Neidio i'r cynnwys

Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig/Penawd 23

Oddi ar Wicidestun
Penawd 22 Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig

gan Lewis Jones, Plas Hedd

Penawd 24


XXIII.

Y VRWYDR AM LEODRAETH AC YMREOLAETH.

I ddeall y gohebiaethau sy'n dilyn rhaid crybwyll eto sevyllva y cysylltiadau gwladvaol yn ystod yr Ormes Swyddogol, gyda phenodiad J. Finoqueto yn Brwyad. Anelwig iawn oedd llynges y Weriniaeth Arianin y pryd hwnw: y llyngesydd oedd vrawd i'r Don Mariano Cordero oedd yn Briv Gabden y Borth, ac a ysgrivenasai y llythyr bygylog blaenorol. Yr oedd llynges Chili, debygid, gryn lawer yn amgenach: dyna'r adeg y cymylodd cyvathrach y ddwy weriniaeth parthed Patagonia, ac y danvonodd Archentina ei llynges i'r Groes—wen (Santa Cruz), a Chili ei llynges i Gydvor Machelan; ond cyvryngodd yr Unol Daleithau rhyngddynt. Llynges a llyngeswyr hen fasiwn oedd gan Archentina—parod i daro pan ddelai alw, gan nad beth vyddai y canlyniad. Ysgolorion o'r ysgol hono oedd cabden y borth ddanvonaaid i'r Wladva y pryd hwnw. Ysgrivenydd godasid yn swyddveydd y Priv Gwnstabl (chief of police) oedd Finoqueto. Ni wyddai y Wladva ond y nesav peth i ddim am yr anghydvod Chili —ond teimlid vod yr awyr yn llawn elvenau tervysg. Velly yr oedd anesmwythyd lleol y Wladva yn beth amheus Chilaidd i olwg yr ysgol vygylog hono.

Pan drymhaodd yr Ormes i'r vath raddau ag i garcharu a baeddu un o'r sevydlwyr, vel y cyveiriwyd uchod, barnwyd yn bryd i'r Wladva beri glywed ei llais yn y cyfro: gweinyddai D. Lloyd Jones vel Ynad, L. J. vel Cadeirydd y Cyngor, a thros eu cydwladvawyr cytunasant i ddanvon y nodyn canlynol at y Prwyad Finoqueto:—

Y Wladva, Tachwedd 3, 1881.

At y Prwyad Cenedlaethol D. Juan Finoqueto.—Yn enw y Wladva oll, a thros y Lleodraeth, yr ydym dan orvod i ervyn eich sylw,—vel yr awdurdod genedlaethol yn y Wladva,—i ddwylaw yr hwn yr ymddiriedwyd nid yn unig urddas y Genedl, eithr hevyd iawnderau y sevydlwyr vel deiliaid y Weriniaeth. Yr ydych bellach wedi gweled mor ovalus a pharchus yw y gwladvawyr i gydfurvio â'r cyvreithiau ac o'u hawliau cyviawn : os troseddent, byddai hyny o ddifyg deall. Mae yr awdurdodaeth gynrychiolwn ni, hevyd, yn cymeryd i ystyriaeth anhawsderau gweinyddu lle mor arbenig—heb drevniadau cyvlawn at bob amgylchiadau. Er hyny y mae jawnderau cyfredin cysegredig, ac y mae rheolau cyvreithiol sevydledig, wedi eu harver a'u cydnabod gan y Genedl, y rhai nas gellir eu hosgoi na'u tori yn ddi—berygl. Oblegid hyn y mae y Wladva wedi cyfroi drwyddi yn achos y digwyddiadau ddoe ac echdoe, pan gymerwyd yn garcharor ac y poenydiwyd un o`r sevydlwyr, heb na phrawv na rhybudd. Nid ydym yn mynegu barn na syniad am yr achos; ond, mae'n amlwg, nas gellir mewn unrhyw wlad wareiddiedig oddev y vath ymddygiad gormesol; ac velly, wedi gwrthdystio vel hyn yn ddivrivol rhag y vath drais, mae y gwladvawyr yn edrych atoch chwi i gosbi yr hyn a vu veius, ac i amddifyn y dyvodol gyda'r awdurdodau goruchel.—L. JONES, Cadeirydd y Cyngor; DAVID LLOYD JONES, Ynad Heddwch.

Chubut, Tachwedd 12, 1881.

