Cymru Fu/Traeth yr Oerlefain
← Robin Ddu Ddewin | Cymru Fu Traeth yr Oerlefain gan Isaac Foulkes Traeth yr Oerlefain |
Margred Uch Ifan → |
TRAETH YR OERLEFAIN.
GAN WMFFRE DAFYDD
Dyna ydyw enw y maes-draeth a ymestyna o Fangor i Gonwy, gyda glanau y Menai ac afon Gonwy. Dywed traddodiad mai yr achos o'r enw ydoedd hyn: — Yn mhen y flwyddyn ar ol lladd Elidir Mwynfawr, daeth gwŷr Ystrad Glwyd, yn ngogledd Prydain, i Arfon i ddial ei waed, a llosgasant dref Caernarfon yn ulw. Am hyn, penderfynodd Rhun fab Maelgwyn Gwynedd dalu y pwyth iddynt, ac anfonodd lu mawr goresgynol i'w gwlad hwythau, a mab Indo Hen (un o wŷr y pyst penddu), yn ben arnynt. Bu rhyfel fawr ar lan yr afon Gweryd, yn y Gogledd, ac yn y rhyfel gwyr Arfon a orfuant ac a gaethgludasant lawer o oreuon y wlad. Daethant a hwy i Arfon a godreu mynyddoedd Eryri; ac yr oedd yn eu plith amryw o dywysogion y wlad hono, yn eurdorchogion bob un. Yn eu plith yr oedd un gŵr ieuauc o Sais, yr hwn, oblegyd ei ledneisrwydd a'i hynawsedd, a gafodd ffafr neillduol gan Rhun; ond yn benaf oll cafodd ryddid i ddychwelyd i'w wlad gydag anrhegion lawer.
Yr oedd hefyd yn yr amser hwnw foneddiges gyfoethog, yn byw yn maes Tyno Helyg, yr hon oedd ferch i Helyg ab Gwlanog, a'i henw oedd Gwendud, o arferion hynod o anniwair, ac o ymddygiad balch neillduol. Heblaw hi, yr oedd gan yr Helyg hwn amryw feibion a merched, y rhai a droisant i bregethu ffydd yn Nghrist i'r Cymry paganaidd; o ganlyniad, yn hollol wahanol i Gwendud
yn eu harferion. Yn y cyfamser, daeth gŵr ieuanc o gymydog ati i ofyn am ei llaw yn wraig briod; dywedodd hithau na roddai ei llaw i neb oni byddai yn eurdorchog, yr hyn oedd prif arwydd tywysog yn yr oesoedd hyny. Ystyrid gwisgo torch o aur o amgylch y gwddf yn anrhydedd uchel, ac mor anhawdd ei chyrhaedd fei y gyrwyd yr ymgeisydd bron i anobaith am gael ei llaw byth. Ond gan mai meddianu torch oedd yr amod, ac nad oedd hyny yn anmhosibl, penderfynodd na orphwysai hyd oni chelai un. Aeth tua Chaer Rhun, gerllaw Bangor, i edrych beth a ddigwyddai. Yno, daeth i wybod am y Sais crybwylledig, a chafodd allan ei fod ar gychwyn i'w wlad yn llwythog o anrhegion lawer. Prysurodd i'r lle yr oedd y gŵr ieuanc, a chynygiodd ei hun iddo yn arweinydd o'r gaer hono i'r gaer nesaf, gerllaw Conwy, a derbyniodd y Sais y cynygiad yn ddiolchgar a llawen.
