Neidio i'r cynnwys

Cyfrol Goffa Richard Bennett/Dieithr ydwyf ar y ddaear (Salm 119, 19)

Oddi ar Wicidestun
Cariad at y Gwirionedd (2 Thes. ii. 10) Cyfrol Goffa Richard Bennett


golygwyd gan D Teifgar Davies
Penillion Coffa am Morris Evans

"DIEITHR YDWYF AR Y DDAEAR"
(Salm cxix. 19)

Y mae'r adnod yn darllen fel hyn:—" Dieithr ydwyf fi ar y ddaear; na chudd Di rhagof dy orchmynion."

O ran ei ffurf y mae yn debyg i lawer adnod arall yn yr un llyfr. Hawdd gan y Salmydd roi mynegiant i ryw wirionedd allan o'i brofiad ei hun, ac yna offrymu gweddi a fyddai'n cyfateb iddo mewn rhyw fodd neu'i gilydd. Felly yma, Dieithr ydwyf fi," etc., dyna'r profiad; "Na chudd Di rhagof dy orchmynion," dyna'r deisyfiad a godai allan ohono.

Nid o ddamwain y cysylltir y ddau beth hyn, sef profiad a gweddi, â'i gilydd: oblegid y maent yn perthyn yn agos i'w gilydd, neu o leiaf fe ddylent fod. Diffrwyth fydd profiad onid esgor ar weddi. Cafodd y genedl yn amser Amos brofiadau nodedig iawn. "Trewais chwi â diflaniad, ac â malltod, eto â ni ddychwelasoch ataf fi, medd yr Arglwydd," ac felly syrthiodd y profiad yn fyr o gyrraedd ei amcan. Ar y llaw arall, gwag fydd gweddi lle na chyfyd o brofiad y gweddïwr, "Nesau y mae y bobl hyn ataf â'u gwefusau, eu calonnau sydd bell oddi wrthyf. Dychwel gweddi felly adref yn wag. Neges profiad yw awchlymu'r weddi, ac effaith gweddi iawn fydd cyfoethogi profiad. Gyda'ch cydsyniad ni a edrychwn yn awr ar y ddau beth hyn, sef Profiad a Gweddi'r Salmydd.

Y Profiad yn gyntaf, "Dieithr ydwyf fi ar y ddaear."

Ar ryw olwg, swnia'n lled afresymol. Pe dywedasai ei fod yn ddieithr ym mhob man arall, gallem ei ddeall. Pan edrychai ar y nefoedd, gwaith bysedd y Creawdwr, ychydig iawn a wyddai amdanynt. A phe gadawai i'w ddychymyg gloddio i goluddion y ddaear, ni chyrhaeddai ei adnabyddiaeth ymhell y ffordd honno chwaith dieithr oedd dieithr oedd ym mhob man heblaw ar y ddaear, a feddyliem ni. Ond yma dywed ei fod yn ddieithr yno yn anad unman.

Sut y gellir esbonio'r peth? Ai ymson hen ŵr sydd yma wedi goroesi ei gyfoedion, ac yn methu asio yn dda â'r tô sydd yn dod ar ei ôl? Y mae peth felly yn bod. Gwelir ei gysgod yng nghân Hiraethog ar Adgofion Mebyd " lle y teimla'r bardd fod Llansannan wedi mynd yn ddieithr iddo. A'r un modd Goronwy Owen :—

"Y lle bûm yn gware gynt,
Mae dynion ni'm hadwaenynt,
Cyfaill neu ddau a'm cofiant,—
Prin ddau, lle'r oedd gynnau gant."


Gŵyr pawb ohonom sydd yn dechrau heneiddio am y teimlad hwn. Ond nid oes sicrwydd bod y Salmydd yn hen. Casgla llawer oddi wrth gywreinrwydd cynllun y Salm hon, ei rhaniad yn gynifer o adrannau cyfartal, wyth adnod ymhob un, a phob adran yn dechrau gyda llythyren wahanol o'r wyddor, mai bardd cymharol ieuanc ydyw. Wel, ynteu, ai ymson sant aeddfetach na chyffredin a geir yma? Y mae peth felly yn bod. Meddai un o'n hemynwyr :—

"Fe sugnodd nefoedd Duw fy mryd,
Nes wyf yn ddieithr yn y byd.

