Cymru Fu/Hen Lanciau Clogwyn y Gwin

Oddi ar Wicidestun
Pennod Cynddelw Cymru Fu

gan Isaac Foulkes

Hen Benillion


HEN LANCIAU CLOGWYN Y GWIN.

GAN GLASYNYS.

WRTH sawdl y Wyddfa, yn nghwr uchaf Nant y Bettws heb fod yn neppell o lyn Cawellyn, y saif olion muriau hen dỹ Clogwyn y Gwin. Rhywle tua phedwar ugain mlyn- edd yn ol, yr oedd yno'n byw dri neu bedwar o frodyr ystig. Llabystiaid esgyrniog cyd-nerth, wedi cael eu magu yn ol dull iach yr hen amser, sef ar uwd a llymru, a bara ceirch a maidd, a chig defaid, a choch yr wden, &c.

Yn wir yr oedd rhywbeth hynod o gylch sodlau y Wyddfa tua'r adeg dan sylw. Yr oedd hen Lanciau'r Clogwyn yn ieuanc y pryd hyny, a Ffowc Tŷ du yn ei breim.. Cadi'r Cwm glas yn lodes lysti, a Margred Uch Ifan tua Phen-llyn, mor heinyf a phe buasai yn ddim ond un-ar-hugain oed, ac yntau Rhisiart William, delynor, ei gŵr, mor ffraeth a diddan a neb tafarnwr a fu'n cadw cil pentan mewn un oes.

Ni roisai llawer un yn awr gryn lawer am gael dim ond haner diwrnod yn nghwmni yr hen greaduriaid hynod hyn; pa un bynag ai'n hela hefo Modryb Margred, neu'n lladd mawn hefo Chadi'r Cwm glas, neu ynte'n taflu maen a throsol hefo Ffowc Tŷ-du, neu, os ceid cyfle, chwareu mig hefo Llanciau'r Clogwyn. Criw direidus enbyd oedd y rhai'n. Unwaith yr oedd y Teiliwr wedi bod yn addaw d'od i'r Clogwyn i weithio am yn hir, ac yn eu siomi. Ond ar ol hir a hwyr ddisgwyl daeth, ac nid oedd ond "talu i'r Teiliwr" ar ol iddo ddyfod. Felly dyma ddau o honynt i'r tŷ, a chloben o raff rawn o dan gesail un o honynt. Yna aethant un o bobtu'r bwrdd, a dechreuasant o ddifrif "dalu i'r Teiliwr" am ddweyd celwydd. "Aros di, Twm," ebai Ned Owen, "mi gei di fyn'd i gyfri'r sêr oddiar gefn yr ebol melyn. Tyr'd yrwan 'y mrawd." Gafaelodd y ddau ynddo, ac allan ag ef, a'r hen wraig eu mam yn mwynhau y driniaeth cyn gysted a neb. Daliwyd yr eboles felen yn hwylus a rhwymwyd y Teiliwr hefo'r rhaff rawn ar ei chefn, ac yna'r cwn ar ei hol ar hyd y llechwedd, a thrwy ganol y corsydd, i lawr at Lyn Cawellyn, ac i fynu at Gwm Planwydd, nes oedd yr hen gorphilyn bron wedi marw rhwng ofn a phobpeth. Troes y ferlen ei phen tuag adref, ac unionodd am Glogwyn y Gwin, a'r meibion wrth fodd eu calonau wedi cael gweled boneddwr y nodwydd ddur yn chwrlio ar gefn yr eboles felen. Yr oeddynt wedi dysgu campau ystumddrwg i'r eboles, oblegyd dyna fel y galwent hi, er ei bod yn ddiddadl wedi bod yn pori ar y weirglodd gerllaw am o leiaf ddeuddeg haf. Ar ol i Tomos y Teiliwr gael ei ryddhau, oblegyd yr oedd ei ddwylaw a'i draed yu rhwym pan ar gefn yr anifail, cymerwyd ef i'r tŷ, a gorfu arno fwyta cryliad o faidd. Yna cafodd lonydd am y diwrnod hwnw. Dro arall yr oedd Tomos yno'n gweithio, ac erbyn hyn nid oedd neb arall a ddeuai'n agos at y tŷ, rhag ofn a fyddai gwaeth iddo. Yr oedd Ifan Hir y Waun fawr wedi gorfod bwyta crochanaid o uwd yno rywbryd, ac yfed tri chwart o hen gwrw or ol hyny, nes y bu yn sâl am wythnos gyfan. Ac yr oedd Deio bach Nant Cwm Brwynog wedi cael gwasgu'r fêg arno, a'i ddowcio'n dda ganddynt rywbryd. Yr oedd Deio'n llawn mor gastiog a hwythau, ac ni phryfociodd neb mo Lanciau'r Clogwyn haner mor ddeheuig ag ef am gymaint o amser. Byddai Deio'n myned dros y mynydd yn fynych ddydd Sul i ad-dalu am a wnaed iddo gynt. Byddai yn myned uwchben Clogwyn y Gwin ac yn gwaeddi nerth esgyrn ei ben,

"Yr hogiau mawr diog,
Mae DEIO CWM BRWYNOG
Yn gofyn am gyflog
Yn gefnog ar gan:
Dowch allan, lebanod,
I odro eich gafrod,
Chwiorydd cam bychod, Cwm Bychan."


Byddai hyn yn sicr o dynu'r holl deulu allan, a'r cwbl yn wibwrn wylit. Rhedai un ffordd yma, fel milgi ar ol ysgyfarnog, ac un arall a wadnai'r ffordd draw fel ebol gwyllt, ond nid oedd yn ddim haws dal mellten pan yn gwibio drwy'r awyr na cheisio dal Deio. Byddai yn sicr o gael eu blaen a chyrhaedd Cwm Brwynog yn groeniach hollol. Ond i fyned yn ol at Twm y Teiliwr: yr oedd ef bob amser yn cael haner ei ferthyru ganddynt pan elai yno i bwytho. Y tro dan sylw, yr oedd y Teiliwr ar ben y bwrdd ryw ddechreunos, a dyma'r cŵn yn cyfarth yn ddi-drefn. Dyma un o'r brodyr yn myned allan, ac yn gwaeddi, "Myn cigfran, hogiau, y mae Jac y Lanter ar weirglodd Cawellyn." Piciodd y Teiliwr oddiar y bwrdd, ac am y drws, a chyda hyny dyma ddau o genawon yn ei gipio i ffwrdd ac at lan yr afon yr aed, ac yno rhoed tri chynyg iddo: y 1af oedd myned at gorn ei wddf i gorbwll; yr 2il, neidio tros bladur a gafael yn modiau ei droed; a'r 3ydd, yfed cowdal, milar strộc. Dewisodd Twm yr ylaf. Aeth i'r tŷ ar wâr un ohonynt, ac yna dechreuwyd o ddifrif wneud y cowdal ar ei gyfer. Ond mynai Ned mai lledr yfent a mêl oedd y peth goreu iddo, a chan na fedrent gytuno cafodd y Teiliwr lonydd y tro hwn. Daeth Twm Deiliwr yn araf deg i ddeall y Llanciau; a phan elwid arno, yno yr âi yn union deg, a chaffai groeso calon ganddynt. Y mae dwy neu dair eraill o chwedlau pen gwlad am danynt, ond cadwn y rhai hyny hyd rywbryd eto. Y mae Hen Lanciau Clogwyn y Gwin wedi myned i ffordd yr holl ddaear er's blynyddau, a'u campau drwy drugaredd wedi diflanu.


Nodiadau[golygu]