At y Gwladvawyr Luis Jones a D. Lloyd Jones.—Gan i chwi ddanvon yn swyddogol i'r Brwyadva hon yn enw Cyngor ac Ynad, a chan vod yn hysbys na vodola yn y sevydliad hwn awdurdodau cyvreithlon wedi eu cymeradwyo gan y Llywodraeth na definiad o'u galluoedd—heblaw yr awdurdodau cenedlaethol, yr wyv yn syml ddychwelyd i chwi y nodyn, vel y galloch ei adwneud yn y furv briodol, gan ddeisebu vel sevydlwyr, ac nid vel awdurdodau, modd y galler yn gyvreithlon 1oddi sylw iddo a'i ddanvon—os bydd eisieu—i'r uchawdurdodau. Wedi egluro vel yna ddychweliad y nodyn, gallav chwanegu vod y Brwyadva hon wedi cymeryd mesurau yn y mater y cyveiriwch ato na wneir eto y camwedd a nodwch, a danvon adroddiad i'r awdurdodau. Mae y Llywodraeth eto heb varnu yn angenrheidiol sevydlu yn y Gwladvaodd Cenedlaethol unrhyw awdurdodau lleol, megys Cynghorau, Ynadon, na heddgeidwaid, wedi eu dewis gan y sevydlwyr, ond ymddiried i'r Prwyadon weinyddiad mewnol, milwrol, ac i hyny wedi rhoddi iddynt gorf o heddgeidwaid yn warchodaeth. Gŵyr yr holl sevydlwyr vod ganddynt yn y Prwyad awdurdod gyvreithlon i edrych ar ol eu holl gwynion a thravod eu materion pan vo alw am gyviawnder, ac y bydd gwasanaethwyr y Brwyadva yn ovalus yn eu holl ymwneud cyhoeddus a phreivad, ac i roddi esiampl i'r sevydlwyr vel na byddo unrhyw gwyn am eu gweithrediad. Ar lavar, hysbysais chwi y byddai yn dda genyv gevnogi cais at y Llywodraeth i gydnabod yn swyddogol eich swyddi a definiad eich awdurdod; eithr hyd nes y ceir hyny nis gallav eich cydnabod yn y cyvryw weddau, a chredav na ellwch lai na chanvod rhesymoldeb vy saviad. Gyda hyn o eglurhad mae'n bleser i mi gyvlwyno i chwi fy ngwerthvawrogiad ohonoch.—JUAN FINOQUETTO.

Atebwyd yr uchod.

Tachwedd 18, 1881.

At y Prwyad Cenedlaethol, D. Juan Finoquetto.—Ymbwyllais hyd yn hyn cyn cydnabod derbyniad eich nodyn rhyvedd a'i ateb. Mae'n beth tawelwch cael eich gair "na chaif peth vel hyn ddigwydd eto." Ond y mae eich honiad “nad oes yn y Wladva hon ddim awdurdodau lleol yn bod," yn tueddu i gyfroi yn y sevydlwyr ovnau am eu hawliau cyvreithlon, ac yn peri nas gallant gredu vod hyn yn gynrychiolad gwir o syniadau y Llywodraeth tuag at y sevydliad. Rhoddais i chwi ar eich dyvodiad yma grynodeb o hanes gweinyddol y Wladva er y cychwyniad, 11eg mlynedd yn ol. Rhoddais i chwi ddyvyniadau o lvthyrau Gweinyddiaeth Mitre a Rawson a'u cevnogaeth i'r Wladva: cyveiriais at dros 300 o ysgrivau swyddogol vuasai rhwng y Wladva a'r Llywodraeth. Ychwanegais o gyv. arwyddiadau y Prwyad Oneto, ar iddo "barchu a pharhau yr awdurdodaeth oedd." Adgoviais chwi o agweddiad dewr a phwyllog y Wladva pan ddaeth llu arvog alltudion Punta Arenas yma. Yna yn Hydrev 6, 1876, cyhoeddodd y Llywodraeth Ddeddv Dyvudiaeth a Gwladvaoedd, ymha un y cydnabyddid yn llawn y savle Leodrol i'r 50 teulu oyntav ddelai i'r sevydliad. Cyveiriais chwi hevyd at gyvraith Rhaglawiaeth y Chaco, 1872, ac a gymhwyswyd at diriogaeth Patagones, 11 o Hydrev, 1878, yn dynodi galluoedd a dyledswyddau Cyngor Lleodrol ac Ynad Heddwch. I gyvarvod hyn oll nid oes genych ond haeru nad oes yr un ysgriv furviol oddiwrth y Llywodraeth, mewn cist haiarn, yn datgan hyny mewn geiriau ! Hyny mewn gwlad vel yr eiddom ni sydd mor amiwd ac anghyvlawn hyd yn hyn mewn pethau llawer iawn pwysicach. Mae ein Lleodraeth ni yn gweithio'n rheolaidd er's 16 mlynedd, ac nis gellir ei dyrchavu na'i darostwng drwy ddyvodiad a mynediad y swyddog yma a'r swyddog arall. Byddai hyny yn gam âg urddas y Llywodraeth, ac â fyniant y Wladva. A goddevwch i mi ychwanegu, Br. Prwyad, mai camgymeriad mawr vyddai gwyro y Wladva oddiar y llwybr sydd wedi ei gadw mor union hyd yn hyu. Byddai ymddwyn yn drahaus at bobl sydd wedi ymwreiddio yn y wlad, a'u plant cyn hir ar rôl ei difynwyr, yn anheilwng o'r genedl Arianin. Mae Chubut yn ganolvan i Diriogaeth ddyvodol Patagonia, a disgwylir iddi gynevino â llywodraethiad y diriogaeth hono yn deilwng o'r Weriniaeth. Hyderav gan hyny y gwelwch, gan nad pa furviau sydd ar ol, vod gan y Wladva bob hawl i'w Lleodraethiad ei hun ac i barch y Genedl.—L. JONES, Cadeirydd y Cyngor.

