn y picl, a gadewch iddo orwedd ynddo am ddeuddydd; ar ol hyny cymerwch ef allan o'r picl, a rhwbiwch ef gyda dim ond halen; yna rhoddwch ef yn ei ol yn y picl.
At giwrio cig y mochyn yn dyner:—Ffurfiwch bicl melus trwy ferwi triagl gyda halen a dwfr; rhwbiwch y cig gyda siwgr a nitre; ychwanegwch ychydig o bicl cryf at y cig; rhoddwch y cig yn hwn, a gadewch ef i orwedd ynddo am dair wythnos. Os bydd ychwaneg o le yn y cask, llenwch ef i fyny â thriagl. Bydd i wyth pwys o halen, un pwys o nitre, a chwe' pheint o driagl, fod yn rhywbeth tua digon at bob can'pwys o gig, a chymer oddeutu pum' galwyn o ddwfr. Yn mhen oddeutu tair wythnos y mae mwy neu lai o amser yn angenrheidiol yn ol maintioli y mochyn—tynwch y cig allan o'r picl, a chrogwch ef yn y tŷ sychu. Tra yn y tŷ sychu, dylai y nerobau gael eu hongian a'r gwddf i lawr. Gellwch dori allan yr ham, a thrimio y nerob, yn ol eich chwaeth elch hun. Y mae gan braidd bob sir ei dull ei hun o wneuthnr hyn. Yna, os bydd genych y moddion, symudwch eich hams a'ch bacwn i'r tŷ mygu. Ni ddylid gadael iddynt gyffwrdd y naill yn y llall. Ond cymeryd gofal am hyn, gellwch eu hongian mor agos at eu gilydd ag y dymunoch. Y mae tai mygu o bob maintioli, ond y mae y rhai lleiaf o honynt yn ateb y dyben yn gystal a'r rhai mwyaf. Cyn hongian y cig yn y tŷ mygu, dylai gael ei rwbio drosto yn dda â bran. Gwneir y tân o flawd llif, yr hwn a losga yn araf, gan roddi allan fwy o fwg nag o fflamau. Yn yr orchwyliaeth o fygu, bydd i'r cig golli rhwng pymtheg ac ugain pwys y cant—y mae hon yn ffaith ag y dylid yn wastad ei chadw mewn cof.
Dyry Kinnaird B. Edwards y cyfarwyddyd a ganlyn o berthynas i biclo neu giwrio hams;
"Cymerwch o Bay salt, un pwys,
Saltpetre, tair owns,
Halen cyffredin, haner pwys,
Triagl, dau bwys.
Y mae hyn yn ddigon at ddwy ham o 14 i 16 pwys bob un; dylent fod yn y picl am dair wythnos neu fis. Dylid troi yr hams yn rheolaidd yn y picl, a bwrw y gwlych drostynt.
Wrth giwrio hams neu facwn yn gyffredin, y mae yn ddymunol defnyddio yr un swm o soda cyffredin ag o saltpetre, owns a haner at bob 14 pwys o ham neu facwn, gan ddefnyddio yr un swm o halen ag a nodir uchod. Y mae y soda yn atal y caledwch hwnw a geir mor aml yn nghig coch y bacwn, ac yn ei gadw yn iraidd drwyddo. Y mae y cyfarwyddyd yma wedi cael ei ddefnyddio gan rai o brif housekeepers y deyrnas."
Weithiau lleddir y moch cyn eu bod wedi cyrhaedd llawn faintiolaeth, a thynir ymaith eu gwrych trwy eu deifio; dywedir fod bacwn a hams y rhai hyn yn meddu blas ac arogl anarferol o dyner a moethus.
Y blawd llif goreu at fygu hams ydyw yr hwn a geir oddiwrth dderw, a dylai fod yn drwyadl sych. Y mae y blawd llif a geir oddiwrth ffawydd cyffredin yn rhoddi blâs annymunol ar y cig, rywbeth heb fod yn annhebyg i benwaig cochion.
Y mae bacwn Wiltshire o ansawdd tra danteithiol, ond y mae yr achos o hyny yn amlwg, ac nid ydyw i'w briodoli i unrhyw orchwyliaeth o giwrio. Parotôir y bacwn hwn oddiwrth foch wedi eu porthi ar y llaethdy. Dyma y gwir ddirgelwch. Gellir gwneyd yr un sylw am facwn Cumberland hefyd.
Mewn rhai siroedd, blingir y mochyn cyn ei giwrio. Y mae rhyw ychydig mwy o enill i'w gael, wrth gŵrs, oddiwrth yr orchwyliaeth hon; ond y mae y bacwn yn israddol o ran gwerth, gan ei fod yn dueddol i ddyfod yn rusty, yn gystal ag i leihau yn ddirfawr wrth ei ferwi. Defnyddir y crwyn i wneyd cyfrwyau.
Dylai hams a nerobau gael eu hongian bob amser mewn lle sych. Yn wir, byddai yn dda ciwrio yr hams mewn canvas neu lian, megys ag y gwneir gyda'r Westphalian hams.
Anhawdd iawn ydyw cadw bacwn yn nhymor yr haf, neu mewn gwledydd cynhes; ond y mae peiriant wedi ei ddyfeisio yn ddiweddar, am ba un y mae breinteb (patent) wedi ei chael, yr hon a wna gadwraeth cig, o dan yr amgylchiadau mwyaf anffafriol, yn berffaith rwydd. Ond ni ddylai y peiriant yma gael ei ddefnyddio oddigerth pan fyddo angenrheidrwydd yn galw am ei weithrediad, a byth o ddewisiad, pan y gellir mabwysiadu y gorchwylaethau cyffredin.
