Cymru Fu/Ystori Doctor y Benbro

Oddi ar Wicidestun
Syr Lawrence Berkrolles ac Owen Glyndwr Cymru Fu
Ystori Doctor y Benbro
gan Isaac Foulkes

Ystori Doctor y Benbro
Chwedl Rhitta Gawr

YSTORI DOCTOR Y BENBRO

.

FEL yr oedd lluaws o bobl Llanfair Bont Stephan yn Neheubarth Cymru yn dychwelyd o Ffair Talsarngrin tan ymgomio yn nghylch trafferth anfuddiol rhyw ofer- ddynion afradus nad arbedrnt gost i fagu a dwyn i fynu yn foethus haid o helgwn barus er mwyn y coegddifyrwch o hela, un a'i enw Gwalchmai a ddywedodd: — " Nid heb achos ynte y clywais ddarfod i'r brenin Pabo, o wlad Fon, dori agos ar ei draws wrth chwerthin am ben y segurwyr hyn." Cynhyrfodd y dywediad hwn gymaint ar chwilfrydedd cydymdeithion Gwalchmai, nes yr atolygasant arno adrodd y chwedl a barasai i ŵr mor enwog a Phabo chwerthin felly.

Ebai Gwalchmai: "Yn y wlad hono yr oedd physigwr nodedig; rhemwth afler o garn Sais, coesgam, annghymroaidd ydoedd, mor ddibris o fywyd dyn ag o fywyd chwanen, a adwaenid wrth yr enw " Doctor y Bendro."Hwn a gymerai arno wneud pob gwallgof a ddygid ato mewn hyn a hyn o amser yn holl iach. Ei ffordd ef o'u trin oedd fel hyn: Yr oedd ganddo yn un pen i'w dŷ ystafell fawr, ac yn hono yr oedd trochlyn o ddwfr budr, drewedig, ac yn nghanol hwnw y rhwymai efe y rhai gwallgofus wrth bost yn gwbl noethion; rhai o honynt hyd eu gliniau, rhai hyd eu bogeiliau, a rhai yn ddyfnach fyth, yn ol graddau yr afiechyd. Ni chaent ddim lluniaeth, oddieithr tair llwyaid o gawl erfìn, neu botes gwyn bach, unwaith bob wyth awr a deugain. Yn y dwfr hwnw goddefent newyn, rhyndod, a drygsawr, nes adferu iddynt eu cof a'u synwyr, neu farw o honynt tan y driniaeth.

"Yn mysg eraill, dygwyd i'r gwallgofdy un Gwion Gwag Siol, yr hwn a roddes efe yn y pwll hyd haner ei forddwyd; ac wedi bod yno yn daru fwydo am bythefnos, efe a ddechreuodd wella. Yna efe a ymbiliodd ar y Doctor am genad i ddyfod o'r pwll, a chafodd ei ddymuniad ar yr amod na byddai iddo fyned allan o'r ystafell; ymfoddlonodd yntau i hyny yn ddiolchgar iawn dros rai dyddiau. Yna deisyfodd gael rhyddid i fyned hyd y tŷ. Caniatawyd hyny iddo, trwy nad elai allan a'r drysau.

"Ryw dro, pan oedd Gwion yn sefyll yn mrig yr hwyr wrth ddrws y tŷ, canfu ŵr ieuanc lled foneddig yn marchogaeth tuag ato ar glamp o geffyl, a gwalch yn un llaw, a phastwn hir yn y llall, dan groch floeddio a chwibianu, a llu o filgwn, cystowgwn, ysbaingwn, corgwn, a mân ddrewgwn eraill ar ei ol; ac o hirbell yn eu dilyn yr oedd tri o wŷr traed — gwehydd, eurych, a chrachuchelwr, wedi i sŵn y corn eu tynu yn y bore oddiwrth eu gorchwylion, yn rhedeg yn fawr eu chwys, a'u traed trwy eu hesgidiau, i gael rhan o'r difyrwch. "Nid oedd Gwion yn cofio dim o'r pethau a welsai gynt cyn anmhwyllo, a synai yn aruthr at yr olygfa ryfeddol hono. Galwodd y gŵr ieuanc ato, yr hwn pan neshaodd, 'Gwrando'r glanddyn,' ebai Gwion, ' ac ateb i mi gwestiwn neu ddau. Pa fwystfil ffromwyllt sydd genyt yna yn marchogaeth arno? ac i ba bwrpas yr ydwyt yn ei gadw?

