Cymeriadau (T. Gwynn Jones)/Alafon

Oddi ar Wicidestun
David Williams Cymeriadau (T. Gwynn Jones)

gan Thomas Gwynn Jones

John Morris-Jones


ALAFON


"TAD! ie," meddai, a rhyw hanner gwên ar ei wyneb tirion, oedd y pryd hwnnw heb ôl y boen a fu arno wedyn, "ro'n i'n meddwl mai chi 'ro'n i'n i weld yn dwad ar hyd y ffordd. Sut yr ydach chi? Dowch i mewn!"

Gŵr tal, golygus. O ran teip, pe dodesid cap Cardinal am ei ben, tyngasech mai Eidalwr o Gardinal ydoedd, ac nid Cymro o weinidog Methodist. Y peth cyntaf yr wyf yn ei gofio amdano yw ei enw—Alafon. Nid oeddwn ond glaslanc y pryd hwnnw, ond darllenswn rywbeth. o'i waith. Ni wnaeth y darn, pa beth bynnag ydoedd, ddigon o argraff arnaf i beri i mi ei gofio. Ond fe wnaeth yr enw.

Fel y bydd dyn yn synio am un nis gwelodd, syniais mai gŵr tal, bonheddig ydoedd, ag iddo wyneb tirion. Ac am unwaith, bu gywir y dychymyg fydd mor fynych yn methu. Clywais ef yn pregethu droeon yn ystod y blynyddoedd. hynny, ond nid erys cof am ei bregethu. Y peth yr wyf yn ei gofio'n fyw o'r cyfnod hwnnw yw ei wyleidd-dra a mwynder ei lais.

Pan euthum i fyw i Gaernarfon, yn rhywle o bump i chwech ar hugain oed, deuthum i'w adnabod, braint y byddaf yn ddiolchgar amdani tra bwyf. Daethom yn gydnabod cyn hir, ac yn gyfeillion yn y man. Gŵr oedd ef a ddeallai ac na wrthodai ei dirionwch a'i gydymdeimlad hyd yn oed i'r "to newydd" gwrthryfelgar oedd, yntau yn ei dro, yn mynd i roi'r byd yn ei le, heb fwy o amcan am ddeall y to cynt nag to cynt nag oedd gan hwnnw—oddieithr Alafon—am ei ddeall yntau.

"Tad annwyl!" meddai ef, pan ddywedem neu pan ysgrifennem rywbeth gwaeth na'i gilydd, a rhyw wên addfwyn yn crychu cornel ei wefus, a'i lygaid dyfnion yn rhyw araf droi tuag atom. Cof gennyf am yr amser y cyhoeddwyd llyfr Saesneg tra phlaen ar y Pulpud Cymreig,[1] gan dri o rai tipyn hŷn na'm cymdeithion a minnau, dau o Arfon ac un o Fôn. Bu ymosod ffyrnig arnynt mewn rhai cylchoedd, ond nid ydoedd hyd yn oed y pechaduriaid rhyfygus hynny y tu hwnt i ddealltwriaeth a chydymdeimlad Alafon— clywais ef yn eu hamddiffyn yn dawel ac urddasol yn erbyn ymosodiad gwyllt a chyffredin iawn.

Yn fy nghydnabyddiaeth i ag ef, y peth cyntaf a'm tarawodd oedd ei ddawn i ddeall syniadau a safonau newyddion—nid ei fod o angenrheidrwydd yn eu derbyn bob amser, ond ni phallai byth a'u deall, ac ni frochai un amser o'u plegid. Deallodd darddiad a datblygiad y mudiad llenyddol newydd a ddaeth tua'r cyfnod hwn, fel canlyniad naturiol astudio'r Gymraeg a'i llenyddiaeth yn drefnus o gyfnod i gyfnod. Meddwl agored, ysgolheigaidd, oedd ganddo, a thiriondeb cyson, hyd yn oed pan feirniedid y traddodiad y dygwyd ef i fyny yn ei ganol.

