Cymru Fu/Llen y Ffynonau

Oddi ar Wicidestun
Iarll Richmond a'r Breudiwr Cymru Fu
Llen y Ffynonau
gan Isaac Foulkes

Llen y Ffynonau
Twm Gelwydd Teg

LLEN Y FFYNONAU.

YR oedd tair ffynon yn Ngogledd Cymru nodedig am eu teithi cyfareddol, sef Ffynon Tegla, Ffynon Gwenfrewi, a Ffynon Elian. Un o epilion coelgrefydd ac anwybodaeth ydyw priodoli unrhyw rinau goruwchnaturiol i ffynonydd; ac oni buasai fod Pabyddiaeth wedi achlesu yr ofergoel am Ffynon Gwenfrewi, ni chlywsid son am yr ysgymunbeth gwarthus hwn o fewn ein terfynau. Er cyn y diwygiad Protestanaidd dirgel-lynodd Eglwys Rhufain wrth y drychfeddwl o nawdd ac eiriolaeth Gwenfrewi ar a thros bawb ffyddiog a ymofyneut lesâd yn y dwfr elwir ar ei henw; ac yma y bu Pabyddiaeth yn Nghymru fel boncyff, yn llechu fel marw, hyd onid elai rhuthrwyntoedd ei gauaf Protestanaidd heibio. Yn ddiweddar, oherwydd fod awyr Protestaniaeth yn myned yn anmrwd a chlauar, dechreiuodd yr hen foncyff flaendarddu; ac fel y mae yn alarus adrodd, chwenychodd rhai o'n cenedl ei ddail gwenwynig, ac wedi eu bwyta, y maent mor farw i ni, fel cydwladwyr a Christionogion, a phe buasent yn y bedd. Fy nghydgenedl, costiodd y rhyddid gwladol a chrefyddol a feddwn yn ddrud i'n cyndadau, ac a gysgwn ni tra y mae'r gelyn yn ailosod ei gadwynau gormesol ? I lawr a'r mân gecriadau enwadol — i fynu â baner undeb a chariad crefyddol, ac anadled ein Protestaniaeth mor bur nes lladd holl efrau gwenwynig Pabyddiaeth.

FFYNON TEGLA.

Tardda y ffynon hon mewn cors a elwir Gwern Degla, oddeutu dau can' llath oddiwrth eglwys plwyf Llandegla, sir Ddinbych. Yr oedd ei dwfr o dan nawdd a bendith y Santes Tegla, yr hon a argyhoeddwyd gan yr apostol Paul, ac a ddioddefodd ferthyrdod yn Iconium dan deyrnasiad Nero. Nid ymddengys y priodolid unrhyw rinau i'r ffynon hon ond at wella ffitiau, neu fel y gelwir yr anhwyldeb weithiau, Clwyf Tegla, ac yr oedd yn angenrhaid i'r truan claf fyned trwy yseremoniau canlynol cyn derbyn meddyginiaeth :— Dechreuid ar y seremoni wedi machlud haul. Yr oedd yn angenrheidiol i'r dyoddefydd, os gwryw fyddai, gymeryd ceiliog gydag ef— os benyw, iar a gymerai — a'r aderyn hwn a ddygai y claf mewn basged gydag ef yn ei holl symudiadau. Yn gyntaf, efe a gerddai dair gwaith o gwmpas y ffynon tan adrodd Gweddi yr Arglwydd; yna elai i'r fynwent, a cherddai dair gwaith oddeutu yr eglwys drachefn, tan ail-adrodd yr un weddi. "Wedi hyn elai i mewn i'r eglwys, gorweddai, yr orchuddiedig â llawrlen neu garped, odditan fwrdd yr allor, hyd doriad y dydd dranoeth, a chanddo Feibl mawr dan ei ben yn lle gobenydd. Gadawai yr aderyn yn rhydd yn yr eglwys, ac wedi iddo offymu tua chwe' cheiniog ar y bwrdd y bu efe yn cysgu tano y noson flaenorol, dychwelai i'w dŷ ac at ei dylwyth. Ond yr oedd un pryder yn aros eto ar ei feddwl pa un ai llwyddianus y ddefod ai peidio, sef, os na byddai i'r aderyn farw yn yr eglwys, aethai ei holl drafferth yn ofer; ac os marw a wnai y pechaberth gwirion, credid bod yr afiechyd wedi ei drosglwyddo iddo ef, a'r clwyfus wedi derbyn ymwared rhagllaw oddiwrth ei wasgfeuon dirdynol. Cyfiawnder â ffydd yr oes bresenol ydyw hysbysu fod yr arferiad ryfedd hon wedi llwyr ddarfod er ei bod ar rai ystyriaethau yn eithaf diniwaid, ac iddi mewn rhai amgylchiadau, trwy ddylanwadu ar feddwl hygoelus y dyoddefydd, fod o les a meddyginiaeth iddo.

