Cymru Fu/Y Creaduriaid Hirhoedlog

Oddi ar Wicidestun
Mab ab Mathonwy Cymru Fu
Y Creaduriaid Hirhoedlog
gan Isaac Foulkes

Y Creaduriaid Hirhoedlog
Hen ddefod gladdu Gymreig

Y CREADURIAID HIRHOEDLOG

.

[DYFYNIR y rhamant bychan, prydferth, a chywrain canlynol o Lyfr Thomas Willams o Drefriw. T. W. a flodeuai tua dau cant a haner o flynyddau yn ol. Yr oedd ei ddysgeidiaeth yn eang ac amryfal iawn. Heblaw amryw lyfrau ar hanesyddiaeth ac at wasanaeth ei genedl, ysgrifenodd Feddyg-lyfr mawr, yr hwn sydd yn bresenoi yn meddiant ein cyfail loan Lleifiad. Yr oedd, er hyny, yn Babydd selog, ac yn hysbys ar holl symudiadau Pabyddion yr oes hono. Dywed traddodiad mai efe a fu yn achlysur i ddadguddio Brad y Powdwr Gwn. Y pryd yma, yr oedd Syr John o Wydir yn aelod Seneddol, a Thomas Williams, yn gyfaill mawr iddo, a'i rhybuddiodd rhag myned i'r Senedd noson y Frad. Yna Syr John a ddadblygodd y gyfrinach gerbron ei gyd-seneddwyr; a thrwy ei ddiffuantrwydd a'i ddyngarwch canmoladwy, arbedodd y wlad hon rhag syrthio eilwaith i grafangau didosturi Pabyddiaeth, ac agorodd ei llygaid eilwaith i weled mai brad a melldith a dinystr ydyw anian ac amcan a bywyd y Babaeth.

Ymddangosodd rhywbeth tebyg i'r rhamant hwn yn Ystori Cilhwch ac Olwen, a diameu mai yno y cafodd Thomas Williams y rhan fwyaf o'i ddefnyddiau.]

ERYR GWERNABWY, wedi bod yn hir yn briod â'r Eryres, a bod iddo lawer o blant o honi, a'i marw hi, a bod o hono yntau yn hir yn weddw, a aeth i briodi gyda Dallhuan Cwmcawlyd. Ond rhag iddo blant o honi, a dirywio o'i rywogaeth, efe a aeth yn nghyntaf at Hynafiaid y Byd i ofyn ei hoedran hi. Ac yn nghyntaf, efe a aeth at Garw Rhedynfre, ac a'i cafodd yn gorwedd wrth hen gelffinen o dderwen, ac a ofynodd iddo oedran y Ddallhuan. Y Carw a'i hatebodd, " Mi a welais y dderwen hon yn fesen y sy yr awrhon ar lawr heb na dail na rhisgl arni; ac ni bu arni draul yn y byd, ond fy mod i yn ymrwbio ynddi bob dydd wrth godi, ac ni welais i erioed y Ddallhuan yn hŷn nac iuu nag ydyw heddyw; ond y mae un sydd yn hyn na myfi, a hwnw ydyw Gleisiad Glynllifon."

Aeth yr Eryr at y Gleisiad, a holodd yntau, ac efe a atebodd, "Mi a wn fy mod i yn flwydd oed am bob gem sydd ar fy nghroen, ac am bob gronyn sydd yn fy mol, ac ni welais i erioed mo'r Ddallhuan ond yr un modd! Ond y mae un sydd hŷn na mi, a hwnw ydyw Mwyalchen Cilgwri."

Yr Eryr a aeth i edrych am y Fwyalchen, a chafodd ef yn eistedd ar gareg fechan, ac a roddodd yr un gofyniad iddo yntau. Ebai y Fwyalchen, "A weli di y gareg yma sydd danaf? — nid ydyw fwy nag a fedr dyn gario yn eilaw, ac mi a'i gwelais yn Uwyth cant o ychain! ac ni bu arni draul erioed, ond fy ngwaith i yn sychu fy mhig arni bob nos, ac yn taro blaen fy adenydd ynddi wrth ymgodi yn y bore, ac nid adnabum i y Ddallhuan na hŷn nac iau nag ydyw hi heddyw. Ond y mae un hŷn na myfi, a hwnw ydyw llyffant Cors Fochno; ac oni wyr hwnw ei hoedran hi nis gwyr neb."

Yna aeth yr Eryr at y llyffant, a rhoddodd yr un gofyniad iddo yntau. Ac efe a atebodd, "Ni fwyteais I ddim erioed ond a fwyteais o'r ddaear, ac ni fwyteais haner fy nigon o hono, ac a weli di y ddau fryn yna sydd wrth y gors? — mi a welais y fan yna yn dir gwastad, ac ni wnaeth dim hwynt cymaint ond a ddaeth allan o'm corph I, a bwyta cyn lleied; ac nid adnabum i erioed mo'r Ddallhuan ond yn hen wrach yn canu 'tw-hw-hw,' ac yn dychrynu plant gyda'i llais garw, fel y mae heddyw."

Felly Eryr Gwernabwy, a Charw Rhedynfre, a Mwyalchen Cilgwri, a Gleisiad Glyn Llifon, a llyffant Cors- fochno, a Dallhuan Cwmcawlyd, ydynt y rhai hynaf yn y byd oll.