Cymru Fu/Syr Hywel ab Huw

Oddi ar Wicidestun
Gwylliaid Cochion Mawddwy Cymru Fu
Syr Hywel ab Huw
gan Isaac Foulkes

Syr Hywel ab Huw
Syr Lawrence Berkrolles ac Owen Glyndwr

SYR HYWEL AB HUW.

(CHWEDL ODDIAR LAFAR GWLAD.)

Yn nghwr eithaf cantref Clwyd y preswyliai gŵr o'r enw Syr Hy wel ab Huw, a chanddo yn ei feddiant dri o anifeiliaid pyniog. Prif lafur y rhai hyn ydoedd cario tanwydd i gynesu aelwydydd Syr Hywel a'i gymydogion. Gelwid un o honynt, oherwydd cryfder ei ên, yn Derby; a'r llall yn Lion, am fod blew hirion yn tyfu trosto; a'r olaf a elwid Cwta, am i ryw adyn mewn malais dori'r rhan fwyaf o'i gynflfon ymaith. I Syr Hywel hefyd yr oedd amryw feibion, y rhai a gymerent ofal ei ddâ, 'trwy eu llwytho a'u llywodraethu â phastwn a hoelen flaenllem yn "un pen iddo. Na thybied neb fod hon yn swydd ddiraddiol i blant "Syr," canys credai y Syr yma mai y ddysg werth fawrocaf i blant ydoedd dysgu gweithio.

Yr oedd ystâd Syr Hywel yn hir iawn. Sicrhaodd "oraclau" yr ardal ei bod amryw filldiroedd o hyd; dywedai "doethorion" ei bod yn mhell tros gan' milltir;.ond credai y "wlad" yn ddiysgog ei bod yn cyrhaedd o fôr i fôr; ac er fod y dyb olaf yn swnio braidd yn rhy "gref," yr ydym yn tueddu i'w chredu o flaen y lleill. Y mae yn ddigon naturiol casglu nad oedd Syr Hywel yn bersonol gydnabyddus ond â rhan fechan iawn o etifeddiaeth mor eang; ac o fawreddigrwydd ei galon, gadawai y gweddill at wasanaeth y cyhoedd. Gweddus i ni, pa fodd bynag, hysbysu nad oedd Ued ei ystâd yn gyfartal à'i hỳd, canys oddeutu deg neu ddeuddeg llath oedd ei lled cyffredinol, ac mewn rhai manau gellid myned ar ei thraws ar bedwar cam. Pan ddygwyddai fod tir yr amaethwyr yn ymylu ar yr etifeddiaeth yma, eu dyledswydd hwy ydoedd cadw y cloddiau a'r gwrychoedd yn gyfain (neu gymeryd y canlyniadau), ac fel ad-daliad gymwynasgar am hyny byddai Syr Hywel yn caniatau iddynt hwy a'u teuluoedd y rhyddid o Iwybro ar hyd canol yr ystâd, a dwyn gyda hwynt, os mynent, eu cerbydau, a'u gwartheg, a'u meirch, a phob rhyw eiddo symudadwy arall. Yr oedd y fraint hon at wasanaeth y cyhoedd yn ddiwahaniaeth, a mawr y cyfleusderau a dderbynient trwyddi.

Rholyn o ddyn byr, llydan, tagellog, oedd Syr Hywel, a chanddo wallt coch, tase fo'n waeth o ran hyny, ei drwyn yn nefoedd-gyfeiriol, ac un foch yn dra chwyddedig beunydd oherwydd rhyw ddrwg oedd rhyngddi a'r danedd; ac mor greulon oedd ef fel ysmygwr, nes y sicrhaodd un doethawr " iddo gael ei eni a'i bibell yn ei ben." Yn ei wisg yr oedd yn hollol ddifalch — brethyn cartref oedd ei deunydd, wedi ei goreuro gyda llaid a llwch, a thyllau yn y ddau benelin, ac o dan y ddwy gesail, er mwyn i'r awyr 'gael myn'd i mewn. Tyfodd yn llydan, a magodd dagell, wrth fwyta uwd a llaeth, ac wrth son am gig.

