Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig (testun cyfansawdd)
← | Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig (testun cyfansawdd) gan Lewis Jones, Plas Hedd |
→ |
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig |
CYMRU NEWYDD.
HANES Y
WLADVA GYMREIG
TIRIOGAETH CHUBUT,
YN Y WERINIAETH ARIANIN, DE AMERIG.
GAN L. J., PLAS HEDD,
Sylvaenydd Gweithredol y Wladva, a thrigianydd yno
er 1864.
CAERNARVON:
CYHOEDDEDIG GAN GWMNI'R WASG GENEDLAETHOL GYMREIG.
1898.
𝕴'𝖗 𝕳𝖞𝖇𝖆𝖗𝖈𝖍. 𝕸. 𝕯. 𝕵𝖔𝖓𝖊𝖘, 𝖞 𝕭𝖆𝖑𝖆,
𝖞 𝖈𝖞𝖛𝖑𝖜𝖞𝖓𝖎𝖗
𝖄 𝕷𝖑𝖞𝖛𝖗 𝖍𝖜𝖓, 𝖞𝖓 𝖉𝖊𝖞𝖗𝖓𝖌𝖊𝖉 𝖉𝖎𝖘𝖌𝖞𝖇𝖑 𝖎'𝖜 𝖆𝖙𝖍𝖗𝖆𝖜
𝖞𝖓 𝖞 𝖋𝖞𝖉𝖉 𝖜𝖑𝖆𝖉𝖛𝖆𝖔𝖑.
"Yn gymaint a darvod i lawer gymeryd mewn llaw osod allan mewn trevn draethawd am y pethau a gredir yn ddiameu yn ein plith, megis y traddodasant hwy i ni, y rhai oeddynt eu hunain o'r dechreuad yn gweled, ac yn weinidogion y gair: minau a welais yn dda, wedi i mi ddilyn pob peth yn ddyval o'r dechreuad, ysgrivenu mewn trevn atat, O ardderchocav Theophilus, vel y ceit wybod am y pethau y'th ddysgwyd ynddynt."—Luc i. 1-4.
RHAGLITH.
BYDD orgraf y llyvr hwn, hwyrach, dipyn yn lletwith i'r llygaid anghyvarwydd ond gobeithio yr wyv vod yr ysgola lawer sydd wedi ymdreiddio drwy Gymru yn ddigon o hyrwyddiad deallus i'r darllenydd Cymraeg cyfredin, vel na bo dramgwydd nac anhawsder iddo ddilyn yn ddorus y traethiad hwn o STORI'R WLADVA, yn ddisglof o ran yr orgraf. Nid yw y newid namyn dodi v yn lle f, vel ag i adael yr ff hyllig, a thrwy hyny vireinio peth ar olwg ein llyth'reniad. Anav cas i'm llygad argrafydd i yw y dybledd cydseiniaid heglog a breichiog sydd ar ein horgraf: ac velly hevyd, wrth gwrs, y dyblu cydseiniaid er mwyn byrhau(!) y sain lavar. Penbleth ddybryd yw ceisio rhesymu a chysoni orgraf ein Cymraeg—cadw ei grym a'i thawdd henavol, a chyda hyny yr ystwythder diweddar na verwina mo'r glust na'r llygad goeth. Hofaswn, vel cymydog i'r Hispaenaeg yn y Wladva, wthio χ am ch, vel yn yr iaith hono: a phe cawswn gyda hyny furv o δ am dd, disgwyliaswn yn dawel am vilvlwydd yr orgraf. Nid o gymhendod y gwthir i sylw y symleiddiad hwn—rhag agor llivddorau "yr orgraf"—eithr o weled osgo bendant yr ysgolheigdod ddiweddar at ddilyn sain yn hytrach na gwraidd; ac o synied vod pob hwylusdod a byrder yn rhan o'r cabol a'r coethder yr ymestyna'r byd mor ddyval ato. Dilynais ddull gwerinol yr Unol Daleithau o grybwyll pawb wrth eu henwau galw: a'r un modd o ran yr ieithwedd, ceisiais osgoi coeg rodres anystwyth, heb syrthio i anghoethedd llenorol.
Bwriedir y llyvr hwn yn arbenig i dri dosbarth o ddarllenwyr :
1. "Plant y Wladva," wedi eu geni a'u magu yno—mal y gwypont yn gywir hanes eu Gwlad y dyhead cenedlaethol dwvn a chysegredig roddodd vodolaeth i'r Wladva: a'r egnion a'r aberthau wnaed gan eu tadau a'u mamau i ddiogelu iddynt hwy y breiniau a'r cyvleusderau sydd yn awr yn etiveddiaeth deg iddynt. Nid ydys yn y rhengau yn gwybod ond yn rhanol iawn am yr ymladd ymhob cwr o vaes y vrwydr; ond pan ddygir adroddion pobun at eu gilydd yn hanes cryno, bydd pob swyddog a soldiwr yn sythu ac ymwroli i wneud gwrhydri mwy pan ddaw galw, wedi deall am y gorchestion a'r aberthion y bu eve a'i dadau ynddynt wrth sevyll yn rhych eu dyledswyddau. Mae gan y Gwladvawyr, weithian, WLAD vawr o'r eiddynt eu hunain. Yn y llyvr hwn ceisir enyn ynddynt valchïedd ohoni—nid yn unig o ran ei gwerth daearyddol (er y synir at hyny ryw ddydd), eithr hevyd o ran gwerth dylanwad yr ymadverthion a'r dadblygion barwyd ar y BOBL, vagwyd drwy y vath hanes a thraddodiadau—teilwng i'w himpio ar hanes a thraddodiau Hen Gymru ei hunan. Ceisiais ymgodi uwchlaw pob ymblaid a rhagvarn a gormodedd, vel ag i adael ar glawr yn glir, i chwi bobl ieuainc y Wladva, sylvaeni yr adail sydd i chwi adeiladu arni. Na rwystrer chwi gan anhawsderau : na rwystrer chwi gan ymraniadau ac yn anad dim na rwystrer chwi gan anobeithion.
2. Y lluaws mawr yn Amerig a Chymru vu yn dilyn y Mudiad Gwladvaol yn ddorus a manwl: lawer yn gyvranogol mewn rhyw wedd neu gilydd, neu ar ryw adeg neu gilydd; ac yn dymuno cael adroddiad pwyllus, cryno, o'r Mudiad, sydd weithian wedi myned yn ddyeithr hen iddynt, ac na chawsent hyd yn hyn onid crap yn awr ac yn y man ar y Stori Wladvaol. Nid rhaid adgyvodi y dadleuon a'r gwahaniaethau blinion a vuont gynt: na manu manylion dibwys helynt pob un iddo'i hun: na cheisio cywiro pob camliwiad a chamgymeriad vu ac y sydd ar led: nac estyn allan i ddyvalion na dichonolion beth allasai vod neu a all vod—dyma'r Hanes yn syml a manwl.
3. I'r miloedd a'r miloedd Cymry sydd led—led y byd, a hiraeth ar eu calonau am eu hen gyweithas Gymreig—megis cenadwri Ezra a Nehemia—i vynegu iddynt am Wlad wag, y gallent ei llenwi o'u pobl; ac wrth wneud hyny y cafent le penelin i dynu allan pa adnoddau bynag goreu sydd ynddynt a hyny drachevn yn ysprydoli'r Wladva "i weithio allan ei hiechydwriaeth ei hunan.'
4. I'r Gwleidyddwr Cymreig—sydd weithian yn y rhyvel dros ei Wlad a'i Genedl. Wrth vwrw trem ystyrbwyll ar Genedl y Cymry yn awr, dyrus iawn yw dyvalu "Beth vydd diwedd y pethau hyn"! Ystyrier y sathrva fyrnig sydd am damaid : y rhwysg a'r ymgais olygus am olud a moeth; y cwlt gewynau a divyrion a rhialtwch y di—grededd llàc hydwyth tra yn ymsuo mewn furviau a devod: y ciprys a'r treisio am olud a swyddi a busnes, a'r rhithio a'r eiddigedd, a'r dïalu am hyny: y dysectu ar y Suliau, a'r cuwch o'r herwydd y llymruedd dynwaredol i gyd—furvio â mursendod a rhodres, dan furviau o goeg fuantedd: tra Bwl ei hun yn addoli ei Ddwrn a'i Boced a'i Vola. Rhaid vydd ar wleidyddwyr Cymru ymgodymu â'r demonau hyn.__Wele hevyd yr Herodraeth Vilwrol ovnadwy sydd yn cyniwair Ewrob, gan rythu savnau i lyngcu pobloedd a chenhedloedd i'w crombiliau rhwth, gan gnoi a chrinsian arnynt, nes malu pob asgwrn cevn ohonynt. Rhodder cip aderyn dros gyrion ac ymylon y byd—China, India, Japan, Persia, Twrci, &c. Taener ger bron wed'yn vap o'r uthrol Unol Daleithau— sydd vel cwrlid amryliw o bobloedd ac ieithoedd a syniadau ! Yna, wele ninau yn Ne Amerig a Mexico, yn ymlunio i furviau alwasai Darwin yn dueddion i wahaniaethu neu eilebu—y cyf Hispaenig, o arlliw Indiaidd; ac yna haen ddiweddarach o'r un cyf Lladin—Italaidd, wedi ymgawlio gydag Almaeniaid, Prydeinwyr, ac eraill. Ystyrier eto yr ymrwyvo ymhlith Awstriaid, Hungariaid, Bohemiaid, Pwyliaid, Serviaid, Sclaviaid, Rwmaniaid, Bwlgariaid: a chyda hwy y Norsiaid, Daniaid, Flandrwys, Dwts, Llydawiaid, Gwyddelod, a ninau Gymry. Adgovier gweledigaethau Daniel, ac evryder hanes yn ol Grote, Gibbon, Allison, &c., a dyweded gwleidyddwyr Cymru i mi wed'yn—A raid cymeryd yn ganiataol ryw wedd wleidyddol sydd yn ymddangos oruchav ar pryd hwn ?
Oddiar hyn oll, ergyd apêl y Wladva at wleidyddwyr Cymru yw ar iddynt, yn yr ymdrech am Ymreolaeth Gymreig eangu ar y syniad, vel ag i gynwys cyvathrach Pobl o'r un Dyhewyd: a thrwy hyny hevyd eangu cylch eu gwleidyddiaeth eu hunain, rhag dirywio ohoni i vod yn gymydaeth gul. Bydded hyn vel math o Wleidyddiaeth Dramor Gymreig iddynt a byddai yn Gylch Dylanwad" IACHUS AC EANG IAWN, gwerth ymgyraedd ato, tra yn gadwraeth efeithiol ar y nodweddion Cymreig goreu yr ymfrostiwn ynddynt.
Caernarvon a Chaergybi,
- Dy'gwyl Dewi Sant, 1898.
CYNWYSIAD.
Penawd.
1.—Y Dyhead am Wladva Gymreig.
2.—Cymru pan gychwynwyd y Wladva —1850—65.
3.—Y Weriniaeth Arianin pan gychwynwyd y Wladva.
4.—Cyn Sylvaenu'r Wladva.
5.—Y Cyfrawd Gwladvaol yn yr Unol Daleithau. 1851—7.
6.—Y Llong "Rush," o'r Unol Daleithau.
7.—Y Cyfrawd Gwladvaol yn Nghymru.
8, 9, 10.—Cychwyn y Mudiad — Y Vintai Gyntav.
11.—Tori'r Wladva i vynu: ail avael.
12.—Y Llywodraeth Arianin yn pallu.
13.—Llongau Prydain yn edrych sevyllva'r Wladva.
14.—Rheolaeth yr hen Bwyllgor Gwladvaol.
15.—Y Cwmni Ymvudol a Masnachol—"Myvanwy."
16.—Ceisio gweithio adnoddau'r Wlad.
17.—Cip ar Gyrau'r Berveddwlad.
18.—Adgyvnerthiad: Troad y Llanw.
19.—Dechreu y Vasnach.
20.—Yr Ormes Swyddogol. Dyliviad Dyvudwyr, a dyvodiad Prwyad. Newydduryn cyntav, &c.
21.—Brodorion Cynhenid y Wlad.
22.—Egwyl cyn y ddrycin.
23.—Y Vrwydr am Leodraeth ac Ymreolaeth.
24—5.—Ymweliad M. D. Jones–Oedi a gwingo nes cael.
26.—Y Lleodraeth dan brawvion.
27.—Yr Advywiad—C.M.C.: Rheilfordd Borth Madryn.
28.—Y Camlesi a Dyvrhau.
29.—Archwiliadau i'r Andes—Cwmni Tir y De.
30.—Cyfro yr Aur.
31.—Crevydd, Addysg, a Llên—Y Dravod.
32.—Tiroedd Godreu'r Andes.
33.—Cyvleoedd i ymvudwyr.
34.—Tiriogaethau Cysylltiol.
35.—Elvenau Daearyddiaeth a Daeareg y Diriogaeth.
36.—Dinas Buenos Ayres.
DARLUNIAU A MAPIAU.
Map o Diriogaeth y Wladva—Map o'r Dyfryn Ddyvrheir.[1]
Tud. 3, M. D. Jones, Bala —8, Plas Hedd—25, D. S. Davies32, Edwyn Roberts—37, L. J. a Syr Love Jones—Parry—47, Map o Daith y Vintai Gyntav—57, Brodorion Patagonia—60, R. J. Berwyn—79, Y Vintai Gyntav—82, D. Ll. Jones—92, A. Mathews—112, Trerawson—117, Brodor ar ei Gefyl—125, Gaiman—154, Hong—bont y Gaiman—162, Borth Madryn164, Trelew—165, E. J. Williams a Llwyd ap Iwan—172, Cwmni Tir y De—174, Gwersyllu ar daith i'r Andes—176, Mynydd Edwyn—182, Ban—ysgol i Enethod (Trelew), Eluned Morgan a Mair Griffith—193, Sipian Mati ger yr Andes.
N.B.—Methwyd yn llwyr a chael foto o J. M. Thomas i'w roi yn yr oriel hon—gwr, y gwelir wrth yr hanes hwn, vu a rhan vlaenllaw yn y Wladva.
PLAS HEDD.
Luis Jones,
Eluned Morgan,
Plas Hedd,
- Territorio Chubut,
- Buenos Ayres.
Y WLADVA GYMREIG.
I.
Y DYHEAD AM WLADVA GYMREIG
GAIR "Drych y Priv Oesoedd" oedd gwladychu—am vin teioedd o bobl yn symud o un wlad i wlad arall, neu o un cwr o wlad i gwr arall—cyvystr, hwyrach, â'r gair Saesneg colonizing, neu settling. Llew Llwyvo, Llwyvo, vlyneddoedd lawer yn ol, a'i lleddvodd i Wladva, rhag yr ch chwern ynghanol y gair, oddi ar yr un tyneredd clust ag a barai i Ceiriog yn y "Bardd a'r Cerddor," ánog "lladineiddio y Gymraeg" wrth varddoni. Dynodid yr un syniad wedi hyny drwy y geiriau "trevedigaeth" "sevydliad cym dogaeth "&c. Diau hevyd vod ynghil y gair syniad o gymdeithasiad cenedlaethol—man cynull ysbrydoedd cydnaws yr un bobl, eithr y bobl hyny wedi gwasgar a chwalu gan amgylchiadau, ac eto yn dyheu am gyvuniad o'u cydnawsedd cyweithasol vel elven hanvodol i'w mwyniant a'u llwyddiant. Er y dengys covnodion hanes vod llawer o Gymry wedi gadael eu "Gwyllt Walia " drwy'r oesoedd; ac ar ol hyny yn canu byth a hevyd" Hiraeth Cymro am ei wlad;" ac er mai teneu oedd trigolion Cymru ar y pryd ragor yn awr, eto nid ymddengys vod gover i'r boblogaeth hyd amseroedd y Tadau Pererinol, pan ymvudodd llaweroedd ohonynt i Amerig rhag yr ormes grevyddol amser y Siarlod, a rhag yr erlidion bryntion ar y Crynwyr a'r crevyddwyr Ymneillduol. Aethai rhai o'r föedigion cyntav hyny i Amerig tua 1636—40; yn eu plith bobl grevyddol o Gasgwent a'r Véni. Yn 1682 aeth minteioedd niverus o Gymry allan gyda Wm. Penn a Dr. Thomas Wynne o Gaerwys, yn y llong "Welcome," gan "wladychu" yn Pennsylvania, yn agos i Philadelphia. Dylivai atynt Gymry bucheddus vel hwythau, gan sevydlu ger eu gilydd er mwyn cyweithas a chyvleusderau, vel cyn nemawr amser yr oeddynt wedi prynu 40,000 o erwau tir ar ddwyreinbarth Pennsylvania, gan eu rhanu yn gantrevi yn ol enwau yr hen ardaloedd oedd anwyl yn eu cov —Bala, Meirion, Gwynedd, Berwyn, &c.; a'r rhai o'r Deheubarth yn galw Bryn mawr, Buallt, Gwent, &c. Yn 1701 ceir hanes am eglwys gyvan yn ymvudo i Delaware, gyda'u gweinidog, Thos. Griffith; a thrachevn eglwysi cyvain o Vedyddwyr yn 1711 a 1725.
Tuag adeg Chwildroad Frainc a Datganiad Anibyniaeth yr U. Daleithau, gwyntylliwyd llawer ar y syniad o Wladva Gymreig yn yr Unol Dale:thau gan ddau Gymro nid anenwog yn eu dydd, sev William Jones, Llangadvan, Maldwyn, a Morgan Ioan Rhys, golygydd y " Cylchgrawn Cymraeg," 1793—y greal Cymraeg cyntav y mae hanes am dano.
Ymddengys vod y cyntav hwnw yn engraift drwyadl o'r cyvnod chwildroad Frengig yr oedd yn byw ynddi, ac o'r Gymreigiaeth ronge oedd yn nodweddu amser L. Morus a Dr. W. O. Pughe. Ond chwilen benav ei vywyd oedd cael sevydliad Cymreig yn Kentucky, am yr hyn y buʼn gohebu gyda Pinkney, cynrychiolydd Unol Daleithau yn Llundain: ond bu varw yn 60 oed, cyn gallu gwneud dim rhagor. Rhyvedd yw darllen am ddyhead y gwr hwn ac ereill. Yr un adeg ag y ceisid cychwyn gwladva yn Pennsylvania, y cyveirir ati isod, a Morgan Ioan Rhys yn golygu" cael un arall yn Ohio: ac yna ddarllen yn yr un Cambrian Register vod 2000 o Gymry wedi myn'd o Liverpool rhwng 1790 a 1794 ar y neges hono, ond i 1500 ohonynt ddychwelyd yn siomedig! Yr HANES syml yn fyddlon govnodir yn y van hon—gwneir sylwadau ymhellach ymlaen.
Yn 1793, darvu i niver o voneddwyr Cymreig oedd yn preswylio yn Philadelphia a'r cyfiniau ymfurvio yn gymdeithas i geisio sicrhau llain o dir gan y Llywodraeth i'r Cymry wladychu arno. J. Morgan Rees oedd llywydd y gymdeithas hono, a John Jones yn ysgrivenydd—Mewn cyvarvod lluosog a gynhaliwyd y pryd hwnw, penodwyd yr ysgrivenydd i dynu allan gais at Lywodraeth yr Unol Daleithau, yr hyn a wnaeth vel y canlyn:—"Yr ydym ni, deiliaid fyddlon i'r Llywodraeth, cenedl y Cymry sydd yn preswylio yn y drev hon a'r amgylchoedd, yn ervyn arnoch werthu i ni am bris teg ddarn o'ch tiroedd darn digon mawr i wneud talaeth ohono i'n cenedl, ar y telerau a ganlyn—(1) Vod y tir i vod yn eiddo y Cymry, a neb arall; yn dir da, a thuallan i unrhyw sevydliadau eraill. (2) Vod y cyvreithiau i vod yn yr iaith yr ydym yn ei deall, sev y Gymraeg. (3) Ein bod vel talaeth i vod dan yr un cyvreithiau a'r taleithau eraill." Ymhen yr wyth mis cavwyd yr atebiad canlynol:"Nid yw cyvansoddiad yr Unol Daleithau yn caniatau i'r Congres wneud cytundeb neillduol âg unrhyw genedl pwy bynag. Wele y tir, ac wele y cyvreithiau.'
Ni lwyddodd greal M. Rhys, mwy na llawer ar ei ol, ac aeth ei gyhoeddwr ymaith at ei gyd-wladwyr i Amerig er mwyn y rhyddid o vyw yn ddilyfethair rhag gormes arlwyddol a threthol Cymru. Mae'n debyg iddo gael "yr hen wladvawyr" tua Meirion a Bryn mawr, &c., ar ben eu digon, a'u cylchynion wedi d'od yn voethus a chymysgryw. Velly, yn 1795 mae yn myned ar holy grail y Wladva Gymreig i Ohio, ac yn ysgrivenu, "Os bydd y Cymry yn chwenych gwladychu gyda'u gilydd, ac yn dewis myned i'r gorllewin, yr wyv wedi golygu tyddyn o dir ar yr avon Ohio a'r avon Big Miami, o gylch lat. 38, man y mae lle i gael 200,000 o erwau, heb un erw ddrwg ynddynt o bosibl."
Mae'n debyg mai rhan o'r ymgais hono oedd yr hyn y cyveirir ato yn y Cambrian Register am 1796, vel isod, ac mai yr un oedd y J. Morgan Rees a'r Morgan Ioan Rhys y cyhoeddwr, ac a aeth wedi hyny i Ohio.
Mae niver o voneddwyr yn Philadelphia wedi ymfurvio yn gwmni, dan yr enw Cambrian Co., i lunio sefydliad o Gymry, yn y man addasav ellir gael am iechyd, amaethu, gweithiau, a masnach yn yr Unol Daleithau. Penau y telerau ydynt : (1) Pob rhanddalwr dalu i lawr $100 cyn Tachwedd 1, 1796; (2) Pump o bwyllgor i'w neillduo i brynu a threvnu y sevydliad; (3) Cwmwd o bum milldir sgwar i'w ddewis, rhanedig yn lotiau mewn a lotiau allan, a dim rhagor na 50 o lotiau i'w rhoi i greftwyr ac ysgrivwyr; y lotiau eraill i'w gwerthu ar adegau penodol, a'r cynyrch i vyned at y cyllid cyfredin, adeiladau cyhoeddus, &c.; (4) yr holl gwmwd i'w ddyranu yn rhandiroedd 640 erwau yr un, a bwrw coelbren rhwng y rhanddalwyr pwy vydd pïau pob rhandir; (5) Nas gall neb ddal rhagor na phedwar rhandir, na mwy nag ugain lot yn y drev,
Yn vuan wedi hyny dylivodd y Cymry i'r Unol Daleithau, gan vyned wysg eu trwynau, vel y byddai carenydd neu amgylchiadau yn eu harwain—yn arbenig i ardaloedd Steuben, Utica, Oneida, Ebensburg, Newark, Granville, a thoc i Cincinatti a Welsh Hills, Ohio. O 1830 i 1840 heidient i Wisconsin, Illinois, Iowa, a Minnesota; ac o 1860 i 1870 i Missouri, Kansas, Nebraska; ac yn ddiweddarach i Dakota, Montana, Oregon, a Washington Territory. Cyvrivir vod o'r sevydliadau Cymreig hyn yn Amerig dros 20 yn New York, 50 yn Pennsylvania, 40 yn Ohio, 25 yn Wisconsin, 5 yn Minnesota, 20 yn Iowa, 5 yn Illinois, 9 yn Missouri, 10 yn Kansas, 4 yn Nebraska, a sevydliadau gwasgarog drwy amryw daleithau ereill.
[Gwel "The Welsh in America," gan Huwco Meirion; ac "America" W. D. Davies, goruchwyliwr y Drych.]
Gellir yn hawdd ddyvalu vod y crug envawr hwn o Gymry, gyda'r cylchynion a dylanwadau cymysg oedd arnynt, yn ymdoddi a newid yn aml a dirvawr. Ebe W. D. D. am Gymry Utica:—"Mae gan y T. C. 26 o eglwysi yn y dalaeth, ond vod llawer ohonynt yn wan iawn, gan vod yr hen Gymry yn marw, a'r plant yn Americaneiddio, yn_ymvudo," &c. Drachevn: "Rhiva eglwysi yr Anibynwyr yn Pennsylvania 50, ond vod rhai ohonynt wedi troi yn Saesneg": a'r un nodiad am Ohio.
II.
CYMRU PAN GYCHWYNWYD Y WLADVA, 1850—65.
Cyvnod rhyvedd ar Gymru oedd y blyneddoedd hyny—arav ddefroad i'r ymwybyddiaeth genedlaethol: tebyg i ddych'mygiad un am y cread—"Y ddaear yn avluniaidd a gwâg—tywyllwch ar wyneb y dyvnder—ac ysbryd yn ymsymud ar wyneb y dyvroedd." Yr oedd ovn gwg arlwyddi tiriog vel hunlle dawedog dros y wlad: tra'r ebychai y grealon a'r Amserau wich a gwaedd i geisio cyfroi deall a barn gymdeithasol—wleidyddol y genedl. Yn y cyvnos hwnw bu erlidigaeth diriol drom ar Veirion, Maldwyn, Ceredigion, a Myrddin: rhoddodd hono achlysur i weinyddiaeth Arg. J. Russell gael ymchwiliad pwyllgor seneddol i'r helynt. "A'r hwyr a vu, a'r bore a vu."
Tua'r un adeg yr oedd advywiad llenyddol ac eisteddvodol yn dechreu cyniwair pob ardal—o'r Wyddgrug i Valdwyn, Penllyn, Arvon, Ceredigion, Myrddin, a Morganwg. Yn 1849 y bu Eisteddvod Aberfraw, a ddilynwyd gan un Rhuddlan, Madog, a Llangollen; tra'r oedd Deheubarth yn eisteddvoda yn y Véni, Merthyr, Trevoris, Llanelli, &c.
Yn ystod yr un cyvnod yr oedd hevyd gyfroadau crevyddol dwys mewn amryw barthau o'r wlad—gan ddechreu tua Phontrhydvendigaid, a cherdded drwy Veirion, Arvon, Mon, a Dinbych.
Erbyn hyny hevyd yr oedd peth ysbryd anturiaeth a masnach wedi cyraedd y Cymry oedd yn Lloegr a Morganwg, vel y dechreuasant deimlo eu traed danynt, a "chael blas ar bres." Ymwaelododd yn arav velly gaenen deneu o gyvala.
O'r anelwig ymysgwyd hwnw y daeth i'r golwg yn y mán ymdrechion J. Phillips am Goleg Athrawol, a Hugh Owen am Athrova Golegol—aeddvedwyd cyn bo hir gan Dr. Nicholas a Dr. Charles yn Aberystwyth.
Erbyn yr 8'egau yr oedd y levain yn y blawd, a'r clamp toes yn chwyddo ac ymweithio, nes peri i'r corf gwladol ymestyn ac anesmwytho. Daeth Rhyvel Gartrefol vawr yr Unol Daleithau i dynu allan hyawdledd Bright, Cobden, a Ward Beecher rhag y gaethvasnach, a phob cyfelyb draha a gormes, nes llwyr ddefroi y gydwybod Ymneillduol" Gymreig i'w seiliau. Velly yr oedd Cymru, wedi deiviad tân yr erlidigaeth diriol, yn aeddved i ymdrech ac i aberth, o byddai raid. Yn y twymiad hwnw naturiol iawn oedd i Gymry yr Unol Daleithau vod mewn cyfelyb wres a chywair—miloedd o'u pobl (Gymreig) wedi rhoi eu gwaed dros y syniad oedd ynddynt am iawnder a brawdedd dynoliaeth, a llawer ohonynt yn dystion byw o'r erlidigaeth diriog a'r ormes uchelwyr. Ymdavlasai S. R. vlaenllaw i ddanedd yr ormes yn Llanbrynmair, ac ysgubwyd ev o'r badell i'r tân pan aeth i Tennessee i wneud Gwladva.
Ac yn y dymp vawr hono yr esgorwyd ar y syniad o Wladva Gymreig.
Yr oedd M. D. Jones, y Bala, yn un o'r ebyrth ddygent dystiolaeth o vlaen Pwyllgor Ty'r Cyffredin : ac yno y rhoddodd adroddiad o erlidigaeth a marwolaeth ei vam yn y Garneddwen, ar stad Syr Watcyn. Vel canlyniad o'r wasgva a'r defroad hwnw, cavwyd gan D. Williams, Castelldeudraeth, sefyll etholiad dros Veirion, a "Davies y Borth," dros Gaernarvon; ac er na vuont lwyddianus y tro hwnw, yr oedd yr hèr veiddgar hono wedi enyn tân digonol erbyn yr etholiadau dilynol, i'w gosod hwy a Watkin Williams, a Jones—Parry yn aelodau Seneddol dros Gymru. Aeth Ymneillduwyr y Deheudir gam ymhellach na hyny pan osodasant yr addvwyn Henry Richards, Apostol Heddwch," yn aelod dros Verthyr ac Aberdar. A bu aruthr iawn gan uchelwyr Cymru y tro oedd ar vyd.
III.
Y WERINIAETH ARIANIN PAN GYCHWYNWYD Y WLADVA.
I'r darllenydd cyfredin, evallai mai lled ddyrus a niwliog yw hanes y Weriniaeth Arianin (Argentine Republic). Gwyddis, hwyrach, mai yn 1810 y cyhoeddodd y wlad hono ei hun yn anibynol ar Spaen, ei hen vam—wlad,—yn amser rhyveloedd Napoleon Bonaparte, ac y cymerth arni ei hun furv—lywodraeth Werinol. Dair blynedd cyn hyny gwnaethai Prydain ymgais drychinebus i gipio meddiant o'r wlad, drwy y Cadvridog Whitelock a'i 10,000 milwyr. Cyneuodd hyny wladgarwch angerddol y bobl—oeddynt eisoes yn vyw i'r dyhead mawr gychwynasai Chwildroad ovnadwy Frainc—ac yn y brwdvrydedd hwnw y cyhoeddasant eu hunain yn bobl rydd, werinol.
Ond bu cyvnod maith o anrhevn ac ymladd enbydus ar ol hyny. Yr oedd yn 1820 cyn y medrwyd cytuno i lywodraethu y wlad yn ol y gyvundrevn gyngreiriol (federal), sev yw hyny, pob talaeth yn y cyngrair i reoli ei threvniadaeth daleithol ei hun, o vewn rhyw ymrwymiad cyfredinol.
Yn 1826 teimlid vod y 13 talaeth wnelai i vynu y cyngrair yn avrosgo, anesmwyth, ac anghryno, ac velly medrodd Rivadavia ail asio yr elvenau ar y cynllun o un weriniaeth, un bobl. Dewiswyd ev (R.) yn llywodraethwr: gan ystyried talaeth vawr Buenos Ayres yn benav a phwysicav, ac ymddiried iddi y reolaeth dramor.
Eithr yn 1835 daeth Rosas i arlywio yr holl wlad, a gwnai hyny mewn enw o vod yn gyngreiriol, vel cynt. Ond yr oedd berygl bywyd i'r rhai alwent eu hunain yn Werinwyr, neu Unolwyr, ac aeth lluoedd o'r rheiny yn aberth i wleidiadaeth y dyddiau hyny. Parhaodd yr ormes drom hon 17 mlynedd.
Yn 1852—wedi cael gwared o Rosas—eiddigeddodd y taleithau eraill wrth y briv dalaeth (Buenos Ayres), a daeth Urquiza a Derqui i lywodraethu, ar linellau gwerinol mewn enw, ond o ogwydd gyngreiriol, dalaethol.
Erbyn 1861 ovnid vod yr elven gyngreiriol daleithol yn sathru ar uchaviaeth talaeth Buenos Ayres. Y Cadvridog Mitre oedd rhaglaw y dalaeth vawr hono ar y pryd: a rhag ovn i Derqui ac Urquiza dd'od ar warthav ei dalaeth ev, cynullodd vyddin, ac aeth i'w cyvarvod, yn agos i linell dervyn ei dalaeth, lle yr ymladdodd vrwydr Pavon. Oddiar y vrwydr hono y dechreua hanes trevnus y Weriniaeth. Cytunwyd i vyw yn Weriniaeth deuluol o 14 talaeth hunan—reoledig, ond o gyd—ryw drefniadau, a'r oll yn yr un rhwymyn allanol cyfredinol.
Velly, yn 1862, etholwyd Mitre yn arlywydd y Weriniaeth oll—neu yn hytrach, vel y mynid galw y wladwriaeth o hyny allan—" Y Genedl Arianin " — a'i olynwyr rheolaidd i'w hethol bob 6 blynedd. Oddiar hyny hyd yn awr, gwnaed velly yn gyson, er nad heb, lawer tro, chwildroadau a thervysgoedd gwaedlyd mewn amryw ranau o'r wlad.
Tra yr oedd Urquiza a Derqui yn rheoli, dinas Paraná (o'r un enw a'r avon vawr) oedd eisteddle y Llywodraeth; ac oddiyno y bu'r ohebiaeth gyntav ynghylch y Wladva Gymreig. Ond pan ddewiswyd Mitre yn arlywydd, cymerid mai Buenos Ayres oedd y briv ddinas—er y bu blyneddoedd cyn y cytunwyd i hyny yn furviol. Yn ystod yr arlywyddiaeth hono—tra'r oedd yr elven gyngreiriol eto'n grev yn y taleithau allanol—pasiodd y Gydgynghorva (Congress) ar i Rosario gael ei neillduo a'i chydnabod vel priv ddinas y Genedl; ond dodes yr Arlywydd ei nage (veto) ar hyny, a gadawyd i dalm o vlwyddi vyn'd heibio cyn i'r mater dd'od ger bron drachevn. Eithr yn y 7—degau etholwyd Dardo Rocha yn rhaglaw talaeth Buenos Ayres, ar y ddealltwriaeth y dewisid dinas Buenos Ayres yn briv ddinas. Gan hyny, yn ystod ei raglawiaeth ev y troswyd y ddinas yn eisteddle a chartrev y Llywodraeth Genedlaethol; a'r un adeg, wrth gwrs, y crewyd dinas newydd "La Plata"—40 milltir o Buenos Ayres—i vod yn briv ddinas y dalaeth. Yr oedd yn perthyn i ddinas Buenos Ayres lawer o adeiladau cyhoeddus ac eiddo a buddianau eraill amrywiol. Gwerthwyd y rhai hyny i'r Llywodraeth Genedlaethol yn adeg y trosiad; a chyda cynyrch y gwerthiant hwnw yr adeiladwyd dinas rwysgfawr La Plata. Ve ddeallir, vel yna, mai oddiwrth y ddinas henav a phenav y cymerth y Dalaeth vawr ei henw: ond dealler eto vod tervynau, neu finiau y briv ddinas vel y maent yn awr, yn cynwys y maes—drevi cylchynol, nes vod yr oll yn gwneud priv ddinas eang—a'r cyvan dan reolaeth uniongyrchol y Llywodraeth Genedlaethol, megys ag y mae Washington a'i chylchynion dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth yr Unol Daleithau.
IV.
CYN SYLVAENU'R WLADVA.
Megys llwyd—oleuni cyn toro'r wawr, hwyrach y bydd y detholion canlynol o govianau'r cyvnod boreu yn ddyddorol, vel arweiniad i mewn i'r Stori ddilynol:
Rhyvedd y camgymeriad a vu rhyngom: ac eto nid yw y cynllun yn eglur iawn i mi. Beth yw yr aelodaeth y soniwch am dani vel un a roddir i bwy bynag gyvrano haner coron ac uchod? Pa vraint neu elw a berthyn iddi os yw y cyvaneddwyr i gael tir am ddim ? Dywedwch hefyd y dychwelir pob rhodd, mewn arian neu dir yn y Wladva. A roddir y tir yma i rai na vyddont yno i'w breswylio Er engraift, pe bawn i yn cyvranu £10, a allwn i gael tir am danynt heb vod yno i gyvaneddu? Pa vaint a roid am £10? Rhaid i mi gyvaddev vy mod wedi sylwi gyda dyddordeb ar y symudiad o'i gychwyniad hyd yma. Ar y dechreu yr oeddwn yn ovni vod tuedd ynddo i hudo dynion i adael yr hen wlad; ac o'r herwydd yr oeddwn yn barod i'w wrthwynebu. Ond yr wyv yn canvod yn awr mai nid dyna ddiben y gymdeithas, eithr yn unig er trevnu cartrev cyvanedd i wasgaredigion Gomer, y rhai sydd wedi gadael eu gwlad, neu a vuasent yn ei gadael i vyned i wledydd eraill. Yn y golygiad yna y mae genyv awydd i wneuthur yr hyn a allav er ei hyrwyddo. Beth pe cymerwn i £10 neu £15, a oes modd i mi berchenogi darn o dir yn y Wladva yn vy enw vy hun, ond iddo vod yn ddarostyngedig i lywyddiaeth y gymdeithas ymhob dim ond ei werthiad? Chwi a welwch nad oes arnav eisieu cyvryw bron ond mewn enw. Gallwch chwerthin am ben y fansi hon, ond fansi ydyw sydd rywsut neu gilydd wedi cael lle yn vy mhenglog. Pe rhoddwn £20 bob blwyddyn am 5 mlynedd i'r gymdeithas, a allwn ni ddim cael darn o dir yn ei chysgod?AB ITHEL.
Y LLYDAWIAID A'R WLADVA.
Darllenais mewn newyddur Frengig vwy na dwy vlynedd yn ol, vod mintai o Gymry gwladgarol wedi pendervynu sevydlu Gwladva yn Patagonia, i'r bwriad o gadw yno yn vwy rhydd a diogel eu nodweddion cenedlaethol a'u moesau, a devnyddio yno yn unig y Gymraeg. Yr oedd y vath newydd yn angerddol ddyddorol i mi, a pharodd hevyd gydymdeimlad dwvn ymhlith aelodau y Brueunez Breiz (Brodoriaeth Llydaw)—cymdeithas wladgarol a llenorol ar yr hon y mae'r Viscount Villemarque yn llywydd. Pan glywais am y peth gyntav ymholais gyda'r Parch James Williams, gweinidog Cymreig yn Quimper, ond ni fu'm haws. Y dyddiau hyn cevais air oddiwrth vy nghyvaill Llallawg, yn vy hysbysu vod mintai gyntav o ymvudwyr i hwylio cyn bo hir. Gan hyny yr wyv yn brysio danvon iddynt drwoch chwi ychydig eiriau o lon—gyfarchiad yn enw Brawdoliaeth Llydaw, cyn yr ehedo'r cychiad cyntav hwn i'w bro newydd: taw nid ydym wedi anghovio yn Llydaw "Mai eich tadau, tadau ein tadau—ma hoch tado, tado hon tado; Ac eich mamau, mamau ein mamau—hag hoc'h mamo, mamo hon mamo; ac y mae ynom ddawr calon ymhob peth perthynol i "had Bretoned tre—mor," ys dywedwn ni. Mae y vrawdoliaeth er's llawer o amser wedi meddwl mai dymunol vuasai i'n cyf—gened! gyfredin ni y Celtiaid,—y gover (overflow) ohonynt, ymgasglu ynghyd mewn rhyw wlad wag gyvaddas, yn hytrach na chwalu eu hunain dros yr Unol Daleithau, Awstralia, &c., a chadw yno ein neillduolion goreu ni. Credwn y gallant yn Patagonia ddilyn eu tueddion cenedlaethol, dadblygu eu cyneddvau, a choledd eu hiaith anwyl heb orthrech na pherygl o ymgolli. Gwell genym pe gallasech vod yn anibynol oddiwrth unrhyw wladwriaeth; eithr gallwn ddygymod hyd nod ped elai y sevydlwyr yn ddibynol iawn ar Archentina, yn hytrach na chwalu a di—genedlaethu gover y wehelyth Geltaidd. Mae'n debyg vod yn y byd lawer man ffrwythlonach na Patagonia, ond nid oes un man arall y gwn i am dano lle gall yr ymvudwyr Cymreig ymsevydlu yn Wladva gyda'u gilydd, a digon o dir gwag heb ei veddianu gan bobl wareiddiedig. Y mae rhaid chwalu ein cenedl ni, oblegid gyvynged ein lle; ond da vyddai cael ryw van o'r ddaear i grynhoi y Celtiaid, ac yno ddangos i'r cenedloedd eraill beth vedr ein Cenedl wneud. Hyd yn hyn nid yw y Llydawiaid wedi dangos nemawr duedd ymvudo, a hofem eu cadw felly. Ond os daw y dydd a'r duedd iddynt newid eu gwlad, da vyddai genym eu gweled yn cyvuno eu hadnoddau a'u hegnïon gyda'u brodyr o'r un gwaed a thavod y'Mhatagonia. Felly, hofem wybod, pe delai y cyvryw achlysur, a dderbyniai y Wladva yno aelodau neu vintai o Lydawiaid i'w mynwes yn groesawgar, y rhai mewn byr amser vyddent hyddysg yn y Gymraeg, ac a vyddent yn gyvnerthiad cenedlaethol i'w gilydd: hyd nod pe deuai ofeiriad Catholig neu ddau gyda hwy, hwyrach na thramgwyddid. Da vyddai gan y vrawdoliaeth gael pob hysbysrwydd o dro i dro am rawd a helynt y vintai aif allan ar y vath amcan anrhydeddus, a chael pob hanes a gobeithion sevydliad ydych ar vedr blanu yn Ne Amerig. CHARLES DE GAULLE, Ysg. Brenuez Breuz.
Y dyvyniad dilynol sydd o lythyr preivad y Cadben Sullivan, R.N., newydd iddo vod yn plymio a lleoli arvordir De Amerig, yn yr hyn yr enwogodd ei hun yn vawr. [Gwel Llawlyvr y Wladva.] Cevnogydd selog i Gymdeithas Genadol De Amerig oedd eve, a dilynydd i'r merthyr Allan Gardiner.
Yn y lle cyntav, ni ymyrai ein Llywodraeth ni gydag unrhyw wladva ar arvordir Patagonia: byddai o dan Buenos Ayres, yr hon yn unig all hòni hawl i'r wlad. Byddai unrhyw vudiad o'r vath y cyveiriwch ato (Gwladva yn Patagonia) yn wallgovrwydd. Mae yno avon vach (Chupat) oddeutu'r lle a nodwch, ar lanau yr hon y mae porva, ac a wnelai, pe'n ddiogel rhag Indiaid, sevydliad pori; ond nid oes iddi borthladd, a dim ond 6 i 8 tr. o ddwr ynddi. Byddai gwladva yn y van hono yn gynorthwy mawr i ni (y Genadaeth), ond ni pharhai ail vlwyddyn. Byddai yr Indiaid yn sicr o roddi tervyn arni a lladrata y stoc. Os oes mewn gwirionedd bobl o gyvala yn dymuno sevydliad a dalai yn Ne Amerig, gwell iddynt vynd ar lanau yr avon Uruguay, Banda Oriental, lle mae'r Llywodraeth yn cynyg telerau boddhaol iawn: dim trethiant, hunanlywodraeth leol, hinsawdd a gweryd perfaith, cyvleusderau avonydd wrth y drws, tir rhad. Ped elai 10,000 yno gallent yn efeithiol gadw amhleidiaeth pe deuai rhyvel, ac mewn ychydig vlyneddoedd byddent yn ymarverol reoli'r wlad, a planu ein cenedl a'n iaith ni yn y rhanau goreu o Dde Amerig.
Y canlyniad cyntav ymarverol i'r waedd am Wladva Gymreig oedd y vintai o Gymry aeth i Rio Grande do Sul, Brasil, yn 1851, am yr hon y dyry ei sylvaenydd (T. B. Phillips), yr adroddiad canlynol:—"Tra yn trigianu yn Manchester daethum i gydnabyddiaeth gyda'r Parch. Owen Jones, D. Rhys Stephens, J. Lloyd, yr Amserau, ac amryw vasnachwyr oedd a chysylltiadau gyda Brasil. Velly, ar ol mordaith i Natal, galwodd ein llong yn Rio de Janeiro, a deallais yno y gellid sevydlu gwladva obeithiol yn Rio Grande. Yn yr Amserau byddai penod ddyddorol dan y penawd " Y Siop," bob wythnos, i'r hon yr ysgrivenwn i, a thynodd y rhai hyny sylw Evans, Nantyglo. Wedi cyraedd Rio Grande yn 1850, trevnais gyda masnachdy mawr Caruthers, Souza & Co., i brynu tiroedd at sevydlu Gwladva Gymreig. [Daeth Souza yn vwy adnabyddus wedyn vel Barwn Mauá.] Talwn i y bedwaredd ran vy hunan, a threvnais ar i'r masnachdy dalu cludiad yr ymvudwyr cyntav. Rhwng 1851—3 cyrhaeddodd rhyw 100, gan vwyav o ardaloedd Nantyglo, Bryn mawr, ac eraill o Von a Dinbych—hen gydnabod, J. Roberts, Mersey View, Iiverpool. Ad—dalodd yr ymvudwyr hyny yn y màn gost eu cludiad, ond nid costau eu byw am agos i ddwy vlynedd, yr hyn vu golled drom i mi. Aeth y sevydliad yn vethiant tua diwedd 1854, am (1) mai coedwigoedd oedd y lle, a'r bobl yn anghyvarwydd, (2) am vod gwasanaeth caethion (Brasil y pryd hwnw) yn gwneud gwasanaeth dynion gwynion yn amharchus; (3) drwy ddarganvyddiad glo yn Pelotas, ac velly alwad am waith i'r glowyr oedd yn y sevydliad. Enw y wladva oedd Nova Cambria, ac y mae heddyw yn sevydliad Ellmynig llwyddianus. Mae eto yn aros ychydig o'r sevydlwyr ieuainc yn y gloveydd hyny a Pelotas—y rhan vwyav o'r hen rai dan y briddell, a'r sylvaenwr gwreiddiol yn awr yn y Wladva, yn llawn fydd yn nyvodol yr Hen Genedl, y rhai vel y cred eve ddygwyd yma yn arbenig gan Dduw, i'r amcan o adsylvaenu Cenedlaeth Gymreig newydd."
Am ein cydwladwyr sydd tua Porto Alegre, maent yn awyddus i vyned i Patagonia, gan ddanvon atav yn barhaus ar i mi eu harwain yno. Ond doethach, debygav, oedd iddynt aros nes y ceir sicrwydd vod y vintai gyntav wedi cychwyn o Liverpool: oblegid ped elent, a gorvod aros yno eu hunain dalm cyn y delai'r vintai atynt, byddent yn debyg o ddigaloni a chwalu. Rhaid trin cenedlaetholdeb y bobl gyda pharch a goval a phwyll. Pan hwylio y vintai gyntav, hysbyswch hyny i ni gynted y galloch, ac yna ve drevnwn ninau i'ch cyvarvod yn New Bay. Ond bydd raid i ni alw yn Buenos Ayres ar y ffordd i lawr i gymeryd lluniaeth a rheidiau ar y bwrdd —yr hadyd, coed adeiladu, arvau, &c., y trevnir am danynt yn y cytundeb gyda'r Llywodraeth Arianin. Dylem gael awdurdodiad oddiwrth eich pwyllgor chwi i gael y pethau yna. Gwell vyddai danvon yr ymvudwyr yn vinteioedd bychain, y naill ar ol y llall, vel y calonogent eu gilydd. Cyngorem hevyd ar i gwmni cryv gael ei furvio o bobl ddylanwadol, gyda rhaneion o £5 at brynu haner dwsin o longau a dadblygu y lle a'i vasnach, ac i'r elw vyned i gynorthwyo tlodion Cymru dd'od i'r Wladva, a thrwy hyny noddi a meithrin y genedlaetholdeb. Wrth ystyried vod niver y Cymry, bellach, yn ddwy viliwn, debygav vi mai nid peth anhawdd vyddai manteisio ar pen. 9 o'r cytundeb i roi 20,000 o drigolion yno, vel ag i vod yn dalaeth o'r Weriniaeth Arianin, ac velly roi cnewyllyn o'r cyf Celtig ar sylvaen gadarn yno. Rhodder i'r ymvudwyr ddigonedd o dir yno—500 erw o leiav i bob pen tevlu.
T. B. PHILLIPS.
Yn 1867, pendervynodd un o'r teuluoedd Cymreig aethent i'r Brasil, ar ol deall vod y Wladva Gymreig mewn gwirionedd wedi cychwyn, yr elent hwythau drwy dew a theneu yno atynt. Yr oedd hyny yn amser yr ymblaid a'r chwalva. Daethant i ddechreu i Patagones; yna aethant i vynu tua'r Gwardia i vugeila; ond yn ol drachevn i Viedma; a phan gavodd L. J. long gan y Llywodraeth i vyned a gwartheg i'r Wladva achubodd y teulu hwnw o wyth enaid y cyvle i vyn'd ynddi i'w cyrchvan; ac yno y maent hwy a'u gwehelyth vyth, oddigerth yr hen vam ddewr a'u harweiniodd yno ac a hunodd yno yn ddiweddar.
Delai yr un waedd o Awstralia, vel hyn:—
Amaethwyr Cymru, cymerwch air y cyngor am Awstralia—byddai well i chwi ymhob modd ymuno yn y symudiad (Gwladvaol). Yn y Wladva Gymreig bydd gwell calon ynoch i blanu ac adeiladu: byddwch yn govalu vod y ty yn gadarn, ac wrth blanu gwinllan a gwinwydden byddwch yn gwybod mai eiddo i chwi a'ch cenedl vydd hi, ac y bydd eich plant yn cael bwyta o'u frwyth. Byddwch yn teimlo mwy o ddyddordeb yn niwylliad y ddaear, gwelliantau celvyddyd, a chynydd masnach nag a deimlech vyth mewn estron wlad. Gwyddech mai eich gwlad chwi ydyw, ac velly bydd eich llavur yn bleser. (2.) Bydd yn well mewn pethau moesol a chrevyddol. Cewch ddysgu eich plant yn yr holl gelvau a gwyddonau yn yr iaith vyddwch chwi a hwythau yn ddeall. Bydd yr holl addysg gyvrenir yno yn ddiau yn Gymraeg. Yna, gan vod yno ddigonedd o dir da, am bris isel, ewch yno, neu yn hytrach, dowch yno, yn llu mawr, oblegid mewn undeb mae nerth. E. P. JONES.
Yr ydym yn mawr lawenhau oblegid yr ymdrech glodvawr wneir i sevydlu Gwladva Gymreig. Mawr ei hangen sydd, a hynu a wyddom ni yn dda yn y wlad hon. Mae yma amryw Gymry wedi d'od yn ddiweddar; ond nig gwn beth ddaw ohonynt, druain. Mae'n ddigon tywyll ar y rhai sydd yma er's amser, ac yn gwybod dull a manteision y wlad; ond sut y bydd ar ddyeithriaid, nis gwn. Yr ydych y 'Nghymru yn tybied vod Awstralia yn parhau yr un o 1an aur a manteision bywoliaeth, a llawer yn rhuthro dros y weilgi yn y syniad yna. Ond gallav ddweud nad oes yma'n awr vawr iawn mwy o vanteision byw nag sydd yna. Hwyrach vod yma lai o drethi, er vod y rheiny yn cynyddu bob blwyddyn; ac os gosodir clwt o babell lian yn rhywle, buan y cewch y swyddog yn govyn y dreth. Diau vod yn y wlad hon viloedd o Gymry; ond y maent mor wasgarog vel na ellir cadw undeb rhyngddynt. Yn Forest Creek a Ballarat yn unig y mae llewyrch ar y cyrddau Cymreig. Mae pawb ohonom yn edrych ar ein cyvathrach genedlaethol hon vel peth tra gwerthfawr, ac yn govidio nas gall pawb o'n cydgenedl ei vwynhau. WM. BENJAMIN.
Yn y gwres hwn ymunodd 30 o Gymry i brynu llong newydd, 95 tunell, yn yr hon y bwriadent unioni'n syth i'r Wladva, eithr ni ddaeth ond un oddiyno—Evan E. Jones, ger Wyddgrug.
V.
Y CYFRAWD GWLADVAOL YN YR UNOL DALEITHAU, 1851—6.