Anffawd yn hytrach na bai'r traddodiad hwnnw oedd bod bylchau tost yn ei gysylltiad a'i wreiddiau ei hun, ac nad oedd iddo ond un math o ymgeledd a nawdd, sef cystadleuaeth eisteddfodol. Canlyniad y cyfyngdra hwn oedd mai darn cymharol fyr hyd yn oed o lenyddiaeth Gymraeg oedd yn weddol hysbys i'r traddodiad, a syniad ei feirniaid yntau am gyfnodau cynt oedd na chynhwysent odid ddim ond "ofergoeledd mynachaidd." Rhyw ddechrau darganfod anghywirdeb y syniadau hyn yr oedd y rhai a elwid yn "do newydd," ac nid oedd fodd i hynny ddigwydd. cyn dechrau dwyn llawysgrifau a llyfrau Cymraeg at ei gilydd i lyfrgelloedd cyhoeddus—o ran hynny, nid ydys eto ond ar ganol y gwaith hwnnw.

Meddwl oedd meddwl Alafon a allai sylweddoli'r pethau hyn. Nid oedd ar ei gyfyl ddim o osgo'r bobl fydd yn sôn amdanynt eu hunain fel "ni'r beirdd" ac yn diflasu dyn drwy sôn am "yr awen" a rhyw rwdlan felly. Ni chaech mono ond ar ddamwain fawr i sôn gair am ddim o'i waith ef ei hun. Nid mater o newid mesur neu eirfa oedd y gwahaniaeth a welir yn ei bethau diweddarach ef o'u cymharu â phethau'r cyfnod cynt, ond cais dealltwriaeth celfydd wrth natur i ennill y feistrolaeth a fynnai'r nwyd honno nad oes gelfyddyd hebddi, ac ni aned mo'r sawl a allai fforddio symlu rhyw nawdd uwchraddol tuag ato ef, gan awgrymu nad oedd ei ddatblygiad yn ddim ond rhyw wendid neu fympwy, rhyw geisio bwrw ymaith feistrolaeth ar un dull er mwyn dynwared un arall.

Nid dynwared a fynnai Alafon, ond bodloni nwyd y celfydd a ddeallai ac a fedrai ddal i'w ddisgyblu ei hun hyd y diwedd, a phlesio llai arno'i hun nag ar neb arall wedi'r cwbl. Yr oedd ynddo ef ddyfnderau nas mynegodd erioed mewn un gerdd o'r eiddo. Nid yn ei awdlau cystadleuol y down o hyd iddo, canys er iddo gystadlu llawer —cystadlu oedd llenydda yn ei gyfnod a'i gylch ef yn ei ieuenctid—eto, nid cystadleuwr mono ef wrth natur. Yn rhai o'i gerddi mân y cawn gip ar y dyn rhyfeddol oedd Alafon.

Ac am y dyn y mynnwn sôn. Hyd yn oed yn y cyfnod anturiaethus yr wyf yn sôn amdano, ni byddai ddim tebyg i gael mynd i fyny i Glwt-y-bont i dreulio diwrnod gydag ef. Byddai'r peth fel pererindod.

"Tad! ie, 'ro'n i'n meddwl mai chi 'ro'n i'n i weld yn dwad ar hyd y ffordd. Sut yr ydach chi? Dowch i mewn !"

I mewn â minnau ac i'r astudfa—yr hen un, cyn altro'r tŷ. Aeth titw tomos las allan yn ebrwydd drwy'r ffenestr agored pan welodd ddyn dieithr yn dyfod i mewn, ac aeth at y plisgyn cneuen gocoa a ddodasai gŵr y tŷ at ei wasanaeth ar y pren gyferbyn. Rhedodd yr ehedydd cloff i ymguddio yn y dail mewn bocs yn y gornel (deuai i mewn bob nos i gysgu yno, byth er pan drwsiodd gŵr y tŷ ei goes iddo, ac yno y cysgodd nes ei ladd ryw ddiwrnod gan y gath, a themtio'i gymwynaswr bron i'w lladd hithau). Yr oedd gan y gath y tro hwn fwy o hyder ac ymddiried. Daeth a rhwbio'i phen yn erbyn fy nghoes a mewian ddwywaith neu dair yn gyfeillgar. Esgusodwch fi am funud," meddai gŵr y tŷ, "rhaid i mi sgrifennu llythyr neu ddau. Mae rhyw fachgen bach o'r ardal yma yn Llundain, a'i fam druan yn o wael, ac y mae tipyn o drwbwl ynghylch ewyllys rhyw hen greadur arall a fu farw dro yn ôl."

