Neidio i'r cynnwys

Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig/Penawd 14

Oddi ar Wicidestun
Penawd 13 Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig

gan Lewis Jones, Plas Hedd

Penawd 15


XIV.

RHEOLAETH Y PWYLLGOR GWEINYDDOL.

Cyn cychwyn o Lerpwl yn 1865 yr oeddid wedi sylweddoli mai rhyw vath o barhad ar y Pwyllgor Gwladvaol gychwynasai y Mudiad vyddai y furv o reolaeth esmwythav i drevnu dadblygiad y Wladva wrthi. Elai amryw o wyr blaenllaw y Pwyllgor hwnw yn y Vintai Gyntav—pobl wyddent y syniadau a'r trevniadau y gweithiasid wrthynt, a chyda hwy rai o'r penau cliriav y daethpwyd i'w hadnabod pan ymgynullodd y vintai i gychwyn. Ar y syniad hwnw yr etholwvd gan y vintai ei hun 12 o Bwyllgor (i'w newid bob blwyddyn) a chadeirydd hwnw i'w ystyried yn llywydd y Wladva. Toc wedi glanio gwelwyd angen cyvraith a llys, a threvnwyd i ethol ynad a rhaith (ar wahan i'r Pwyllgor Gweinyddol) i ystyried pob mater o ddadl a hawl ac iawnder. Galwyd hyny yn llys rhaith a llys athrywyn (arbitrate)—yr olav hwn o 3 neu 5 aelod, dewisedig wrth reol ac oblegid gwasanaeth, rhag i'r llys rhaith vyned yn avrosgo a beichus ar achosion bychain. Yn ol y drevn hon ymgynullai y Pwyllgor am 10 mlynedd, unwaith y mis, ac amlach os byddai alw, i dravod pob mater o drevnidedd a darpariaeth. Gwnaed yn yr eisteddiadau plaen hyny lawer cynllun o ddeddviad y bu dda wrthynt am vlyneddoedd lawer; mwy ymarverol, ysgatvydd, na'r aneiriv "orchymynion" ac "ordeiniadau" vwrir allan mor aml yn ol y furviau Archentaidd. Heblaw y pendervyniadau achlysurol, mabwysiadwyd y Deddvau canlynol: Breiniad ac Etholiad, Gweinyddiad Barn, Rhaniad y Tir, Tyddynod, Addysg Elvenol, Tavarnau (masnach Indiaidd), Cartrevlu, Bugeila, Caeau a Thervynau, Fyrdd a Fosydd, &c.

O dan yr oruchwyliaeth hono bu yn llywyddion a chadeirwyr y pwyllgor William Davies, Rhydderch Huws, Edward Price (hyn.), H. H. Cadvan, T. Davydd, J. B. Rhys, J. Griffith, L. J., J. C. Evans.

Weithiau byddai raith lled vywiog, a byddai raid wrth ddoethineb i gadw pethau yn weddaidd. Ambell etholiad hevyd rhedai teimladau yn lled uchel; ond tawelai pob peth ar ol cael y canlyniad yn deg a chlir: hwyrach na vyddai namyn 30 o etholwyr, na'r boblogaeth onid 90, eithr elid drwy y dewisiad mor aiddgar ac mor vanwl a phe buasai mil ar yr etholres—vel y datganodd A. Jenkins un tro vod ei bleidlais ev mor bwysig iddo yn y Wladva a phe buasai bendevig yn Mhrydain.

