Cymru Fu/Sul Coffa Ifan Delyniwr

Oddi ar Wicidestun
Y Forforwyn Cymru Fu

gan Isaac Foulkes

Chwilio am arian Daear


SUL COFFA IFAN DELYNIWR

YN ein herthygl ar "Gladdu yn yr Hen Amser," Cyf. 1af, tudal. 91, anghofiasom grybwyll am yr hen ddefod o Goffa y marw y Sul cyntaf ar ol yr angladd. Rhyw hen arfer ysmala ddiniwaid oedd y Coffa yma—un o ddigrif bethau crefydd yr hen bobl. Elai perthynasau y marw i'r Llan y Sul ar ol claddu, ac wedi darfod o'r Gwasanaeth elent at y bedd, penlinient yno, ac wedi treulio tua phum' mynyd yn yr agwedd hon, ymadawent, a dyna'r Coffa. Ond y mae rhywbeth swynol iawn mewn hen ddefod, hyd yn nod hen ddefod ryfedd fel hon. Edrycher ar y wyryf ieuanc hawddgar acw, lân o bryd a glân o fuchedd, gyda'i gwefusau cwrel, a'i dwy foch fel pe buasai dau rosyn coch tlws wedi eu cusanu a gadael eu hargraff arnynt, ei gwallt du llywethog, a'i ffurf luniaidd gymesurol—pob tlysni yn cyd-gyfarfod i'w gwneud yn un o gywrain brydferthion natur. Edrycher arni yn dynesu at fedd newydd ei hanwylyd y Sul cyntaf wedi i'r fynwent oer dderbyn ynddo ef glaer obeithion ei serch, ac y mae yn anhawdd canfod golygfa lawnach o deimlad a dyddordeb; canys y mae galar bob amser yn prydferthu prydferthwch fel yr ardderchogir gwyrddlesni Mehefin gan gawod o wlaw. Hi a benlinia tan yr ywen ddu—uwchben gweddillion yr un a garai, a gwlych ei thirion ruddiau â dagrau, lleinw adgofion am dano holl ystafellau ei meddwl, a dichon y twng hi yno i'w gwyryfod na rydd ei serch mwyach ar neb ond ar yr Hwn ac ar yr hyn sydd uchod. Gwnaed llawer adduned di-dor â phurdeb cyn hyn oddiar y bedd Sul y Coffa. Felly, Mr. Surdrwyn Pharisee, ti a weli mai "Gwell hen arfer na drwg fuchedd."

Ond a Sul Coffa Ifan Delyniwr y mae a fynom ni. Un o'r dynion caredicaf a droediodd esgyd erioed oedd Ifan, nis gallai edrych yn ddidostur ar angenoctyd, ac yr oedd y fath ffordd fèr rhwng ei law a'i galon fel yr oedd ei logell bob amser yn wag; a'i fysedd bob amser yn brysur yn lleddfu tylodi a thrueni ei gymydogion. Yr oedd efe yn caru phawb, a pha ryfedd fod pawb yn ei garu yntau. Nid ydym yn meddwl fod yn yr holl fyd crwn elyn iddo. Cynaliai ei rieni yn eu hen ddyddiau o fethiantwch a llesgedd. Pan fyddai y weddw dlawd mewn gwasgfa am arian i dalu ei rhent, yr oedd telyn a thalent Ifan at ei gwasanaeth—dim ond gofyn; a chwyn yr amddifad ni ddiystyrid gan y Telynor calon-lawn. Un felly oedd o; felly y gwnaeth natur o; a buasai yn gymaint cosp arno ei fod yn gybyddlyd ag a fuasai i'r cybydd fod yn hael. Gwnelai hyn ef yn anwylun yr ardal yr oedd yn byw ynddi; a thywelltis llawer bendith galonog ar ei ben. "Dy ewyllys i ti, Ifan bach," a "chwareuer telyn ar dy fedd," oeddynt fendithion cyffredin yr oes hono tua Dyffryn Clwyd. Os caf eich bendith gyntaf, 'wyf yn siwr o'r olaf," fyddai ei ateb yntau. A gafodd efe hyny?- ni a gawn weled.

Y pryd hwn, edrychai ein harwr yn ddyn hoenus cryf, yn dynesu at ddeg ar hugain oed; ac fel pe buasai blynyddoedd lawer o hen ddyddiau ar ei gyfer; ond wele angau yn dechreu araf ddatod y llinynau a gysylltant enaid a chorph, a phob dydd yn d'od a rhyw wendid newydd i'r golwg. Dechreuad ei afiechyd oedd y gwlybaniaeth a gafodd wrth groesi mynydd Hiraethog ar ei ffordd o balas Nannau, lle y buasai am bythefnos yn difyru y boneddigion â

Iaith y delyn, nyth diliau,
A'i mel o hyd yn amlhau.