Yr oedd palas Syr Hywel yn sefyll ar lechwedd heulog, a phâr o risiau yn arwain ato, fel pe buasai yn villa ddwyreiniol. O hono ceid y golygfeydd eangaf ar y dyffryn prydferth a ymledai o'i flaen, ac ynddo ceid engraifft gy ir o ddodrefn ein cenedl ddwy ganrif yn ol — yr hen droell fawr a bach, y 'stolion trithroed a'r byrddau derw trymion, o dan eu llwch cysegredig henafol, a buasai y deuluyddes yn ei ystyried yn bechod mawr symud llychyn o'r cyfryw. Tuhwnt i'r dyffryn, safai y Foel Fama fel cadfridog galluog yn ei wylio, a'r moelydd cylchynol fel is-swyddogion yn disgwyl am ei orchymyn. Mewn cyfeiriad arall, yr oedd yr olygfa yn llawer eangach, ymestynai ganoedd o filldiroedd gerbron y llygaid, ac yr oedd syllu arni yn ddigon i wneud bardd o delpyn o bridd. Heblaw ffenestri yn ystlysau ei balas, yr oedd gan Syr Hywel dyllau hefyd yn y tô, fel y gallai weled y blaned Jupiter oddiar wastad ei gefn yn ei wely. Eithr yn ffurf meddwl Syr Hywel yr oedd ei brif hynodrwydd yn gorwedd. Yr oedd yn ostyngedig iawn; ymgomiai gyda'r amaethwr distadlaf, a byddai yn iechyd i'r meddwl isel sylwi arno yn mharlwr y "Bedol" ddiwrnod marchnad yn cysuro yr amaethwyr ddygwyddent fod yno, ac yn tywallt olew cydymdeimlad i friwiau calon yr amaethwyr aflwyddianus. "Wel, y mae hi yn galed arnom ni y ffarmwrs yn awr; ond hi ddaw yn well toc," oedd ei eiriau; ac yna efe a gymerai afael yn holl symud- iadau y byd gwleidiadol, ac a'u gwasgai fel swp o rawnwin, gan dynu casgliadau cysurlawn (megys gwin) ohonynt. Crybwyllasom am ei gymwynasgarwch yn caniatáu i'r cyhoedd lwybro hyd ei dir, ond yr oedd gwrthgyferbyniad rhyfedd rhwng hyn y a'i ymddygiadau dan amgylchiadau eraill. Nid oes ar gael un traddodiad ddarfod iddo erioed roddi elusen i'r tlawd, eithr yn fynychaf gwgai arno; ac mewn dull arglwyddaidd, perffaith gyson â'i urddas ef, gorchymynai iddo brysuro o'i wyddfod. Y gwir am dani ydoedd, ystyriai efe dlodi yn bechod, ac fel y cyfryw cymerai bob cyfleusdra i ysggynygu danedd', arno. Credai yn ddiysgog yn ngallu dyn; mai diogi: ydyw tad tlodi; a'r dyn tlawd yn unig a gyfrifai efe yn bechadurus.

Dyna nodweddiad Syr Hywel fel y mae ar Lafar Gwlad yn y cwr hwnw, ac oddiar yr un awdurdod yr ydym eto yn croniclo y dygwyddiad anarferol a ganlyn mewn cy sylltiad â'i ddâ pyniog : —

Yr oedd natur yn swrth ymollwng i freichiau y nos, a holl gôr y goedwig wedi rhoddi heibio eu telynau, oddigerth y ddyllhuan, telyn pa un, gyda llaw, oedd yn warthus allan o gywair, tra y tynai un o weision Syr Hywel yr ystrodur oddiar gefn cramenllyd Darbi, a gwas arall a ddatodai genglau Cwta, ac ar ol hyny a dynai y ffrwyn o ben ystyfnig Lion, ac yna gollyngasant hwynt i, barc hirfaith eu meistr i bori ac i orphwys tan y bore. Dygwyddai y parc yr adeg yma fod yn lled Iwm a diborfa; a'r hwsmyn, fel gweision da, yn cydymdeimlo â gwrth ddrychau eu gofal, a benderfynasant wneud adwy yn ngwrych cae un o'r cymydogion, modd y gallai yr anlfeiliaid gael tamaid anmheuthyn y noson hono. Yn y cae hwn yr oedd tas o wair wedi ei thori a'i thori nes myned o honi yn gilcyn. Ni ddibrisiodd yr anifeillaid y cynyg haelionus a osodwyd ger eu bronau, a phrysurasant i dori eu hangenion. Bore dranoeth, aeth y ddau was i ymofyn am danynt i'r man y tybient y deuent o hyd iddynt; ac er eu syndod a'u gofid, nid oedd eu hanes yn un man. Dychwelasant yn siomedig at eu borefwyd, a gorfu iddynt ddadblygu yr hanes gerbron Syr Hywel. Gyrodd hyn y meistr yn gynddeiriog wyllt, ac i fathu rhegfeydd newyddion spon; nid oherwydd adwyo o honynt glawdd ei gymydog, eithr am y tybiai fod gan hyny ryw gysylltiad â diflaniad cyfrin yr anifeiliaid. Ar ol borefwyd, aed at yr un gorchwyl diflas drachefn, a chyda'r un aflwyddiant y dychwelasant yn mrig yr hwyr. Nid oedd undyn yn unlle wedi gweled na chlywed dim oddiwrthynt. Yr oedd Ifan, y llanc hynaf, yn darn gredu ddarfod i'r ddaear agor ei safn a'u llyncu yn eu crynswth. Tybient fod yn anmhosibl i neb am foment goleddu y bwriad o'u lladrata; haws na hyny fuasai credu iddynt fagu adenydd, a hedeg ymaith megys dreigiau. Athronwyr clasurol yr ardal a benderfynent fod lau dduw rhyfel, er dwyn brwydr yn mlaen âg un o'i gyd-dduwiau, wedi rhoddi ei fryd arnynt, a'u cipio i fynu i gludo adgyfnerthion i'w fyddin; tra y credai eraill iddynt wneud am danynt eu hunain yn rhy w fangre annghysbell. ond pwy glywodd erioed am un creadur - oddigerth dyn yn cyflawni hunan-laddiad? Aeth tri diwrnod heibio a'r dirgelwch yn aros yr un mor annhreiddiadwy; a Syr Hywel yn tybio mai oferedd 'chwilio mwyach am y colledigion, a roddodd y bechgyn at ryw orchwyl mwy buddiol ac enillfawr.

