Cymru Fu/Eiry Mynydd

Oddi ar Wicidestun
Y Tylwyth Teg Cymru Fu
Eiry Mynydd
gan Isaac Foulkes

Eiry Mynydd
Llwyn y nef

EIRY MYNYDD.

EIRY Mynydd, blin yrr'r byd.
Ni ŵyr neb ddamwain golud;
Nid â traha i wereryd;
Ni phery dim ond enyd;
Gnawd gorfod yn ol adfyd;
Twyllo gwirion sy' enbyd;
Byth. ni lwydda un a gwŷd;
Ar Dduw'n unig rhown oglud.
Eiry Mynydd, gwyn corn mŵg,
Hoff gan leidr dywyllwg;
Gnawd galanas o hir gilwg;
Gwyn ei fyd a fo diddrwg;
Hawdd cymhell diriaid i ddrwg;
Nid da digwydd trythyllwg;
Ar benaeth, bai fydd amlwg;
Coelia'n llai'r Glust na'r Golwg.
Eiry Mynydd mawr a rôs,
Gofal herwr ar hirnos;
Anaml lles o rodio'r nos;
Cyn credu myn yr achos;
Cam ffordd i ddieithr na ddangos;
Na wreicca, ond yn agos;
Nag anifeiliaid ar gefn rhôs
Llywodraeth gwyr sydd anos.
Eiry Mynydd, da yw hedd;
Cyn dechreu, gwêl y diwedd;
Mawr gofal dyn mewn blinedd;
Gnawd adfyd yn ol trawsedd;
Gweddwa un peth yw bonedd,
Oni chanlyn rhyw rinwedd,
I wrthwyneb aruthredd:
Ystyrio dyn sydd ryfedd!
Eiry Mynydd, melus Gwin;
Pwy ŵyr dranc mab wrth feithrin?
Ni cheir parch ar gysefin;
Nid gwerthfawr y Cyffredin;
Nid rhybarch rhŷ gynefin;
Nid parhaua llywiadwr gwerin;
Am bechodau'r cyffredin,
Rhydd Duw annoeth frenin.
Eiry Mynydd, llw ŷch llôg,
Bechan teyrnas i chwanog;
Gnawd yr ieuanc yn ddifiog;
Aml tro ar feddwl serchog;
Na thyn chwareu ar daeog;
Na fydd ry hyf ar rywiog;
Gwae'r neb a fo dyledog,
Lle bo annoeth dywysog.
Eiry Mynydd, hoff yw clod,
Ni waeth digon, na gormod;
Yn ol traha, gnawd gorfod;
Mawr y w codiad aur dafod;
Ar ddim na wna mo'r difrod;
Ni ludd i gael y parod;
Nid llai heiniar [1] er cerdod;
Cywira cydymaith, priod.
Eiry Mynydd, Duw fy Nêr,
Trwmaf cwymp o'r uchelder;
Anhardd ar benaeth, balchder;
Gwisg oreu i ferch yw gwylder;
Hardd iawn ar wr yw hyder;
Gwell nag athraw yw arfer;
Gwedi profi ffyrdd llawer,
Mae'r byd i gyd yn ofer.
Eiry Mynydd, dail ar onn,
Tryma dim dwyn gofalon;
Cletta clwyf, clefyd calon;
Nid gŵr i'r byd yw'r Cyfion;
Mwyaf cam y dyn union;
Mwyaf ofnir y trawsion;
Trwy fìloedd o beryglon
Duw a weryd ei wirion.
Eiry Mynydd, ceir gweled
Nad da mynych nâg am gêd;
Nid cybydd yw pob caled;
Na edliwia i neb ei dynged;
Heb fai nid neb a aned;
O fynych fenter, gnawd colled;
Ni lwydd a wneir mewn hoced;
Gwaethaf 'stor oll o'r merched.
Eiry Mynydd, mae'n hysbys
Gnawd edifeirwch o frys;
Drwg fydd lleferydd ffawtus;
Anodd cydfod eiddigus;
Ni fawr gwsg un gofalus;
Mawr gwenwyn y gwenieithus;
Pell amcan y deallua;
Ffola dyn y cenfigenus.
Eiry Mynydd, llydan môr,
Goreu ar Hen ei gynghor;
Dyro i'th well ei ragor;
Gwell celfyddyd na thrysor;
Ffol nwyfus, hawdd ei hepcor;
Un fath a llong ar gefnfor,
Heb raff, heb hwyl, heb angor,
Ydyw'r Ieuanc heb gynghor.

[Llywarch Hen, awdwr y gerdd uchod, oedd dywysog yn mhlith y Prydeiniaid Gogleddol; eithr y llwyth hwnw yn cael ei orchfygu gan y Saeson, Llywarch a enciliodd i Gymru, ac a wladychodd ar lan Llyn Tegid. Yn yr ardal hono drachefn bu brwydrau creulon rhyngddo â chyd- wladwyr Hengist mewn lle a elwir hyd y dydd hwn Rhiw-waedog. Yr oedd iddo bedwar ar hugain o feibion, a 'chollodd yr oll ohonynt yn y rhyfeloedd hyn. Cyfansoddodd farwnad iddynt, yn mha un y sylwai yn effeithiol ar amgylchiadau eu marwolaeth a manau eu bedd. Enw ei fab hynaf oedd Gwên, ac ymddengys mai hwn oedd anwylyd enaid ei dad. Lladdwyd Gwên a'i farch mewn brwydr; ac yn mhen hir amser ar ol hyny, dodwyd penglog yr olaf yn lle careg mewn sarn ar afon yn agos i'r lle y lladdesid ef. Llywarch ar dramwy a ddamweiniodd ddyfod heibio i'r sarn hono, a'i was a ddangoses y penglog iddo gan fynegi ei helynt. Yna y dywedodd Llywarch: —

MI a welais ddydd i'r march,
Ffriw[2]* hydd, taflydd tywarch,
Na sangai neb ar ei ên
Pan oedd tan Gwên ab Llywarch.

Blodeuai tua'r flwyddyn 590; a dywedir ei fod yn 150 oed pan fu farw, am hyny y gelwid ef yn Llywarch Hen.

Nid yw'r geiriau "Eiry Mynydd," neu eira mynydd, ond hoel i hongian arni y gwirebau ffraethbert.]


Nodiadau[golygu]

  1. cnwd y maes
  2. wyneb