Ond prin y gellir meddwl bod y Salmydd wedi cyrraedd tir fel yna. Nid oedd bywyd ac anllygredigaeth wedi eu dwyn i oleuni yn ei amser ef, a rhyw ymbalfalu, megis dan eu dwylo, yr oedd mwyafrif seintiau yr Hen Oruchwyliaeth ar gwestiwn y dyfodol.

Ond yr oedd un ystyriaeth yn amlwg i brofiad y Salmydd sef mai taith neu yrfa yw bywyd dyn ar y ddaear. Gwelir hynny yn ei fynych ddefnydd o'r termau ffordd a llwybr.' Pe gofynasid iddo beth oedd bywyd, atebasai mai llwybr yn arwain i rywle ydoedd. A phe gofynasid iddo beth oedd ef ei hun, dywedasai mai teithiwr oedd. Ac y mae'n sicr bod y gair" ymdeithydd" yn gywirach cyfieithiad o ddechrau'r adnod na'r gair "dieithr." Ymdeithydd ydwyf ar y ddaear." I ba le, dichon na wyddai, ond gwyddai ei fod yn mynd i rywle. Y mae yr un peth yn wir amdanom ninnau, a phurion a fyddai inni aros yn awr ac eilwaith yng nghwmni'r gwirionedd, er nad oes dim yn newydd ynddo. Hwyrach ein bod yn rhy debyg i'r Atheniaid gynt, yn ein hysfa am bethau newydd. Addefai yr Apostol Pedr ei fod yn fodlon ar ddwyn ar gof i'w ddarllenwyr hen bethau a wyddent o'r blaen, er mwyn gwasgu'r cyfryw yn ddwysach at eu hystyriaeth mewn trefn iddynt fedru dylanwadu'n briodol ar eu holl fywyd.

Gwyddom ninnau yn burion mai teithwyr ydym, ac addefwn hynny mewn ffordd lac yn aml, ond a ydym yn ei sylweddoli, fel y Salmydd, nes iddo fod yn brofiad byw o'n mewn? Onid iaith ddirgel ein calon yw 'Ni'm syflir yn dragywydd.' 'Ni byddaf mewn blinder hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.' 'Byddaf farw yn fy nyth' (hynny yw, os byddaf farw hefyd). Byddaf mor aml fy nyddiau â'r tywod.'

Nid fy amcan i, fy nghyfeillion, yw ceisio eich arwain i gymryd golwg bruddaidd ar fywyd, na meithrin teimlad o'r fath ynof fy hun chwaith. Ond pa les inni ein twyllo ein hunain? Pa ddoethineb a fyddai mewn gwthio ein pennau i'r tywod, fel y dywedir am yr estrys, a meddwl nad oes berygl oni byddom ni yn ei weld? Onid gwell yw edrych ar y sefyllfa yn deg yn ei hwyneb? Oblegid edrych neu beidio, fe'n syflir, fe ddaw blinder, fe chwelir ein nyth, a chyngor y Beibl yw inni mewn iechyd a hoen gofio bod dyddiau tywyllwch.

"Arhoswch funud," meddai rhywun, "fe wna siarad fel yna fwy o ddrwg nag o les. Yr ydym ni wedi ein dysgu mai'r grefydd orau yw honno sy'n crynhoi ei hadnoddau at waith a dyletswyddau bywyd, "heb flino ynghylch amserau draw." Mae cymaint o bethau i'w gwneuthur yma, ac ni wna moedro ar ansicrwydd bywyd ond gwanhau pob dwylo a pharlysu pob ymdrech.

Rhaid addef y gall hynny ddigwydd, yn wir sonia'r Beibl amdano fel wedi digwydd yn hanes rhyw rai, Bwytawn ac yfwn," meddent," canys yfory marw yr ydym." Mae bywyd mor fyr, ni waeth heb ddechrau ar ddim, nac ymroi at ddim "A short life, and a merry one," onid e? Ond nid yw'r ffaith y gellir camddefnyddio gwirionedd yn ddigon o reswm dros beidio â'i ddefnyddio o gwbl. Gwyddom am Un mwy na'r gloddestwyr hyn, a ddywedodd, "Rhaid i mi weithio tra ydyw hi yn ddydd, y mae y nos yn dyfod, pan na ddichon neb weithio." Byrdra oes yn rheswm dros beidio â gwneud dim, meddai'r bobl gyntaf; byrdra oes yn rheswm dros wneud ein gorau, meddai Iesu Grist. Felly gan y gall yr ystyriaeth droi yn gymhelliad i fywyd gwell, a llawnach, ni raid ymddiheuro am aros gyda hi am ennyd yn hwy.