Yn engraift o'r gweinyddiad lleol hwn gododd y Wladva iddi ei hun at gadw trevn a heddwch, covnodir yma un tro pan archodd Llys Rhaith atavaelu gwenith un oedd yn gomedd talu yn ol dyvarniad y Llys hwnw [nid oedd arian yn y wlad y pryd hwnw]. Galwyd y cartrevlu allan, a thrawdiwyd yn llu arvog at y tŷ, gyda throl a chefyl yn yr osgordd at gludo'r gwenith: darllenodd y Llywydd (H. H. Cadvan) yr ŵys a gorchymyn y llys i'r teulu wrth y drws: yna archwyd i ddau o'r rheng vynd i'r tŷ a chario'r gwenith i'r drol i'w werthu yn y pentrev, lle'r oedd y merched a'r plant yn gynulledig ac yn disgwyl y canlyniad mewn pryder: ac aeth pawb adrev heb i ddim anymunol ddigwydd (er mor vygythiol yr ymddangosai pethau) gan deimlo vod iawnder ac urddas cyvraith wedi eu parchu. Gellir gwenu, hwyrach, ar y peth yn awr, a throion cyfelyb : ond dangosai yr agweddau a'r amgylchiadau hyny y syniad dwvn oedd yn y gwladvawyr am drevn ac iawnder, a'r ddysg y ceisid gweithredu wrthi am y deng mlynedd y cavwyd llonydd i wneud hyny. Ysywaeth, y syniad Arianin i lywodraethu'r Wladva o'r cychwyn oedd SWYDDOGA—malldod mawr y Weriniaeth erioed, a chyvystyr o ran efaith i'r milwra ovnadwy sydd yn llethu Ewrob. O 1865 i 1874—y naw mlynedd o gyvyngderau ac unigedd—bu raid i'r Wladva nyddu o'i hamgylchiadau ei hun drevniant o hunan—reolaeth i'w chadw o vewn rhwymyn gwareiddiad a chynydd. Oddigerth pan avlonyddai L. J. ar v Llywodraeth am ryw gymorth i vedru byw rywsut yn yr anhawsderau vaglai y sevydliad, ni roddai yr awdurdodau Arianin sylw yn y byd i'r bagad pobl ymblanasent ar eu finau deheuol. O ran hyny, amrwd iawn oedd y Genedl Arianin ei hun y dyddiau hyny, a thraferthion gwladol lawer yn llesteirio ymdrechion ei gwleidyddwyr i geisio cael peth trevn o'r caos. Hono ydoedd yr adeg y bu i Chili wthio ei hòniad o arbenogaeth ar Patagonia. Digwyddai vod Dr. Irigoyen yn gynrychiolydd Archentina yn Chili ar y pryd. Ni vlinasid y wlad hono gan chwildroadau vel y dirdynid yr Arianin, ac wrth weled y gwagle mawr ar vap ei chymydog i'r de a'r dwyrain, a hithau wedi ei chyvyngu i'r rhimyn cul o dir rhwng yr Andes a'r môr, tebyg i Chili eiddigeddu a blysio Patagonia. Oddigerth y rhibyn sevydliad dilewyrch ar y Rio Negro (Carmen neu Patagones) ni veddai Archentina yr un bachiad tiriog a sevydlog yn yr holl diriogaeth vawr. Ymddengys y gwyliai yr eryrod gwleidyddol (Mitre, Rawson, Irigoyen, &c.) yr hovranau yr ochr arall i'r Andes, ac yn y man medrwyd cael gan yr Unol Daleithau ymyryd yn garedig i wneud cytundeb rhwng y ddwy wlad oedd yn llygadu am yr ysglyvaeth. Dengys bywgrafiad Dr. Rawson, gyhoeddwyd wedi ei varw, y rhoddai eve bwys dirvawr ar y meddiant Arianin o'r Wladva: a phan roddodd Gen. Osborne ei ddyvarniad wrth athrywynu rhwng y ddwy wlad rhoddai yntau bwys mawr ar y faith vod teyrnedd ymarverol Archentina wedi ei sevydlu ar y Chupat. Ni wyddai y Wladva ddim o hyn am vlyneddoedd wedyn.

Nid oedd yn y Wladva tua'r adeg hono namyn rhyw 100 o bobl ac velly nid rhyvedd vod y Llywodraeth yn ddibris o honi. Eithr ni ddibrisiai y Wladva ei hun, hyd nod yn y gwyll hwnw: eisteddai y Pwyllgor yn rheolaidd : cedwid tipyn o ysgol ddyddiol: cedwid y moddion crevyddol yn rhyvedd a divwlch. Am y 9 mlynedd hyny ni ddaethai onid rhyw ddau neu dri o'r newydd atynt, tra yr aethai rhai ymaith, a rhai veirw. Hwnw oedd "cwrs parotoawl" y Wladva, megis y 40 mlynedd i'r Hebreaid: a cheir yn yr hanes sydd yn dilyn weled vod yr addysg wladol hono wedi eu harwain yn ddiogel drwy amgylchiadau dyrys.

Y VINTAI GYNTAV YMHEN CHWARTER CANRIV.