'March ydyw,' ebai y gŵr ieuanc, ' ac er mwyn y dyfyrwch rhagorol o helwriaeth yr ydwyf yn ei gadw.'

" 'Aie mewn difrif!' ebai Gwion, 'a pha fodd y gelwid y tegan yna sy'n dy law di? a pha beth yw ei ddyben?"

" 'Gwalch ydyw, 'meddai y llall,' defnyddiol iawn at ddal petris, a grugieir coesgochion, a hwyaid gwylltion.'

" ' Hy!' ebai Gwion, ' ond pa beth yw'r haid creaduriaid bolweigion eraill yna sy'n dy ganlyn di, a rhes o fotymau yn tyfu hyd eu cefnau, a'u hystlysau yn debyg i ochr basged, ac i ba beth y maent hwy'n dda?'

" 'Cŵn ydynt,' ebai y llall, "o bob math, ac o'r rhywogaeth oreu yn Nghymru, wedi i mi fy hunan, trwy fawr gôst a gofal, eu dysgu'n rhagorol i olrhain adar a phryfaid gwylltion, trwy ddŵr a thân, gelltydd a choedydd, anialwch a dyrysni. Dyma di-i chwpl o fytheuaid o lin cŵn goreu Brochwel Ysgythrog, tywysog Powys, heb eu gwell yn y wlad at geinach a chadno, dyfrgi a ffwlbart, bronwen a thwrch daear. Dacw ddau gwbl o ddaeargwn o waed digymysg, tu tad-tu fam, o hiliogaeth y cŵn goreu a fu erioed ar helw Rhys ab Tewdwr Mawr o'r Deheu barth. Hen orwyr y milgi acw a gafodd fy nhaid i gau orwyr i un o ŵyrion Cadrod Hardd, arglwydd Talebolion, yn Môn. Yr adargi yna a ddanfonwyd i mi o Wlad yr Haf gan Syr-....'

" 'Ust! Ust!' ebai Gwion, ' digon bellach am achau, bonedd, a gwaedoliaeth dy helgwn. Moes wybod pa faint a dâl yr adar a'r pryfaid hyny yr wyt yn ceisio cynifer o bethau i'w hela, pe bwrit holl helwriaeth y flwyddyn gyda'u gilydd?'

" 'Pw!' ebai'r heliwr, 'nis gwn i'n iawn pa faint;' a phan ddywedodd mai prin y cyrhaeddai werth coron o arian,

" Gwaed fy nghadach,' ebai Gwion, a pha faint y mae cadwriaeth y march, y gwalch, a'r holl lumangwn gwancus yna yn ei gostio i ti?' " ' Dim llai," ebai'r heliwr, ' na chant a haner o bunau, heblaw ambell bunt am ormes y cŵn pan hiraethont, druain, a damaid anmheuthyn, ac yr elont i wledda ar ddefaid y cymydogion." " 'Ho! Ho!' ebai Gwion, 'y mae dy goryn di wedi ei glwyfo'n greulon, y cyfaill penchwiban! Os ceri dy hoedl, dos ymaith o'r fangre hon mor gynted fyth ag y gelli, cyn dyfod y Doctor adref; oblegyd os efe a'th ddeil di yma, efe a'th gyfrif y cadffwl ynfataf ar wyneb y ddaear, wedi i'r bendro wibwrn dy bendifadu, a chorddi dy ymenydd yn lasddwr. Oni ddiengi ar frys yma y bydd dy lety, a chadwynir di yn ddiatreg yn y pwll tomlyd, ffieiddfrwnt, yn mysg llaweroedd a boenir yno eisioes; îe, rhoddir di yn ddyfnach yno na hwynt oll, rhwymir di yn ddidrugaredd hyd yr ên yn y ceubwll aflan. Ac os dy dynged fydd cael dy fwrw i mewn, fel yr haeddit yn fwy na neb, efallai y caniatâ y Doctor un ffafr arbenig i ti, trwy dy fod yn ddarn gŵr boneddig sef cael o honot gymdeithas dyddan dy gŵn o'th amgylch yn mhwll y caethiwed; ac os marw a wnei, fel y mae yn dra thebygol, cyn adferyd it' dy synwyrau, nid cysur bychan fydd i ti gael y cyfryw gymdeithion ffyddlon i gyd-byncio dy farwnad, a llafar-udo dy glul pan fyddych yn trengu.' "

— Tlysau yr Hen Oesoedd.