Y mae medru tynu y gormodedd o halen o'r cig, cyn ei ddefnyddio, yn beth ag sydd wedi cael ei fawr ddymuno o bryd i bryd. Y mae ei fwydo mewn dwfr, at ba un yr ychwanegwyd carbonate of soda, wedi ei gael yn dra defnyddiol; felly hefyd y mae ychwanegiad o'r un sylwedd, neu o galch, at y dwfr yn mha un y byddo wedi ei ferwi, neu newid y dwfr wedi i'r cig gael oddeutu haner ei ferwi. Y mae morwyr yn cael allan fod golchi y cig mewn dwfr hallt yn dra effeithiol; ond gellir cyrhaedd yr amcan yn well o lawer trwy yr orchwyliaeth fferyllaidd syml a ganlyn.
Dodwch y cig mewn dwfr cynhes, ac wedi iddo fod ynddo am rai oriau, ychwanegwch ato gyfran fechan o sulphuric acid. Yn mhen tair neu bedair awr, tynwch ef allan, a golchwch ef ddwywaith neu dair mewn dwfr; at y dwfr olaf ychwanegwch gyfran fechan o carbonate of soda. Tynwch y cig allan o'r dwfr hwn, golchwch ef drachefn, a berwch ef at giniaw. Canfyddwch fod yr holl halen braidd wedi ei dynu ymaith yn llwyr, os nad yn gwbl felly; ond na fydded i chwi ryfeddu os bydd lliw y cig wedi tywyllu i raddau; nid yw y gwaethygiad yn cyrhaedd dim yn mhellach na hyny; y mae blâs y cig yn parhau yr un a phan yr halltwyd ef gyntaf, ac y mae mor iachusol a chig ffresh. Dichon fod yn bosibl gwneyd yr orchwyliaeth syml yma yn wasanaethgar mewn mordeithiau hirion; oblegyd ceir fod hir arfer cig wedi ei halltu, heb ddigonedd o lysiau i'w ganlyn, yn cynyrchu llawer o afiechydon.
Cynllun llawer mwy syml ydyw mwydo y bacwn dros nos mewn dwfr oer. Mor gryf ydyw tueddiad halen at ddwfr, fel y mae mwydo y cig mewn dwfr am bedair awr ar hugain, neu hyd yn nod am ddeunaw awr, yn gyffredin yn symud ymaith unrhyw ormododd o flâs halen. Y mae yn ymyryd llai â blâs y cig nag unrhyw gymysgiadau fferyllaidd pa bynag, ac ar y cyfrif yma, yn gystal â'r dull hawdd i'w ddwyn yn mlaen, y mae yn tra rhagori ar bob cynllun arall.
Y mae Mr. J. Hawkins, o Farchnad Portobello, Dublin, yn gwneyd y sylwadau canlynol ar y pwngc o giwrio cig moch, ac yn gymaint a'i fod yn giwriwr o ran ei alwedigaeth, y mae cryn bwys yn yr hyn a ddywed.
Ar ol myned trwy fanylion y weithred o ladd y mochyn —yr hon nid yw yn annhebyg i'r olat, a'r fwyaf trugarog, a nodwyd genym ni (tudal. 41)—y mae yn myned yn mlaen fel y canlyn ar y pwngc o dori i fyny y mochyn a'i halltu:—
"Gosodir y mochyn ar fwrdd cry neu faingc gadarn; yna torir ymaith ei ben yn glòs i'w glustiau; wedi hyny agorir y mochyn i lawr ar hyd y cefn. Defnyddir math o fwyall neu lif at wneyd hyny, a thynir allan yr asgwrn cefn ac esgyrn bonau y cluniau. Yna torir ymaith y traed ol, fel ag i adael coes i'r ham. Wedi hyny torir y coesau blaen wrth gymal y goes, chrafir y cig i fyny oddiar yr asgwrn, ac oddiar asgwrn y balfais, yr hwn a dynir allan yn gwbl noeth o dan yr ochr. Yna rheder y llif ar hyd yr asenau, fe. ag i'w cracio; ar ol hyny gorweddant yn gwbl fflat. Yna rhenir y mechyn yn wastad i fyny y cefn, a bydd yr ochrau yn barod at eu halltu; yr hams o hyd yn aros yn nglŷn â hwy. Dyma y dull o dori i fyny y mochyn a ymarferir yn swydd Wicklow yn yr Iwerddon.
"Pan y mae yr ochrau yn barod at eu halltu, rhwbier hwy yn dda ar du y croen, a llanwer i fyny y twil a wnaed trwy dynu allan asgwrn y balfais gyda halen. Yna gosoder yr ochrau, pob un ar ei phen ei hun, ar lawr wedi ei fflagio, ac ysgydwer halen drostynt Yn mhen un diwrnod, neu ddau ddiwrned os bydd y tywydd yn oer, rhaid eu halltu drachefn yn yr un modd; ond yn awr gellir rhoddi dwy ochr gyda'u gilydd, a saltpetre wedi ei wneyd yn llwch wedi ei luchio dros bob ochr, yn y cyfartaledd o ddwy owns at bob ochr, os bydd o faintioli arferol bacwn, Yn mhen tridiau neu bedwar rhaid i'r ochrau gael eu newid drachefn, a rhaid rhwbio coesau yr hams, cynhyrfu yr hen halen arnynt, a lluchio ychydig halen ffresh drostynt, a gellir yn awr csod pump neu chwech o ochrau y naill uwchlaw y llall. Gellir gadael yr ochrau fel hyn am wythnos, pan y gellir eu pentyru y naill uwchlaw y llall, hyd ddeg neu ugain o ochrau, os byddwch wedi lladd cynifer â hyny o foch. Gadewch hwy felly am fwy na thair wythnos, nes y byddont wedi dyfod yn galed. Yna gellir eu hystyried fel wedi eu perffeithio, a chadwant am o chwech i wyth mis, neu cyhyd ag y byddoch yn dymuno.
"Pan fyddo arnoch eu heisiau at eu defnyddio, neu at y farchnad, cyfodwch yr ochrau o'r halen, a bydded iddynt gael eu hysgubo a'u glanhau yn dda; tynwch ymaith yr ham, a chrogwch hi i fyny, a sychwch hi â thân mawn. Os bydd arnoch eisiau lliw brown, lluchiwch ychydig o flawd llif pren caled dros y mawn. Os crogir hwy i fyny mewn cegin lle y mae mawn yn cael ei losgi, a gadael iddynt aros yno, ond heb fod yn rhy agos i'r tân, cynyrchir yr un effeithiau yn union, ac os bydd y bacwn wedi ei rwbio yn dda â halen, bydd yn gig rhagorol.