Y mynegiad furviol cyntaf sydd ar glawr am symudiad i gael Gwladva Gymreig ydyw yr adroddiad am gyvarvod o Gymry yn Philadelphia, y cyveiriwyd ato uchod. Yna y mae dysbaid hyd 1854, pan y danvonwyd y llythyr canlynol at Mr. Griffith, Chicago:—
"Mae genym i'ch hysbysu vod Cymdeithas Wladvaol yn bodoli yn New York, ers tros 30 mlynedd yn ol, dyben pa un yw cael gwlad i'r Cymry ymsevydlu gyda'u gilydd, yn lle gwasgaru vel y maent heddyw, ar hyd a lled y wlad vawr yma. O! na vuasai rhyw gynllun wedi ei drevnu vlyneddoedd yn ol i'r Cymry vyn'd i'r un wlad ac i'r un lle, vel y buasent heddyw yn bobl luosog. Ond yn lle hyny, mae ein dull o ymvudo wedi ein hau dros bedwar parth y byd, i golli am byth fel cenedl ein hiaith a'n henw, gan genedloedd eraill y byd. Ovnwyv vod yr amser wedi pasio am byth i gael Gwladva yn y wlad hon: ond y mae eto wledydd da heb eu meddianu, a llawer mewn rhan. Buom bron a prynu Vancouver Island, gan yr Hudson Bay Co., i wneud gwladva. Dyna Paraguay —yn wlad vawr a frwythlon, ond hynod deneu ei phoblogaeth: byddai cael 20,000 o Gymry yno yn ddigon i vyn'd a phob peth o'u blaen. Hevyd mae Llywodraeth Buenos Ayres, yr hon sydd weriniaeth ar lan La Plata, hynod deneu ei phoblogaeth, ond yn veddianol ar diroedd eang a bras, yn cynyg tiri ni wneud gwladva yn ei thiriogaeth mewn lle o'r enw Bahia Blanca. Mae gohebiaeth yn myned ymlaen yn bresenol â'r Llywodraeth hono am y lle a nodwyd, a disgwyliwn vod mewn sevyllva yn vuan i'ch hysbysu vod gwlad wedi ei chael—hyd hyny, eich mantais yw casglu nerth: ein penderfyniad ni yw peidio rhoddi i vynu nes cyraedd amcan dechreuol ein cymdeithas.
Yn Ebrill 14, 1860, ysgrivenai J. Rees, Williamsburg, N.Y., at Edwin Roberts vel y canlyn:—
Rhy vaith vyddai i mi adrodd am ein holl dravodaeth o amser bwygilydd—pa vodd y bu i ni benodi ar Ynys Vancouver ar lanau Oregon, i wneuthur cychwyniad. A thra yr oeddym yn cynllunio mesurau i'w chael gan yr Hudson Bay Co. y daeth yr hanes am aur California, ag a gludodd ymaith y rhai mwyaf bywiog ac anturiaethus o'n haelodau, ac a gyvnewidiodd sevyllva yr Ynys hono yn hollol tu hwnt i'n cyraedd ni. . . . . Yr oedd cymdeithas wedi ei furvio yn Utica vel mam-gymdeithas, D. Price yn llywydd, ac Edward Jones yn ysgrivenydd; eithr pan ymholais â hwy ymhen talm o amser i wybod beth oeddynt yn wneud gyda'r mudiad, yr ateb gevais oedd, na veddent hwy yno yr un drysorva, ac nad oeddynt yn cymeradwyo ein dull ni o vyned ymlaen ; os na ellid cael gwlad heb gynyg llwgr—wobrwyo vel y soniem ni, eu bod yn tori pob cysylltiad â ni, ac yn gwahardd i ni ddevnyddio eu henwau hwynt: nad oeddynt vel swyddogion yn bwriadu gwneud dim i hyrwyddo y symudiad, nac erioed wedi bwriadu, ac vod y gymdeithas yn ymwasgaru! . . . . . Gwnai y llongau sydd yn myned i California ac Awstralia gludo ymvudwyr i Patagonia yn rhad iawn, a'u glanio yn Montevideo neu Maldonado, a digon hawdd cael cludiad oddiyno i Buenos Ayres, a myned oddiyno dros y tir. Dywedwyd wrthyv gan ddinesydd o Buenos Ayres y gwnai'r llywodraeth hono anrheg i ni o amddifyna a porthladd Bahia Blanc (!) ar yr amod i ni atal Indiaid lladronllyd Patagonia rhag dwyn aniveiliaid y cyfiniau. Ond yr wyv vi yn myned ar y dybiaeth mai gwell genym vyddai sevydlu yn nyfrynoedd bras y Paraná neu Paraguay, yn hytrach na myned i unman yr avlonyddid arnom gan Indiaid.
Pan ddechreuwyd cyhoeddi y Drych (newyddur y Cymry yn yr Unol Daleithau), cavwyd cyvrwng hylaw i wyntyllio a thravod y dyhead yno am Wladva Gymreig. Ac am vlwyddi lawer bu y cyfrawd hwnw yn berwi Cymry y Taleithau. Eithr ar ddydd Nadolig 1855 yr ymluniodd y dyhead hwnw i furvio Cymdeithas Wladvaol yn Camptonville, California—T. B. Rees yn llywydd; C. Morgan, is-lywydd; D. P. Edwards, trysorydd; Wm. ap Rees, yn ysgrivenydd. Danvonodd yr ysg. gylchlythyr allan i bob cyveiriad, ac i'r newydduron. Am y tair blynedd dilynol i hyny bu y cyfrawd Gwladvaol yn cerdded ac yn lledu. Sevydlwyd cymdeithasau gwladvaol mewn llawer iawn o'r ardaloedd Cymreig drwy yr Unol Daleithau. Yn 1857 yr oedd gan y vam—gymdeithas yn California drysorva o $2,000, a gwnaethpwyd trevniant cyfredinol i'r amrywiol ganghenau gyduno ar bwyllgor gweinyddol a thrysorva gyfredin—i barhau nes y byddai'r gwladvawyr cyntav wedi cyhoeddi cyvansoddiad gwladol ac ethol swyddogion mewn fordd reolaidd. Brithid y Drych yn y blyneddau hyny gan grybwyllion am gyrddau Gwladvaol drwy yr U. Daleithau, a chevnogid y mudiad yn galonog gan y newyddur hwnw. Wrth edrych dros feil y Drych yn y dyddiau hyny ceir, ymysg covnodion lawer, y rhai canlynol:
Big Rock, Illinois , Medi 20 , 1857 .
Bethel, Wisconsin, $120 yn y cwrdd cyntav.
Pittson Ferry, Mawrth 26, 1857.
Vermont, Meh. 13, 1858, $ 100.
Webster Hill, Hydrev 3, 1857.
Brownville, Maine, Chwev. 26 , 1858 .
Cwmbwrla, Silver Creek, Mawrth 27, 1858.
[Y_cadeirydd , J. Williams, Bryn eryr, "wedi cychwyn tua Patagonia, ar ei draul ei hun, Chwev. 5, 1858."]
Racine, Wis., Mawrth, 1858.
Penuel, Oshkosh, Mawrth 5, 1857.
Middle Granville. Ion. 21, 8858.
Evrog Newydd, Chwev. 20, 1858.
[Dr. W. Roberts yn gadeirydd: Pendervynwyd: Ein bod yn cymeradwyo bwriad a hunanymwadiad M. D. Jones i ddyvod drosodd i hyrwyddo y symudiad Gwladvaol.]
Yn y cyvwng hwn y mae enwau brodyr enwog Llanbrynmair yn d'od i'r wyneb. Yn 1856 7 yr hwyliodd G. R., ac wedi hyny S.R., gyda'r bwriad o gael sevydliad neu gym'dogaeth Gymreig yn Tennessee. Eithr ys truain vuont i gychwyn eu hanturiaeth ar vin tymhestl ovnadwy y Rhyvel Gartrevol.
Yn y Drych am Medi 4, 1858, cyhoeddwyd vel erthygl arweiniol yr hyn a ganlyn: "Glaniad y Parch M. D. Jones, Bala. Mae ein cydwladwr aiddgar, y Parch M. D. Jones, gwron y Wladva Gymreig, wedi tirio yn y ddinas hon Awst 30, 1858. Hysbyswyd ei amcan eisoes, yr hyn yw, furvio mintai ymchwiliadol i vyned i ddechreu ymsevydlu y'Mhatagonia, vel y gallo wneud lle cymhwys i'r Cymry ymvudo iddo. Mae Mr. Jones yn ddyn uchel ei gymeriad a'i ddylanwad, ac yn teilyngu y derbyniad gwresocav gan ei genedl ymhob man. Yr ydym yn dymuno pob llwyddiant iddo yn yr ymdrech genedlaethol. Mae gan Mr. Jones luaws o anerchiadau yn ei veddiant oddiwrth amryw gymdeithasau yn yr Hen Wlad, yn cyvarch eu brodyr y tu yma i'r Werydd.
Un o'r anerchiadau y cyveirid atynt oedd hon gan Ceiriog:
"Ar eich ymadawiad i America ar y genadwri bwysig o wneuthur ymchwiliad i ansawdd Patagonia, ac i gydweithredu gyda'n brodyr tu draw i'r Werydd gogyver a furvio Gwladva gysurus i'r dosbarth lluosog hwnw o'n cydgenedl sydd yn gorvod ymvudo yn veunyddiol i amryw barthau o'r byd, nis gallwn lai na'ch anerch i amlygu ein cydymdeimlad â'r achos teilwng a bleidir genych, a datgan ein llawenydd vod i ni gydwladwr o'ch sevyllva a'ch medr chwi sydd yn barod i gychwyn oddiwrthym ar y genadwri ganmoladwy hon, ac vod genym voneddwr mor ymddiriedus i gynrychioli Cymry Prydain ynghynhadledd y Wladva Gymreig sydd i'w chynal yn Evrog Newydd yn ystod y vlwyddyn hon.—Arwyddwyd : John Hughes (Ceiriog), John Mason, Thomas Evans."
Ve welir mai yn 1858 yr aeth M. D. Jones i'r Unol Daleithau ar ei neges Wladvaol, a chavodd ei genadwri dderbyniad brwdvrydig yn yr holl sevydliadau Cymreig. Ond ymddengys na pharhaodd y brwdvrydedd Cymreig hwnw yn hir iawn—evallai am mai ysglodion tlodi oedd ei gynud, neu am nad oedd weledigaeth eglur am y dull a'r modd i weithredu, neu am ddarvod ymranu ac ymbleidio. Gellid casglu eglurhadau vel yna oddiwrth y Drych yn y blwyddi hyny, a chylchlythyrau W. B. Jones a J. M. Jones, yn cynyg am sevydlu "Cambria Newydd" yn Missouri ar diroedd Eli Thyer.
Y covnod credadwy nesav i hyny ydoedd cyvarvod ymadawiad Edwyn Roberts, Tach. 10, 1860, yn cychwyn ei hunan am Batagonia. Ebai'r Drych: "Mae pleidwyr y symudiad gwladvaol yn prysur berfeithio eu cynlluniau er dwyn y peth i weithrediad. Daeth Edwyn Roberts i'n swyddva tra "ar ei fordd i Patagonia;" ond wedi cyraedd New York, cavodd ei berswadio i vyned i Gymru i wneud ei ran yno dros yr achos: dywedid mai folineb oedd iddo veddwl myned ei hunan i wlad anial Patagonia, a hwyliodd yn y 'City of Manchester.' Ymddengys yn ddyn ieuanc calonog a hynod bendervynol."
Wedi yr uchod nid oes genym govnodion am y cyfrawd Gwladvaol yn yr U. Daleithau, hyd lythyr Eleazer Jones.
Aethum at yr ychydig gyveillion sydd yn y ddinas yn favriol i'r symudiad, ac wedi llawn ystyriaeth, y pendervyniad unvrydol yw— vod amgylchiadau y wlad hon yn bresenol mewn ystyr arianol a gwleidyddol yn gyvryw ag sydd yn ei gwneud yn amhosibl i ni vod o un cymorth i'r symudiad. Nid oes yn ein plith lawer yn veddianol ar gyvoeth, vel ag i allu cymeryd bonds i sicrhau echwyn. Hevyd y mae y telerau a dderbyniasoch mor amwys vel nas gallwn yn bresenol, heb beryglu interest y dyvodol, eu cyhoeddi a'u hargymell ar y wlad, am nad oes ynddynt ddim yn gymelliadol i rai sydd yn gwybod manteision yr Homstead Law yma. Credu yr ydym mai distawrwydd vyddai oreu nes y bydd rhyw gyvnewidiad ar yr amgylchiadau. Mae y savle gymer y wasg Gymreig oll o'r bron gyda golwg ar y rhyvel, wedi chwerwi miloedd lawer tuag at Gymry Prydain, a gwnai yr eiddigedd hwnw niwaid i'r mudiad yn awr pe gwthid y peth i sylw. Cevais gryn ymddiddan ddoe gyda Berwyn ar y mater. Anvonais ysgriv i'r Drych i hysbysu beth sy'n myn'd yn mlaen, a hysbysu yr amser i'r vintai gyntav gychwyn, &c., ond heb gyveirio at yr echwyn a phethau sydd amhosibl eu gwneud o'r ochr hyn yn awr, rhag peri i elynion y symudiad watwor a niweidio yr amcan. ELEAZER JONES.
Ve welir wrth ddyddiad y llythyr blaenorol vod hyn ar vin ymadawiad y Vintai Gyntav—a gwell hwyrach gwneud bwlch yn y van yma i roi ar glawr rai cyveiriadau geidw linynau hanes y cyfrawd yn yr Unol Daleithau yn y cyraedd. Covier eto mai yn y cyvwng hwn y bu'r Rhyvel Gartrevol vawr, ac yr andwywyd gobeithion ac amgylchiadau S. R. druan—vel llu mawr eraill o Gymry aiddgar yr Unol Daleithau. Eithr ni lwyr ddifoddwyd y tân. Yn union wedi i'r Vintai Gyntav gychwyn, ac i Gymry'r Taleithau ymysgwyd peth o'u syvrdandod, y mae hanes am ddau ohonynt, beth bynag, yn cymeryd i vynu eu pac i ddilyn y Vintai drwy bob anhawsderau—ac yr oedd y rhai hyny yn lleng y pryd hwn—sev D. Williams, Durhamville, Oneida, a Hugh J. Hughes, Wisconsin. Bu D. W. wedi hyny ar ymweliad i'w hen vro, yn 1873—4, a dychwelodd i'r Wladva at ei deulu yn y Luzerne," 1876, lle y gorfenodd ei yrva rai blyneddau yn ol. Ymddyrysodd y llall (H. J. H.) yn y chwalva vu ar y Wladva yn 1867, ac yr aeth rhai o'r gwladvawyr i Santa Fe, ac yntau gyda hwy. Y mae dau enw arall o Gymry yr Unol Daleithau yn perthyn i'r cyvnod hwn, sev Edwyn Roberts a Berwyn. Aethai blaenav yn gydymaith L. J. i barotoi ar gyver y Vintai Gyntav, a'r olav yn un o'r vintai hono vynodd anelu am y Mimosa" o New York yn syth. Wedi hyn y mae dysbaid o saith mlynedd cyn i Gymry'r Taleithau vedru cydio o ddiviiv yn y mudiad gwladvaol, ac y daeth enw D. S. Davies ar y blaen yn y cyfrawd am long Wladvaol.
VI.
Y LLONG "RUSH," O'R UNOL DALEITHAU.
At M. D. Jones. —Llwyddais wedi tri mis o lavur mawr yn yr hyn yr aethum allan o'i herwydd. Prynasom long dda, a'i henw "Rush," 200 tunell register. Gosodasom arni 250 o dunelli yn llwyth i Buenos Ayres, a 29 o ymvudwyr i Patagonia: cludiad ar goel iddynt oll, a chynorthwy o $400 rhwng pedwar teulu at brynu oferynau amaethol cyn cychwyn o New York. Yr oedd y bobl hyn yn bur gevnog mewn pethau rheidiol, aradr a stove i bob teulu, hadau, pladuriau, rhawiau, bwyeill, &c., Capt. James G. Evans yn veistr y llong. Bu J. Mather Jones ar vwrdd y llong yn rhoi ei varn a'i vendith arni, a D. T. Davies, trysorydd y Powis Colony: synent oll weled llong mor dda genym. Yn Mahanoy tanysgrivasant $10,000 at y llong nesav: rhaid i ni gael pedair llong eto, vel y bo un yn cychwyn bob 6 wythnos. Mae genym enwau 200 i 300 sydd am ymvudo y tro nesav. Buasai y cyfarwyddwyr a minau yn uchel iawn ein llawenydd yn awr am y llwyddiant a'r rhagolygon, oni buasai am eich llythyr diweddav yn hysbysu nad oes genych vreinlen ar Patagonia! Rhaid vod rhyw dywyllwch mawr ar y peth, onide paham na vuasid yn ein wynebu mewn llythyr. Wedi son cymaint am vreinlen, a'r vreinlen, a'r vreinlen o hyd, a chwithau heb gael un erioed, onid creulon ynoch oedd terfynu eich llythyr heb egluro i ni wir sevyllva y Wladva a'r Cwmni. Mae genym ymddiried mawr yn uniondeb eich amcanion, er vy mod wedi credu er's misoedd nad ydych yn business men o gwbl. D. S. DAVIES.
Wedi ail gychwyn mor addawol a hynyna, ac i'r "Rush ". gyraedd Buenos Ayres yn llwyddianns, dilynodd cyvres o anfodion anaele iddi hi a'r mudiad. Wedi dadlwytho y llong, ac iddi alw yn Montevideo, anesmwythodd rhai o'r ymvudwyr y cymerasid cymaint traferth erddynt ; a phan gawsant gyda hyny storm vlin oddiyno i lawr, vel y bu raid troi i M. Video drachevn,
MYNODD y vintai lanio, a buan iawn y chwalwyd ac y llyngewyd hwy, vel nad aeth yr un ohonynt vyth i'r Wladva. Medrodd rhai ohonynt eu fordd i Paysandu, gweriniaeth Uruguay, a cheisiodd L. J., yn 1873, grynhoi y gweddill i vyned gydag ef i'r Wladva ond llwyr gollwyd golwg arnynt. Wedi adgyweirio tipyn aeth y "Rush" ymlaen i'r Wladva, ac yn deithwyr arni Ed. Jones (Rhandir), J. Griffith (Hendre veinws), a T. B. Phillips, Brasil. Ar ol glanio y rhai hyny, a gweled San José, aeth y llong i Rio Negro, ac oddiyno yn y man i Buenos Ayres, lle y gwerthwyd hi gan y prwywr benodasid gan y perchenogion, Stuart Barnes.
At L. J.—Vel cynrychiolydd W. Jeremiah a'r Cwmni Ymvudol, dymunol vyddai genym gael pob hysbysrwydd am y Wladva—awgrymiadau a rhagolygon. Wedi holi pawb a allav yma, yr wyv yn casglu (1) Er gwaethav eich siomedigaethau ac anhawsderau vod sevyllva y Wladva yn llewyrchus; 2) Mai difyg cymundeb rheolaidd gyda Buenos Ayres yw eich priv anhawsder. Yr wyv yn deall hevyd nad ydych yn llwyr sicr o barth breinlen dir gan y Llywodraeth. Yr ydych yn deall vod y cwmni wedi rhoddi imi lawn allu i weithredu drosto gyda'r "Rush," yr hon vwriedir gadw ar y glanau hyny i gadw cydiad masnachol, gan mai priv amcan y Cwmni yw hyny, a chyvlenwi y Wladva gyda phob nwyddau y bo alw am danynt. Govynant i mi hevyd eu cynorthwyo i gael breinlen briodol oddiwrth y Llywodraeth—am y tir sydd genych yn awr neu diroedd eraill dymunolach; ac yna, wedi cael hyny, y prynid llong vwy yn ebrwydd i gario ymvudwyr o New York i'r Wladva. . . . . A yw eich lle presenol yn voddhaol i chwi, neu a vynech chwi newid neu estyn eich terfynau? Byddwch vanwl i ddynodi eich finiau presenol, neu y rhai ddymunech,—niver yr erwau, &c.STUART BARNES.
Yn y dyvyniad canlynol o lythyr L. J. at W. ap Rees, New York, a ysgrivenwyd o Buenos Ayres, Ebrill 9, 1872, ceir cyveiriadau at yr un adegau o'r hanes :
Cyn hyn bydd S. Barnes wedi rhoi ar ddeall i chwi sevyllva pethau gyda'r 'Rush,' ac ovn sydd arnav y bydd ei thynged yn ovid i lawer ohonoch. Yn vasnachol, hwyrach nad oedd well llwybr na'r un gymerodd S. Barnes, wedi iddo ddeall anaddasrwydd y cabden i'r vath savle, ond y mae hyny wedi llethu y disgwylion Gwladvaol wrth y llong. Nid oedd ddisgwyl i'r prwywr vyned o'i fordd er mwyn y Wladva—er cymaint wnaed ohyny. Yr wyv newydd ddanvon cynygiad i ymvudwyr y 'Rush' sydd yn Paysandu i ddod i lawr atom yn ddigost os mynant, ac os gallant ymryddhau o'r man y maent: nis gwn ddim yn eu cylch ond y llythyr ddanvonodd tri ohonynt at y Consul Amerigaidd yma, a'r hwn, wrth gwrs, ddangoswyd i mi. Yr oeddwn wedi meddwl myn'd i'w gwel'd, ond y mae anhawsder quarantine yn vy lluddias. Aeth y Rush' yn aberth i'r un anaeddvedrwydd trevniadau ag yr aeth y 'Myvanwy.' Ond waeth heb ddànod wedi i'r peth basio. Anavus o beth oedd cyhoeddiadroddiad' (bondigrybwyll) y cabden pan aeth Mrs. Jeremiah adrev. Nis gellwch chwi yna ddeall ein anhawsderau ni, ond gellwch gasglu y gwnaethid niwed mawr i'r Wladva drwy ddangos mor gynhenus ac ymranol y darlunid ni yn y stori hono. Gall y Wladva wenu uwch ebychion o eiddigedd neu valais gyfredin; ond pan athrodir ni yn enw ein cyveillion goreu, vel y gwnaeth y cabden hwn yn eich enwau chwi, gan chwythu dwli yma ac anwir acw, mae'n sicr o wneud rhyw gymaint o niwaid yn ol ei vedr a'i gyvleusderau. Mae llawer dyryswch wedi bod eisoes ar y Wladva, oblegid ymyriadau ac adroddiadau gwyr dyvod.' Eich busnes chwi yw y Rush' a'i helynt, ond da chwi, peidiwch ymravaelio ynghylch y Wladva. Yr ydych yn gwneud camgymeriadau dybryd yn eich'eglurhadau,' ac nid oes wybod i beth yr arweiniant. Problem anhawdd yw y Wladva: byddwch daeog yn ei chylch yn hytrach nag yn llevarog, a choviwch vod ysgrivenydd hyn o awgrymion wedi bod drwy yr holl ryvel, derbyn mil o ddyrnodion gan gâr a gelyn, ond wedi gweled y Wladva'n llwyddo yn y diwedd. Nid oes neb yn edmygu mwy na myvi ar eich ymroad a'ch egni Gwladvaol—er y gellwch dybied, oddiwrth y sylwadau oerion, celyd, blaenorol vod vy nheimlad wedi ei haiarneiddio: hwyrach ei vod, o ran hyny, ond mae vy mhroviad wedi blaenllymu vy marn yn viniog, vel yr hyderav na raid i L. J. wneuthur yr un diheiriad pellach."
Yngoleuni proviad y blyneddoedd dilynol mae'n hawdd, hwyrach, weled nad oedd y Wladva, na'r Weriniaeth, yn aeddved i vanteisio ar y cais anturus hwn wnaeth Cymry yr Unol Daleithau. Eithr ni ddigalonodd hyrwyddwyr Amerig. aidd y mudiad wedi y methiant hwn, mwy nag y digalonodd eu hynaviaid wedi trychineb Bull's Run. Aeth D. S. Davies eilwaith ar y groesgad. Erbyn hyny cynorthwyid ev hevyd gan gynrychiolydd proviadol o'r Wladva (A. Mathews): a chyn hir iawn noviwyd llong a mintai arall, i wneud “ail gynyg Cymro," sev yr "Electric Spark," Capt. Rogers—i vyned yn syth o New York i'r Wladva. Yn y llong hono pendervynodd D. S. D. vyned hevyd, a gwel'd y Wladva drosto'i hun. Trevnasid y llong a'r vintai hono yn gyd—gyvranol, gan vod agos yr oll o'r ymvudwyr yn bobl led gevnog, rhai ohonynt yn perchen celvi a devnyddiau lawer, addas i sevydliad newydd. Ysywaeth eto! rhedodd y llong hono ar draethell ar arvordir Brasil. Nichollwyd bywydau neb, eithr bu un vam varw o ddychryn ymhen dyddiau; ond am yr eiddo a'r celvi, gasglesid drwy gymaint goval a gobeithion, aeth y rhai hyny agos oll yn aberth i'r mor a'r amgylchiadau trallodus. Golygva dorcalonus yn ddiau ydoedd y vintai ymvudwyr truain hyny ar draeth poeth Brasil, a'u holl glud—gelvi anwyl ar chwal ac ar gladd—y brodorion duon, pan ddaethant i'r van, yn varbariaid hollol iddynt o ran iaith a golwg. Bu raid traws-longu y vintai a'u clud ddwy waith i gyraedd Rio Janeiro; ac yno cavwyd y caredigrwydd Prydeinig arverol i rai trallodus, vel ag i'w hyrwyddo i ben y daith yn Buenos Ayres ; ond ymhell iawn o vod mor gevnog a phan yn cychwyn. Ynogwynvyd y son ! cwrddasant â'r vintai o'r Hen Wlad oedd yn myn'd i'r Wladva, ac a gychwynasent o Gymru tua'r un adeg ag y delai'r lleill o New York. Hono oedd "mintai Mathews a Lloyd Jones"—yr ail gychwyn i'r Wladva wedi y disdyıl hir o naw mlynedd.
Gwnaeth Cymry gwladgarol yr U. Daleithau drydydd cynyg drachevn am long i'r Wladva, a llwyddasant yn rhyvedd. Drwy holl drychineb y "Spark" glynodd Capt. Rogers gyda'r vintai: a phan gyrhaeddasant y Wladva, a gwel'd y lle a'r bobl, pendervynodd eve vyned yn ol at Gymry Amerig i ddweud wrthynt y weledigaeth gawsai, a'u cymhell i wneud trydydd cynyg am long i'r Wladva. Erbyn hyn yr oedd D. W. Oneida, a vuasai yn y Wladva rai blyneddoedd, yn barod i ddychwel at ei deulu yno; a chan ei vod yn wr o voddion tavlodd ei goelbren gyda Capt. Rogers i gynull mintai. Prynwyd velly y llong "Luzerne": llwythwyd hi o gelvi a bwyd; a dodwyd ynddi vintai gryno o ymvudwyr i vyned ar eu hunion i'r Wladva. Cyrhaeddasant yn ddiogel wedi hir vordaith—ond o'r braidd, canys darvuasai yr ymborth vel nad oedd ganddynt namyn starch yn vwyd i'r merched pan vwriasant angor y tu allan i'r avon Chupat, ac y cawsant broviad o vara enwog y Wladva. Bu peth anghydwelediad rhyngddynt wedyn ynghylch y llong; ond y diwedd vu ei gwerthu yn Patagones, vel na chavwyd nemawr wasanaeth gan hono eto i'r Wladva.
Bu un cyswllt byr wedi hyny rhwng Cymry yr Unol Daleithau a'r Wladva, sev oedd hyny pan aethai Edwyn Roberts i weled ei hen gartrev a'i gyveillion yn Wisconsin. Diau iddo gael croesaw calon gan ei hen gydnabod, a daeth ei vrawd a'i chwaer a'i phriod ac eraill o'i gydnabod gydag ev i gyrchu am y Wladva. Yr oedd Cymru y pryd hwnw (1875—6) yn verw bwygilydd am y Wladva, ac velly ymunodd mintai Edwyn Roberts yno gydag un o'r minteioedd hyny, a daethent trwy Buenos Ayres i vyned i'r Wladva.
VII.
CYFRAWD Y MUDIAD GWLADVAOL YN NGHYMRU.
Michael D. Jones y Bala oedd yr enw cyswyn wrth ba un y tyngid i'r Mudiad Gwladvaol y'Nghymru, vel ag yn yr Unol Daleithau. Yr oedd ei savle ev vel privathraw Coleg y Bala, vel llenor gwreiddiol a dysgedig, ac vel gwleidyddwr pybyr, yn gyvaredd dynai sylw pawb ato. Yr Amserau oedd cyvrwng mawr pob ymdravodaeth genedlaethol y dyddiau hyny—y Gyvnewidva Veddyliol i ba un y bwriai Hiraethog, Ieuan Gwyllt, Eleazer Roberts, a phawb oedd lwythog o syniadau eu trysorau i'r bwrdd. Yno, velly, y cwrddodd M. D. Jones, Evans, Nantyglo; S. R., John Mills, Wm. ap Rees, O. J., Manchester; Cadvan Gwynedd, &c., i vynegu eu dyhead am Wladva Gymreig. Wedi ei barotoad athrovaol aethai M. D. Jones am daith drwy Ogledd America dros vlwyddyn neu ddwy, ac yno, ynghyvlwr ei gydgenedl y gwelodd y Weledigaeth Wladvaol daniodd ei enaid, vel hono drydanodd Paul ar y fordd i Damascus. Pan ddychwelodd i Gymru, penodwyd ev yn olynydd i'w dad vel Privathraw Coleg y Bala. Yn 1858 aeth M. D. J. drachevn i'r Unol Daleithiau, i geisio corfori y Mudiad Gwladvaol [gwel pen. 5]. Wedi priodi yn 1859 a chartrevu yn Bodiwan, eve a gynaliodd gyvarvod Gwladvaol yn y Bala—Dr. L. Edwards yn gadeirydd, a Dr. Parry, Simon Jones, Robert Jones, gwlanenwr, &c., ymhlith y cynulliad, o'r hwn y ceir y covnodiad canlynol yn llyvr E. R., tud. 18.
"Nos Wener, Awst 15, 1856, galwodd M. D. Jones gynulliad o gyveillion gwladvaol, i ysgoldy y Methodistiaid, Bala, i osod y Mudiad Gwladvaol ger bron. Sylwodd y cadeirydd vod y cynulliad iddo ef yn ddyeithr, ond wrth ystyried yr amcan mewn golwg tybiai nas gallai neb ddyweyd llai na bod y peth yn ddymunol: yr unig amheuaeth oedd ynghylch posibilrwydd y peth. Yna galwodd ar M. D. Jones i ddarllen yr ohebiaeth dderbyniasai ar y mater, yr hyn a wnaeth, a gwneud ychydig sylwadau eglurhaol arnynt. Parch. J. Parry, golygydd y Gwyddoniadur, a ddywedodd vod y cadeirydd eisoes wedi cyveirio at hanvod y symudiad, sev a ellid cael Gwladva Gymreig Pa sicrwydd oeddys yn veddu y troai yr anturiaeth yn llwyddianus: na vuasai yr un vantais yn cymell cenedloedd ereill yno: neu pe troai yr anturiaeth allan yn vethiant pa sicrwydd oedd y buasai'r Cymry yn sevydlu mewn man yr oedd anvantais yn nglyn ag ev, pryd y gellid cael lle gwell. Atebai M. D. Jones vod esamplau o wladvaoedd wedi bod yn llwyddianus o dan amgylchiadau cyfelyb i'r rhai y gellid disgwyl i'r Wladva Gymreig vyned drwyddynt gan enwi Awstralia, New Zealand, Cape of Good Hope, &c.—a pe methiant elai'r cynygiad drwy ymdoddi i genedloedd ereill,ˆy diogelid cystal bywoliaeth i sevydlwyr cyntav trevedigaeth, ond y dioddefent, hwyrach, anghyvleusderau a chwithdod."
Pan ymddangosodd cylchlythyr Cymdeithas Wladvaol California yn yr Amserau, un o'r rhai cyntav i vabwysiadu y syniad oedd H. H. Cadvan, Caernarvon; yr hwn, ar ol gohebu gydag M. D. J., ac ymgynghori gydag L. Jones, ac Evan Jones, argrafwyr, Caernarvon, a sefydlodd yno gymdeithas i wyntyllio y mater. Gwahoddwyd M. D. J. yno i areitho ar y mudiad: cavwyd gan y maer roi benthyg y Guild Hall, a chan D. Roberts, Pendrev, lywyddu. H. H. Cadvan oedd y cyntav i draethu, gan ddwyn ar gov vel yr oedd Pennsylvannia wedi bod yn dalaeth Gymreig vlodeuog yn y ganriv o'r blaen, gyda Thomos Llwyd yn is—raglaw, Davydd Llwyd yn briv gyvreithiwr, Anthony Morris yn vaer Philadelphia, a Griff. Jones ar ei ol, ac Owen Jones yn drysorydd. Eithr arav ymdoddai y Cymry i'r cysylltiadau tramor, vel cyn pen cenedlaeth neu ddwy, nid oedd yn aros nemawr ddim o'r hen enwau Cymreig, ac erbyn heddyw ni ŵyr eu disgynyddion eu bod yn perthyn yn y ganved radd i'r hen Gymry gynt oeddynt yn perchen y dalaeth. Wedi hyny cavwyd anerchiad gan Dewi Mon (Aberhonddu yn awr, ond evrydydd o Goleg y Bala pryd hwnw), yn crybwyll mai bach o groesaw a roddai y byd yn gyfredin i syniadau y sawl gychwynent symudiadau newyddion mawrion — Wilberforce gyda rhyddhad y caethion, Howard i wella carcharau, Charles o'r Bala gyda'r Ysgol Sul. Yna M. D. Jones a anerchodd, gan gyveirio nad oedd y rhwystrau welai pobl i gael Gwladva Gymreig namyn gwŷr gwellt o'u tybiau eu hunain. Golyger vod yn rhaid cael rhyw gan' mil o ddynion i wneud Gwladva, ac nas gellid cael hunan—lywodraeth heb vyddin a llynges, yna'n wir breuddwyd ydoedd ond breuddwyd gelynion. Rhaid ydoedd i ddechreu gael tiriogaeth gymhwys a chymered cyveillion y mudiad bwyll ac ystyriaeth i edrych am hyny yn briodol. Ar ol cael tiriogaeth, elai niver o Gymry yno, vel ymvudwyr, a hawdd cael Cymry provedig o'r U. Daleithau i furvio cnewyllyn velly—dyweder 50 neu 100 i ddechreu, a buan iawn y dilynai eraill: fel y mae Saeson yn cyrchu at Saeson blaenorol, Francod at Francod, Ellmyn at Ellmyn. Pan ddelai y Cymry yn lluosog a chryv, mantais i'r lleill vyddai ymdebygu iddynt. Ar y cynllun syml yna yr oedd gwladvaoedd penav y byd wedi eu sevydlu, ac wedi llwyddo. A pe methid cario allan y dyhead a'r trevniant hwn, byddai gan y cyvryw gym'dogaethau vanteision bydol yr ymvudiaeth bresenol wed'yn. Nid drwy adnoddau a chynlluniau Llywodraeth yn y byd y mae Saeson ac Amerigiaid wedi gallu sevydlu rhai o'u gwladvaoedd pwysicav, ond drwy egnion, a bod yn lew, vel yr awgrymid yn awr.
Wedi sevydliad y gymdeithas hono bu dadleuon brwd yn y drev a'r newydduron; eithr cyn hir ymddangosodd llythyr yn y Vaner oddiwrth y cenadwr Cymreig at Iuddewon Llundain, John Mills, yn cymhell gwlad Canaan vel lle priodol am Wladva Gymreig; yr hyn a gymeradwyai M. D. Jones, ond a wrthwynebai Cadvan Gwynedd. Yn 1858 symudodd Cadvan G. i Lerpwl i vyw, ac yn nechreu 1859 rhoddodd ddarlith ar Wladva Gymreig, yn yr ystafell o dan gapel Bedford Street; ac er na chavodd lawer o wrandawyr, cafodd ddau ddisgybl lynodd wrth y mudiad hyd y diwedd, sev Owen a John Edwards, Williamson Square: hwythau a gawsant atynt yn y man ddau vrawd o seiri (Jones, St. Paul's Square), a dau Griffith o velin North Shore; a'r ddau Williams o Birkenhead, heblaw Morris Humphreys, John Thomas, paentiwr, John Griffith, William Davies, a L. J., pan symudodd ei swyddva argrafu o Gaergybi i Lerpwl, yn 1860. Y bagad brodyr uchod a ymgynullent ar nosweithiau penodol i barlwr y ddeuvrawd yn Williamson Square, a Chadvan Gwynedd yn gohebu drostynt gyda phob pleidiwr i'r mudiad y gellid dd'od o hyd iddo, ac a danysgrivient at y treuliau yr elid iddynt. A hwn oedd y Pwyllgor Gwladvaol gwreiddiol. Anerchai H. H. Cadvan gynulliadau o Gymry yn y cylchoedd, a hysbysiadai y pwyllgor yn y newydduron a'r capeli Cymreig. Yr adeg hono y glaniodd Edwyn Roberts yn Liverpool—" vynd ei hunan i Batagonia," wedi blino yn disgwyl wrth areithwyr a newydduron: cavodd y Pwyllgor Gwladvaol avael arno, a threvnasant iddo roddi darlith ar Wladva Gymreig yn Hope Hall, Liverpool, y gauav hwnw: yntau a dariodd beth o'r amser hwnw gyda'i berthynasau tua Nanerch, &c., yn sir Flint, ac a ddaeth yno i adnabyddiaeth gyda'r marsiandwr glo yn Wigan—Robert James, vu wedi hyny mor fyddlon gyda'r mudiad. Daeth cynulliad da i wrando darlith E. R. (J. Roberts, Mersey View, yn y gadair). Ond nid oedd weledigaeth na chynllun eglur wedi eu cael eto. Nid ymddengys velly i'r "Gymdeithas Wladvaol" ymgorfori hyd y 9ved o Orfenav, 1861. Dodir yma, o gywreinrwydd, rai o'r covnodion sydd ar gael yn y llyvr gedwid gan H. H. Cadvan.
Hyd. 9.—Pob aelod i danysgrivio dim llai na 6ch. yr wythnos at y treuliau. 20: Enwyd D. Lewis, banc, a Robert James yn drysorwyr i'r vintai gyntav. Rhag. 18—Argrafu 2,000 o docynau casglu, a 1,000 o docynau aelodaeth: pawb a roddo 2s. 6c. ac uchod i gael tocyn aelodaeth, i'w talu'n ol gyda llog pan gyrhaeddo'r aelod i'r Wladva, a pe nad elai y gallai werthu ei docyn i'r sawl a elai. Dewiswyd R. James i gynrychioli y gymdeithas gyda'r ymddiriedolwyr eraill-M. D. Jones, D. Williams, Castell Deudraeth; G. H. Whalley, a Capt. JonesParry.
Wedi ymflamychiad Edwyn Roberts yn Hope Hall, ymddengys iddo vyned at ei gyvathrachon yn sir Flint ond blinodd yno drachevn, ac aeth at ei gâr Robert James, Wigan;
yno ymunodd gyda'r gwirvoddolwyr "i ddysgu milwra erbyn y byddai alw ar y Wladva." Tra'r oedd eve yno yr oedd pwyll gor Liverpool yn ànos a chynesu eu gilydd, a thoc danvonwyd E. R. i Geredigion i areithio'r Wladva a defroi'r wlad, gan dalu ei dreuliau ar raddva vechan iawn, ac iddo ddybynu gryn lawer ar y tai capel am lety a chroesaw. Oddiyno eve a vedrodd ei fordd i Morganwg, lle'r oedd ei ddawn gartrevol ddirodres a'i dân Cymreig yn enill calonau y glowyr wrth y canoedd. Wedi gosod Morganwg yn verw velly, anelodd yn ol trwy wlad Myrddin a Phenvro i Geredigion, gan gyfroi yr holl wlad fordd y cerddai. Nid oedd pwyllgor Liverpool yn barod i ruthrwynt o vath hwnw eithr nid oedd unman arall yn gweithredu dim gohebid gyda'r Bala, Festiniog, Aberystwyth, a llawer o vanau yn y Deheubarth, ond yr oedd croesgad Edwyn Roberts yn myn'd a'u hanadl.” Llwyddasai E. R. i ddyddori Ioan ap Hu Veddyg (Dr. Pughe, Aberdyvi), a maer Aberystwyth (J. Matthews), a rhyngddynt oll galwasaut gynadledd i Aberystwyth)-y bore i gynllunio a manylu, a'r hwyr i ymflamychu. Yr oedd Daniel ab Gwilym yno i gynrychioli Morganwg, ac L. J. cadeirydd pwyllgor Liverpool, i'w cynrychioli hwythau ; & daeth llu mawr o bobl Ceredigion at eu gilydd. Yr oedd y brwdvrydedd y vath vel mai cenadwri cynrychiolydd Liverpool oedd bwganu yr anhawsderau a'r anaeddfedrwydd. Cyhoeddasid Edwin Roberts i ddarlithio yn yr hwyr ar "Indiaid Gogledd America," côr lleol i ganu, ac yna pawb i holi a beirniadu E. R.: cododd dau wr o Aberystwyth i veirniadu; ond amlwg nad oedd eu gwybodaeth ddaearyddol na gwleidyddol hwy yn eang iawn: velly pan gododd L. J. i ateb ac adolygu medrodd yn rhwydd ddinoethi y camsyniadau a'r anwybodaeth, gan lwyr droi y byrddau arnynt. Buwyd yn y neuadd hyd 11 o'r gloch mewn llawn hwyliau: a dywedid ymhen blyneddoedd gan rai oedd yn y cwrdd hwnw na welsai Aberystwyth ei vath. Ond canlyniad naturiol y gynadledd hono oedd dangos mor anaeddved oedd y mudiad y pryd hwnw, ac mai da vyddai ymbwyllo llawer iawn. Nid oedd L. J. ond dyn ieuangc dibroviad; yr oedd M. D. Jones yn ad-drevnu y Coleg, a chyda hyny ar vin neu newydd briodi; a phwyllgor Liverpool onid dyrnaid o werin bobl yn taro tân o'u gilydd. Yn arav deg ymbwyllodd pawb. Yn ei grwydriadau rhwng Wigan, Liver pool, sir Flint a Mon daeth Edwyn Roberts un tro ar draws y Canon D. W. Thomas, Llandegai, yr hwn a barhaodd yn gevn iddo hyd y diwedd. Gohebai M. D. Jones gyda'r travnoddwr Arianin yn Llundain: ond ve welir oddiwrth pen. 3 mai hwnw oedd cyvnod yr avlwydd ar y Weriniaeth Arianin, vel na ddaeth dim o hyny.
VIII.
LLAWLYVR Y WLADVA A'R DDRAIG GOCH.
Tra yr oeddys vel hyn heb ddim ond darlithiau a chyrddau, ac ambell i lythyr yn y newydduron, teimlid nad oedd yr oll namyn "llev un yn llevain yn y difaethwch": wedi araeth hwyliog neu gwrdd dyddorol, ni vyddai dranoeth nemawr o'i ddylanwad yn aros nid oeddys yn covio nac yn sicr beth ddywedasid, ac nid oedd pawb yn deall yr un vath a'u gilydd. Velly, pan symudodd L. J. ei swyddva argrafu o Gaergybi i Liverpool, rhoddodd hyny gyvle i'r Pwyllgor Gwladvaol ddevnyddio Trosol Mawr y Wasg i glirio'r fordd. Nid oedd trysorva'r pwyllgor ond ceiniogau gweithwyr, yn rhoi o'u prinder a'u brwdvrydedd at vudiad ymddangosai iddynt o vuddioldeb cenedlaethol anrhaethol. Cyhoeddwyd velly "Lawlyvr y Wladva Gymreig" yn 1861, a'i deitl "Sylwadau ar yr angenrheidrwydd a'r posibilrwydd o'i sevydlu: hanes Patagonia, yn egluro ei haddasrwydd i'r Sevydliad: y dravodaeth gyda Buenos Ayres am drosglwyddiad y tir; bras-gynllun o drevn yr ymvudiad; a darlunlen o Patagonia: gan H. H. Cadvan." Diau i grynhowr y llawlyvr chwilio llawer o lyvrau i gael y dyvyniadau sydd ynddo am Patagonia; eithr gwlad anhysbys ydoedd, ac yngoleuni ein gwybodaeth bresenol am dani ymddengys y llyvryn hwnw yn henavol ac anghyvlawn; ond lledaenwyd llawer ohono yn Nghymru ac Amerig. Nid digon hyny ychwaith, os oeddid am i'r mudiad beri ei deimlo ymhob twll a chornel, ac aeddvedu i rywbeth sylweddol:—velly, sev ar y 5ed Gorfenav, 1862, ymddangosodd y Ddraig Goch i hyny, newyddur pythevnosol y Wladva Gymreig ac Ymvudiaeth," cyvres gyvlawn o'r rhai sydd ar gadw yn y Wladva. Yr oedd erthyglau y newyddur hwnw gan M. D. Jones, D. Lloyd Jones, L. J., Gutyn Ebrill, Morgan P. Price, Mab Anian, H. H. Cadvan, Berwyn, a llu o ohebwyr eraill yn chwythu y tân cenedlaethol dros Gymru oll yn y gadgyrch am Wladva Gymreig. Yr oedd yr ysgrivenwyr yn eu dyddiau goreu, a'r Mudiad Gwladvaol yn tanio eu heneidiau. I'r hanesydd bydd y cyvrolau hyny yn gywreinion llenyddol gwerthvawr, ac yn govnodion awdurdodedig o'r Cyfrawd Gwladvaol nes yr ymsylweddolodd yn y vintai gyntav. A hwnw oedd y Cyfrawd Cenedlaethol Gwleidyddol cyntav (wedi dyddiau Glyndwr) y mae son am dano. Nid oedd y newyddur hwnw yn adnabod enwadaeth neb, mwy nag y mae'r Wladva eto. Yr oedd i'r Eisteddvod vanlawr cenedlaethol, ond ni veiddid travod gwleidyddiaeth yno. Eithr lluman Gwleidyddiaeth Genedlaethol Gymreig oedd baner y Ddraig Goch, a dysgu ac ysbrydu Cymry i deimlo YN BOBL, vedrent lywiadu eu gwlad oedd hanvod y Mudiad Gwladvaol.
Yn y rhivynau cyntav y gorchwyl mawr oedd "gostwng y cythreuliaid" gwrthwladvaol elent dan Garibaldi,” yr enwau Twrch, J. J., New York, &c., &c. Erthyglau arweiniol y "Ddraig Goch" oeddynt Ymvudiaeth, Castell yn yr Awyr, Pwrs y wlad, Anhawsderau Gwladychu, Rhagluniaeth o du y Wladva, Yr Eisteddvod a'r Wladva, Rhyvel y Taleithau, Stiwardiaid a meistri tiroedd a'u deiliaid, Syrthiant y Ser, Hen Gweryl Ewrob, Planiad Cyf Cenedl y Cymry yn Ne Amerig, y "Byd Cymreig a'r Wladva, Y Times, Y bendefigaeth a Rhyvel y Taleithau, Ewrob yn myn'd yn ol, America, Trevedigaeth, Mil—vlwyddiant, Egwyddorion. Gohebiaethau oddiwrth y blaenwyr Gwladvaol Edwyn Roberts, H. H. Cadvan, Gutyn Ebrill, Twmi Dimol, Dan. ab Gwilym, Cymro Du, Peredur, Morddal, W. ap Mair Gwilym, E. P. Jones, Cynddylan, Ioan Dderwen o Von, &c. Adroddiadau am gyrddau gwladvaol yn Lerpwl, Birkenhead, Merthyr, Aberdar, Castellnedd, Mountain Ash, Hirwaen, Llanelli, Dolypandy, Aberystwyth, Capel Seion, Llandudno, Henryd, Llanrwst, Castell Emlyn, Blaenau Festiniog, Rhymni, Dowlais, Cwm bach, &c. Dyry y dyvyniad canlynol gyweirnod yr ail gyvnod: Drwy y gyvres vlaenorol o'r Ddraig Goch cawsom gyvle i ddwyn y mudiad gwladvaol i'w savle briodol yn ystyriaeth y rhan vwyav ohonoch. Yn y gyvres hon yr amcan yw mynegu yn gyvlawn i bleidwyr y mudiad wedd bresenol yr achos, a rhoddi adroddiad y prwyadon ddychwelasant yn ddiweddar, ac velly roddi cyvle i bawb veirniadu a chwilio a chynghori. Barnu mae'r pwyllgor hevyd vod yr amser wedi d'od nid i voddhau cywreinrwydd darllenwyr cyfredin, eithr i dravod ymholion pryderus ymvudwyr, a gosod ger eu bron neillduolion y trevniadau gynygir, vel ag i weled beth sydd gyrhaeddadwy a dymunol. Mae y rhai vyddai debyg o vod yn y vintai gyntav yn wasgaredig dros y byd cyraeddadwy; ond dylent gydnabyddu â syniadau eu gilydd, vel ag i lunio sylvaeni cadarn o gyd-ddealltwriaeth a chydweithrediad."
Gwelir vel hyn vod pethau yn arav aeddvedu. Ond nid oedd gyswllt clwm rhwng Pwyllgor Lerpwl âg M. D. Jones: y blaenav oedd yn mwstro, ond at yr olaf yr edrychid i WNEUD rhywbeth.
Yr oedd y travnoddwr Arianin yn Liverpool wedi bod yn varsiandwr yn Buenos Ayres, ac yn teimlo dyddordeb yn y mudiad i gael Gwladva Gymreig yn y Weriniaeth hono, ac yn yr un adeilad ag ev yr oedd swyddva y masnachdy mawr T. Duguid & Co. Wedi cael yno ryw le troed, galwyd ar M. D. Jones yno i gyvarvod y travnoddwr Phibbs a'r masnachwr Duguid, a chyda hyny Robert James, O. Edwards, a L. J. Cytunwyd ar i bwyllgor Liverpool dynu allan gais at y Llywodraeth Arianin yn govyn am neillduad rhan o Patagonia i vod yn Wladva Gymreig. Gwnaed hyny drwy y travnoddwr, ac ymhen amser cyvaddas cavwyd y nodyn swyddol a ganlyn:—
"Awdurdodir chwi i vynegu hyrwyddwyr y mudiad am Wladva Gymreig na vydd unrhyw rwystr o du y Llywodraeth i ganiatau niver o leagues o dir, neu ryw rodd benodol o dir i bob teulu, os yw y gymdeithas o'r vath savle ag i warantu gwladychiad efeithiol y tir ganiateid iddi. Os yw y gymdeithas Gymreig hon, yn ol eich barn chwi, wedi ei furvio yn ovalus, ac yn meddu ar y moddion a'r sevydlogrwydd digonol i gario allan y cynygion a wnant, byddai well iddynt ddanvon prwyadon allan yma wedi eu hawdurdodi yn briodol, i orfen cytuno gyda'r Llywodraeth, ac hyd nod weled a dewis y manau y bwriedir sevydlu arnynt. Os amgen, ac y byddai raid travod y cytundeb a phob adran ohono drwy lythyrau, dichon na byddai hyny yn ol buddianau goreu y cytunwyr—evallai ar vanylion dibwys y rhai pe travodid ar lavar arbedai amser gwerthvawr i'r ddwy blaid."—G.R.
Wrth ystyried yr uchod, cyngorwn chwi, voneddigion, i vod yn egniol, acar unwaith furvio pwyllgor gweithiol cyvrivol, gweithgar, a dylanwadol, gyda pha un y bydd yn bleser genyv weithredu yn swyddogol vel travnoddwr, yn gystal ag vel pleidiwr diysgog i'r mudiad.—S. R. PHIBBS.
Medi 22 ysgrivenai'r gweinidog drachevn: "Nid oes dim yn y cynygion ymvudol ddanvonasoch na allai y Llywodraeth eu caniatau. Pe cyraeddai ymvudwyr yn vinteioedd, mwy neu lai niverog, a sevydlu eu hunain fel Gwladva ar ryw ranbarth, derbynid hwy yn groesawgar."
Wedi cael y vath wahoddiad i ddanvon prwyadon, gwnaeth y pwyllgor bob ymdrech i gyvarvod yr alwad. Danvonwyd H. H. Cadvan i gasglu drwy Ogledd Cymru, Edwyn Roberts drwy'r Deheudir, ac M. D. Jones ac L. J. drwy ranau o Geredigion. Cyhoeddwyd rhestr y tanysgrivion, a gwnaent ychydig dros £200. Dewiswyd Capt. Love Jones—Parry a L. J. i vyned yn brwyadon.
IX
Y PRWYADON A'R CYTUNDEB.
Telid £150 bob un i Capt. Jones-Parry ac L. J. pan aethant allan yn brwyadon, ac ar ysgwyddau M. D. Jones y disgynodd y baich o dalu i vynu'r gwahaniaeth gyda llawer yn rhagor o veichiau eraill.
I gydfurvio âg awgrym y travnoddwr gwnaed pwyllgor dylanwadol i vod vel math o ymddiriedolwyr at y Llywodraeth, sev G. H. Whalley, A.S., D. Williams, sirydd Meirionydd ; Capt. Love Jones-Parry, Robert James, Wigan; ac M. D.
Lewis Jones |
Love Jones-Parry |
Jones. Uchel-sirydd Meirionydd (A.S. wedi hyny) ddygodd hyn oddeutu, drwy ei hen gysylltiadau gwleidyddol gydag M. D. Jones yn y brwydrau rhyddvrydol, a thrwy ei gysylltiadau cyvreithiol gydag ystadau Madog a Madryn.
Dewiswyd L. J. a Capt. Jones-Parry i vyned yn brwyadon at y Llywodraeth i geisio cael dealltwriaeth bendant. Yr oedd Capt. Jones-Parry yn hen deithiwr a "dyn y byd": ond brwdvrydedd Gwladvaol L. J. oedd ei gymhwysder penav, mae'n debyg. Aeth L. J. vis o vlaen Capt. Jones-Parry, vel ag i dravod gyda Dr. Rawson y bras gynllun o gytundeb gynygiasid, am yr hwn y dywedasai'r gweinidog "nad oedd ynddo ddim nas gallai'r Llywodraeth ei ganiatau.'