Tra'r oedd y berw hwn ymhlith y sevydlwyr, yr oedd Don Juan Dillon a'r Llywodraeth o'u tu hwythau, yn ymysgwyd peth i gyvarvod yr helynt, vel y dengys y nodynau canlynol:Buenos Ayres, Chwev. 22, 1882.

Tervynav y llythyr hwn drwy eich anog yn y Wladva i vod yn ochelgar a govalus gyda'r awdurdodau lleol y mae'r Llywodraeth ar vedr benodi, a myned ymlaen vel y gwnaethoch hyd yn hyn—a hyny yn vwy velly'n awr, gan vod Dr. Irigoyen (y Gweinidog newydd) yn favriol iawn i ddyvudiaeth Gymreig: gallwch ddisgwyl oddiwrtho ev bob chwareu teg a chevnogaeth. Byddai yn dda hevyd ped ysgrivenech ato ev yn blaen a manwl eich hunan, a diau genyv y derbynid eich nodiadau gyda chymeradwyaeth a gwerthvawrogiad. JUAN DILLON.

Gwnaed hyny yn vyr iawn, vel y canlyn:—

Chubut, Mawrth 13, 1882. At y Gweinidog Cartrevol, Dr. Irigoyen. . . . Avlonyddais gyniver waith ar y Llywodraeth ynghylch cael rhyw vath o Leodraeth i'r Wladva, vel na wnav y waith hon ond eich adgovio o ddeisyviad y sevydlwyr i gael tervyn buan ar eu helbulon. Nid ydym ni yma yn ymdraferthu parthed dyledswydd pwy ydyw ein rheolaeth a'n dybynaeth yr hyn y mae ein dawr ni ynddo ydyw, gweled cyvlawniad eich addewid chwi o gymhwyso atom gyhoeddeb y Chaco, 1872, mewn rhyw furv ymarverol. Ni phoenay chwi gyda manylion ein sevyllva wladol resynus, a llwyr saviad yr ymvudiaeth Gymreig tuag atom. —L. JONES.

Y covnodiad nesav ydyw Cyhoeddeb y Llywodraeth, vel hyn:—

Buenos Ayres, Ebrill 30, 1882.

Yn gymaint ag vod swydd prwyadon gwladvaoedd wedi ei dileu, rhaid yw trevnu yn ddarbodol i gadw trevn a gweinyddiad ar y boblogaeth; a chan vod Deddv Dyvudiaeth yn dynodi pan vo 50 o deuluoedd wedi ymsevydlu, y gallant ethol Ynad Heddwch a phump o Gyngor, mae y Llywodraeth, gan hyny, yn Erchi: Cymhwyser Deddv y Chaco, 1872, at Diriogaeth newydd Patagonia, 1878, a threvner y Lleodraethiad vel y canlyn:—[Yna dilyna 15 o benranau yn gosod trevniant lleodrol lled gyvlawn yn y cyraedd — gwel Deddv Tiriogaeth Chubut, sydd agos yr un.]—B. IRIGOYEN.

Y camrau cyntav gyda'r gyvraith newydd hon tuagat ei chymwyso i'r Wladva oedd ar i'r Rhaglaw Winter Tiriogaeth Patagones," benodi pwyllgor i furvio etholres o'r rhai oedd a hawl i ethol. Yr oedd hwnw ar y pryd yn llawn fwdan gyda chario allan y gadgyrch yn erbyn yr Indiaid dros y Cadvr. Roca.