Aeth ati i sgrifennu. Daeth robin goch yn y man ar astell y ffenestr, camodd ei ben ac edrych odd i mewn. Gwelodd yntau ddyn dieithr, ac aeth yn ei ôl i chwilio am bryfed llai.

"Mygwch tra bydda i wrthi," meddai gŵr y tŷ. "Dyma'r gymysgedd. Awn allan am dro wedyn."

Sail y gymysgedd oedd dail tybaco, a'r chwaneg iadau oedd dail rhosyn coch wedi eu cynhaeafa. Gorffennwyd y llythyrau, ac aethom allan. Tra buasem i mewn, disgynasai cawod drom o law taranau, nes troi llwch y ffordd yn llaid gwlyb. Fel y cerddem ymlaen, safodd Alafon yn sydyn gan edrych ar lawr. "Mi ddaw rhywbeth ar ei draws o," meddai; plygodd, cododd rywbeth a thaflodd ef dros y gwrych i'r cae. Wrth yr ôl fel llinyn oedd ar draws darn o'r ffordd, dyellais mai pryf genwair oedd y peth a welsai.

"Tad!" meddai yntau, tan wenu, "dyna fi wedi drysu arfaeth y creadur bach yna am byth, hwyrach!"

Cerddasom i fyny ochr y mynydd, onid oeddym yng ngolwg Llanberis, onid wyf yn cam-gofio. Soniem am bryfed genwair, adar a blodau. Cyfarfuom ag amryw bobl ar y ffordd. Sylwais nad aeth un dyn ieuanc na bachgen heibio i ni heb dynnu ei gap i'm cyfaill, nac un hen wraig heb ei gyfarch fel "Mistar Owen bach!" cyn ymadael. Wedi cyrraedd man neilltuol, dyma ni yn sefyll.

"Y mae arna i eisiau dangos rhywbeth i chi," meddai fy nghyfaill. "Edrychwch ar draws y cwm. Welwch chi lun wyneb merch ar yr ochr arall?"

Gwelwn yr wyneb. Trwyn a gên Roegaidd, a'r gwallt wedi ei droi'n gwlwm ar y gwegil yn null y Groegesau gynt.

"Dyna," meddai yntau, "the great lone face of Eryri, fel y galwodd rhywun ef. Y maent yn dywedyd bod rhyw burdeb rhyfeddol ynddo, ac mi fyddaf yn meddwl eu bod yn iawn hefyd. Bydd yn hoff gennyf ddyfod yma i edrych arno."

Rhyw graith ar y mynydd ydoedd, ond po fwyaf y syllem arno, tebycaf yn y byd ydoedd i wyneb merch, a'r argraff arno yn rhyfeddol bur ac unig ac ardderchog. Bûm yn edrych, yng nghwmpeini cerfiedyddion medrus, ar waith rhai o hen feistri Groegaidd a Rhufeinig y cŷn a'r morthwyl, ac yn gwrando'n ddyfal ar eu hesboniadau dysgedig ar gamp y gwaith. Ychydig iawn a lefarodd f'arweinydd y tro hwn. Craith ar fynydd oedd o'n blaenau, un o ddamweiniau Natur. Eto, gwelais fwy nag y medrodd y lleill ei ddangos i mi, canys safwn yn ymyl bardd a chelfydd, un na fedrodd, efallai, er cymaint o bethau tlysion a ddywedodd erioed, ddim llefaru traean yr hyn a ganfu, a deimlodd ac a ddeallodd, ond a fedrodd beri i eraill weled a theimlo a deall rhywfaint ohono hefyd.

Disgynasom i lawr i'r pentref yn araf, heb siarad rhyw lawer. Fel yr oeddym yn cyrraedd y tŷ, yr oedd y taranau yn dechrau rholio yn y pellter, a chymylau dugoch yn yr awyr, yn corri mynyddoedd Eryri. Ymsaethai'r glaw i lawr fel picellau. arian, gan chwilfriwio'n fil o ddagrau gloywon yn erbyn pren, maen a daear. Ni cheid egwyl rhwng taran a tharan, gan ateb y creigiau.