FFYNON ELIAN.

Dywed Pennant fod y ffynon hon unwaith yn enwog am wella clefydon; ac y gellid ymgynghori yn fanteisiol trwyddi mewn arwyddion âg Elian ei nawddsant o barth lladradau, a dirgel-lochesfeydd ysbeilwyr a ffoaduriaid drygionus eraill. Pa fodd bynag, ymddengys, trwy ryw law fedrus mewn cyfaredd, fod ei heffeithiau wedi eu trawsnewid o'r nodwedd gwasanaethgar hyny i fod yn niwaid ac yn felldith. Os byddai ar ryw adyn cythreulig eisiau dial mewn rhyw ddull ar ei gyd-ddyn, prysurai tua ffynon Elian, gosodai ei achos gerbron offeiriad dewinol y ffynon, ac yntau am ychydig arian a ffugiai gyflawni amcanion maleisus y dialydd. Gan belled ag yr ydym yn deall. ysgrifenid enw y truan melldigedig ar ddarn o bapur, rhoddid pin ynddo, ac yna teflid ef i'r dwfr; ac o'r funud hono allan, os na ddeuai y truan i gymod a'i ddialydd, poenydid ef â thrueni ac anffawd hyd ddiwedd ei einioes helbulus; eithr os cymerai y cymod hwn le, dyddimid y felldith trwy dalu rhagor o arian i'r dewin. Mae yn ddiameu hefyd na buasai gan ei urddas dewinol unrhyw wrthwynebiad i godi y papuryn o'r dwfr, heb ganiatâd yr hwn a'i hawdurdododd i'w roddi yno, ar dderbyniad swm go hardd o "ddelwau y brenin," gan y blaid arall.

A fu yr ynfydrwydd uchod erioed yn llwyddianus i niweidio rhyw bersonau, sydd ofyniad rhy anhawdd i ni ei ateb; ond y mae yn eithaf hysbys na waeth i ddyn mo'r llawer fod dan felldith na chredu ei fod felly; a phan ga'i llawer un ar ddeall ei fod yn y ffyuon, tybiai fod pob-peth. mewn natur a rhagluniaeth yn rhyfela yn ei erbyn. Bu hyn yn achos i ambell dddynan gwangalon roddi ei yspryd i lawr a disgyn i fedd anamserol. Pe buasai rhyw allu yn y moddion yma o felldigo, yr oedd y sawl a wnaent ddefnydd o honynt yn gymaint dynladdwyr ag un drwgweithred a dalodd erioed am ei fai ar y crogben. Ond nid yw yn debygol yr ymddiriedai Duw gyflwr tymorol ei greaduriaid i giwed anfad cyrau ffynon Elian. Bellach y mae yr ofergoel hon hefyd, trwy ddylanwad gwareiddiad a'r Efengyl, wedi ei llwyr ddileu, a'r dewin naill ai oherwydd ad-dynerwch cydwybod, neu oblegyd gwaelder arianol y gorchwyl, wedi troi at ryw ddyledswydd well neu fwy enillgar; ac nid edrychir ar Ffynon Elian ond fel ar ryw ffynon arall, megys

" Ysten Duw i estyn dwr."

FFYNON GWENFREWI

.