"Ymdeithydd ydwyf fi ar y ddaear." Nid oeddwn yma ddoe, ni byddaf yma fory, pasio trwodd heddiw yr ydwyf. Cofiaf gwrdd cydnabod yn Llandrindod rywdro, ac ar ôl cyfarch gwell, gofynnais iddo y cwestiwn arferol yno, Ple'r ydych yn aros?" 'Dwy'n aros yn unman," oedd yr ateb, yma am ddiwrnod yr wyf. Yr un modd amdanom ninnau, yma am y diwrnod yr ydym. Fel y dywed y pennill,—

"Ni chawn aros, ni chawn orffwys,
Nes i'n fynd i'r ochr draw.'

Aeth tô ar ôl tô, o'n blaen. Pe caeai yr hynaf ohonoch lygaid ei gorff, ac agor amrannau atgof, nid chwi a minnau a welai yng Nghapel y Dinas heddiw'r bore, nage, ond pobl eraill ymhob sedd yma. Ple mae'r rheini yn awr? Wedi pasio ymlaen i rywle; a chyflymwn ninnau ar eu hôl. O dan amgylchiadau fel yna, ofer bwrw gwraidd ar y ddaear ofer a gwaeth nag ofer gadael i serchiadau'r galon ymgordeddu am bleserau munud awr. Beia rhai y gôg am fenthyca nythod adar eraill, yn lle gwneud nyth iddi ei hun. Ond y mae hyn i'w ddweud o'i phlaid, bird of passage ydyw, ac y mac ei thymor yma yn fyr iawn. Passengers ydym ninnau,—pobl yn myned heibio. Oni chanwn weithiau "Ar fôr tymhestlog teithio'r wyf"—a pha synnwyr mewn cartrefu a nythu mewn lle o'r fath hynny?

Wel, meddai rhywun ohonoch, "ni choeliaf i ddim eich bod yn proffwydo yn ôl cysondeb y ffydd y bore yma. Hanner gwirionedd sydd gennych, neu lai na hynny yn fy marn i." Hwyrach gyfaill, ond fe addefwch chwithau ei fod yr hanner hawsaf i'w anghofio. Ac os rhoddodd ein tadau braidd ormod o bwyslais arno, nid wyf yn siwr na roddwn ni rhy fach o bwys arno yn y dyddiau hyn.

Rhag i chwi feddwl mai gwagedd i gyd sydd gennyf, ar ôl i chwi fynd gartref, darllenwch esboniad y Principal Edwards ar y 14eg adnod o'r bennod olaf o'r llythyr at yr Hebreaid, a chwi a gewch eiriau fel hyn, "Perygl Cristnogion o ymgartrefu ar y ddaear." Chwi a anghofiwch bopeth a ddywedaf i, mi wn, ond peidiwch ag anghofio geiriau y Principal, a setlwch yn eich. meddyliau eich hunain beth yw eu hystyr.

Dywed gwyddonwyr wrthym fod yn y greadigaeth yma ddwy ddeddf yn gweithio yn groes i'w gilydd,—y naill yn tynnu ati, a'r llall yn gwthio draw, ac mai trwy gydweithrediad y ddwy y cedwir cytbwysedd y cyfanfyd. Byddaf fi yn meddwl weithiau fod dwy ddeddf gyffelyb yn y byd moesol hefyd. Mi a wn yn gystal a chwithau fod lle cyfreithlon mewn bywyd i ofal am yr amgylchiadau, lle i ddarbod dros yr eiddo, serch ac anwyldeb teuluaidd. Ond od â'n bywyd i gyd i redeg yn y groove yna, daw trychineb ynghynt neu hwyrach. Gyda'r attachment dylai fod dipyn o detachment hefyd—tipyn o ryw allu i ymryddhau cyn y llwyddir i gadw bywyd ar ei wastad.

Sonia Paul yn rhywle am brynu megis heb feddu, am fod yr amser yn fyr, ac am arfer y byd heb ei gamarfer, neu yn gywirach heb ei lawn arfer, without fully using, heb wthio pethau i'r pwynt eithaf. Yr ystyr, 'rwy'n coelio, yw marchogaeth y byd yn lled rydd, heb wthio ein traed at y sodlau i'r warthol, fel pe baem i fod yn y cyfrwy am byth. Teithiwr oedd Paul, a barnai fod cwlwm dolen yn ddigon o gysylltiad rhyngddo a'r byd. Teithwyr ydym ninnau hefyd.