"Tad! ond ydi'r sŵn yn ardderchog!" meddai fy nghyfaill, a safem yn fud i wylio a gwrando. Hoffwn gofio rhai o'r ychydig bethau a ddywedodd, ond ni ddaw ond un yn ôl fel y llefarwyd—"Tad! ond ydi'r sŵn yn ardderchog!" Ond daw tôn y llais mwyn, a'r goleuni tawel oedd yn y llygaid ac ar yr wyneb yn ôl ar draws y blynyddoedd cymysg, y goleuni "na bu erioed ar dir na môr," ond a welwn ni, bechaduriaid, weithiau, drwy lygaid rhai o freiniol feibion Duw.

Aethom i'r tŷ ac eistedd yn hir i wrando ar y sŵn. Pan dawelodd yr ystorm y noswaith honno, dechreuodd fy nghyfaill sôn am gasgliad bychan o'i gerddi yr oedd arno flys ei gyhoeddi. Gwyddwn am lawer o'r darnau eisoes. A chyn i ni fynd i gysgu, rywbryd yn oriau mân y bore, clywais gyfrinach a wnaeth i mi feddwl fy mod yn deall pam yr aethai'r wyneb unig hwnnw ar lethr y mynydd megis yn bersonoliaeth i Alafon. Darllenodd i mi ddwy gerdd nas clywswn o'r blaen, ac nad oedd yntau am eu dodi yn y llyfr. Yn brin a syml iawn, dywedodd yr hanes. Crefais arno eu cyhoeddi, ac fe wnaeth—"Hen fynwent bro hud" a "Dros y Ffin" (gweler y Cathlau, td. 62/64). Mi wn na byddai ef ddig wrthyf mwy am ddywedyd cymaint â hyn. Ni allwn ofyn iddo, ond rywfodd ni allwn beidio â meddwl bod yr wyneb unig a ddangosodd i mi yn debyg i wyneb rhywun, gynt . . .

Yr wyf yn cofio mynd i'w hebrwng i'w gyhoeddiad, ddiwrnod poeth heulog ym mis Gorffennaf. Ar hyd ffordd Fethel yr aem. Dechreuodd sôn am adar. Gwyddwn eisoes ei fod ef yn gyfaill pob ederyn gwyllt, a chreaduriaid heb fod lawn mor hygar-gweler y soned, Cathlau Bore a Nawn, td. 82, "Meudwy'r Ardd," i'r llyffant a laddodd ef drwy ddamwain wrth drin yr ardd, a'r gerdd ar y tudalen nesaf i'r Brongoch Briw." Gwyddwn hefyd ei fod yn bysgotwr-hen gamp a ddysgodd yn hogyn, yr wyf yn sicr, ar wahân, megis, i dynerwch mawr ei natur. Ond dyma'r pryd y dyellais gyntaf am faint ei wybodaeth, a honno'n wybodaeth a enillwyd ar ei hunion o lyfr natur, heb gymorth llyfrau dynion.

Nythai brain yn y coed tua Chae Tolpis, ac aethom i sôn am frain. Cofiaf i mi ddywedyd fy mod wedi darllen yn rhywle bethau rhyfedd am arferion brain. Dechreuodd yntau ddywedyd eu hanes, fel y profant ac y cosbant rai a droseddo yn eu plith eu hunain. Nid wyf yn honni gallu cofio ei eiriau fel y llefarodd hwy bellach, ond dyma gynnwys rhan o'r ymddiddan hwnnw:

"Lle bydd brain yn cartrefu, cewch lawer o bleser wrth eu gwylio. Adar call iawn ydynt, a phe bai dynion yn deall eu harferion yn iawn, nid wyf yn amau dim na ddysgem lawer oddi wrthynt. Y mae'n wir, mi gredaf, fod ganddynt gyfraith yn perthyn i'r haid, a'u bod yn profi ac yn cosbi'r brain a'i torro. Pan fo'r llys yn profi un fo wedi troseddu, fe welwch y carcharor yn y canol, a'r lleill o gwmpas ar y coed, a dyna lle byddant yn crawcian am hydion, yn union fel pe baent yn tystiolaethu ac yn dadlu ac yn rhoi barn. Gwelais hynny droeon fy hun, ac unwaith gwelais y carcharor yn cael ei droi ymaith o blith yr haid. Yr oedd yno sŵn ofnadwy, a phob brân fucheddol a'i phigiad ar y frân ddrwg, nes aeth hi o'r golwg.