"Idwal," ebai yr amaethwr Harri ab Sion wrth ei was, "cymer y drol, a dos i'r Maes Meillion i 'nol y cilcyn gwair hwnw sydd wedi syrthio, onidê fe'i handwyir gan y dryghin." Idwai a ufuddhaodd, a ddaeth i'r Maes Meillion, a gafodd y gwair yn llanastr ar lawr, ac a brysurodd i'w godi i'r drol. Tra yn gwneud hyny, synwyd ef yn aruthr wrth weled yr holl swp yn symud ac yn ymrwyfo yn ol a blaen, fel pe buasai bywyd yn mhob gweiryn o hono. Dychrynodd yn ddirfawr, ac ymaith âg ef am ei hoedl, hyd oni chyfarfyddodd rhyw ddyn oerach ei ben nag ef, yr hwn ar ol ymholi yn nghylch ei frys mawr a'i perswadiodd i ddychwelyd, modd y chwilient i wir achos ei ddychryn. "Wedi iddynt chwalu y gwair, beth oedd yno ond y tri anifail colledig. Aethpwyd at y gorchwyl o'u rhyddhau yn ddiymaros; ac er iddynt dderbyn pob cymhorth i godi i fynu, o'r braidd y gallent sefyll ar eu traed, ar ol bod o honynt cyhyd mewu camystum. Ymddengys iddynt bori a phori ar y cilcyn hyd oni ddisgynodd yn ddisymwth ar eu gwarthaf, gan eu llwyr lethu i'r llawr. Danfonwyd am Syr Hywel ar frys gwyllt, ac efe a'i fechgyn, mewn teimladau cymysgedig o lawenydd a galar — llawenydd o'u cael, a galar oherwydd eu cael yn y fath gyflwr — a barotoisant i'w gyru tuag adref. Ond yr oedd edrych ar y trueiniaid yn ceisio cerdded y peth digrifaf a welwyd yn y cwr hwnw er's llawer dydd; edrychent yn debycach i grancod y môr yn null eu cerddediad nag i un creadur arall. Llusgasant eu haelodau cyffiedig at aber o ddwfr oddeutu haner milldir oddiwrth y lle, ac yno y buont yn drachtio nes llwyr atal melin oedd yn sefyll ychydig islaw iddynt. [Y bobl sydd yn dweyd hyn, cofier.]

Dychwelodd Idwal adref wedi i'w ddychryn liniaru, a dywedodd Harri ab Sion wrtho, pe gwybuasai pa beth oedd dan y gwair, na buasai yn ei gythryblu am wythnos neu ddwy yn rhagor; a murmurai rywbeth nad dyna y tro cyntaf iddynt fod yno; ond pe buasai efe yn hollwybodol, mai hwnw fuasai eu tro diweddaf.

