Neidio i'r cynnwys

Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig/Penawd 8

Oddi ar Wicidestun
Penawd 7 Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig

gan Lewis Jones, Plas Hedd

Penawd 9


VIII.

LLAWLYVR Y WLADVA A'R DDRAIG GOCH.

Tra yr oeddys vel hyn heb ddim ond darlithiau a chyrddau, ac ambell i lythyr yn y newydduron, teimlid nad oedd yr oll namyn "llev un yn llevain yn y difaethwch": wedi araeth hwyliog neu gwrdd dyddorol, ni vyddai dranoeth nemawr o'i ddylanwad yn aros nid oeddys yn covio nac yn sicr beth ddywedasid, ac nid oedd pawb yn deall yr un vath a'u gilydd. Velly, pan symudodd L. J. ei swyddva argrafu o Gaergybi i Liverpool, rhoddodd hyny gyvle i'r Pwyllgor Gwladvaol ddevnyddio Trosol Mawr y Wasg i glirio'r fordd. Nid oedd trysorva'r pwyllgor ond ceiniogau gweithwyr, yn rhoi o'u prinder a'u brwdvrydedd at vudiad ymddangosai iddynt o vuddioldeb cenedlaethol anrhaethol. Cyhoeddwyd velly "Lawlyvr y Wladva Gymreig" yn 1861, a'i deitl "Sylwadau ar yr angenrheidrwydd a'r posibilrwydd o'i sevydlu: hanes Patagonia, yn egluro ei haddasrwydd i'r Sevydliad: y dravodaeth gyda Buenos Ayres am drosglwyddiad y tir; bras-gynllun o drevn yr ymvudiad; a darlunlen o Patagonia: gan H. H. Cadvan." Diau i grynhowr y llawlyvr chwilio llawer o lyvrau i gael y dyvyniadau sydd ynddo am Patagonia; eithr gwlad anhysbys ydoedd, ac yngoleuni ein gwybodaeth bresenol am dani ymddengys y llyvryn hwnw yn henavol ac anghyvlawn; ond lledaenwyd llawer ohono yn Nghymru ac Amerig. Nid digon hyny ychwaith, os oeddid am i'r mudiad beri ei deimlo ymhob twll a chornel, ac aeddvedu i rywbeth sylweddol:—velly, sev ar y 5ed Gorfenav, 1862, ymddangosodd y Ddraig Goch i hyny, newyddur pythevnosol y Wladva Gymreig ac Ymvudiaeth," cyvres gyvlawn o'r rhai sydd ar gadw yn y Wladva. Yr oedd erthyglau y newyddur hwnw gan M. D. Jones, D. Lloyd Jones, L. J., Gutyn Ebrill, Morgan P. Price, Mab Anian, H. H. Cadvan, Berwyn, a llu o ohebwyr eraill yn chwythu y tân cenedlaethol dros Gymru oll yn y gadgyrch am Wladva Gymreig. Yr oedd yr ysgrivenwyr yn eu dyddiau goreu, a'r Mudiad Gwladvaol yn tanio eu heneidiau. I'r hanesydd bydd y cyvrolau hyny yn gywreinion llenyddol gwerthvawr, ac yn govnodion awdurdodedig o'r Cyfrawd Gwladvaol nes yr ymsylweddolodd yn y vintai gyntav. A hwnw oedd y Cyfrawd Cenedlaethol Gwleidyddol cyntav (wedi dyddiau Glyndwr) y mae son am dano. Nid oedd y newyddur hwnw yn adnabod enwadaeth neb, mwy nag y mae'r Wladva eto. Yr oedd i'r Eisteddvod vanlawr cenedlaethol, ond ni veiddid travod gwleidyddiaeth yno. Eithr lluman Gwleidyddiaeth Genedlaethol Gymreig oedd baner y Ddraig Goch, a dysgu ac ysbrydu Cymry i deimlo YN BOBL, vedrent lywiadu eu gwlad oedd hanvod y Mudiad Gwladvaol.