Yn Belfast a Limerick. y mae y cynllun o dori y cig i fyny yn gwahaniaethu peth oddiwrth y dull yn Wicklow; y mae esgyrn y balfais yn cael eu gadael i mewn, ac y mae yr hams yn cael eu tori ymaith pan y mae y mochyn newydd ei ladd, ac yn cael eu ciwrio ar wahan, yr hyn a bair nad yw yr hams yn myned yn rhy heilltion—bai ag y cwynir o'i herwydd weithiau gyda golwg ar hams Wicklow.
Y mae y dull Seisonig o dori i fyny a chiwrio y mochyn yn lled debyg i'r dull a ymarferir yn Belfast a Limerick, gyda hyn wahaniaeth—ac eithrio Hampshire, a rhyw un sir arall―nid ydynt byth yn mygu eu bacwn. Siroedd Cumberland, York, a Hampshire ydynt y prif rai yn Lloegr am giwrio bacwn; ae y mae bacwn Hampshire yn cael ei ystyried ar y cyfan y goreu yn yr holl deyrnas."
Y mae yr orchwyliaeth o giurio bacwn at wasanaeth y llynges dipyn yn wahanol oddiwrth y dull cyffredin halltu. Y mae tipyn mwy o fedrusrwydd yn cael ei ymarfer er tori y mochyn i fyny yn ddarnau mor agos i'r un maintioli ag y byddo yn bosibl. Doder dwfr, yn mha un y byddo halen a saltpetre wedi eu toddi. yn y twb ciwrio, a gadewch iddo sefyll ynddo am o dair i bedair wythnos. Yna darparer bari!, a gorchuddier ei waelod â haen a wair a halen, a llenwch ef i fyny gyda haenau « bore a halen, bob yn ail, hyd at y top, pryd y gorchuddir ef, ac y cauir i fyny y baril yn y fath fodd fel ag i gau allan yr awyr hyd ag y byddo yn bosibl. Wedi hyny torer twl yn mhen y baril, a thywallter y picl i mewn, nes y bydd y cask wedi ei lanw i fyny, yna rhoddir plug neu ystopell yn y twll, a bydd y cig yn fuan yn barod at ei ddefnyddio. Y mae porc hallt, fel y gelwir ef, yn gyffredin yn ymborth llawer mwy defnyddiol ac iachus nag un math arall o'r cigoedd wedi eu preserfio, neu y beef hallt a ddefnyddir yn y llynges, a phob math arall o longau o ran hyny.
Y prif niweidiau ag y mae bacwn, ar ol cael ei giwrio, yn ddarostyngedig iddynt, ydyw y tueddiad i ddyfod yn rusty, neu o flâs drwg a sychlyd; bryd arall, y mae yn cael ei orchuddio âg wyau rhyw wybed bychain a elwir yn gyffredin yn jumpers. Y mae y peth cyntaf yn dygwydd yn fynych os bydd i'r cig gael ei sychu yn rhy agos at y tân, neu gael ei amlygu yn ormodol a diangenrhaid i effeithiau yr awyr Wrth sychu y cig, dylai fod mor agos i'r tân fel ag i deimlo ei ddylanwad-ac mor bell oddiwrtho fel ag i atal iddo ffrio, a dyfod i feddu ar flas drwg, nes derbyn yr enw cyffredin, "bacwn rusty."
Y mae rhai yn cynghori gwyngalchu y bacwn gyda dwfr calch ar ol i'r cig sychu, ac y mae hyn yn ddiau yn rhagflaeniad sicr a phenderfynol; ond gellir atal yr aflwydd yn llawn cystal trwy giwrio y cig â bran plaen, neu unrhyw sylwedd iachus arall a geidw yr awyr oddiwrtho.
Nid yw yn angenrheidiol dyweyd llawer am y jumpers, heblaw crybwyll, pe byddai i'r bacwn gael ei orchuddio gyda sach, nen ryw ddefnydd arall a fyddo wedi ei wau yn glòs, ni bydd y gwybed a ddodwyant yr wyau yn alluog i fyned i mewn at y cig, ac o ganlyniad dodent yr wyau yn y sach. Y mae bacwn a fyddo yn noeth, mewn sefyllfaoedd darostyngedig i gael effeithio arno a'i wlychu, trwy gyfnewidiadau yn lleithder yr awyr, braidd yn sicr gael ei orchuddio âg wyau y jumpers. Ond yn ffodus, nid ydynt o ryw bwys mawr; oblegyd y mae bacwn, lle y byddont yn bodoli, yn gyffredin o'r blas goreu a mwyaf danteithiol.
Wrth derfynu, goddefer i ni ddywedyd, fod llawer llai wedi cael ei siarad a'i ysgrifenu am y mochyn nag y mae yn ei deilyngu. Y mae yn gyrhaeddadwy i'r rhai na feddant y manteision i gadw unrhyw anifail arall. Gall unrhyw ddyn, er heb feddu troedfedd o dir, mewn ychydig amser gynyrchu y rhywogaeth oreu o foch, a magu a chiwrio ei facwn ei hun. Mor belled a hyny y mae yn gwbl annibynol ar ereill am un o brif ddanteithion y bwrdd.
AM
AFIECHYDON MOCH,
A'R MODDION I'W MEDDYGINIAETHU.
