Neidio i'r cynnwys

Cyfrol Goffa Richard Bennett/Cyngor i Flaenoriaid

Oddi ar Wicidestun
Can-mlwyddiant geni Mynyddog Cyfrol Goffa Richard Bennett


golygwyd gan D Teifgar Davies
Cariad at y Gwirionedd (2 Thes. ii. 10)

CYNGOR I FLAENORIAID

Annwyl Frodyr,—

CLYWSOCH y Llywydd yn galw arnaf i'ch cynghori. Na thybiwch oherwydd hynny ein bod ni yn honni unrhyw ragoriaeth arnoch. Meddyliaf yn fynych mai cymhwysach i'r hen flaenoriaid fyddai derbyn cyngor na'i roi, ar achlysur fel hwn. Oblegid, ymhen ychydig bachigyn eto, byddwch chwi yn synio yn uwch neu yn is am eich swydd nag y gwnewch heddiw a thebygol mai cymdeithas â ni fydd wedi effeithio arnoch, er gwell neu er gwaeth. Felly y mae eich derbyniad i'r Henaduriaeth bron iawn yn gymaint o braw arnom ni ag yw arnoch chwithau, a phurion fyddai i ni gael ein hatgoffa o hynny yn awr ac eilwaith. Yr un pryd, diau fod rhyw addasrwydd mewn cyngor cyfeillgar i ddwylo newyddion oddi wrth y rhai oedd yn y gwaith o'u blaenau, ac arnaf i y disgynnodd y coelbren i'w roi y tro hwn.

A mi mewn myfyr am air cyfaddas i'w ddweud wrthych, cynigiodd dwy ysgrythur eu hunain i'm sylw,—un o'r Hen Destament, a'r llall o'r Newydd. Cewch y flaenaf yng nghyfarchiad Heseciah i'r Lefiaid,—blaenoriaid yr Hen Oruchwyliaeth. "Fy meibion, na fyddwch ddifraw yn awr, canys yr Arglwydd a'ch dewisodd chwi i sefyll ger ei fron Ef, i weini iddo Ef." Na fyddwch ddifraw, ynteu. Pe gweddai difrawder i rywrai, nid yw yn gweddu i chwi. Y mae eich safle chwi yn gyfryw fel nas gellwch fforddio cellwair yn esgeulus â hi.

Cewch yr ail ar ddechrau rhestr yr Apostol Paul o gyneddfau diaconiaid," Rhaid i'r diaconiaid fod yn onest," neu yn ôl cyfieithiad diweddarach, "fod yn ddifrifol." Nid rhywbeth allanol a feddylir, goeliaf fi, nid anffurfio'r wyneb fel y Phariseaid gynt, ond agwedd ysbryd, earnestness, neu fel y dywedir mewn siarad cyffredin,—bod o ddifrif. Enwa'r Apostol gymwysterau eraill, ond ymlaenaf oll, ar ben y rhes, uwchlaw pob peth, rhaid i'r diaconiaid fod o ddifrif. Gallant beidio â bod felly, ond trychineb sydd yn dilyn hynny. I ennill gradd dda yn y gwasanaeth, rhaid i'r diaconiaid fod yn bobl o ddifrif.

A chan fod y ddau Destament yn cytuno mor agos ar y mater, ni allaf innau yn awr wneud yn well na gafael yn yr awgrym, a nodi ychydig o gymhellion i ddifrifwch fel amod diaconiaeth lwyddiannus.