Hanedig o

1. Mrs. Amos Williams , Bangor.
2. John ap Williams, Glandwrlwyd.
3. Mrs. L. Davies , Casnewydd.
4. Mrs. Hanah Jones , Aberdar.
5. Thos. Harri, M. Ash .
6. Mrs. Rhys Williams, Brasil .
7. R. J. Berwyn, Tregeiriog.
8. C. Jane Thomas , Bangor.
9. Mrs. R. J. Berwyn, Pentir.
10. L. Humphreys, Ganllwyd.
11.Mrs. W. J. Kansas, Aberdar.
12. Mrs. L. J. , Plas hedd, Caergybi.
13. M. Humphreys, Ganllwyd .
14. Mrs. W. R. J. , Bedol, Bala.
15. Mrs. M. Humphreys, Cilcen .
16. Mrs. Rhydderch Huws, Bethesda.
17. J. Harris, M. Ash.
18. Mrs. Zecaria Jones , M. Ash.
19. Mrs. M. Evans, Maesteg.
20. Edwyn Roberts, Wisconsin.
21. Mrs. Ed. Roberts, M. Ash.
22. Mrs. Eliz. Huws, Clynog.
23. Mrs. W. Austin , Llanuwchlyn.
24. Mrs. Ann Davydd , Aberteivi.
25. Mrs. Josua Jones, Bangor.
26. H. H. Cadvan, Rhostryvan.
27. G. Huws , ieu. , Llanuwchlyn.
28. Rhys Williams, Nantyglo.
29. J. Huws, ieu., Rhos.
30. W. J. Huws, Rhos.
31. Wm. Austin , Merthyr.
32. T. T. Austin, Merthyr.
33. Davydd G. Huws , Rhos.
34. J. D. Evans, M. Ash.
35. Daniel Harris, M. Ash .
36. Ed . Price, ieu. , Prestatyn.
37. Richd. Jenkins,_Troedyrhiw.
38. Ll. H. Cadvan, Lerpwl.
39. Amos Williams, Llanbedrog.
40. W. R. J. , Bedol , Mawddwy.
41. Rich. H. Williams, Bangor.
42. Robert Thomas, Bangor.
43. Thomas Davydd, Cilgeran.
44. Richd . Jones, M. Ash .
45. Griff. Huws, Llanuwchlyn .
46. W. T. Rees, M. Ash.
47. L. Davies, Aberystwyth.
48. J. Moelwyn Roberts, Festiniog.

Wrth agor yr ail bont dros y Camwy (pont Rawson), 1890, y cymerwyd y foddlun gyferbyn, gan J. M. Thomas, Castell Iwan. Nid yw pob un o'r Vintai gyntav oedd yn y Wladva ar y pryd i vewn yn y llun—9 neu 10 heb vod. Buasai varw 48. Yr oedd yn Nghymru 2, yn Patagones 4, yn Santa Fé 4, anhysbys 8.

Gwelir mai 48 sydd yn y darlun o'r 152 laniodd; ond y mae 242 o'u gwehelyth uniongyrchol yn y Wladva. Daethai yn weinidogion urddedig gyda'r Vintai L. Humphreys ac A. Mathews, ac y mae'r ddau yn aros eto: ond clavychodd y blaenav ymhen y vlwyddyn, ac aeth i Gymru am 20 mlynedd gan ddychwelyd yn y "Vesta" yn 1885. Y figiwr ar y cwr uchav yw D. Ll. Jones. Dangosir yn y darlun un o'r hen droliau gwreiddiol wneid yn y Wladva o goed llong-ddryll oedd ar aber yr avon pan aed yno gyntay; a chywreinrwydd saernïol o gynlluniad J. Williams, Glandwrlwyd, bolltau a heiyrn y rhai hevyd a dynid o'r hen weddillion llong. Dangosir hevyd un o'r tai cryno cyntav wnaed yn y Wladva. Dengys y map bychan t.d. 47, Borth Madryn, lle y glaniwyd y Vintai; a'r fordd yr elent tua dyfryn Chupat oedd agos yr un ag yr aif y rheilfordd yn awr, ond y cadwent hwy beth ar y chwith wrth gyveirio at Drerawson, lle y lluestva gyntav-gryn 4 neu 5 milldir o aber yr avon. Ar ol y llong vach aeth a'r prwyadon yno gyntav (1863), nid aeth yr un long i'r avon wed'yn hyd y "Denby" yn 1867, a chollwyd hono yn 1868. Ve ddeallir wrth y map mor gyvleus yw Borth Madryn, wrth fod aber yr avon yn borthladd mor salw, a'r môr tu allan mor agored i wyntoedd.

Nodiadau

[golygu]