Y mae mochyn, yn ei gyflwr naturiol, yn anifail iachus, a phan y byddo wedi ei ddofi, nid yw yn hawdd iawn ei niweidio, os caiff ryw lun o driniaeth a chwareu teg. Pa fodd bynag, trwy ei fod yn cael ei lyfetheirio a'i gaethiwo; yn gorfod ymdrybaeddu mewn baw; yn cael ar un adeg ei syrffedu, bryd arall ei newynu; heddyw yn cael hen fwyd wedi suro, yfory yn cael ymborth wedi ei ysgaldio—ni ddylem ryfeddu os bydd yr anifail yn ddarostyngedig i ymosodiadau afiechydon peryglus a marwol ar adegau. Y prif afiechydon ag y mae moch yn ddarostyngedig iddynt, oherwydd cael eu camdrin fel hyn, ydynt y rhai' canlynol. {{c|AM Y DWYMYN (FEVER) MEWN MOCH. Y mae moch yn hynod o ddarostyngedig i fevers, ac arddangosant hyny trwy hongian eu penau, a'u troi ar un ochr; y llygaid yn gochion, sychder a gwres mawr yn y ffroenau, y gwefusau, a'r croen yn gyffredinol; tueddiad i redeg yn sydyn, a sefyll yn sydyn hefyd, ac y mae hyny yn gyffredin yn cael ei ddylyn gyda math o benysgafnder, yr hyn a bâr iddynt syrthio i lawr, a marw, na ragflaenir hyny mewn pryd. Pan y deuwch i wybod fod yr afiechyd yma yn eu blino, dylech sylwi yn fanwl at ba ochr y byddant yn troi, a'u gwaedu yn y glust, neu yn y gwddf, ar yr ochr wrthgyferbyniol. Y mae rhai yn eu gwaedu o dan y gynffon, oddeutu dwy fodfedd o dan y gloren. Y mae yn dra sicr, fod y pensyfrdandod, neu y benddaredd, neu fel y geilw y Saeson ef, y staggers, mewn mochyn, yn tarddu oddiar ormodedd o waed yn ei gyfansoddiad, a thrwy eu gwaedu mewn pryd bydd iddynt wella yn fuan.
Wrth waedu moch yn agos i'r gynffon, gellwch sylwi ar wythïen fawr yn codi yn uwch na'r lleill. Byddai yr hen ffermwyr yn arfer curo hon gyda ffon fechan, i'r dyben a beri iddi godi neu chwyddo, ac yna ei hagor ar ei hyd gyda fflaim, neu gyllell lem a main; ac wedi tynu allan y swm digonol o waed, hyny yw, oddeutu pymtheng owns, o fochyn a fyddo yn pwyso ugain ugeinpwys, neu ragor, rhwymwch i fyny yr archoll gydag ysbrigyn wedi ei dynu a risg mewnol pren gwaglwyf (lime tree,) neu ynte risg mewnol pren helyg neu lwyfan. Ar ol eu gwaedu, cadwch hwy i mewn am ddiwrnod neu ddau, gan roddi iddynt flawd haidd i'w fwyta, wedi ei gymysgu a dwfr cynhes, heb adael iddynt yfed dim ond sydd yn gynhes, dwfr yn benaí, heb unrhyw gymysgedd. Y mae rhai meithrinwyr moch, ag ydynt o duedd gywrain, yn gwneyd math o bâst o'r blawd haidd, ac yn rhoddi ynddo yr feunyddiol oddeutu haner owns o risg derw wedi ei falu yn fân.
AM DDOLUR Y GWDDF (QUINSEY.)
Y mae hwn yn afiechyd ag y mae moch yn dra darostyngedig iddo, a bydd iddo rwystro iddynt besgi; dygwydda yn gyffredin pan y maent ar haner pesgi. Felly wedi iddynt gael eu cau i fyny am bum' wythnos neu chwech, er eu bod wedi bwyta yn agos i ddeg bwshel o bŷs, y mae yr afiechyd yma, mewn tridiau neu bedwar, yn eu gwneyd mor deneu ag yr oeddynt cyn dechreu eu pesgi o gwbl. Math o chwydd yn y gwddf ydyw yr anhwyldeb hwn, a gellir ei wella trwy waedu ychydig uwchlaw yr ysgwydd, neu y tu ol i'r ysgwyddau. Ond y mae rhai yn meddwl mai eu pesgi ydyw y dull mwyaf dyogel; pa fodd bynag, bydd i'r naill neu y llall o'r moddion hyn wneyd y tro. Bara ydyw yr ymborth goreu iddo, wedi ei fwydo mewn potes. Pa fodd bynag, peidiwch a gadvel i;r mochyn fwyta cymaint ag y mae yn awyddus am dan; y foment y byddo ei wange wedi darfod, symudwch ymaith y bwyd, a pheidiwch a'i gynyg iddo drachefn am yspaid o dair i bedair awr.
AM CHWARENAU MEWN MOCH
Afiechyd yn y Gwddf, neu fath o chwyddiad, ydyw hwn hefyd; a'r feddyginiaeth ato ydyw eu gwaedu o dan y tafod, a rhwbio eu cegau, ar ol eu gwaedu, gyda halen a blawd gwenith wedi ei guro yn fân, a'u cymysgu yn dda gyda'u gilydd. Os dygwydd fod hwch a fyddo yn goddef dan yr anhwyldeb a pherchyll ynddi, rhoddwch iddi wreiddiau dail gwayw'r brenin. neu yr yellow daffodil, fel y geilw y Saeson hwynt.
AM FOCH YN LARU AR FWYD, NEU YN EI DAFLU I FYNY AR OL EI FWYTA.
Pan y mae moch yn taflu eu bwyd i fyny, gellir iachâu eu hystumog trwy roddi iddynt lwch ivory wedi ei raspio, neu hartshorn wedi ei sychu mewn padell gyda halen. Dylai y pethau hyn gael eu cymysgu â'u bwyd, yr hwn a ddylai fod yn benaf yn gynwysedig o ffa neu fês wedi eu malu; ond os na ellir eu cael, defnyddier haidd, wedi ei frasfalu mewn melin, yn eu lle, ac ysgaldiwch hwy gyda'r pethau a nodwyd. Y mae rhai yn rhoddi math o lysiau a elwir y wreiddrudd (madder,) ar achlysur fel hyn, wedi eu cymysgu gyda'u bwyd.