"Yr wyf yn cofio sôn am y peth wrth hen goedwr ar ystâd y Faenol, a dywedodd yntau fod yn ddigon gwir bod y brain yn cosbi troseddau yn eu herbyn. Gwelodd brawf felly ei hun, meddai, a'r diwedd fu i'r frân a dorrodd y gyfraith gael ei chrogi rhwng dau frigyn, a phob un o'r lleill yn ei phigo yn ei thro, ac yno y bu ei chorff nes pydru! Wni ddim a oedd y manylion i gyd yn wir, ond adroddai'r hen wr yr hanes yn ddifrif ddigon."

Un ystori arall, am gallineb cŵn y tro hwn. Credai Alafon fod cŵn yn gallu rhesymu. Cefais innau ddigon o achos i gredu'r un peth, a thrin y mater hwnnw yr oeddym. Meddai yntau:

"Tad! ie, creaduriaid rhyfeddol ydi cŵn. Yr wyf yn cofio un hen gi, a adwaenwn yn dda pan oeddwn yn rhyw hogyn. Yr oedd o wedi mynd yn hen iawn ac yn ddiwerth ers talwm, wedi colli ei ddannedd, a'i glyw wedi mynd yn drwm, ond ni allai ei feistr yn ei fyw feddwl am wneud dim iddo fo. Sut bynnag, yn ei henaint, mi gafodd ryw glwy, a dyna lle'r oedd o yn dihoeni ac yn bwrw ei flew ac wedi mynd i fethu bwyta, nes bod yn drueni edrych arno.

"Ryw ddiwrnod, dyma'r ffermwr, wrth edrych arno'n gorwedd ar lawr y gegin, yn dywedyd wrth ei wraig: Yn wir, mae'n drueni gweled yr hen gi yma. Mi fyddai'n fwy o drugaredd i saethu fo na gadael iddo fyw fel hyn. Lle mae'r gwn?' Wedi cael hyd i'r gwn, aeth y ffermwr ati i'w lanhau'n barod. Llwythodd y gwn, ond erbyn mynd i chwilio am yr hen gi, nid oedd olwg arno yn unman. Tua'r hwyr, daeth yr hogyn o'r caeau, a dywedodd weled y ci yn ymyl rhyw hen bwll mwyn ar y tir. Ac yno wedi boddi yn y pwll y cafwyd yr hen gi druan. Nid wyf yn amau dim nad oedd wedi deall."

Tua chanol y ffordd i fyny i allt Fethel, safasom i gymryd ein gwynt. Dyma Alafon yn dechrau gwneud rhyw sŵn bach main drwy dynnu ei anadl rhwng ei wefusau. Yr oedd robin goch ar y wal yn ein hymyl. Fel y gwnai Alafon y sŵn, neidiai robin yn nes atom. Daeth i lawr ar y ffordd ac yna yn nes nes, hyd onid oedd wrth droed Alafon, fel pe buasai'n hen gyfarwydd ag ef. Yno y bu yn edrych i fyny ato, hyd nes i mi yn ddifeddwl symud fy nhroed. Yna, ehedodd i ben y wal drachefn. Pe buasem yng Nghlwt-y-bont, buaswn yn deall y peth, ond yr oeddym yn rhy bell o gyrraedd cydnabod personol Alafon yn y fan honno. Gofynnais iddo sut y gallai ef wneuthur peth felly. "Wn i ddim," meddai tan wenu, "ond maent yn greaduriaid bach dofion iawn, ac yn cyfeillachu â dyn yn rhwydd."

Adroddodd i mi wedyn ei hanes ef ei hun yn croesi'r mynydd ac yn dyfod ar draws rhyw lannerch fach werdd, lle'r oedd ffrwd fechan yn ymwasgar ar hyd y tir, a blodau gwylltion yn tyfu yno, ac ederyn bach unig yno'n canu a'i holl egni, o lawr i frigyn ac o frigyn i lawr. Y llannerch honno oedd "Gwerddon y Ffridd," gweler Cathlau Bore a Nawn, td. 36. O, ydyw, y mae yntau bellach wedi dyfod o hyd i

"ryw lannerch fel hon,
O dlysni parhaus a dedwyddwch llon,
Heb gof am ofidus glwyf!"

