Cymru Fu/Dameg yr Hen Wraig a'r Edafedd

Oddi ar Wicidestun
Llwyn y nef Cymru Fu
Dameg yr Hen Wraig a'r Edafedd
gan Isaac Foulkes

Dameg yr Hen Wraig a'r Edafedd
Tudur Aled a'r Bysgodwraig

DAMEG YR HEN WRAIG A'R EDAFEDD.

Yr oedd hen wraig unwaith yn cael ar ddeall fod anghydfod parhaus yn mhlith ei phlant a'i hwynon, yr hyn a barai iddi deimlo yn dra adfydus. Galwodd hwynt oll yn nghyd, ac archodd i bob un ddyfod a phellen o edafedd gydag ef. Cydsynio a wnaethant hwythau a'i chais; a hi a gymerth edafedd oddiar un o'r pelleni ungor, a rhwymes âg ef ddwylaw y gwnaf o'i hwyrion, eithr torwyd hwnw yn ddioed. Rhwymes ei ddwylaw drachefn gydag edefyn ungor cryfach, a hawdd y torwyd hwnw hefyd. Yna parodd yr hen wraig iddynt gyfrodeddu yr holl beleni yn un rhaff; ac wedi iddynt wneud hyny, hi a gyraerth o hono, ac a rwymes ddwylaw y cryfaf o'i meibion. " Tôr di hwn yna, os gelli," ebai hi, eithr nis gallai yntau mewn un modd. Yna yr hen wraig a'u hanerchodd hwynt oll fel hyn; — " Gymaint cadarnach ydyw yr edef yn gyfrodedd nag yn ungor! Felly chwithau, fy mhlant a'm ŵyron, tra byddoch yn anghydfod â'ch gilydd, pob un trosto ei hun, ac heb gysylltiad rhyngoch, hawdd ydyw eich gorfod. Ond os cydymlynwch yn gydgyfrodedd, nis gall gelyn yn y byd eich gorddiwes." O hyn y tarddodd y ddiareb, "Cadarnach yr edef yn gyfrodedd nag yn ungor;" a diareb arall, " Nid cadarn, ond cydnerth;" ac un arall, " Hawdd taflu'r mynydd i'r môr ar ol ei wahanu y naill gareg oddiwrth y llall."


Nodiadau[golygu]