Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig/Penawd 17
← Penawd 16 | Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig gan Lewis Jones, Plas Hedd |
Penawd 18 → |
XVII.
CIP AR GYRAU'R WLAD.
Ar ol i'r "Myvanwy" lanio ei hymvudwyr yn 1870, a hwylio ymaith i Montevideo, nid oedd gan y Wladva yr un cyvrwng cymundeb gyda'r byd: a buwyd velly visoedd yn disgwyl rhywbeth o rywle, ac yn pryderu beth wneid. Ganol yr hav hwnw daeth tri brodor o'r berveddwlad i vasnachu, a phendervynodd tri o'r sevydlwyr achub y cyvle i vyn'd gyda hwy yn ol i'w cynevin, a cheisio cael gan eu penaeth, Tsikikan, eu harwain dros y tiri Patagones—L. J., D. W. Oneida, ac Ed. Price, a chyda hwy dri morwr ddiangasent o'r "Myvanwy." Ymhen blwyddi lawer y deallwyd anturiaeth mor ryvygus oedd hono y pryd hwnw.
Wedi gadael y dyfryn mae y fordd yn codi i'r paith mawr a alwyd wedi hyny Hirlam Fyrnig, am 50 milldir, heb ddavn o ddwr, nes dod i'r fynon fechan, Fynon Allwedd. Oddiar y paith hwnw gwelir mynyddoedd uchel (3700 tr.) yn dyrchu i'r golwg, a thrwy vwlch yn y mynyddoedd hyny yr elai'r fordd. Galwyd y mynyddau hyny Bànau Beiddio. Wedi croesi'r Hirlam, disgynir i is—baith dwvn, a llyn ar ei waelod, o'r enw Getl—aik. Oddiyno i'r gorllewin wynebir am y Bànau drwy vylchau creigiog—un o ba rai yw y Ceunant Cethin— —nes dod drwyddynt i droad rhediad y dwr. O'r van hono gwelir gwlad vwy agored a rhywiocach yr olwg, nes dod i wersyllva vawr y brodorion o'r enw Kytsakl, a hwnt i hyny Makidsiaw. Hono oedd y gìp gyntav gavwyd ar gyrion y berveddwlad, wedi y wib balvalog yn 1865—6, hwnt i'r Creigiau Cochion. Bu raid dychwelyd o'r daith hono heb vedru mynd i Batagones, am y dywedai'r Indiaid na vedrid mynd dros Valcheta ganol hav velly—a cywir oedd hyny.
Gwnaeth L. J. a D. W. Oneida gynyg arall i vynd tua Patagones gyda'r arvordir, gan ddisdyllio dwr y môr i'r cefylau a hwythau. Paith graianog a thywodog gavwyd y fordd hono: a thorodd y pair, vel y bu raid dychwelyd drwy gryn galedi. Dro arall, glaniodd yr un dau yn y Valdes, a cherddasant gryn dir ar y cyrion hyny.
Wedi cynevino âg agwedd y wlad a'i neillduolion, a dull y brodorion o deithio—ymhen blwyddyn neu ddwy, aeth L. J., A. Jenkins, a Richard Jones am daith mis i'r gogledd—orllewin, i'r cyrchvanau adwaenwyd wedi hyny vel Telsm, Kona, Rankiwaw, Trom—niew, &c.
Clywsid llawer o son gan y brodorion am Rio Chico (avon vach) oedd yn arllwys i'r Camwy, heb vod nepell o'r sevydliad. Cyn bo hir, i chwilio am hono aeth J. ac O. Edwards, a J. M. Thomas—a daethant i'r lleoedd cethinav, mae'n debyg, sydd yn yr holl wlad, o ran bod yn greigiog, agenog, anhygyrch. Cavwyd yr avon vach (Iàmakan), ond yr oedd y fordd ati mor anhawdd a phoenus vel na vu o vawr gyrchu—a rhyvedd y son, y mae er's blyneddau rai agos yn sech ond ar dymhorau eithriadol iawn.
Cyn hir wedi hyny cynullodd J. M. Thomas vintai archwiliadol i vyn'd tua'r de, gan ddilyn yr Iàmakan nes darganvod Llyn Colwapi, tua lledred 44.50. Yn vuan ar sodlau hyny aeth L. J., John Griffith, a'r anianydd Durnford gyda'r arvordir hyd ynghyver Pigwrn Salamanca, ac yno groesi i'r gorllewin nes d'od ohonynt hwythau i Lyn Colwapi, a dilyn ei vin ddwyreiniol hyd at yr avon Sin—gyr, sydd yn arllwys i'r llyn ynghyver Llyn Otron, man y mae gover y llyn hwnw yn arllwys i'r Sin—gyr: a dilynwyd yr avon hon o 40 neu 50 milldir, hyd y troad mawr a wna i'r gorllewin.
Gwnaed gwib neu ddwy arall vu yn allwedd i'r fordd sydd yn awr yn myned i'r Andes, ac a elwir Hirdaith Edwyn (am mai eve gavodd ben y llinyn). Elai E. R. y tro hwnw (1871) yn gydymaith i ddau Sais deithient gyda'r avon i chwilio am aur, ac a aethant hyd at y dyfryn eilw y brodorion Kel—kein.
Ond y treiddio cyntav i'r berveddwlad ydoedd yr un trychinebus y lladdwyd tri Cymro gan y brodorion, ac y diangodd y pedwerydd (J. D. Evans) o savn angeu drwy vuanedd ei gefyl a naid ovnadwy ei varchogedd yntau. Treiddiasaut hwy yn yr ymchwil am aur hyd at Walcheina a'r Teca—taith namyn diwrnod i'r Andes.
Wedi yr ymlid llwyr vu ar y brodorion gan gadgyrch vawr y Cad. Roca, trevnodd J. M. Thomas archwil lled lwyr ar y wlad i'r gorllewin, hyd yr Andes, gyda'r rhaglaw Fontana, a chymdeithion o'r gwladvawyr—o Eskel a Tsolila yn y gogledd gyda'r Andes, hyd at Lyn Fontana yn y de, ac oddiyno gyda'r Sin—gyr i Lyn Colwapi, ac yn ol gyda'r môr i'r Wladva. Gwnaethant ddwy daith y tro hwnw i leoli ac adnabod y wlad; a gwnaeth J. M. Thomas a chymdeithion amryw deithiau eraill y fordd hono i linellu a gwneud fyrdd. Erbyn hyn mae y wlad wedi ei bras—vesur a'i mapio yn lled lwyr—ond wele, gwâg iawn ydyw eto: tiriogaeth o 30,000 o villdiroedd ysgwar heb onid prin 4000 o bobl ynddi.
Gwelir oddiwrth hynyna mai arav a hir y buwyd cyn adnabod y wlad, ond y cefid cip ar y cyrion yma ac acw, yn awr ac yn y man, vel y byddai hamdden a'r cyvleusderau. Sypiwyd crynodeb y paragraf hwn, ond cymerodd i'r Wladva vwy nag 20 mlynedd i vedru dweud cymaint a hyn’a.