Yr oedd Gwenfrewi yn byw yn y 7fed ganrif, ac yn hanu o deulu pendefìaidd. Merch ydoedd i Thewith, boneddwr urddasol a breswyliai yn y gymydogaeth lle y saif Treffynon yn bresenol: ac yr oedd ei mam, Gwenlo, yn hanu o deulu hynafol yn sir Drefaldwyn. Ewythr iddi, frawd i'w mam, ydoedd St. Beimo, mynach a meudwy enwog yn ei ddydd, yr hwn a ymneullduodd i Glynog yn sir Gaernarfon, ac yn ddiweddarach a adeiladodd eglwys yno, ac a sefydlodd fynachdy. Wedi hyny efe a ymwelodd â'i berthynasau yn sir Fflint, a chafodd ddarn o dir at adeiladu eglwys yno hefyd gan ei frawd-yn-nghyfraith, lle yr ymgymerodd efe yn gyfan-gwbl â swydd mynach, ac y cymerth dan ei ofal ei nith Gwenfrewi. Gesyd y Pabyddion hi allan fel gwir eilun prydferthwch personol, ac yn burdeb a sancteiddrwydd wedi ymgnawdoli — ei bywyd wedi ei gyflwyno i weithredoedd da, ac yn ymlochesu rhag surdoes y byd drwgpresenol rhwngmuriau yr abades-dŷ. Y mae nerth ffydd y brodyr hyn yn eithaf hysbys; ac y mae yn ddigon naturiol meddwl y medr yr un dwylaw ag a allant " droi gwir ddwfr yn wir waed " dirawsffurfìo cymeriad menyw ieuanc o fod yn rhinweddol fe ddichon i fod yn berffaith a difai, a myned trwy ryw ffurfìau cyfrin yn mhen ugeiniau o flynyddoedd wedi ei chladdu er mwyn ei sancteiddio. Hudodd " prydferthwcn personol" Gwenfrewi serch tywysog ieuanc o'r enw Cradog, mab i'r brenin Alen, ond yr oedd y "sancteiddrwydd" crybwylledig yn rhwystr iddo gael ad-daliad o'r serch hwnw. Ofer fu ei holl ymgeisiadau at enill calon Gwenfrewi — yr oedd hono wedi ei gosod ar wrthddrych uwch na marwol ddyn; ond y mae serch fel yr afon yn enill nerth a gwylltineb trwy rwystrau, neu fel y llysieuyn camomeil, ei wraidd yn dyfnhau ac yn ymledu wrth ei sathru; ac yr oedd serch Cradoc wedi enill y fath nerth trwy ei rwystrau, nes goruwchlywodraethu ar ei reswm, brenin arfaethol yr enaid. Cyfarfyddodd hi wrthi ei hunan un diwrnod, a rhoddodd ei ddymuniadau ger ei bron, mewn dull nad oedd yn hollol gyson â rhinwedd, a hithau mewn dychryn a ymdrechodd ddianc ymaith. Yr oedd y siomiant hwn yn ormod i nwydau y gŵr ieuanc ei oddef — efe a'i hymlidiodd ac a'i goddiweddodd yn mhen y pantle a elwid y pryd hwnw Sychnant — dadweiniodd ei gleddyf, a chydag un ergyd torodd ei phen ymaith. Dialwyd yr adyn yn y fan — tarawyd ef i lawr yn farw, a'r ddaear ddigofus a agorodd ei safn ac a lyncodd ei gorff ysgeler. Dywed un hanesydd fod barn wedi disgyn hyd yn nod ar ei deulu, a'r unig ffordd y celent waredigaeth rhag hyny ydoedd trwy ymweliadau mynych â'r ffynon, neu âg esgyrn y sanctes yn yr Amwythig.

Rholiodd y pen i lawr y llechwedd i'r Sychnant, lle y safai y capel a adeiladwyd gan Beuno Sant, a safodd yn ymyl ei furiau; a'r pryd hyny, o'r fan hono, y ffrydiodd Ffynon Gwenfrewi allan am y waith gyntaf erioed. Y mae y mwswgl oddeutu y llecyn yn beraroglus, ac ar un adeg o'r flwyddyn y mae y ceryg megys yn spotiau o waed, er cof am y dygwyddiad. Cododd St. Beuno y pen oddiar y ddaear, dygodd ef at y corph, asiodd y ddau yn nghyd yn drefnus, ac wedi iddo weddio, ymgododd y lladdedig i fynu yn fyw; ac nid oedd arni unrhyw graith oddigerth rhyw linell wen gul o gwmpas y gwddf yn aros er tystiolaethu am y wyrth ryfeddol.