Yn y rhivynau cyntav y gorchwyl mawr oedd "gostwng y cythreuliaid" gwrthwladvaol elent dan Garibaldi,” yr enwau Twrch, J. J., New York, &c., &c. Erthyglau arweiniol y "Ddraig Goch" oeddynt Ymvudiaeth, Castell yn yr Awyr, Pwrs y wlad, Anhawsderau Gwladychu, Rhagluniaeth o du y Wladva, Yr Eisteddvod a'r Wladva, Rhyvel y Taleithau, Stiwardiaid a meistri tiroedd a'u deiliaid, Syrthiant y Ser, Hen Gweryl Ewrob, Planiad Cyf Cenedl y Cymry yn Ne Amerig, y "Byd Cymreig a'r Wladva, Y Times, Y bendefigaeth a Rhyvel y Taleithau, Ewrob yn myn'd yn ol, America, Trevedigaeth, Mil—vlwyddiant, Egwyddorion. Gohebiaethau oddiwrth y blaenwyr Gwladvaol Edwyn Roberts, H. H. Cadvan, Gutyn Ebrill, Twmi Dimol, Dan. ab Gwilym, Cymro Du, Peredur, Morddal, W. ap Mair Gwilym, E. P. Jones, Cynddylan, Ioan Dderwen o Von, &c. Adroddiadau am gyrddau gwladvaol yn Lerpwl, Birkenhead, Merthyr, Aberdar, Castellnedd, Mountain Ash, Hirwaen, Llanelli, Dolypandy, Aberystwyth, Capel Seion, Llandudno, Henryd, Llanrwst, Castell Emlyn, Blaenau Festiniog, Rhymni, Dowlais, Cwm bach, &c. Dyry y dyvyniad canlynol gyweirnod yr ail gyvnod: Drwy y gyvres vlaenorol o'r Ddraig Goch cawsom gyvle i ddwyn y mudiad gwladvaol i'w savle briodol yn ystyriaeth y rhan vwyav ohonoch. Yn y gyvres hon yr amcan yw mynegu yn gyvlawn i bleidwyr y mudiad wedd bresenol yr achos, a rhoddi adroddiad y prwyadon ddychwelasant yn ddiweddar, ac velly roddi cyvle i bawb veirniadu a chwilio a chynghori. Barnu mae'r pwyllgor hevyd vod yr amser wedi d'od nid i voddhau cywreinrwydd darllenwyr cyfredin, eithr i dravod ymholion pryderus ymvudwyr, a gosod ger eu bron neillduolion y trevniadau gynygir, vel ag i weled beth sydd gyrhaeddadwy a dymunol. Mae y rhai vyddai debyg o vod yn y vintai gyntav yn wasgaredig dros y byd cyraeddadwy; ond dylent gydnabyddu â syniadau eu gilydd, vel ag i lunio sylvaeni cadarn o gyd-ddealltwriaeth a chydweithrediad."

Gwelir vel hyn vod pethau yn arav aeddvedu. Ond nid oedd gyswllt clwm rhwng Pwyllgor Lerpwl âg M. D. Jones: y blaenav oedd yn mwstro, ond at yr olaf yr edrychid i WNEUD rhywbeth.

Yr oedd y travnoddwr Arianin yn Liverpool wedi bod yn varsiandwr yn Buenos Ayres, ac yn teimlo dyddordeb yn y mudiad i gael Gwladva Gymreig yn y Weriniaeth hono, ac yn yr un adeilad ag ev yr oedd swyddva y masnachdy mawr T. Duguid & Co. Wedi cael yno ryw le troed, galwyd ar M. D. Jones yno i gyvarvod y travnoddwr Phibbs a'r masnachwr Duguid, a chyda hyny Robert James, O. Edwards, a L. J. Cytunwyd ar i bwyllgor Liverpool dynu allan gais at y Llywodraeth Arianin yn govyn am neillduad rhan o Patagonia i vod yn Wladva Gymreig. Gwnaed hyny drwy y travnoddwr, ac ymhen amser cyvaddas cavwyd y nodyn swyddol a ganlyn:—

Liverpool, Awst 25, 1862.

"Awdurdodir chwi i vynegu hyrwyddwyr y mudiad am Wladva Gymreig na vydd unrhyw rwystr o du y Llywodraeth i ganiatau niver o leagues o dir, neu ryw rodd benodol o dir i bob teulu, os yw y gymdeithas o'r vath savle ag i warantu gwladychiad efeithiol y tir ganiateid iddi. Os yw y gymdeithas Gymreig hon, yn ol eich barn chwi, wedi ei furvio yn ovalus, ac yn meddu ar y moddion a'r sevydlogrwydd digonol i gario allan y cynygion a wnant, byddai well iddynt ddanvon prwyadon allan yma wedi eu hawdurdodi yn briodol, i orfen cytuno gyda'r Llywodraeth, ac hyd nod weled a dewis y manau y bwriedir sevydlu arnynt. Os amgen, ac y byddai raid travod y cytundeb a phob adran ohono drwy lythyrau, dichon na byddai hyny yn ol buddianau goreu y cytunwyr—evallai ar vanylion dibwys y rhai pe travodid ar lavar arbedai amser gwerthvawr i'r ddwy blaid."—G.R.

Wrth ystyried yr uchod, cyngorwn chwi, voneddigion, i vod yn egniol, acar unwaith furvio pwyllgor gweithiol cyvrivol, gweithgar, a dylanwadol, gyda pha un y bydd yn bleser genyv weithredu yn swyddogol vel travnoddwr, yn gystal ag vel pleidiwr diysgog i'r mudiad.—S. R. PHIBBS.

Medi 22 ysgrivenai'r gweinidog drachevn: "Nid oes dim yn y cynygion ymvudol ddanvonasoch na allai y Llywodraeth eu caniatau. Pe cyraeddai ymvudwyr yn vinteioedd, mwy neu lai niverog, a sevydlu eu hunain fel Gwladva ar ryw ranbarth, derbynid hwy yn groesawgar."

Wedi cael y vath wahoddiad i ddanvon prwyadon, gwnaeth y pwyllgor bob ymdrech i gyvarvod yr alwad. Danvonwyd H. H. Cadvan i gasglu drwy Ogledd Cymru, Edwyn Roberts drwy'r Deheudir, ac M. D. Jones ac L. J. drwy ranau o Geredigion. Cyhoeddwyd rhestr y tanysgrivion, a gwnaent ychydig dros £200. Dewiswyd Capt. Love Jones—Parry a L. J. i vyned yn brwyadon.

Nodiadau

[golygu]