Nid oedd Syr Hy wel yn hoffi gweled pobl yn chwerthin wrth fyned heibio iddo ar yr heol, a phlantos yn estyn bys ar ei ol; a phwy all ei feio os ymabsenolodd oddiwrth y cyhoedd am rai wythnosau, ac os oedd ei le yn mharlwr y "Bedol " yn wâg, a'r amaethwyr druain yn colli ei eiriau cysurlawn. Ond cryfach arfer na dysg: yn raddol gwelid ei wyneb eilwaith yn ei rodfeydd; ymwelai âg arwydd y " Bedol " yn achlysurol; ail ymwrolodd i gysuro y gwau ei feddwl, ac i sôn "am danom ni y ffarmwrs yma." Un diwrnod, tra yr oedd Hywel yn adrodd y geiriau hyn wrth un o ffermwyr ceirch godreu mynydd Hiraethog, pwy ddygwyddai fod mewn congl o'r ystafell, ac yn anweledig i Hywel, ond yr amaethwr Harri ab Sion, yr hwn a hiraethasai er's talm am gyfle i ddweyd ei brofiad wrtho. "Dal dy dafod, Hywel," ebai o, "y ffwlach penwan, ai tybied yr ydwyt fod pobl i'w cael mor ffol a thithau, trwy gredu dy gelwyddau dybryd? Yr wyf yn dy adwaen yn rhy dda, Hywel, er's blynyddau bellach. (Hywel yn cochi.) Carwn wybod yn mh'le mae dy fferm di yn sefyll. (Hywel yn glasu.) Y ffordd fawr, debyg gen' i. Yn mh'le mae dy anifeiliaid di, Hywel ? y tri mul hyny sydd wedi byw ar hyd eu hoes ar fy mhorfa i? a dy blant sydd yn' edrych ar eu holau yn îs anifeiliaid na hwythau — mor ddifoes a diddysg ag un asyn yn y byd. Ni weithi dy hun, eithr gyri dy blant truenus i enill dy fwyd a dy ddiod trosot. (Hywel yn codi i wadu yr haeriad, ac yn cael fod ei dafod jn 'cau gweithio; eistedd i lawr mewn cywilydd.) Y maent yn tyfu i fynu fel mwnciod, yn gorachaidd, dilun, ac anhawddgar. Y maent yn haner rewi ar gefnau y mulod, ac y mae'r gair iddynt roddi gwrychoedd pobl ar dân, er mwyn meirioli tipyn ar fêr eu hesgyrn; pryd y dylasent fod yn yr ysgol, yn darpar at dreulio oes mewn rhyw gylch uwch na gyru mulod. Cyn yr ymddygaswn fel tydi, Hywel, at fy mhlant, cawsai fy nwylaw eu gorchuddio â chyrn, a buasai yn well genyf i'r hen freichiau yma wywo wrth fy ystlysau, nag yr ymddygaswn tuag at fy mhlant fel y gwna yr estrys tuag at ei chywion. (Cymeradwyaeth dirfawr oddiwrth yr holl gwmpeini.) Pe buasai pawb fel ti, Hywel, ni buasai genym fel cenedl na phregethwr, na bardd, nac athronydd, nac ysgolor o un math; ac ni buasem nemawr gwell ein gwareiddiad na bwystfulod yr anialwch. Tafl dy rodres a dy frol i'r gwynt, torcha dy lewys, gweithia am dy damaid, ac anfon dy blant am flwyddyn i ryw ysgol, os oes ysgolfeistr yn y wlad gymer arno y dasg o addysgu barbariaid o'u bath."

Dyna ddigon. Ymlithrodd Hywel allan mor ddystaw a phryf genwair, ac ni welwyd ef mwyach yn mharlwr y "Bedol;" ond gellid ei weled am bump yn y bore yn parotoi fel dyn arall at waith. Gwerthwyd yr anifeiliaid am brisiau eu crwyn, a thalwyd am eu blingo allan o hyny, a gwnaeth Syr Hywel anrheg o'i ystad i hen wragedd tlodion allent fforddio cael buwch, er mwyn enill bywioliaeth oddiwrth ei llaeth a'i hymenyn, ac i'r llencyn diffrwyth ac amddifad allai enill ei damaid oddiwrth y drol ful. Anfonwyd y plant i'r ysgol, a chynyddasant mewn gwybodaeth a rhinwedd; llanwasant swyddau pwysig, a buont feirw, fel eu tad, mewn oedran teg. Teimlai Hywel yn ddiolchgar byth i Harri ab Sion; oblegyd priodolai ei ddiwygiad i'w gynghorion ffraethlymnion ef.

Os dygwydd i'r chwedl hon gyfarfod y dyn hunanol ac ymhongar, hyderwn y bydd yn foddion i ddysgu iddo y wers seml a gwerthfawr hono, "nad yn ol ein pwysau ein hunain y'n pwysir gan eraill," ac nad yw gwir yn llai gwir er ei adrodd mewn geiriau pigog; ac y gwasga ar rieni y ddyledswydd o roddi addysg i blant, hyd yn nod pe costiai hyny iddynt ambell bryd o fwyd, a llawer awr o gysgu.