Pa fodd bynag, nid yw yr anhwyldeb yma yn peri i foch feirw, ond y mae yn meddu yr effaith o dynu moch i lawr o ran eu cig. Ond diameu ei fod yn atalfa ar haint y gwaed, neu y gargut, fel y geilw y Saeson ef, yr hyn a achosir yn gyffredin trwy iddynt fwyta gormod borfa newydd, wedi iddynt gael eu troi allan gyntaf yn y gwanwyn.
AM GLEFYD Y GWAED (GARGUT).
Y mae y rhan fwyaf o bobl wledig bob amser yn ystyried y clefyd hwn i farwolaeth. Arddengys ei hun, gan mwyaf, yn yr un dull a fever mewn moch, trwy eu bod yn ymollwng wrth gerdded, ac yn laru ar eu bwyd; yn y Jever, pa fodd bynag, bydd iddynt fwyta yn iachus nes y syrthiant; ond yn yr anhwyldeb yma yn y gwaed, bydd i'w harchwaeth at fwyd ddarfod ddiwrnod neu ddau cyn i'r ymollyngiad neu y pensyfrdandod gymeryd lle. Y feddyginiaeth at yr anhwyldeb yma ydyw, gwaedu y mochyn mor fuan ag y canfyddwch fod yr afiechyd wedi gafael ynddo, a hyny o dan y clustiau, ac o dan y gynffon, yn ol barn rhyw rai. Er mwyn gwneyd iddo waedu yn rhwydd, curwch ef gyda gwialen neu ffon fechan tra y byddis yn ei waedu; ac ar ol ei waedu, cadwch y mochyn yn ei gwt, rhoddwch iddo flawd haidd mewn maidd cynhes; a gellwch ychwanegu y llysiau a elwir y wreiddrudd (madder), y rhai a soniasom am danynt o'r blaen, neu red ochre wedi ei bowdro.
AM Y CLEFYD A ADNABYDDIR WRTH YR ENW SPLEEN, NEU DDUEG MEWN MOCH.
Gan fod moch yn greaduriaid nad yw braidd yn bosibl eu digoni, y maent yn fynych yn cael eu blino gyda chyflawnder o spleen. Y feddyginiaeth gogyfer â hyn ydyw rhoddi iddynt frigau tamarisk, wedi eu berwi neu eu trwytho mewn dwfr; neu os gellir cael rhai o ysbrigiau llai a thynerach o'r tamarisk, newydd eu casglu, a'u malu yn fân, a'u rhoddi iddynt yn eu bwyd, byddai o les mawr iddynt; oblegyd y mae y nodd, neu y sug, a phob rhan o'r coed yma, yn dra llesol i foch yn y rhan fwyaf o'u hanhwylderau, ond yn fwy arbenig felly yn yr anhwyldeb yma. Oni ellwch gael tamarisk, gellwch ddefnyddio topiau grug yn eu lle, wedi eu berwi mewn dwfr.
AM Y COLER MEWN MOCH.
Arddengys yr anhwyldeb yma ei hun yn gyffredin trwy fod y mochyn yn colli ei gig, yn gwrthod ei fwyd, ac yn tueddu yn fwy nag arfer at gysgu, ac hyd yn nod yn gwrthod porfa newydd y caeau, ac yn syrthio i gwsg mor fuan ag yr elo i'r borfa. Y mae yn beth cyffredin, yn yr afiechyd yma, i fochyn gysgu tair rhan allan o bedair o'i amser; ac o ganlyniad, nis gall fwyta digon at ei gynaliaeth. Gellir galw yr anhwyldeb yma yn gysgadrwydd, neu farweidd—dra, oblegyd mor gynted ag y mae wedi cysgu, ymddengys yn gwbl farw, heb fod ganddo na syniad na symudiad, er i chwi ei gystwyo yn drwm, nes yr ymadfero.
Y feddyginiaeth sicraf a mwyaf cymeradwy at yr anhwyldeb yma ydyw gwraidd y cucumus silvestris, neu y cucumber gwyllt, fel y geilw rhai ef, wedi ei talu a'i ystreinio mewn dwfr, yr hwn a roddir iddynt i'w yfed. Bydd i hwn beri iddynt gyfogi yn ddioed, ac yn fuan ar ol hyny deuant yn fywiog, ac ymedy eu cysgadrwydd. Pan fyddo eu hystumog wedi cael ei chlirio fel hyn, rhoddwch iddynt ffa ceffylau wedi eu mwydo mewn heli porc, neu drwngc neu biso ffres, oddiwrth unrhyw berson iachus; neu ynte fês wedi cael eu trwytho mewn dwfr a halen cyffredin, oddeutu y ddeugeinfed ran o halen at y dwfr. Bydd yn anghenrheidiol eu cadw i mewn yn ystod yr amser y byddont dan y driniaeth, a pheidio gadael iddynt fyned allan hyd ganol y diwrnod nesaf, wedi rhoddi iddynt yn gyntaf foliaid da o flawd haidd wedi ei gymysgu â dwfr, yn mha un y byddo ychydig risg derw wedi cael eu berwi am deirawr neu bedair. Neu, fel myddyginiaeth ag sydd yn fwy tyner na'r un flaenorol, gellwch roddi iddynt oddeutu chwarter owns o monk's rhubarb, sef eu gwraidd wedi eu sychu, gyda phegaid o flawd haidd, yr hyn a ddyg y mochyn i ymborthi gydag ystumog da.
AM Y CLAFR MEWN MOCH.
Y mae arwyddion yr afiechyd yma ar foch yn ddigon adnabyddus. Cynwysant grach, plorynod, ac weithiau luaws mawr o fân lynorod, ar wahanol ranau o'u cyrph. Os esgeulusir hwy, daw yr arwyddion hyn yn fwy amlwg fyth; ymleda yr afiechyd dros holl arwyneb y croen; ac os gadewir iddo fyned yn mlaen heb ei atal, cynyrcha archollion a doluriau dyfnion, nes bydd y holl gorph yr anifail yn un crynswth o lygredigaeth.