"Tir rhyw ŵr goludog a gnydiodd yn dda," eithaf praw ei fod yn ffarmwr penigamp. Gwir oedd y gair y pryd hwnnw, fod yr hen ddaear yn lled onest; fel y rhoddwn ni iddi, y rhydd hithau yn ôl. Diau yr ystyrid y gŵr goludog yn model farmer ei ardal. Nid yn unig coleddai'r ddaear, ond gofalai am y cnwd ar ôl ei gael. Darparai ddigon o adeiladau i gadw popeth yn ddiddos. Pe buasai Undebau Amaethwyr, a Chynghorau Dosbarth a Sirol, yn bod y pryd hwnnw, cawsai le amlwg arnynt oll. Ond beth oedd y teitl a roddodd ysbrydoliaeth iddo? O ynfyd!' Thou fool! Paham y siaradai yr addfwyn Iesu mor galed a brwnt am ddyn gweithgar, cynnil, gofalus? Wel, nid oblegid y pethau a wnaeth, ond oblegid y pethau ni wnaeth. Un o'r ddwy ddeddf oedd mewn gweithrediad yn ei hanes. Darparodd yn unig ar gyfer aros yma, ac yntau o angenrheidrwydd yn deithiwr. Felly aeth ei holl fywyd yn smash mewn un noson.

Un o hoff lyfrau ein teidiau a'n neiniau oedd 'Taith y Pererin.' Hanes gyrfa Cristion trwy'r byd ydyw, ac y mae'r syniad sydd yn yr enw yn un ysgrythurol. Dengys yr Epistol at yr Hebreaid fod bywyd saint uchaf yr Hen Oruchwyliaeth yn braw mai dieithriaid a phererinion oeddynt ar y ddaear. Pobl oeddynt yn ceisio gwlad, ond heb ei chyrraedd. Ni chartrefodd Abraham, Isaac a Jacob yn unman, trigo mewn lluestai, gan symud o fan i fan a fu eu hanes. Ac y mae yn deilwng o sylw mai am y tri wŷr hyn yn arbennig y dywedir nad cywilydd gan Dduw ei alw yn Dduw iddynt hwy'; fel pe byddai ganddo Ef ffafr neilltuol i'r ysbryd a'r dymer bererinol.

"Ie," meddai rhywun, "ond trefniant dros amser oedd hwnna; fe addawyd gwlad ddaearol iddynt, a chafodd eu hepil hi yn y man.' Do, rwy'n addef, a chollasant hi hefyd. Ond hyd yn oed pan yn eu gafael, rhannol iawn oedd eu meddiant arni. Gwrandewch ar clause o'r deed a gawsant wrth fyned iddi, "A'r tir ni cheir ei werthu yn llwyr, canys eiddof fi yw y tir (medd yr Arglwydd); oherwydd dieithriaid ac alltudion ydych gyda mi." (Lef. xxv. 23). All-tud-ion, pobl allan o'u tud, allan o'u gwlad, awgrym fod iddynt hwythau wlad yn rhywle. Ond nid Canaan ydoedd ni feddent ond life-interest yno ar y gorau. Na, ymdeithwyr oeddynt hwy, ac ydym ninnau ar y ddaear.

Nid yw hyn yn taflu unrhyw ddiystyrwch ar y ddaear fel lle. Mewn llawer gwedd, nid gormod dweud ei bod yn lle gogoneddus a hyfryd. Cawn ninnau chwilio ei cheinder, a mwynhau ei rhyfeddodau i'r graddau eithaf, ond inni wneud hynny fel tourists, gan sibrwd yr un pryd, " Nid yma mae 'ngorffwysfa i." Oblegid pobl ar y march ydym fel yr Israeliaid yn yr anialwch. Gellir adrodd hanes ein bywyd bron yn yr un geiriau ag yr adroddir eu hymdaith hwy o'r naill wersyllfa i'r llall. "A chychwynasom o'r crud, a gwersyllasom ar aelwyd tad a mam; a chychwynasom o'r aelwyd a gwersyllasom yn yr ysgol; a chychwynasom o'r ysgol a gwersyllasom yn yr egwyddorfa: a chychwynasom oddi yno a gwersyllasom yn yr alwedigaeth, &c." Gŵyr rhai ohonom am le o'r enw Marah, lle yr oedd y dyfroedd yn chwerw; am le arall o'r enw Rephidim, lle yr oeddynt yn brin: am le arall o'r enw Elim, lle o drugaredd yr oeddynt yn helaeth a pheraidd. Cofus gennym am Cades, o'r lle yr anfonem ein hysbïwyr allan i chwilio'r dyfodol, ac am Fynydd Hor lle y collasom ryw Aaron o hen arweinydd. Ychydig ymlaen eto y mae mynyddoedd Abarim, ac o'r fan honno gellir gweled afon Iorddonen ar gyfer Jericho.