1. Wrth fod o ddifrif y gwnewch chwarae teg â'r swydd. Cawsoch swydd sydd ynddi ei hun yn dra anrhydeddus, ond bydd y byd yn chwannog i'w barnu oddi wrth eich hymddygiadau chwi ynddi. Ffieiddiodd dynion ordinhadau y cysegr yn amser meibion Eli, am anwiredd y rhai a'u gweinyddent. Ffaith dra annymunol yn ein dyddiau ninnau yw y lle a roddir i'r blaenor yn y ddrama Gymreig. Ond yn hytrach na ffromi oblegid hyn, y peth gorau a allwn wneud yw ymroi i "gyflawni y weinidogaeth a dderbyniasom gan yr Arglwydd." Cewch chwi, mae'n debyg, swyddau eraill gan y byd, onid ydych eisoes wedi eu cael; ond ni ddylai hon fod yn is-raddol i'r un ohonynt yn eich golwg. "Gochelwch rhag bod yn flaenoriaid rhwng cromfachau," chwedl Daniel Owen. Na wthiwch y swydd i back-ground eich bywyd, i gofio amdani yn unig pan na fydd dim arall yn digwydd galw am eich sylw. Darllenwch lyfr Malachi yn bwyllog ac ystyriol. Gwelwch yno fod yr Arglwydd yn dra eiddigeddus dros anrhydedd ei dŷ, ac nad cymeradwy ganddo Ef bob math o wasanaeth. Offrymu y dall a'r cloff, dwyn pethau i'r cysegr na wiw eu dangos yn y farchnad: canlyniad ymddygiad fel yna yw,

Nid oes gennyf fodlonrwydd ynoch, ac ni dderbyniaf offrwm o'ch llaw." Ofer, a gwaeth nag ofer, a fyddai cynnig eich gwehilion iddo Ef, bod yn swrth-fusgrell fel blaenoriaid, ond yn fywiog ac effro yn eich ymwneud â'r byd. Dywedai Ebeneser Morris y buasai ef heb y syniad a feddai am ogoniant gweinidogaeth yr Efengyl, pe heb adnabod Robert Roberts o Glynnog. Drwy ddifrifol ymroddiad, dyrchafodd Roberts y pulpud, ym marn y dynion gorau, ac nid oes yr un ffordd arall i godi'r sêt fawr, a'i chadw i fyny. Er mwyn urddas eich swydd, byddwch o ddifrif.

2. Wrth fod o ddifrif y gwna pob un ohonoch chwarae teg ag ef ei hun. Dichon i chwi feddwl yn waelach ohonoch eich hunain yn ddiweddar nag y gwnaethoch erioed o'r blaen. Gwelsoch eich hunain, efallai, mor annigonol ar gyfer y swydd newydd a ddaeth i'ch rhan, nes petruso pa un a ymaflech ynddi ai peidio. Ni ddymunwn lwyr ddileu y fath deimlad o'ch mynwesau, pe medrwn. Ond os ofnasoch fod eich holl egnïon gyda'i gilydd yn rhy fyr at y gwaith, beth fydd rhan ohonynt iddo? Ar y llaw arall, cofiwch fod dyn bychan, o'i gael i gyd, yn werth llawer mwy i gymdeithas na dyn mawr difater. Darllenwch y bumed bennod o lyfr y Barnwyr. Clywais Joseph Thomas yn dweud y cynhwysai Cân Deborah ddarlun o hanes yr eglwys trwy'r oesau. Y gelynion yn gryfion a lluosog, a dim ond rhyw ddyrnaid o bobl druain dlodion i'w hwynebu. Y llwythau mawr dylanwadol ddim yno. Y mae Sabulon a Naphtali yno. Ydynt, ond pwy erioed a glywodd amdanynt hwy yn arwain gyda dim? Gwell gohirio ac encilioond arhoswch! Dacw'r bobl ddistadl yn disgyn ar eu traed i'r dyffryn i gwrdd y gelyn! Eithaf gwarant nad ydynt yn meddwl dianc oblegid pwy a allai ddiane ar ei draed ar wastadedd, a naw can cerbyd haearn i'w ymlid? Diane, nage. "Pobl Sabulon a roddes eu heinioes i farw "; ac wedi eu cael i'r cywair yna, dechreuodd adgyfnerthion y Nefoedd ymddangos, a rhyfedd y galanas a wnaed ar y gelyn cyn nos. Tra'r oedd y bobl fawr yn ysgafala, cafodd y bobl fach sathru cadernid dan draed. Drwy ddifrawder, aeth y rhai blaenaf yn olaf, a thrwy ddifrifwch aeth yr olaf yn flaenaf. Pe byddai eich dechreuad chwithau yn fychan, os gwnewch eich gorau, eich diwedd a gynydda yn ddirfawr. Ni sylweddolir eich posibilrwydd mewn ffordd arall; ni ddeuwch byth i'ch maint fel blaenoriaid wrth arfer rhyw hanner-mesurau. Er mwyn eich twf a'ch cynnydd eich hunain, byddwch o ddifrif.

