Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig/Rhaglith
← Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig | Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig gan Lewis Jones, Plas Hedd |
Cynwysiad → |
RHAGLITH.
BYDD orgraf y llyvr hwn, hwyrach, dipyn yn lletwith i'r llygaid anghyvarwydd ond gobeithio yr wyv vod yr ysgola lawer sydd wedi ymdreiddio drwy Gymru yn ddigon o hyrwyddiad deallus i'r darllenydd Cymraeg cyfredin, vel na bo dramgwydd nac anhawsder iddo ddilyn yn ddorus y traethiad hwn o STORI'R WLADVA, yn ddisglof o ran yr orgraf. Nid yw y newid namyn dodi v yn lle f, vel ag i adael yr ff hyllig, a thrwy hyny vireinio peth ar olwg ein llyth'reniad. Anav cas i'm llygad argrafydd i yw y dybledd cydseiniaid heglog a breichiog sydd ar ein horgraf: ac velly hevyd, wrth gwrs, y dyblu cydseiniaid er mwyn byrhau(!) y sain lavar. Penbleth ddybryd yw ceisio rhesymu a chysoni orgraf ein Cymraeg—cadw ei grym a'i thawdd henavol, a chyda hyny yr ystwythder diweddar na verwina mo'r glust na'r llygad goeth. Hofaswn, vel cymydog i'r Hispaenaeg yn y Wladva, wthio χ am ch, vel yn yr iaith hono: a phe cawswn gyda hyny furv o δ am dd, disgwyliaswn yn dawel am vilvlwydd yr orgraf. Nid o gymhendod y gwthir i sylw y symleiddiad hwn—rhag agor llivddorau "yr orgraf"—eithr o weled osgo bendant yr ysgolheigdod ddiweddar at ddilyn sain yn hytrach na gwraidd; ac o synied vod pob hwylusdod a byrder yn rhan o'r cabol a'r coethder yr ymestyna'r byd mor ddyval ato. Dilynais ddull gwerinol yr Unol Daleithau o grybwyll pawb wrth eu henwau galw: a'r un modd o ran yr ieithwedd, ceisiais osgoi coeg rodres anystwyth, heb syrthio i anghoethedd llenorol.
Bwriedir y llyvr hwn yn arbenig i dri dosbarth o ddarllenwyr :
1. "Plant y Wladva," wedi eu geni a'u magu yno—mal y gwypont yn gywir hanes eu Gwlad y dyhead cenedlaethol dwvn a chysegredig roddodd vodolaeth i'r Wladva: a'r egnion a'r aberthau wnaed gan eu tadau a'u mamau i ddiogelu iddynt hwy y breiniau a'r cyvleusderau sydd yn awr yn etiveddiaeth deg iddynt. Nid ydys yn y rhengau yn gwybod ond yn rhanol iawn am yr ymladd ymhob cwr o vaes y vrwydr; ond pan ddygir adroddion pobun at eu gilydd yn hanes cryno, bydd pob swyddog a soldiwr yn sythu ac ymwroli i wneud gwrhydri mwy pan ddaw galw, wedi deall am y gorchestion a'r aberthion y bu eve a'i dadau ynddynt wrth sevyll yn rhych eu dyledswyddau. Mae gan y Gwladvawyr, weithian, WLAD vawr o'r eiddynt eu hunain. Yn y llyvr hwn ceisir enyn ynddynt valchïedd ohoni—nid yn unig o ran ei gwerth daearyddol (er y synir at hyny ryw ddydd), eithr hevyd o ran gwerth dylanwad yr ymadverthion a'r dadblygion barwyd ar y BOBL, vagwyd drwy y vath hanes a thraddodiadau—teilwng i'w himpio ar hanes a thraddodiau Hen Gymru ei hunan. Ceisiais ymgodi uwchlaw pob ymblaid a rhagvarn a gormodedd, vel ag i adael ar glawr yn glir, i chwi bobl ieuainc y Wladva, sylvaeni yr adail sydd i chwi adeiladu arni. Na rwystrer chwi gan anhawsderau : na rwystrer chwi gan ymraniadau ac yn anad dim na rwystrer chwi gan anobeithion.