Y mae llawer o ddadlu yn nghylch yr achos o'r clafr; ond y farn fwyaf cyffredin ydyw mai budreddi yn y croen, gyda phorthi y mochyn â bwyd rhy boeth, ydyw gwir darddiad yr anhwyldeb. Os na bydd y mochyn ond yn cael ei flino gan ymosodiad ysgafn o'r clafr, a hwnw heb fod o hir barhad, y driniaeth oreu i'w mabwysiadu ydyw yr un a ganlyn:
1. Golchwch y mochyn o'i drwyn i'w gynffon, heb adael un ran o'i gorph heb ei lanhau, gyda sebon meddal a dwfr.
2. Dodwch ef mewn cwt sych a glân, lle y byddo digon o awyr iach, heb, ar yr un pryd, ei amlygu i oerni na thynfa gwynt. Gwnewch iddo wely o wellt glân a sych.
3. Lleihewch ei fwyd, ac na fydded cystal o ran ei ansawdd. Bydded i wreiddiau wedi eu steamio, gyda llaeth enwyn neu olchion o'r llaethdy, gymeryd lle soeg y darllawydd, golchion o'r tŷ, neu unrhyw ymborth a fyddo a thuedd ynddo i boethi neu i beri enyniant yn y mochyn.
4. Bydded iddo ymprydio am bum' neu chwe' awr, ac yna rhoddwch, i fochyn o faint canolig, ddwy owns o Epsom salts mewn cymysg cynhes o fran. Y mae y swm hwn, wrth gŵrs, i gael ei ychwanegu neu ei leihau, yn ol fel y byddo maintioli y mochyn yn galw am hyny. Byddai y swm uchod yn ddigon i fochyn yn pwyso o chwech ugain i wyth ugain. Dylid ychwanegu hwn at oddeutu haner galwyn o gymysg cynhes wedi ei wneyd o fran. Bydd iddo weithio y mochyn yn dyner.
5. Yn mhob pryd o fwyd a roddwch iddo wedi hyny, rhoddwch o
Flour of Sulphur, lonaid llwy fwrdd,
Nitre, gymaint ag a saif ar chwe'cheiniog,
am o dridiau i wythnos, yn ol fel y byddoch yn canfod cyflwr yr afiechyd. Pan welwch fod y crach yn dechreu iachâu, y llynorod yn encilio, a'r briwiau tanllyd yn gwywo, gellwch benderfynu fod y mochyn wedi gwella. Ond cyn i'r canlyniad hyfryd hwnw gymeryd lle, gellwch weled cynydd ymddangosiadol yn yr oll o arwyddion yr afiechyd, megys ymgais olaf yr anhwyldeb cyn rhoddi i ffordd yn gwbl o flaen eich gofal a'ch medrusrwydd.
Y mae, pa fodd bynag, fathau ereill o'r clafr, ag ydynt yn fwy anorchfygol na'r un a nodwyd, ac heb fod yn agos mor hawdd i'w hiachâu. Mewn amgylchiadau felly, wedi i'r driniaeth uchod fod ar waith am bedwar diwrnod ar ddeg, ac heb i wellad gymeryd lle, parotowch y cymysg canlynol:
Cymerwch o Train oil, un peint,
Oil of tar, dau ddram,
Spirits of turpentine, dau ddram,
Naphtha' un dram,
gyda Flour of sulphur, gymaint ag a'i gwna yn bâst tew. Wedi golchi yr anifail yn gyntaf, rhwbiwch ef â'r cymysg hwn, ac na fydded i un llecyn o'r croen ddiangc rhagoch. Cadwch y mochyn yn sych a chynhes ar ol y cymhwysiad yma, a gadewch iddo aros ar ei groen am dridiau llawn. Ar y pedwerydd dydd, golchwch ef unwaith yn rhagor gyda sebon meddal, gan ychwanegu ychydig o soda at y dwfr. Sychwch yr anifail yn dda ar ol hyny, a gadewch ef yn llonydd, heb wneyd dim ond newid ei wely am ddiwrnod neu ddau. Parhewch i roddi y sulphur a'r nitre fel o'r blaen. Nid wyf yn gwybod am un achos o glafr, pa mor ystyfnig bynag y gallai tod, na byddai iddo, yn gynt neu yn hwyrach, roddi i ffordd o flaen y driniaeth hon.
Ar ol i'r mochyn wella, gwyngalchwch ei gwt; purwch ef oddiwrth bob arogl annymunol trwy roddi ychydig chloride of lime mewn cwpan, neu ryw lestr arall, a thywallt ychydig vitriol arno. Os na bydd vitriol wrth law, bydd i ddwfr berwedig ateb y dyben agos yn llawn cystal.
Yn olaf ar y pen hwn: bydded i chwi gofio y drwbl a gawsoch wrth iachâu eich mochyn claf, a thrwy sylw priodol at lanweithdra mewn ymborth a chwt, ynghyda phorthi eich moch yn rheolaidd, cymerwch ofal na ddygwydda y clafr yn eu plith rhagllaw. Cofiwch hefyd, fod cymhwysiadau oddiwrth arian byw i gael eu gochel hyd ag y gellir; ond uwchlaw y cwbl, gochelwch ddefnyddio enaint wedi ei wneyd o ddail crafange yr arth, corrosive sublimate, neu ddwfr tobacco; neu, yn fyr, unrhyw sylweddau gwenwynig pa bynag. Ychydig iawn o welliadau a gynyrchwyd gan y cyfryw feddyginiaethau, ond y mae lluaws mawr o farwolaethau wedi eu cynyrchu trwy eu defnyddio.
AGENAU NEU HOLLTAU YN NGHRWYN MOCH.