Hyd. 15, 1882, ymddangosodd paragraf ymhriv newyddur Buenos Ayres yn hysbysu vod y prwyad Finoquetto wedi danvon adroddiad i'r Llywodraeth am addysg y Wladva, yn ol pa un yr oedd 200 allan o'r 700 trigolion yn analluog i ddarllen nac ysgrivenu! Eglurwyd ymhen hir a hwyr vod y cyvriv hwnw yn cynwys yr holl blant o ddiwrnod oed i vynu, tra nad oedd mewn gwirionedd ond 39 o wrywod a 28 o venywod (o bob math) heb vedru. Chwanegai yr adroddiad:

"Ni ddysgir yn ysgolion y Wladva hon ond y davodiaith Gymraeg yn unig, a chynwysa y gwerslyvrau ddysgeidiaeth na ddylid ei oddev yn ein plith ni, sev vod y Wladva wedi ei seilio i gadw'n vyw y devion a'r iaith Gymraeg. Mae ysgol gan y Llywodraeth, ond 5 yn unig sydd yn myned iddi, sev plant y bobl hyny sydd wedi gallu ymryddhau o'r penboethni clerigol, ac nad oes arnynt ovn digio eu pregethwyr. Mae'r prwyad Finoquetto, wrth nad oes yno leodraeth vel mewn manau eraill, yn govyn i'r Llywodraeth roddi y gallu iddo ev drevnu addysg lle heb y beiau uchod."—Nacion.

Hyd. 18, yn yr un newyddur, atebai'r Profeswr D. Lewis, athraw Lladin a Saesneg yn y Coleg Cenedlaethol, gwr o sir Gaervyrddin, a enillasai savle anrhydeddus ymysg dysgedigion y ddinas, ond a vu varw tuag 1890:—"Mae y Cymry yn wir yn dymuno cadw eu hiaith, yr hon nad yw Saesneg, eithr Celtig ac y mae'r dymuniad yn naturiol a chyvreithlon, vel y dangosir drwy yr ymdrechion a wneir yn y wlad hon gan bob cenedl i gadw eu mamiaith. Mae'r awydd hwn—ac ni ddylid vod heb ei wybod—a'i wraidd yn y natur a'r galon ddynol.

Myn gohebydd arall, wrth gevnogi y prwyad, vod y Cymry drwy amcanu gwneud hyn yn y wlad hon yn gwneud peth na veiddiant wneud yn Lloegr, lle y gwrthodir yn bendant iddynt arver eu hiaith.' Ond dylasai y gohebydd hwnw wybod y caniateir haner cant o ieithoedd yn yr ymherodraeth Brydeinig. Wele Canada yn engraift, lle y siaredir Francaeg a Saesneg vel eu gilydd, hyd nod yn y Senedd. Nid yw y Cymry mor fol a gwrthod unrhyw addysg, ac ni wrthodant byth ddysgu Hispaenaeg, gan vod eu dyvodol bydol, deallol, cymdeithasol, a moesol yn y wlad yn dybynu llawer ar hyn: ac mewn yspryd gwrthnysig yn unig y cenedlir y syniad arall. Gwn hanes vy nghydwladwyr y tu yma a thu draw i vôr, ac ymrwymav nad oes ddichon i'r Weriniaeth gael poblogaeth dawelach, vwy deallus, a llavurus. Nid oes anvoddogrwydd yn bod; ac os ydynt heb ddysgu iaith y wlad, y mae hyny am nad oes neb i'w dysgu, neu am nas gall yr un athraw ddysgu cylch o 40 milldir. Y mae ynvydion ymhob cymdeithas, eithr pob dyn pwyllog a ovala na chondemnia Wladva gyvan am anoethineb, hwyrach, ychydig anwybodusion.—D. LEWIS."

Ar ben y 7 mlynedd hyny—oblegid yr ormes vlin oedd ar y Wladva gadawsid i'r hen weinyddiad "Cyngor syrthio i vrusgrellni, vel nad oedd yn aros ond y "llywydd" (J. C. Evans), a'r trysorydd (H. H. Cadvan), a'r Ynadva (yn ochelgar): Velly Rhag. 18, 1882, galwodd y llywydd gyrddau yn yr holl ardaloedd, gydystyried y sevyllva, a phenodi yno gynadledd i dravod yr holl amgylchiadau. Yn y gynadledd hono pendervynwyd:—(1) Danvon eilwaith ddirprwyaeth at y Llywodraeth. (2) Cymeryd achlysur o'r casglu ystadegau blyneddol averol i wasgu ar y prwyad ei gamliwiad a'i anghywirdeb yn y davlen vlaenorol, a govyn iddo gymeryd cynorthwy lleol o ymddiried y bobl at y gwaith. (3) Ymrwymo i'n gilydd i dderbyn dyvarniadau ynadol athrywynol o'n plith ein hunain, vel peth mwy boddhaol na'r dull presenol o weinyddu iawnder. Cynaliwyd y cyrddau yn yr amrywiol ardaloedd wedi y gynadledd, a chytunwyd yn unvrydol ar y pendervyniadau uchod. Savle yr Ynadva, vel y gwelir, y rhoddid vwyav o bwys arni—ac ni veddylid vawr y deuai'r ergyd yn y dull y daeth.