Gan mai teithwyr ydym, ac na allwn fod yn ddim arall, gweddus yw bod mor hysbys ag y medrwn o amodau'r daith. Y mater pwysicaf o bob mater i deithiwr yw medru peidio â cholli'r ffordd. Cafodd yr Israeliaid y golofn niwl a thân i'w harwain hwy, a chafodd y Doethion o'r dwyrain seren i'w harwain, ond beth a gawn ni? Ni wna profiad mo'r tro, am fod yr amgylchiadau yn newid o hyd. Anawsterau newyddion, rhwystrau newyddion, temtasiynau newyddion; dyna hanes y daith. Ar ddechrau pob blwyddyn a phob mis a phob wythnos gallwn ddweud, "Ni thramwyasom y ffordd hon o'r blaen." Ond lle y mae cyfle profiad yn cau, y mae cyfle gweddi yn agor. Dwg hyn ni at yr ail fater, sef:—

Gweddi'r Salmydd:—"Na chudd Di rhagof dy orchmynion." Ar ryw olwg nid yw hon chwaith y peth a ddisgwyliem. Dyn bron â'i lethu gan chwim ehediad y blynyddoedd, ac yn teimlo'r tir yn rhoi o dan ei draed; naturiol i hwnnw, debygem ni, erfyn yn debyg i Hesecïah gynt, Eled y cysgod yn ei ôl ddeg o raddau ar y deial, fel yr adfeddiannwyf eto flynyddoedd fy nerth.' Neu o leiaf dorri allan yng ngeiriau Josua fab Nun, a dywedyd, O haul, aros, a thithau leuad, cymer bwyll! peidied y rhod â throi mor gyflym, fel y caffwyf fy anadl, ac y cryfhawyf cyn fy myned ac na byddwyf mwy!" Ond nid hynny sydd yma. Nid gofyn y mae am i ddiwedd oes gilio o'r golwg, ond am i orchmynion Duw aros yn y golwg. Beth a olygai'r gorchmynion iddo ef, anodd gwybod, gan nad oedd rhyw lawer o'r ysgrythur yn bod y pryd hwnnw. Ond ni chyfeiliornwn ryw lawer wrth eu cymryd yn gyfystyr â'r Beibl. "Na chudd Di dy Feibl rhagof."

Yn awr, beth yw gwerth Beibl i deithiwr? Hyn, fy nghyfeillion, llyfr a'i bwrpas ydyw i ddangos y ffordd. Dyma'r guide-book a gyhoeddodd llywodraethwyr y wlad yr ydym yn mynd iddi, i gyfarwyddo pererinion i ben eu taith—

Dengys hwn y ffordd i farw,
Dengys hwn y ffordd i fyw.'

Am hynny, gwyliwn rhag diystyru nac esgeuluso hwn. Peidiwch chwi, feibion a merched ieuaine, â meddwl mai hobby ychydig o hen bobl a phlant yw Ysgol Sul-rhywbeth y gellwch chwi yn eich afiaith fforddio ei hanwybyddu. Camgymeriad arswydus a fyddai hynny, oblegid llyfr yr Ysgol Sul yw yr unig arweinydd diogel ar y daith yr ydych chwi eisoes wedi cychwyn arni. Dod i'r Ysgol Sul a bod yn llafurus ynddi yw y cwrs mwyaf ymarferol y medrwch ei ddilyn tuag at beidio â cholli'r ffordd.

O chewch chwi a minnau ein dwyn yn ddiogel i ben ein taith, nid wyf yn siwr y bydd arnom angen am Feibl wedyn. Awgryma rhai o'i eiriau ef ei hun, na fydd. Ymddygwch mewn ofn dros amser eich ymdeithiad." Byddaf fi ar ben â chwi wedyn. Teimla rhai yn anniddig am na buasai ysbrydoliaeth wedi tynnu mwy o'r llen oddi ar y sefyllfa ddyfodol. Yr oedd John Foster yn hynod felly. Ond nid amlygwyd eto beth a fyddwn. Y cwbl a ellir ei gasglu ydyw na ddaeth i galon dyn erioed odidoced yw y wlad well. Neges y Beibl yw nid ei disgrifio, ond ein helpu yno. Mynegfys ydyw ar y croesffyrdd i ddangos yr iawn gyfeiriad. Buoy ydyw ar yr afon i farcio'r sianel. Goleudy ydyw ar y graig i rybuddio am y perygl.