Pan ar ganol y mynydd diarffordd, daeth yn niwl arno, ac yn y niwl wlaw, ac yn y gwlaw genllysg; collodd yntau ei lwybr; crwydrodd yn y niwl; a churwyd ef mor ddidrugaredd gan y cenllysg nes yr ymollyngodd yn lluddedig o tan lwyn o eithin; ac yno y bu hyd oni thorodd arno wawr dirion y bore. Dyma sylfaen ei afiechyd, a'r afiechyd hwn a derfynodd ei einioes.

P'eth digon sobr ydyw angau pob dyn; ond pan fyddo bardd farw, mae'r achlysur yn cenhedlu yn gyffredin ddwsin o feirdd i farwnadu ei glodydd; ond pan y byddo telynor marw, odid fawr y daw neb i lanw ei le, canys y mae ein telynorion Cymreig fel eosau ein coedwigoedd yn prysur ddiflanu o'r wlad. Suddo yn raddol i dynged dynolrywyr oedd Ifan; ac fel y gellid tybied cydymdeimlai ei gydnabod yn ddwys ag ef, ac amcan pawb oedd lliniaru ei gystudd, a llacio gafael angau arno. Yr oedd ei ystafell wely yn un ystorfa o gynyrchion caredigrwydd serch. Gwelid yno winoedd y boneddwr; ac yno yr oedd "hatling y wraig weddw dlawd," ar ffurf sypiau o Lun Llygaid, Morwyn y Weirglodd, a llysiau eraill a ystyrid o dirfawr leshad rhag y darfodedigaeth; a meddyliai y claf lawn cymaint o sypyn llysiau y tlawd ag o gostrel win y boneddwr, a diolchai am danynt yr un mor galonog. Ond "er gwaedd mil er gweddi mam," suddo yr oedd o, o ddydd i ddydd. Cefnodd gobaith am fyw oddiwrtho toc, a chyda gobaith am fywyd cefnodd hefyd ofn marw; dymunodd gael gweled ei brif gyfeillion wrth erchwyn ei wely; ac mewn teimladau ffeind iawn ffarweliodd â hwynt oll, trwy ddeisyf ganddynt ei ddeisyfiad olaf. Codwyd ef ar ei led orwedd yn ei wely, a chan gasglu ei ychydig nerth yn nghyd, bloesg lefarodd wrthynt fel hyn:—Yr wyf yn myn'd. Carwn gael fy Nghoffa. Ond nid yn yr hen ddull. Yn lle'r hen ddefod, gofynwch i Williams y Merllyn a Richard y Telyniwr, dau o'm disgyblion telynol, dd'od i Eglwys Llanfwrog, a doder fy nwy delyn I iddynt; ac wedi gorphen y Gwasanaeth, cerddant at y bedd; ac eistedded Williams wrth y pen a Richard wrth y traed, a chwareued y ddau saith o hen Alawon Cymreig, gan ddechreu gyda 'Dafydd y Gareg Wen,' a diweddu gyda Thoriad y Dydd.' Y mae y gyntaf yn lleddf fel angau, a'r llall yn sobr fel dydd brawd." Yna diffygiodd ei nerth, ac yn ddiochenaid, cymerodd ei yspryd ei aden, ni a obeithiwn, i well byd: a phenderfynwyd cario allan ddymuniad y Telynor i'r llythyren.

Aeth y gair allan fod rhywbeth rhyfedd i gymeryd lle yn Llanfwrog y Sul hwnw; a phan ddaeth yr amser, yr oedd yno luaws mawr o bobl wedi ymgynull. Dywedai y Clochydd wrthyf na welodd efe erioed gynifer o bobl ag a welodd yn Llanfwrog y bore sanctaidd hwnw-lawer o honynt wedi dyfod ddeg neu ddeuddeg milltir o ffordd er mwyn clywed y newydd-beth o ddwy delyn yn chwareu deuawdiau wrth Goffa; ac na welodd erioed ond y tro hwnw gynulleidfa a phob llygad ynddi a'i lon'd o ddagrau. Bore o Fai oedd hi, a'r adar ar y prenau o gwmpas yn caroli'n braf folawd eu Creawdwr; ond pan darawodd y ddau Delynor eu deuawd yr oedd yr acenion galarus yn peri i gor y goedwig ddal eu hanadl, ac yn dryllio teimladau y bobl yn chwilfriw mân. Ac y mae yn anhawdd dychymygu Coffa mwy gweddus i Delynor na chyda lleisiau yr offerynau cerdd yr ymddifyrau eienaid gymaint yn eu seiniau. Saethir gynau tros fedd y milwr dewr, paham ynte na chwareuer telynau wrth Goffa y Telynor mwyn. Boneddwr uchelwaed oedd "Williams y Merllyn," yn sugno prif ddiddanwch ei fywyd wrth "ddysgu gwaith angylion," ac wrth dynu'r mêl o'r tanau màn," a gresyn na byddai rhagor o'n boneddigion Cymreig yn meddu yr un cyffelyb chwaeth. Dyna a glywsom am Sul Coffa Ifan Delyniwr; a dyna fel y cyflawnwyd bendithion y tlawd a'r weddw; ag y cafodd yntau ddymuniad penaf ac olaf ei fywyd, sef chwareu telynau ar ei fedd.


Nodiadau[golygu]