Rhag. 20, danvonodd y prwyad nodyn yn govyn i L. J. alw yn y brwyadva "i wneud mynegiad.' Yno "mynegodd iddo omedd rhoddi ei ystadegau, am (1) vod adroddiadau y llynedd mor gamarweiniol, vel dangosiad o gyvlwr addysg a moesau y Wladva, vel y barnai mai gomedd vel hyny vyddai y gwrthdystiad mwyav efeithiol. (2) Mai y dull mwyav boddhaol i ystadegu sevydliad gwasgarog vel hyn o bobl amryw—ieithog vyddai drwy gydweithrediad lleol o ymddiried. (3) Nad ydys drwy hyn yn beio ymddygiad neb yn bersonol, ond yn achwyn ar y reolaeth a'r dull o'i gweinyddu. Wedi arwyddo y mynegiad uchod, dywedwyd wrtho ei vod yn garcharor, am ddiwrnod neu ddau," nes cael tystiolaeth rhai eraill oedd yn y cyngrair "i herio'r awdurdodau." Pan ddeallwyd vod L. J. yn garcharor, cyfrowyd yr holl Wladva: cynullai y cymdogion i siarad y peth, ac yn eu plith R. J. Berwyn. Hònai y prwyad vod Berwyn yn anos y gwladvawyr i gipio L. J., ac ymosod ar y brwyadva, a chymerai arno vod gan y bobl arvau: ac i vewn a Berwyn at L. J. Galwodd Finoquetto ar y swyddog (cabden y borth a dynion y dollva) "i gymeryd arvau at amddifyn y vaner Arianin." Ni chafai y carcharorion wel'd eu gilydd na'u teuluoedd —yr hen arver Hispaenig a elwir incomunicado, a buont velly rai dyddiau.

Ond hwyrach mai mwy boddhaol yw dodi yma yr adroddiad canlynol o'r helyntion ddilynodd, dynwyd allan ar y pryd gan bwyllgor dewisedig o blith y rhai oeddynt wyddvodol:

"Yr oedd galw ar un o sevydlwyr blaenav y Wladva i'r brwyadva 'i wneuthur mynegiad,' heb na gwys na chyhuddiad, ac yna ei gadw yn garcharor heb brawv na dedvryd, yn beth mor chwith i'n syniadau ni am iawnder, vel y cyfrôdd pawb. Pan ymgynullodd y pentrevwyr, danvonasant ddau o'u plith yn genadon i'r brwyadva i ovyn am ba beth yr oedd L. J. yn garcharor, ac a ryddheid ev ar veichiavon. Rhag. 22, daeth y sevydlwyr o'r wlad ynghyd i Drerawson, i gynal cyrddau trevnus dan gadeirydd: a danvonwyd eto genadwri i'r brwyadva i'r un perwyl. Yr atebiad oedd gorchymyn ymddiheurad "am ymgynull yn vygythiol." Parhaodd y dravodaeth drwy dranoeth, a chaniatawyd i'r ddirprwyaeth weled y carcharorion. Wedi eu gweled a chael ymddiddan â hwy, penodwyd y pwyllgor isod i ovalu am yr achos, ac aeth agos bawb adrev i'w cartrevleoedd y noson hono. Wedi 10 niwrnod o garchariad velly, rhyddhawyd L. J. a Berwyn ar wystl eu gair i ymddangos pan elwid arnynt. Ond cyn hyny danvonasid ysgrivenydd y brwyadva o amgylch y sevydliad gyda phapur i'w arwyddo [gwel isod]. Ar ol ymddiried yr achos i oval y pwyllgor a ddewisasid (sydd a'u henwau isod) cynaliwyd cyrddau ymhob ardal i egluro y mater heb na chêl nac ovn. Gan hyny, hydera y pwyllgor y gwel y Llywodraeth ddarvod i'r bobl ymddwyn yn bwyllog a gweddaidd dan amgylchiadau digon cyfrous. Balchiant yn awr o'u hen arver vel breinwyr rhydd, yn gallu ymddwyn mor wahanol i'r hyn yr ymddygid atynt hwy; a gobeithiant y gwel y Llywodraeth oddiwrth hyn vod unrhyw Leodraeth ymddiriedir i'r Wladva yn ddiogel o gael ei harver mewn pwyll a deall. Deallir vod ysgrivenydd y brwyadva yn cynull enwau wrth bapur amwys yn hòni nad ydyw ond datganiad o warogaeth i'r Llywodraeth, ac y gallai rhai ei arwyddo yn ddiveddwl. Ond mae y pwyllgor hwn, dros yr holl Wladva, yn gwneuthur y mynegiad hwn i'r Llywodraeth, vel y gwir adroddiad syml.