Pa fath le a gaiff y Beibl yn ein bywydau? Fe fyddaf yn sylwi ar y teithwyr yn yr haf tua Moat Lane acw: fel y byddant yn holi'r swyddogion, yn ymgynghori â'r Time-table, ac yn edrych eu guides, a'r cwbl rhag ofn colli'r ffordd. A ydym ni am fentro taith bellach a phwysicach heb neb na dim i'n harwain heblaw ysbryd yr oes ac arfer gwlad?

Sôn am reilffordd! Safwn ar blatfform Caersws acw dro yn ôl yn disgwyl trên, ac un o wŷr y ffordd yn fy ymyl. Ymhen tipyn, meddai: "Mae o yn dwad yrwan." "Ple gwelwch chwi o? meddwn innau, Wela i mono eto," meddai yntau, " ond y mae'r signals i lawr. Sut yr ydych yn deall y signals yna," gofynnais innau. "Welwch chwi yr ystyllen acw draw, a hon fan hon, a honna fan yna?" "Gwelaf," meddwn innau. "Wel ni ddaw yr un trên i mewn o gyfeiriad Carno heb i'r tair yna fod i lawr. Wrth gwrs, fe all ddod, o ran gallu, ond nid oes yr un gyriedydd yn ei synhwyrau a gynigiai wneud hynny, oblegid dryswch a dinistr a fyddai'r canlyniadau." Meddyliais ganwaith am ei eiriau, a hynny mewn ystyr uwch nag a roddai ef iddynt ar y pryd. Sawl bachgen, sawl geneth, a welais i yn fy nydd yn rhuthro ymlaen i'w gyrfa, â'r signals yn eu herbyn! "Nac edrych ar y gwin pan fyddo coch, pan ddangoso ei liw yn y cwpan, pan ymgynhyrfo yn iawn. Yn y diwedd efe a frath fel y sarff, ac a biga fel neidr." Dyna'r ystyllen yn sefyll allan yn eglur ddigon, ac yn arwyddo, Halt!' Bechgyn ieuainc a fu'n cydadrodd eu hadnodau â mi yn y Seiat yn y Pennant, yn mynnu pasio honna, ac yn cyrraedd y bedd yn hanner eu dyddiau, fwy nag un ohonynt. Bobl ieuainc, onid yw'n werth ymgynghori â'r signal book?

Fe fyddaf yn meddwl weithiau fod y lle a gaiff y Beibl yn ein bywydau ni yn bur debyg i'r lle a gafodd yr Apostol Paul ar fwrdd y llong ar ei fordaith i Rufain. Er bod gan y swyddogion lawer o ryw fath o barch iddo, ni dderbynient ei gyfarwyddyd ar gyfer y daith. "Y canwriad a gredodd i lywydd y llong yn fwy nag i'r pethau a ddywedid gan Paul." Felly, er bod morio weithian yn enbyd, codi angor a wnaethant, a chodi hwyl a gollwng i'r môr, ar draws rhybuddion yr Apostol Paul. Ond cyn bo hir dyma'r Euroclydon yn dod gan wneud y môr fel crochan berwedig, a hyrddio'r llestr i fyny ac i lawr, yn ôl ac ymlaen, fel tegan chwarae. Ac wedi i bob gobaith am fod yn gadwedig ei ddwyn oddi arnynt, dechreuodd Paul gael gwell gwrandawiad A'r gair cyntaf a ddywedodd oedd, "Pe baech wedi gwrando arnaf i yn y dechrau, byddech wedi osgoi llawer o sarhad a cholled. Os gwrandewch chwi heddiw fe gedwir eich bywydau, ond rhaid i'r llong a'i llwyth fynd." Ef yn ymarferol a fu'r Capten o hynny i'r diwedd, a gwiriwyd ei eiriau i'r llythyren. Fe ddaethant i'r lan bob un, rhai drwy nofio, rhai ar ystyllod, ac eraill ar ryw ddrylliau o'r llong. Fe ddaeth pawb i dir yn ddiogel, ond heb ddim cerpyn o luggage gan yr un ohonynt. Rhyw hanner damwain oedd hi hefyd, rhywbeth na allesid yn deg gyfrif arno. "A digwyddodd," meddai'r hanesydd, "A digwyddodd ddyfod o bawb i dir yn ddihangol." Da iawn oedd cael y lan rywsut, ond 'doedd o ddim yr un peth chwaith â myned i'r porthladd o dan lawn. hwyliau, ac eiddo pawb ar y bwrdd.