Cyn i Capt. Jones-Parry gyraedd Buenos Ayres, yr oedd L. J. gyda chyvlwyniad Mr. Denby (T. Duguid & Co.), wedi ymdravod llawer gyda'r Gweinidog Cartrevol (Dr. Rawson), ac o'r diwedd wedi medru cael furv o gytundeb i'w roddi ger bron y Senedd. Traferthwyd llawer i gael y cytundeb hwnw, ond wedi cytuno arno buwyd agos vlwyddyn cyn gwybod beth ddaethai ohono; ond deallwyd o'r diwedd mai gwrthod ei gymeradwyo wnaeth y Senedd, a hyny am resymau chwith a rhyvedd iawn. Nid yw, gan hyny, o nemawr ddiben ei roi ar gov a chadw yma [gwel Adroddiad y prwyadon]. Ond bu'r ohebiaeth rhwng L. J. a'r Gweinidog Rawson wrth dravod y cytundeb cynygiedig yn gyvle i ddwy ochr y ddalen gael eu traethu yn eglur. Dadl L. J. oedd na vyddai Gwladva Gymreig mewn gweriniaeth o daleithau, a hyny y tu allan i bob talaeth furviedig, yn un anhawsder nac anghysondeb gwleidyddol—cymdeithasol. Dadl Dr. Rawson ydoedd y byddai gwladvaoedd o genedloedd gwahanol yn yr un weriniaeth yn elvenau o anghydfod, ac yn llesteirio ymdoddiad i'r un Genedl Arianin. Yr un ddadl, ve welir, a Chenedlaetholdeb v. Ymherodraeth—Federal a Confederate.
Wedi cytuno velly ar gytundeb i'w gyvlwyno i'r Congress pan gwrddai hono, aeth y prwyadon wedy'n ymlaen ar y rhan arall o'u prwyadaeth, sev i gael cip ar y wlad arvaethid yn van Gwladva Gymreig. Yr oedd Patagonia y pryd hwnw yn wir yn "ben pella'r byd," ac yn terra in cogenta, vel mai trwy anhawsderau lawer, a chryn draul i Capt. Jones-Parry, y medrwyd mynd mewn llong vach i New Bay a'r Chupat. Patagones ar y Rio Negro oedd y lle cyrhaeddadwy pellav y dyddiau hyny, a chryn ryvyg oedd mynd y 200 milldir pellach mewn cragen o long vach gyda morwr o Ianci dibris, a chriw o garcharorion penyd gedwid yn y pentrev hwn. Gwnaed y vordaith, bid vyno, yn gydwybodol a llwyddianus, a chan vod y cefylau ddygasid yn y llong yn gwbl ddivudd, nid oedd ond cerdded am dani i bob man, yngwres mawr canol hav, a thrwy ddyrysni hesg a drain. Ar ol dychwelyd adrev ymhen pum' mis, gwnaeth y ddau adroddiad llawn i'r Pwyllgor, o'r hyn y gwasanaetha'r talvyriad canlynol yn engraift o'r gweddill.
Pan gyrhaeddais i Buenos Ayres ar y 14eg o Ionawr, yr oedd y trevniadau wedi eu hyrwyddo mor bell gan Mr. Lewis Jones, vel y penderfenasom delerau y cytundeb mewn ymgynghorva gyda'r Gweinidog Cartrevol—Dr. W. Rawson. Ar y 18ved o Ionawr, aethom mewn agerlong berthynol i'r Llywodraeth tua'r dehau i drev Carmen neu Patagones, a chenym lythyrau at gadvridog y gwarchodlu yno, ac at Mr. Harris, masnachydd Seisnig sydd yn trigianu yno.
Ein bwriad ydoedd marchogaeth o Patagones i avon Chupat, pellder o yn agos i 300 o villdiroedd; a dywedasai Dr. Rawson wrthym vod ein llythyrau at Col. Murga, y cadvridog, yn ei gyvarwyddo ev i'n cynysgaeddu ni â chefylau, gosgordd, arweinwyr, a lluniaeth, ac ymhob modd i'n hyrwyddo yn ein hamcan. Eithr erbyn ymholi, deallasom vod yn gwbl anichon gwneud y daith ar draws y tir yr amser hono o'r vlwyddyn (canol eu hav hwy), gan na vyddai dwvr i ni a'r aniveiliaid, ar ol yr hir sychder. Cawsom lawer o wybodaeth werthvawr gan Mr. Harris, yr hwn oedd gyda Capt. Fitzroy yn ei archwiliad o'r glanau hyny. Llogais ganddo ysgwner vechan o 25 tunell, ac yn hono hwyliasom ymhellach i'r dehau ar y 3lain o Ionawr.
Y mae angorva dda ymhob man ar y caingcvor godidog hwn (New Bay), a chysgod rhag pob gwynt. Y mae ei gongl dde—orllewinol oddeutu 30 milldir o avon Chupat.
Hwyliasom o'r caingevor, ac angorasom yn aber y Chupat y 9ved. Aethom i vyny yr avon ryw 25 milldir, a chawsom y gweryd yn waddodol gyvoethog, o ddyvnder anghyfredin, ac o liw tywyll. Gwastadedd mawr yw y wlad o bob tu yr avon, wedi ei gylchynu gan resi o ucheldir—ar y gorllewin yn rhedeg o ogledd i dde, ac ar y de yn cydio yr arvordir wrth gyvwng yn union i'r gorllewin, drwy'r hwn, mae'n debyg, y rhed yr avon. Yn y man pellav a gyrhaeddasom ni, h.y., oddeutu 25 milldir o'r môr, y mae caingc o'r ucheldir deheuol, oddeutu 30 troedvedd o uchder, yn rhedeg at lan yr avon. O'r van hon gwelem yr avon yn ymdroelli ymlaen yn dra chwmpasog, gan wneud parthau o dir gwyrddlas, ellid gydag ychydig lavur wneud yn ynysoedd. Y mae yno hevyd godiadau tir bychain tonog, y rhai a orchuddid gan heidiau o ddevaid gwylltion ac estrysod.
Y mae'r avon yn vordwyol i longau ysgeivn, tebyg i agerlongau gwastad—waelod avonydd yr America, yn tynu, dyweder, ddwy droedvedd o ddwvr. Y mae 12 troedvedd o ddwvr ar y bár ar lanw, a 7 troedvedd yn yr avon with ei haber ar drai. Amrywia ei lled o 60 llath i 150. Os pendervynir ar avon Chupat vel man y sevydliad, rhaid i'r porthladd vod yn New Bay, 30 milldir i'r gogledd, a chymhellwn i ar vod i reilfordd gael ei gosod rhwng y caingevor a'r avon, gan na all llongau yn tynu mwy na 12 troedvedd o ddwvr vyned i mewn i'r avon. Cymhellid ni yn gryv gan bobl Carmen i esgyn yr avon Negro, can belled a lle a alwent Manzanas, yr hwn le a ddarlunid vel man tra dymunol, yn cynyrchu amryw vathau o frwythau a choed mewn cyvlawnder; ac ychydig yn uwch dywedid vod glo, llechau, ac aur. Ond deallwn vod y llanerch yn gynullvan i'r Indiaid.—T. LOVE JONES-PARRY.
New Bay.—Glaniasom mewn dwy borth o'r cainevor godidog hwn, a'r ddwy ar ei lan ddeheuol—y naill y gyntav wedi yr eler i mewn a'r llall y bellav, a chryn 30 milldir o'r bala. Mae y borth gyntav rhwng dau benrhyn lled uchel, a thraeth haner cylch tlws odiaeth o dywod coch yn lanva iddo. Am beth fordd mae y tir o'r tu cevn i'r traeth hwn yn wastadedd bychan, ac yna ymgoda yn vryncynau bychain gwyrddlas, y rhai yn vuan a dervynant yn un ucheldir eang yn uchder eu copau. Mae y borva rhwng y bryncynau hyn yn dra gweiriog, ac ôl Îlivogydd y tymhor gwlawog yn ymdroelli rhyngddynt. Yr oedd y bryncynau hyn yn ymguddva efeithiol i'r gwancod a'r estrysod, a'r gwastadedd yn borva iddynt, er nad yw y borva hono yn agos mor doreithiog a'r borva rhwng y bryncynau. Naill ai oblegid unfurviaeth arwyneb yr ucheldir hwn, neu'r tymhor o'r vlwyddyn yr oeddym ni yno, ymddangosai yn wyllt ac anial-y borva yn hir vrigwyn, a thwmpathau avlerw o lysieuaeth chwynaidd; ond yr oedd y "blewyn" yn iraidd a maethlon, fel yr arddangosid yn nghyvlwr yr aniveiliaid, ac fel y gellid disgwyl oddiwrth y gweryd—pridd Ilwydgoch, yn tynu at vod yn dywodog, ond yn rhy drwm i vod yn llychlyd, er vod y dydd yn sych a'r gwynt yn uchel. Gallwn veddwl y tyvai gnydau ysgeivn yn rhagorol; yn wir, o ran dwysder, tyvai wenith neu unrhyw rawn arall. Nid oes vrigyn o goeden yn y golwg yn unman, ac ni welsom frwd o ddwvr yn yr holl le; ond deallasom oddiwrth gadben llong a vu yno vod fynon redegog wrth odreu un o'r bryncynau.
Avon Chupat.—Cawsom beth traferth i ddod o hyd i'r avon hon, oherwydd vod ei harllwysva i'r môr yn rhedeg bron yn gyvochrog â'r arvordir, vel nad oes agorva yn y tir i'w weled o'r môr vel yr ymddangosa avonydd yn gyfredin. Mae y llain tir sydd vel hyn yn cyveirio yr avon i'r de—ddwyrain yn ei chysgodi, vel morglawdd, rhag y môr, vel pan yr eir i mewn ei bod yn hollol dawel yn yr avon pan vyddo yn dymhestl yn y môr. Tua milldir i'r dehau o aber yr avon y mae sarn o greigiau isel yn rhedeg i'r gogledd-ddwyrain, ac un channel—y vasav —i'r avon yn rhedeg heibio ei chwr pellav. Mae y channel arall yn rhedeg i'r gogledd-ddwyrain, a chryn ddwy villdir rhyngddi a chwr agosav y sarn, yr hyn sydd yn gwneud cymaint a hyny o varian isel, vel delta yr avon. Ar y traeth hwn ar lanw y mae tua 10 troedvedd o ddwvr, a rhanau ohono yn sych ar drai; ac yn yr avon, pan vo'r llanw allan, y mae 7 neu 8 troedvedd o ddwvr. Lled aber yr avon, ar drai, yw tua 60 llath, yr hyn sydd yn peri vod y lli' yn rhedeg yn chwyrn pan vo'r llanw yn myned allan; ond gan yr ymleda i 200 llath cyn pen chwarter milldir, a'i bod yn dra throellog, ni theimlir nemawr oddiwrth y lli' ond yn union yn yr aber. Mor belled ag y gwelsom ni, mae'r avon yn dra throellog—mor droellog vel nas gellid cael gwell enw Cymraeg arni na'r "Camwy"—yr hyn a ddengys nad ydyw yn rhedeg yn gyvlym; yn wir, oddieithr mewn man neu ddau, prin y cerdda villdir a haner yr awr; a chan fod ynddi, yn y man basav, wrhyd o ddwvr, ac heb arni, rydau na disgyniadau, gwelir ei bod yn forddiol i longau cyvaddas i'r vath wasanaeth am bellder mawr. Mae dwvr yr avon hon, vel dwvr y Plata a'r Negro, yn llwyd o liw, eithr nid llwyd mor dywyll a'r eiddynt hwy, ac os yr un, yn bereiddiach ei flas. Oblegid y lliw hwn, debygid, ni ellir dal pysgod ynddi ond âg abwyd. Gellir dywedyd vod yr avon yn rhedeg drwy ganol dyfryn gwastad, yr hwn sydd yn amrywio mewn fled o 4 i 10 milldir, ond o ran hyd nis gallwn ni ddywedyd ond ei vod yn ymestyn ymhellach nag yr aethom ni—ryw 20 neu 25 milldir. Cylchynir y dyfryn hwn ar dde a gogledd gan ucheldir, neu gyvres o ucheldiroedd —y naill yn ymgodi goruwch y llall, ac wrth aber yr avon, ar y tu gogleddol, y mae niver o vryncynau yn ei gysgodi oddiwrth y môr. Gan vod yr avon yn rhedeg drwy y gwastadedd isel hwn nid yw ei cheulanau yn uchel—tua dwy lath oddiar y wyneb, ond y maent yn syth a chadarn, oddieithr mewn rhai onglau, lle mae yr avon wedi cloddio math o fosydd i'r gwastadedd, yn llawn o vrwyn anverth. Ymddengys vel pe byddai yr avon yn gorlivo ei glan am tua haner milldir i'r tir mewn rhai manau, oblegid ceir llanerchau o'r lled hwnw vel gweirgloddiau toreithiog; ac yn lle y twmpathau drain sydd yn aml ymhellach i'r tir, ceir twmpathau anverth o'r tussac grass gymaint a thâs wair vechan; ond credwyv vod y glaswellt hwn yn rhy gryv a garw i vod yn vwytadwy i aniveiliaid; eithr y mae'r gwair yn iraidd a thoreithiog, ac yn cynal diadelloedd o'r devaid gwylltion ac estrysod. Mae y gweryd yn amrywio cryn lawer, ond yr ymddangosiad yn vwy unfurv a thyviantus. Tervyna y dyfryn hwn, vel y nodwyd, yn yr ucheldir sydd yn cyfwrdd a'r avon 20 milldir i vyny; ac i'r gorllewin i hyny ymestyna dyfryn arall, yn ymagor mwy i'r dehau, ac yn ymddangos yn llyvnach a mwy coediog,
Y tu gogleddol i'r avon sydd amgenach, ar y cyvan, na'r iseldir deheuol. Wrth y môr y mae mân vryncynau tywodog yn cyvodi, ac arnynt lysieuaeth led deneu, ond porva dda yn y pantleoedd rhyngddynt, lle y gwelsom amryw o'r devaid gwylltion ac estrysod yn ei mwynhau; yn y pantiau hyn hevyd y mae twmpathau drain yn lled aml, ond nid mor dew ag ar y tu deheuol. Cyrhaedda y bryncynau hyn am gryn villdir gyda gwely yr avon, ac yna mae y dyfryn yn briodol yn dechreu, yr hwn yr aethom ni 20 milldir ar ei hyd, ac y gwelsom 10 milldir eraill ohono. Am yr wyth milldir cyntav, nid yw y dyfryu hwn yn gwbl wastad, vel dyfryn deheuol y Negro, eithr yn raddol—donog. Ar y pellav o'r codiadau tir hyn y mae adveilion hen amddifynva o bridd, a adeiladwyd gan vintai o helwyr vu yn y gymydogaeth hon tua deuddeng mlynedd yn ol. O'r bryncyn neu'r codiad sydd tu cevn i'r amddifynva mae y dyfryndir isel yn dechreu, ac yn ymestyn tua'r gorllewin mor belled ag y gwel llygad. Mae y gwair ar y dyfryn hwn mewn manau mor uchel a'r ysgwydd, a hwnw yn wair iraidd a maethlon, a llysiau gleision yn dryvrith rhyngddo. Y cwbl ellir ddywedyd am dano ydyw vod ei weryd yn gochddu, ac o bump i chwe' throedvedd o ddyvnder; ei borva yn lân a gweiriog, a'i ymddangosiad yn dra dymunol ac addawol.—L. JONES.
Wedi deall ddarvod i'r Senedd wrthod y cytundeb buwyd gryn amser cyn ymuniawnu. Dyna'r pryd y ceir y covnodiad canlynol yn llyvr yr ysgrivenydd cyfredinol: Tach. 10, 1863:— Cynygiodd M. D. Jones, ac eiliodd D. Lloyd Jones: Nad ydym yn rhoddi i vyny y syniad o Wladva Gymreig; (2) Yn gymaint ag vod Cymdeithas y Wladva Gymreig wedi myned i draul vawr i gario y mudiad ymlaen hyd yma, a hyny wedi myned yn over oblegid gwaith y Senedd yn gwrthod y cytundeb wnaethid, vod cais i'w wneud at y Weinyddiaeth i ovyn pa beth all hi wneud i gynorthwyo'r Cymry ped ymsevydlent vel ymvudwyr cyfredin ar yr afon Chupat.
Yr oedd y travnoddwr Phibbs mor hyderus drwy'r cwbl y ceid y peth i ben vel y mentrodd y Pwyllgor ovyn iddo a elai eve allan i Buenos Ayres i ail—gychwyn y dravodaeth, a chydsyniodd yntau ar yr amod i'r Pwyllgor ddwyn rhan o'i draulyr hyn eilwaith syrthiodd ar gefn M. D. Jones. Aeth y travnoddwr Phibbs, ac wedi cyraedd ysgrivenodd:—
Gallwch vod yn sicr vy mod wedi pryderu a brysio llawer er pan laniais yma ynghylch yr achos sydd mor agos at ein calonau. Yr ydym yn berfaith argyhoeddedig o'r lles ddeilliai i'r wlad hon ac i ninau pe gellid dwyn y mater hir—oedus hwn i dervyniad. Wedi ysgrivenu a siarad llawer â'r Weinyddiaeth, gallav eich hysbysu vod Dr. Rawson yn ceisio ei oreu ddylanwadu ar aelodau y Senedd o du y Wladva Gymreig, vel y byddo'r mater yn gwbl eglur pan ddaw y peth ger bron y mis nesav. Ni wiw brysio y wlad hon. Pan ddygir y cais ymlaen i'r Senedd eto, byddav yno i roddi pob eglurhad. Newidiais rai penranau, vel y gellir ei basio yn rhwyddach drwy'r Tŷ. Gwell peidio gwneud cyveiriad at y peth yn y newydduron. Bum yn dra dyval a bywiog gyda'r neges er pan wyv yma, ond wedi rhoddi cenad i'r Llywodraeth grybwyll y peth wrth y sawl a varnant hwy yn ddoeth. Mae Dr. Rawson wedi vy sicrhau heddyw y bydd iddo vy nghynorthwyo hyd yr eithav. Deuav yn ol gyda'r llong sydd yn gadael yma yn Awst.
O hyny hyd y Tachwedd dilynol bu hir ddistawrwydd a phryderus ddisgwyl. O'r diwedd cavwyd y nodyn canlynol, a hwnw'n ddiau ddylid ystyried, o hyny allan, vel sail pob travodaeth a gweithrediadau dilynol.
At y Travnoddwr Phibbs.—Mae Senedd y tymor wedi cau heb vod yn ddichon cyvlwyno iddi y cytundeb am Wladva Gymreig Patagonia. Barnai y Llywodraeth mai anoeth ar hyn o bryd vyddai eto beryglu llwyddiant y mudiad hwn oblegid y mae'n awyddus hyd eithav ei gallu i sicrhau llwyddiant y tro hwn. Oddiar y dybenion hyny y peidiwyd a dwyn y peth i sylw yn awr. Ond mae yr Arlywydd yn vy awdurdodi i gyvlwyno i chwi y cynygion canlynol yn y cyvamser, modd y galloch eu rhoi ger bron hyrwyddwyr y mudiad. Awdurdodir y Llywodraeth gan gyvraith 11 Hydref, 1862, i roddi rhoddion o dir cyhoeddus, yn ol 25 cuadras (tua 100 erw) i bob teulu sevydlont arno, yn veddiant, yn unrhyw ran o'r diriogaeth. Rhoddai y Llywodraeth dir velly yn y cyvartaledd hwn (gan ystyried tri vel teulu) i bob teulu hofent sevydlu ar lanau y Chupat—yn y rhagolwg y byddai i'r Senedd y vlwyddyn nesav ganiatau yn helaethach i'r ymvudiaeth Gymreig. Os bernwch y gwasanaetha hyn vel sail cytundeb parotoawl, gellwch awdurdodi rhywun yn byw yn Buenos Ayres i gyd—ddeall â'r Llywodraeth.
Ac ychwanegai'r travnoddwr wrth ddanvon y llythyr:—" "Y mae Dr. Rawson yn wr mor ddeallus ac mor bwyllus, vel yr wyv vi yn llwyr ymddiried mai ei varn graf ev, a'i oval am i'r peth lwyddo yn y man, barodd iddo oedi rhoi y mater ger bron vel yr addawsid. Velly, er cymaint ein govid oblegid yr hir oediad hwn, buasai ail—wrthodiad yn ergyd varwol i'r mudiad, ond yr hyn, gydag amynedd a medr, a chevnogaeth y Llywodraeth sydd sicr o lwyddo cyn bo hir."
Cyvwng divrivol ar y mudiad Gwladvaol oedd hwnw. Yr oedd rhai gochelgar yn tueddu i arhoi nes cael rhywbeth mwy pendant; eraill, yr oerasai eu brwdvrydedd cyntav, wedi divlasu disgwyl rhywbeth ymarverol o'r holl gyfrawd, yn troi cevn bawb i'w helynt ei hun. Teimlai y Pwyllgor vod cryn arian eisoes wedi myn'd gyda'r mudiad, ac nad oedd cyvoethogion y genedl —ond Mrs. M. D. Jones ei hunan—wedi cynorthwyo dim ar yr achos oedd mor bwysig yn eu golwg hwy y pwyllgor, eithr bellach vod rhyw vath o rwymedigaeth genedlaethol arnynt i roi cychwyn teg i'r mudiad oedd wedi ei ymddiried iddynt er's 6 neu 7 mlynedd. Drwy gyvrwng y Ddraig Goch bwriasid llawer cynllun ger bron i gychwyn y vintai gyntav. Y pryd hwnw nid oedd agerlongau ond anaml——nid elai i Buenos Ayres onid un bob mis—a chan hyny barnwyd mai y dull doethav oedd ceisio cynull ynghyd vintai o 150 i 200 o ymvudwyr dalent eu cludiad eu hunain i vyned mewn llong hwyliau, vel y rhai oedd yn rhedeg y pryd hwnw i Awstralia, a dibynu ar addewid Dr. Rawson y gwneid parotoad i dderbyn yr ymvudwyr yn eu gwlad newydd. Hysbysiadwyd am long, a bu M. D. Jones a L. J. yn ddyval tua Liverpool yn trevnu i chartro llong ar y sylvon hono, a dodwyd allan ar bost ac ar bared y galwad ganlynol am ymvudwyr :—" Bydd y llong A 1' Halton Castle,' Capt. Williams, yn hwylio o Liverpool Ebrill 25, 1865, gyda'r Vintai Gyntav o ymvudwyr i'r Wladva Gymreig. Cludiad £12 am rai mewn oed, £6 am blant dan 12 oed, babanod dan vlwydd am ddim. Ernes o £1 y pen i'w danvon i'r trysorydd, O. Edwards, 22, Williamson—square, Liverpool, a'r gweddill i'w talu pan ddelo'r ymvudwyr i Liverpool i gychwyn.—D.S.: Y mae 100 erw o dir yn rhodd i bob teulu o 3 ymvudwr, ac hevyd i'r vintai gyntav hon roddion y Llywodraeth o gefylau, ychain, devaid, gwenith, celvi, &c. Mae y pwyllgor hevyd yn danvon prwyadon ymlaen llaw i godi tai a pharotoi erbyn y glanio'r ymvudwyr. Mae eithav sicrwydd am y tir a geir; ond nid oes sicrwydd am vaint y rhoddion, ond bernir y byddant o leiaf yn 5 cefyl, 10 o wartheg, 20 o ddevaid, 2 neu 3 pecaid o wenith, aradr briodol i'r wlad, a choed frwythau, i bob teulu. Rheolir y Wladva gan gyngor o 12 aelod, pedwar o'r rhai ydynt yn awr aelodau o'r pwyllgor gweithiol, ac yn ymvudo yn y vintai gyntav, a'r 8 eraill i'w hethol gan yr ymvudwyr: pobpeth cyfredinol arall, megis coed, guano, &c., i vod yn eiddo'r Cyngor nes y rhyddheir yr echwynion a'r ymrwymiadau ; a rhaid i bob ymvudwr arwyddo ymrwymiad i gydfurvio â threvniadau y Cyngor yn y Wladva."
X.
Y VINTAI GYNTAV A'R PAROTOADAU.
Wedi rhoddi allan y cyhoeddiad a'r gwahoddiad uchod trodd y pwyllgor eu sylw at awgrym arall Dr. Rawson, sev eu bod yn awdurdodi rhywun yn Buenos Ayres i gyd—gytuno gyda'r Llywodraeth, a pharotoi i dderbyn yr ymvudwyr. Yr oeddys wedi bod mewn cyvathrach â masnachdy Duguid & Co., ac aelod o'r tŷ hwnw (J. H. Denby) vuasai y cyvrwng rhwng y prwyadon (L. J. a Capt. Jones—Parry) a'r Llywodraeth, ac yr oeddid wedi cael awgrym y disgwylient hwy ranbarth o dir am eu gwasanaeth pan gefid meddiant. Ŏnd pryderai y pwyllgor rhag y digwyddai rhyw ddyryswch yn y parotoadau ar gyver yr ymvudwyr a chan y cawsent broviad o hir oediad pethau yn Buenos Ayres, a deall wrth adroddiad y prwyadon vuasent yn y Chupat o ansicrwydd ac anhwylusdod mordeithiau i lenydd mor anhygyrch a Patagones a'r Chupat—velly, wedi hir ystyried a bwrw penau ynghyd barnwyd mai diogelach vyddai cael gan L. J. vyned drachevn i'r cyfiniau y buasai eve a Capt. JonesParry yn ymgydnabyddu gyda'r bobl a'r wlad a'r dravnidiaeth, a chymeryd Edwyn Roberts gydag ev, vel un proviadol o wlad newydd. Hwyliasant ar y neges hono ddiwedd Mawrth, 1865, a chyraeddasant Buenos Ayres Mawrth 27ain.
Pan aeth L. J. & J. H. Denby i weled y Gweinidog deallwyd na allai y Llywodraeth estyn dim cymorth yn swyddogol, na rhoddion ar gyver yr ymvudwyr—dim ond cwpl o lythyrau swyddol at Vilwriad Patagones a'r masnachwyr Aguirre a Murga yno. Nis gallai sicrhau dim, ond y rhoddai'r peth o vlaen y Weinyddiaeth heb ymdroi cyn y delai'r ymvudwyr. Ond trevnwyd gyda J. H. Denby iddo ev chartro y sgwner "Juno," a meichiavu gyda Moore a Tudor am luniaeth vernid yn angenrheidiol i gyvarvod yr ymvudwyr. Gwnaeth hyny yn anrhydeddus iawn, ac vel yr ysgrivenai 21 Medi, 1875,—10 mlynedd wed'yn,—wrth gyvlwyno ei gyvriv o £750 am hyny—" gwyddoch oni vuasai i mi fyn'd i'r costau uchod y buasai'r ymvudwyr wedi newynu, ac y tervynasai am y Wladva Gymreig.
Gyda dim ond addewid voel y Gweinidog yr helpai'r Llywodraeth yr ymvudwyr pan ddelent, wynebai L. J. yr anturiaeth envawr o barotoi a threvnu pethau at dderbyn yr ymvudwyr oeddynt i hwylio o Liverpool ddeuvis ar ei ol. Ni wyddai ond y nesav peth i ddim o iaith nac arverion y wlad, ac nid oedd ganddo vawr ddirnadaeth am helbulon llongwra. Nid oedd ganddo swydd na phenodiad; nid oedd ganddo arian na chredyd; nid oedd ond 28 oed, heb broviad ond y proviad bach Cymreig traferthus a chyvyng. Cychwynai (eve â'i briod ac Edwyn Roberts) ryw ddeuvis cyn yr amser i'r vintai gychwyn: ni wyddai am visoedd ddim o helyntion traferthus y cychwyn hwnw. Cawsai groesaw a charedigrwydd mawr yn Patagones pan oedd yno gyda Capt. Jones—Parry, gan y brodyr Harris oeddynt yn gweithio'r halen yn y cyfiniau hyny: hwy, a rhyw dri eraill, oedd yr unig rai yn y drev a vedrent Saesneg. Yr oedd J. H. Denby wedi hyrwyddo pethau yn rhyvedd hyd i Patagones: yno yr oedd yr anhawsderau yn dechreu; ond trwy y brodyr Harris a'u hewythr Yg. Leon cavwyd pob_hwylusdod ac anhebgorion. Ond y mae eu hetiveddion hwy o J. H. Denby vyth heb eu talu. Gwnaethpwyd dwy vordaith yn y "Juno" gydag aniveiliaid a chelvi a rheidiau o Patagones i Borth Madryn. Gan gychwyn o Buenos Ayres 10ved o Vai, cyraeddwyd Patagones y 24ain—diwrnod cyn y dy'gwyl vawr genedlaethol. Ar gredyd masnachwyr Patagones a llythyr Dr. Rawson, llwythwyd y llong o bob peth vernid yn rheitiol, gyda devaid ar y dec. Mehevn lav bu damwain ddivrivol i Mrs. L. Jones, drwy i gefyl bywiog a varchogai hi redeg ymaith a'i thavlu gan ei niweidio yn ddivrivol: eithr ar y 10ved barnai Dr. Humble ei bod allan o berygl, ac y gallai'r llong gydag L. J. ac Edwyn Roberts hwylio am Borth Madryn. Cyraeddwyd yr havan ar y 14eg, ac oddiwrth y dyvynion canlynol o'r dydd—lyvr ceir rhyw syniad anelwig am y traferthion:—Dod i angor haner dydd, a glanio'r cefylau a'r dynion a'r devaid: difyg dwr yma: gwneud corlanau, a threvnu i'r dynion aros ar y lan.—15: Cael trol i'r lan, ond dim dwr eto.—16: Cael y da corniog i'r lan a choed: y pryder mawr yw methu cael dwr, er vod y dynion allan bob dydd yn chwilio.—17: Cael y drol i gario ceryg tosca: diwrnod gwlawog, a hyny'n codi calon dyn.—18: Y devaid ar goll, ond a gaed erbyn y nos.—19: Wedi codi peth cysgod i'r dynion evo'r byrddau coed.—20: Y bobl yn gomedd gweithio os na chaent ragor o vwyd, er eu bod yn diva dwy ddavad bob dydd; methu cael yr ychain i weithio; y cefylau ar goll hyd haner dydd, yna gwlaw dwys vel na ellid gweithio—21: Cael dwr o drugaredd, er nad yw hollol beraidd rhew ac oerni trwm: dechreu gwneud y tai o vyrddau wrth weled mor arav y mae'r tai tosca yn codi.—25: Y mur tosca godasid drwy gymaint traferth yn cael ei chwythu i lawr.—29: Cael planciau devnyddiol o'r hen rèc; dau gefyl ar goll; dim hanes o'r ymvudwyr. —Gorfenaf 2: Helynt vawr i gael y sachau ŷd i'r lan; yn y dwr at ein haner.——5: Gorfen glanio hyny wnawn yn awr o'r llong, a chymeryd y 4 diocav gyda ni i Patagones. —10: Yn Patagones, ond dim llythyrau am yr ymvudwyr.—18: Cael llythyrau yn dweyd vod mintai yn barod i gychwyn mewn llong arall.—24 : Cyraedd yn ol i Borth Madryn gyda'r devaid a gwartheg a chefylau, a chael Edwyn Roberts yn ddiogel ac iach yno. Gwnaethpwyd dwy vordaith yn y "Juno" ynghydag aniveiliaid a chelvi o Patagones i Borth Madryn cyn i'r vintai gyntav gychwyn. Llogasid long arall ("Mary Helen "') i gludo coed a rheidiau eraill, symud yr ymvudwyr i'r Chupat, ac yna vyn'd i'r arvordir i gasglu guano i'w allvorio ymha orchwyl yr oedd y cadben yn hen gyvarwydd. Rhwng y ddwy long hyny cludwyd i Borth Madryn, erbyn y delai'r ymvudwyr, 40 i 50, o wartheg, cyniver a hyny o gefylau, 1,000 o ddevaid ac aneiriv gelvi. Cychwynasid hevyd dros y tir 600 o ddaoedd corniog a chesyg, y rhai ysywaeth, a darvwyd gan Indiaid yspeilgar y cyvnod hwnw. A hyn oll cyn gwybod a ddelai yr un ymvudwr yno vyth, ac yn rhinwedd yr hyder roddid yn y mudiad a'r goruchwyliwr oddiar gyvlwyniad y gweinidog Dr. Rawson i'r awdurdodau.
HELYNT Y CYCHWYN.
Vel y dynesai'r dyddiad yr hysbysiadid yr "Halton Castle' i hwylio, anesmwythai y rhai roisent eu henwau i vynd yn y Vintai Gyntav; ac i wneud yr anesmwyther yn vwy, tywalltai gwrthwynebwyr y Wladva eu fiolau i'r newydduron, yn y rhai nid oedd ball o ddonioldeb a chastiau diriaid. Daeth y 25ain o Ebrill, ond dim hanes yr "Halton Castle." Yn y dilema ddyrys hono, yn hytrach na chyvreithio i orvodi perchenogion y llong i gyvlawni eu charter, cytunodd M. D. Jones am long arall, y Mimosa," i vyned a'r vintai i'w taith. Eithr y tro hwn nid oedd y charter ond am gorf y llong yn voel—eve (M. D. J.) oedd i fitio y llong yn addas i'r ymvudwyr ac i gyvlenwi pob rheidiau iddynt; a chan mai pobl gwbl ddibroviad o vasnach y môr oedd y pwyllgor a'r llogwr, diau y bu dilunwch a chamgymeriadau anaele. Tua dechreu Mai, daeth y rhan luosocav o'r ymvudwyr i Liverpool; ond nid oedd y llong agos yn barod, a chan vod y bobl wedi gwario eu harian i
Map yn egluro Cydiadau Porth Madryn (New Bay) gyda'r Avon Chupat a'r Dyfryn.
brynu pethau rheitiol i'r vordaith a'r sevydlu, nid oedd ganddynt ddim ar gyver eu cynal yn Liverpool hyd i'r llong vod yn barod. Cyvarthasai y gwrthwynebwyr mor ddyval a hyv vel y tarvwyd agos yr oll o'r rhai cevnog vwriadent vod yn y vintai gyntav, ac velly nid oedd dim i'w wneud ond mynd i'r prifyrdd a'r caeau, a gwahodd y sawl a ddelai-" heb arian ac heb werth." Nid yn unig yr oedd bywoliaeth cyniver o bobl yn Liverpool yn draul vawr, ond yr oedd eu cadw yn ddiddig a boddlawn hevyd yn vargen vwy na hyny. Y mae dychmygu am yr hybarch M. D. Jones ynghanol y berw a'r traferthion a'r pryderon hyny yn olygva cov anileadwy. Yr oedd Mrs. Jones a bagad o'i evrydwyr fyddlon gydag ev yn yr anoddyvn honoD. Ll. Jones, D. Rhys, A. Matthews, L. P. Humphreys. Boreu Mai 25ain yr oeddys yn barod i wneud rhyw fath o gychwyn: canoedd o bobl ar y lan i'w gweled yn cychwyn, baner y Ddraig Goch ysblenydd ar uchav yr hwylbren, y vintai yn canu "Duw gadwo'r Vrenhines ar eiriau Cymraeg, a llawer o bobtu yn gollwng dagrau yn bur ddiseremoni. Cavwyd mordaith dda o ddau vis, a glaniwyd yn Mhorth Madryn ar yr 28ain Gorfenaf 1865-ac o hyny y mae "Gwyl y Glaniad."
YR YMBLAID.
Yna y dechreuodd govidiau lawer. Am helbulon y glanio yn Mhorth Madryn, a'r crwydro oddiyno dros y paith i ddyfryn Chupat; a'r ceisiadau i dd'od a'r bywydvad llwythog gyda'r arvordir i'r avon; a mordaith y merched a'r plant yn y sgwner "Mary Helen' o Borth Madryn i'r avon, ond yn cael eu chwythu i'r de am agos i bythefnos nes bod prinder dwr mawr ar y llong, a phrinder bwyd ar y Chupat; a'r gwlaw ar ol hyny nes oedd yr "hen amddiffynva," lle y lluestid, yn drybola penglin; vel yr aeth yr holl ddevaid i golli; ac y buwyd hir o amser cyn gallu llusgo dros y paith i'r Chupat yr holl glud a chelvi adawsid yn Mhorth Madryn -ped adroddid yr holl helyntion hyny, nid oes mo'r 30 yn eu covio, ni vyddent ond streuon henavol i'r rhai ddaeth ar ol, ac ni vyddent chwaith ddealladwy i ddyeithriaid heb amgylchu môr a mynydd i egluro holl neillduolion y wlad. Erbyn y Tachwedd dilynol-prin bedwar mis-yr oedd yr helbulon a'r traferthion a'r ymravaelion wedi eu cordeddu yn rhefyn o ymbleidiau vu yn frewyll vlin ar y Wladva hir o amser, ac nad yw y cleisiau oddiwrthynt wedi llwyr wella hyd y dydd hwn.
Danvonasai y Llywodraeth y Milwriad Murga o Patagones i roddi meddiant furviol o'r wlad i'r sevydlwyr, a chydag ev vesurydd tir o'r enw Diaz i varcio'r fermi. Gyda'r olaf hwn yr oedd gwasanaethwr o Sais vel cyfieithydd-dyn a vuasai mewn sevyllva dda, ond aethai yn aberth llwyr i'r ddiod, ac oedd ar y pryd yn vilwr cyfredin yn Patagones. Yr oedd Diaz yn engraift o Archentiad llyvn a moesgar, a thrwy ei benodiad yn vesurydd tir y sevydliad wedi dod i gysylltiad â'r Llywodraeth, a chan hyny yn gyvarwydd â holl droellau a chelvyddyd swyddoga. Doder at hyn drachevn yr hen ysva wasaidd Gymreig o ystyried pob dyn dyeithr yn arglwydd, a chadwer mewn cov y briwiau a'r pryderon oedd ar bawb, a cheir rhyw syniad o'r an voddogrwydd oedd yn cyniwair y vintai, ac o'r ymbleidio dyvodd o'r vath amgylchiadau. Digiodd L. J. wrth y dilunwch a'r ymbleidio, a thavlodd y cwbl i fynu. Aeth ev a'i deulu am Batagones a Buenos Ayres, ac yn yr un long elai hevyd y mesurydd tir Diaz, meddyg y "Mimosa," y llywydd W. Davies, a rhyw haner dwsin eraill. Ddiwrnod neu ddau cyn hyny cyrhaeddasai llongaid o aniveiliaid a bwyd oddiwrth y Llywodraeth yn ol y trevniadau wnaethai L. J. gydag E. Harris. Ond yr oedd Diaz wedi cael gan y bobl ehud ei benodi ev yn brwyad drostynt at y Llywodraeth, er y penodasid W. Davies yn llywydd." Deallwyd wedyn ddarvod i "bapur vynd yn yr un long—y cyntav o lawer cyfelyb ddilynodd at yr awdurdodau Prydeinig, yn achwyn ac yn govyn cael eu symud o'r lle. Pan ddaeth Diaz i Buenos Ayres ni chydnabyddai Dr. Rawson mohono mewn un wedd. Cymerodd Denby (gwel y cyveiriadau) at hyrwyddo W. Davies ymhob modd, vel dilyniad o'i gysylltiad cyntav ev gyda'r Wladva, gan nad pwy vyddai'r prwyad. Drwy ei ddylanwad ev—a Dr. Rawson yn gweled bellach vod y Wladva'n faith, caniataodd Llywodraeth rodd visol o £140 at luniaeth i'r bobl, ac yna cavodd Denby gan vasnachwyr Prydeinig Buenos Ayres danysgrivio at brynu llong vach o 30 tunell, i vod at wasanaeth y Wladva—yr hon a alwyd "Denby," ond a gollwyd yn drychinebus ymhen rhai blwyddi. Y pryd hwnw gwnaethpwyd peth osgo carbwl i " edrych y wlad." Ond pan ddychwelodd y llywydd o Buenos Ayres gyda'r lluniaeth a'r llawenydd, aeth y llong vach ar draeth aber yr avon, nes bod yn gandryll iawn. Erbyn diwedd yr hav hwnw (1866), nid oedd vawr argoel y ceid cnwd. Deallwyd ymhen hir amser nad oedd cnwd i'w ddisgwyl o'r amaethu a'r bywyd ddilynai y sevydlwyr y pryd hwnw—a hwy heb y syniad lleiav am y weledigaeth vawr o ddyvrhau. Yn y pryder ddilynodd hyny aeth niver o'r rhai parotav i vynu gyda'r avon am ryw 60 milldir i geisio barnu beth oedd rhagolygon y wlad tu vewn. Erbyn adnabod y wlad vel yr ydys yn awr, mae'n hawdd deall i'r daith hono ddychrynu y teithwyr anghyvarwydd, ac vod yr adroddiad roisant yn anobeithiol iawn. Pendervynwyd velly ymadael o'r wlad a thavlu i vynu y syniad o wladychu yno—ac o hyny y bu
YR AIL YMBLAID.
Gwingai y lleiavriv gwladvaol gan ddadleu na wnaethid prawv priodol na digonol: eithr yr un elven ag o'r blaen vu drechav, a phendervynwyd adgyweirio oreu medrid y llong vach ddrylliog oedd ar y traeth: ac i rai vyned ynddi i Buenos Ayres i geisio ymwared, drwy drevnu fordd i vyned i ryw gwr arall o'r Weriniaeth. Galwyd "cwrdd o'r vintai" i ystyried y sevyllva, a daeth eilwaith i'r golwg y gwahaniaethau barn parthed y camrau ddylesid vod wedi gymeryd neu ochelyd: bu etholiad brwd i newid y pwyllgor, a daeth rhai elvenau newydd i'r golwg, gyda Berwyn yn ysgrivenydd yn lle T. Ellis. Dewiswyd gan y mwyavriv 6 ohonynt eu hunain i vyned yn y llong vach vel dirprwyaeth at y Llywodraeth, i ovyn cael eu symud i le mwy boddhaol iddynt at wneud Gwladva Gymreig. Trwsio'r llong vach yn addas i vôr vu gorchwyl mawr y cyvnod hwnw: a chavwyd drwy hyny beth syniad am draferthion Noa i wneud arch i achub ei dŷ: llawer traddodiad rhyvedd sydd yn y Wladva am yr evail ar y traeth, a'r cyrddau yn howld y llong. Bid a vyno, cavwyd hi'n barod i vôr, a chyraeddodd Buenos Ayres yn ddiogel, er mor glytiog y gwaith. Ynddi elai vel dirprwyaeth:—W. Davies, A. Mathews, Edwyn Roberts, J. Morgan, G. Price, J. Roberts, a T. a R. Ellis a'u teuluoedd, ac yn ddwylaw y llong, R. J. Berwyn, D. Jones, G. Jones, a Robert Nagle.
Pan gyraeddodd y Denby" i Buenos Ayres, yr oedd L. J. wedi aros yno, er pan ddaethai eve a'r teulu o'r Wladva ddiwedd 1865. Derbyniasai, tra yno y pryd hwnw, lythyrau oddiwrth Berwyn ac Edwyn Roberts, yn datgan syniadau y lleiavriv yn yr ymbleidio oedd yn cyfroi y sevydliad: cawsai hevyd y llythyrau canlynol oddiwrth M. D. Jones a D. Lloyd Jones:
Gorfenav 12, 1866. Derbyniais eich nodyn o Patagones ar eich fordd i'r Wladva. Gobeithio yr erys rhyw ddwsin ohonoch yn nyfryn y Camwy i gymeryd goval yr aniveiliaid y bu cymaint cost a thraferth i'w cael yno—byddant yn ddevnyddiol erbyn dyvodiad pobl briodol. Os oes dwsin ohonoch am aros, daw pobpeth yn iawn. Os nad oes neb yn aros, nid oes ond gildio am dymor i ddyfryn y Camwy, gyda'r llawn amcan i ail ddechreu gynted y gellir. Os ä'r bobl i Santa Fé, ni dderbyniant help oddiwrthym ni yma. Mae'n enbyd vod rhyw ymvudwyr ehud a dibroviad yn cymeryd y mudiad i'w dwylaw eu hunain. At gael Gwladva Gymreig yn Patagonia y rhoisom ni ein harian, ac ni vynwn ni ddim i'w wneud â Santa Fémae'n dro anonest tuagatom i symud o Patagonia.—M. D. JONES.
"Threapwood, Mawrth 8, 1867. Mae drwg yn corddi rhywrai yn y Wladva. Ymddengys i mi nad oes dim rhwystr hanvodol i lwyddiant, ond rhwystrau yn codi oddiar vympwyon, camgymeriadau, gwendidau, neu ddrygioni personau. Yn awr, anwyl gyvaill, hyderwyv y bydd i chwi barhau i amddifyn y Wladva—Y WLADVA. Ymddengys na vydd nemawr neb o'r vintai gyntav ar y Chupat_yn hir. Amddifynwch y Wladva. Gwnewch eich goreu gyda Dr. Rawson; a gwnewch eich goreu yn Patagones. Anvonwch i'r Wladva. Gobeithio yr ewch chwi yno'n ol yn vuan, ac os ewch, y gwnewch adael i amynedd gael ei pherfaith waith—bydd raid i chwi wrth hyny.—D. LL. JONES.
Patagones, Rhag. 6, 1866. Na ddigalonwch—mae hindda ar ol pob drycin. Mae tipyn o ddyryswch gyda'r Wladva yn awr. Ar ol yr helynt vawr a'ch gyrodd chwi ymaith, mae y rhan vwyav yn credu vod L. J. yn Wladvawr trwyadl: coelia W. Davies hyny yn awr: a choelia llawer mai brad vu yn eich gwthio ymaith drwy i Diaz chwythu y gwenwyn—anvad o ddyn oedd eve. Mae tua haner y bobl yn bendervynol o beidio symud; ac mae vy mryd inau ar y Wladva, ac yno y byddav gallwch vod yn siwr, tra gallav. Mae y teulu arlwyddaidd yn colli tir, ond yn glynu wrthym vel gelod. Bu ail etholiad yn ddiweddar, a bu newidiadau lawer—Mathews allan, a minau yn ysg. yn lle Thos. Ellis.—R. J. BERWYN.
Mae'n debyg y synwch pan ddywedav wrthych vod y Cymry sydd yn Patagones wedi danvon cais atom i'n symud oddiyma atynt hwy! Ö ran sport, darllenwyd y llythyr i'r vintai, a bu chwerthin mawr at y syniad i ni adael yma yr holl eiddo sydd genym yn wartheg a chefylau, a chelvi ac eiddo. Nyni, freeholders, vyned i ail ddechreu byw yn Patagones! Pendervynwyd ar i Mathews a minau ysgrivenu llythyr i ddweud mai folineb meddwl i ni symud oddiyma byth—pe na ddelai neb atom na llong vyth.—EDWYN ROBERTS.
Yn union ar warthav y llythyrau uchod y daethai'r " Denby" i Buenos Ayres, yn syth o'r Wladva, gyda dirprwywyr symud." Cavodd L. J. velly gyvle i glywed adroddiad o'r helyntion gan y rhan vwyav o'r rhai ddaethent i vynu; ac er nad oedd ganddo savle swyddogol i ddynesu at y Llywodraeth, beiddiodd vyned i weled Dr. Rawson, a chyvlwyno iddo y nodyn canlynol:
Buenos Ayres, Ionawr 30, 1867. Yr wyv newydd dderbyn llythyr oddiwrth M. D. Jones, Bala, hyrwyddwr mawr y Wladva Gymreig, dyvyniadau o ba un a gewch yn amgauedig, yn gobeithio'n ddivrivol na avlonyddir ac na symudir y sevydliad oddiar y Chupat. Yr oedd derbyn y llythyr hwn tua'r un dyddiau ag y cyraeddai yma y ddirprwyaeth o'r Chupat, i ovyn i'r Llywodraeth eu symud i rywle arall, yn ddigwyddiad mor gyd—darawiadol vel nas gallav lai nag edrych arno vel gwrthdystiad ysprydoledig yn erbyn y vath vwriad gan y gŵr sydd wedi aberthu cymaint dros y mudiad Yr wyv wedi gweled y ddirprwyaeth ddaeth i vynu, a chlywed eu cwynion a'u dadl. Ond nid ymddengys i mi vod y sevyllva yno mor anobeithiol ag i gyviawnhau rhoddi cam mor ddivrivol. Nid oedd y prawv a wnaed ar y tir a'r bywyd ond bychan a di—lun iawn; a byddai symud pobl wedi digaloni ac ymranu vel hyn yn eu rhoi mewn anhawsderau newyddion vyddai yn debyg o'u chwalu i bob cyveiriad, a thori i vynu y Wladva yr aberthwyd cymaint erddi, ac y disgwyliasid cymaint oddiwrthi. Sicrheir vi gan y rhai ddaethant i vynu'n awr, yr arosai y bobl i wneud prawv llawnach ped estynai y Llywodraeth iddynt vwyd a chelvi dros dymor neu ddau eto. Ac yn ernes i chwi o vy hyder yn nyvodol y Wladva ac o'r bobl (wedi yr ymadawo rhyw ddau neu dri theulu), boddlonav i vyned yn ol yno atynt, os bydd y Llywodraeth yn dewis hyny. Yr oeddwn wedi trevnu i vyn'd adrev i Gymru; ond arosav yma eto i weled pendervyniad y Llywodraeth ar y mater sydd mor agos at vỵ nghalon.—L. JONES.
Yn y cyvwng hwn daethai i Buenos Ayres ŵr ieuangc oedd yn bugeilo devaid yn y wlad tua Dolores, ond a ddaethai allan ddwy vlynedd cyn hyny, a'i vryd ar vyned i'r Wladva—oedd, yn wir, yn aelod o'r Pwyllgor Gwladvaol cyntav yn Lerpwl— J. Griffith (Hendreveinws wedi hyny). Wedi deall y sevyllva a gweled y dirprwyon, bwriodd ei goelbren gyda L. J. i vyned i'r Wladva yn y llong vach—er y condemnasid hono vel anaddas i vôr ar gais y dirprwyon. Ond medrwyd cael gan Capt. Nagle ventro ynddi gyda dau vorwr amrwd, cogydd o Francwr, a L. J. a J. G. yn griw a theithwyr! Hwyliasai tri dirprwy (Mathews, Berwyn, E. R.), ychydig ddyddiau cyn hyny, i vyned tua'r Wladva, trwy Batagones, a'r gweddill i ymdaro oreu medrent i vynd tua Santa Fé. Nid hwnw oedd y "tro rhyvygus" cyntav yn hanes y Wladva, ac nid y diweddav chwaith. Yr unig awdurdod oedd gan y criw" hwnw i'r vath antur oedd copi o'r llythyr roisai Dr. Rawson i'r dirprwyon elent i lawr i gael barn ysgrivenedig y sevydlwyr—a dyma vo:—
Buenos Ayres, Mawrth 6, 1867. Wedi deall am yr anghydwelediad rhwng y sevydlwyr ar y Chupat ynghylch aros yno, neu symud i ryw van arall o'r Weriniaeth, mae y Llywodraeth yn barnu mai goreu vyddai i chwi ddychwelyd i'r Wladva gyda'r agerlong sydd ar vin hwylio i Batagones, a galw cyvarvod o'r sevydlwyr i gael ganddynt yn ysgrivenedig eu barn a'u syniadau hwy ar y mater pwysig hwn. Rhowch ar ddeall iddynt vod y Llywodraeth yn ystyried, oddiar bob adroddiad y maent wedi vedru gael, vod methiant y cynhauav i'w briodoli i'r hir sychder, ac hevyd, evallai, i ddifyg goval a threvn, yn codi oddiar ddifyg moddion neu wybodaeth ymarverol o'r wlad. Wedi yr aberthion mawr wnaed i sevydlu y Wladva, byddai y Llywodraeth yn anvoddlawn i adael y lle heb i vlwyddyn arall o brawv ddangos mai anichon vyddai i sevydlwyr gynal eu hunain a llwyddo yno. Eithr er vod yr ystyriaeth hon ger bron y Llywodraeth, ni ddymunant ar un cyvriv geisio gorvodi y sevydlwyr i lavurio lle maent, os bydd y mwyavriv am ymadael, wrth eu bod wedi colli pob hyder i lwyddo yno. Ni ddylai y sevydlwyr anghovio pwysigrwydd y Wladva vel cyrchva i'w cydwladwyr sydd yn disgwyl mewn pryder am ganlyniad yr anturiaeth, er mwyn d'od a chynorthwy i'r rhai sydd eisoes wedi cychwyn y gwaith. Velly, pa bendervyniad bynag y deuir iddo, dylai yr ymvudwyr ymdrechu peidio ymwahanu, gan govio y collent drwy hyny eu holl bwysigrwydd o savle vel Gwladva, sydd wedi bod bob amser yn ystyriaeth bwysig gan y Llywodraeth wrth eu derbyn a'u cynorthwyo. Os bydd y mwyavriv yn dymuno aros i lavurio ar y Chupat, ve'u cynorthwya y Llywodraeth hwy gyda'r gynhaliaeth reidiol yn ol trevniadaeth y cytunid arni. Danvonir cynhaliaeth dau vis arall, at yr hyn sydd yn Patagones, a chyda'r agerlong sydd yn rhedeg yno danvonir yno gyvlenwad chwanegol bob deuvis, i gyvarvod y llong vach " Denby." Hyderav y bydd i Mathews, Berwyn, a Roberts (Edwyn), gymhell eu cydwladwyr a chydlavurwyr i gyd—ddwyn â'u gilydd, ac i ymarver y teimladau brawdol a Christnogol sydd mor angenrheidiol pan ynghanol anhawsderau natur a difeithwch, y rhai y rhaid ymladd â hwy i sicrhau cartrev iddynt eu hunain a'u plant am genedlaethau eto i ddod.—G. RAWSON.