Wm. Robt. Jones, cadeirydd; R. O. Jones, ysgrivenydd; David Lloyd Jones, Maurice Humphreys, Joshua Jones, Evan Parry, H. H. Cadvan, Ŵ. Rich. Jones.

[Y papur y cyveirir ato:—"Oblegid y digwyddion diweddar o garcharu L. J.—vel na vo i'r Llywodraeth ein cymeryd ni gyda y rhai beius yn y mater hwn, ydym yn datgan ohonom ein hunain ein bod yn parchu ac yn derbyn yr awdurdodau cenedlaethol yn y Wladva hon a gynrychiolir gan y Prwyad."]

Danvonwyd L. J. a Berwyn i Buenos Ayres, ac elai Finoquetto gyda hwy yn y llong; wedi cyraedd yno aeth pob un i'w lety. Dranoeth, aeth y tri gyda'u gilydd i Swyddva Tiroedd a Gwladvaoedd: aeth y prwyad i mewn at y penaeth, a phan ddaeth yn ol ymhen rhyw 10 munud, "Gadewch i ni vyned," meddai, "yn y cerbyd." Ni ovynasid ac ni roddasid unrhyw eglurhad, ac ni wyddid i ba le yr elid. Y "Policia" ydoedd! Yno, drachevn, ni ovynwyd ac ni roddwyd ond yr enwau a'r oed. "Ni welsom Finoquetto mwy am ddyddiau rai. Aed a ni drwy ryw gelloedd avlan a barau haiarn iddynt, a dangoswyd dau vwrdd i ni orwedd arnynt—'Ac yn ufern eve a gododd ei olwg." Yr oedd hyny voreu Sadwrn. Cawsai L. J. gyvle (drwy dalu) i ddanvon gair at gyvaill iddo, a daeth hwnw i'w weled at yr hwyr, gydag addewid Dr. Irigoyen y gollyngid hwy yn rhydd y diwrnod hwnw. Deallwyd wedyn ddarvod i'r prwyad vedru oedi yr archeb yn y swyddveydd: a bu raid treulio y nos hono ar y byrddau moelion, ynghwmni lladron a gwallgoviaid, a llygod freinig—amryw o'r rhai olav y bu raid cydio ynddynt i'w lluchio i'r llawr pan avaelent mewn tamaid o'r cnawd. Nawn dranoeth galwyd arnom at y Priv Gwnstabl, a chymerwyd ein henwau vel o'r blaen: yna daeth hen voneddwr o Wyddel atom aethai yn veichiau drosom—Don Miguel Duggan, o gofa bendigaid—gŵr wedi arver cymwynasu cydwladwyr trallodus, ac wedi clywed drwy gysylltiadau nodyn L. J. am yr helbul—a ddaethai oddiwrth ei vrecwest, canol dydd Sul, i'n gosod yn rhydd, o ewyllus da at y Wladva. Bendith ar ei enw!—taw y mae eve wedi myn'd i'w orfwysva er's blyneddoedd.

Nid peth anghyfredin yn Buenos Ayres y dyddiau hyny oedd carcharu eu gilydd dan yr esgus o gamweddau gwleidyddol. Yn y cellau yr un pryd a'r Gwladvawyr yr oedd Dr. Manuel Quintana ddaeth wedi hyny yn briv weinidog yn Arlywyddiaeth Saenz Pena,—a archasid i garchar gan Dr. Victor Molina, vel cadeirydd y bwrdd ethol, am anuvudd-dod.