Fy nghyfeillion ieuaine, a gaf i yn barchus ddweud un gair wrthych chwi? Peidiwch â thrystio eich diogelwch i ddamwain. Ni ddeuwch i groesffordd o hyn i'r bedd nad oes yn hwn gyfarwyddyd eglur yn dweud, "Dyma'r ffordd, rhodiwch ynddi." Perchwch y cyfarwyddiadau o'r cychwyn cyntaf, ac felly fe osgowch lawer o ofid a cholled i chwi eich hunain, ac i'ch anwyliaid. Penderfynwch dreio cyrraedd y lan a'ch luggage gyda chwi, fel y byddo gennych rywbeth at ddechrau eich byd ar y Cyfandir mawr. A yw hynny yn bosibl? Ydyw. "Os gwaith neb a erys, efe a dderbyn wobr." Fe gaiff basio, nage, fe gaiff wobr. Beth fydd honno, tybed? Derbyn cyfarchiad personol y Brenin, "Mi a'th osodaf ar lawer. Bydd di ar ddeg dinas. Bydd dithau ar bump." Beth fydd y wobr? Gweled y pictiwr a dynnaist ti o fywyd yr Iesu yn dy fywyd dy hun ar lechweddi Mawddwy, trwy lawer o rwystrau a digalondid, gweled hwnnw yn cael ei gymeradwyo gan yr Awdurdod uchaf mewn bod, a'i farnu yn deilwng o le yn y Royal Gallery ochr yn ochr â masterpieces yr oesau. Mae'r posibilrwydd yna yn agored i chwi, gwyliwch ei werthu am yr un saig a all y byd hwn ei chynnig i chwi.

Amdanom ni sy'n heneiddio, ac yn gorfod edrych yn ôl ar lawer cam gwag, nid yw y rhagolygon mor addawol. Ni wn i pa fodd yr ydych chwi, hen frodyr a chwiorydd, yn teimlo ond y tir uchaf a fedraf i ei gyrraedd y rhan amlaf yw geiriau'r pennill:—

Mynd yr wy'n llwm tua thir y bywyd
Ffon yn unig yn fy llaw."

A defnyddio iaith yr ysgolion yma, y mae'r siawns am distinction wedi ei cholli am byth, a'r siawns am basio yn edrych yn amheus lawer diwrnod. Beth a wnawn ni ynteu? Oni theimlwch fod y speed yn myned yn uwch ac yn uwch o hyd? Mae'r blynyddoedd wedi mynd yn rhyw bytiau byrion yrwan wrth y peth oeddynt ers talwm. Nid cynt y bydd Calan Ionawr heibio nag y bydd Calan Mai wrth y drws, a chyn gynted ag i ni basio hwnnw bydd ias Calan gaeaf yn yr awel. Ond od yw amser, fel Jehu gynt, wedi mynd i yrru yn ynfyd, rheswm yw hynny—a dwbl reswm—dros inni wylio'r arwyddion yn fanylach nag erioed. Mae llawer ohonynt wedi mynd out of date i ni erbyn heddiw, praw arall mai teithwyr ydym. "Cofia yn awr dy Greawdwr yn nyddiau dy ieuenctid,"—nid yw honna yn ddim i mi mwyach. Mae deugain mlynedd er pan oeddwn ar ei chyfer. "Anrhydedda dy dad a'th fam." Ugain mlynedd yn rhy ddiweddar! Ond o drugaredd y mae yna rai ohonynt yn ein taro ni heddiw. Edrychwch rhag i'ch calonnau drymhau.' "Marchnatewch hyd oni ddelwyf." "Bydded eich lwynau wedi eu hymwregysu, a'ch canhwyllau wedi eu golau, a chwithau yn debyg i ddynion yn disgwyl eu Harglwydd." Dyna hwy, "O'u cadw y mae gwobr lawer.