3. Wrth fod o ddifrif y gwnewch chwarae teg â'ch brodyr. Nid units annibynnol ydych i fod, ond aelodau mewn corff. Darllennwch y ddeuddegfed bennod o'r Epistol Cyntaf at y Corinthiaid. Gorchest i ymgyrraedd ati yw dysgu cydweled, a chyd-oddef, a chyd-weithredu. Nid fel pendefigion Judah yn gohebu â Thobah er mwyn hunan-fawrhad, neu ddiogelwch; nid fel Meros yn aros yn amhleidiol ddiwrnod argyfwng mawr eu cyd-genedl; ac yn arbennig, nid fel Achan yn cellwair â'r diofrydbeth nes dwyn yr holl wersyll i waradwydd a cholled. Ond yn debycach i Paul, â'i gydymdeimlad yn llosgi pan fyddai arall yn wan. "I'r meirch yng ngherbydau Pharao y'th gyffelybais, fy anwylyd." Os bydd tresi un march yn llac, bydd gormod o bwysau yn rhywle arall. Rhaid meithrin y team-spirit y sonnir cymaint amdano'r dyddiau hyn, a dynion difrif sydd debycaf o wneud. Er mwyn eich brodyr a'ch cyfeillion y dywedaf yn awr, byddwch o ddifrif.

4. Wrth fod o ddifrif y gwnewch chwarae teg â'r eglwysi hefyd. Rhoddasant hwy eu gorau i chwi wrth eich dewis i'r swydd hon, ac ai mawr yw iddynt gael eich gorau chwithau yn ôl? Oblegid nid i segur-swydd y'ch galwyd. Meddyliwch am ei thraddodiadau yn eich cymdogaethau. Yr ydych yn perthyn i dair o'r eglwysi hynaf a pharchedicaf a feddwn :-Llanidloes, cartref John Lewis y watch-maker, a llu o wŷr grymus ar ei ôl; Llanbrynmair, eglwys Richard Howell, Hugh Dafydd, a William Williams; a Mallwyd, maes llafur Owen Sion ac Edward Morris. Drwy ymdrech ddyfal a chyson gwnaeth y gwŷr hyn Fethodistiaeth yn allu amlwg er daioni yn eu hardaloedd; ac yn awr, ar alwad yr eglwysi, yr ydych chwi yn myned i mewn i'w llafur. Fy mrodyr annwyl, nid cellwair o beth yw bod yn olynwyr i ddynion fel yna. Ehangodd hen frenhinoedd Judah derfynau eu gwlad, ond pan ddaeth Jehoram i'r orsedd, dechreuwyd colli'r taleithiau. Dyn gwael oedd ef, a diwedd ei hanes yw, "efe a ymadawodd heb hiraeth amdano, a chladdasant ef yn ninas Dafydd, ond nid ym meddrod y brenhinoedd." Teimlai'r wlad megis yn reddfol nad oedd y dyn a gollodd y taleithiau yn deilwng i orwedd yn yr un bedd â'r dynion a oedd wedi eu hennill. Cofiwch chwithau nad rhwng cwsg ac effro y gellir llanw lle hen flaenoriaid Trefaldwyn Uchaf; a chofiwch hefyd mai diflas i'r eglwysi fyddai gorfod ymfodloni ar darianau pres yn lle'r tarianau aur a feddent gynt. Er mwyn tŷ yr Arglwydd ein Duw, byddwch o ddifrif.