—os nad cof ganddo, hyd yn oed yno, fod ambell hen gyfaill eto mewn dygn ymdrech am einioes hynny o ffydd a adwyd iddo yn y byd sydd o honi!

Fis Awst, 1915, bwriais ddeuddydd a noswaith yn Llwyn Iorwg. Cyrhaeddais yn ddi-rybudd, fel arfer, ond nid oedd hynny ond mwy fyth o groeso, ped fai bosibl. Prudd oedd gweled dadfeiliad y corff gwisgi, golygus, a rhyw ymostyngiad trist ond mwyn yn y drem. Braint oedd cael mynd allan gyda'r offeiriad—arferaf y gair o fwriad—ar ei hynt i edrych am ei blwyfolion, a'i helpu dros gamfeydd y gwelais ef yn eu neidio gynt. Yr oedd yr wybren y diwrnod hwnnw yn llawn cymylau gwynion disglair o bob llun. Cytunasem ein dau fod cysgod uffern ar y byd, ond wrth edrych ar y cymylau, y mae'n ddiau gennyf ei fod ef yn gweled y tu draw iddynt i gyd. "Dacw fyd," meddai, "y mae hi'n dawel acw ac yn olau."

Treuliasom fin yr hwyr yn yr ardd, lle'r oedd digonedd o fefus ac eirin Mair. "Y mae'r merched yma," meddai, "wedi eu hel, ond gadael tipyn i'r adar." Gallwn ysgrifennu pennod am ardd Alafon, ond darllened pawb a ddarlleno hyn o annheilwng goffa ei gerdd ef ei hun iddi (gweler y Cathlau, td. 44). Prin yr oedd ganddo gymaint ag arfer i'w ddywedyd y dechreunos hwnnw, mewn geiriau, o leiaf. Ond wedi cilio o'r goleuni i'r gorllewin a disgyn arnom o dawelwch y nos, daeth egwyl o'r hen amser drosto. Dywed odd lawer o bethau wrthyf, fwy nag erioed o'r blaen am ei fywyd a'i brofiadau ef ei hun, hanes cyfansoddi cerdd "Hen Gloc Mawr y Dre" ac ambell un arall, hanes yr hen gylch llenyddol yng Nghaernarfon gynt. Buasai'n darllen trwy lythyrau a phapurau oes ychydig cyn hynny, a chyfododd llawer peth i'r wyneb with sôn am danynt. Yr oedd y Cathlau wedi eu cyhoeddi erbyn hyn. Diolchais iddo am ddodi yn y llyfr y ddwy gerdd yr oedd yn betrus yn eu cylch gynt. Cefais wybod y noswaith honno beth y buasai'n rhy hy gennyf ei ofyn byth iddo—pwy oedd y ferch a gwsg yn yr hen fynwent, honno a wyddai'r ddirgel ffordd dros y ffin. Yn y gwyll caredig, gwelwn ei lygaid gwlybion yn disgleirio, a chlywn ei lais fel pe buasai'n dyfod o bell . . .

Cefais un olwg arno wedyn, yn Aberystwyth, tua diwedd Medi—yr olaf. Yr oedd ef dipyn yn fwy syn a thawedog. Fel erioed, fe wyddai fwy nag a ddywedai.

Dywedodd wrthyf unwaith na theimlodd erioed ei fod wedi llwyddo yn ei amcanion. Atebais mai rhyw "frychfeddwl," fel y dywedai yntau yn nydd ei afiaith gynt, oedd peth felly; ac eto, yr oedd Alafon yn fwy na dim a wnaeth, yr oedd y tu hwnt i bob amheuaeth yn Gristion a gŵr bonheddig. Pa waeth am ddim arall yn y byd? Gŵyr eraill o'i hen gyfeillion, efallai, ddirgelwch y pennill rhyfeddol hwn o'r eiddo, ac oni ŵyr ein calonnau ninnau fwy na'n pennau, pe na bai arnom ofn ymddiried ynddynt?—

"Mi wn fod ffin, mi wn fod llen,
Yn cuddio'th wlad oddi wrthym ni,
Ond gŵyr fy nghalon fwy na'm pen,
A'r ddirgel ffordd a wyddost ti!"

1916, 1930.


Nodiadau[golygu]

  1. The Welsh Pulpit. . . By a Scribe, a Pharisee and a Lawyer. London, 1894.