"Pan fo natur wan yn methu,
Pan fo twllwch o bob tu,
Pan ddiffoddo lampau'r ddaear,"

gall y rhai hyn, o'u parchu, oleuo ein ffordd a'n cyflawni o lawenydd yn nhroeon mwyaf dyrys yr yrfa. Hoff gennyf i erioed emyn Pantycelyn—

"Dyn dieithr ydwyf yma,
Draw mae 'ngenedigol wlad."

Dechreua'r bardd yn y cywair lleiaf, yn ymwybodol ei fod ymhell o'i le, a deisyfa am y deheuwynt i'w wthio o'i grwydriadau. Yn nes ymlaen, y mae'r deheuwynt wedi dod, ac wedi gwneud ei waith, a thôn y bardd wedi newid. "Ni byddaf yn hir cyn gorffen," meddai. Gorffen sut, tybed? Ai ar y gwaelod? O nage,—

"Ddim yn hir cyn glanio fry."

Sut yr wyt ti mor hyderus, Williams? A yw cartref yn y golwg? Nac ydyw, ddim yn y golwg eto, ond mae'r signals o'n hochr bob un.

"Pob addewid, pob bygythiad,
Pob gorchymyn sydd o'm tu."

Mae'r tair ystyllen i lawr, fel pe dywedai, yn arwydd imi fentro ymlaen, fod y cwrs yr wyf arno yn berffaith ddiogel. Soniwch chwi am force y currents, a nerth y tonnau, os mynnwch mi ganaf innau—

Gair fy Nuw sy'n drech na moroedd,
Gair fy Nuw sy'n drech na'r don,
Mi anturiaf oll a feddaf,
Fythol . . .


I beth? I gywirdeb y signals sydd ar ddalennau'r hen Lyfr. Dyma dâl bendigedig am oes o grefydda, onid e? Wel, beth a allwn ni ei wneud yn well ar y diwedd, fy nghyfeillion, na chyd-ymuno yng ngweddi'r Salmydd, "Na chudd Di rhagof dy orchmynion."

Tri gair ar hyn:

1. Nid yw cuddio yn y plan. Gorchmynion ydynt, ac y mae'r rheini, yn eu natur, wedi eu bwriadu i fod yn hysbys—fel Iesu Grist ei Hun wedi eu rhoddi i'w gwneuthur yn amlwg.

2. Os bydd rhaid cuddio, nid o'i fodd y gwna Ef hynny. Fe wna bopeth braidd cyn gildio i guddio ei eiriau Ei hun. Wylodd uwchben Jerusalem gan ddywedyd, "Pe gwybuasit tithau, ie, yn dy ddydd hwn y pethau a berthynent i'th heddwch eithr yn awr y maent yn guddiedig oddi wrth dy lygaid." Dy lygaid,—awgrym hwyrach mai yn y llygaid yr oedd y bai am y cuddio, ac nid yn y pethau.

3. Hyd yn oed os yw'r cuddio wedi dechrau, a'r Gair a'r Weinidogaeth wedi mynd i siarad llai â ni nag a wnaent unwaith, y mae un addewid yn aros eto, "Os ceisi hi fel ceisio arian: os chwili amdani fel am drysorau cuddiedig; yna y cei ddeall ofn yr Arglwydd, ac y cei wybodaeth o Dduw." Oddi wrth y bobl sydd yn gwrthod chwilio ac felly yn taflu diystyrwch ar y trysor, ac yn ymarferol yn gwadu bod yno drysor o gwbl, oddi wrth y rhai hynny y bydd yr Arglwydd yn cuddio yn derfynol. Un o ddeddfau sylfaenol teyrnas Nefoedd yw bod yr hwn sydd yn ceisio yn cael. Gofynnwn ninnau iddo yng ngeiriau'r pennill:

"O gad imi'n fuan, Arglwydd,
Glywed geiriau distaw'r Ne',
Rhag im' redeg heb im' wybod
Ar ryw law i maes o'm lle."

A bydd cyn gofyn ohonom iddo Ef ateb, ac â ni eto yn Ilefaru iddo Ef wrando, ac anfon inni ddatguddiad llygaid fel y gwelom bethau amhrisiadwy werthfawr allan o'i gyfraith Ef.

Hyn fyddo ein rhan, yn hen ac yn ieuanc, er mwyn y Gŵr a dderbyniodd roddion i ddynion, ie, i'r rhai cyndyn hefyd. Amen.


(Dinas Mawddwy, Ionawr 1926).

Nodiadau

[golygu]