5. Oni byddwch o ddifrif, fe wnewch gam â gras Duw. Dug Efe gyfle i fod yn ddefnyddiol at eich drysau. Nid rhaid esgyn i'r nef na disgyn i'r dyfnder; y mae'r siawns yn agos atoch. Pe buasai yr amod fel hyn, "Rhaid i ddiaconiaid fod yn ddysgedig," dyna chwi a minnau ar y clwt mewn amrantiad. Neu fel hyn, Rhaid iddynt fod yn ddoniol," â chroen eu dannedd yr aethai neb ohonom ni i mewn. Ond gosododd y Nefoedd y premium ar ddifrifwch, ar ymroddiad a chwbl-ddiwydrwydd,—pethau sydd mewn ystyr o fewn eich cyrraedd, a phethau a arferir gennych bob dydd mewn cysylltiadau eraill. Rhoddwyd ger eich bron ddrws agored, ac ni ddichon neb ei gau ond chwi eich hunain. Edrychwch yn ddyfal rhag derbyn ohonoch ras Duw yn yr ystyr hon, yn ofer. Nid oes dristach brawddegau yn yr holl Feibl na geiriau Iesu Grist am was annheilwng.

Daw arglwydd y gwas hwnnw ac a'i gwahana ef, ac a esyd ei ran gyda'r anffyddloniaid." Eich derbyn i mewn a wneir yma heddiw. Cadwer chwi i ymroi felly i'ch dyletswyddau, fel na ddelo awdurdod uwch yn dragywydd i'ch bwrw allan.

Anodd tewi heb gyffwrdd ag un ystyriaeth arall. Hwyrach y dywedwch fy mod yn siarad fel pe bai popeth yn dibynnu arnoch chwi. Hwyrach yr ymofynnwch ynoch eich hunain "A chaniatau bod ein llwyddiant yn gorffwys ar ein difrifwch, ar ba beth y gorffwys y difrifwch? A allwn ni drwy nerth penderfyniad ei gynhyrchu ynom ein hunain heb help neb?" Na fedrwch, fy mrodyr, yn hollol. Gellwch gynhyrchu peth tebyg iddo: ond tuedd hwnnw yw rhedeg yn wyllt a datblygu yn sêl ddallbleidiol neu ffanaticiaeth gul galed gas, beryglus i chwi eich hunain a phawb a ddaw yn agos atoch. Nid y cyfryw a gymhellir arnoch yn awr.

Yr oedd Saul o Tarsus, yn rhan gyntaf ei oes, yn ddigon difrifol i gymryd llawer o'r cyfrifoldeb am labyddiad Steffan a'r holl gyfrifoldeb am lanw'r gwledydd â bygythion a chelanedd. O'i ddaear ef ei hun y tyfai y cnwd hwn. Minnau hefyd a dybiais ynof fy hun fod yn rhaid imi wenuthur" fel a'r fel. Ond un diwrnod, ar ffordd Damascus, cwrddodd Saul â Rhywun, a newidiodd ansawdd a naws ei ddifrifwch am byth. Nid oedd eisiau lladd neb mwyach. Daeth yn fwy angerddol ddifrifol nag erioed, ond ymadawai y chwerwder a'r surni yn llwyr, ac yn eu lle teyrnasai cydymdeimlad a charedigrwydd. Yn lle fflangellu pobl eraill, âi o dan wialenodiau dros fesur ei hunan. Yn lle carcharu eraill, ceir ef ei hun mewn carcharau yn fynych,—mor fynych nes ein temtio i feddwl mai yno y dysgodd ganu, o leiaf ni chofiwn amdano yn taro tôn cyn bod ei draed yn sicr yn y cyffion.