Vel adroddiad pellach o'r ymdrechva vawr hono—“i vod, neu beidio bod" yn Wladva, rhoddir yma y dyvynion canlynol o lyvr A. Mathews, yr hwn oedd ei hun yn figiwr blaenllaw yn y ddirprwyaeth hono:
"Wedi rhoddi ger bron y sevydlwyr, mewn amryw gyrddau, adroddiad o'r dravodaeth vuasai rhwng y Llywodraeth a'r ddirprwyaeth, y canlyniad oedd—tri theulu am aros ar y Camwy, tri theulu am vynd i Patagones, a'r gweddill am vynd i Santa Fé. Gyda'r pendervyniad hwnw yn ysgrivenedig dychwelai'r ddirprwyaeth i Patagones i vynegu y canlyniad. Ond pan oeddys yn hwylio i vynu'r avon Negro, beth a welem yn dyvod i vynu'n gyvlym ar ein holau ond ein llong vechan "Denby" o Buenos Ayres, gyda L. J., a boneddwr arall o'r enw J. Griffith, ar ei bwrdd. Yr oedd L. J. wedi llwyddo i gael gan Capt. Nagle ventro y llong vach i'r môr eto, (er iddi gael ei chondemnio gan saer y llynges Brydeinig,) am ei vod ev, L. J., mor awyddus i gael gan y bobl aros ar y Camwy. Deallodd y dirprwywr wrth hyny vod L. J. yn bendervynol o vynd i'r Chupat, er iddo wybod vod corf mawr y sevydlwyr am ymadael, a'u bod bellach yn Mhorth Madryn yn aros llong i'w hymovyn. A gwyddai y dirprwy os elai L. J. i lawr, a rhoddi addewidion teg ac esmwyth i'r bobl y byddai yn debyg iawn o lwyddo i berswadio rhai i aros ar y Camwy, ac velly wneud y gweddill yn rhy vychan o niver i long dd'od i'w cyrchu i le newydd. Teimlai y dirprwy mai y peth pwysicav o bob peth oedd cadw y gwladvawyr rhag rhanu, vel ag i'w gwneud yn analluog i furvio cnewyllyn sevydliad newydd, ac os velly nad oedd dim yn eu haros ond cael eu gwasgaru yma a thraw dros Dde Amerig ymhlith cenedloedd ac ieithoedd dyeithr ac arverion paganaidd. Teimlai, gan hyny, er nad oedd L. J. ac yntau yn cydweled, nac yn gyveillion, bod dyledswydd arno i roddi o'r neilldu bob teimlad personol, a gwneud yr hyn oedd oreu er lles dyvodol ei gydwladwyr ar y Camwy. Wedi rhai dyddiau a nosweithiau o veddwl a phryderu beth oedd oreu wneud, pendervynodd weled L. J. a chael siarad ac ystyried y mater yn ddivrivol. Velly y bu, a boddlonodd y ddau i ymgysegru i les y sevydlwyr yn y dyvodol, a dychwelyd eto yn y llong vach i'r Wladva, ac uno i berswadio y bobl i dderbyn cynyg Dr. Rawson, i wneud prawv ar y lle vlwyddyn arall. Erbyn i'r llong gyraedd Porth Madryn yr oedd agos yr oll o'r sevydlwyr wedi gadael y Camwy, & d'od drosodd yno i ddisgwyl llong i'w cyrchu ymaith vel yr oeddid wedi pendervynu. Ar y dechreu teimlent yn gynhyrvus iawn am y siomedigaeth rhai yn ystyvnig iawn am vynd i Patagones, a bu raid cyn hir drevnu i niver o'r rhai taerav gael myned yn y llong vach i weled y wlad y fordd hono, “a chael manylach telerau gan Aguirre a Murga, perchenogion y tiroedd yno. Pan ddaeth yr yspïwyr hyny yn ol, nid oedd eu hadroddiad hwythau yn unol na boddhaol, vel nad oedd dim am dani ond derbyn cynygion Dr. Rawson, a dychwelyd i'r Camwy."
Ond buasai aros gyda chant neu 120 o bobl gythruddedig, heb vod darpariad o reidiau ac ofer ar eu cyver, yn vwy o ryvyg nag ydoedd y vordaith o Buenos Ayres yn y llong vach vregus. Velly, trevnodd L. J. gyda masnachwyr Patagones, ar ei gyvrivoldeb ei hun, ac ar bwys addewid Dr. Rawson, i gael cyvlenwad o'r pethau mwyav rheitiol i vyned gyda hwy yn y llong vach pan ddychwelid eto i Borth Madryn.
"Yr oedd y gwladvawyr wedi bod yn Mhorth Madryn am tua deuvis—rai ohonynt wedi lladd a halltu eu haniveiliaid, dan y syniad mai over vyddai myn'd a daoedd mewn llongau i Patagones na Santa Fe; eraill yn mileinio i ddisgwyl “llong o rywle." Tra yr oeddys vel hyn ar draeth Porth Madryn yn ymryson a dadleu, a myn'd drwy wasgveuon yr ymbleidio, daethai yr Indiaid i lawr i'r Camwy vel arver, ac wrth weled y tai yno wedi eu gadael yn wag, rhoddasant dân ynddynt, yn ol arver Indiaid, er mwyn y divyrwch o'u gweled yn llosgi, vel pan ddychwelodd y gwladvawyr nid oedd yno ond murddynau moelion. Aeth y penau teuluoedd unwaith eto drosodd i'r dyfryn, o vlaen y gwragedd a'r plant, i wneud tipyn o drevn yn barod iddynt, a myned a'r clud a'r gweddill aniveiliaid drosodd, vel erbyn diwedd Awst yr oedd bron bawb wedi dychwelyd, ac yn eu cartrevi megys cyn yr ymadawiad. Wrth reswm yr oedd ganddynt fordd vwy dramwyol y tro hwn, wedi yr holl dravaelu a wnaethid i symud, ac wedi cyvarwyddo llawer â'r wlad ac â'r cefylau, vel na vu'r dychweliad y tro hwn mor vlin ac aniben ag oedd y dyvodiad cyntav. Gan mai y bwriad oedd aros am ryw naw mis, i gydfurvio â chais Dr. Rawson, ac yna symud i Santa Fe, nid oedd neb yn teimlo vod y chwalu vu ar bethau, a'r lladd vu ar aniveiliaid yn rhyw golled vawr—dipyn o anfantais am laeth a menyn ar y pryd, dyna'r oll.
"Yr oeddys erbyn hyny wedi colli 44 drwy ymadawiadau, 16 drwy varwolaeth (dau drwy drengu ar y daith, ac un drwy voddi); eithr ganesid 21, a daethai 10 o vanau eraill."
Vel canlyniad yr ymblaid hono savodd yn Patagones deuluoedd W. ap Mair Gwilym, J. Jones, Mountain Ash; E. Price, y gov; G. Solomon, a M. Humphreys, ac yno mae rhai o'u tylwyth hyd heddyw.
XI.
YR AIL AVAEL—CAEL YN HELAETH—TRALLODION LAWER—Y WELEDIGAETH.
Wedi ymdawelu o'r cythrwvl mawr hwnw, a chadw Gwyl y Glaniad 1867, gyda'r Indiaid ar draeth ac ogoveydd Porth Madryn, aethai y gwladvawyr yn ol i'r Camwy (gwel yr adroddiad blaenorol) gan adael yn llaw L. J. yr ysgriv ganlynol:
At Dr. Rawson, &c. —Nyni, sevydlwyr Cymreig y Camwy, wrth ystyried nad yw y manau na'r telerau gynygid i'n symud oddiyma yn mantoli yr anvanteision o ail gychwyn byw eto mewn lle dyeithr, —ac vod addewid y Llywodraeth i'n cynorthwyo yma mor haelvrydig,—a'n bod yn y cyvamser wedi darganvod yn y cylchoedd lanerchi addas i vagu daoedd a devaid, ac hevyd wedi cael ar ddeall vod ein Cymdeithas Ymvudol yn Nghymru yn gwneud ymdrechion mawr a llwyddianus i ddanvon ymvudwyr chwanegol atom—ydym, gan hyny, wedi pendervynu cydfurvio â dymuniad y Llywodraeth i ni aros yma, gan ddybynu y bydd iddi unwaith yn rhagor ein cynorthwyo gyda'r pethau angenrheidiol i sevydlu yn arosol yn y wlad hon. Yr ydym yn dychwelyd i'r Chupat dan anvanteision dirvawr, oblegid i ni symud ein teuluoedd a'n heiddo oddiyno, a gorvod eilwaith eu cludo'n ol. Am hyny yr ydym yn cyvarwyddo ein cynrychiolydd (L. J.) i osod ger eich bron ein hamgylchiadau a'n anghenion, gan ymddiried yn eich addewid i'n achlesu a'n cynorthwyo.—Arwyddwyd, dros y vintai,
Chwanegiad, Awst 5, 1867, at L. J.
Ynglyn a'r ddeiseb roddwyd i chwi i'w chyvlwyno i Dr. Rawson, yn govyn am yr hyn a varnem yn rheidiol at vod y Wladva yn gwbl ddiogel, wele i chwi ein syniad ni:—200 o wartheg, 100 o aneri, 100 o gesyg a dau varch, 5000 o ddevaid, 25 o erydr Amerigaidd, 2 bâr o gêr a thynbreni i bob aradr; danedd ogau, coed at adeiladu, bwyd hyd gynhauav 1868; llong i alw yma bob tri mis; cymorth i godi a chadw ysgol; meddygai llysieuol; magnel, rheiflau ac ergyd- ion. Cyvarwyddir chwi yn benodol i beidio chwanegu llwyth ein dyled. Cyvarwyddir chwi i ymovyn, gyda llaw, a vydd modd i'r Wladva, mewn amser a ddaw, gael tir ar lan ddeheuol yr avon Negro. [Rhestr o'r ddogn wythnosol y lluniaeth vernid yn ddigonol.]
Gan adael y "Denby" yn Patagones i lwytho y bwyd a phob rheidiau oedd bosibl gael i'w cludo i'r Wladva, aeth L. J. yn ei vlaen i Buenos Ayres, i hysbysu Dr. Rawson o lwyddiant ei neges, ac i gyvlwyno iddo y ddeiseb a'r geiseb vlaenorol. Dygai gydag ev y tro hwn chwech o vrodorion i weled y ddinas vawr, ac i ovyn rhoddion (rations) oddiwrth y Llywodraeth. Ysywaeth bu yr hen vrodor hawddgar Francesco varw yno, oblegid y newid bwyd, &c., ond dychwelodd y lleill yn llawn eu dwylaw, vel y gwelir isod.
Danvonir y pethau canlynol yn rhoddion oddiwrth y Llywodraeth i Indiaid cyfeillgar Gwladva Chubut yn y llong "Ocean," Capt. Van Sloten.—CARLOS M. ROJAS.
100 o grysau, 100 o drowseri, 100 ponchos, 100 chiripas brethyn, 100 par botasau, 50 cyvrwyau cyvlawn yn cynwys lomillos, coronas cabezadas, cinchones, estriberas, riendas, frenos, estribos, espolines con correa, cinchas, jergas, cojinllas, 4 rhol tybaco, 4 rhem papur smocio, 2 barilaid gwin a gwirod, 5 tercio yerba, 3 barilaid siwgr, 7 sachaid_farinia, 50 sach bara caled. — Derbyniwyd ac arwyddwyd gan T. Davies, Rhydderch Huws, R. J. Berwyn, Ionawr 20, 1868. Yn yr un llong hevyd 30 o gefylau, a dognau lluniaeth y Llywodraeth am 6 mis, a 50 sachaid o wenith hâd.
At L. J.—Yn ol eich apwyntiad gan y sevydlwyr Cymreig ar y Chupat i vod yn brwyad drostynt at y Llywodraeth unwaith eto, mae y Pwyllgor yn dodi yr awgrymiadau canlynol am angenion a syniadau y vintai at eich ystyriaeth, fel cyvarwyddyd i chwi pa vodd i weithredu drostynt. Wrth gyvlwyno i'r Llywodraeth y derbynebau am y lluniaeth a gawsom er pan gydnabyddwyd o'r blaen, dymunir arnoch gyvlwyno ein diolchgarwch gwresocav am y cyvryw gynorthwy, a sicrhau ein bod yn ymdrechu'n bendervynol i deilyngu y gofal hwn o eiddo'r Llywodraeth drwy weithgarwch a dyval—barhad. Yr oedd y ddau gyvnod o brinder a chyvyngder a ddioddevasom y misoedd diweddav wedi ein anesmwytho yn vawr; ond yr ydym yn deall mai trwy anibendod a furviau swyddogol y bu hyny. Nis gellwch roddi gormod o bwys wrth y Llywodraeth am y niwaid mawr y mae'r cyvyngderau hyn yn wneud i'n digaloni a dyrysu ein trevniadau. Yr unig fordd i atal gwasgveuon vel hyn yw ar i ni gael sicrach a chysonach cymundeb gyda Buenos Ayres a Patagones. Mae ein llong vach wedi myned i
BRODORION CYNHENID Y WLAD.
gyvlwr drwg, vel nas gallwn ddybynu arni. Ceisiwch yn daer ar i agerlong Patagones alw yn gyson gyda ni bob ryw ddau vis, ac yna teimlem yn ddiogel. Mynegwch vod amryw o'r sevydlwyr yn awr, er yr holl galedi ac anvanteision, yn medi llanerchau o wenith da, -gwell a chysonach na dim a gynyrchwyd o'r blaen, ac wedi dysgu i ni pa dir sydd oreu i'w drin, a pha vodd i'w DDYVRHAU er sicrhau cnydau. Y colliant eleni yw mai ychydig hauwyd. Mae yn y sevydliad yn awr 10 o erydr: y bobl gan vwyav yn cartrevu mewn tai priddveini parhaol, ond heb ddigon o gêr cefylau. Gan i ni orvod bwyta yr hadyd ddanvonasid yma, oherwydd yr oedi danvon cyvlenwad bwyd, ac na vydd y cnwd eleni yn vawr, cyvarwyddir chwi i ymdrechu cael i ni gyvlenwad eto o wenith, baidd, a cheirch at hau. Mae y rhodd visol bresenol, ar ol tynu y costau freit, yn rhy vach i bob un gael ei wala o vwyd. Eithr nid ydym yn grwgnach, er vod ein stoc o dda byw yn hollol anigonol i'r lle a'r sevyllva. Mae'r ychydig dda corniog sydd genym wedi bod o vendith anrhaethol i ni; ond bu raid i ni gigydda cyniver ohonynt yn ystod y cyvyngderau vel nad ydynt yn cynyddu nemawr. Pe byddai gan bob un o honom 8 neu 10 o vuchod godro, gallem vyw yn anibynol ar y Llywodraeth yn vuan iawn. Ymddengys fod Llywodraeth wedi tynu i lawr y rhodd visol o $700 i $400, am vod amryw wedi ymadael oddiyma: ond dylech adgovio iddynt vod amryw o'r newydd wedi dod atom, a'n bod yn disgwyl rhagor o Patagones, ac vod llawer o blant wedi eu geni yma, a'r babanod haner dogn yn awr yn cyvrif vel dogn lawn. Os gellwch gael hwylusdod i gael atom y gweddill o'n cydgenedl sydd yn Rio Grande do Sal byddem valch iawn i'w croesawu. Na ddiffygiwch chwaith yn eich ymdrech i drevnu cael yma lawer o ddevaid ar raniadaeth. Hysbyswch y Llywodraeth vod y rhoddion gwerthvawr ddanvonwyd i'r Indiaid yn ein cadwraeth nes y daw'r penaeth Chiquihan a'i lwyth i lawr i'w hymovyn; ond vod y tri brodor ddaethai yn ol o Buenos Ayres. wedi blino yn aros yma gyhyd am eu cymdeithion, ac wedi dianc gyda 9 o'n cefylau i chwilio am danynt.
- Dros y Pwyllgor,
Tra yr oedd y prwy L. J. yn tramwy fel hyn ol a blaen at y Llywodraeth am y lluniaeth misol, ac wedi llwyddo i gael ganddi freitio a llwytho y llong "Ocean" i ddwyn gwartheg a chefylau i'r Wladva, yr oedd y pryder a'r wasgva yn y Wladva yn cynyddu, a mentrwyd unwaith wedyn yn y llong vach "Denby" i Patagones i ymovyn y cyvlenwadau hirddisgwyliedig, ac i vasnachu y plu a'r mentyll Indiaidd dravnidiasai y sevydlwyr gyda'r brodorion. Pan ddaeth y “Denby" i Patagones, gyda chriw o'r sevydlwyr i vasnachu drostynt eu hunain a'u cyveillion, a chael cyvlenwad da o roddion addawedig y Llywodraeth, hwyliodd yn ol am y Chupat, gyda'r 6 sevydlwyr a 4 ych, heblaw y llwyth gwerthvawr, ar yr 16eg o Chwevror, 1868,—ond ni welwyd byth mohoni!! (Gwel manylion eto.)
Yn union ar ol danvon yr "Ocean" aeth L. J. i lawr drachevn yn y "Iautje Berg" i Batagones i lwytho ynddi 200 o wartheg a roisai y Llywodraeth eilwaith i'r Wladva. Helbul a thraferth enbyd oedd cael aniveiliaid gwylltion velly i long mewn lle vel Patagones, a helynt vlin oedd eu cael o'r llong drachevn gervydd eu cyrn, a'u gollwng i'r môr, ac yna eu morio villdir a haner i'r lan yn Arwats ("Cracker Bay"); collwyd drwy hyny 18 neu 20; a gadewsid 50 o aneri yn Patagones, am nad oedd le yn y llong, y rhai a feiriwyd ymhen hir amser am velin vlawd a rheidiau eraill i D. W., Oneidia. Ond wedi yr holl vaeddu a lludded hwnw, daeth yn llivogydd i'r avon, a gwlaw mawr, a chyn pen ychydig visoedd aeth yr oll o'r gwartheg hyny ar grwydr i'r paith, a llwyr gollwyd hwynt.
Yn y llong hono ("Iautje Berg") y daethai teulu Rhys Williams o Rio Grande i'r Wladva, wedi bod 10 mlynedd yn tynu tuag yno. Dyna'r pryd hevyd y deallwyd vod y llong vach "Denby" wedi colli—canys daethai L. J. o Patagones, a deallodd yno i'r llong hwylio oddiyno am y Wladva 16 o Chwev. ac yr oedd yn awr yn vis Mai. Pan govir vod ar y llong hono ddau ben teulu, a 4 o vechgyn ag iddynt gysylltiadau agos yn y lle, a Cadivor Wood, ysgrivenydd y "Cwmni Ymvudol," ve ddeallir mai golygva ddivrivol oedd hono.
Yr ysgriv ddilynol i'r trychineb hwnw oedd hon:—
Adroddiad i'r Llywodraeth. —Dymunwn gydnabod yn ddiolchgar iawn y nodded a'r cynorthwyon dderbyniodd y Wladva o dro i dro gan y Llywodraeth. Ac wrth wneuthur hyny cymerwn y cyvle i eglurhau yr anhawsderau a'r anvanteision vu ar ein fordd, ac adrodd ein sevyllva ar hyn o bryd. Mae yn awr ddwy vlynedd a haner er pan laniasom yn Mhorth Madryn, ac erbyn hyn yr ydym yn canvod pa mor amherfaith ac amhrofiadol i'r sevyllva newydd oeddym. Y difyg hwn, a llawer o rwystrau sydd debygid yn anocheladwy mewn lleoedd newydd, a'n llesteiriodd ac a'n digalonodd yn vawr. [Yna rhoddir hanes yr ymblaid a'r ail ddechreu]. Mae ein prwy yn awr newydd ddychwelyd, a chydag ev y pethau ovynasom gan y Llywodraeth; ac yr ydym velly yn llawn hyder y gallwn yn awr vyw arnom ein hunain, a phoblogi y diriogaeth hon i'r Weriniaeth. Nid yw ein rhiv yn llawer, eithr nid yw hyny ond peth bach yn ein golwg gan y gwyddom y gallwn eu chwanegu pan y mynwn o'n gwlad enedigol, drwy ddanvon ein bod mewn sevyllva i'w gwahodd a'u croesawu. Mae yma ddigon ohonom i vod yn ddiogel, ac i wneud prawv a dechreuad ar y lle; ac os bydd ein cynhauav nesav yn rhywbeth gweddol, nyni a alwn am ein cyveillion sydd yn disgwyl wrthym. Mae y vasnach gyda'r Indiaid wedi ein cynysgaeddu â modd i gael llawer o angenrheidiau, ac yr ydym yn byw mewn eithav heddwch gyda hwy. Yr ydym yn teimlo'n galonog a hyderus wrth edrych ar ein sevyllva yn awr, ac yn diolch eto i'r Llywodraeth am vagu ynom, drwy ei charedigrwydd. y calondid hwn. Ond mae'n rhywyr genym vedru byw arnom ein hunain ; a disgwyliwn y gallwn yn 1869 forddio digon o vasnach i gadw cymundeb rheolaidd â Buenos Ayres. Dangosir hyn yn ddwys iawn yn yr anfawd ddiweddav o golli yr unig long veddem. Ni wyddom ddim o'i hanes er pan adawodd Patagones i ddod tuag yma
Berwyn
4 mis yn ol. Gweithid hi gan 5 o'r sevydlwyr ac ysgrivenydd y Cwmni Ymvudol gyda hwy, ac yr oedd ei cholli yn ergyd ddwys i'r Wladva. Ervyniwn, gan hyny, ar i'r Llywodraeth beidio ein gollwng dros gov; ond parhau i hyrwyddo rhyw longau i alw heibio i ni yn awr a phryd arall, nes y cawn eto gymundeb o'r eiddom ein hunain. Gan ddiolch unwaith eto i'r Llywodraeth, a gobeithio y byddwn cyn hir yn chwanegu ein rhan at lwydd cyfredinol y wlad.
Rhydderch Huws, llywydd; James B. Rhys, J. M. Roberts,
Grufudd Huws, W. R. Jones, T. Davydd, T. Thomas, A.
Jenkins, Edwyn Roberts, H. H. Cadvan, Richard Jones.—
R. J. Berwyn, Ysg.
Pan gyrhaeddodd L. J. i Buenos Ayres gyda'r newydd vod yr allwedd i lwyddiant wedi ei ddarganvod drwy y DYFRHAU, ac eisoes gnwd toreithiog o wenith wedi ei godi, parodd dawelwch i'r Llywodraeth, a llawenydd calon i Dr Rawson, oedd wedi bod vath gevn i'r Wladva, ond, ysywaeth, erbyn hyny wedi ymddiswyddo. Ond yr oedd y trychineb o golli'r llong yn gosod y Wladva eilwaith yn gwbl ddigymundeb â'r byd, ac yn vwlch yr oedd raid ei gyvanu mewn rhyw vodd neu gilydd. Wedi'r orchest wnaethai'r Llywodraeth i roi aniveiliaid i'r Wladva, a hyny yn ystod y prinder arian barai rhyvel Paraguay, ac heb Dr. Rawson a'i welediad elir o bwysigrwydd y sevydliad—nid hawdd oedd cael clust y Llywodraeth, ac anhawddach vyth oedd medru cael rhyw ymwared ymarverol, i brwy oedd heb adnoddau arianol o vath yn y byd. Un gobaith da ydoedd vod Dr. Ed. Costa, y gweinidog newydd, yn hen gydymaith a chyvaill i Dr. Rawson, fel yr Arlywydd Mitre, ac, wrth gwrs, yn gwybod syniadau y gwr hwnw am le y Wladva yn y Weriniaeth. Velly cyvIwynwyd iddo ev yn furviol y cais swyddol a ganlyn:
L. J., prwy y Wladva Gymreig ar y Chupat, o flaen Eich Urddas yn mynegu—Gan vod y trevniad a wnaethum gyda masnachdy Prydeinig yma i gludo y lluniaeth arverol i'r Wladva am $750 freit wedi dyrysu, yr wyv yn cyvlwyno yr awgrym ganlynol am fordd arall i ddiogelu y sevydliad, a chyvlenwi hevyd yr angen a deimlir am long i vod yn y gwasanaeth yn gyson. Cynygir i mi long o 60 tunell am $2,500 (aur). Byddai freit cludo y lluniaeth sydd yn awr yn barod yn $750: mae gweddill yn llaw y cyvlenwyr (Carrega y Hernandez) yn $250; ac y mae cyvaill i mi yn barod i roi $500 am gludo pethau iddo'i hun i lawr. Govyn yr wyv gan hyny yn awr ar i'r Llywodraeth echwyna i mi $1,000 at gwblhau PRYNIAD llong i vod at wasanaeth y Wladva, ar y dealltwriaeth y telir hyny'n ol yn freit pan vyddo gan y Wladva gynyrch i'w allvorio. Am y $2,500 hyny gellid trevnu i gymeryd draft 3 mis y Llywodraeth. Hynyna yw vy nghais taer yn awr, vel y gallwyv vrysio'n ol at y sevydlwyr, rhag y byddant eto yn unig ac mewn prinder a thraferth.—L. J.
Heb lawer o oedi caniatawyd y cais. Prynwyd y "Nueva Geronima," a hwyliodd am Patagones gyda'r lluniaeth misol, ac i gymeryd yno velin vlawd a gwenith a'r aneri adawsid yno rai misoedd cyn hyny, yn ol bargen wnaethpwyd gyda D. W. Oneida dros y Wladva, yn yr angen am velin. Wrth vyned i mewn i'r avon aeth y llong hono wedyn i'r lan, a chavodd gryn niwed. Ond glaniwyd pob peth yn ddiogel.
Ar y cyvnod pell hwnw mac'r dyvynion canlynol o lythyrau Tad Wladva y yn tavlu peth goleuni oddiuchod:
Yr wyv yn gweled vod y Wladva wedi ei phrovi vel lle iach, cymwys i vagu aniveiliaid, ac hevyd i godi ŷd, ond dyvrhau y dyfryn. Proviad y gwladvawyr, mi welav, yw mai'r tir du digroen yw'r tir goreu i godi ŷd—yr hwn yr oedd W. D. a'i gwmni yn gondemnio vel tir hollol ddifrwyth. Rhaid cael agerlong i redeg i'r Wladva, a llong vach i gario o Borth Madryn i Drerawson. Ni thalai llong yn awr, ac ni vedr y "Cwinni Ymvudol forddio talu am long i'r Wladva heb gael elw oddiwrthi. Nid wyv yn gweled y gall y Cwmni wneud dim heb gael breinlen ar ddarn mawr o wlad i'w boblogi. Drwy wrthod hyn mae y Llywodraeth yn ein rhwystro i wneud dim yu efeithiol—am na chawn capital heb security. Da chwi, gwnewch eich goreu i gael gan y Llywodraeth roi i'r Cwmni vreinleu ar dir. Nyni a allem wneud Gwladva wedyn edlychaidd vydd pob peth yn ol y drevn bresenol. Hyd nod eto, nid yw y bobl wedi eu rhoi ar eu traed yn iawn. Os na vedr y Llywodraeth roi tir i'r Cwmni, a wnaif hi gymeryd y Wladva ei hunan dan ei nawdd.—M. D. JONES.
Tach. 17, 1868.—Derbyniais eich nodyn yn hysbysu vod llong 50 tunell wedi ei phrynu at wasanaeth y Wladva. Nid wyv yn deall y pwnc vel yr esboniwch chwi ev: ond nid oes bwys, os caif y Wladva long i'w gwasanaethu. Yr wyv yn gweled yn eglur vod sicrwydd digonol am gymhwysder y dyfryn i gael Gwladva arno; ac y mae'n ddigon eglur ond ei ddyvrhau yn briodol, y cynyrcha gnydau rhagorol. Nid wyv yn gweled gor—bwys yn nglyn a'r cynhauav nesav; mae'r prawv sydd wedi ei wneud eisoes yn ddigon i ddangos yr uchod i sicrwydd. Rhaid i mi eich rhybuddio i beidio disgwyl wrth y cwmni hyd nes y ceir rhyw well trevn i bobl gael diogelwch am eu harian. Pe caem ni avael ar y wlad drwy vreinlen byddai yn hawdd gweithio'r Wladva wedyn. Neu pe rhoddid breinlen i'r Wladva, vel y gallai hi wneud bargen â'r cwmni. Y mae W. D. & Co., yn cyhoeddi sicrwydd methiant y Wladva—yn ol ei ddarogan ev y mae methiant yn ddi—òs: dywed mai cardota a wna'r bobl am byth yn Patagonia, ac na wna y Llywodraeth ddim yn y byd iddynt. Yn hyny, beth bynag, gwnaeth gamgymeriad dybryd. Ond dylai y Llywodraeth wneud eto lawer mwy, os ydynt am roi cychwyn cryv i'r bobl.—M. D. JONES.
Ionawr, 1869.—Yr oedd golwg ardderchog ar y cnydau, a daethant i aeddvedrwydd yn gynar yn Ionawr. Pan oedd pawb wedi gorphen tori eu gwenith, a'r rhan luosocav wedi ei godi yn stycynau, ac ambell un yn dechreu ei ddasu, daeth yn wlaw cyson am tua naw niwrnod. Buasai'r avon yn bur uchel drwy y tymor, ac wedi codi drachevn yn ystod y gwlaw, nes yr oedd bron at ymylon y torlanau. Ar brydnawn Sul, pan oedd agos bawb yn y capel, daeth yn storm o vellt a tharanau a gwlaw mawr. Erbyn boreu Llun torasai yr avon dros ei glanau, nes bod bron yr oll o'r dyfryn wedi ei orchuddio â dŵr. Gellid gweled y stycynau yn sevyll a'u penau allan o'r dŵr, yn edrych vel llwyni o vrwyn neu hesg mewn cors. Y Sul dilynol cododd yn wynt cryv o'r gorllewin, vel y cynyrvwyd y dŵr oedd megys İlyn ar y dyfryn, a chodi yn dònau llidiog. Tavlwyd yr holl stycynau i lawr, ac ysgubid hwynt, wedi ymddatod, gyda'r lliveiriant tua'r môr. Drwy ymdrechion egniol ac ymroad medrwyd achub ychydig o'r enwd toreithiog hwnw, ond collwyd y corf mawr, ac nid oedd ansawdd y gweddill vawr o beth. Vel hyny, wele eto y vlwyddyn vwyav lwyddianus a gobeithiol oeddys wedi gael o'r cychwyn yn troi allan yn vethiant a siomedigaeth vawr. Ac heblaw colli y cnwd, collwyd hevyd 60 o aneri gawsid gan y Llywodraeth ychydig cyn hyny, drwy iddynt vynd i grwydro ar y paith—a neb i vynd ar eu holau—vel na chavwyd vyth mohonynt.—Llyvr A. MATHEWS.
XII.
NEWID Y LLYWODRAETH—CAU Y DRWS.
Ar vlaen y dymest ovnadwy hono hwyliodd L. J. yn y "Nueva Geronima" o'r avon am Buenos Ayres eto, a J. Ellis yn deithiwr—un o'r vintai gyntav, ond a arosasai ar ol wedi ymblaid Santa Fe, ac a gasglasai gryn lawer o nwyddau Indiaidd trwy vasnachu gyda hwy, y rhai gymerai yn awr i'w gwerthu yn Buenos Ayres. Gyda vod y llong o'r avon gwelwyd ei bod wedi ei hysigo drwyddi pan aethai ar y traeth wrth ddod i mewn i'r avon. Bu raid cadw y pwmp a bwcedi i vynd ddydd a nos am y pum' niwrnod y parhaodd y vordaith: collasid yr angor: pan geisid codi hwyl elai yn gareiau: ac ynghyver Mar del Plata buwyd yn sugn y beisdonau bron taro y gwaelod ar bob tòn, vel mai â chroen y danedd y medrwyd ei rhedeg ar y traeth ger y Boca, Buenos Ayres.
Wedi yr hir ddirwest a'r ddiangva o'r braidd hono, erbyn cyraedd Buenos Ayres, nid oedd sevyllva pethau yno yn addawol iawn i'r Wladva. Y Weinyddiaeth wedi newid ; Sarmiento yn arlywydd, a Dr. Velez Sarsfield yn weinidog cartrevol. Yn Dr. Luis V. Varela, modd bynag, cavodd L. J. wr o ddeall cryv a chydymdeimlad gwladvaol, vel disgybl o ysgol Dr. Rawson. Drwyddo ev cyvlwynwyd i'r gweinidog yr adroddiad canlynol:
Newydd i mi gyraedd yma o'r Wladva Gymreig, Chubut, yr wyy yn brysio danvon adroddiad i'r Llywodraeth o sevyllva pethau yn y sevydliad hwnw. Hysbys i'r Llywodraeth am yr anhawsderau a'r caledi yr aethpwyd drwyddynt, ac mai ansicr oedd tynged y Wladva hyd yn ddiweddar. Mae y sevydlwyr o'u tu hwythau wedi dioddev caledi ac eisieu divrivol lawer tro; eithr ar ol y tori i vynu cyntav (1866) wedi ymdrechu yn ddewr i ymunioni ac i ymgadarnhau. Am y ddwy vlyneddd ddiweddav mae yr ysgrivenydd (L.J.) wedi ymdrechu yn ddivlin ac wedi aberthu popeth i adsylvaenu a chadarnhau y Wladva, a chael gan y Llywodraeth (ac yn enwedig yn Dr. Rawson) bob cevnogaeth ac ymddiried. Eto nid ydoedd y llwyddiant hyd yn hyn yn gwbl voddhaol—rhyw ddyryswch neu ddamwain yn atal pethau i vod vel y dymunid. Eithr y mae'n hyvrydwch ac yn valchder i mi gael datgan yn awr wrth y Llywodraeth fod trevedigo Gwladva Chubut bellach yn faith ddiogel a boddhaol. Mae addasrwydd y tir i amaethu yn awr y tu hwnt i amheuaeth, vel y provir drwy y cnydau sydd wedi eu codi yno; ac mae y faith syml hon yn rhoi sylvaen barhaol i'r sevydliad. Edrycha bobl ar y lle yn awr vel eu cartrev arosol, ac y maent velly yn codi tai brics da ar eu fermi, a pharotoi tir at y tymor nesav. Dygwn gyda mi gryn gant o lythyrau oddiwrth y sevydlwyr, i'w postio at eu cyveillion yn Nghymru yn eu cymell i ddod yno atynt, am y waith gyntav yn eu hanes. Disgwylir yr efeithia'r llythyrau hyny yn vawr ar yr ymvudiaeth Gymreig i Chubut. Hwyrach vod yr amser yn ymyl pan ellir troi tuag yno y frwd grev o ymvudiaeth Gymreig gymhellwn i yn daer bedair blynedd yn ol. Diau vod llwydd y Wladva yn dybynu ar godi gwenith. Ond nid hyny yn unig yw holl ganlyniad yr adnewyddiad presenol. Danvonwyd i'r varchnad yma y consignment cyntav o ymenyn rhagorol y lle, a chavodd werthiant rhwydd. Mae niver y buchod godro yn dal i gynyddu. Drwy'r vasnach gyda'r Indiaid mae niver y cefylau a'r cesyg yn cynyddu. Ysywaeth nid oes yn y Wladva yr un ddavad eto. Am yr Indiaid nid oes raid achwyn: yn wir mae y gwahaniaeth yn eu hymddygiad at y Wladva ragor at sevydlwyr Patagones yn rhywbeth rhyvedd. Gan mai amaethu oedd y priv amcan a gobaith, nid ydys hyd yn hyn wedi cael ond megis cip ar adnoddau eraill y wlad. Mae'r moelrhoniaid lluosog sydd ar yr arvordir o vewn cyraedd, a'r llynoedd heli yn gyvleus. Mae yno vaes eang o vlaen y Wladva ond cael amser a chyvleusderau i'w dadblygu.
Wedi rhoddi vel yna adroddiad o'r sevyllva, vy nyledswydd bellach yw rhoddi hevyd ger bron anghenion a dymunion y sevydliad: (1) Rhagor o ymvudwyr; (2) Rhagor o ofer amaethu ac aniveiliaid gwaith (3) Prinder cigvwyd, gan nad oes devaid, ac vod y da corniog yn rhy werthvawr i'w cigydda: (4) Dim digon o gynyrch i beri masnach—ond rhaid wrth gymundeb; (5) Angen ysgol ddyddiol i'r 40 neu 50 plant sydd mewn oed ysgol.—L. J.
'Cyvlwynwyd hevyd yr un pryd y ddeiseb hon:—
Mae Pwyllgor y Wladva yn dymuno eich cyvarwyddo vel ein prwy at y Llywodraeth, i ervyn arni estyn ei chynorthwy misol caredig am vlwyddyn eto. Ein rheswm dros ovyn hyn yw— vod y cnwd eleni, er yn un da dan yr amgylchiadau, yn anigonol i gadw'r Wladva mewn bara—priv fon ein cynhaliaeth—hyd gynhauav eto, gan nad oes lawnder o aniveiliaid at gael cig. Oblegid gorliviad diweddar collwyd cryn lawer o'r gwenith oeddys wedi gywain. Creda'r pwyllgor pe byddai'r Llywodraeth mor garedig a chaniatau y rhodd visol am eleni eto, y gellid gadael y blawd o'r rhestr, a rhoi rheidiau eraill yn ei le.— RHYDD. HUWS, llywydd; J. GRIFFITH, Ysg.
Ymhen rhai dyddiau cyvlwynwyd wedyn y geiseb ganlynol:"Wrth gyvlwyno i'r Llywodraeth yr adroddiad gydiol, dymuna y prwy dros y Wladva roddi ger bron yn furviol y deisyvion sy'n canlyn:—(1) Ar i'r Llywodraeth barhau y rhodd visol o $250 at luniaeth am vlwyddyn eto; (2) Ar i'r Llywodraeth gydsynio i werthu y llong "Nueva Geronima," niweidiwyd mor dost ar y vordaith o'r blaen—gan nad oes drysorva gan y Wladva i dalu am ei hadgyweirio, a thalu cyvlogau dyledus i'r capten a'r criw—ac i weddill gwerthiant y llong vynd i freitio llong arall i gludo lluniaeth i'r Wladva; (3) Ar i'r Llywodraeth sevydlu cynrychiolydd yn Nghymru i hyrwyddo ymvudwyr oddiyno i'r Wladva; (4) Ar i'r Gwladvawyr gael y gweithredoedd am y tir sydd ganddynt yn ol y gyvraith.—Hyderav y gwel y Llywodraeth resymoldeb yr ervynion hyn, ac na oedir eu cyvlawni, gan vod costau dyddiol yn mynd ar y llong.—L. J.
Yn atebiad cavwyd, ymhen 6 wythnos:—
CYHOEDDEB.—Oherwydd nodyn Don Luis Jones, a dderbyniwyd gyda'r adroddiad am Wladva Chubut, mae Arlywydd y Weriniaeth yn Erchi—Rhodder i'r Wladva vel cymorth diweddav y Llywodraeth rodd visol o $250 am y vlwyddyn bresenol o'r lav o Ebrill diweddav; (2) Vod yr arian geir am y llong brynasid yn ddiweddar at wasar aeth y Wladva i vyned vel y noda y prwy; (3) Rhodder gweithred meddiant i'r sevydlwyr am y tiroedd sydd ganddynt.—SARMIENTO, DALMACIO V. SARSFIELD, L. V. Varela.
Yn y dravodaeth gyda'r gweinidog Velez Sarsfield eve a ddanododd vod y Wladva wedi costio'n rhy ddrud i'r Llywodraeth, ac mai gwell vyddai ei symud i dalaeth Buenos Ayres y byddai dda gan lywodraeth y dalaeth hono eu cael a'u cynorthwyo, a rhoddes nodyn i fynd at raglaw y dalaeth (A. Alsina), a galwodd ysgrivenydd y gwr hwnw gyda L. J. i gynyg talu costau symud y Wladva i gyfiniau Hinojo, a thalu y ddyled oedd arnynt i'r Llywodraeth Genedlaethol.
Cauasai drws y Llywodraeth yn glep. Dengys y cylch—lythyr canlynol, ddanvonwyd ar y pryd i'r Wladva, beth vu y symudiad nesav.
Vy nghyveillion hof.—Yr wyv ar vedr cychwyn i Gymru i geisio rhagor o ymvudwyr: ac yn danvon hyn o gyvarchiad i chwi i roi cyvriv o'm prwyadaeth drosoch yma. Erbyn i mi gyrhaedd yn haner llongddrylliad, yr oedd eisieu o leiav £200 i adgyweirio y llong—dros £100 o gyvlogau y morwyr i'w talu, tra yr oedd wedi costio £180 i'w rhedeg am y tri mis y bu genym, heb enill dim freit. Gwerthwyd hi, ac ni chavwyd ond £150 am dani. Gan vod y weinyddiaeth bresenol yn newydd, rhoddais i'r Llywodraeth adroddiad cyvlawn o sevyllva'r Wladva; ond dywedodd y Gweinidog cyn darllen vy adroddiad vod y Llywodraeth wedi pendervynu na wneid DIM yn rhagor i'r Wladva. Gwesgais eich govynion bob yn un ac un: bum yn ddivlin i ddwyn pob dylanwad vedrwn gwelais yr Arlywydd Sarmiento ei hun amryw weithiau; gwelais y gweinidogion bob un, a chevais gymeradwyaeth oreu Dr. Rawson. Ond y cwbl vedrais gael i chwi ydoedd £50 y mis am vlwyddyn eto; dim i'r Indiaid, dim at ysgol, na dim at ymvudiaeth. Wedi gweled nad oedd dim i'w ddisgwyl oddiyno, meddyliais mai y peth goreu i'w wneud oedd i mi vynd i Gymru i vynegu ein rhagolygon, a chael ymvudwyr allan atom. Yr wyv ovidus iawn na chawswn rywbeth i'r Indiaid. Hwyrach y digiant, ond byddwch chwi garedig wrthynt. Nid wyv yn gweled vy hun wedi gallu gwneud ond ychydig drosoch y waith hon. Ond coeliwch vi cevais vwy o draferth a blinder i gael a gevais nag erioed o'r blaen. Ymdrechav wneud y difyg i fynu drwy ail vintai o Gymru. Hauwch gymaint allwch: peidiwch ovni prinder llavurwyr: codwch dai yn barod i ymvudwyr: ceisiwch roddi gwedd lewyrchus ar ein Gwladva erbyn y delo newyddddyvodiaid.—L. J.
Talwyd cludiad L. J. gan y masnachwyr oedd yn cyvlenwi lluniaeth y Llywodraeth i'r Wladva, ac ymgymerasant â danvon y lluniaeth am y vlwyddyn y cyvle cyntav geid. Rhoddodd yr Arlywydd Sarmiento lythyr cyvlwyniad i L. J. at y Gweinidog Arianin yn Llundain—Don Norberto de la Riestra, a rhoddodd Dr. Rawson iddo y llythyr canlynol:
Dymuno yr wyv i chwi vordaith lwyddianus, ac y llwyddwch i droi rhedliv cryv o ymvudwyr i Wladva newydd Chubut. Fy marn i yw, y bydd y Wladva hono yn dra llwyddianus, ac vod yn y wlad hono le cartrevu cysurus i viloedd o ymvudwyr Ilavurus, a drawsfurvir yn y man yn vreinwyr goleuedig a dedwydd o'r Weriniaeth Arianin. Os gall y varn hon vod o ryw ddevnydd i chwi mewn rhyw vodd, bydd hyny yn voddlonrwydd mawr i'r eiddoch—G. RAWSON.
XIII.
LLONGAU ΕΙ MAWRHYDI TRITON A CRACKER—TREVEDIGAETH BRYDEINIG Y FALKLANDS.
Yn y digalondid a'r chwithdod cyntav wedi sevydlu'r Wladva, gwnaeth rhai o bobl anvoddog y cyvnod helbulus hwnw ddeiseb ddistaw at raglaw y Falklands (y drevedigaeth Brydeinig gerllaw) i ovyn cael eu symud oddiyno i ryw van arall. Y Falklands oedd cyrchva pysgotwyr moelrhoniaid vynychent arvordir y Wladva ar y pryd, a thrwy un o'r llongau hyny y cavwyd cyvle i ddanvon achwyn gyda dau o'r gwladvawyr. Yr oedd bwrdd prwyol Ymvudiaeth Brydeinig (a'i orsav yn Lerpwl) yn cilwgu o'r dechreu ar yr ymvudiad i'r Wladva, a chyhoeddasid Rhybudd Gochel i ymvudwyr rhag mynd yno, a adnewyddwyd wedyn yn 1872, pan ddylivai ymvudwyr i'r Wladva o Gymru a'r Unol Daleithau.
Proclamasiwn—Rhybudd i Ymvudwyr i avon Chupat, Patagonia.—Rhybuddiwyd ymvudwyr o'r blaen rhag myned i'r van uchod, am y rheswm vod y sevydlwyr yno wedi syrthio i drybini mawr, ac vod natur y wlad yn gwbl anaddas i ddibenion amaethol. Ymddengys, er hyny, vod rhai yn myned yno eto; gan hyny erchir gan y Llywodraeth i rybuddio eto. Yn yr adroddiad diweddav gavodd y Llywodraeth [adroddiad y "Triton"] dywedid vod y Wladva mewn sevyllva gyvyngrhai o'r sevydlwyr mewn perygl newyn, heb gysgod, ac heb waith—ac os na allai neu na wnelai y Cyngor eu cynorthwyo, y byddai dioddevaint mawr. Velly, mae y Bwrdd yn rhybuddio eto ar i ymvudwyr ystyried yn ddivrivol beth a wnant wrth ymvudo i'r Wladva, ar y Chupat: ac iddynt govio, os gwnant ar ol y rhybudd hwn, mai arnynt hwy eu hunain y bydd y bai am unrhyw ddioddevaint ddaw arnynt.—ALFRED H. ENGELBACH.
Velly, pan gavodd rhaglaw y Falklands y ddeiseb lechwraidd, a chael holi y ddau wrthgiliasent. llythyrodd yn ebrwydd at yr awdurdodau llyngesol Prydeinig yn Montevideo (yr orsav agosav) ar i un o longau ei Mawrhydi wanu i lawr i'r Chupat i chwilio i'r helynt. Rhag i hyny vod yn dramgwydd i'r Llywodraeth Arianin, cynygiwyd mordaith i un o swyddwyr y Llywodraeth hono (Arenales) i vyned yn y "Triton" gyda R. G. Watson, ysgrivenydd y llys—genad Prydeinig. Hyny oedd achlysur cyntav i longau rhyvel Prydain alw yn y Wladva; ond y maent wedi galw agos bob blwyddyn ar ol hyny. Bu y dravodaeth hono a'r ymchwiliad yn voddion i esmwytho meddyliau a definio yn well y cysylltiadau a'r trevniadau o hyny allan. Yr oedd sevyllva y Wladva yn y man iselav vu arni. Cyhoeddwyd y gohebiaethau hyny yn llyvryn Seneddol; a dyddorol, os rhyvedd, yw dirwyn yr edavedd swyddogol, a'u nyddu yn llinyn dealladwy. Dengys yr adroddiad hwnw, nid yn unig ddilunwch pethau yn y Wladva, ond hevyd mor amhroviadol o nodwedd y wlad a'r bobl oedd yr adroddydd. I rai hysbys o'r Wladva, ac o'r helyntion govnodir, mae yr adroddiad yn wyrgam a rhagvarnus. Ond dodir y dyvynion canlynol, modd y gwelo'r darllenydd drosto ei hun:—
I Mr. Jones, Coleg y Bala, y mae tadogi y Wladva hon, yr hwn a ddymunai sevydlu gwladva lle y deallid Cymraeg, i'r hon y gallai pobl yn siarad yr iaith hono yn unig ymgrynhoi, heb vod o dan anvantais oblegid hyny, vel mewn gwledydd eraill. Y prwyad ddanvonwyd ymlaen i edrych y lle oedd un Lewis Jones, a chydag ev un Mr. Parry—y rhai yn ol a ddywedir wrthyv a arosasant ar y Chupat am un diwrnod yn unig. Wedi dychwelyd ohonynt i Gymru rhoisant adroddiad mor lachar am Patagonia vel lle priodol i sevydlwyr Cymreig, vel y pendervynodd M. D. Jones vyned ymlaen gyda'i gynllun. Yr oedd yn ddechreu Hydrev pan gyraeddodd yr ymvudwyr i'r dyfryn, yn lle mis Mai vel y dylesid. Yr oedd L. J. wedi cael o Patagones gyvlenwad o luniaeth, mewn rhan drwy dynu biliau ar Loegr ac ar goel. Yn y cyvamser yr oeddid yn hyderu ar Dr. Rawson, y gweinidog cartrevol; ond cyn i'r cyvlenwad gyraedd galwodd L. J. gyvarvod o'r Pwyllgor, a dywedodd ei vod yn anobeithio cael cymorth y Llywodraeth, a'i vod ev velly—yr hwn yn y savle a ddaliai a'r rhan gymerasai i dynu eraill yno, ddylasai vod yr olav i'w gadael,—yn bwriadu ymadael o'r lle, a myned i rywle y gallai wneud yn well. Velly, gyda 3 neu 4 eraill, eve a aeth ymaith yn y llong oedd yn barod i hwylio : ceisiodd wedyn pan ddaeth y llong cyvlenwadau—gymeryd y blaen, ond ni vynai y sevydlwyr mohono mwy. . . . . Am y 19 enw wrth y ddeiseb ddanvonwyd i'r Falklands, ymddengys nad oedd amryw o'r rhai enwir wedi ei harwyddo, vod 5 yn blant, ac vod 4 oedd a'u henwau i lawr heb erioed glywed son am y ddeiseb: velly nid oedd ond 9 a thri plentyn am symud, tra'r oedd 90 o'r 130 sevydlwyr yn dymuno aros lle maent, ac yn voddlawn ar eu sevyllva. Mae dyfryn y Chupat yn meddu gweryd priddog, cyvoethog, tra addas naill ai i bori neu amaethu: ac y mae'r rhanbarth y gellid cymhwyso y desgriviad hwn ato, gellid cyvriv, yn abl cynal poblogaeth o 20,000. Mae gan y sevydlwyr yn awr (1866) 60 erw o wenith allan o'r ddaear: 62 o ddynion mewn oed, ydynt wedi bod yn ddyval i lusgo eu pethau o lan y môr, cynull coed tân, codi cloddiau a thai, a gwneud 10 milldir o fordd, vel nas gellir eu cyhuddo o vod yn ddiog. Ymhen dwy vlynedd caif pob un weithred am 100 erw o dir. Cyvrivant y bydd cynyrch 30 erw, yn ol 1000lbs i'r erw, yn ddigon i gynal y sevydliad dros y tymor nesav, a thalu hevyd ran o'r ddyled vawr sydd arnynt, heb vai yn y byd o'u tu hwy. Ond ni ddylid dybynu yn gwbl ar wenith, rhag y digwydd i un o'r pamperos mawr sydd yn ysgubo dros y gwastadeddau hyn weithiau, a'u dinystrio mewn un noswaith. Y mae ganddynt 50 o o wartheg a 30 o aneri.—R. G. WATSON.
Teg, hevyd, â'r adroddydd yw rhoi y dyvynion o'r achwynion gyfroasai raglaw y Falklands. "Yn ol yr addewidion teg wrth gychwyn y Wladva, ymunodd llawer o Gymry yn y mudiad, yn y llawn obaith o gael pob peth yn iawn yn y wlad odidog ddarluniasid gan yr arweinwyr. Disgwyliem bob parotoad ar ein cyver; ond pan laniasom wedi ein mordaith hir, ni chawsom ond yr awyr agored nos a dydd, a llawer ohonom wedi bod mewn eisieu bwyd—yn enwedig y rhai ar y Chupat. Am wythnosau nid oedd genym i'n cadw'n vyw ond dwy viscïen y dydd bob un, ac o'r diwedd dim ond cwpanaid vach o ddwr a the i gynal ein cyrf gweiniaid, ac nid oes genym yn awr ond bara caled a dwr. Nid oes gan y Pwyllgor ddim darpariaeth ar ein cyver a'n mawr angenion. Yr ydym megis caethion a charcharorion: nid oes yn y Wladva hon na rhyddid na chyvleusdra i symud oddiyma. Gan hyny yr ydym yn apelio atoch chwi vel rhaglaw Prydeinig i gydymdeimlo â ni a'n symud i'r Falklands. Er mwyn Duw, trugarewch wrthym, a dygwch ni i ryddid Prydeinig.—(19 o enwau).