Ond ei ddyben oedd llofruddio y Sais, a dwyn ei eurdorch oddiarno. Er mwyn ei gael i le digon dirgel, rhag ofn Rhun, denodd ef ar hyd llwybr cul i fynu i'r mynydd, gan ddweyd wrth ei gydymdeithydd diniwaid fod yn rhy beryglus myned ar hyd y gwastadedd coediog, oherwydd fod yno gynifer o fleiddiaid rheibus. Pan oeddynt ar lan yr afon, a elwid fyth ar ol hyny Afon lladd Sais, efe a roddes ei fwriad ysgeler mewn gweithrediad, a llofruddiodd ei gydymaith diamddiffyn. Yna tynodd ei dorch oddiam ei wddf, a gwisgodd hi am ei wddf ei hun, ac aeth gyn gynted ag y gallai i'r Maes at Gwendud, a dywedodd wrthi, "Dyma'r dorch, moes i mi dy law. "Pa le y cefaist hi?" ebai Gwendud. Dywedodd yntau yr holl hanes. "A gleddaist ti y corph?" " Naddo, "ebai yntau." Wel, rhaid i ti fyned yno heno nesaf a'i gladdu o'r golwg; oherwydd os clyw Rhun am hyn, bydd yn sicr o ddial ei waed, ac ni bydd dy lafur ond ofer. "Dychwelodd yntau i'r fan, a dechreuodd dori bedd i'r corph mewn man a elwir hyd heddyw, Braich y Bedd. Tra yr oedd wrth y gorchwyl hwn, dyma waedd fawr, "Gwaedd uwch adwaedd!" yn llefain uwch ei ben, "Daw dial, daw!" nes yr oedd y graig yr ochr arall i'r cwm yn diaspedain "daw!" Bu y llef dair gwaith, a phob llef yn gryfach na'r llall. Dychrynodd yn fawr; ffodd o'r fan, a daeth at Gwendud a'i wyneb yn welw; dywedodd wrthi am yr oll a fu; ac y byddai yn well ganddo gael y dorch yn ol, a pheidio myn'd yn mlaen hefo'r briodas, na dyoddef y farn ofnadwy a fygythid; ac yr elai efe i rhyw fan i ddwyn ei benyd — yr hyn a ystyrid gynt yn ddigon o iawn am bob pechod. "0 na, nid felly" ebai Gwendud, "eithr dos yn hytrach a myn ei gladdu; ac os daw y llef eto, gofyn pa bryd y daw y dial." Aeth yntau yr ail waith, a dechreuodd yn brysur ar y bedd, a thynodd y corph llofruddiedig iddo, a phan oedd yn rhoddi y rhawiad olaf arno, dyma'r llef yn llawer uwch na'r tro blaen, "Daw dial, daw!" Gofynodd yntau yn wanaidd, pa bryd. Atebai'r llef, "Yn amser plant, wyrion, a gorwyrion, ac oesgynydd." Aeth yntau yn ddychrynedig ac ar frys mawr at Gwendud, ac hysbysodd hi pa bryd y deuai'r "dial." "O," ebe hithau, "byddwn ni cyn hyny yn bridd ac yn lludw." Felly priodi a fynai hi, gan nad oedd y farn i ddyfod yn erbyn y weithred ddrwg yn fuan. Buont byw yn hir, ac mewn rhialtwch mawr, a gwelsant o'u plant y bedwaredd genhedlaeth. Y pryd hwnw, ebai y naill wrth y llall, "Ai ni fyddai yn well i ni gael gwledd i ni a'n gwehelyth oll ar ein haelwyd ein hunain cyn ein marw?" Felly fu; gwledd a fynwyd, a chasglwyd y genhedlaeth fawr i'r un aelwyd. Cyrchwyd bardd o Fangor Dunawd i'w difyru. Mynwyd y mêdd goreu yn yr holl wlad, a lladdwyd y carw goreu yn y parc, a gwnaed pobpeth yn y dull mwyaf costfawr, fel rhagarweiniad i ymadawiad y rhiaint oedranus, yr hyn a gymerai le wrth gwrs yn fuan mewn heddwch a thawelwch mawr. Ha! na choelia i fawr. Pan oedd pobpeth yn barod, a'r wledd ar ddechreu, ebai'r Bardd wrth y forwyn, "Oni wyddost ti mai heddyw y mae Duw yn dwyn dial ar y lle hwn! "Na wn I," ebai hithau, "am beth?" "O," ebai'r Bardd, "am ryw hen dro a wnaed gan yr hen bobl er's amser maith yn ol;" ac ebai'n mhellach, "pan fyddi yn myned i'r seler i ymofyn mêdd, sylwa'n fanwl os gweli ddwfr yn dyfod i mewn, a hwnw yn llawn o bysgod mân." "Rywbryd tua chanol y wledd, daeth y forwyn at y Bardd yn ddychrynedig, a dywedodd fod y seler yn haner llawn o ddwfr, a hwnw yn llawn o bysgod fel y dywedasai. "Wel, yn awr, ebai'r Bardd," ffown am ein bywyd, mae yn hen bryd." Ac ymaith a hwy. A chyn eu bod neppell oddiwrth y palas, clywent sŵn tòn fawr yn taro yn ei erbyn, a chyda hyny waedd erchyll nes peri i'w gwallt sefyll yn syth. ond nid oedd amser i aros dim, gan fod y môr wrth eu sodlau, ac felly o hyd nes y cyrhaeddasant Rhiwgyfylchi. Yno, ar ol dringo i dir uchel, safasant i ddisgwyl y bore, canys nos oedd hi, a nos pur dywell. Ac erbyn y bore nid oedd dim i'w weled ond môr mawr yn gorchuddio holl faes Tyno Helyg. Dywed traddodiad fod murddyn y palas i'w weled hyd y dydd hwn. A thyna chwedl TRAETH YR OERLEFAIN.