Gwnaed sylw mawr o helynt y Wladva yn newydduron Buenos Ayres. Ebai y Nacion (y priv newyddur): "Cynorthwywyd sevydlwyr y Wladva ar y cychwyn oblegid eu savle neillduol. Ar ba delerau y gwnaed hyny? Ar y telerau o barchu a chyvlawni cyvreithiau y Weriniaeth, ac uvuddhau i'w hawdurdodau, a'u gwneud yn vreinwyr Arianin bob yn ychydig. Velly mae gwladvawyr Chubut yn Arianin—rai oblegid gadael eu gwlad a mabwysiadu gwlad newydd, a'r lleill oblegid eu geni yma, a chan hyny maent yn yr un sevyllva ag unrhyw van arall o'r Weriniaeth, er y gwahaniaeth iaith a chenedl. Pam, ynte, y bu'r ymravaelion hyn, a pha gyvriv i'w roddi am y gwrthwynebiad i'r awdurdodau benodasid gan y Llywodraeth? Bu hyny oblegid gwyro cyvreithiau a sevydliadau y wlad—oblegid anaturioli y gyvundrevn gyvansoddiadol—oblegid y danvonir i'r gwladvaoedd ORCHYMYNWYR yn lle swyddwyr da—vel yr eglur ddengys adroddiad Swyddva Gwladvaoedd am y vlwyddyn o'r blaen. Ac yn awr pan yr ydys newydd erchi ethol ynadon a chyngorau i ddwy ranbarth y Chaco, yn ol y gyvraith, dylid adgovio vod gwladva Chubut er's hir amser mewn sevyllva addas i weinyddu ynadva a lleodraeth, a phe buasid wedi gwneud hyny yn gynt arbedasid yr holl helynt avreolaidd a vu'n ddiweddar yno. Dvwedasid yn un o adroddiadau y Swyddva Dirol—Mae bod heb gyvreithiau a threvniadau at lywodraethiad a gweinyddiad y gwladvaoedd cenedlaethol wedi peri cyfroadau divrivol yn Chubut, a rhoddi achlysur i chwedlau disail am y sevydlwyr vel avlonyddwyr y wlad. Eithr dywed y gwladvawyr—Archentiaid ydym, a govyn yr ydym sut y mynech i ni vyw ac ymddwyn hyd nes y deddvoch drwy gyvraith neu gyhoeddeb weinyddol.' Nid rhyvedd vod camddealltwriaeth wedi codi. Dengys yr helynt y dylid sevydlu llywodraeth leol briodol, a thrwy hyny at-dynu y sevydlwyr at eu gilydd, vel y gwna'r Unol Daleithau."—Nacion.

Awdwr y sylwadau uchod oedd neb llai na Dr. Rawson.

Yn y cylchoedd Prydeinig drwy y Weriniaeth oll parodd y carchariad gyfro dirvawr. Ebai y Buenos Ayres Standard: Mae carchariad Mri. Jones a Berwyn yn engraift eto o'r bwnglera gweinyddol sydd yn andwyo ein gwlad. Yr ydym yn honi cevnogi dyvudiaeth pobl atom, ond chwith iawn yw y dull gymerwn i wneud hyny. Wele ddau voneddwr adnabyddus o bob tu i'r Werydd, a'u dylanwad wedi bod drwy'r blyneddau gyda buddianau goreu y wlad, yn cael eu danvon i garchar gyda throseddwyr a gwallgoviaid i'w dwyn ger bron y llysoedd! a hyn oll oblegid chwilen wyllt tipyn o swyddog yn y police! Evallai y dywedir wrthym mai drwy gamddealltwriaeth y bu'r peth dywedwn ninau vod dealltwriaeth rhai o'n hawdurdodau yn galw am driniaeth o oleuni dreiddia drwy ddwlni mawr lawn. Y peth sy'n ddyrus i ni yw y carcharu. Pa gyvraith dorwyd, pa drais ar heddwch na diogelwch neb a gyvlawnwyd? Os bu anghydweliad, pam na ellid ei setlo mewn dull teilwng o'r urddas a'r rheswm gwaraidd yr hònwn ni vod yn perthyn iddynt. Os oedd raid carcharu un o'r pleidiau, pam na chymerasid yr un mwyav yn y camwedd? Pe buasai priv ddinas Archentina yn wersyll Indiaid ni vuasai ryveddach gweled yngharchar ddau ŵr ag y mae'r wlad yn vwy dyledus iddynt nag i ddwy gatrawd o blismyn gwledig. Yr ydym yn sicr nad oes ddeiliaid tawelach yn bod na'r Cymry—yn bobl hyddysg, diwylliedig, diwyd, a thawel—a pham velly na adawsid iddynt drevnu eu hachosion lleol eu hunain: gwnaethent hyny yn llawer gwell na chrach swyddogion vel hyn. Pe byddai swyddwyr y Llywodraeth yn Chubut yn deilwng o barch, gwyddom yn burion y cawsent hyny gan y Cymry hyn i'w llawn haeddiant. Mae sevydlwyr Chubut yn ddyledus am eu llwydd presenol yn gwbl i'w hymdrechion eu hunain, ac nid i ddim cymorth gawsant gan y swyddwyr."