D. John a Joseph Jones dystiolaethent: Nid oedd genym ddevnyddiau adeiladu—coed, ceryg, na chlai: nid oedd genym gefylau, drylliau na chwn: lladdem i'w bwyta bob bwystvil ac aderyn vedrem ddal—cadnaw, barcut, skunk. Addawsai
y mesurydd tir, Diaz, vod yn llywydd yn lle L. J., ac y cymerai oval na vyddem heb vwyd, ond ni welsom mohono ev na bwyd. Dioddevasom yn ddychrynllyd o newyn ac oerni; dim cysgod i orwedd dano; dim i'w vwyta ond cig cefyl; gorweddem yn y llaid a'r llaca: collodd tri ohonom y fordd na welwyd byth mo'nynt: bu 14 varw: bywiem mewn ovn a dychryn rhag Indiaid: da vyddai gan bawb foi i rywle oddiyno o olwg y vath drueni a dioddev: nid oes ganddynt ddillad, ac os byddant yno y gauav rhaid y trengant oll.
O'r ochr arall, ebai J. Ellis a 21 o benau teuluoedd: "Mae'r adroddiadau drwg ledaenwyd am danom yn dra eithavol. Gwnaed y chwedlau hyny gan 4 neu 5 o ddynion anvoddog, a fugio enwau 5 eraill. Cydnabyddwn ein bod yn cael digon o vwyd i'n cadw mewn iechyd da, a'n bod wedi hau tir digonol i vedru disgwyl cnwd digonol at gynhauav 1867.
Pan gyraeddodd adroddiad y "Triton" i law L. J., eve a varnodd yn bryd danvon gair at y llys—genad Prydeinig:—
At J. Buckley Matthew, Ysw., C.B.—Yr wyv newydd gael copi o adroddiad R. G. Watson am y Wladva ar y Chupat, ac yn cyvlwyno i chwi vel hyn vy ngwrthdystiad yn erbyn amryw o'r camsyniadau wneir yn hwnw. Goddevwch i mi ddatgan, vel dinesydd Prydeinig, mai syn a govidus yw canvod swyddog llysol wedi camddeall mor ddybryd yr helyntion y danvonwyd ev i'w chwilio, ac yn mynegu barn mor bendant a dywediadau mor ddisail am bobl nad oedd yn deall eu hiaith na'u syniadau. Dyvynir tystiolaeth 8 o bobl am y "twyll" oedd yn yr hysbysleni Cymraeg am y Vintai Gyntav. Mae 4 o'r rhai hyny heb vedru Saesneg, 3 arall yn dra amherfaith, a'r llall oedd awdwr y ddeiseb fugiol i'r Falklands! Dywedir i Mr. Ford (eich blaenorydd yma) vynegu vod Dr. Rawson wedi beio L. J. yn bendant am y costau dibris yr aethai iddynt i dderbyn yr ymvudwyr. Ni ynganodd Dr. Rawson erioed wrthyv y vath beth. Wrth gwrs, govidiai ev, a govidiwn inau. Vy unig gostau i yn Buenos Ayres oedd am vwyd i'r ymvudwyr, a chartro y llong "Juno" i'w cludo i Patagones a Chupat, ac am yr hyn yr aethai Mr. Denby yn veichiau. Y "costau dibris" hyny oeddynt 1,000 o ddevaid, a'u cludiad, 300 sachaid o wenith, gwartheg, cefylau, coed, &c., a 3 mis o draul y llong, yr oll hwyrach yn £1,400. Dywed Mr Ford na addawsai y Llywodraeth ddim at dreuliau y sevydlu. Naddo. Ond yn mis Medi y vlwyddyn hono talodd y Llywodraeth £800 at y draul hono, a gwarantu tal am y devaid i Aguirre a Murga, a gwerth mil o bunau wedyn o aniveiliaid. Cydnabyddir ar bob llaw mai difyg mawr y sevydliad yw prinder aniveiliaid ac ofer: ond pob peth sydd ganddynt o vy "nhreuliau dibris "i y maent. Y gwenith ddygais i yno hevyd a gadwodd y Wladva'n vyw wedi colli y tymhor hau. Er y pryd hwnw mae y Llywodraeth wedi talu £2,000 o gymorth misol i'r sevydlwyr, am yr hyn nad oes vuwch na davad na chefyl nac oferyn wedi eu chwanegu. Pan ddywedai capten y "Fairy" vy mod i yn cadw "store," dylasai wybod mai anwiredd ydoedd, gan mai y Pwyllgor ovalai am y stor ac nid y vi. Y Mr. Parry y cyveirir ato mor gwta yw mab Lieut.—General Syr Love Jones—Parry. Buom yn y Chupat nid am ddiwrnod, ond am wythnos, ac yn New Bay am wythnos arall. Pan ddychwelsom ni roddasom adroddiad llachar yn y byd. Ni thynwyd biliau heb awdurdod: ond pan aeth pob peth bendramwnwgl dyrysodd pob trevniadau masnachol, a bu raid i'm dilynwyr wynebu canlyniadau eu cynllwynion hwy eu hunain. Parthed awgrymiadau personol yr adroddwr am danav vi, digon yw cyveirio at y faith vod Dr. Rawson a minau yn parhau i gydweithio yn galonog i gadarnhau y Wladva, ac vod y sevydlwyr yn voddlawn iawn ar vy nghyvarwyddyd; tra mae'r bobl oedd yn adrodd ac yn athrodi wrth yr ymchwiliwr wedi hen gevnu ar y Wladva, a vinau, "vel y dylaswn, yn aros yr olav."—L. J.
Ar ol ymweliad y "Triton," bu cyvyngderau blin ar y Wladva. Buwyd 13 mis heb gymundeb gydag unman arall o'r byd! Digwyddasai rhyvel mawr Frainc a'r Almaen heb i'r Wladva glywed am ei dechreu na'i diwedd. Eithr Ebrill 4, 1871, daeth y gwnvad Prydeinig "Cracker" i edrych helynt y Wladva. Ond cyn rhoddi adroddiad o hyny gwell yw cydio pen yr edevyn wrth yr adeg yr aethai L. J. i Gymru (1869) gyda'r dyvyniadau canlynol o'r llyvr seneddol hwnw am y "Cracker."
Llys—genad Prydain at Iarll Granville.—Gwelais yn newydduron y ddinas hon vod pryder rhag vod y Wladva ar y Chupat mewn eisieu, ac yn awgrymu mai da vyddai ped elai un o longau Ei Mawrhydi i lawr yno i ymchwilio; yn enwedig gan vod yr Indiaid tua Bahia Blanca yn ymdervysgu. Daethum o hyd i Mr. Carrega, y masnachwr vyddai arverol o ddanvon i'r Chupat roddion lluniaeth y Llywodraeth, ond y rhai a dervynasent yn Mehevin, 1869. Dywedai eve vod L. J. (Chubut), wrth ysgrivenu ato ev o Brydain, yn govyn iddo barhau i ddanvon bwyd i'r Wladva, gan y disgwyliai ddanvon ymvudwyr yno at ddiwedd y vlwyddyn, drwy Gwmni Llongau furviesid yno i hyny. Wedi hyny cawsai lythyr arall oddiwrth L. J., o'r Wladva, yn hysbysu vod y llong wedi cyraedd gyda rhai ymvudwyr, a pheth llwyth, ac yn ervyn arno ev (Carrega) gael gan y Llywodraeth roi rhoddion eilwaith i'r Indiaid, vel y byddai'r Wladva yn ddiogel rhag y rheiny. Yr oedd hyn yn Mai, 1870; eithr ni wnai y Llywodraeth ddim, ac nid ymholai chwaith i dynged y Wladva. Ni vedrais olrhain y llong ddiweddav oddiyno ["Myvanwy"], ac ni wyddid am yr un cymundeb gawsid wedi hono. Ceisiais ymhob modd wasgu ar y Llywodraeth wneud ymchwiliad; ond yn gwbl over: yr oedd yr ymladd yn Bahia Blanca ac Entre Rios yn ddigon o esgus. Gan nad oedd dim yn tycio, apeliais at Capt. Bedingfield, priv swyddog yr orsav lyngesol, i anvon gwnvad i'r Chupat. Ond barnai y swyddog hwnw pe buasai rhyw wasgva ar y Wladva y mynasent ryw gymundeb gyda Bahia Blanca neu Rio Negro. [Gwel hanes yr ymdrechion wnaed.] Awgrymai L. J. wrth Carrega pe delai llong tuag atynt mai doeth vyddai i hono alw y tuallan i aber yr avon. Bid a vyno, chwi sydd yn gwybod beth vedr y llongau wneud: ond ystyriav vy hun wedi gwneud vy nyledswydd wrth roddi ger eich bron y sevyllva a'r pryderon. —H. G: MACDONNELL.
Oddiwrth hynyna ve welir sut y daeth y "Cracker," pan oedd gyvyng ar y Wladva—a da iawn vu y dyvodiad hwnw. Mae yn engraift, hwyrach, o lawer gwasanaeth distaw wneir gan Lywodraeth Prydain. Dyry y dyvyniadau canlynol o adroddiad y Cracker ryw ddirnadaeth o'r cyvwng yr aethai y Wladva drwyddo, ac o'r sevyllva a'r syniadau erbyn hyny.
Ebai Capt. Denniston: "Mae'n hyvrydwch mawr i mi vedru mynegu ddarvod i ni gael y Gwladvawyr mewn iechyd ac ysbryd rhagorol, er mor ryvedd hyny wrth ystyried na vu cymundeb rhyngddynt â'r byd er's 20 mis, oddigerth pan ddaeth L. J. ac 11 o ymvudwyr yn Mai, 1870. Yr oedd diolch y bobl druain hyn i lys—genad Prydain'am ymholi yn eu cylch ac i'w helynt, yn olygva doddedig; a diau y bydd yr ymweliad hwn yn voddion i ddileu y teimlad o lwyr unigedd oedd yn peri i rai ohonynt ddigaloni. Mae y Wladva wedi dioddev dwy vlynedd o sychder [camlesi anigonol], vel mai methiant vu y cynhauav. Cyvrivir vod eu cnwd tuag 16 tunell o wenith—tua digon i gyvlenwi bara iddynt. Ond y mae hyny yn perthyn i ychydig bersonau: dau deulu heb ddim grawn; a 10 heb yn agos ddigon; tra nas gellir disgwyl cymorth am bedwar mis o leiav. Velly, wedi archwiliad trwyadl i'r sevyllva, pendervynais gymeryd y cyvrivoldeb arnav vy hun i hebgor o vwyd y llong i'r rhai tlotav (19 mewn niver) 504 lbs. bara caled, 309 lbs. pys, 404 lbs. blawd, 308 lbs. blawd ceirch, 201 lbs. tatws parotoedigoll 1724 lbs. o luniaeth, a 200 lbs. o sebon. Mae yr holl Wladva wedi bod am ddeng mis heb un math o groceries, gan vyw ar vara menyn, llaeth, a chig helwriaeth. Cyn y dervydd hwn disgwyliant y bydd cynydd y gwartheg yn ddigon i gyvlenwi eu hangenion. Mae'r pellder i Patagones (y man agosav atynt) yn 200 milldir o wlad ddifaeth ddi—ddwr, vel mai yr unig gymundeb ymarverol iddynt vyddai llong vechan o ryw 80 tunell. Gwelais bron bob un yn y Wladva, ac ni chlywais ond un gri, sev difyg cymundeb, ac velly ddifyg holl vân angenion cyfredin bywyd. Ni ynganodd neb ddymuniad i adael y lle; a chytunent oll y byddent yn gwbl gysurus pe cawsent y rheidiau cyfredin yn eu cyraedd. Mewn cyvarvod o'r holl sevydlwyr govynwyd i mi ganiatau cludiad i Mr. L. Jones, er mwyn iddo ymdrechu cael Ilong at eu gwasanaeth; ac i Mr. D. Williams, Oneida, ddisgwyliai gyvlenwad o ofer amaethu o'r U. Daleithau—a chaniateais y ddau gais.—R. P. DENISTOUN.
Ac ebai'r meddyg Turnbull: "Ymwelais yn bersonol ag agos bob un o'r trigolion, a gallav velly dystio i iechyd rhyveddol yr holl sevydliad, yn neillduol y plant. Yr oedd y casgliad yn anocheladwy—vod y newid o hinsawdd Cymru i'r hinsawdd dymherus hon wedi bod o anrhaethol les iechydol i'r trigolion.
Vel rhan o adroddiad y "Cracker," cyhoeddwyd am y tro cyntav ystadegaeth vanwl am bawb a phob peth yn y Wladva ar y pryd:—Poblogaeth 153, teuluoedd 34, gwartheg 148, aneri a lloi 80, bustych 73, cefylau 108, cesyg 39, ebolion 4, devaid 9, erwau o wenith 257, cnwd llynedd 37,850lbs, haidd 1300lbs.
Hynyna! ymhen chwe' blynedd! wedi dioddeviadau, cynhenau, aberthau, ymdrechion, dewrder, eiddilau, egnion, cydweithio, cynllunio, methiantau.
TREVEDIGAETH BRYDEINIG YW Y FALKLANDS yn gorwedd ryw 150 o filldiroedd i'r dwyrain oddiar arvordir deheuol y Weriniaeth Arianin (ddynodir yn gyfredin "Patagonia"). Hinsawdd wyntog a niwlog sydd i'r ynysoedd; ond megir llawer o ddevaid a daoedd yno. Bu cryn giprys am y Falklands ar un adeg rhwng llywodraethau Frainc, Prydain, a Spaen, ac am gyvnod byr bu yr Unol Daleithau hevyd yn llygadu yn eu cylch. Vel olyniaeth i etiveddiaethau Spaen, mae y Weriniaeth Arianin o dro i dro wedi gwrthdystio yn erbyn meddiant Prydain ohonynt. Ond llywodraethir hwynt gan Brydain er's blyneddau lawer vel Trevedigaeth y Goron (Crown Colony), gydag awdurdodau gwladol, milwrol, ac eglwysig. Hon yw yr unig drevedigaeth Brydeinig yn Ne Amerig briodol; ac edrychir arni vel cartrev gorsav lyngesol De—ddwyrain Amerig, er mai Montevideo yw cyrchva benav y llynges. Oblegid hyn, mae cyswllt wedi bod o dro i dro rhwng y Wladva a'r Falklands. Llongau rhyvel Prydain yn galw ar eu fordd i neu o'r Falklands i saethu a threulio gwyliau hav mewn hinsawdd dymerus: ac wrth vod y morwyr a'r swyddogion o'r un bobl a magwraeth a'r gwladvawyr, bydd cyvathrach a thravnidiaeth rhyngddynt.
Yn y 7 degau, a chyn hyny, arverai llongau pysgota moelrhoniaid chwilena arvordir y Wladva a'r tiriogaethau ereill, a gwneud y Falklands yn orsav eu masnach. Un o'r llongau vynychent y lle oedd yr "Irene," Capt. Wright; ac un tro, pan mewn cilvach tua Tombo Point, ryw 80 milldir islaw y Wladva, daethant ar draws gweddillion dynol, a lle bedd gerllaw. Ni avlonyddwyd ar y bedd, ond cavwyd yn ei ymyl oriawr arian, ag arni enw'r gwneuthurwr, J. Hughes, Čarnarvon; cyllell boced a'r llyth'renau D. D. arni: a botwm livrai lled hynod. Deonglai y Wladva y creiriau hyny vel yn perthyn i bobl y llong vach "Denby," gollasid yn 1868—9: D. D. oedd D. Davies, mab T. Davydd, Dyfryn Dreiniog; y botwm livrai berthynai i T. Dimol pan wasanaethai glwb yn Manchester; yr_oriawr vel un a roisid i oval Cadivor Wood i'w glanhau yn Patagones. Aeth Capt. Wright a'r creiriau i'r Falklands, gan wneud datganiad yno o'r darganvyddiad. Bu peth gohebiaeth rhwng L. J. a'r rhaglaw yno yn eu cylch, ond newidiwyd y rhaglaw hwnw, ac o ddifyg cymundeb rhwng y Falklands a'r Wladva, collwyd golwg a hysbysrwydd yn eu cylch.
Bu Esgob y Falklands, cyn ei ddyrchavu i'r meitr, yn genadwr at vrodorion Tierra del fuego, vel dilynydd i'r merthyr Allan Gardner, a gwnaeth Cymdeithas Genadol De Amerig orsav genadol yno iddo ev, ac ysgol genadol yn y Falklands. Mae stori Allan Gardner a'i ddilynwyr newynwyd mewn ogov gan y Fuegiaid yn evengyl genadol wasanaethodd i sylvaenu a phai hau y gymdeithas hono; ond hunan—alltudiaeth yr esgob (Mr. Stirling y pryd hwnw) am dair blynedd ei hunan i ganol y rhai isav dynol hyny, a sevydlu yno ysgol genadol y Falklands (Keppel Island), yw addurn penav yr ynysoedd. Erbyn hyn y mae rhan o vaes llavur yr esgob wedi d'od yn sevydliad Arianin haner lyngesol a physgotol, a'r rhan arall o dan nodded Chili.
Er's blyneddoedd bellach aethai y Falklands yn rhy lawn o aniveiliaid a devaid, a bu raid i'r rhai cevnog oddiyno symud eu deadelloedd i Diriogaeth Santa Cruz (yn y cyver) a Chydvor Machelan. Erbyn hyn mae y rhimyn o'r tir goreu gyda'r Cydvor, a chyda'r Andes, ac oddiyno i'r Werydd, yn dryvrith o ddevaid "pobl y Falklands:" hyd nod maent wedi gweithio gyda'r arvordir i gwr deheuol tiriogaeth y Wladva (Chubut). Mae agerlongau y "Kosmos" (Ellmynig) yn galw yn y Falklands a Montevideo a'r Cydvor, wrth vynd drwodd i Chili, a llywodraeth y Falklands yn talu £200 y tro iddynt, heblaw cludiad teithwyr a nwyddau.
Yn 1873 bu un cyswllt masnachol arall rhwng y Wladva a'r Falklands, sev pan brynodd Geo. M. Dean & Co., 50 o gefylau y Wladva i'w gwerthu yn y Falklands, a gadael dilladau yn gyvnewid am danynt. Bu hyny o gryn hwb i'r Wladva ar y pryd, a diau i'r cefylau dalu i'r masnachwr. Tua'r un adeg y galwodd yr "Allan Gardner"—llong Cymdeithas Genadol De Amerig, gyda'r Esgob Stirling ac eraill ar ei bwrdd, ar ei fordd o Tierra del fuego i Patagones. Danvonodd yr Esgob oddiyno ynddi hi vuches newydd i Mrs. L. J., yn lle y rhai werthasid i dalu cyvlogau gweithwyr y guano tua'r adeg y galwasai eve.
XIV.
RHEOLAETH Y PWYLLGOR GWEINYDDOL.
Cyn cychwyn o Lerpwl yn 1865 yr oeddid wedi sylweddoli mai rhyw vath o barhad ar y Pwyllgor Gwladvaol gychwynasai y Mudiad vyddai y furv o reolaeth esmwythav i drevnu dadblygiad y Wladva wrthi. Elai amryw o wyr blaenllaw y Pwyllgor hwnw yn y Vintai Gyntav—pobl wyddent y syniadau a'r trevniadau y gweithiasid wrthynt, a chyda hwy rai o'r penau cliriav y daethpwyd i'w hadnabod pan ymgynullodd y vintai i gychwyn. Ar y syniad hwnw yr etholwvd gan y vintai ei hun 12 o Bwyllgor (i'w newid bob blwyddyn) a chadeirydd hwnw i'w ystyried yn llywydd y Wladva. Toc wedi glanio gwelwyd angen cyvraith a llys, a threvnwyd i ethol ynad a rhaith (ar wahan i'r Pwyllgor Gweinyddol) i ystyried pob mater o ddadl a hawl ac iawnder. Galwyd hyny yn llys rhaith a llys athrywyn (arbitrate)—yr olav hwn o 3 neu 5 aelod, dewisedig wrth reol ac oblegid gwasanaeth, rhag i'r llys rhaith vyned yn avrosgo a beichus ar achosion bychain. Yn ol y drevn hon ymgynullai y Pwyllgor am 10 mlynedd, unwaith y mis, ac amlach os byddai alw, i dravod pob mater o drevnidedd a darpariaeth. Gwnaed yn yr eisteddiadau plaen hyny lawer cynllun o ddeddviad y bu dda wrthynt am vlyneddoedd lawer; mwy ymarverol, ysgatvydd, na'r aneiriv "orchymynion" ac "ordeiniadau" vwrir allan mor aml yn ol y furviau Archentaidd. Heblaw y pendervyniadau achlysurol, mabwysiadwyd y Deddvau canlynol: Breiniad ac Etholiad, Gweinyddiad Barn, Rhaniad y Tir, Tyddynod, Addysg Elvenol, Tavarnau (masnach Indiaidd), Cartrevlu, Bugeila, Caeau a Thervynau, Fyrdd a Fosydd, &c.
O dan yr oruchwyliaeth hono bu yn llywyddion a chadeirwyr y pwyllgor William Davies, Rhydderch Huws, Edward Price (hyn.), H. H. Cadvan, T. Davydd, J. B. Rhys, J. Griffith, L. J., J. C. Evans.
Weithiau byddai raith lled vywiog, a byddai raid wrth ddoethineb i gadw pethau yn weddaidd. Ambell etholiad hevyd rhedai teimladau yn lled uchel; ond tawelai pob peth ar ol cael y canlyniad yn deg a chlir: hwyrach na vyddai namyn 30 o etholwyr, na'r boblogaeth onid 90, eithr elid drwy y dewisiad mor aiddgar ac mor vanwl a phe buasai mil ar yr etholres—vel y datganodd A. Jenkins un tro vod ei bleidlais ev mor bwysig iddo yn y Wladva a phe buasai bendevig yn Mhrydain.
Yn engraift o'r gweinyddiad lleol hwn gododd y Wladva iddi ei hun at gadw trevn a heddwch, covnodir yma un tro pan archodd Llys Rhaith atavaelu gwenith un oedd yn gomedd talu yn ol dyvarniad y Llys hwnw [nid oedd arian yn y wlad y pryd hwnw]. Galwyd y cartrevlu allan, a thrawdiwyd yn llu arvog at y tŷ, gyda throl a chefyl yn yr osgordd at gludo'r gwenith: darllenodd y Llywydd (H. H. Cadvan) yr ŵys a gorchymyn y llys i'r teulu wrth y drws: yna archwyd i ddau o'r rheng vynd i'r tŷ a chario'r gwenith i'r drol i'w werthu yn y pentrev, lle'r oedd y merched a'r plant yn gynulledig ac yn disgwyl y canlyniad mewn pryder: ac aeth pawb adrev heb i ddim anymunol ddigwydd (er mor vygythiol yr ymddangosai pethau) gan deimlo vod iawnder ac urddas cyvraith wedi eu parchu. Gellir gwenu, hwyrach, ar y peth yn awr, a throion cyfelyb : ond dangosai yr agweddau a'r amgylchiadau hyny y syniad dwvn oedd yn y gwladvawyr am drevn ac iawnder, a'r ddysg y ceisid gweithredu wrthi am y deng mlynedd y cavwyd llonydd i wneud hyny. Ysywaeth, y syniad Arianin i lywodraethu'r Wladva o'r cychwyn oedd SWYDDOGA—malldod mawr y Weriniaeth erioed, a chyvystyr o ran efaith i'r milwra ovnadwy sydd yn llethu Ewrob. O 1865 i 1874—y naw mlynedd o gyvyngderau ac unigedd—bu raid i'r Wladva nyddu o'i hamgylchiadau ei hun drevniant o hunan—reolaeth i'w chadw o vewn rhwymyn gwareiddiad a chynydd. Oddigerth pan avlonyddai L. J. ar v Llywodraeth am ryw gymorth i vedru byw rywsut yn yr anhawsderau vaglai y sevydliad, ni roddai yr awdurdodau Arianin sylw yn y byd i'r bagad pobl ymblanasent ar eu finau deheuol. O ran hyny, amrwd iawn oedd y Genedl Arianin ei hun y dyddiau hyny, a thraferthion gwladol lawer yn llesteirio ymdrechion ei gwleidyddwyr i geisio cael peth trevn o'r caos. Hono ydoedd yr adeg y bu i Chili wthio ei hòniad o arbenogaeth ar Patagonia. Digwyddai vod Dr. Irigoyen yn gynrychiolydd Archentina yn Chili ar y pryd. Ni vlinasid y wlad hono gan chwildroadau vel y dirdynid yr Arianin, ac wrth weled y gwagle mawr ar vap ei chymydog i'r de a'r dwyrain, a hithau wedi ei chyvyngu i'r rhimyn cul o dir rhwng yr Andes a'r môr, tebyg i Chili eiddigeddu a blysio Patagonia. Oddigerth y rhibyn sevydliad dilewyrch ar y Rio Negro (Carmen neu Patagones) ni veddai Archentina yr un bachiad tiriog a sevydlog yn yr holl diriogaeth vawr. Ymddengys y gwyliai yr eryrod gwleidyddol (Mitre, Rawson, Irigoyen, &c.) yr hovranau yr ochr arall i'r Andes, ac yn y man medrwyd cael gan yr Unol Daleithau ymyryd yn garedig i wneud cytundeb rhwng y ddwy wlad oedd yn llygadu am yr ysglyvaeth. Dengys bywgrafiad Dr. Rawson, gyhoeddwyd wedi ei varw, y rhoddai eve bwys dirvawr ar y meddiant Arianin o'r Wladva: a phan roddodd Gen. Osborne ei ddyvarniad wrth athrywynu rhwng y ddwy wlad rhoddai yntau bwys mawr ar y faith vod teyrnedd ymarverol Archentina wedi ei sevydlu ar y Chupat. Ni wyddai y Wladva ddim o hyn am vlyneddoedd wedyn.
Nid oedd yn y Wladva tua'r adeg hono namyn rhyw 100 o bobl ac velly nid rhyvedd vod y Llywodraeth yn ddibris o honi. Eithr ni ddibrisiai y Wladva ei hun, hyd nod yn y gwyll hwnw: eisteddai y Pwyllgor yn rheolaidd : cedwid tipyn o ysgol ddyddiol: cedwid y moddion crevyddol yn rhyvedd a divwlch. Am y 9 mlynedd hyny ni ddaethai onid rhyw ddau neu dri o'r newydd atynt, tra yr aethai rhai ymaith, a rhai veirw. Hwnw oedd "cwrs parotoawl" y Wladva, megis y 40 mlynedd i'r Hebreaid: a cheir yn yr hanes sydd yn dilyn weled vod yr addysg wladol hono wedi eu harwain yn ddiogel drwy amgylchiadau dyrys.
Y VINTAI GYNTAV YMHEN CHWARTER CANRIV.
Hanedig o
1. Mrs. Amos Williams , Bangor.
2. John ap Williams, Glandwrlwyd.
3. Mrs. L. Davies , Casnewydd.
4. Mrs. Hanah Jones , Aberdar.
5. Thos. Harri, M. Ash .
6. Mrs. Rhys Williams, Brasil .
7. R. J. Berwyn, Tregeiriog.
8. C. Jane Thomas , Bangor.
9. Mrs. R. J. Berwyn, Pentir.
10. L. Humphreys, Ganllwyd.
11.Mrs. W. J. Kansas, Aberdar.
12. Mrs. L. J. , Plas hedd, Caergybi.
13. M. Humphreys, Ganllwyd .
14. Mrs. W. R. J. , Bedol, Bala.
15. Mrs. M. Humphreys, Cilcen .
16. Mrs. Rhydderch Huws, Bethesda.
17. J. Harris, M. Ash.
18. Mrs. Zecaria Jones , M. Ash.
19. Mrs. M. Evans, Maesteg.
20. Edwyn Roberts, Wisconsin.
21. Mrs. Ed. Roberts, M. Ash.
22. Mrs. Eliz. Huws, Clynog.
23. Mrs. W. Austin , Llanuwchlyn.
24. Mrs. Ann Davydd , Aberteivi.
25. Mrs. Josua Jones, Bangor.
26. H. H. Cadvan, Rhostryvan.
27. G. Huws , ieu. , Llanuwchlyn.
28. Rhys Williams, Nantyglo.
29. J. Huws, ieu., Rhos.
30. W. J. Huws, Rhos.
31. Wm. Austin , Merthyr.
32. T. T. Austin, Merthyr.
33. Davydd G. Huws , Rhos.
34. J. D. Evans, M. Ash.
35. Daniel Harris, M. Ash .
36. Ed . Price, ieu. , Prestatyn.
37. Richd. Jenkins,_Troedyrhiw.
38. Ll. H. Cadvan, Lerpwl.
39. Amos Williams, Llanbedrog.
40. W. R. J. , Bedol , Mawddwy.
41. Rich. H. Williams, Bangor.
42. Robert Thomas, Bangor.
43. Thomas Davydd, Cilgeran.
44. Richd . Jones, M. Ash .
45. Griff. Huws, Llanuwchlyn .
46. W. T. Rees, M. Ash.
47. L. Davies, Aberystwyth.
48. J. Moelwyn Roberts, Festiniog.
Wrth agor yr ail bont dros y Camwy (pont Rawson), 1890, y cymerwyd y foddlun gyferbyn, gan J. M. Thomas, Castell Iwan. Nid yw pob un o'r Vintai gyntav oedd yn y Wladva ar y pryd i vewn yn y llun—9 neu 10 heb vod. Buasai varw 48. Yr oedd yn Nghymru 2, yn Patagones 4, yn Santa Fé 4, anhysbys 8.
Gwelir mai 48 sydd yn y darlun o'r 152 laniodd; ond y mae 242 o'u gwehelyth uniongyrchol yn y Wladva. Daethai yn weinidogion urddedig gyda'r Vintai L. Humphreys ac A. Mathews, ac y mae'r ddau yn aros eto: ond clavychodd y blaenav ymhen y vlwyddyn, ac aeth i Gymru am 20 mlynedd gan ddychwelyd yn y "Vesta" yn 1885. Y figiwr ar y cwr uchav yw D. Ll. Jones. Dangosir yn y darlun un o'r hen droliau gwreiddiol wneid yn y Wladva o goed llong-ddryll oedd ar aber yr avon pan aed yno gyntay; a chywreinrwydd saernïol o gynlluniad J. Williams, Glandwrlwyd, bolltau a heiyrn y rhai hevyd a dynid o'r hen weddillion llong. Dangosir hevyd un o'r tai cryno cyntav wnaed yn y Wladva. Dengys y map bychan t.d. 47, Borth Madryn, lle y glaniwyd y Vintai; a'r fordd yr elent tua dyfryn Chupat oedd agos yr un ag yr aif y rheilfordd yn awr, ond y cadwent hwy beth ar y chwith wrth gyveirio at Drerawson, lle y lluestva gyntav-gryn 4 neu 5 milldir o aber yr avon. Ar ol y llong vach aeth a'r prwyadon yno gyntav (1863), nid aeth yr un long i'r avon wed'yn hyd y "Denby" yn 1867, a chollwyd hono yn 1868. Ve ddeallir wrth y map mor gyvleus yw Borth Madryn, wrth fod aber yr avon yn borthladd mor salw, a'r môr tu allan mor agored i wyntoedd.
XV
Y CWMNI YMVUDOL.—MYVANWY A RUSH.
Pan ddechreuodd y cymylau doasai y Mudiad Gwladvaol glirio peth (1869), ymunionodd M. D. Jones a D. Ll. Jones—y ddau gyvrivol oedd yn aros i veddwl cario'r mudiad ymlaen. Suddasai y blaenav £2,500 o stâd y teulu i gychwyn y Vintai Gyntav a'r costau blaenorol; ac yr oedd yr olav wedi andwyo ei yrva weinidogaethol drwy ei gysylltiadau a'i ddyheadau Gwladvaol. Velly, pan ddeallasant vod seiliau y Wladva yn lled sicr—wedi cael yr allwedd o ddyvrio y tir—pendervynasant furvio Cwmni i weithio allan y Wladva yn ei gwahanol weddau. Yr eginyn cyntav i hyny oedd "Cymdeithas Ymvudol Festiniog," rhaglen yr hon ddynodai "mai amcan y gymdeithas yw gwella amgylchiadau ymvudwyr a chartrevwyr, drwy anvon y rhai blaenav i wlad lawn o adnoddau mwnol a chynyrchion amaethyddol; ac velly osod y rhai olav mewn gwell savle i gael tâl teilwng am eu llavur." Buan wedi hyny yr ymeangodd y syniad i'r furv ganlynol:—" Cwmni Ymvudol a Masnachol y Wladva Gymreig Sawd, £50,000; mewn 5,000 rhanau o £10 yr un. Cyvarwyddwyr: Capt. R. Delahoyde, Aberystwyth; M. D. Jones, Bodiwan; Owen Edwards, 22, Williamson Square, Liverpool; G. W. Thomas, cyvrivydd, Abbey Street, Chester; T. Wood, etiveddiaethwr, Chester.—Coviadur teithiol: D. Lloyd Jones, Festiniog: Coviadur cyfredinol T. Cadivor Wood. Amcan y Cwmni ydyw llogi, prynu, neu adeiladu llongau hwylio, neu ager, at gludo ymvudwyr ac eiddo i'r Wladva Gymreig—prynu stoc amaethyddol, a'i werthu i'r sevydlwyr—masnachu âg unrhyw barth o'r byd. Ceir rhagleni, rheolau, furviau ymovyn rhaneion, holl gyhoeddiadau y Cwmni, a phob hysbysrwydd gan y Coviadur Cyfredinol, T. Cadivor Wood, Werberg Street, Chester.
Ymdavlodd D. Lloyd Jones i dynu allan a gweithio y cynlluniau gyda phob dyvalwch, gan gynal cyrddau i egluro a chymell y Cwmni drwy Dde a Gogledd Cymru—gohebu ac ysgrivenu yr oll ei hunan, wrth vod ei gydymaith swyddol, Cadivor Wood, ar ei fordd i'r Wladva. Erbyn 1869 yr oedd y Cwmni wedi ei novio yn llwyddianus, a'r llong gyntav, "Myvanwy," wedi ei phrynu a'i fitio i'r môr—yn llong newydd ysplenydd o 300 tunell. Yr oedd L. J. wedi dychwelyd o Buenos Ayres i Gymru erbyn hyny: a datganai oddiar y proviad morwrol gawsai mai llong vechan o ryw 100 tunell neu lai wasanaethai y Wladva oreu y pryd hwnw. Ond "llong ymvudol vynai y Cwmni. Erbyn cael y "Myvanwy" yn barod gwelwyd nad oedd ei maint yn cyvateb i ovynion y gyvraith, ynghylch llongau ymvudol, ac mai 11 o ymvudwyr yn
D. Ll. Jones
unig ganiatai y Llywodraeth i vyned ynddi. Nid oedd bosibl newid y llong bellach, a gwthiwyd y niver hwnw o ymvudwyr iddi. Eithr nid oedd ond rhyw 4 neu 5 tunell o lwyth i'w gael iddi, sev llestri priddion o Bwce i L. J. ac ychydig groceries i J. Griffith: velly llwythwyd hi gyda glo yn rhwym i Borth Madryn, ac oddiyno i Montevideo gyda'r glo. O Montevidio aeth y llong i Paysandu i gymeryd llwyth o grwyn gwlybion i Antwerp. Erbyn hyny yr oedd biliau adeiladwyr y llong yn ddyledus: ond taliadau y rhanddalwyr yn y Cwmni heb ddod i law: tra nad oedd enillion y llong ond prin ddigon i dalu y treuliau o'i gweithio. Gwelodd yr adeiladwyr eu cyvle i wasgu: aed trwy fury o werthiant cyvreithiol yn Antwerp, a dychwelodd y llong i veddiant yr adeiladwyr am ryw goeg bris. Enw M. D. Jones oedd wrth y biliau roisid ar y llongau, ac arno ev velly y disgynodd gwneud i vynu'r difyg a'r costau llethol. Hon oedd yr ail dagva vawr gawsai M. D. Jones oblegid y Wladva. Ysigodd hyny amgylchiadau y teulu: a digwyddodd ar adeg ddivrivol y cythrwvl vu ymhlith yr Anibynwyr am y "ddau gyvansoddiad."
Dychwelai L. J. a'i deulu yn y Myvanwy" yn syth o Gasnewydd, ac heblaw hwy deuluoedd y gov a'r crydd ddanvonai y Cwmni i vod o wasanaeth i'r Wladva, oblegid yr angen am y creftwyr hyny. Ond siomasid y Wladva am vintai o ymvudwyr, er mai da oedd cael yr 11 ddaethai: diangasai hevyd 4 neu 5 o vorwyr y llong, y rhai vuont yn y Wladva vlwyddyn neu ddwy ac velly digon helbulus i'r cabden vu y vordaith, vel mae'n debyg na roddodd adroddiad calonogol am y Wladva. Hwyliodd y "Myvanwy o Borth Madryn am Montevidio-Mai, 1870-amser rhyvel Frainc a Prwsia, a bu'r Wladva 13 mis heb un math o gymundeb gyda'r byd, hyd nes i'r "Cracker" gael ei danvon i ymholi gan lys-genad Prydain yn Buenos Ayres.
Wrth furvio y Cwmni Ymvudol hwnw am y Myvanwy daethai yr hyrwyddwyr (M. D. Jones a D. Ll. Jones) i gysylltiad â Chymry arianog New York, drwy D. S. Davies : hwythau yno a furfiasant gyfelyb gwmni i brynu a rhedeg llongau, vel math o gangen o'r Cwmni Ymvudol, i wneuthur llinell gyson o longau i gydio'r Wladva wrth y Mudiad oll, ond pob llong ar ei chyvriv ei hun. Prynwyd a danvonwyd y " Rush " [Gwel hanes y llong hono, tud. 24 gan yr adran Amerigaidd o'r Cwmni, cyn iawn wybod nac amgyfred tynged y "Myvanwy," na deall sevyllva y Wladva ar y pryd. Ond yr oedd yni D. S. Davies y pryd hwnw ac wedi hyny yn cario pob peth o'i vlaen. Sylweddasai eve tra yn yr Unol Daleithau apostolaeth M. D. Jones am Wladva Gymreig, ac ymdavlodd i weithio allan gynlluniau y Cwmni Ymvudol o ddivriv calon. Nis gellid wrth yr anfodion syrthiodd ar y llong a'r ymvudwyr hyny, mae'n debyg, ac nis gallai y Wladva yn ei diymadverthedd ar y pryd vod o nemawr help i'r ymgais lew hono,-velly aeth y rhuthr heibio heb vod y Sevydliad vawr elwach arno-yn wir cyn i neb dd'od o'r niwl oedd oddeutu'r nawv nes bod yn rhy ddiweddar.
BREINLEN AM DIR.
Seilid y Cwmnïau hyn, mae'n debyg, ar gyvrivon damcanus cymdeithasau yswirio ac adeiladu. Ysgrivenai y cynllunydd (D. Ll. J.):—
Rhag. 16, 1869: Yr wyv vi wedi gweithio yr holl scheme lawer gwaith drosodd, ac os yw reports i ddybynu arnynt, bydd cynllun eang vel hyn yn ddiogel ac efeithiol. Y priv drawback ydyw y faith nad oes genym Vreinlen ar y tir. Pe caem ni veddiant o dir ve godem arian vaint vyner. Ai ni vyddai yn bosibl cael breinlen ar lain o dir yn cynwys y Valdez, New Bay, a watershed y Chupat, neu yn hytrach ryw 150 milldir ar hyd llinell lledred, ac o hyny i'r Andes? Ni ddymunwn vod dim mewn breinlen i gyvyngu ar vested interests, ac wrth gwrs ni chyvyngai ar awdurdod y Wladva. Mae'n amlwg y byddai'n werth ymgeisio am hyn. Os na rydd y Llywodraeth vreinlen, a wnai hi ddim rhoi teitli ni ar y dyfryn, a'i werthu am ryw swllt yr erw.
Ebrill 16, 1872, ysgrivenai M. D. Jones ar yr un mater :"Yr wyv yn ervyn arnoch vỳnu breinlen i'r Cwmni Ymvudol o'r vath ag y tynwyd ei braslun allan, a'r hon sydd yn aros yn anorfenol yn Buenos Ayres. Mae pobl America, a phobl y wlad hon cyn hir, yn sicr o gyvranu at y Cwmni, ond cael breinlen ar dir; a rhoddent ddigon o ymvudwyr yna ar goel ond cael tir yn ddiogelwch. Yr oeddwn yn meddwl vod y Llywodraeth Arianin wedi rhoddi breinlen hyd nes y gwesgais Denby i gydnabod mai ar ei haner yr oedd. Difyg breinlen yw yr unig beth sydd yn ein lluddias yn awr. Mae arnom eisieu cael commercial basis i'r Cwmni, ac ond cael hyny trosglwyddwn bobl yna yn rhwydd. A gav vi ervyn arnoch vynu y vreinlen yn ddioed."
Gwelir oddiwrth yr uchod vod camddealltwriaeth dybryd wedi bod am vreinlen a threvniadau dyvudol. Evallai vod a wnelo'r bylchau hirvaith yn y cymundeb y pryd hwnw rywbeth â hyny. Bid a vyno ni wyddai y Wladva nemawr ddim am y cynlluniau a'r cyvryngau ddadlenir yn y llythyrau blaenorol. Debygid mai llythyr M. D. J., wrth gyveirio at "gais anorfenol" J. H. Denby i gael breinlen yw yr allwedd i'r dyryswch. Yngoleuni proviad y blyneddoedd hyny a'r rhai dilynol, gellir yn awr weled p'le'r oedd gwendid y cynlluniau—"Rhoi y car o vlaen y cefyl" yr oeddys. Nid oedd y Llywodraeth mor bwdr y pryd hwnw ag y daeth i vod wedi hyny. Yr oedd Mitre, Rawson, a'u hysgol hwy, a'u dilynwyr Sarmiento ac Avellaneda, yn cadw llygad eiddigus ar y tiroedd cyhoeddus. Yr un pryd, diau i lawer tavell brav o dir vynd yn aberth i'r esgus o vudd cyhoeddus, ac yn vwy o lawer am favrau gwleidyddol. Pe gallasai'r Cwmni Ymvudol BRYNU rhanbarthau o'r wlad, drwy gymeryd mantais o ryw hen gyvraith anghoviedig, a thalu costau cyfreithwyr, cawsid breinlen ymhen amser. Ond nid ymddengys vod gan y Cwmni gyvala parod wrth law o gwbl i hyrwyddo'r olwynion. Nid oedd syniadau y gwladvawyr ar y pryd chwaith yn myned nemawr bellach na diogelu bob un ei dyddyn bach ei hun; a phan ddaeth enw S. Barnes i'r golwg, a neb yn gwybod pwy ydoedd na'i gysylltiadau, ymhellach nag mai Amerigwr "smart o New York ydoedd, a'r cymundeb yn vylchog ac arav—a helynt y "Rush" a'i hymvudwyr mor anvoddhaol, nid rhyvedd i bethau "vynd i'r gwellt." Diau vod y cynlluniau yn burion, ond sevyllva y Wladva mor amrwd a diymadverth, a dim cyd—dynu na chyd—gydio rhwng cyniver o unigolion eiddil traferthus, a neb nerthol (arianog) tu cevn i roi hwb gychwynol. Ymhen blyneddoedd (1887) cavodd Cwmni Tirol y De vreinlen am 300 lech o dir goreu yr Andes, drwy dalu yn lled ddrud am dano mewn twrneiaeth.
XVI.
LLONG ETO I'R WLADVA I GEISIO GWEITHIO ADNODDAU'R WLAD.
Dangosai adroddiad y "Cracker" pa mor ddigyswllt oedd y Wladva wrth y byd y pryd hwnw (1870), ac y byddai raid cael eto long i redeg ol a blaen i Buenos Ayres, at gadw cymundeb cyson. Caniatesid i L. J. a D. W. Oneida, ddod i Montevideo, yn y "Cracker," i edrych vedrent wneud rhywbeth i hyrwyddo hyny; ond pan ddaethant yno yr oedd y vad velen (yellow fever) mor ddrwg yn Buenos Ayres, vel yr ysgubid ymaith y trigolion hyd i 500 y dydd a rhagor.
Velly bu raid aros yno am ddau vis cyn gallu myned at y Llywodraeth i ovyn am ymwared llong. Bu L. J. ddyval a thaer gyda'r awdurdodau yn ceisio egluro y sevyllva a gweithio y deisyviad—ond oll yn over. Bu raid iddo droi eilwaith at lys—genad Prydain i ovyn ei help caredig ev, er vod Capt. Bedingfield wedi datgan yn gryv yn erbyn ymyryd.
Yr wyv dan orvod i apelio eto at yr un caredigrwydd ag a vedrodd ddanvon y Cracker," i holi hynt y Wladva, yn Ebrill diweddav. Gwelsoch oddiwrth yr adroddiad hwnw mai angen mawr y sevydliad yn awr yw moddion cymundeb i ddanvon cynyrchion i'r varchnad, a chael rheidiau yn gyvnewid. Er cyniver o anhawsderau ydys wedi gael, mae y gwladvawyr yn awr mor fyddiog yn eu gwlad newydd vel y maent yn codi tai brics cysurus iddynt eu hunain, a'r unig gais arall wnaethant atav, heblaw llong, oedd am weithredoedd ar eu tir, ac ychydig gymorth at ysgol. Eglurais i'r Arlywydd Sarmiento nad oedd y gwladvawyr yn hofi bod yn vaich ar y Llywodraeth, ac y gallent bellach, gynal eu hunain, pe cafent gyvleusdra marchnad i'w cynyrchion. Er y pryd hwnw bum 84 o weithiau yn swyddfeydd y Llywodraeth, a dwyn pob dylanwad vedrwn o'm tu—ond oll yn over. Yn Mehevin, govynwyd i'r agerlong "Patagones" pa swm chwanegol ovynai hi am redeg i'r Wladva o'r Rio Negro ddwywaith yn y vlwyddyn, a dychrynwyd pan ovynid $3000 aur (£600) bob tro. Yna govynais am y $2000 neu $3000 tuagat brynu llong vel o'r blaen i'r Wladva. Oedwyd o ddydd i ddydd, hyd Awst 2, pryd yr hysbyswyd vi gan yr isysgrifenydd, "Vod yr Arlywydd wedi pendervynu peidio gwario yr un ddoler yn rhagor ar y Wladva, os na symudai y sevydlwyr i rywle arall." Yn y cyvwng hwn nid oes genyv gan hyny ond syrthio'n ol ar eich cydymdeimlad chwi. Wedi pedwar mis o ddihoeni a disgwyl yma, yr wyv yn cael vy hun yn analluog i vyn'd yn ol at y sevydlwyr a vy nheulu, na chymeryd iddynt y nwyddau y gwn vod arnynt gymaint o'u hangen. Mae son am "symud" pobl nad oes arnynt un dymuniad i hyny, ac ydynt wedi mynd drwy galedi anhygoel i ymgartrevu mewn gwlad newydd, yn greulondeb debygav vi, ac yn anheilwng o'r Weriniaeth Arianin. Am hyny, nid oes genyv ond tavlu vy hun a'm cydwladwyr ar drugaredd cynrychiolydd Ei Mawrhydi Brydeinig.—L. J.
Canlyniad yr apêl hwnw vu y nodyn canlynol ymhen tair wythnos oddiwrth lys—genad Prydain :
Mae'n dda genyv eich hysbysu vod mater y llong wedi ei setlo. Prynwyd hi, ac y mae'r archeb wedi ei rhoi i'r Capitania i'ch cyvlenwi â phob peth rheidiol i'w fitio i'r môr. Ĉeir yr arian gan y Llywodraeth, hyd i swm amcan—gyvriv Ballesteros. Gallwch gymeryd meddiant ohoni pan y mynoch, a brysiwch i wneud hyny gynted cewch y nodyn hwn.—H. G. MACDONNELL. Yna daeth cyhoeddeb y Llywodraeth vel hyn:
Wrth ystyried y dymunoldeb o gynal Gwladva Chubut, rhodder $3000 i brynu llong ar y telerau canlynol:—(1) Fod y llong i'w hystyried yn eiddo'r Llywodraeth, ac i vod dan y vaner Arianin, nes yr ad-delir y swm gan y Wladva. (2) Dros ystod hyny nis gellir ei gwystlo na'i gwerthu. (3) Vod i gynrychiolydd y Wladva yswirio y llong ar unwaith rhag pob colled môr. (4) Hyd nes y trevnir awdurdodau y Wladva, vod i'r cynrychiolydd weinyddu yn yr hyn vo angenrheidiol. (5) Vod i'r cynrychiolydd arwyddo ei gydfurviad â'r telerau, a throsglwyddo papur perchenogaeth y llong, ac inventory o bob peth sydd ynddi. ALSINA (Luis L. Dominguez).
Enw y llong hono oedd "Maria Ana," ond newidiwyd yr enw gan y Llywodraeth i "Chubut." Yr oedd hono yn llong grev, o ryw 200 tunell. Dychwelai D. W. Oneida a'i ofer amaethol yn y llong hono gyda L. J., a Leesmith, a Greenwood. Freitiwyd hi gan dŷ masnachol yn Buenos Ayres, i lwytho guano ar lenydd y Wladva, y rhai a ddodent ynddi gyvlenwadau o vwyd a chelvi at y gwaith. Velly, drwy y llong hono, cawsid cyvle o'r diwedd i wneud prawv ar yr hyn vuasai drwy'r blyneddau mewn golwg—sev gweithio adnoddau naturiol y wlad. Vel ceidwad y llong dros y Llywodraeth, freitiodd L. J. hi i'r cwmni am £300 y mis; ond bu raid iddo vynd yn bersonol gyvrivol am gyvlog y gweithwyr o'r Wladva elent i lwytho y dom ynddi. Cychwynodd yr anturiaeth yn eithav llwyddianus; ond cyn hir, aeth yn ddyryswch gyda rheolydd y cwmni—un o'r enw Stephens, ddaeth wedi hyny yn hysbys ddigon. Wedi bod rai misoedd yn gweithio velly, ac wedi gadael y feryllydd ac ereill ar ynys anghyvanedd i ddala moelrhoniaid, daeth y briv long oedd yn y gwasanaeth—“ Monteallegro"—i geisio dod i'r avon—ond aeth ar y traeth, ac yn llongddryll, a'r llwyth tom oedd ynddi gyda'r môr. Bu raid velly ddanvon llong y Wladva, "Chubut," i achub y feryllydd a'r dynion oedd tua Camerones, am yr hyn wasanaeth y mynai'r feryllydd Lewald dalu o'r arian oedd ganddo ev perthynol i'r cwmni: ond yr hyn na chaniatai Stephens, a bu peth frwgwd. Cawsid nad oedd y guano gesglid ond peth lled salw, ac na thalai y fordd i'w gasglu i long a'i drosi wedyn i long arall; ac vod cyvlogau y dynion yn crynhoi tra'r oeddys yn aros tywydd gweithio. Deallwyd wedyn mai gweld yr anturiaeth yn myn'd yn golledus yr oedd y rheolydd, ac ddarvod rhedeg y "Monteallegro " i'r làn yn vwriadol, er mwyn yr yswiriad. Bid a vyno, hwyliodd y "Chubut" i Montevideo, ac oddiyno i Buenos Ayres, i ddisgwyl y freit, a chyvlogau, a lluniaeth i vynd yn ol. Oud ni chavwyd ddimai vyth—ond pob dyhirwch a chnaveiddiwch. Velly syrthiodd y llong yn ol i'r Llywodraeth. Ond yr oedd gan L. J. i wynebu £300 cyvlogau y gweithwyr gartrev yr oedd yn gyvrivol am danynt; a bu raid iddo werthu pob peth a veddai ar ei helw y pryd hwnw i gyvarvod govynion y dynion —a hyny a wnaed hyd y fyrling eithav.
Eithr nid hyny wedyn oedd diwedd helbulon y "Monteallegro" a'r guano. Cawsid y llong "Chubut" drwy i lys-genad Prydain wasgu peth ar y Gweinidog Tramor—Dr. Tejedor. Yna, ar y lav Chwev., 1872, danvonodd hwnw y nodyn canlynol at L. J.:—
Derbyniais eich llythyr Rhag. 5, ac Ion. 15. Nis gallav gymeradwyo eich gwaith gyda'r llong Oriental " Monteallegro." Dylasech gyvyngu eich hun yn unig at noddi y rhai gollasant eu llong. A p'le mae' ysgwner "Chubut?" [Yn Montevideo]. Nid ydych yn mynegu yn eglur: ac i roi y cyvarwyddiadau y govynwch am danynt, rhaid cael gwybod hyny yn gyntav dim. Ar hyn o bryd, digon yw adgovio vod y llong wedi ei rhoddi at wasanaeth y Wladva, ac na ddylid, ac na ddylesid colli golwg ar hyn. Pan gav vwy o vanylion byddav veithach. O.Y.—Yr wyv newydd dderbyn o Montevideo lythyr oddiwrth Stephens, yn yr hwn y mae'n gwadu yr holl hanes a roddwch chwi: a gall hyny beri llawer o ovid. Danvonwch adroddiad llawn cyn dychwelyd.—Tejedor.