Beth a effeithiodd y fath gyfnewidiad? Wel, y cyfarfyddiad ar y ffordd a'i gwnaeth, a'r un peth yn union a'i gwna eto. I gael y difrifwch cymeradwy, rhaid i ninnau gwrdd â'r un Person yn rhywle. O'r braidd nad ydym ni yn yr oes hon yn rhy wylaidd i gyffesu'r peth, ond dyna'r gwirionedd. Nid gormod ei roi fel hyn mesur eich adnabyddiaeth a'ch gwerthfawrogiad o Grist fydd mesur eich gwir ddifrifwch yn ei wasanaeth.

Dro yn ôl gwelais gofnod-lyfr hen amaethwr o flaen plwyf Llandinam. Ar un tudalen edrydd iddo fyned i Sasiwn Llanidloes pryd y pregethai Ebenzer Morris ar Sechariah xi. 12. Ergyd y bregeth hyd y gellid casglu, oedd Iesu Grist yn gofyn i bobl y Sasiwn ba faint oedd ei werth Ef yn eu golwg. Prisiodd rhywrai fi i hyn a hyn, ond beth meddwch chwi? Barnai fy ngelynion fi yn werth rhywfaint: beth yw eich barn chwi? Beth a gymerech chwi yn gyfnewid amdanaf? Gwnewch eich cyfrif i fyny, os gwelwch yn dda. Aeth cant a deunaw o flynyddoedd heibio er pan hyrddid y cwestiwn at gydwybodau y dorf ar dop llais mawr Ebenezer Morris. Ond y mae mewn date heddiw; ac ar yr atebiad a roddwch iddo, ar ôl llawn ystyriaeth, ar hwnnw y dibynna eich difrifwch yn y gwaith.

Hawdd credu nad anghofiodd y ddafad golledig byth mo'r siwrnai tuag adref. Ei chael ei hunan allan o gyrraedd y bleiddiaid, a'r corsydd, a'r mieri, yn y diogelwch ar ysgwyddau'r bugail, ac yntau yn siarad â hi erbyn ei henw heb ffonnod na chernod na dannod,―naddo, anghofiodd hi byth mo'r daith yn ôl.

Bum yn dychmygu gweled y defaid eraill y dyddiau canlynol yn tyrru o'i chwmpas gan arogli a ffroeni, fel pe dywedasent yn eu hiaith hwy, "Ti yw'r ddafad a fu ar goll, onid e?" a hithau'n ateb, "Fi yw'r ddafad a fu ar ysgwyddau Meistr sut bynnag, a lle gwan i'r un ohonoch chwi ymwthio rhyngof fi ag ef byth mwy.' Dyna wrtaith i ddifrifwch. Ymlyniad y ddafad yn tyfu ac yn tyfu nes dod yn rhyw counterpart i lawenydd y Bugail ei hun! Ac er iddo Ef ein dysgu i ddewis y lleoedd isaf mewn rhai amgylchiadau, ni oes ronyn o berygl iddo ffromi pe gwelai hen grwydriaid yr anialwch yn gwasgu ymlaen i geisio bod yn agosaf at Ei sodlau o'i ddiadelloedd i gyd.

Teyrngarwch i Grist yn codi oddi ar brofiad personol o'i ffafr,—Os yw y pethau hyn gennych, y maent yn peri na byddwch na segur na diffrwyth yn y gwaith. Os yw y pethau hyn gennych, ni fedd yr Henaduriaeth, ond un gair i'w ddweud wrth y naill a'r llall ohonoch,-y_gair a ddywedodd yr angel wrth Gedeon, Dos, yn dy rymusdra yma, oni anfonais i dydi."


(Henaduriaeth Pantperthog, Medi 6, 1928).

Nodiadau

[golygu]