Weithiau bydd i agenau neu holltau ymddangos yn nghroen y mochyn, yn enwedig o amgylch gwraidd ei glustiau a'i gynffon, ac ar hyd ei ochrau. Ni ddylid camgymeryd y pethau hyn am y clafr, yn gymaint nad ydynt byth yn tarddu oddiwrth ddim ond amlygiad i eithafion gwres ac oerni, pan nad yw yr anifail druan yn alluog i gymeryd mantais ar yr achles ag y buasai greddf, yn ei gyflwr naturiol, yn ei dueddu i'w fabwysiadu. Y maent yn dra phoenus yn mhoethder haf, os bydd y mochyn yn agored i belydrau poethion yr haul am hir amser, heb fod ganddo forfa neu lyn i faddio ei aelodau crasedig a hanerrhostiedig. Os bydd ei berchenog yn awyddus i'w gynorthwyo, wedi i esgeulustra yn gyntaf wneyd ei gwaith, bydded iddo eneinnio y manau agenog ddwywaith neu dair yn y dydd gyda thar a lard wedi eu cymysgu yn dda gyda'u gilydd.
AM RYDDNI MEWN MOCH.
Nid oes angen manylu yma ar yr arwyddion, oblegyd hwy sydd yn cyfansoddi yr afiechyd. Cyn cynyg atal yr arllwysiad yr hwn pe caniateid iddo barhau yn ddiymatal, a ddiddymai nerth yr anifail yn fuan, ac yn ol pob tebygolrwydd a derfynai yn angeuol iddo—bydded i chwi yn gyntaf fynu sicrwydd o berthynas i ansawdd y bwyd a gafodd yr anifail yn ddiweddar. Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau o'r fath, cewch allan mai dyma lle y mae gwreiddyn y drwg; ac os ceir hyny allan yn nechreuad yr afiechyd, byddai dim ond newid yr ymborth, megys ŷd, blawd, &c., yn ddigon i beri gwellhad. Ond os bydd genych le i feddwl fod surni yn bresenol, wedi ei gynyrchu yn ol tebygolrwydd, gan ymborthi ar laswellt drwgsawrus, rhoddwch dipyn o chalk (sialc) yn ei fwyd, neu blisg wyau wedi eu malu, gydag oddeutu haner dram o rhubarb wedi ei bowdro; y ddogn, wrth gŵrs, yn amrywio yn ol maintioli y mochyn. Yn adeg mês, a lle y byddont yn hawdd eu cael, bydd iddynt hwy eu hunain beri gwellhad. Tra byddo yr anifail yn llafurio dan yr afiechyd yma, y mae llety sych yn anhebgorol angenrheidiol iddo; a dylid bod yn ddyfal i sicrhau hyny, yn gystal a glanweithdra.
AM Y COLIC AR FOCH.
Nid yw hwn yn afiechyd anghyffredin ar foch, a chynyrchir ef yn fynych trwy fwyta gormod o ymborth sur. Arddangosir ef gan boenan mawrion a thost ar adegau; ymrolia y mochyn hyd lawr, gan gicio ei fol; yna cyfyd, a cherdda o gwmpas am ychydig funudau, hyd nes y daw ail ymosodiad. At ei wella,
Cymerwch o Peppermint water, haner peint,
Tincture of opium, deugain dyferyn.
Rhoddwch hwn iddo yn ystod y munudau y byddo yn dawel. Dylai yr anifail gael ei gadw yn gynhes, a rhowch ymborth iddo (llaeth newydd yn gynhes) nes y byddo wedi llwyr wella.
AM Y PLA MEWN MOCH.
Credir fod yr afiechyd yma yn heintus, neu yn drosglwyddadwy o'r naill i'r llall; ac am hyny dylai pob moch a fyddont yn dyoddef o dano gael eu gwahanu yn uniongyrchol ac heb golli dim amser, oddiwrth y gweddill o'r gyr, a'u rhoddi mewn rhyw gwt lle na ddelo ond y rhai afiach. Yn yr achos hwn, yn gystal ag mewn amgylchiadau ereill pan fyddo moch yn sâl, dylent gael gwellt glân. Pan fyddo y pla wedi ymosod arnynt fel hyn, rhoddwch iddynt oddeutu peint o raisin wine, neu ynte win gwyn da, yn mha un y cafodd rhai o wreiddiau polpody y dderwen eu berwi, ac yn mha un y byddo deg neu ddeuddeg o rawn yr eiddew wedi eu malu, a’u trwytho. Bydd i'r cyfferi hyn beri iddynt ysgothi, a thrwy gryfhau yr ystumog, fwrw allan yr afiechyd.
Os bydd i fochyn arall, ar ol y cyntaf, gael ei gymeryd gan yr un salwch, bydded i'r cwt gael ei lanhau yn dda oddiwrth y gwellt a'r tail a adawsid yno gan y mochyn afiach blaenorol. Pan yr elo gyntaf i mewn, rhoddwch iddo amryw sypiau o wermod, newydd eu casglu, fel y byddo iddo ymborthi arnynt yn hamddenol; gan ofalu bob tro y bydd genych achos i ddwyn mochyn afiach o'r newydd i mewn, am roddi iddo wellt glân, a chwt glân. Y mae polpody y dderwen, fel y cyfarwyddwyd uchod, yn feddyginiaeth ragorol hefyd at y choler mewn moch.
AM Y FRECH GOCH.
Bydd gan foch, pan y byddant yn cael eu blino gan y frech goch, lais mwy cryglyd nag arferol; bydd eu tafodau yn llwydion, a'u crwyn wedi eu gorchuddio yn dew â blisters, neu chwysigod, o faintioli pŷs. Yn gymaint a bod yr afiechyd yma yn naturiol i foch, byddai yr hen bobl yn cynghori, fel ag i'w ragflaenu, fod iddynt gael eu bwydo mewn cafnau plwm. Y mae hefyd yn arferiad gyffredin, pan y mae yr afiechyd yma yn blino moch, i roddi iddynt drwyth o briony root a cummin water, yn eu bwyd cyntaf bob bore. Ond y ffordd sicraf er eu meddyginiaethu, yn ol barn y medddygon goreu, ydyw parotôi y cyfferi canlynol:—
Cymerwch o Sulphur, haner pwys,
Alum, tair owns,
Bay—berries, tri chwarter peint,
Huddugl, dwy owns.