Yr "adroddiad" goreu hwyrach yw y dyvynion canlynol o lythyr Capt. Harrison, meistr y Monteallegro," am y dyn gevnogid gan Dr. Tejedor:—"Montevideo, Chwev. 4, 1872. Ve synwch, mi wn, pan vynegav i chwi i Stephens ddevnyddio vy enw i ar 6 o dderbynebau am £30 nad oedd wnelwyv ddim â hwy. Ymhlith ei bethau cavwyd gwn pres, ac arvau lawer. Govidus i mi yw bod wedi cymysgu gyda'r vath leidr a fugiwr enwau. Da vyddai genyv gael eich tystiolaeth (L. J.) am y rhybudd roisoch i vy mate, pan yr awyddai hwnw ar i'r 'Monteallegro' ddod i'r avon i'w dinystr yn vwriadol.—M. HARRISON."
Gwelir velly mai methiant a cholled vawr vu y cais i ddadblygu adnoddau'r arvodir y Wladva y pryd hwnw. Ymhen rhai blyneddau gwnaed peth masnach gyda chrwyn y moelrhoniaid oddiar y tueddau hyny.
XVII.
CIP AR GYRAU'R WLAD.
Ar ol i'r "Myvanwy" lanio ei hymvudwyr yn 1870, a hwylio ymaith i Montevideo, nid oedd gan y Wladva yr un cyvrwng cymundeb gyda'r byd: a buwyd velly visoedd yn disgwyl rhywbeth o rywle, ac yn pryderu beth wneid. Ganol yr hav hwnw daeth tri brodor o'r berveddwlad i vasnachu, a phendervynodd tri o'r sevydlwyr achub y cyvle i vyn'd gyda hwy yn ol i'w cynevin, a cheisio cael gan eu penaeth, Tsikikan, eu harwain dros y tiri Patagones—L. J., D. W. Oneida, ac Ed. Price, a chyda hwy dri morwr ddiangasent o'r "Myvanwy." Ymhen blwyddi lawer y deallwyd anturiaeth mor ryvygus oedd hono y pryd hwnw.
Wedi gadael y dyfryn mae y fordd yn codi i'r paith mawr a alwyd wedi hyny Hirlam Fyrnig, am 50 milldir, heb ddavn o ddwr, nes dod i'r fynon fechan, Fynon Allwedd. Oddiar y paith hwnw gwelir mynyddoedd uchel (3700 tr.) yn dyrchu i'r golwg, a thrwy vwlch yn y mynyddoedd hyny yr elai'r fordd. Galwyd y mynyddau hyny Bànau Beiddio. Wedi croesi'r Hirlam, disgynir i is—baith dwvn, a llyn ar ei waelod, o'r enw Getl—aik. Oddiyno i'r gorllewin wynebir am y Bànau drwy vylchau creigiog—un o ba rai yw y Ceunant Cethin— —nes dod drwyddynt i droad rhediad y dwr. O'r van hono gwelir gwlad vwy agored a rhywiocach yr olwg, nes dod i wersyllva vawr y brodorion o'r enw Kytsakl, a hwnt i hyny Makidsiaw. Hono oedd y gìp gyntav gavwyd ar gyrion y berveddwlad, wedi y wib balvalog yn 1865—6, hwnt i'r Creigiau Cochion. Bu raid dychwelyd o'r daith hono heb vedru mynd i Batagones, am y dywedai'r Indiaid na vedrid mynd dros Valcheta ganol hav velly—a cywir oedd hyny.
Gwnaeth L. J. a D. W. Oneida gynyg arall i vynd tua Patagones gyda'r arvordir, gan ddisdyllio dwr y môr i'r cefylau a hwythau. Paith graianog a thywodog gavwyd y fordd hono: a thorodd y pair, vel y bu raid dychwelyd drwy gryn galedi. Dro arall, glaniodd yr un dau yn y Valdes, a cherddasant gryn dir ar y cyrion hyny.
Wedi cynevino âg agwedd y wlad a'i neillduolion, a dull y brodorion o deithio—ymhen blwyddyn neu ddwy, aeth L. J., A. Jenkins, a Richard Jones am daith mis i'r gogledd—orllewin, i'r cyrchvanau adwaenwyd wedi hyny vel Telsm, Kona, Rankiwaw, Trom—niew, &c.
Clywsid llawer o son gan y brodorion am Rio Chico (avon vach) oedd yn arllwys i'r Camwy, heb vod nepell o'r sevydliad. Cyn bo hir, i chwilio am hono aeth J. ac O. Edwards, a J. M. Thomas—a daethant i'r lleoedd cethinav, mae'n debyg, sydd yn yr holl wlad, o ran bod yn greigiog, agenog, anhygyrch. Cavwyd yr avon vach (Iàmakan), ond yr oedd y fordd ati mor anhawdd a phoenus vel na vu o vawr gyrchu—a rhyvedd y son, y mae er's blyneddau rai agos yn sech ond ar dymhorau eithriadol iawn.
Cyn hir wedi hyny cynullodd J. M. Thomas vintai archwiliadol i vyn'd tua'r de, gan ddilyn yr Iàmakan nes darganvod Llyn Colwapi, tua lledred 44.50. Yn vuan ar sodlau hyny aeth L. J., John Griffith, a'r anianydd Durnford gyda'r arvordir hyd ynghyver Pigwrn Salamanca, ac yno groesi i'r gorllewin nes d'od ohonynt hwythau i Lyn Colwapi, a dilyn ei vin ddwyreiniol hyd at yr avon Sin—gyr, sydd yn arllwys i'r llyn ynghyver Llyn Otron, man y mae gover y llyn hwnw yn arllwys i'r Sin—gyr: a dilynwyd yr avon hon o 40 neu 50 milldir, hyd y troad mawr a wna i'r gorllewin.
Gwnaed gwib neu ddwy arall vu yn allwedd i'r fordd sydd yn awr yn myned i'r Andes, ac a elwir Hirdaith Edwyn (am mai eve gavodd ben y llinyn). Elai E. R. y tro hwnw (1871) yn gydymaith i ddau Sais deithient gyda'r avon i chwilio am aur, ac a aethant hyd at y dyfryn eilw y brodorion Kel—kein.
Ond y treiddio cyntav i'r berveddwlad ydoedd yr un trychinebus y lladdwyd tri Cymro gan y brodorion, ac y diangodd y pedwerydd (J. D. Evans) o savn angeu drwy vuanedd ei gefyl a naid ovnadwy ei varchogedd yntau. Treiddiasaut hwy yn yr ymchwil am aur hyd at Walcheina a'r Teca—taith namyn diwrnod i'r Andes.
Wedi yr ymlid llwyr vu ar y brodorion gan gadgyrch vawr y Cad. Roca, trevnodd J. M. Thomas archwil lled lwyr ar y wlad i'r gorllewin, hyd yr Andes, gyda'r rhaglaw Fontana, a chymdeithion o'r gwladvawyr—o Eskel a Tsolila yn y gogledd gyda'r Andes, hyd at Lyn Fontana yn y de, ac oddiyno gyda'r Sin—gyr i Lyn Colwapi, ac yn ol gyda'r môr i'r Wladva. Gwnaethant ddwy daith y tro hwnw i leoli ac adnabod y wlad; a gwnaeth J. M. Thomas a chymdeithion amryw deithiau eraill y fordd hono i linellu a gwneud fyrdd. Erbyn hyn mae y wlad wedi ei bras—vesur a'i mapio yn lled lwyr—ond wele, gwâg iawn ydyw eto: tiriogaeth o 30,000 o villdiroedd ysgwar heb onid prin 4000 o bobl ynddi.
Gwelir oddiwrth hynyna mai arav a hir y buwyd cyn adnabod y wlad, ond y cefid cip ar y cyrion yma ac acw, yn awr ac yn y man, vel y byddai hamdden a'r cyvleusderau. Sypiwyd crynodeb y paragraf hwn, ond cymerodd i'r Wladva vwy nag 20 mlynedd i vedru dweud cymaint a hyn’a.
XVIII.
YR ADGYVNERTHIAD—TROAD Y LLANW.
Yn y disdyll ddilynodd y dón ddaethai a'r "Myvanwy" i Borth Madryn (1870), a phan giliai ymaith eil—dòn y "Rush," lansiasai D. S. Davies yn New York i geisio hybu'r Wladvaaeth A. Mathews am wib o'r Wladva (lle buasai o'r cychwyn am 7 mlynedd) i Gymru, at Dad y Wladva (M. D. Jones) i weled a deall sevyllva y Mudiad erbyn hyny—A oedd obaith cael rhagor o ymvudwyr i'r sevydliad, vel ag i'w gwneud yn Wladva Gymreig o ryw ragolygon? Parasai yr helbulon oblegid y "Myvanwy," ac anghydvod enwadol y "ddau gyvansoddiad," nad oedd y Wladva y pryd hwnw yn air deniadol iawn i neb ond i'r hen arwr ei hun, a'i vagad dysgyblion crediniol. Un o'r rheiny oedd D. S. Davies yn yr Unol Daleithau, yr hwn, er gweled y "Rush " yn myned rhwng y cwn a'r cigvrain vel y Myvanwy," a gynhyrvai Gymry y Taleithau i wneud cais arall am long Wladvaol. Pan aeth A. Mathews allan velly o Bodiwan y Bala i udganu'r Wladva eilwaith yn y trymedd oedd yn gordoi yr awyrgylch, nid hir y bu cyn cael clust y wlad i'r weledigaeth a'r dadguddiad oedd ganddo am Gymru Newydd, y gwelsai M. D. Jones ei chysgod cyn myned i'r tywyllwch mawr. Pan aeth_adsain yr udganiad hono dros y Werydd, gwaeddai D. S. Davies ar i A. Mathews vyned drosodd i'r Taleithau i gyvuno nerthoedd yno gydag ev at gael eilwaith long Wladvaol. Hyny vu, a llwyddodd D. S. Davies yn y man i gael gan Gymry Amerig brynu yr "Electric Spark," a'i Ilwytho o reidiau ac ymvudwyr. Eithr eto—ys tru y son! aeth hono i drychineb. [Gwel yr hanes t.d. 27.]
Cyfrodd darlithiau A. Mathews bobl Cymry hevyd yn lled vyw—er na ddaeth gydag ev i'r Wladva ar y pryd ond rhyw 50, eithr ymhen y vlwyddyn wedyn dylivodd y proselytiaid o'r gadgyrch hono wrth yr ugeiniau. Cyraeddasai mintai anfodus yr "Electric Spark" hevyd i Buenos Ayres tua'r un amser, vel yr oedd yn y Cartrev Ymvudol agos i 100 o Gymry gyda'u gilydd, yn disgwyl llong i'w cludo i ben eu taith. Ac nid oedd y Wladva ei hun y pryd hwnw vawr ragor.
Wedi ymweliad y "Cracker," ceulasai y Wladva drachevn ar ei sorod o unigedd a bychander. Medrwyd, mae'n wir, allvorio y llongaid gyntav o wenith y Wladva yn yr "Irene" (1873), a bu hyny yn achlysur i vasnachdy Rooke & Parry gychwyn peth masnach gyda'r Wladva [gwel y benod ar vasnach], ac yn y cyvwng hwnw y daeth y ddwy vintai adnewyddodd holl arwedd pethau. Yr oedd mintai yr Unol Daleithau wedi ei hysbrydu gan gryn lawer o vynd" eu gwlad, a chan vwyav yn berchen cryn dipyn o ddarpariadau ac oferynau addas i wlad newydd. Tynasai eu trychineb hevyd hwy drwy broviad i wynebu anhawsderau a dioddevaint gwlad ac arverion dyeithr. Yr oedd y vintai o Gymru yn ddetholiad engreiftiol iawn o bobl weithiol yr Hen Wlad —yn ddiwyd a chynil a bucheddus—rai yn fermwyr deallus, a'r oll yn gynevin â bywyd gwledig llavurus. Erbyn i'r ddwy vintai dd'od at eu gilydd, yr oedd iddynt bedwar o weinidogion
Parch Abraham Mathews
Anibynol—A Mathews yn dychwelyd o'i groesgad Wladvaol; D. Lloyd Jones wedi rhoddi eglwys Rhuthyn i vynu, ac yn myned i'r Wladva i barhau ei ymdrechion gyda'r mudiad yr aethai yn aberth iddo; J. Caerenig Evans (Cwmaman), am ei vod yn Wladvawr rhongc; a D. S. Davies ar ol ei longddrylliad tua'r Brasil, yn llwybro drwy dew a theneu i wel'd y Wladva drosto'i hun. Rhwng y ddwy vintai yr oeddynt agos mor luosog a'r Wladva ei hun,— ond eu bod hwy yn angerddol awyddus i gychwyn gwrhydri; tra'r gwladvawyr, wedi'r holl siomedigaethau a phrovedigaethau, yn anystwyth eu gobeithion a'u hyder, ac mewn perygl i fosylu ac ymollwng. Bu y dyvudwyr newydd dalm o amser cyn cyraedd pen eu taith oll. Buont velly tua thri mis yn Buenos Ayres. Nid oedd y ddinas hono y pryd hwnw ond anelwig ddigon, ragor yw yn awr, a'r darpariadau a threvniadau swyddogol ond amrwd iawn: velly, yr oedd bod agos i gant o Gymry yno gyhyd o amser, yn gwynebu am le na wyddid ond y nesav peth i ddim am dano, yn peri cryn ymholi a chywreinio yn y cylch swyddogol a masnachol. Ddechreu y vlwyddyn hono (1874) daethai y llwyth cyntav o wenith y Wladva i'r varchnad yno, a pharodd ei ragoriaeth ar bob gwenith arall gryn gyfro amaethol [gwel" Dechreu masnach y Wladva"]. Tŷ masnachol cyvrivol yn y varchnad hono ar y pryd oedd Rooke & Parry—yr olav yn Gymro trwyadl o Lanrwst, vuasai yn swyddva D. Roberts & Son, Liverpool, ond a ddaethai i Buenos Ayres yn y 6 degau: a thrwyddo ev y gwerthasid gwenith y Wladva. Yr oedd y tŷ masnachol hwn yn gyrchva vawr i'r dyvudwyr, a chan nad oedd Cartrev Dyvudwyr nepell oddiyno, byddai'r tramwy rhwng y naill le a'r llall—a hyny yn nghanol y drev—yn tynu cryn sylw. Wrth weled argoel mor dda am vasnach gyda'r Wladva prynodd y masnachdy hwnw y llong" Irene," i redeg ol a blaen: ac yn hono y danvonwyd yr ymvudwyr i ben eu taith: eithr yr oedd yn vis Medi cyn iddynt oll gyraedd.
Yr oedd derbyn a lleoli cyniver a 90 o ddyvudwyr gan y 120 gwladvawyr truain hyny, na welsent neb ond Indiaid (oddigerth cip ar bobl y tair llong) er's naw mlynedd, ac a syrthiasent yn naturiol ddibris o ymddangosion a chylchynion, yn ddefroad llwyr a dymunol wedi eu hir gyntun: a bu cyvathrach a thravnidiaeth vywiog rhyngddynt "pethau yr Hen Wlad" yn cael eu feirio am bethau y wlad newydd, arian Prydain yn pasio am aniveiliaid. I'r dyvudwyr newydd, mae'n debyg vod rhai dulliau a gweddau byw wthasai y wlad a'r amgylchiadau ar y gwladvawyr vel pethau rheitiol yn ymddangos yn chwith: eithr buan iawn yr ymdoddodd ac yr ymgystlynodd yr oll i'w gilydd i wneud y Wladva Adnewyddol. Wedi yr hir egwyl ar y môr, ac ar ol hyny yn Buenos Ayres, cronasai yni gweithio y newydd—ddyvodiaid vel argae (a dadebrasai egni y rhai cyntevig), vel pan gawsant ddaear y Wladva dan eu traed,a digon o le penelin, ymdavlasant i waith o ddivriv calon—wedi cael awgrymion yr hen sevydlwyr parthed y dyvrhau a neillduolion eraill y wladvel y bu gan yr oll, hen a newydd, gynhauav da y vlwyddyn ddilynol: er y cerddasai tymor llavurio ymhell cyn i bawb ddechreu cael gavael. Yn yr olwg ar y cnydau argoelus hyny yn eu blodeu, ac yn yr adgov o'r dilorni vuasai ar ddifrwythedd "tir du digroen" y Wladva, naturiol iawn oedd i lythyrau calonog y minteioedd hyny, a'r "hen wladvawyr," roddi Cymru a Chymry Amerig ar dân. Dylivodd dyvudwyr newydd yn garn ar eu gilydd yn 1875—glowyr goreu y Deheubarth, gan vwyav, y rhai vuasent ddarbodus a chynil yn yr "amser da" gawsid cyn hyny, vel ag i vod, lawer ohonynt, yn ymvudwyr lled gevnog, parod ac addas i lavurio'r tir.
Wrth gwt y Vintai Adnewyddol danvonodd y Llywodraeth swyddogion i'r Wladva—cabden y borth a'i lu [gwel penod 20 "Yr Ormes Swyddogol "]. A bu govidiau lawer o'r plegid. Yr oedd y sevydlwyr newydd, wrth gwrs, heb ddeall yn iawn y sevyllva, ac yn bobl ochelgar, heddychol; ond yr oedd yr "hen wladvawyr" wedi cynevino lleodru eu hunain, ac yn eiddigus am eu hawliau ac am eu gwlad, a phan gawsant cyn bo hir engraift o'r swyddoga newydd oedd i vod arnynt, drwy weled cychwr y lle yn cael ei roi mewn cyfion, heb na llys na phrawv, bu aruthr ganddynt.
XIX.
DECHREU MASNACH Y WLADVA.
Cynhauav da 1873—4 a nwyddau Indiaidd, alwodd am long i'w travnidio i varchnad. Wedi colli gwasanaeth " llong y guano,' aeth Capt. Cox yn y Maggie," ac wedi hyny yn y "Pascual Cuartino,' ," i ail vasnachu gyda'r Wladva a Montevideo. Aeth yr olav i'r lan ger San Blas, wedi mordaith o 40 niwrnod! Yn eille aeth llong vechan gan un Charles Brown, a llwyth perthynol i un o hen gyveillion y Wladva yn Patagones, ac wele gyvieithiad o'r tâl gavodd hwnw :—"Hyn sydd i wirio vod Capt. Brown, yn ei long vach, wedi cyraedd yma yn ddiogel, a glanio y llwyth ddanvonasai Don Ygnacio Leon 'i awdurdodau y Wladva.' Ond ni thalwyd y freit. Gwnaeth Capt. Brown ei oreu i'w cael, ond y mae'r bobl ar hyn o bryd yn rhy dlawd i dalu, gan eu bod wedi gwerthu pob peth a veddent am ddillad, &c., i'r Cracker." Gwnaethum vy ngoreu i gael y freit i Capt. Brown—ond yr oedd yn anichon.—H. H. Cadvan, Llywydd, Mai 24, 1871."
Yr oedd y llong Brydeinig "Irene," berthynol i'r Falklands, yn arver pysgota moelrhoniaid ar gyfiniau y Wladva. Gwybu Capt. yr "Irene " (Wright), am y Wladva, a daeth i'r avon i edrych beth welai. Digwyddai fod dau o'r sevydlwyr (E. Price a J. Griffith), wedi cael cnwd da o wenith; a chytunasant ei ddanvon yn yr "Irene" i Buenos Ayres. Hwnw oedd y llwyth cyntav o wenith y Wladva allvoriwyd, a bu ryvedd gan vasnachwyr Buenos Ayres weled y vath ronyn. Gwnaeth yr "Irene " vordaith neu ddwy eilwaith i'r Wladva, ac agorodd masnachdy Rooke a Parry gangendy ar yr avon Chupat, i vasnachu yn y gwenith, a'r plu, a'r caws, ac ymenyn allai y Wladva werthu. Yn 1874, daeth y ddwy vintai vawr gynullasai D. S. Davies, A. Mathews, a D. Ll. Jones yn yr Unol Daleithau a Chymru. Cludodd yr "Irene " y dyvudwyr hyn a'u celvi lawer (taw dyvudwyr cevnog oedd y rheiny) ar ddwy vordaith neu dair. Gwerthwyd y llong hono, a phrynodd y masnachdy long arall, o'r enw 'Adolfo," gyda'r hon y buont yn travnidio am vlyneddau. Wrth weled llwydd y vasnach hono, daeth Cymro arall (J. M. Thomas), i gychwyn masnach gyda'r llong Gwenllian." A chyn hir iawn wedyn, vasnachwr Arianin, o'r enw Malaquias Nunez, yn y llong "Esperanza." Nid oedd raid mwyach bryderu dim am gysylltion travnidiol a chyvleusderau. Dylivai dyvudwyr drwy Buenos Ayres, ac os na vyddai llong yn hwylus siartrai y Llywodraeth long rhag blaen, i gymeryd y bobl a'u clud lawer i'r Wladva. Unwaith neu ddwy danvonwyd yr agerlong "Patagones" gydag ymvudwyr a'u celvi yn benodol i'r Wladva.
Pan ddechreuodd dyliviad dyvudwyr 1874—5, nid oedd y Wladva mo'r 200 o eneidiau. Ond yn 1876, pan gyhoeddwyd adroddiad y "Volage," yr oeddynt yn 690. Gan y cyraeddasai 412 yn union wedi i'r gwladvawyr allvorio eu holl wenith—heb y syniad lleiav vod y vath niveroedd i ddilyn—bu peth gwasgva a phrinder y vlwyddyn hono. Ond perthynai i'r Wladva y cyvnod hwn 3 o longau hwyliau—yn rhedeg i Patagones a Buenos Ayres. Cynyddasai y da corniog i agos 1000 o benau: gwerthwyd 6000 lbs. o venyn y vlwyddyn hono, 7000 lbs. o blu estrys (gwerth £1750); 1200 o ventyll crwyn Indiaidd (quillangos), gwerth £1800; a rhawn, crwyn, gwlan, a chrwyn moelrhoniaid, werth £1200; a 300 tunell o wenith. Erbyn 1880, pan gavwyd adroddiad y llong ryvel "Garnet," cynyddasai gwerth yr allvorion gwenith i £16,000; plu estrys, 15,000 lbs., gwerth £3000; quillangos, £2500; crwyn, gwlan, rhawn, &c., £1200. Erbyn 1885, yn ol yr “Amethyst,” yr oedd yno 1650 o drigolion. Ond yn 1881, buasai methiant llwyr am gynhauav, ac am ddwy vlynedd ddilynol i hyny cnydau salw a geid, a phrisiau isel (gwel hanes y Camlesi am eglurhad). Er y cawsid cnwd da yn 1884, nid oedd y pris ond £3 y dunell. Parhai y vasnach Indiaidd rywbeth yn debyg: ond gwelwyd nad oedd pysgota moelrhoniaid yn talu, gan nad oeddys yn deall yr adegau a'r dull blingo; ac velly peidiodd hono. Galwasai y vasnach am ddwy long arall—“ Patagonia” a "Monte Leon."
Hwn hevyd oedd cyvnod y Camlesi Dyvrio. Ar ol cael yr allwedd DYVRIO, buwyd dalm o amser cyn deall yn iawn sut i'w ddevnyddio. Yr oeddys, mae'n amlwg, heb adnabod llawer o neillduolion y wlad: canys yn 1868—9 gorlivodd yr avon dros yr holl ddyfryn, a chollwyd agos yr oll o'r cnwd godidog gawsid: tra y blwyddi dilynol ni chodai yr avon i uchder y fosydd gloddiasid i arwain y dwr dros y caeau—a chollwyd tymor cyvan o eisiau bod y fosydd vodvedd neu ddwy yn is ac yn lletach. Gwnaed tri neu bedwar cais i argaeo'r avon, vel ag i godi lyval y dwr ar gyver ardaloedd cyvain cydiol oedd a chydfosydd yn barod. Ond wedi llwyr vethiant cynhauav 1881, deallwyd y byddai raid cael Camlesi cyfredinol, digon o vaint a digon isel yn eu geneuau i gyvlenwi galwad ddyvriol y ddwy ochr i'r avon ar adegau iselav y tymor. E. J. Williams, rheolwr presenol y rheilfordd, ymgymerodd â chynllunio y rheiny, a gweled eu cario allan—dan gyvyngderau ac anhawsderau lawer.
XX.
YR ORMES SWYDDOGOL.
Yn 1874, pan ddaethai y ddwy vintai o ddyvudwyr Cymreig i Buenos Ayres a'u wyneb am y Wladva,—un o Gymru, a'r llall o'r Unol Daleithau—buont dalm o amser yno yn disgwyl cyvle i vyned i ben y daith. Nid oedd ond byr amser er pan sevydlasai y Llywodraeth" Swyddva Dyvudiaeth" furviol, i hyrwyddo a hyforddi dyvudwyr, a chodi Cartrev iddynt letya tra yno. Drwy hyny gwybu y Llywodraeth vod 90 o Gymry wedi d'od i vyn'd yn adgyvnerthiad i'r Wladva ar y Chupat—a'r newydduron yn dyvalu ac yn corddi: A dyna'r pryd y dechreuodd hili hỏni arbenogaeth am Patagonia. Yr oedd y Wladva wedi bod yn eu hymyl er's 9 mlynedd—yn eiddil a disylw er's llawer dydd, oddigerth pan vyddai daer iawn am ryw gardod neu long: ond hybiasai vyw yn dawel a threvnus, a dechreuai lwyddo'n awr. Pan ddadebrodd y Llywodraeth i ystyried dichonolion Chubut, a gweled argoelion y sevyllva newydd ar bethau, y cam cyntav gymerodd, wrth gwrs, oedd swyddoga, a danvon yno vath o coast—guard, dan yr enw llu cabden y borth, penaeth cyntav yr hwn oedd un Major Vivanco, ac wedi hyny R. Petit Murat, a Charneton. Danvonasid y Milwriad Murga yn 1865, newydd i'r vintai gyntav lanio, i roddi meddiant o'r tir i'r Gwladvawyr, a chodi y vaner Arianin yn arwydd o'r arbenogaeth dros y wlad. Erbyn 1874 ciliasai Dr. Rawson i vywyd preivad; ond dengys ei vywgrafiad gyhoeddwyd wedi ei varw, y gwelsai eve o'r cychwyn y cwmwl o Chili yn codi ar y llywel, parthed perchenogaeth arlwyddol Patagonia. Eithr dan yr Arlywydd Sarmiento, yn 1874, y barnwyd yn bryd adnewyddu yr hawliad, drwy ddanvon yno Gabden y Borth. A hyny oedd dechreu yr ormes vilwrol vu yn hunlle hir ar y Wladva.
Buwyd mewn cryn benbleth yn deall y swydd, a beth vyddai yr efaith ar y Wladva. Daethai yn y ddwy vintai dyvudwyr ddynion deallus—rai ohonynt wedi cael proviad o lywodraethiad yr Unol Daleithau, a rhai eraill wedi bod yn gweinidoga a llywiadu ar lawer o vaterion yn eu hen gartrevi. Yr oedd dyvodiad cyniver o ddyvudwyr gyda'u gilydd yn galw am holl sylw ac egni y sevydlwyr—i'w cyvarwyddo, a'u lleoli, a'u cynevino i amgyfred y sevyllva, vel ag i'r oll allu cydweithredu yn galonog. Ymddangosodd y paragraf canlynol mewn tri o newydduron dyddiol Buenos Ayres am Mawrth 28ain, 1879:
"Y Llong Santa Crws.—Ymedy yn y llong hon, i'r Chubut, yr is—ddirprwy porthol Br. Alejandro Vivanco, a chydag ev yr is—ringyll Candido Charneton, a'r gwylwyr arvorawl Rodolfo Murat ac Alejandre Gazcon. Y mae'r dirprwy dywededig yn dwyn gydag ev gyvlenwad o arvau, i'r diben o osod parchedigaeth i'r awdurdodau Arianin yn y Gwladvawyr Cymreig sydd yno."
Ond daeth Major Vivanco i lawr yn Gabden y Borth: ac un o'r pethau cyntav wnaeth oedd carcharu a chadwyno un o'r sevydlwyr, heb na phrawv na furv. A bu ryvedd gan y Wladva. Ymhen talm wedi hynyy daethpwyd o hyd i adroddiad y Major hwnw at y Llywodraeth, a bydd yn eglurhad ar y bygylu vu ar y Wladva y pryd hwnw, a wedyn:—
"Y mae eisieu deall yn vanwl y Wladva hon i wybod anhawsderau swyddog yn y lle, heb vod ganddo y cynorthwy i beri uvudd—dod i'w orchymynion. Yn y lle cyntav, y mae y trigolion, drwy vod wedi arver rheoli eu hunain, yn arddangos cymeriad tra avlywodraethus. Ac o'r ochr arall, y mae perygl ymosodiad Indiaid yn hawdd i'w weled yn ymyl, wrth eu bod wedi eu gwasgu o'u manau cynevin, ac nad oes ganddynt ond Chubut yn agored iddynt vedru arver eu tueddion yspeilgar. Mae amryw o'r Manzaneros wedi bod yma yn ddiweddar, i'r unig ddyben, mae'n ddiau, i edrych y rhagolygon am yspail. Velly, rhwng y ddau, mae'n gweddu rhoddi tervyn ar yr ansicrwydd hwnw, nid yn unig er diogelwch y sevydliad, eithr hevyd er tawelwch yr awdurdodaeth, yr hwn yn awr na all ddybynu ar unrhyw gymorth."
Yn yr un ysprydiaeth y danvonwyd y nodyn swyddogol canlynol, at ddilynydd Vivanco, sev Petit Murat, oddiwrth briv gabden y borth:—
Hysbysir chwi vod Major Vivanco wedi clavychu, ac velly, mae Arlywydd y Weriniaeth wedi ymddiried i chwi y Borthva. Cewch yma y cyvarwyddiadau ddygai Major Vivanco, yn ol y rhai y bydd i chwithau weithredu. Caniatewch i mi sylwi wrthych mai un o'r rhesymau penav oedd gan y Llywodraeth yn eich penodi chwi oedd am y gwyddid eich yni a'ch dewrder chwi, a'r rhai y bydd genych i'w harver gyda'r bobl acw, ydynt wedi arver gwneud vel y mynont. I wneud eich swydd yn efeithiol, na phetruswch ddevnyddio yr adnoddau sydd yn eich cyraedd— gan gymeryd sylw y cyvle cyntav o'r hyn welwch yn eisieu— megys a vyddai well newid yr ynad, neu chwanegu milwyr, neu beth am gorforaeth.—MARIANO CORDERO."
Parodd llythyr bygythiol D. Mariano Cordero, yn union wedi llyfetheirio a baeddu y sevydlwyr Cymreig, i'r Wladva wrthdystio vel hyn:—
Mae y cyvarvod hwn o sevydlwyr y Wladva yn cymeradwyo pendervyniad eu Cyngor yn rhoddi cyvarch croesaw i Gabden y Borth. Ond wedi darllen llythyr y priv gabden, yn dymuno datgan yn bwyllog vod ysbryd a syniadau y llythyr hwnw yn codi oddiar gamddeall y Wladva, ac mai gwell vyddai i'n Cyngor ohebu gyda'r awdurdodau cenedlaethol i gael dealltwriaeth (1) A oes gan swyddva y llynges ryw awdurdod uniongyrchol i ymyraeth â rheolaeth leol y Diriogaeth, amgen na threvniadau y Borth. (2) Cydnabod yn barchus ysbryd caredig Swyddva Dyvudiaeth yn ei llythyr, ac mai deall yr ydym ni mai â'r swyddva hono—berthynol i'r Gweinidog Cartrevol, y mae a wnelo'r Wladva. (3) Vod llythyr Don M. Cordero wedi ei achlysuro gan gam—adroddiadau a chamliwiadau, ac mai buddiol vyddai i'r Cyngor ddanvon adroddiad cywir i'r Llywodraeth am sevyllva a theimladau pobl y lle. (4) Awgrymir yn barchus mai hyrwyddiad mawr i'r Wladva, ac esmwythyd i fyddlondeb y Wladva, vyddai i'r Llywodraeth gydnabod ac ymddiried yn awdurdodau lleol y sevydliad, nid yn unig vel cynrychioledd cywirach a mwy dealladwy o'n angenion a'n ceisiadau, eithr vel rhan gyvrivol o'r llywodraethiad cenedlaethol gwerinol. (5) Ein bod yn ymdrechu bob amser wneud hyny, ac yn ervyn am gyvarwyddyd y Llywodraeth ymhob achos y barna hi vod galw.
DYLIVIAD DYVUDWYR A DYVODIAD PRWYAD CENEDLAETHOL.
Nid oeddid ond prin ddechreu amgyfred y sevyllva a'r anhawsderau swyddogol dyeithriol——bawb yn ei helynt yn ceisio trevnu y bywyd newydd, un a'i vaes ac arall a'i vasnach—pau ddylivodd dyvudwyr chwanegol 1875 yn garn ar eu gilydd. Gyda hwy daeth y Prwyad Cenedlaethol (National Commissioner) cyntav —Antonio Oneto, ysgolhaig o Italiad o ran cenedl, ac yn medru Saesneg a Hispaenaeg gweddol, ond mwy o ddyddordeb ganddo mewn gwyddorau nag mewn travod dynoliaeth gymysg a dyeithr. Gydag ev danvonasid mesurydd tir o'r enw Thomas Dodds (Prydeiniwr—Arianin), i ad—drevnu y mesuriad blaenorol wnaethai Diaz yn 1865, ond a adawsai hwnw yn anorfenol; a'r Llywodraeth yn awr yn awyddus i hwyluso y sevydlwyr newydd i gartrevu ar eu tiroedd ar unwaith—heb ddeall vawr o'r amgylchiadau. Tra y dyblasid y boblogaeth vel hyn mewn deuvis, danvonasai y Wladva eu holl wenith i varchnad Buenos Ayres, cyn gwybod am y rhuthr hwn o bobl. Rhagwelid velly y byddai prinder lluniaeth cyn y tymor dilynol. Yr oedd y Wladva yn ddolurus iawn oblegid carcharu y sefydlwr gan gabden y borth. Heblaw hyn oll, nid oedd gan y Prwyad Oneto, na'r Wladva, weledigaeth eglur parthed ei swydd a'i allu vel cynrychiolydd y Llywodraeth. Ei gyvarwyddiadau oeddynt :—"Chwi gewch yno gynulliad o bobl sydd er's 10 mlynedd yn llywodraethu eu hunain: etholant yn gyvnodol ynad a chorforaeth, maent wedi sevydlu prawv drwy reithwyr: a rhoddi i'w gweinyddwyr y gallu varnasant yn ddoeth, neu yn ol arverion sylvaenedig gwledydd gwâr. Hyn oll ddylech eu cydnabod a'u parhau vel y maent gan gyvyngu eich gweithrediadau i roddi i ni adroddiad manwl o'r trevniadau sevydledig yno, modd y gallo'r Llywodraeth bendervynu yn eu cylch maes law. —JUAN DILLON, Penaeth Swyddva Dyvudiaeth."
Wedi gweled cyvarwyddiadau y Prwyad Cenedlaethol newydd, ar iddo "barchu a pharhau y trevniadau lleol," nid oedd y Wladva yn barod i ollwng gavael o'r trevniadau hyny, a chydiai yr hen sevydlwyr yn dyn ynddynt: eithr mynai elven arall laesu dwylaw, a dygymod â'r prwyad a chabden y borth, rhag tynu gwg yr awdurdodau goruchel. Ceir gweled yn ol llaw i'r vrwydr hono barhau am 10 mlynedd—hyd nes y sicrhawyd Lleodraeth a llwybr Ymreolaeth. Nis gellir, gan hyny, obeithio vedru rhoi dilyniad syml iawn o'r digwyddion cyvrodedd a ddaeth gyda'r vath amrywiaeth o draferthion a chymysgva o vuddianau a chenelau.
Yr oedd dau bwnc lled vaterol yn galw holl sylw y gwladvawyr ynghanol y bendramwnwgl ddaethai yr un pryd a'r swyddogion newydd. Un oedd perygl prinder bwyd, a'r llall oedd rhaniad y fermi i'r sevydlwyr newydd. Cyn amgyfred y dyliviad pobloedd oedd i ddyvod, danvonasai y Wladva eu holl wenith i varchnad Buenos Ayres, i'w werthu, vel pan ddaeth y prwyad (a'r llu dyvudwyr) ei draferth gyntav oedd cael gan y Llywodraeth ddanvon dognau o luniaeth i'r rhai prin; ac wrth gwrs bu ciprys a helynt wrth ranu hwnw. Gwelwyd na lanwai hyny yr angen, ac velly bu raid i'r Wladva (vel cynt) wneud trevniad i gael cyvlenwad o vwyd a gwenith hâd o Patagones.
Y pwnc arall oedd advesur a rhanu'r tir. Fel y cyveiriwyd, danvonasai y Llywodraeth vesurydd, a phenodasai bwyllgor o'r sevydlwyr i arolygu y raniadaeth—y Prwyad, a'i ysgrivenydd, (R. J. Berwyn), L. J., D. Ll. Jones, a J. Griffith.
Pan yn y berw hwnw bu digwyddiad divrivol, gododd wrychyn y Wladva, ac a gododd hevyd i sylw amwysedd cyvarwyddiadau y prwyada grym y trevniadau lleol. Ydigwyddiad hwnw ydoedd pan laddodd morwr Frengig o'r enw Poirier, beilot lleol ar long yn yr avon (Charles Lynn), drwy ei daro yn varw ar ei ben â phastwn. Cymerwyd y llovrudd i'r ddalva yn y van, a chadwyd ev yn y carchar dan geidwaid govalus. Chwyrnai y Prwyad, ond ni symudai cabden y borth vys na llaw, er y gallesid tybied mai dan ei weiniad ev (morwrol) yr oedd y peth. Cythruddodd yr holl Wladva, ac yr oedd rhai yn tueddu i arver y dull Ianciaidd ar achlysuron o'r vath, drwy lynchio y lleiddiad ar y van. Bid a vyno, tyngwyd y rheithwyr, cymerwyd y tystiolaethau gyda chyveithydd o Gymro yn medru Francaeg, ac aethpwyd drwy yr holl achos yn furviol, mor agos ag y gellid i'r drevn Brydeinig: a rhoddes y rheithwyr varn unvryd o lovruddiaeth wirvoddol. Gwnaeth y Pwyllgor drefniadau i'w gadw'n garcharor diogel nes y ceid ystyriaeth bwyllog bellach ar y mater. Cyn hir, derbyniwyd y nodyn canlynol:—
{[right|Trerawson, Chwev. 9, 1876.}} At Rhydd. Huws, Ynad.—Yn enw y gyvraith, ac vel yr unig awdurdod genedlaethol yn y Wladva, yr wyv yn govyn i chwi roddi i vynu i mi y carcharor Louis Poirier, i'w ddanvon yn y llong "Adolfo" i'w roddi ger bron y llys cenedlaethol am droseddau. Os bydd i chwi wrthod vy nghais, deallwch, yn enw y gyvraith a'r Llywodraeth y byddav yn eich dal yn gyvrivol am holl ganlyniadau eich amryvusedd a thòr cyvraith. Mae gan bob dyn hawl i'w brovi gan y llys priodol, ac uwchlaw hyny yr hawl i apelio at Uchav Lys Cyviawnder, ac yn y diwedd ovyn trugaredd yr Arlywydd. Velly disgwyliav y rhoddwch i vynu y dyn wyv yn ovyn.—A. ONETO, Prwyad.
Rhag peri tramgwydd i'r awdurdodau goruchel rhoddwyd y dyn i vynu i avael y Prwyad, ac aethpwyd ag ev i Buenos Ayres: bu yno 2 neu 3 blynedd, yn myned drwy furv o brawv a phenyd: ond daeth yn ol i'r Wladva i ddangos ei hun yn ddyn rhydd, ac i deulu y trancedig, heb neb yn gwybod pa ddedvryd gawsai.
Yr un Prwyad Oneto ddanvonodd y nodyn canlynol at L.J.
Mae'r Piwyad Cenedlaethol svdd a'i enw isod yn eich awdurdodi chwi i vlaenori 20 neu 40 o ddynion arvog i archwilio cyfiniau y Wladva, a dal pwy bynag anhysbys i'r Wladva, a'u dwyn wedi eu diarvogi ac o dan warchodaeth i'r Brwyadva hon. Os ymosodir arnoch gellwch erchi tanio, ond gwnewch bob peth i osgoi tywallt gwaed.—A. ONETO.
Eglurhad yr uchod yw hyn:—Medrodd y Wladva ymdaro'n rhyvedd gyda'r brodorion drwy'r blyneddoedd. Yr oeddynt bob amser yn elven ansicr—o anianawd ac arverion anwar; yn weddillion cymysg o dri llwyth mawr a hen ddialeddau rhyngddynt wedi cynevino a bradychu eu gilydd a chael eu bradychu gan yr haner—brïd Arianin o'u deutu; yn ebyrth gwallgov i'r gwirod pan gafent gyvle, ac ar vin divlanu vel pobl o vlaen cadgyrch vawr y Cadvridog Roca, nes ymgynddeiriogi. Nid rhyvedd gan hyny pan ddaeth sibrydion i'r Wladva vod yr Indiaid yn bygwth ymosod ar y lle, vod peth cyfro ymhlith y sevydlwyr. Wedi cael y nodyn uchod aethpwyd yn llu arvog― ond lled avrosgo—hyd at y Creigiau Cochion i chwilio am vrodorion. Ond yn lle dod ar draws lluoedd y "Manzaneros rhyvelgar, digwyddodd vod llwyth cyveillgar Sac-mata yn d'od i lawr i varchnata vel arver: a rhyvedd y rhedeg a'r rhusio vu heb ddeall pwy oedd yn foi na pwy oedd yn ymlid. Wedi ymgrynhoi i'r Gaiman cavwyd dealltwriaeth sut yr oedd pethau. Ond deallwyd ymhen amser vod peth gwir yn y bygwth, ac mai yr hen Tsonecod, wersyllent ar y pryd ger Gaiman oedd wedi cael gwynt ar y stori, ac yn eu braw (taw pobl lwvr oeddynt hwy) wedi gollwng y gath o'r cwd. Ond mae'n debyg i adroddiad y Tsonecod o'r vilwriaeth (?) hono vrawychu y brodorion ar y pryd vel na wnaethant vyth ymosodiad o ddivriv, ond pan laddwyd y tri Chymro yn Kel-kein [gwel hanes hyny].
Y pryd hwnw dodes cabden y Borth (nid yr un swyddog a chynt) un arall o'r sevydlwyr mewn cyfion, yn garcharor, a gwrthdystiodd y Wladva vel y canlyn:—
Yr ydym ni sydd a'n henwau isod yn gwrthdystio yn bwyllus a divrivol yn erbyn traha y swyddog llyngesol, yn dodi un o'n cyd—sevydlwyr mewn cyfion creulon dan ddedvryd o 10 niwrnod, ar gyhuddiad o drosedd, heb brawv rheolaidd yn ei wydd ev ei hun a thystion, ac velly'n groes i arver pobl wareiddiedig, yn sathru breiniau gwerthvawr y Wladva, ac yn sarhad ysgeler ar y Llywodraeth Genedlaethol. Yr ydym hevyd yn galw ar ein hawdurdodau lleol i roddi i ni eglurhad pa vodd y bu'r vath drais ar ein hiawnderau, a pa gamrau gymerir i'n hamddifyn o hyn allan. Nid ydym drwy hyn yn dadgan unrhyw varn am y cyhuddiad o drosedd.—J. B. Rhys, L. Jones, a 32 eraill.
EIN BREINIAD—HOGI ARVAU.
Yn yr helbulon "rhanu'r bwyd," a "rhanu'r tir," a'r Ormes Swyddogol yn trymhau, ac aniddigrwydd dyvudwyr ar y bywyd newydd yn boenus ddigon—yr oedd gyvyng iawn ar y Wladva yn y cyvwng hwnw. I wneud pethau yn waeth, nid oedd y sevydlwyr eu hunain yn cydweled parthed swydd na doethineb y prwyad yn gweinyddu. Buwyd yn y benbleth hono ran o ddwy vlynedd—yn cynal cyrddau ac yn cynal etholiadau. Yn y cyvamser cawsai L. J. gnewyllyn ei wasg argrafu; ac yn Medi 21, 1878, daeth allan y rhivyn cyntav o Ein Breiniad, newyddur wythnosol bychan i wyntyllio y gwahaniaethau parthed iawn weinyddiad y Wladva, a'r gwingo rhag yr Ormes Swyddogol. Gwasanaethed y dyvynion a ganlyn o'r newydduryn hwnw vel flachion trydan ar y caos oedd yn amgau y Wladva, a chaif y darllenydd weled yn y llyvr hwn y gwreichion danbeidient drwy'r awyr yn y tywyllwch hwnw, a sut y daeth y Wladva i oleuni dydd yn y man. "A minau a anwyd yn vreiniol" ebe Paul, sydd eglurhad ar yr enw.
Bloedd Corn Gwlad.—Ymysgydwed y Wladva! Ai dibris genym ein Breiniad—insel ein dyndod gwladol? Pa mor chwithig bynag yw y vywoliaeth yma, ragor yr hyn bortreadodd llawer iddynt eu hunain wrth gychwyn, y mae ein rhyddvreiniad (a'n hiechyd) yn gafaeliad trwyadl. Gwylier na vo i'n hir—gynevindod â GWASANAETHU ein gwneud yn ddibris o'r vraint a'r gallu i LYWODRAETHU. Y mae i ni viloedd lawer o vrodyr yn Hen Wlad ein Tadau yn dyheu am ryw lais yn llywodraethiad eu gwlad ond yn over; a phe cawsent, y maent mor ychydig yn y pentwr aruthrol vel na vyddai eu llev ond main, main ar y goreu. Ein cevnderwydd, y Gwyddelod, a geisiant yn ddyval uno eu gwaedd hwy am Hunanlywodraeth ac y maent hwy lawer luosocach cenedl na nyni—ond gwawdir y waedd vel ysgrech anhywaeth, anheilwng o unrhyw sylw amgen na dodi bysedd yn y clustiau rhagddi. Eithr ninau yma ydym oll yn vreiniol. Nid yn unig nyni sydd i ddywedyd pa vodd a phwy i'n llywodraethu, ond nyni hevyd sydd i lywodraethu. Ai bach o beth hyn genych, chwi wehelyth breinwyr Hywel Dda? Tebycach o lawer mai heb iawn synio yn ei gylch yr ydych, oherwydd hir bylu ein syniadaeth wleidyddol gan wasgveuon amgylchiadau yn Nghymru yn llyngeu pobpeth iddynt eu hunain. Er's canrivoedd y mae ein cenedl ni heb ymarver dim â'i ddawn wleidyddol, am nad oedd ganddi wlad. Eithr wele genym ni Wlad yn awr, a rhaid ymysgwyd ati o ddivriv i'w gwleidydda.
Cyvarvod Gwleidyddol Medi 18ved, 1878.—Sylwadau gan D. Ll. Jones.—Teimlai vod y dull presenol o arolygu gweinyddiad y Wladva yn anefeithiol. Yr oedd bod yn aelod o'r Cyngor yn vaich a threth ar amser ac amynedd: methu cael eisteddiadau, ac wedi eu cael, methu gwneyd dim. Priodolai hyny yn un peth am vod yr aelodau yn byw mor wasgarog, ond yn vwy am vod y Cyvansoddiad, vel y mae, yn atalva yn hytrach nac yn arweiniad. Pan ymgynullid yn vrysiog ar nawn Sadwrn, byddai rhyw vân negeseau yn galw eu holl sylw, vel na cheid hamdden i wneud gwaith gwirioneddol. Cwynai y wlad, ac yr oedd y sevydlwyr newydd yn neillduol yn methu deall y sevyllva. Dywedid vod gwaith mawr wedi ei wneud gynt, ond yr unig beth—yr unig lecyn glas—a welai eve oedd gweinyddu barn, ond yr oedd y trevniadau hyny y rhai salav oedd gan unrhyw gymdeithas wareiddiedig. Wneir dim o honi nes cael breinlen corforaeth o dan law Arlywydd y Weriniaeth. Nid oedd y Cyvansoddiad presenol yn arweiniad i ddeddvu cadarn nac yn gwarchod finiau y deiliaid. Yr oedd enaid y peth ar ol—dim awdurdod. Nid oedd yn ein cysylltu â'r Weriniaeth, ac heb hyny yr oedd yn anichon i'r Cyngor wneud dim. Pobpeth a wneir yn unol â'r cyvreithiau cyfredinol Arianin, gallai hyny sevyll. Yr oedd fyrdd a fosydd, addysg, a gweinyddiad barn yn galw yn uchel am sylw, ond nid oedd allu i'w pendervynu. Cavwyd anhawsder gyda'r cyvrivon, oherwydd yr aml swyddogion yn bwrw bai y naill ar y llall, ac oherwydd anhawsderau cyvansoddiadol meddid. Os ydys am ethol, myner Cyngor wedi ymrwymo i vynu trevniadau gweithiadwy. Myner Corforaeth, a diau y cafai hono stâd o dir ar gyver stâd o ddyled y Wladva. Nid oedd yr amryw vân swyddau sydd yma ond dynwarediad, a gellid eu crynhoi i UN meddwl a llaw gyda mantais—y llywydd, yr ysgrivenydd, a chadeirydd y Cyngor yn un Maer, a hwnw yn vaer ynadol. Hyd nes y ceid hyny, teimlai nad ymgymerai eve o hyn allan âg unrhyw benodiad gwleidyddol yn y Wladva.
L. J. a sylwai:—Yr oedd eve yn eithav awyddus i wyntio pwngc y Gorforaeth, pan welai adeg gyvaddas : ond syniai mai nid ar draws nac yn ystod ein hetholiadau sevydledig ni oedd yr adeg hono. Nid oedd yn llwyr ddeall beth a olygid wrth Gorforaeth yn y Wladva. Am yr hyn a alwai Cyvansoddiad y Weriniaeth yn municipalidad, datgenid yn bendant yno ma hawl Daleithol oedd hyny, yn yr hyn, vel y cyvryw, nad allai y Llywodraeth Genedlaethol ymyryd Os dywedid nad oeddym ni Dalaeth, ac mai y Llywodraeth Genedlaethol oedd iovalu am danom yn mhob peth, yna dywedai yntau vod y Weriniaeth wedi darparu i'r Gydgynghorva wneuthur DEDDFWRIAETH NEILLDUOL ar gyver sevyllva vel yr eiddom ni. Gan hyny, o gael deddvu ar ein cyver, hwylusdod rhesymol vyddai cael rhyw drevniant a'n gwnelai yn gnewyllyn Talaeth, a ymeangai o hono ei hun vel yr ymeangem ninau,—ac nid Bwrdd Lleol. Dylai vod genym ni vyrddau lleol yn Nhrerawson ac yn Gaiman, i ovalu am iechyd, a heddwch, ac adeiladaeth, a chladdveydd y manau hyny, ond dylai vod genym hevyd ryw un oruwchreolaeth gynrychiolai yr holl wlad. Buasai eve drwy'r blyneddoedd yn govyn i'r Llywodraeth basio drwy y Gydgynghorva ryw gyvryw ddeddv, ond heb dycio. Gwnaed un ddeddv arbenig ar ein cyver, sev Deddv y Tir; ond gwnaed y mesur carbwl hwnw tra o dan y syniad vod yma dir llavur anhervynol, ac wedi defroi o'r amryvusedd hwnw nid oedd ryw vrys mawr i'w chario allan, drwy roddi gweithredoedd i ni. Yr oedd eve, velly, mor awyddus a neb i gael deddvwriaeth; ond yn ymarverol barnai mai over hollol oedd i 700 neu 800 o boblogaeth bellenig ddisgwyl i'r Gydgynghorva, oedd bob amser ar frwst, vel Cyngor y Wladva, wneuthur trevniadau Tiriogaethol ar eu cyver hwy yn unig. Peidiodd dyddordeb mawr y Llywodraeth pan beidiodd dyvudiaeth yma. Hwyrach y gwneid rhywbeth rywdro. Ond a vyddem ni heb drevniadau i ni ein hunain hyd hyny? Anvonasai y Llywodraeth Brwyad yma i'w chynrychioli, a dywedasai yn bendant wrtho vod y trevniadau a veddem neu a wnaem ni i barhau nes y gwnaent hwy eu gwell, os gwelent angen i hyny. Paham, ynte, y diystyrwn ni y trevniadau? Diau eu bod yn amherfaith ac anghyvlawn, ond eve a veiddiai ddweud eu bod yn gryno o vewn y Cyvansoddiad Cenedlaethol—yn llawn mwy yn ymarverol velly nag odid lywodraethiad lleol yn y Weriniaeth,—ac nad oes eisieu ond myned yn mlaen yn yr un yspryd, ac velly voddio y Llywodraeth a lleshau ein hunain. Nid oedd ryw ddaioni mawr un amser o hòni ryw or—oval am vuddianau ereill Ve ovalai y Llywodraeth drosti ei hun, gallem ventro, vel y gwnaeth pan gyveiliornasom yn achos y llovrudd. Oud y dyryswch a'r divlasdod iddo ev oedd vod gweinyddwyr trevniadau y Wladva yn esgeulus ac anfyddlawn. Yr oedd ein fyrdd a'n fosydd a'n pontydd yn druenus, ac yn govvn llawer mwy o'n sylw na chorforaeth nac arall. Musgrell iawn vu y Cynghor, mae'n ymddangos; ond tadogai eve lawer o hyny, a holl ddilunwch presenol ein sevyllva, i ddifyg yni ein Gweinyddwyr.