Nid yw yr hahes yn colli dim o'i deithi dychymygol wrth fyned yn mlaen. Bu Gwenfrewi fyw wedi hyn am bymtheg mlynedd. Tynodd ei hanadl olaf yn y Gwytherin, sir Ddinbych, lle y gorphwysodd ei llwch hyd deyrnasiad Stephan, brenin Lloegr; a'r pryd hwnw, yn nghanol rhialtwch, gweddiau, a defosiynau trystfawr, symudwyd ei rhan farwol i abad-dŷ St. Pedr, yn yr Amwythig. Adgofir ei marwolaeth gyntaf gan eglwys Rhufain ar yr 22ain o Fehefin, a'i hail farwolaeth ar y 3ydd Dachwedd. Bedyddiwyd cloch yn yr Amwythig ar ei henw, a chymerid rhan yn y seremoni gan amryw gyfoethogion. Cymerasant oll afael yn y rhaff, enwasant yr offeryn, a'r offeiriad, gan ei thaenellu â dwfr sanctaidd a'i bedyddiodd yn enw y Tad, a'r Mab, a'r Ysbryd Glân. Yna gwisgwyd hi â brethyn hardd, a chynaliwyd gwledd fawr, a derbyniodd yr offeiriad lawer o arian ar ran y gloch. Wedi ei bendithio fel hyn, yn enwedig â'r bendithion olaf, yr oedd ei chlul yn abl i lonyddu ystormydd, iachau clefydon, a gyru ymaith ysbrydion drwg. Medr yr offeiriad Pabaidd am arian wneud Gabriel o Beelzebub ei hunan.

Dywed ein hanesydd, fod sancteiddrwydd bywyd Gwenfrewi wedi ei brofi trwy wyrthiau dirif. Yr oedd bron gymaint o rinwedd i'w dderbyn oddiwrth ddyfroedd ei ffynon ag oddiwrth lyn Bethesda gynt; iacheid pob math o anhwylderau. Ar y muriau uwchben y dwfr y mae lluaws o ffyn baglau, hen gadeiriau, &c, wedi eu gadael yno yn dystion gan y rhai a dderbyniasant feddyginiaeth, a'r rhai nad oedd angen arnynt am y cyfryw ategion i ddychwelyd; ond yr ydym yn ofni nad ydyw y rhai hyn yn adlewyrchu nemawr mwy o glod ar "sancteiddwydd" Gwenfrewi nag ar chwedlau pen bawd yr hen Fodryb Gwen o Aberdaron. Ymddengys hefyd fod y sanctes yn meddu ysbryd llawer eangach a haelfrydicach na'r gweddill o'i chydgrefyddwyr, canys yr oedd ei charedigrwydd iachaol yr un mor agored i hereticiaid Protestanaidd ag i'r Pabyddion uniongred.

Y mae yn ddiameu fod lluaws o elfenau llesol yn perthyn i'r dwfr oer hwn fel i lawer o ddyfroedd eraill; a dywed pawb ond y sawl sydd wedi eu dallu â i'hagfarn ac anwybodaeth, nad oes dim rhagoriaeth goruwchnaturiol ar ei gyful. Nid ar genedl y Gymry y mae y cyfrifoldeb fod yr ofergoel hon yn fyw yn bresenol: o'i rhan hi buasai wedi ei chladdu er's blynyddau yn medd gwrach y rhibin, bwciod y nos, ac adar y cyrff. Gwyddelod a Saeson Pabyddol Lancashire ydynt yr unig ddosparth bron a ymwelent â'r lle ar ddybenion hygoelus crefyddol; ac nid anfynych, hyd yn nod yn yr oes oleuedig hon, y gwelir hwynt hyd yr ên yn y dwfr yn gweddio, yn ymffurfio, ac yn dwyn eu penydiau. Y mae llysieuwyr enwog wedi profi tu hwnt i bob anmheuaeth nad ydyw y mwswgl peraroglus a'r ystaeniau gwaedlyd ond pethau digon cyffredin. Ceir y cyfryw fwswgl gerllaw amryw ffynonau yn Ngogledd Cymru; ac am y tybiedig waed, y mae yn bur gyffredin yn Lapland, ac i'w gael mewn manau yn Nghymru. Math o ysbwng melfedaidd ydyw. Geilw Linaeus ef Byssus Jolithius.

Dichon fod ffynonau eraill yn y Dywysogaeth â thraddodiadau lled hynod yn eu cylch; ond tybiwn fod y tair y sylwasom arnynt, yn eu gwahanol nodweddau, yn cynddrychioli y gweddill.