2. Y lluaws mawr yn Amerig a Chymru vu yn dilyn y Mudiad Gwladvaol yn ddorus a manwl: lawer yn gyvranogol mewn rhyw wedd neu gilydd, neu ar ryw adeg neu gilydd; ac yn dymuno cael adroddiad pwyllus, cryno, o'r Mudiad, sydd weithian wedi myned yn ddyeithr hen iddynt, ac na chawsent hyd yn hyn onid crap yn awr ac yn y man ar y Stori Wladvaol. Nid rhaid adgyvodi y dadleuon a'r gwahaniaethau blinion a vuont gynt: na manu manylion dibwys helynt pob un iddo'i hun: na cheisio cywiro pob camliwiad a chamgymeriad vu ac y sydd ar led: nac estyn allan i ddyvalion na dichonolion beth allasai vod neu a all vod—dyma'r Hanes yn syml a manwl.
3. I'r miloedd a'r miloedd Cymry sydd led—led y byd, a hiraeth ar eu calonau am eu hen gyweithas Gymreig—megis cenadwri Ezra a Nehemia—i vynegu iddynt am Wlad wag, y gallent ei llenwi o'u pobl; ac wrth wneud hyny y cafent le penelin i dynu allan pa adnoddau bynag goreu sydd ynddynt a hyny drachevn yn ysprydoli'r Wladva "i weithio allan ei hiechydwriaeth ei hunan.'
4. I'r Gwleidyddwr Cymreig—sydd weithian yn y rhyvel dros ei Wlad a'i Genedl. Wrth vwrw trem ystyrbwyll ar Genedl y Cymry yn awr, dyrus iawn yw dyvalu "Beth vydd diwedd y pethau hyn"! Ystyrier y sathrva fyrnig sydd am damaid : y rhwysg a'r ymgais olygus am olud a moeth; y cwlt gewynau a divyrion a rhialtwch y di—grededd llàc hydwyth tra yn ymsuo mewn furviau a devod: y ciprys a'r treisio am olud a swyddi a busnes, a'r rhithio a'r eiddigedd, a'r dïalu am hyny: y dysectu ar y Suliau, a'r cuwch o'r herwydd y llymruedd dynwaredol i gyd—furvio â mursendod a rhodres, dan furviau o goeg fuantedd: tra Bwl ei hun yn addoli ei Ddwrn a'i Boced a'i Vola. Rhaid vydd ar wleidyddwyr Cymru ymgodymu â'r demonau hyn.__Wele hevyd yr Herodraeth Vilwrol ovnadwy sydd yn cyniwair Ewrob, gan rythu savnau i lyngcu pobloedd a chenhedloedd i'w crombiliau rhwth, gan gnoi a chrinsian arnynt, nes malu pob asgwrn cevn ohonynt. Rhodder cip aderyn dros gyrion ac ymylon y byd—China, India, Japan, Persia, Twrci, &c. Taener ger bron wed'yn vap o'r uthrol Unol Daleithau— sydd vel cwrlid amryliw o bobloedd ac ieithoedd a syniadau ! Yna, wele ninau yn Ne Amerig a Mexico, yn ymlunio i furviau alwasai Darwin yn dueddion i wahaniaethu neu eilebu—y cyf Hispaenig, o arlliw Indiaidd; ac yna haen ddiweddarach o'r un cyf Lladin—Italaidd, wedi ymgawlio gydag Almaeniaid, Prydeinwyr, ac eraill. Ystyrier eto yr ymrwyvo ymhlith Awstriaid, Hungariaid, Bohemiaid, Pwyliaid, Serviaid, Sclaviaid, Rwmaniaid, Bwlgariaid: a chyda hwy y Norsiaid, Daniaid, Flandrwys, Dwts, Llydawiaid, Gwyddelod, a ninau Gymry. Adgovier gweledigaethau Daniel, ac evryder hanes yn ol Grote, Gibbon, Allison, &c., a dyweded gwleidyddwyr Cymru i mi wed'yn—A raid cymeryd yn ganiataol ryw wedd wleidyddol sydd yn ymddangos oruchav ar pryd hwn ?
Oddiar hyn oll, ergyd apêl y Wladva at wleidyddwyr Cymru yw ar iddynt, yn yr ymdrech am Ymreolaeth Gymreig eangu ar y syniad, vel ag i gynwys cyvathrach Pobl o'r un Dyhewyd: a thrwy hyny hevyd eangu cylch eu gwleidyddiaeth eu hunain, rhag dirywio ohoni i vod yn gymydaeth gul. Bydded hyn vel math o Wleidyddiaeth Dramor Gymreig iddynt a byddai yn Gylch Dylanwad" IACHUS AC EANG IAWN, gwerth ymgyraedd ato, tra yn gadwraeth efeithiol ar y nodweddion Cymreig goreu yr ymfrostiwn ynddynt.
Caernarvon a Chaergybi,
- Dy'gwyl Dewi Sant, 1898.