Y Prwyad Oneto gyhoeddai ei syniadau yntau vel y canlyn:Ni vu genym erioed weinyddiad rheolaidd, a phob amser mewn gwrthosodiad i'r cyvreithiau Cenedlaethol. Mae bellach yn bryd ei gwneud yn gydfurviol â'r cyvreithiau Cenedlaethol. Er mwyn cyrhaeddyd hyn byddai yn ddoeth apelio at y Llywodraeth Genedlaethol, mewn trevn i roddi i ni gyvarwyddyd Cenedlaethol, a chyvansoddiad bwrdeisiol; gweinyddiad barn Genedlaethol, a rhoddi i ni y nerth angenrheidiol i gario ymlaen gyvraith a chadw trevn; ac hevyd ein cynysgaeddu â'r moddion hanvodol i sevydlu cartrevlu, er ein amddifyniad rhag ymosodiadau tebygol y brodorion.
Hevyd, dylem wahodd y Llywodraeth i anvon i ni athraw ac athrawes alluog; oherwydd heb addysg bydd ein plant a enir yma y rhai yn ol Cyvansoddiad y Weriniaeth ydynt yn ddeiliaid ohoni—heb wybod dim o iaith eu gwlad, a deuant yn Indiaid Patagonaidd gwynion—heb vedrusrwydd, ac heb uchelgais urddasol y meddwl a'r galon.
Hevyd, mae yn anhebgorol cael meddyg. Ac i'r amcan hwn, tra y govynwn i'r Llywodraeth ein cynysgaeddu âg un, dylem hevyd gynyg talu rhan o gyvlog y cyvryw un.
Dylem govio bob amser mai angenion gwladol penav pobl wareiddiedig ymhob oes ydynt—Ynadaeth ddilwgr a dysgedig, athraw da, a meddyg da.
Gweinyddiad mewn gwrthdarawiad â'r cyvreithiau Cenedlaethol nis gall barhau, na bod yn gryno; ac wrth y ddamwain leiav hi a glofa. Ni vydd grym yn ei ddyvarniad gan y rhai cyndyn pan ddelont dani. Yn gymaint ag nas gall ein Gwladva eiddil ni wasgu ei dedvrydau ar y Genedl, ac nad yw er lles y Wladva dan unrhyw amgylchiadau iddi ymwahanu oddiwrth y Weriniaeth (hyd yn oed pe goddevid y cyvryw ysgariad), byddai raid iddi oblegid ei heiddilwch, yn hwyr neu hwyrach, alw am nodded rhyw allu arall, ac mewn canlyniad vyned yn ddeiliadon y cyvryw allu. Yn ein hamgylchiadau ni, gan ein bod agos oll yn Brydeinwyr, y tebygrwydd vyddai i Loegr ein cysylltu wrthi ei hun ar y cyvle lleiav a roddem iddi.
Ond a gadael o'r neilldu y vath ddadl ddreiniog, govynwnA all y Wladva ymgynal heb gymorth Prydeiniaid haelionus, a rhoddion haelvrydig y Weriniaeth Arianin? . . . . . Yn ddiau, nis gall.
Gadewch i ni ddodi heibio bob tueddvryd cenedlaidd, a chovio mai delw un sydd arnom—mai brodyr ydym, wedi ein cylymu ynghyd yn rhwymyn cariad brawdol, ac nad oes ond rhinwedd a gwybodaeth yn gwahaniaethu rhwng dyn a dyn. Wrth ovyn yn wirvoddol ac uniongyrchol ar i'r Llywodraeth roddi i ni Weinyddiad Cenedlaethol, a'n cyvlenwi â'r modd i'w grymuso, byddwn yn gwneyd gwaith cymeradwy, a'r un pryd byddwn yn enill hawl gryvach i achles a serch y Llywodraeth. Gadewch i ni roddi tervyn ar yr ansicrwydd gweinyddol sydd wedi bod yn hongian hyd yn hyn uwch ein penau, a boed yn wawr cyvnod gweinyddol newydd arnom, deilliedig o'r Gyvraith Arianin.
Mewn trevniadau gwladol, edrychwn beth a all ddigwydd i ni gyda chyvreithiau Cymreig:—priodi, geni, marw, ysgariad, byw ar wahân, ewyllysiau, cytundebau, gwerthiadau, echwyna, ocraeth, gwarchodaeth, amddivaid, plant naturiol, ymrwymiadau, rhwymedigaeth rhieni, dyledswyddau plant, gwarcheidwaid cyvreithlon, ymddiriedolwyr, dyledswydd ieuenctyd, dyledswydd henaduriaid, rhaniad eiddo, masnach—a llawer agwedd arall y dichon i ni yn ddamweiniol, neu rywvodd arall, yn yr holl gvsylltiadau gwladol hyn, droseddu y cyvreithiau cenedlaethol mewn un pwynt, ac yna byddai pob travodaeth arall a wnaem, i raddau mwy neu lai, yn sigledig, a gallent achlysuro aml gynghaws hirvaith ger bron yr Ynadon Cenedlaethol. Onid ymddengys i chwi, gan hyny, dan y wedd neillduol hon, yn well i ni roddi ein hunain mewn cydfurviad â'r cyvreithiau Cenedlaethol ?
Ac i ddiweddu: mae amser yr Etholiad yn nesu, yn Hydrev, yn lle tugelu am awdurdod Cymreig, tugelwn (yn ol y drevn Genedlaethol) i sevydlu awdurdod Arianin: cyvlwyno canlyniad y tugelu i'r Llywodraeth Genedlaethol, a govyn iddynt ein corfori yn wir Wladva Genedlaethol Arianin—ac ve ddwg i ni ddaioni.
Yn y rhivyn dilynol, atebwyd syniadau y Prwyad gan L. J. vel y canlyn:—
Ynghylch y crug coeg "ymrwymiadau gwladol " (plant anghyvreithlon, &c.) a luchir vel llwch i lygaid y wlad, yr ydym vel Gwladvawyr Cymreig yn deall yn drwyadl vod Deddvlyvrau Cenedlaethol y Weriniaeth—yn wladol, droseddol, vasnachol, mwnol — yn rhwymedig arnom, vel pob rhan arall o'r Weriniaeth; ac os bydd ein deongliadau lleol ni ohonynt yn anvoddhaol i'r pleidiau, vod apêl (ymhob peth ag y caniateir apêl gan y gyvraith) oddiwrthynt i lysoedd uwch. A phe gwrthdroid rheithvarn y Wladva mewn llys uwch, nid yw ond yr hyn a ddigwydd bob dydd o amryval ranau y Weriniaeth; ac ni phrovai, ar un cyvriv, vod ein gweinyddiad ni yn avreolaidd. Ond nid y Brwyadaeth yw y llys uwch hwnw sydd i ddatgan a yw rheithvarnau y Wladva yn gywir ai peidio. Neges y Brwyadaeth yma, yn ol ysbryd a llythyren y penodiad, ddylai vod cynysgaeddu ein gweinyddwyr â'r cyvleusderau i iawn ddeall eu gwaith, ac nid bwrw pob anhawsderau ar eu fordd, a dywedyd pw, pw am eu holl ymdrechion. Mater o varn gyvreithiol vanwl yw pa mor bell y mae cydnabyddiadau y Llywodraeth o weithrediadau y Wladva yn cyrhaedd, heb vod y Gydgynghorva wedi gwneuthur datganiad furviol yn eu cylch; a gallai cyvreithwyr goreu y Weriniaeth wahaniaethu arno. Ond ni chredwn y mynai y Llywodraeth i'w Phrwyad hi gymeryd mantais o'r ansicrwydd hwnw i vwrw awgrymion, melus i rai gwrthnysig, na allwn ni godi trethi at ein gwasnanaeth lleol o wneuthur fyrdd, a phontydd, ac ysgolion, &c.
Rhagvyr 14, 1878, bu cwrdd gwleidyddol arall yn Gaiman, wedi yr etholasid D. LI. Jones yn ynad, ac yn hwnw gwnaeth ev sylwadau i'r perwyl a ganlyn:—
Hyd yn hyn y mae'r Llywodraeth wedi goddev i ni vyned ymlaen, ond nid oes genym scrip na scrap o awdurdodiad. Hwyrach vod y Cynghor y peth goreu ellid gael dan yr holl amgylchiadau, ond shift yw ar y goreu, a dyna yw arweddion holl amgylchiadau y Wladva. Ni vreuddwydiodd cychwynwyr y Wladva am anibyniaeth gwladol iddi—dim mwy na chael Talaeth Gymreig yn y Weriniaeth Arianin, a chanddi ei senedd leol ei hun; a cheir hyny, ond i'w phobl ddeall eu gwaith. Os na chorforir, dichon y penodir eto gomisiwn fyrdd at y comisiwn tir a'r comisiwn addysg. Os na cheir rheolaeth addysg y lle i ni ein hunain, gwell genyv weled arian y Llywodraeth yn myned gyda'r avon. Rhaid i ni gael addysg, ac yr wyv am i'r addysg hono vod yn Gymraeg; eithr yr wyv am i bob plentyn a addysgir yma allu ateb drosto ei hun yn Saesneg a Hispaenaeg, ac yna yn rhy vawr i boeri am ben Sion y Sais. Na ato Duw i ni anghofio ein hiaith, ond na ato Duw hevyd i ni aberthu gwybodaeth er mwyn iaith. Gwnaeth y diwygiadau crevyddol y Gymraeg yn iaith dduwinyddol, ac y mae'r newydduron yn ei gwneud yn iaith wleidyddol. Bid a vyno, y mae'r Llywodraeth yn awr yn edrych trevniadau y Wladva, a chan hyny y mae'r adeg wedi d'od i geisio cael seiliau politicaidd parhaol. Gwell i ni ddyweyd yn awr wrth y Llywodraeth beth a ddymunem gael, yn hytrach nag aros i weled beth wneir, a grwgnach wed'yn. Y mae deisebau lled ryvedd wedi myned oddiyma, ond weithiau y mae hyny yn angenrheidiol. Dylai y Wladva yn awr ovyn cael rheolaeth ein fyrdd, ein dyvrio, addysg, masnach, heddwch. Pe caem decree yn caniatau hyny i ni—corforaeth—byddai gan y llywodraethiad lleol reolaeth ar yr ynad, ac yna ni vyddai o nemaw pwys pwy ddaliai y swydd, gan y gellid edrych ar ei ol. Caniata y cyvansoddiad cenedlaethol i ni gymaint o awdurdod barnol ag sydd arnom eisieu y rhawg. Aif blyneddau heibio cyn y gallwn ni godi carcharau, ond dylem gael awdurdod i anvon estroniaid avlywodraethus o'r lle. Rhagrith yw ein rhaith vel y mae, a dylai vod yn debycach i chwarter sesiwn Prydain. Gall y Llywodraeth estyn cryn lawer ar y cyvansoddiad, vel ag i ganiatau hyn. Gyda hyny y mae arnom eisieu porthladd rhydd, un y gall llongau o Brydain lwytho a dadlwytho ynddo; porthladd didoll os gellir, ond porthladd tollawl beth bynag chaniatad i ddwyn i mewn yn adidoll beirianau yn arbed llavur. Dylai y pum' mlynedd nesav weled masnach seth rhyngom a'r Hen Wlad, a bydd yn gywilydd i'r Wladva os mai y masnachwyr presenol gaif y vasnach hono. Pwnc y priodi eto sydd yn galw am ddealltwriaeth, gan vod eiddo tirol yn codi, ac etiveddiaeth yn d'od yn bwysig. Nid wyv yn teimlo unrhyw anhawsder yn y mater hwn, ond cael y Rhestrydd Cyfredinol i gydnabod ein trevniant.
Ysgarmes wleidyddol hir—goviadwy oedd hono. Etholasid D. Lloyd Jones yn Ynad, a J. W. Jones (Tanygrisiau), yn Ysgrivenydd.
Ceir yn Ein Breiniad y cyvnod hwnw adroddiad am ymweliad L. J. â Borthaethwy (Port Desire), a'r Groes-wen (Santa Cruz), dros y Llywodraeth, i weled a ellid yn y lleoedd hyny blanu sevydliadau Cymreig. Bernid nad oedd nemawr ragolygon amaethol ar gyfiniau arvorol Borthaethwy; ond tebygai y gellid gwneud sevydliad llewyrchus ar ddyfryn y Siawen (cangen ddelai i'r Cruz yn agos i'r môr) o'r gorllewin, tua Ma—waish.
Ysgarmes arall y ceir adroddiad ohoni yn Ein Breiniad yw yr un parthed ysgoldy Glyn-du—pan ovynai yr athraw cenedlaethol Powel am gael devnyddio yr ysgoldy yn ysgol ddyddiol, ond yr hyn a omeddai y gynulleidva a'i mynychai, am yr ovnent vod yr athraw hwnw o dueddion Pabaidd.
Ceir adroddiad yno hevyd vod y Cyngor wedi medru codi £50 drwy gyngaws arian dyledus i M. D. Jones ar gyvriv y Vintai Gyntav—prawv nad oedd y gweinyddiad lleol mor ddiymadverth ag yr honid.
PARHAD O'R ORMES SWYDDOGOL.
Yr oedd y reolaeth driflyg hon—Prwyad, Cabden y Borth, a'r Pwyllgor yn anioddevus iawn i'r Wladva. Codasid Swyddva Dyvudiaeth, i vod hevyd yn Swyddva Gwladvaoedd, a chyda hono gohebai y Pwyllgor i geisio cael dealltwriaeth pa vodd i weithredu yn yr ymrysonau parhaus oedd yn codi. Gwasanaethed y nodyn canlynol vel engraift:—
Mae sevyllva drevnidol y Wladva yn parhau i vod yn vlinder a dyryswch i'r Wladva—o ddifyg definiad eglur beth yw dyledswyddau yr awdurdodau lleol. Hysbyswyd ni vod cyvraith y Chaco wedi ei chymhwyso hevyd at Chubut. Mae amwysedd swydd y Prwyad, a llaw drom y swyddogion llyngesol, yn peri i'r Pwyllgor bryder dirvawr pa vodd i weithredu yn ddoeth ac efeithiol, a chan hyny yn ervyn yn daer ar Swyddva Gwladvaoedd i'n hysbysu o vanylion cyvraith y Chaco, a'r modd i'w rhoi mewn grym yma.—J. B. RHYS, L. J.
Ychydig cyn hyny galwasai un o longau y llynges Arianin yn y Wladva, a chanlyniad hyny oedd y paragraf canlynol yn y Porteno—un o newydduron Buenos Ayres. "Nid oes gan sevydlwyr Chubut barch yn y byd i'r awdurdodau Arianin. Datganai y Prwyad Oneto ei lwyr anallu i lethu nac atal yr anrhevn sydd yno, a dywed yr awdurdodau llyngesol nad oes ond grym arvau yn eu cadw rhag tori allan mewn gwrthryvel."
Engraift eto:—
At D. Luis Jones.—Oblegid y digwyddiad vu yma ddoe, rhaid i mi eich traferthu, os gwelwch yn dda, i alw yma evo mi gynted y gellwch, oblegid y mae hyny'n ovynol i'n diogelwch personol yn ol y digwyddiad ddoe—taw ymddengys ein bod yn byw ynghanol cyvnod '40 [gormes Rosas]. Nis gallav ddod i'ch gweled, gan vod tair llong genym i drevnu eu papurau.G. ZEMBORAIN—Penaeth y Gyllidva.
Y gyvlavan y cyveirir ati uchod ydoedd ymravael godasai ar heol Trerawson am redva gefylau, rhwng Cabden y Borth a Penaeth y Dollva, ymha un y gwaeddai y naill a'r llall ar i'r heddgeidwad arvog oedd gerllaw saethu, a Chabden y Borth oedd yr un syrthiodd yn varw ar y van. Ni vu brawv nac ymchwiliad i'r achos hwnw vyth o ran dim ŵyr y Wladva.
BYR BENODI L. J. YN BRWYAD.
Ddechreu Ebrill, 1879, aeth y prwyad Oneto i Buenos Ayres, wedi bod yn y Wladva dair neu bedair blynedd, a phenodwyd ev i vyned gyda'r naturiaethwr Moreno "i olrhain yr holl diriogaethau deheuol a olchir gan y Werydd, evrydu eu cynyrchion pysgodol, mwnol, naturiol, ac amaethol, &c." Ymhen talm o amser aeth ar yr archwil wyddonol hono mor belled a Borthaethwy, lle y bu vlwyddyn neu ddwy: eithr cyn hir iawn, yn yr unigedd hwnw, dadveiliodd ei gyvansoddiad cadarn, a bu varw yno, lle y mae gwyddva ei vedd yn adail amlwg yn y borth hono. Gwnaed yr archwiliad a'r adroddiad ddiwedd 1879.
Awyddai Don Juan Dillon yn vawr i achlesu y Wladva, a rhoi chwareu teg iddi ddadblygu ei hun. Boddiasid ev yn yr adroddiad am Borthaethwy a'r Groeswen, ac velly pan ddaeth L. J.i Buenos Ayres i gael melin wynt archasai o Brydain, oedd y tro cyntav iddo weled Don Juan Dillon, penaeth Swyddva Dyvudiaeth. A'r pryd hwnw—heb na govyn na disgwyl swydd yn y byd—penodwyd L. J. yn Brwyad y Wladva vel dilynydd A. Oneto. Ond gan vod yr un ysprydiaeth vygylog yn aros vel traddodiad yn y swyddveydd gweinyddol, buan iawn yr avlonyddwyd ar y prwyad newydd—prin 6 mis—ac y penodwyd Juan Finoquetto, yr hwn a vu ddraen yn ystlys y Wladva am vlyneddau, vel y gwelir eto.
Pan benodwyd L. J. yn brwyad yr oedd D. Candido Charneton yn gabden y borth—disgybl i'r D. Mariano Cordero ddanvonasai y nodyn bygythiol (tud. 97), ymddengys i'r penodiad vod yn dramgwydd i hwnw, a danvonodd y nodyn canlynol:—
Er nas gallav ddeall pam y danvonasoch y nodyn gevais oddiwrthych heddyw, [nid oedd ond ei hysbysu o'r penodiad] yr wyv yn brysio i'w ateb, er mwyn eich hysbysu vy mod vel Cabden y Borth a swyddog milwrol, bob amser yn barod i beri parchu yn vilwrol, o vewn tervynau vy swydd gwaedded a waeddo—gyvreithiau vy ngwlad, y rhai a wn yn ddigon da na raid i ddieithryn, er eich savle vel swyddwr cenedlaethol, vy addysgu na'u hadgovio heb vy nghenad. Velly govynav i chwi y tro nesav beidio closio eich hun atav vi, gan nas gallav vi wneud hyny yn ol. Dywedav eto y gwn yn dda gyvreithiau vy ngwlad, ac y mae ynwyv gydwybodolrwydd dwvn o'm gweithredoedd, ac nid wyv yn vyr o'r egni angenrheidiol yn yr amgylchiadau vu'n galw am hyny i'w cyvlawni yn vanwl, hyd nod er eich gwaethav chwi, ac heb ddim ovn ymrysonau allai godi wrth gyvlawni vy nyledswydd, yr hyn wyv wedi wneud hyd heddyw yn gwbl gydwybodol: ac nid wyv yn gwybod ddarvod i mi erioed vyn'd dros finiau vy awdurdod, na thresmasu ar eich finiau chwithau vel "yr awdurdod wladol, gyvreithiol, milwrol a goruchel" y Wladva hon [darnodiad y gyvraith o swydd prwyad] a'i phreswylwyr, gan nad yw yr un sydd a'i enw isod yn cydnabod yr un awdurdod vilwrol na goruchel ond yr eiddo ei hun.—CANDIDO F. CHARNETON.
Lle'r oedd ysprydiaeth vygylog vel yna yn fýnu nid rhyvedd i Swyddva Gwladvaoedd chwilio am brwyad newydd o'r un nodwedd, a throi L. J. o'r neilldu mor swta. Yr eglurhad arall ydoedd vod dylanwad D. Juan Dillon yn dechreu ymgilio i roi lle i'w briv swyddog gynt i gymeryd ei le. Pan benodwyd y prwyad newydd mor sydyn, yr oedd L. J. ar vordaith tua Buenos Ayres i roddi ei adroddiad, a rhoddir rhan o hwnw yma vel mynegiad o sevyllva pethau ar y pryd yn y Wladva:—
At Benaeth Swyddva Gwladvaoedd —Daethum i vynu yma i osod ger eich bron sevyllva ac angenion y Wladva yngwyneb dyliviad dyvudwyr atom, a difyg trevniadau i'w derbyn a'u hyrwyddo. Y 150 ddaethant yn ddiweddar medrwyd eu lletya a'u hwyluso hyd eithav cyvleusderau y lle a charedigrwydd y cymdygion. Ond daethum i vynu yma i gymell i'ch sylw y pwysigrwydd o vod y trevniadau yn gyvlawnach, rhag llesteirio y ddyvudiaeth Gymreig sydd yn awr yn llivo tuag yma. Pan gyrhaeddais yma deallais vod gŵr arall wedi ei benodi i'r swydd. Nid yw hyny o bwys yn y byd genyv yn bersonol, er nas gallav ddirnad y rheswm dros y vath newidiad sydyn. Ond ar vuddianau a rhagolygon y Wladva gall efeithio yn niweidiol. Y mae dyvodiad y dyvudwyr diweddar hyn i'w briodoli mewn rhan i'r hyder barodd vy mhenodiad i yn brwyad ymhlith hyrwyddwyr y mudiad gwladvaol yn Nghymru, ac nid peth i'w atal a'i adnewyddu yn ddysbeidiol yw lliv dyvudiaeth. Bwriadaswn wasgu i'ch sylw yr awgrymion canlynol: (1) Caniatau i'r Wladva gael cychwyn ei bywyd lleodrol (municipal) yn ol Cyvraith y Chaco, lle bo mil o bobl. (2) Estyn y sevydliad gyda'r dyfryn, ac i vanau addas i'r de a'r gogledd. (3) Dyrchavu y Brwyadva i vath o raglawiaeth i arolygu yr holl gylchynion. (4) Trevnu gydag agerlongau P.S.N. Co. i lanio dyvudwyr yn Chubut, ac i'r Llywodraeth dalu at eu cludiad swm cyvartal i'w cludiad o Buenos Ayres i'r Wladva, ac velly arbed yr ymdroi poenus presenol.
Bydd yn amgauedig vy adroddiad blyneddol barotoiswn cyn gwybod na byddai alw am vy ngwasanaeth. Caniatewch i mi hevyd amgau pendervyniad y Cyngor ar vy mhenodiad, vel yr oedd yn vynegiad o deimlad y sevydlwyr.—L. J.
"At Br. L. Jones, Prwyad y Llywodraeth Genedlaethol yn y Wladva. Mae genyv yr anrhydedd o gyvlwyno i chwi y pendervyniad canlynol basiwyd yn unvrydol gan y Cyngor yn ei eisteddiad diweddav:—'Mae y Cyngor yn llongyvarch Br. L. Jones ar ei benodiad yn Brwyad, ac yn datgan ein boddhad wrth weled y Llywodraeth yn penodi sevydlwr i'r swydd, gan y credwn yr hyrwydda hyny ddadblygiad y Wladva, ac y cadarnha gyd—ddealltwriaeth.'—ED. JONES, Ysg. y Cyngor."
Yr helynt nesav a groniclir o gyvnod yr ormes, a eglurir yn well drwy y dyvynion canlynol. Finoquetto oedd y prwyad y pryd hwnw, a Charneton yn Gabden y Borth.
Ymgasglodd niver o gymdogion o achos camymddygiad swyddogian y Borth tra ar eu hymarveriadau gyda drylliau— sev tanio ergydion moelion trwy fenestri yr ysgoldy at bersonau ar wahanol achlysuron, ac yn arbenig ddoe, pryd yn chwanegol at yr uchod y taniwyd rai gweithiau i wyneb Louis Fevre, gan ei glwyvo, yr hwn oedd yn eu dwylaw yn garcharor. Pendervynwyd gwneud yr uchod yn hysbys i'r Ynad a'r Prwyad, ac os na weithredant hwy o hyn i'r Sul, alw cyvarvod cyhoeddus.— T. DAVIES, IOSUA JONES.
Ebrill 11, 1881. 1. Vod y cyvarvod hwn yn apelio at yr Ynad i gasglu pob tystiolaeth a hysbysrwydd ynglyn â gweithrediadau swyddogion y Borth yn eu hymddygiad at y carcharor Louis y Francwr sydd yn eu dwylaw, a'u gwaith yn tanio
TRERAWSON,-EISTEDDLE Y RHAGLAWIAETH.
Gerllaw oedd y van y cychwynasid y Wladva, ac y bu Brwyadva wedi hyny. Dynodir y Rhaglawdy
dan y vaner Arianin: Llyvrdy Berwyn yw yr adail agored nes at yr edrychydd.
ergydion at yr ysgoldy a phersonau. 2. Penodir J. M. Thomas, W. S. Tyndale, Bautista Faure, T. Davies, a W. R. Jones, i hysbysu y prwyad a'r ynad o'r cyvarvod hwn, ac i dynu allan wrthdystiad i'w gyhoeddi yn newydduron Buenos Ayres.
Ebrill 12, 1881. Nyni, pwyllgor benodwyd gan y cwrdd cyhoeddus yr 11eg cyv., a ymholasom parthed carchariad dau ddyn gan Gabden y Borth (Senor Charneton), a'r gamdriniaeth gavodd un ohonynt-ac eve yn ddeiliad Frengig, a'r hwn a vaeddwyd yn ddivrivol-a gredwn mai gwaith y prwyad yw cymeryd i vynu droseddwyr, ac nid Cabden y Borth: gan hyny dymunir ar i'r prwyad cenedlaethol ovyn am y carcharorion, er mwyn cymeryd eu tystiolaeth yn ol y gyvraith ar gyvryw achosion. Cymhellir ni i awgrymu hyn yn ol pen. 6, erth. 117 o Gyvraith Gwladvaoedd. Os bydd y prwyad yn barnu'n ddoeth ddevnyddio y gallu roddir iddo yn pen. 6, erth. 120 o'r gyvraith hono, cytunwyd yn y cyvarvod uchod ein bod i uvuddhau i'w orchymyn.-T. DAVIES, W. ROBT. JONES, B. FAURE, J. M. THOMAS, W. S. TYNDALE.
At Gabden y Borth-Yr wyv dan rwymau poenus i alw eich sylw at gwynion roddwyd yn furviol ger vy mron-yn gyntav gan gadeirydd y Cyngor, yna gan ddirprwyaeth o'r Cyngor, ac wedyn gan bendervyniad cyvarvod cyhoeddus (1) Vod dau ddyn wedi eu carcharu am ladrad heb hysbysu hyny yn yr Ynadva. (2) Eu bod wedi eu harteithio er ceisio cael ganddynt gyfesu. (3) Un ohonynt (L. Fevrier) dinesydd Frengig, wedi ei gamdrin yn erwin. (4) Vod milwyr y Borthva wrth ymarver saethu gydag ergydion moel wedi anelu at Fevrier a'i anavu ar amryw vanau o'i gorf. (5) Droion eraill, tra'r oedd y vilwriaeth hon yn ymarver velly, ddarvod iddynt saethu drwy fenestri yr ysgoldy, a throion eraill anelu at rai o'r trigolion.
Yr wyv gan hyny yn parchus, ond pryderus, ovyn am eich eglurhad, ac os mynwch, trosglwyddir i chwi yr ysgrivau sydd yn cynwys y cwynion hyn.-Ď. LL. JONES.
Gan mai Finoquetto oedd y prwyad y pryd hwnw, ato ev y danvonwyd y gwrthdystiad uchod. Cabden y borth oedd yn gormesu: ond ystyriai y prwyad ei swydd ei hun goruwch hwnw; ac velly gadawyd iddynt hwy bendervynu. Gan eu bod o'r un ysbrydiaeth ormesol, wrth-wladvaol, deallasant eu gilydd cyn hir ysgrivenodd Finoquetto lythyr o eglurhad a diheurad, gan ymgymeryd na ddigwyddai avreoleiddiwch cyfelyb eilwaith. Gollyngwyd y Francwr o'r cyfion, ac nid hir chwaith y bu cyn i Charneton vyned i Buenos Ayres, a chael ei benodi yn gabden y borth yn La Plata.
XXI.
BRODORION CYNHENID Y WLAD-YR INDIAID.
Dengys wynebpryd, maint, ac anianawd brodorion y rhan ddeheuol o gyvandir De Amerig-o La Plata i Tierra del fuego, —sev y wlad a elwid yn ddaearyddol Patagonia -eu bod yn perthyn i bedair cenedl (1) Pampiaid, sev trigolion gwastadeddau eang talaeth Buenos Ayres; (2) Arawcanod, a breswylient lethrau yr Andes o'r ddau tu; (3) Tsonecod (Tehuelches) brodorion tàl a chorfol y canolbarth; (4) Fuegiaid, sev pobl gorachaidd gwaelod eithav dehau y cyvandir. Mae y ddwy genedl vlaenav wedi cymysgu llawer; a'r ail wedi agos gyvlawn arosod ei hiaith ar y ddwy arall. Siaredir peth Pampaeg gan lwyth Sac-mata tua Teca, a siaredir Tsoneca gan y rhai grwydrant dalaeth Santa Cruz, sev gweddill yr hen Batagoniaid. Ond y mae corf mawr yr Arawcanod, a'r bobl gymysg sydd gyda hwy, yn glynu wrth eu hiaith a'u devion o bob tu i'r Andes, ac yn myned dan yr enw cyfredin Tsilenod (Chilians). Siaradant hwy hevyd yr Hispaenaeg yn lled rigl. Pan sevydlwyd y Wladva (1865) yr oedd y brodorion, gellid dweud, yn arglwyddi ar yr holl wlad o Cape Corrientes, lled, 37, i lawr hyd Tierra del fuego, a'r holl berveddwlad oddiyno i'r Andes. Rhuthrent weithiau ar Bahia Blanca, neu lladratent aniveiliaid Patagones bryd arall. Droion eraill deuent o dueddau Mendoza, San Luis, a Córdova, gan ysgubo aniveiliaid a phobl o'u blaenau. Ymdrechai y Llywodraeth Arianin, ynghanol ei thraferthion gwladol ei hun, rhag yr alanas enbydus hono drwy gadw dyrnaid o vilwyr yma ac acw i gadw'r brodorion o vewn tervynau: a rhoddai hevyd roddion blyneddol iddynt o viloedd o dda corniog a chesyg. Pan oedd Adolfo Alsina yn rhaglaw talaeth Buenos Ayres, eve a osododd yr holl vyddin i godi clawdd mawr (vel Clawdd Ofa) ar hyd y fin y bernid vyddai hawddav i'w gadw; ond medrai y brodorion osgoi hwnw, a chilio i'r eangder anhysbys o'r tu ol pan y mynent. Adeg cychwyn y Wladva rhoddai y Llywodraeth 4,000 o benau daoedd yn rhoddion tri misol yn Patagones i'r penaethiaid Rawnké, Namun-cwrá a Shai-hweké, a'u pobl. Pan geisiwyd yn 1865 vyned a 600 o wartheg dros y tir o Patagones i'r Wladva, tarvodd yr Indiaid hyny y meichiaid, a chollwyd y daoedd. Ymhen blwyddi wedi hyny pan osododd Aguirre a Murga ar y Rio Negro (100 milldir i vynu'r avon) y Cymry wahanasent yn yr ail ymblaid, bu raid i'r rheiny foi am eu hoedl pan ddelai y brodorion i lawr yno i dderbyn rhoddion y Llywodraeth. Pan oedd y prwyadon L. J. a Capt. Jones—Parry yn Patagones (1863) yr olygva braidd gyntav gawsant oedd y brodorion wedi lladd ceidwaid amddifynva vechan San Javier, 12 neu 15 milldir o Patagones. Gwelir oddiwrth gyvlwr y wlad y pryd hwnw mai rhyvyg ac enbydrwydd vuasai gosod yn y van hono ddyrnaid o Gymry vel ag oedd y Vintai Gyntav, er eanged y wlad a'r avon hono.
Velly, pan welwyd na thyciai Clawdd Ofa Alsina, ac y dyrchai gwaedd colledigion a chaethion yn uchel, pendervynodd y Cadvridog Roca—oedd ar y pryd yn Weinidog Rhyvelwneud cylch milwrol cyvlawn am gyrchvanau y brodorion, a'u dal neu eu diva. Mae hanes y gadgyrch vilwrol hono yn bluen amlwg ynghap y Cadvridog—ond trueni yw y sathrveydd hyn ar genhedloedd yn ymdrechu am ryddid. Yn yr ysgubva vawr hono cymerid i vewn y rhan vwyav o diriogaeth y Wladva, a syrthiodd llawer o'r hen vrodorion diniweitiav i blith y carcharorion, o ddamwain hollol. Wrth dynu y rhwyd hono daeth i mewn lawer o rai cymysg. oedd wedi medru osgoi y ddalva vawr gyntav, ac wedi foi i'r cyrion pellav, lle'r oedd hen gydnabyddion y gwladvawyr wedi dianc, yn ddigon pell debygsent hwy. Ceisiodd y Wladva gyvryngu gyda'r rhaglaw Winter ar ran eu hen gydnabod, gan mai eve oedd rhaglaw y dalaeth ar y pryd, ac yn gweithredu yn vilwrol o dan Roca, vel hyn:— "Nyni, trigolion Chubut, ydym yn ervyn eich hynawsedd am ddatgan vel hyn ein teimlad a'n dymuniad ar ran y brodorion adnabyddus i ni yn y cyfiniau hyn. Heb ymyryd mewn un modd yn y mesurau y barnoch chwi yn ddoeth eu mabwysiadu, dymunem, vel rhai wedi hen gydnabyddu â'r brodorion ddatgan ein gobaith y gellwch ddangos atynt bob tiriondeb a chynorthwy ag a vo gyson â'ch dyledswydd. Ar ein rhan ein hunain cymerwn y cyvle i vynegu ein bod wedi cael llawer o garedigrwydd oddiar law y brodorion hyn er amser sylvaeniad y Wladva, ac ni theimlasom nemawr bryder am ein diogelwch yn eu canol—yn wir, bu yr Indiaid yn vur o ddiogelwch a help i ni. Credwn y byddai cymdogaethau bychain o'r brodorion yn y cyfiniau yn hwylusdod bob amser i wthio sevydliadau newyddion i'r berveddwlad, vel y bu eu masnach i ni yma. Hyderwn velly y gwelwch yn bosibl, tra yn cyvlawni eich dyledswydd vilwrol yn ol eich doethineb, adael ein hen gymdogion brodorol yn eu cartrevi tra y parhaont mor heddychol a diniwed ag y maent wedi arver [Enwau pawb—Gorf. 20, 1883.]
Aeth dirprwyaeth o vonesau blaenav y Wladva at y rhaglaw Winter gyda'r ddeiseb ond ni thyciasant. Danvonwyd y carcharorion i Buenos Ayres: rhoddwyd y dynion yn y vyddin a'r llynges; a'r benywod a'r plant gyda theuluoedd a sevydliadau yn y ddinas a'r wlad, a buan yr ymgollasant yn y cylchynion.
Tra yr erlidid y brodorion yn yr amserau blinion hyny, byddai y penaethiaid yn arver llythyru yn aml i'r Wladva i ddwe'yd eu cwyn a'u cam—taw nid ces dadl ddarvod i vilwyr a swyddogion ddanvonasid ar y vath neges ddivaol vod yn galed lawer tro. Velly, vel ag y cadwyd araeth Caradog o vlaen Cesar yn Rhuvain, yr ydys yn rhoddi yma lythyr y penaeth mawr Shaihweki at L. J. Pan ymwelodd Moreno â'r penaeth hwnw yn 1870 yr oedd ei olud a'i allu yn vawr iawn, a dychryuodd yr ymwelydd rhag yr overgoeledd peryglus a welai, a fôdd am ei hoedl.
At Lywydd Gwladva Chubut.—Daeth i'n llaw eich nodyn gwerthvawr am Mawrth 3, drwy y dygiedydd Bernardino Arameda. Yr wyv yn trysori gyda hyvrydwch y cynghorion a'r hanesion a roddwch i'm llwyth i vod yn heddychol gyda'r Llywodraeth a chyda chwithau. Gyvaill, dywedav wrthych yn onest na thorais i yr heddwch a'r ewyllys da sydd rhyngov a'r Llywodraeth yn awr er's rhagor nag 20 mlynedd, ac ddarvod i mi gyvlawni vy holl ymrwymiadau wnaethwn yn Patagones yn fyddlon. Eithr ni allwch chwi vyth, vy nghyvaill, amgyfred y dioddevaint dychrynllyd gevais i a vy mhobl oddiar law Miguel Linares a Gen. Villegas pan gymerasant yn garcharorion drio'm penaethiaid a 68 o ddynion, dair blynedd yn ol. Gwnaed hyny, meddent, oblegid rhyw laddiad briodolent i'm penaethiaid i a 9 o vénwyr tua Neuquen, ond a wnaed gan Pichi—hwi, perthynol i lwyth y penaeth Namum—curá. Danvonais vy nghwynion lawer gwaith at uwchswyddwyr Patagones—Barros, Villegas, Bernal, Linares, &c., ond ni roddwyd unrhyw sylw i'm cwynion. Ac yn awr, vy nghyvaill, y mae genym i ddwe'yd wrthych am y rhuthriadau ovnadwy a wnaed arnav ar y 19 o Vawrth, pan y syrthiodd tair byddin ar vy llwythau, a lladd yn ddirybudd niver vawr o'm pobl. Daethant yn lladradaidd ac arvog i'm pebyll trigianu, vel pe buaswn i elyn a lleiddiad. Mae genyv vi ymrwymion divrivol gyda'r Llywodraeth er's hir amser, ac velly nis gallaswn ymladd nac ymryson gyda'r byddinoedd, a chan hyny ciliais o'r neilldu gyda'm llwythi a'm pebyll, gan geisio velly osgoi aberthau a thrueni, yn yr hyn y Ilwyddais am beth amser o leiav. Nid wyv vi anwrol, vy nghyvaill, ond yn parchu vy ymrwymiadau gyda'r Llywodraeth, ac ar yr un pryd veithrin yn fyddlon y ddysgeidiaeth a'r govalon roddodd vy nhad enwog—sev y priv benaeth Chocorii beidio byth a gwneud niweidiau nac amharu y gweiniaid,
Brodor ar ei gefyl yn ei vantell o grwyn gwanacod—brysglwyn a hesg o'r tu ol iddo.
eithr eu caru a'u parchu yn ddynol. Er hyn oll, yr wyv yn cael vy hun yn awr wedi vy nivetha a vy aberthu —vy nhiroedd, a adawsai vy nhadau a Duw i mi, wedi eu dwyn oddiarnav, yn ogystal a'm holl aniveiliaid hyd i haner can' mil o benau, rhwng gwartheg, cesyg, a devaid, a gyroedd o gefylau devnyddiol, a thorv ddiriv o verched a phlant a hen bobl. Oblegid hyn, gyvaill, yr wyv yn govyn i chwi roddi ger bron y Llywodraeth vy nghwynion yn llawn, a'r trallodion wyv wedi ddioddev. Nid wyv vi droseddwr o ddim—eithr uchelwr brodorol (noble creole), ac o raid yn berchenog y pethau hyn—nid dyeithryn o wlad arall, ond wedi vy ngeni a vy magu ar y tir, ac yn Archentiad fyddlon i'r Llywodraeth. Oblegid byny nis gallav ddirnad y trueni sydd wedi disgyn arnav drwy ewyllys Duw, ond gobeithiav y gwel Eve yn dda vy neall o'i uchelderau, a vy amddifyn. Ni wnaethum i er oed ruthrgyrchoedd, vy nghyvaill, na lladd neb, na chymeryd carcharorion —a chan hyny ervyniav arnoch gyvryngu droswyv gyda'r awdurdodau, i ddiogelu heddwch a thangnevedd i m pobl, ac y dychwelir i ni ein haniveiliaid a'm holl eiddo arian, ond yn benav vy nhiroedd. Gobeithiav ryw ddiwrnod gael yngom gyda chwi, a gwneud trevniad cyveillgar rhwng eich pobl chwi a'm pobl i. — Hyn, trwy orchymyn y Llywodraeth Viodorol.—VALENTIN SAIHUEQUE, —Jose A Loncochino, Ysg.
Cavodd y Wladva ryw ddwy helbul neu dair gyda'r brodorion: ond dylid gwahaniaethu yn y meddwl bob amser rhwng y naill bobl a'r lleill. Y gyntav oedd yn 1866 gyda'r Tsonecod (y gwir Batagoniaid) pan oeddys newydd gychwyn, a'r sevydlwyr yn gwbl amhroviadol. Daethai un teulu (Francisco) ar eu crwydr o vlaen eu llwyth, vel y deallwyd wedyn, er mwyn hela with eu hamdden. Pan ddaeth y llwyth, gyda'u canoedd cefylau brithion, a gwersyllu gerllaw pentrev y Wladva, yr oedd cryn gyfro ymhlith y sevydlwyr—neb yn deall eu gilydd ond trwy arwyddion, ond gwnaed velly lawer o vargeinion am gefylau a gêr vuont o vudd anrhaethol i'r eginyn sevydliad. Pan oedd y llwyth yn ymadael cymysgasai rhai o gefylau y gwladvawyr gyda chefylau y brodorion, a phan aethpwyd i chwilio am danynt dranoeth y deallwyd ac yr ovnwyd ai cast ydoedd. Nid oedd wiw caniatau peth velly ar y cychwyn: velly arvogodd rhyw ddwsin o'r rhai parotav, a rhoddodd Francisco venthyg cefylau, ac ymlidiwyd : daethant o hyd i'r brodorion ar bantle mawr a adwaenir hyd y dydd hwn vel Pant—yr—ymlid; a thra yr ymhelai un o'r brodorion gyda gwn un o'r ymlidwyr aeth yr ergyd allan, a bu, wrth gwrs, gy rɔ ymhlith y dorv. Edrychai pethau yn beryglus am vunud: ond tawelodd y penaeth Orkekum (y bu Musters gydag ev wed'yn) y dorv, ac ymadawyd mewn heddwch, gyda'r cefylau colledig yn ddiogel.
Dro arall aethai L. J. a phump o'r brodorion gydag ev i Buenos Ayres i gael rhoddion o vwyd a dillad iddynt gan y Llywodraeth, a chavwyd yn hael. Pan ddychwelasant i'r Wladva a'r llwyth yn oedi dyvod (taw adeg brysur hela ydoedd) blinasant yn disgwyl, a ryw noswaith loer lladratasant 6 neu 7 o gefylau, ac ymaith a hwy. Gwnaed peth osgo i ymlid, ond yr oedd y wlad yn hollol ddyeithr y pryd hwnw, a'r teithio Indiaidd yn greft heb ei dysgu.
Dro arall (1871) pan oedd pawb wrthi yn llavurio eu tiroedd, oll yn agos i'w gilydd o'r Morva mawr i'r Cevn—gwyn—daeth niver o vrodorion lladronllyd, dan arweiniad un Pablo, ac a ysgubasant 60 neu 70 o gefylau. Yr oedd hono yn ergyd analluogai y Wladva i ymlid nemawr, wrth vod grym cefylau y sevydliad wedi eu cymeryd, a'r bobl hevyd yn anghyvarwydd â'r wlad, ac â theithio paith. Teimlid mai over vyddai ceisio dilyn, dan yr amgylchiadau, ac nad oedd dim am dani ond dioddev, a bod yn vwy gwyliadwrus.
Ymhen amser wed'yn, pan gynyddasai buches D. W. Oneida i gryn 50 neu ragor, ar du de yr avon, daeth gwaedd eu bod ar goll. Nid oedd hyny yn beth anghyfredin, a buwyd ddiwrnod neu ddau cyn bod yn sicr iawn o'r faith, a gweled eu trác yn cael eu gyru yn gryno i vynu'r avon. Heliwyd arvau ac ergydion, a benthyciwyd y cefylau goreu vedrid, ac ymaith a'r ymlidwyr heb vawr drevn na darpariaethau. Ond gwyddid na allai gwarthog deithio vel y teithiai cefylau, ac velly y deuid o hyd iddynt cyn yr elent ymhell iawn: ac velly y daethpwyd tua'r havnau mlain, lle y cychwyna Hirdaith Edwyn —ac yr oedd govyn cryn hyder i gredu yr elai gwartheg drwy le mor anhygyrch. Mae'r Hirdaith tua 60 milldir dros baith di—ddwr, a'i dau ben yn havnau toredig meithion: ond cyn cyraedd y disgyniad gorllewinol, cavwyd un vuwch wedi ei ch'lymu wrth lwyn o ddrain. Oddiyno i'r avon y mae 5 neu 6 milldir o havn ddaneddog droellog, ac yn gorfen ar waelod dôl neu drova'r avon—ac ar y ddôl hon yr oedd y gwartheg blinedig yn gorwedd wedi y vath daith a gyru caled. Yr oedd y vuwch glymedig yn arwydd vod yr yspeilwyr gerllaw; ond ni wyddid eu niver, na'r lle'r oeddynt; velly ymddolenai yr ymlidwyr yn ochelgar o'r havn, a gwelai y rhai blaenav di neu bedwar o varchogion yn gyru'n vrawychus ar hyd y ddôl gan anelu am lethr greigiog tua'r gorllewin. Erbyn hyny, yr oedd pawb allan o'r havn, ac oll yn gyru nerth traed y cefylau, gan gymell, a chwipio, a spardynu, yn llinell hir wasgarog, nes colli golwg y naill ar y llall yn y troellau a'r agenau a'r clogwyni—taw ni vu erioed le mwy cethin i garlamu drosto. Chwibanai bwledi y rhai blaenav oddeutu clustiau a chefylau y foedigion, y rhai a blygent ac a droellent i bob ystum ac ymochel. Gwelwyd un o'r foedigion yn syrthio neu yn disgyn oddiar ei gefyl, vel na welid dim ond ei het; a phan ddaeth yr erlidiwr cyntav i'w ymyl, dynesai yn ochelgar a'i wn yn barod i danio—ond pan ddaeth i'r van canvu nad oedd yno ond yr het yn unig—vod y brodor cyvrwys wedi manteisio ar un o'r aneiriv agenau a chreigiau i ymguddio a dianc o'r cyraedd. Erbyn hyny yr oedd y cefylau deithiasent yn ddi—ddor dridiau a theirnos, wedi llwyr luddedu, a'u traed di—bedolau yn anavus ar ol y creigleoedd geirwon. Velly aravwyd: gwelwyd vod y foedigion hwnt i gyraedd gobaith eu dal: ac arav ddychwelwyd i'r ddôl i orphwyso a gwylio y gwartheg. A hono yw Dôl—yr—ymlid.
Bu dwy ymlidva arall eithr nid ar ol brodorion, yn ol yr ystyr o "Indiaid," ond yn hytrach mintai o alltudion Chili yn Punta Arenas (Cydvor Machelan), y rhai a godasent yn erbyn eu gwarchodwyr; ac wedi lladd ac yspeilio, a foisent, gan ymdaith ar hyd yr arvordir heibio Santa Cruz a Port Desire hyd i'r Wladva. Dioddevasant lawer mae'n debyg: ymravaelient a lladdent eu gilydd, vel y mae eu hesgyrn hyd y dydd hwn megys ceryg milldir tru yr holl fordd o Sandy Point i'r Wladva, 800 milldir. Cravangodd gweddill ohonynt (gryn 60) hyd y Wladva; a chan eu bod yn arvog, ac yn gymeriadau mor enbyd, a'r Wladva yn ddigon diamddifyn o ran arvau a threvniadau milwrol, medrodd y Pwyllgor eu dal a'u diarvogi, a'u danvon ymaith i Buenos Ayres.
Yr amgylchiad arall ydoedd pan ddaeth crwydryn o'r un dosbarth a'r uchod i'r Wladva, ac y barnwyd yn ddoeth ddanvon dyheddwr (plismon) i'w gyrchu at yr awdurdodau: ond yr hwn pan ddaeth i olwg y pentrev, a drywanodd yn varw y dyheddwr (Aaron Jenkins), ac a fôdd i'r paith. Erbyn dranoeth yr oedd y preswylwyr agos oll allan ar y paith yn chwilio am y lleiddiad. Dilynwyd ei drac a'i droellau bob yn gam, nes ei gornelu a'i gylchynu ynghanol hesg mawr ger Trebowen: neidiodd ar gevn cefyl heinyv i foi, a'i gyllell yn ei geg, ond cyn iddo ymuniawnu yn iawn yn ei sedd yr oedd dwsin o vwledi wedi mynd iddo. Velly y dialwyd gwaed Aaron Jenkins Merthyr cyntav breiniaeth y Wladva."
Yn yr unig helynt arall gyda'r brodorion daeth i'r golwg nodweddion gwaethav yr anwariaid —fyrnigrwydd dyval am yr ysglyvaeth, a chreulondeb cïaidd wedi cael gavael. Hwyrach vod un ystyriaeth a liniara beth ar hanes y trychineb hwnwsev mai cymysgva o'r brodorion erlidiasid o van i van gan vilwyr Roca yn y gadgyrch y cyveiriwyd ati, oedd y gang wnaeth y gyvlavan. Aethai pedwar o'r sevydlwyr am wib i "weled y wlad" a chwilio am aur—un ohonynt yn arweinydd eovn a chyvarwydd (J. D. Evans), dau o'r lleill yn anghyvarwydd â gerwina, ond y llall yn ddyn gwydn a heinyv. Dilynasent y Chubut hyd y man y daw'r avon Teca iddi o'r de, a'r Lypà o'r gorllewin, lle y cwrddasant â masnachwr brodorol, stori yr hwn a'u dychrynodd. Pendervynasant ddychwelyd ar vrys, a theithiasant yn ddyogel ddydd a nos, gan osgoi a thori llwybrau, vel na ellid eu dilyn. Daethant velly, yn dra blinedig, a'u harvau yn glwm ar y pynau, hyd at ddyfryn Kel-kein—nid nepell o gychwynva Hirdaith Edwyn—y diwrnod yn wyntog a lluwchiog iawn ond wele! vel corwynt, clywent waedd anaearol mintai o vrodorion ar eu gwarthav, llwch cefylau y rhai gymylai am danynt, gwaewfyn yn ymwibio o'u deutu, rhuthriadau, codymau, ac ysgrechau. Yr oedd cefyl J. D. Evans yn gryv a bywiog, a phan glywodd y waedd ac y teimlodd vlaen picell, llamodd yn ei vlaen hyd at fos ddovn, lydan, yr hon a gymerodd ar un naid— a naid ovnadwy oedd hono. Pan edrychodd y marchogwr drach ei gevn, gwelai ddau vrodor yn dilyn, gan ysgrechain a gwaeddi, a thory wedi ymgroni tua'r van y goddiweddwyd hwy. Nid oedd gan y foadur bellach ddim i'w wneud ond ceisio dilyn ymlaen i'r Wladva am ymwared—vwy na 100 milldir o fordd heb vod ganddo damaid o vwyd. Pan gyrhaeddodd, a dweud yr hanes, cyfrowyd yr holl le yn ddirvawr: cynullwyd mintai o wirvoddolwyr arvog ar unwaith i wneud ymchwiliad: pan gyrhaeddwyd y van, gwelwyd, ysywaeth, vod y gwaethaf a ovnid wedi digwydd —y tri corfyn truain wedi eu baeddu a'u darnio yn vwystvilaidd, a gweddillion tân heb fod ymhell lle y gwersyllasai y llovruddion ar ol yr alanas. Nid oedd bellach ddim i'w wneud ond casglu y gweddillion at eu gilydd, a gwneud bedd cryno i'w claddu mor barchus ac anwyl ag y gellid. Darllenodd L. J. y gwasanaeth claddu o'r llyfr Gweddi Gyfredin, a chanwyd "Bydd myrdd o ryveddodau" dan deimladau o ddivrivwch a braw anileadwy o ran yr adgov: a dywedir vod rhai o'r llovruddion oedd yn llechu yn y cyfiniau ar vwriadau drwg pellach, ar ol clywed y canu hwnw wedi dovi a myn'd adrev yn llai llidiog. Hono oedd yr unig gyvlavan vrodorol vawr a vu yn ystod y 25 mlyneddac ar gwr isav dyfryn Kel—kein y digwyddodd, man a elwir o hyny allan Lle-y-beddau.