Ar ol bod yn y ddinas vis cyvan, ganol hav poeth—heb na holi na phrawv—cyhoeddwyd ryw ddiwrnod gan y Gweinidog Cartrevol, y reithvarn ganlynol ar y carcharorion:—" Wedi gweled adroddiad prwyad Chubut, yn dangos vod L. Jones a R. J. Berwyn wedi gwrthwynebu awdurdod y prwyad hwnw—y blaenav drwy gymell cyrddau i wrthwynebu trevniadau y prwyad i gymeryd rhiviant y lle, a'r ail drwy anos y sevydlwyr i gevnogi'r blaenav, eithr ar yr hyn na wrandawodd y sevydlwyr —ac am hyny ddarvod dwyn y ddau i'r ddinas hon i garchar. Wrth ystyried (1) Mai priodol vuasai cyvlwyno yr achos i'r llysoedd rheolaidd am yr haeddianol gosp; ond y gellir yn yr achos hwn weithredu mewn tynerwch, yn ol dymuniad y prwyad ei hun: (2) Fod yr awdurdod genedlaethol wedi ei barchu drwy i'r dorv sevydlwyr ymchwalu o vlaen yr arddangosiad wnaeth y prwyad, a datgan eu huvudd—dod i'r awdurdod, a govyn vel cymwynas am ryddhad L. J. (3) Vod hwnw ei hun, y penav yn y camwedd, yn esgusodi ei ymddygiad drwy ddatgan nad oedd ganddo un bwriad i amharchu yr awdurdodau. (4) Vod y prwyad ei hun yn eiriol dros y carcharorion, a govyn ar iddynt gael eu hystyried vel wedi eu carthu o'u trosedd, ac vod y gwyddonwyr Frengig oedd yn y lle ar y pryd yn cymeradwyo yr un peth—Cyhoedder hwy yn rhydd.—B. DE IRIGOYEN.

Dychwelasai Berwyn i'r Wladva pan welwyd mai mewn mwg y darvyddai'r helynt—ond arosodd L. J. i weled y diwedd, ac yna ddanvon y nodyn canlynol i'r Gweinidog, ymhen 6 wythnos o ddisgwyl:—

{[right|Buenos Ayres, 15 Chwev., 1883.}} At y Gweinidog Cartrevol, Dr. Irigoyen.—Rhoddwyd i mi heddyw y wybyddiaeth swyddol o bendervyniad y Llywodraeth yn y mater a'm dygodd o'm cartrev pell yn y Wladva i'r ddinas hon. Dioddevais mewn amynedd yr holl helbulon a sarhad a roddwyd arnom, yn y llawn obaith y gelwid arnav o'ch blaen i roddi cyvriv am vy syniadau ac ymddygiadau, ac y cawn velly gyvle i ddangos i chwi mor anheilwng oedd y cyhuddiad wneid yn ein herbyn. Dywedir wrthyv yn awr mai y pendervyniad sydd wedi ei hysbysu i mi heddyw yw yr unig lwybr gweinyddol dichonadwy, heb vyned i'r llysoedd—ac velly nad oes ond diolch am hyny. Ond gan vod y "pendervyniad yn cynwys y cyhuddiad, nis gallav ddychwel i vy nghartrev eto heb adael ar gov a chadw i'r Llywodraeth yr hyn hevyd vynegir yn y pendervyniad—"Na vwriadwyd sarhau yr awdurdodau" a chwanegav yn awr na sarhawyd mohono genyv o gwbl." Dengys adroddiad pwyllgor y sevydlwyr vod ymddygiad y Wladva wedi bod yn bwyllog ac ystyriol, yn ol arver pobl waraidd. Ond a rhoddi o'r neilldu y mesurau y barnodd y Prwyad yn rheitiol eu cymeryd yn yr helynt, hyderav y sylwir yn glir vod yr holl gamddealltwriaeth wedi codi oblegid y dull chwith o weinyddu achosion lleol y Wladva. Yr oedd savle y prwyad cenedlaethol mor amwys—heb reolau na deddvau na dulliau i lywio wrthynt, vel yr oedd yn agored ar unrhyw vunud i ddirywio yn unbenogaeth bersonol beryglus—i'r hyn hevyd yr aeth. Chwaneger at hyny yr anhawsder o vod heb ddeall iaith y bobl (ac velly eu syniadau), a chyda hyny y duedd o edrych ar y sevydlwyr vel tramoriaid i deyrnasu arnynt, ve welir yn amlwg vod rheolaeth prwyad yn anvoddhaol ac anesmwyth. Dyna anhawsder Chubut er's talm. Yn vy natganiad cyntav wrth y prwyad nodais hyn allan yn bendant.

Tra yr oedd y pethau hyn yn digwydd yn y Wladva, deallasom wedi hyny, vod y Llywodraeth wedi cychwyn gwneud trevn ar yr amwysedd a'r anhawsderau, drwy gyvraith y Chaco. Ervyn yn unig wnawn yn awr am vrysio hyny. Nid oedd y digwyddiadau diweddar, o'u hawn ddeall, ond eglurhad o angen ac addasrwydd y Wladva i Leodraeth. Byddai ensynio vod y Wladva yn anfyddlon i'r Weriniaeth yn sarhad ar hanes ein 18 mlynedd gweinyddiad lleol. Gellwch vod yn sicr, pan gerir allan gyhoeddeb Ebrill 11, 1882, yn ol yr amlinelliad gyhoeddir ar gyver y Chaco, y mawr werthvawroga y Wladva hi, ac y cariant hi allan yn ddeallus.—L. J.

Nodiadau

[golygu]