Gymysgwch y pethau hyn oll gyda'u gilydd, rhwymwch hwy mewn llian, a rhoddwch hwy yn y dwfr y byddo y moch yn ei yfed, gan eu hysgwyd neu eu cyffrôi yn gyntaf yn y dwfr. Neu ynte—
Cymerwch o Flour of sulphur, haner owns,
Madder, wedi ei falu, gymaint ag a'i cuddia,
Liquorice, yn dafellau, chwarter owns,
Aniseed, chwarter owns,
::Blawd gwenith, un lwyaid.
Cymysgwch y cyfan gyda llaeth newydd, a rhoddwch y dogn i'r moch bob bore ar eu cythlwng, neu cyn iddynt brofi dim ymborth; ac adfynychwch hyn ddwy waith neu dair. Y mae hon yn feddyginiaeth a fawr gymeradwyir fwran a'r frech goch mewn moch.
AM AFIECHYD YN YR YSGYFAINT.
Y mae moch, gan eu bod o natur boeth, yn agored i afiechyd a elwir syched, neu yr ysgyfaint, yn ol rhai ffermwyr. Tardda yr anhwyldeb yma yn gwbl o ddiffyg digonedd o ddwfr; o ganlyniad, nid ydynt yn agored iddo ond yn sychder haf, neu pan fyddo dwfr yn brin. Y mae yn fynych yn taflu cryn gostau ar y ffermwr, pan y mae moch wedi eu gosod heibio at besgi, a phan na chymerir gofal priodol i roddi iddynt ddigon o ddwfr, oblegyd yna y maent yn sicr o nychu, a cholli eu cig. Er atal hyn, byddwch yn ofalus i roddi iddynt ddigonedd o ddwfr ffres, a hyny yn fynych hefyd; canys y mae y diffyg o hono yn dwyn arnynt wres gormodol yn yr afu, yr hyn a gynyrcha yr anhwyldeb hwn. Er ei feddyginiaethu tyllwch ddwy glust y moch, a rhoddwch yn mhob twll ddeilen a bonyn o'r llysiau a alwn ni y Cymry yn belydr du, ond a adnabyddir gan y Saeson wrth yr enw black helebore.
AM Y GERI, NEU Y BUSTL, MEWN MOCH.
Y mae yr anhwyldeb yma yn gwneyd ei ymddangosiad trwy chwydd o dan y bochgernau, ac nid yw byth yn dygwydd ond o herwydd diffyg chwant at fwyd, a phryd y byddo yr ystumog yn rhy oer i dreulio yr ymborth,—o leiaf felly y dywed rhai awduron. Y mae yn gyffredin yn ymaflyd yn y moch hyny a gaethiwir mewn cytiau budron, ac a esgeulusir neu a newynir gyda golwg ar ymborth. Rhoddwch iddynt sug neu nodd dail cabaits, gyda saffron wedi ei gymysgu â mêl a dwfr—oddeutu peint o hono, a bydd yn sicr o beri iachâd iddynt.
AM Y CHWANTACHGLWYF MEWN MOCH.
Y mae ein cymydogion y Saeson yn galw yr anhwyldeb yma wrth yr enw pox, am y tybiant ei fod yn tarddu oddiar duedd chwantachol yn yr anifail, yr hyn a bair i'w waed gael ei lygru. Ond pa un bynag am hyny, y mae i'w ganfod yn fwy hynod yn y moch hyny na fyddont yn cael digonedd o ymborth, ac yn fwyaf neillduol yn y rhai ag ydynt wedi bod yn ddiffygiol o ddwfr. Y mae yn gwneyd ei ymddangosiad mewn lluaws o friwiau ar gorph y creadur; ac ni fydd i na baedd na hwch ddyfod yn eu blaenau tra y byddo yr afiechyd hwn arnynt, er i chwi eu bwydo â'r math goreu o ymborth. Y feddyginiaeth ar eu cyfer ydyw, rhoddi iddynt ddwy lwyaid fawr o driagl, mewn dwfr a fyddo wedi ei led-feluso â mêl—oddeutu peint ar y pryd; ac eneiniwch y briwiau â flour of brimstone wedi ei gymysgu yn dda â lard mochyn; at hyny gellid ychwanegu ychydig bach o lwch tobacco. Tra y byddwch yn rhoddi iddynt y cyfferi hyn, dylai y moch afiachus gael eu cadw mewn cwt, ac ar wahan i'r gweddill o'r gŷr, nes y byddont wedi ymiachâu.
AM CHWYDD O DAN Y GWDDF.
Y mae yr afiechyd yma yn ymddangos rywbeth yn debyg i chwydd yn y chwarenau, ac y mae rhai ffermwyr yn ei alw yn "chwarenau" mewn moch. Y feddyginiaeth fwyaf cyflym ato ydyw agor y manau a fyddont wedi chwyddo, pan y maent yn gyflawn aeddfed i hyny, gyda phin—gyllell (pen-knife,) neu fflaim (lancet,) gan gymeryd gofal na byddo y mymryn lleiaf o rŵd ar y naill na'r llall, a daw allan o'r archoll swm mawr o sylwedd drewllyd o liw melyn neu wyrdd. Wedi hyny golchwch y briw gyda golch, ond gofalwch am iddo fod yn ffrès, ac yna trinwch y briw gyda lard mochyn.
Dyna ydyw y prif anhwylderau sydd yn blino mochyn y wlad hon, ac ond dal sylw ar yr arwyddion, a dylyn y cynghorion a nodwyd yn flaenorol, gall pob dyn feddyginiaethu ei fochyn heb ymgynghori â meddyg anifeiliaid, yr hyn a arbeda lawer o draul a choll amser.
H. HUMPHREYS, ARGRAFFYDD, CAERNARFON.
Nodiadau
[golygu]Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.