Wrth gwrs, ar ol dyvodiad yr Hispaeniaid i Dde Amerig (1560), y gwybu'r brodorion ddim am gefylau. Crwydro ar draed y byddent cyn hyny, ac y mae eu hen wersylloedd a'u celvi yn evrydiaeth ddyddorol i'r hynaviaethydd. Mae'n debyg mai eu cyrchvanau penav oedd y rhanbarthau tyvianus gyda godreu yr Andes: ond gan vod yr hinsawdd yno a'r gweryd yn lleithach, nid hawdd yn awr taro ar eu holion. Yn ol damcan Darwin o'r "Trechav treisied, gwanav gwaedded," mae'n debyg y meddianid y gwregys tyvianus gan yr Arawcanod, a gwthiwyd yr hen Tsonecod rhwth i'r de a'r dwyrain—dyweder tiriogaeth bresenol Chubut. Oddiwrth y gweddillion geir yno, a'r traddodiadau yn eu mysg pan seiliwyd y Wladva, gellid casglu (1) Mai arvau ceryg a challestr a arverent. (2) Mai pysg a chregyn oedd eu cynhaliaeth pan yn y cyraedd. (3) Vod cyvnod wedi bod arnynt y claddent eu meirw, a chyvnod arall y llosgent hwynt; ac mewn manau cerygog mai dodi carneddi arnynt wneid. (4) Man y mae hen gladdveydd—heb vod yn dra henavol y mae hyd yn awr bentyrau o sglodion callestr, penau saethau, penau tryveri, a gweddillion llestri pridd amrwd ond addurnol: ceir hevyd vwyeill ceryg, a morteri a phestlau. A oeddynt yn claddu eu meirw yn eu gwersylloedd? Ai llestri lludw cyrf yw y priddlestri ? Ai llestri ofrymau i'r meirw, yn ol devodau dwy neu dair canriv yn ol? Cavodd y gwyddonwr Moreno vými mewn cadachau, yn ol dull Perw, mewn ogov yn Santa Cruz, ryw 400 milldir i'r de o'r Wladva. Mewn carnedd wnaethid yn ovalus ar lan Llyn Colwapi, cavwyd gleiniau o gregyn mân iawn, a llinynau aur yn eu cydio. Mae Moreno yn ei lyvr am yr Arawcanod welsai eve rhwng y ddwy avon Neuquen a Limay, yn rhoddi adroddiad am draddodiadau gysylltent y bobl hyny gyda rhyw bobl waedlyd iawn, debyg i'r Mexicaid. Ond ni welwyd nemawr ddim o hyny yn y Tsonecod cawraidd. tawel. Mae ganddynt hwy ddevod arbenig, a'u cysyllta hwyrach gyda'r mymi Santa Cruz—sev i'r penaeth gerdded i'r avon hyd ben ei lin i ddisgwyl codiad yr haul, a pan ddelai hwnw i'r golwg, daenellu ychydig ddwr i wyneb yr haul," gan vwmian rhyw vath o weddi gyvarchwel. A oedd velly ryw gysylltiad rhwng y mỳmi Perwaidd—cartrev addoliad yr haul—â devod y Tsonecod i gyvarch codiad yr haul? Am y devodau diweddar arverid, diau eu bod yn gymysgedd o'u hen overgoelion, a choelion yr Arawcanod, a choelion Pabaidd. Claddent eu meirw yn eu heistedd, gan ddodi yn y twll gyda hwy eu harvau a'u celvi mwyav prisiadwy, a peth bwyd a diod: yna lladdent gefylau a chwn y marw gwleddent ar gig y cefylau a'r cesyg: llosgent ddillad ac addurniau y marw: torai y menywod eu gwynebau nes gwaedu a baeddu, ac oernadent alar mawr. Y mae cymaint dirywiad a chymysgiad arverion yn eu plith erbyn hyn, vel nas gellir bod yn sicr am eu devion priodi. Ond pan ddelai misglwyv cyntav llances, codai yr hen wragedd babell dywell, ymha un y cauent yr eneth wedi canol ddydd, ac y cwrnent ganu o'r tu allan. Pan ddelai'r nos gwneid coelcerth lachar gerllaw, a dawnsiai y dynion oddeutu'r goelcerth, ac am eu lwynau noethion arfedog o blu estrys gwynion wedi eu cyd-glymu; tra y tabyrddai'r benywod ar oferyn croen tyn, ac y cwrnent ganu. Cadwent hevyd wyl ar lawn lloer, a chwareuent gryn gampau.
XXII.
EGWYL CYN Y DDRYCIN.
Heblaw yr ormes swyddogol, yr oedd i'r Wladva y pryd hwn draferthion ac anhawsderau eraill lawer. Un o'r rheiny oedd methu cael meddiant o'r fermi, at yr hyn y cyveiria'r nodyn canlynol:—
At H. E.Welby, Ysw., Llys genad Prydain yn Buenos Ayres.Mae govidiau tirol y Wladva bron a bod yn anioddevol. Nid ydys eto (ymhen 14 blynedd) wedi cael meddiant o'r un tyddyn. Bu'r addewidion swyddogol mor aml a'r siomion. A'r hanes diweddav yw nad ydyw y mesurydd Dodds yn d'od yn ol. Yn ol y gyvraith wreiddiol rhoddid i bob un ferm o 25 cuadra (tua 100 erw) wedi dwy vlynedd o gyvaneddu. Yn 1868 cyvlwynais i'r Swyddva Gartrevol restr furviol o'r rhai oedd a hawl i ferm yn ol y gyvraith hono, ac oddiar hyny hyd yn awr yr wyv wedi gwneud yr un cais saith waith, pan ddelwn i'r ddinas yn swyddogol dros y Wladva. Yn Medi, 1875, pasiodd y Congres gyvraith arbenig arall yn rhoddi chwaneg o dir i'r sevydlwyr, a rhoddion haelach o dir i'r dyvudwyr newydd. Taenwyd y gyvraith newydd hon yn swyddogol (drwy Torromé) yn Nghymru, a daeth dyliviad o ddyvudwyr. Wedi hir oedi, cavwyd y byddai raid cwtogi y tiroedd addawsid, am nad oedd ddigon o fermi addas yn ol darlleniad y Prwyad ar y gyvraith. Addawyd yn bendant y pryd hwnw na byddai ragor o ymdroi, ac y rhoddid allan gyhoeddeb yr Arlywydd ar unwaith yn dynodi yr ad—drevniad, vel ag i bawb wybod am eu tir. Mae y tymor eleni eto ar dervynu, ac y mae'r dyvudwyr newydd (a'r hen) yn fermio ar y tiroedd bob yn vagad, gan vyw rywsut a rhywle nes y cafont wybod p'le bydd eu fermi: ac y mae byw velly yn anvoddhaol iawn, drwy beri cynhenau a llavur over lawer. Cyn cynhauav (Rhag.—Ion.), ac wedi dyrnu (Maw.—Chwev.), yw yr adegau priodol i godi tai, nid yn uig oblegid addasrwydd y tywydd, ond hevyd am.vod galw amserau eraill i lavurio'r tir. Y mae o 70 i 80 o sevydlwyr yn awr a llawn hawl i'r gweithredoedd; yn wir, 7 ac 8 mlynedd dros ben yr amser. Hevyd 300 ereill wedi aros 12 a 18 mis i wybod p’le mae eu tiroedd, vel y gallont ddechreu byw. Mae yr holl le velly mewn penbleth ac ansicrwydd y rhai taerav yn cydio yn y manau y mynont: croes hawlion yn dylivo i'r brwyadva: a'r bobl dawel, dangneveddus, yn gorvod dygymod â gerwinder ac anghyvleusdra o bob math. Chwaneger at hyny mai enwd salw a gavwyd (oblegid newydd—deb y gwaith i'r bobl a'r lle), ac at hyny y boenedigaeth a'r ymravaelio am luniaeth y Llywodraeth, a chwi welwch vod y sevyllva yn ymylu ar vod yn andwyol. A mentrav ddweud nad oes bobl eraill ar y ddaear a'i goddevent mewn amynedd vel y Wladva.
Gellwch weled vod ein helbulon yn gyfredinol, ac nid dolur personol i rai ydyw. Byddai oedi eto yn ddivrivol o beth. Yr unig beth welav vi yn y cyraedd—nes y cyhoedda'r Llywodraeth ei threvniant yn dervynol—vyddai mabwysiadu Deddy Tyddynod y Pwyllgor Lleol, gan vod hono yn agos yr un peth ag a gynygiai Dillon, cyn bod yn rhy hael a rhoi ei hun mewn dilema.L. J.
ADDYSG AC YSGOLION.
O'r cychwyn cyntav yn 1865 gwneid peth ymdrechion dysbeidiol i gadw ysgolion yn y Wladva. Yr athraw furviol cyntav oedd R. J. Berwyn—yna Tomas Puw, Rhys Thomas, T. G. Prichard, Dalar, &c., gan ymganghenu wedyn i'r amryw ardaloedd, vel y byddai galw. Yn Mehevin, 1877, yr etholwyd y bwrdd ysgol rheolaidd cyntav yn Nhrerawson, a'r aelodau oeddynt, L. J. (cadeirydd), R. J. Berwyn, J. Howel Jones, H. J. Pughe, a H. H. Cadvan. Erbyn 25ain, Mai, yr un vlwyddyn, yr oeddys wedi adeiladu ysgoldy brics cryno, a thô haiarn iddo —wasanaethodd hevyd yn hir vel capel, nes i'r gynulleidva godi capel priodol iddynt eu hunain. Cyvlog yr athraw cyntav oedd £30 y vlwyddyn, a'i vwyd a'i lety. Parhaodd yr ysgol hono am 6 blynedd, a thyvodd ynddi dô o blant deallus ac ymarweddus—taw yn Gymraeg y cyvrenid iddynt yr holl addysg—eu hiaith gysevin.
Mawrth 30ain, 1878, mae ar govnodlyvr y bwrdd ysgol:—L. J. (cadeirydd), Edw. Owen, J. Hywel Jones, R. J. Berwyn, J. M. Roberts. Daeth cenadwri o'r Glyn du yn govyn i'r bwrdd dd'od i gynadledd ynghylch addysg gynelid yno ddydd Llun, i ystyried rhyw vesurau y mae'r Llywodraeth Arianin yn awgrymu parthed addysg yn y Wladva.' Deallwyd mai cynyg hwnw oedd penodi R. J. Powel (Elaig), yn athraw cenedlaethol y lle. Llundeiniwr o Gymro, wedi dysgu Cymraeg a Hispaenaeg, oedd Elaig, yn ieithwr medrus ac yn ysgolor gwych, ond a vu voddi ar vàr y Camwy ryw ddwy vlynedd wedyn. Yr oedd Elaig yn Wladvawr aiddgar—ddaethai allan yn un swydd i hyrwyddo'r mudiad, pan oedd Torromè yn danvon ymvudwyr ac yn cynorthwyo. Tra yn Buenos Ayres, daeth i gysylltiad â rhai o Wyddelod Pabaidd dylanwadol y ddinas hono, a'r canlyniad vu iddo vyn'd drwy yr un petruson a throveydd meddyliol ag yr aethai Newman a Manning drwyddynt, vel pan ddaeth yn ol i'r Wladva, yr oedd yn Babydd arddeledig. Bu hyny, wrth gwrs, yn dramgwydd i'r Gwladvawyr, a pharodd beth anghydvod ynghylch ysgoldy Glyn du, lle cychwynasai Elaig ei ysgol. Vel "athraw cenedlaethol" yr oedd rhwymau arno i arver Hispaenaeg, vel yr "iaith genedlaethol;" ond gan na wyddai ei ddisgyblion (y plant) ddim o'r iaith hono, eve a aeth at y gwaith o grynhoi gwerslyvrau Cymraeg Hispaenaeg, i vod at wasanaeth ysgolion y Wladva: argrafwyd hwnw yn 1880, yn llyvryn 50 tud. Yr oedd wrthi yn brysur yn llunio geiriadur Cymraeg—Hispaenaeg pan ddaeth ei ddiwedd.
Dan y dyddiad Ebrill 2, 1878, mae y Wladva yn danvon y cais furviol canlynol at Gyngor Addysg y Genedl yn Buenos Ayres:—" Yn Ionawr diweddav, caniataodd y Llywodraeth $150 y mis at ysgol yn y Wladva; ond oedwyd gweithredu dim ar hyny oblegid i'r athraw penodedig ymadael am y briv ddinas.
GAIMAN.
Yn vuan wedi i ddyvudwyr 1874 symud yno i vyw.
Mae Cyngor y Wladva wedi gwneud trevniad elwir genym Deddv Addysg Elvenol,' yn ol pa un y mae bwrdd ysgol i gynrychioli yr amrywiol ysgolion vo yn y lle, ymhob achos y bo galw, ac vel y cyvryw yr ydym ni yn cyvlwyno y cais hwn ger eich bron. Yr ydym dros bedwar dosbarth, o ryw 5 milldir bob un, yn cynwys o 25 i 50 o blant yr un. Mae ysgoldy ymhob dosbarth, a chyvlog i'r athrawon ymhob ysgol, delir gan rieni y plant. Mae codi a chadw yr adeiladau, dewis a thalu yr athrawon, casglu tanysgrivion, prynu llyvrau a chelvi, &c., yn disgyn arnom ni. O reidrwydd mae yr ysgolion hyn ar wasgar lawer—pellder maith i'r plant gerdded—ychydig lyvrau a chelvi yn gyrhaeddadwy—a'r rhieni ond pobl dlodion ar eu goreu. Gan hyny, dymunem awgrymu ai nid buddiolach i'r Wladva, na chael un ysgol am y $150 y mis, vyddai i'r Llywodraeth neillduo y $150 misol hwnw yn gnewyllyn trysorva, o dan oval ac er budd pwyllgor—un aelod o bob dosbarth ysgol—i arolygu a chynorthwyo yr amrywiol ysgolion; gan hyderu y chwanega'r Teimlwn yn ddiolchgar Llywodraeth y rhodd visol yn y man. iawn am y dyddordeb ddangosodd y Llywodraeth yn ein haddysg drwy y rhodd hon."
Y DYNION SENGL.
Yn engraift eto o'r anhawsderau gylchynent y sevydliad yr amser hwnw, wele ddyvyniad arall ynghylch y dynion dideulu, ac heb veddiant tir:—
Dymunir gwasgu i sylw Swyddva Gwladvaoedd achos y sevydlwyr sengl sydd vyth heb dir. Wedi y tymor o'r blaen aeth ymaith ragor nag 20 o'r rhai hyn, am na cha'ent dir vel yr addawsid iddynt yn Nghymru: y mae 10 eto yn parotoi i vynd. Mae ymadawiad y dynion hyn yn amhariad mawr ar ein gallu cynyrchus a'n diogelwch, wrth eu bod yn codi lluestai yma ac acw i vod gyda'u gwaith, ac velly yn vath o warchodlu o ddiogelwch, ac hevyd yn gallu rhoi eu holl egni i godi cnydau, gan eu bod heb ovalon teuluaidd. Mae y dynion hyn agos oll yn fermwyr, ac wedi dwyn gyda hwy lawer o ofer amaethu. Ond talant yn awr ardreth o $5 yr hecterw am le hau; ac y mae hyny gyda chostau dyrnu a chario'r ŷd yn peri nas gallant enill digon i vyw. A hyn oll pan y mae llawer o fermi anghyvanedd, ond vod enwau rhyw bobl am danynt yn y swyddva, ond y bobl hyny yn gweithio mewn manau eraill. Gan hyny, ervynia Cyngor a'r pwyllgor tir ar i'r Llywodraeth ranu y tir gweddill i bobl gymwys. Dros y Cyngor—J. B. RHYS.
ARCH Y CYNGOR RHAG GWERTHU ARVAU I'R BRODORION.
Rhybudd Lleodrol.—Yn eisteddiad y 3ydd cyvisol, archodd y Cynghor gyhoeddi y pendervyniad canlynol:— Gorchymyner I'r Cadeirydd Gweinyddol rybuddio masnachwyr ac unigolion o'r Archiad o'r blaen yn gwahardd gwerthu, newid, na rhoi arvau tân nac ergydion, nac arvau trywanu hirach na 15 modvedd i Indiaid, o dan ddirwy drom a forfedu y cyvryw arvau eithrio hyn.—L. J., Nid yw trwyddedau y dollva yn esgus Cadeirydd y Cynghor; D. LLOYD JONES, Ynad.
Gwnaed hyn am y cyhoeddasai newydduron Buenos Ayres vod y gwladvawyr wedi gwerthu arvau i'r Indiaid, y rhai a gawsid yn eu dwylaw pan erlidid hwy ar gadgyrch Roca. Provwyd wedi hyny yn gwbl ddiameu mai camgymeriad dybryd oedd hyny.
SEVYDLU Y POST LLYTHYRAU.
At y Postveistr Cyfredinol.—Mae Cyngor y Wladva yn dymuno galw sylw y Weinyddva at anhawsderau postawl y sevydliad (1) Os na bydd postveistr yn drigianydd, hysbys o'r lle, ac yn medru yr iaith, mae perygl camgymeriadau lawer, drwy vod enwau y sevydlwyr mor debyg i'w gilydd (o leiav i'r anghyvarwydd); (2) Vod y bobl yn wasgaredig dros 15 league o wlad, ac mai trwy hysbysu naill y llall y gellid yn ddiogel ymddiried trosglwyddiad llythyrau drwy rywun adnabyddus; (3) Vod cyveiriadau pobl i dramor yn aml iawn yn drwsgl a gwallus, vel y dylai'r llythyrwr lleol vod yn wr deallus, abl i gywiro hyny, ac yn hysbys o Gymru a Lloegr; (4) Nis gall ond un cyvarwydd hevyd egluro y tablau, stampiau, a'r trevniadau. —L. JONES, Cadeirydd y Cyngor.
Yn y dealltwriaeth da oedd yn bodoli rhwng y Wladva a Swyddva Dyvudiaeth (1879) cawsid gan y Llywodraeth addaw devnyddiau at argae ar yr avon, vel ag i gadw'r dwr yn uchder dyvrhau o'r fosydd—ac yr oedd hyny yn anrhaethol bwysig i sevydliad lwyr ddybynai ar hyny. Govynid i'r sevydlwyr wneud y gwaith, ac i'r Llywodraeth roddi y devnyddiau. Ond gwahaniaethai pawb am y CYNLLUN goreu, ac aeth yn ddyryswch vel na wnaed y gwaith hwnw vyth, er ceisio droion wedyn. At yr ymdrech hono y cyveiria'r nodyn canlynol:—
{[c|Y Wladva, Ionawr 20, 1880.}} At y Cyngor.—Gan i mi ymgymeryd â'r swydd lywyddol eleni dan y meddwl y derbyniai'r Wladva yn llawen gynygion y Llywodraeth am argae, ac y gellid oddiar y sylvaen gyllidol hono ddwyn ein cyvathrach â'r Llywodraeth i furv ymarverol, ac y gallwn i yn y cyvryw gyvwng vod o wasanaeth i'r Wladva. Ond gan vod y Cyngor yn awr wedi methu gweled y fordd yn glir i ymgymeryd â hyny, ni welav vod angen mwyach am vy ngwasanaeth neillduol i yn yr achos pwysig hwnw. Hevyd, pan grybwyllodd y Prwyad Cyfredinol wrthyv yn Buenos Ayres am y peth, datgenais vy syniad yn hyderus y derbyniai'r Wladva y vath gynyg yn awchus. Ond gan i mi gamgymeryd syniad y Wladva mewn peth mor hanvodol, nis gall y byddai gan y Prwyad Cyfredinol nemawr hyder bellach mewn unrhyw awgrymion oddiwrthyv vi. Mae'n ovidus genyv draferthu'r Cyngor mor vuan wedi'r etholiad, ond o dan yr amgylchiadau ve welir na vyddai yn anrhydeddus ynwyv ddal y swydd ond hyd benodiad olynydd.—L. JONES.
Gwnaethid dau neu dri chynyg cyn hyn i godi argae, a llawer ymdrech wnaed i gyvuno a dyvnhau fosydd cyn cynllunio camlesi dyvrhaol cyfredinol o bob tu i'r avon. Danvonasai y Llywodraeth hevyd ddau wyddonwr—Stant a Rossi—i levelu a chynllunio camlesi: ond y gwladvawyr eu hunain berfeithiodd gynlluniau, ac a'u cariodd allan, ar eu traul eu hunain. [Gwel y benod ar y Camlesi.]
Yn y cyvnod hwn o egwyl yr oedd y Wladva yn arav waddodi i ddeall a gwynebu yr amgylchiadau a'r traferthion amrywiol oedd yn cylchynu y sevyllva. Gosodasid seiliau travnidiaeth a masnach [Gwel Masnach y Wladva]: deuai y brodorion i lawr i vasnachu (cyn y gadgyrch vilwrol), vel yr oedd y dravnidiaeth Indiaidd y pryd hwn yn ateg bwysig i'r sevydliad. Yr oedd problem y fosydd a'r camlesi ar ei haner, a'r gwladvawyr, vel yr hen Gymry gynt, yn methu cydweled ar lawer pwnge o drevniadau lleol, ac velly anesmwythyd a chwithdod yn cyniwair llawer o'r bobl newyddion.
XXIII.
Y VRWYDR AM LEODRAETH AC YMREOLAETH.
I ddeall y gohebiaethau sy'n dilyn rhaid crybwyll eto sevyllva y cysylltiadau gwladvaol yn ystod yr Ormes Swyddogol, gyda phenodiad J. Finoqueto yn Brwyad. Anelwig iawn oedd llynges y Weriniaeth Arianin y pryd hwnw: y llyngesydd oedd vrawd i'r Don Mariano Cordero oedd yn Briv Gabden y Borth, ac a ysgrivenasai y llythyr bygylog blaenorol. Yr oedd llynges Chili, debygid, gryn lawer yn amgenach: dyna'r adeg y cymylodd cyvathrach y ddwy weriniaeth parthed Patagonia, ac y danvonodd Archentina ei llynges i'r Groes—wen (Santa Cruz), a Chili ei llynges i Gydvor Machelan; ond cyvryngodd yr Unol Daleithau rhyngddynt. Llynges a llyngeswyr hen fasiwn oedd gan Archentina—parod i daro pan ddelai alw, gan nad beth vyddai y canlyniad. Ysgolorion o'r ysgol hono oedd cabden y borth ddanvonaaid i'r Wladva y pryd hwnw. Ysgrivenydd godasid yn swyddveydd y Priv Gwnstabl (chief of police) oedd Finoqueto. Ni wyddai y Wladva ond y nesav peth i ddim am yr anghydvod Chili —ond teimlid vod yr awyr yn llawn elvenau tervysg. Velly yr oedd anesmwythyd lleol y Wladva yn beth amheus Chilaidd i olwg yr ysgol vygylog hono.
Pan drymhaodd yr Ormes i'r vath raddau ag i garcharu a baeddu un o'r sevydlwyr, vel y cyveiriwyd uchod, barnwyd yn bryd i'r Wladva beri glywed ei llais yn y cyfro: gweinyddai D. Lloyd Jones vel Ynad, L. J. vel Cadeirydd y Cyngor, a thros eu cydwladvawyr cytunasant i ddanvon y nodyn canlynol at y Prwyad Finoqueto:—
At y Prwyad Cenedlaethol D. Juan Finoqueto.—Yn enw y Wladva oll, a thros y Lleodraeth, yr ydym dan orvod i ervyn eich sylw,—vel yr awdurdod genedlaethol yn y Wladva,—i ddwylaw yr hwn yr ymddiriedwyd nid yn unig urddas y Genedl, eithr hevyd iawnderau y sevydlwyr vel deiliaid y Weriniaeth. Yr ydych bellach wedi gweled mor ovalus a pharchus yw y gwladvawyr i gydfurvio â'r cyvreithiau ac o'u hawliau cyviawn : os troseddent, byddai hyny o ddifyg deall. Mae yr awdurdodaeth gynrychiolwn ni, hevyd, yn cymeryd i ystyriaeth anhawsderau gweinyddu lle mor arbenig—heb drevniadau cyvlawn at bob amgylchiadau. Er hyny y mae jawnderau cyfredin cysegredig, ac y mae rheolau cyvreithiol sevydledig, wedi eu harver a'u cydnabod gan y Genedl, y rhai nas gellir eu hosgoi na'u tori yn ddi—berygl. Oblegid hyn y mae y Wladva wedi cyfroi drwyddi yn achos y digwyddiadau ddoe ac echdoe, pan gymerwyd yn garcharor ac y poenydiwyd un o`r sevydlwyr, heb na phrawv na rhybudd. Nid ydym yn mynegu barn na syniad am yr achos; ond, mae'n amlwg, nas gellir mewn unrhyw wlad wareiddiedig oddev y vath ymddygiad gormesol; ac velly, wedi gwrthdystio vel hyn yn ddivrivol rhag y vath drais, mae y gwladvawyr yn edrych atoch chwi i gosbi yr hyn a vu veius, ac i amddifyn y dyvodol gyda'r awdurdodau goruchel.—L. JONES, Cadeirydd y Cyngor; DAVID LLOYD JONES, Ynad Heddwch.
At y Gwladvawyr Luis Jones a D. Lloyd Jones.—Gan i chwi ddanvon yn swyddogol i'r Brwyadva hon yn enw Cyngor ac Ynad, a chan vod yn hysbys na vodola yn y sevydliad hwn awdurdodau cyvreithlon wedi eu cymeradwyo gan y Llywodraeth na definiad o'u galluoedd—heblaw yr awdurdodau cenedlaethol, yr wyv yn syml ddychwelyd i chwi y nodyn, vel y galloch ei adwneud yn y furv briodol, gan ddeisebu vel sevydlwyr, ac nid vel awdurdodau, modd y galler yn gyvreithlon 1oddi sylw iddo a'i ddanvon—os bydd eisieu—i'r uchawdurdodau. Wedi egluro vel yna ddychweliad y nodyn, gallav chwanegu vod y Brwyadva hon wedi cymeryd mesurau yn y mater y cyveiriwch ato na wneir eto y camwedd a nodwch, a danvon adroddiad i'r awdurdodau. Mae y Llywodraeth eto heb varnu yn angenrheidiol sevydlu yn y Gwladvaodd Cenedlaethol unrhyw awdurdodau lleol, megys Cynghorau, Ynadon, na heddgeidwaid, wedi eu dewis gan y sevydlwyr, ond ymddiried i'r Prwyadon weinyddiad mewnol, milwrol, ac i hyny wedi rhoddi iddynt gorf o heddgeidwaid yn warchodaeth. Gŵyr yr holl sevydlwyr vod ganddynt yn y Prwyad awdurdod gyvreithlon i edrych ar ol eu holl gwynion a thravod eu materion pan vo alw am gyviawnder, ac y bydd gwasanaethwyr y Brwyadva yn ovalus yn eu holl ymwneud cyhoeddus a phreivad, ac i roddi esiampl i'r sevydlwyr vel na byddo unrhyw gwyn am eu gweithrediad. Ar lavar, hysbysais chwi y byddai yn dda genyv gevnogi cais at y Llywodraeth i gydnabod yn swyddogol eich swyddi a definiad eich awdurdod; eithr hyd nes y ceir hyny nis gallav eich cydnabod yn y cyvryw weddau, a chredav na ellwch lai na chanvod rhesymoldeb vy saviad. Gyda hyn o eglurhad mae'n bleser i mi gyvlwyno i chwi fy ngwerthvawrogiad ohonoch.—JUAN FINOQUETTO.
Atebwyd yr uchod.
At y Prwyad Cenedlaethol, D. Juan Finoquetto.—Ymbwyllais hyd yn hyn cyn cydnabod derbyniad eich nodyn rhyvedd a'i ateb. Mae'n beth tawelwch cael eich gair "na chaif peth vel hyn ddigwydd eto." Ond y mae eich honiad “nad oes yn y Wladva hon ddim awdurdodau lleol yn bod," yn tueddu i gyfroi yn y sevydlwyr ovnau am eu hawliau cyvreithlon, ac yn peri nas gallant gredu vod hyn yn gynrychiolad gwir o syniadau y Llywodraeth tuag at y sevydliad. Rhoddais i chwi ar eich dyvodiad yma grynodeb o hanes gweinyddol y Wladva er y cychwyniad, 11eg mlynedd yn ol. Rhoddais i chwi ddyvyniadau o lvthyrau Gweinyddiaeth Mitre a Rawson a'u cevnogaeth i'r Wladva: cyveiriais at dros 300 o ysgrivau swyddogol vuasai rhwng y Wladva a'r Llywodraeth. Ychwanegais o gyv. arwyddiadau y Prwyad Oneto, ar iddo "barchu a pharhau yr awdurdodaeth oedd." Adgoviais chwi o agweddiad dewr a phwyllog y Wladva pan ddaeth llu arvog alltudion Punta Arenas yma. Yna yn Hydrev 6, 1876, cyhoeddodd y Llywodraeth Ddeddv Dyvudiaeth a Gwladvaoedd, ymha un y cydnabyddid yn llawn y savle Leodrol i'r 50 teulu oyntav ddelai i'r sevydliad. Cyveiriais chwi hevyd at gyvraith Rhaglawiaeth y Chaco, 1872, ac a gymhwyswyd at diriogaeth Patagones, 11 o Hydrev, 1878, yn dynodi galluoedd a dyledswyddau Cyngor Lleodrol ac Ynad Heddwch. I gyvarvod hyn oll nid oes genych ond haeru nad oes yr un ysgriv furviol oddiwrth y Llywodraeth, mewn cist haiarn, yn datgan hyny mewn geiriau ! Hyny mewn gwlad vel yr eiddom ni sydd mor amiwd ac anghyvlawn hyd yn hyn mewn pethau llawer iawn pwysicach. Mae ein Lleodraeth ni yn gweithio'n rheolaidd er's 16 mlynedd, ac nis gellir ei dyrchavu na'i darostwng drwy ddyvodiad a mynediad y swyddog yma a'r swyddog arall. Byddai hyny yn gam âg urddas y Llywodraeth, ac â fyniant y Wladva. A goddevwch i mi ychwanegu, Br. Prwyad, mai camgymeriad mawr vyddai gwyro y Wladva oddiar y llwybr sydd wedi ei gadw mor union hyd yn hyu. Byddai ymddwyn yn drahaus at bobl sydd wedi ymwreiddio yn y wlad, a'u plant cyn hir ar rôl ei difynwyr, yn anheilwng o'r genedl Arianin. Mae Chubut yn ganolvan i Diriogaeth ddyvodol Patagonia, a disgwylir iddi gynevino â llywodraethiad y diriogaeth hono yn deilwng o'r Weriniaeth. Hyderav gan hyny y gwelwch, gan nad pa furviau sydd ar ol, vod gan y Wladva bob hawl i'w Lleodraethiad ei hun ac i barch y Genedl.—L. JONES, Cadeirydd y Cyngor.
Tra'r oedd y berw hwn ymhlith y sevydlwyr, yr oedd Don Juan Dillon a'r Llywodraeth o'u tu hwythau, yn ymysgwyd peth i gyvarvod yr helynt, vel y dengys y nodynau canlynol:Buenos Ayres, Chwev. 22, 1882.
Tervynav y llythyr hwn drwy eich anog yn y Wladva i vod yn ochelgar a govalus gyda'r awdurdodau lleol y mae'r Llywodraeth ar vedr benodi, a myned ymlaen vel y gwnaethoch hyd yn hyn—a hyny yn vwy velly'n awr, gan vod Dr. Irigoyen (y Gweinidog newydd) yn favriol iawn i ddyvudiaeth Gymreig: gallwch ddisgwyl oddiwrtho ev bob chwareu teg a chevnogaeth. Byddai yn dda hevyd ped ysgrivenech ato ev yn blaen a manwl eich hunan, a diau genyv y derbynid eich nodiadau gyda chymeradwyaeth a gwerthvawrogiad. JUAN DILLON.
Gwnaed hyny yn vyr iawn, vel y canlyn:—
Chubut, Mawrth 13, 1882. At y Gweinidog Cartrevol, Dr. Irigoyen. . . . Avlonyddais gyniver waith ar y Llywodraeth ynghylch cael rhyw vath o Leodraeth i'r Wladva, vel na wnav y waith hon ond eich adgovio o ddeisyviad y sevydlwyr i gael tervyn buan ar eu helbulon. Nid ydym ni yma yn ymdraferthu parthed dyledswydd pwy ydyw ein rheolaeth a'n dybynaeth yr hyn y mae ein dawr ni ynddo ydyw, gweled cyvlawniad eich addewid chwi o gymhwyso atom gyhoeddeb y Chaco, 1872, mewn rhyw furv ymarverol. Ni phoenay chwi gyda manylion ein sevyllva wladol resynus, a llwyr saviad yr ymvudiaeth Gymreig tuag atom. —L. JONES.
Y covnodiad nesav ydyw Cyhoeddeb y Llywodraeth, vel hyn:—
Yn gymaint ag vod swydd prwyadon gwladvaoedd wedi ei dileu, rhaid yw trevnu yn ddarbodol i gadw trevn a gweinyddiad ar y boblogaeth; a chan vod Deddv Dyvudiaeth yn dynodi pan vo 50 o deuluoedd wedi ymsevydlu, y gallant ethol Ynad Heddwch a phump o Gyngor, mae y Llywodraeth, gan hyny, yn Erchi: Cymhwyser Deddv y Chaco, 1872, at Diriogaeth newydd Patagonia, 1878, a threvner y Lleodraethiad vel y canlyn:—[Yna dilyna 15 o benranau yn gosod trevniant lleodrol lled gyvlawn yn y cyraedd — gwel Deddv Tiriogaeth Chubut, sydd agos yr un.]—B. IRIGOYEN.
Y camrau cyntav gyda'r gyvraith newydd hon tuagat ei chymwyso i'r Wladva oedd ar i'r Rhaglaw Winter Tiriogaeth Patagones," benodi pwyllgor i furvio etholres o'r rhai oedd a hawl i ethol. Yr oedd hwnw ar y pryd yn llawn fwdan gyda chario allan y gadgyrch yn erbyn yr Indiaid dros y Cadvr. Roca.
Hyd. 15, 1882, ymddangosodd paragraf ymhriv newyddur Buenos Ayres yn hysbysu vod y prwyad Finoquetto wedi danvon adroddiad i'r Llywodraeth am addysg y Wladva, yn ol pa un yr oedd 200 allan o'r 700 trigolion yn analluog i ddarllen nac ysgrivenu! Eglurwyd ymhen hir a hwyr vod y cyvriv hwnw yn cynwys yr holl blant o ddiwrnod oed i vynu, tra nad oedd mewn gwirionedd ond 39 o wrywod a 28 o venywod (o bob math) heb vedru. Chwanegai yr adroddiad:
"Ni ddysgir yn ysgolion y Wladva hon ond y davodiaith Gymraeg yn unig, a chynwysa y gwerslyvrau ddysgeidiaeth na ddylid ei oddev yn ein plith ni, sev vod y Wladva wedi ei seilio i gadw'n vyw y devion a'r iaith Gymraeg. Mae ysgol gan y Llywodraeth, ond 5 yn unig sydd yn myned iddi, sev plant y bobl hyny sydd wedi gallu ymryddhau o'r penboethni clerigol, ac nad oes arnynt ovn digio eu pregethwyr. Mae'r prwyad Finoquetto, wrth nad oes yno leodraeth vel mewn manau eraill, yn govyn i'r Llywodraeth roddi y gallu iddo ev drevnu addysg lle heb y beiau uchod."—Nacion.
Hyd. 18, yn yr un newyddur, atebai'r Profeswr D. Lewis, athraw Lladin a Saesneg yn y Coleg Cenedlaethol, gwr o sir Gaervyrddin, a enillasai savle anrhydeddus ymysg dysgedigion y ddinas, ond a vu varw tuag 1890:—"Mae y Cymry yn wir yn dymuno cadw eu hiaith, yr hon nad yw Saesneg, eithr Celtig ac y mae'r dymuniad yn naturiol a chyvreithlon, vel y dangosir drwy yr ymdrechion a wneir yn y wlad hon gan bob cenedl i gadw eu mamiaith. Mae'r awydd hwn—ac ni ddylid vod heb ei wybod—a'i wraidd yn y natur a'r galon ddynol.
Myn gohebydd arall, wrth gevnogi y prwyad, vod y Cymry drwy amcanu gwneud hyn yn y wlad hon yn gwneud peth na veiddiant wneud yn Lloegr, lle y gwrthodir yn bendant iddynt arver eu hiaith.' Ond dylasai y gohebydd hwnw wybod y caniateir haner cant o ieithoedd yn yr ymherodraeth Brydeinig. Wele Canada yn engraift, lle y siaredir Francaeg a Saesneg vel eu gilydd, hyd nod yn y Senedd. Nid yw y Cymry mor fol a gwrthod unrhyw addysg, ac ni wrthodant byth ddysgu Hispaenaeg, gan vod eu dyvodol bydol, deallol, cymdeithasol, a moesol yn y wlad yn dybynu llawer ar hyn: ac mewn yspryd gwrthnysig yn unig y cenedlir y syniad arall. Gwn hanes vy nghydwladwyr y tu yma a thu draw i vôr, ac ymrwymav nad oes ddichon i'r Weriniaeth gael poblogaeth dawelach, vwy deallus, a llavurus. Nid oes anvoddogrwydd yn bod; ac os ydynt heb ddysgu iaith y wlad, y mae hyny am nad oes neb i'w dysgu, neu am nas gall yr un athraw ddysgu cylch o 40 milldir. Y mae ynvydion ymhob cymdeithas, eithr pob dyn pwyllog a ovala na chondemnia Wladva gyvan am anoethineb, hwyrach, ychydig anwybodusion.—D. LEWIS."
Ar ben y 7 mlynedd hyny—oblegid yr ormes vlin oedd ar y Wladva gadawsid i'r hen weinyddiad "Cyngor syrthio i vrusgrellni, vel nad oedd yn aros ond y "llywydd" (J. C. Evans), a'r trysorydd (H. H. Cadvan), a'r Ynadva (yn ochelgar): Velly Rhag. 18, 1882, galwodd y llywydd gyrddau yn yr holl ardaloedd, gydystyried y sevyllva, a phenodi yno gynadledd i dravod yr holl amgylchiadau. Yn y gynadledd hono pendervynwyd:—(1) Danvon eilwaith ddirprwyaeth at y Llywodraeth. (2) Cymeryd achlysur o'r casglu ystadegau blyneddol averol i wasgu ar y prwyad ei gamliwiad a'i anghywirdeb yn y davlen vlaenorol, a govyn iddo gymeryd cynorthwy lleol o ymddiried y bobl at y gwaith. (3) Ymrwymo i'n gilydd i dderbyn dyvarniadau ynadol athrywynol o'n plith ein hunain, vel peth mwy boddhaol na'r dull presenol o weinyddu iawnder. Cynaliwyd y cyrddau yn yr amrywiol ardaloedd wedi y gynadledd, a chytunwyd yn unvrydol ar y pendervyniadau uchod. Savle yr Ynadva, vel y gwelir, y rhoddid vwyav o bwys arni—ac ni veddylid vawr y deuai'r ergyd yn y dull y daeth.
Rhag. 20, danvonodd y prwyad nodyn yn govyn i L. J. alw yn y brwyadva "i wneud mynegiad.' Yno "mynegodd iddo omedd rhoddi ei ystadegau, am (1) vod adroddiadau y llynedd mor gamarweiniol, vel dangosiad o gyvlwr addysg a moesau y Wladva, vel y barnai mai gomedd vel hyny vyddai y gwrthdystiad mwyav efeithiol. (2) Mai y dull mwyav boddhaol i ystadegu sevydliad gwasgarog vel hyn o bobl amryw—ieithog vyddai drwy gydweithrediad lleol o ymddiried. (3) Nad ydys drwy hyn yn beio ymddygiad neb yn bersonol, ond yn achwyn ar y reolaeth a'r dull o'i gweinyddu. Wedi arwyddo y mynegiad uchod, dywedwyd wrtho ei vod yn garcharor, am ddiwrnod neu ddau," nes cael tystiolaeth rhai eraill oedd yn y cyngrair "i herio'r awdurdodau." Pan ddeallwyd vod L. J. yn garcharor, cyfrowyd yr holl Wladva: cynullai y cymdogion i siarad y peth, ac yn eu plith R. J. Berwyn. Hònai y prwyad vod Berwyn yn anos y gwladvawyr i gipio L. J., ac ymosod ar y brwyadva, a chymerai arno vod gan y bobl arvau: ac i vewn a Berwyn at L. J. Galwodd Finoquetto ar y swyddog (cabden y borth a dynion y dollva) "i gymeryd arvau at amddifyn y vaner Arianin." Ni chafai y carcharorion wel'd eu gilydd na'u teuluoedd —yr hen arver Hispaenig a elwir incomunicado, a buont velly rai dyddiau.
Ond hwyrach mai mwy boddhaol yw dodi yma yr adroddiad canlynol o'r helyntion ddilynodd, dynwyd allan ar y pryd gan bwyllgor dewisedig o blith y rhai oeddynt wyddvodol:
"Yr oedd galw ar un o sevydlwyr blaenav y Wladva i'r brwyadva 'i wneuthur mynegiad,' heb na gwys na chyhuddiad, ac yna ei gadw yn garcharor heb brawv na dedvryd, yn beth mor chwith i'n syniadau ni am iawnder, vel y cyfrôdd pawb. Pan ymgynullodd y pentrevwyr, danvonasant ddau o'u plith yn genadon i'r brwyadva i ovyn am ba beth yr oedd L. J. yn garcharor, ac a ryddheid ev ar veichiavon. Rhag. 22, daeth y sevydlwyr o'r wlad ynghyd i Drerawson, i gynal cyrddau trevnus dan gadeirydd: a danvonwyd eto genadwri i'r brwyadva i'r un perwyl. Yr atebiad oedd gorchymyn ymddiheurad "am ymgynull yn vygythiol." Parhaodd y dravodaeth drwy dranoeth, a chaniatawyd i'r ddirprwyaeth weled y carcharorion. Wedi eu gweled a chael ymddiddan â hwy, penodwyd y pwyllgor isod i ovalu am yr achos, ac aeth agos bawb adrev i'w cartrevleoedd y noson hono. Wedi 10 niwrnod o garchariad velly, rhyddhawyd L. J. a Berwyn ar wystl eu gair i ymddangos pan elwid arnynt. Ond cyn hyny danvonasid ysgrivenydd y brwyadva o amgylch y sevydliad gyda phapur i'w arwyddo [gwel isod]. Ar ol ymddiried yr achos i oval y pwyllgor a ddewisasid (sydd a'u henwau isod) cynaliwyd cyrddau ymhob ardal i egluro y mater heb na chêl nac ovn. Gan hyny, hydera y pwyllgor y gwel y Llywodraeth ddarvod i'r bobl ymddwyn yn bwyllog a gweddaidd dan amgylchiadau digon cyfrous. Balchiant yn awr o'u hen arver vel breinwyr rhydd, yn gallu ymddwyn mor wahanol i'r hyn yr ymddygid atynt hwy; a gobeithiant y gwel y Llywodraeth oddiwrth hyn vod unrhyw Leodraeth ymddiriedir i'r Wladva yn ddiogel o gael ei harver mewn pwyll a deall. Deallir vod ysgrivenydd y brwyadva yn cynull enwau wrth bapur amwys yn hòni nad ydyw ond datganiad o warogaeth i'r Llywodraeth, ac y gallai rhai ei arwyddo yn ddiveddwl. Ond mae y pwyllgor hwn, dros yr holl Wladva, yn gwneuthur y mynegiad hwn i'r Llywodraeth, vel y gwir adroddiad syml.
Wm. Robt. Jones, cadeirydd; R. O. Jones, ysgrivenydd; David Lloyd Jones, Maurice Humphreys, Joshua Jones, Evan Parry, H. H. Cadvan, Ŵ. Rich. Jones.
[Y papur y cyveirir ato:—"Oblegid y digwyddion diweddar o garcharu L. J.—vel na vo i'r Llywodraeth ein cymeryd ni gyda y rhai beius yn y mater hwn, ydym yn datgan ohonom ein hunain ein bod yn parchu ac yn derbyn yr awdurdodau cenedlaethol yn y Wladva hon a gynrychiolir gan y Prwyad."]
Danvonwyd L. J. a Berwyn i Buenos Ayres, ac elai Finoquetto gyda hwy yn y llong; wedi cyraedd yno aeth pob un i'w lety. Dranoeth, aeth y tri gyda'u gilydd i Swyddva Tiroedd a Gwladvaoedd: aeth y prwyad i mewn at y penaeth, a phan ddaeth yn ol ymhen rhyw 10 munud, "Gadewch i ni vyned," meddai, "yn y cerbyd." Ni ovynasid ac ni roddasid unrhyw eglurhad, ac ni wyddid i ba le yr elid. Y "Policia" ydoedd! Yno, drachevn, ni ovynwyd ac ni roddwyd ond yr enwau a'r oed. "Ni welsom Finoquetto mwy am ddyddiau rai. Aed a ni drwy ryw gelloedd avlan a barau haiarn iddynt, a dangoswyd dau vwrdd i ni orwedd arnynt—'Ac yn ufern eve a gododd ei olwg." Yr oedd hyny voreu Sadwrn. Cawsai L. J. gyvle (drwy dalu) i ddanvon gair at gyvaill iddo, a daeth hwnw i'w weled at yr hwyr, gydag addewid Dr. Irigoyen y gollyngid hwy yn rhydd y diwrnod hwnw. Deallwyd wedyn ddarvod i'r prwyad vedru oedi yr archeb yn y swyddveydd: a bu raid treulio y nos hono ar y byrddau moelion, ynghwmni lladron a gwallgoviaid, a llygod freinig—amryw o'r rhai olav y bu raid cydio ynddynt i'w lluchio i'r llawr pan avaelent mewn tamaid o'r cnawd. Nawn dranoeth galwyd arnom at y Priv Gwnstabl, a chymerwyd ein henwau vel o'r blaen: yna daeth hen voneddwr o Wyddel atom aethai yn veichiau drosom—Don Miguel Duggan, o gofa bendigaid—gŵr wedi arver cymwynasu cydwladwyr trallodus, ac wedi clywed drwy gysylltiadau nodyn L. J. am yr helbul—a ddaethai oddiwrth ei vrecwest, canol dydd Sul, i'n gosod yn rhydd, o ewyllus da at y Wladva. Bendith ar ei enw!—taw y mae eve wedi myn'd i'w orfwysva er's blyneddoedd.
Nid peth anghyfredin yn Buenos Ayres y dyddiau hyny oedd carcharu eu gilydd dan yr esgus o gamweddau gwleidyddol. Yn y cellau yr un pryd a'r Gwladvawyr yr oedd Dr. Manuel Quintana ddaeth wedi hyny yn briv weinidog yn Arlywyddiaeth Saenz Pena,—a archasid i garchar gan Dr. Victor Molina, vel cadeirydd y bwrdd ethol, am anuvudd-dod.
Gwnaed sylw mawr o helynt y Wladva yn newydduron Buenos Ayres. Ebai y Nacion (y priv newyddur): "Cynorthwywyd sevydlwyr y Wladva ar y cychwyn oblegid eu savle neillduol. Ar ba delerau y gwnaed hyny? Ar y telerau o barchu a chyvlawni cyvreithiau y Weriniaeth, ac uvuddhau i'w hawdurdodau, a'u gwneud yn vreinwyr Arianin bob yn ychydig. Velly mae gwladvawyr Chubut yn Arianin—rai oblegid gadael eu gwlad a mabwysiadu gwlad newydd, a'r lleill oblegid eu geni yma, a chan hyny maent yn yr un sevyllva ag unrhyw van arall o'r Weriniaeth, er y gwahaniaeth iaith a chenedl. Pam, ynte, y bu'r ymravaelion hyn, a pha gyvriv i'w roddi am y gwrthwynebiad i'r awdurdodau benodasid gan y Llywodraeth? Bu hyny oblegid gwyro cyvreithiau a sevydliadau y wlad—oblegid anaturioli y gyvundrevn gyvansoddiadol—oblegid y danvonir i'r gwladvaoedd ORCHYMYNWYR yn lle swyddwyr da—vel yr eglur ddengys adroddiad Swyddva Gwladvaoedd am y vlwyddyn o'r blaen. Ac yn awr pan yr ydys newydd erchi ethol ynadon a chyngorau i ddwy ranbarth y Chaco, yn ol y gyvraith, dylid adgovio vod gwladva Chubut er's hir amser mewn sevyllva addas i weinyddu ynadva a lleodraeth, a phe buasid wedi gwneud hyny yn gynt arbedasid yr holl helynt avreolaidd a vu'n ddiweddar yno. Dvwedasid yn un o adroddiadau y Swyddva Dirol—Mae bod heb gyvreithiau a threvniadau at lywodraethiad a gweinyddiad y gwladvaoedd cenedlaethol wedi peri cyfroadau divrivol yn Chubut, a rhoddi achlysur i chwedlau disail am y sevydlwyr vel avlonyddwyr y wlad. Eithr dywed y gwladvawyr—Archentiaid ydym, a govyn yr ydym sut y mynech i ni vyw ac ymddwyn hyd nes y deddvoch drwy gyvraith neu gyhoeddeb weinyddol.' Nid rhyvedd vod camddealltwriaeth wedi codi. Dengys yr helynt y dylid sevydlu llywodraeth leol briodol, a thrwy hyny at-dynu y sevydlwyr at eu gilydd, vel y gwna'r Unol Daleithau."—Nacion.
Awdwr y sylwadau uchod oedd neb llai na Dr. Rawson.
Yn y cylchoedd Prydeinig drwy y Weriniaeth oll parodd y carchariad gyfro dirvawr. Ebai y Buenos Ayres Standard: Mae carchariad Mri. Jones a Berwyn yn engraift eto o'r bwnglera gweinyddol sydd yn andwyo ein gwlad. Yr ydym yn honi cevnogi dyvudiaeth pobl atom, ond chwith iawn yw y dull gymerwn i wneud hyny. Wele ddau voneddwr adnabyddus o bob tu i'r Werydd, a'u dylanwad wedi bod drwy'r blyneddau gyda buddianau goreu y wlad, yn cael eu danvon i garchar gyda throseddwyr a gwallgoviaid i'w dwyn ger bron y llysoedd! a hyn oll oblegid chwilen wyllt tipyn o swyddog yn y police! Evallai y dywedir wrthym mai drwy gamddealltwriaeth y bu'r peth dywedwn ninau vod dealltwriaeth rhai o'n hawdurdodau yn galw am driniaeth o oleuni dreiddia drwy ddwlni mawr lawn. Y peth sy'n ddyrus i ni yw y carcharu. Pa gyvraith dorwyd, pa drais ar heddwch na diogelwch neb a gyvlawnwyd? Os bu anghydweliad, pam na ellid ei setlo mewn dull teilwng o'r urddas a'r rheswm gwaraidd yr hònwn ni vod yn perthyn iddynt. Os oedd raid carcharu un o'r pleidiau, pam na chymerasid yr un mwyav yn y camwedd? Pe buasai priv ddinas Archentina yn wersyll Indiaid ni vuasai ryveddach gweled yngharchar ddau ŵr ag y mae'r wlad yn vwy dyledus iddynt nag i ddwy gatrawd o blismyn gwledig. Yr ydym yn sicr nad oes ddeiliaid tawelach yn bod na'r Cymry—yn bobl hyddysg, diwylliedig, diwyd, a thawel—a pham velly na adawsid iddynt drevnu eu hachosion lleol eu hunain: gwnaethent hyny yn llawer gwell na chrach swyddogion vel hyn. Pe byddai swyddwyr y Llywodraeth yn Chubut yn deilwng o barch, gwyddom yn burion y cawsent hyny gan y Cymry hyn i'w llawn haeddiant. Mae sevydlwyr Chubut yn ddyledus am eu llwydd presenol yn gwbl i'w hymdrechion eu hunain, ac nid i ddim cymorth gawsant gan y swyddwyr."
Ar ol bod yn y ddinas vis cyvan, ganol hav poeth—heb na holi na phrawv—cyhoeddwyd ryw ddiwrnod gan y Gweinidog Cartrevol, y reithvarn ganlynol ar y carcharorion:—" Wedi gweled adroddiad prwyad Chubut, yn dangos vod L. Jones a R. J. Berwyn wedi gwrthwynebu awdurdod y prwyad hwnw—y blaenav drwy gymell cyrddau i wrthwynebu trevniadau y prwyad i gymeryd rhiviant y lle, a'r ail drwy anos y sevydlwyr i gevnogi'r blaenav, eithr ar yr hyn na wrandawodd y sevydlwyr —ac am hyny ddarvod dwyn y ddau i'r ddinas hon i garchar. Wrth ystyried (1) Mai priodol vuasai cyvlwyno yr achos i'r llysoedd rheolaidd am yr haeddianol gosp; ond y gellir yn yr achos hwn weithredu mewn tynerwch, yn ol dymuniad y prwyad ei hun: (2) Fod yr awdurdod genedlaethol wedi ei barchu drwy i'r dorv sevydlwyr ymchwalu o vlaen yr arddangosiad wnaeth y prwyad, a datgan eu huvudd—dod i'r awdurdod, a govyn vel cymwynas am ryddhad L. J. (3) Vod hwnw ei hun, y penav yn y camwedd, yn esgusodi ei ymddygiad drwy ddatgan nad oedd ganddo un bwriad i amharchu yr awdurdodau. (4) Vod y prwyad ei hun yn eiriol dros y carcharorion, a govyn ar iddynt gael eu hystyried vel wedi eu carthu o'u trosedd, ac vod y gwyddonwyr Frengig oedd yn y lle ar y pryd yn cymeradwyo yr un peth—Cyhoedder hwy yn rhydd.—B. DE IRIGOYEN.
Dychwelasai Berwyn i'r Wladva pan welwyd mai mewn mwg y darvyddai'r helynt—ond arosodd L. J. i weled y diwedd, ac yna ddanvon y nodyn canlynol i'r Gweinidog, ymhen 6 wythnos o ddisgwyl:—
{[right|Buenos Ayres, 15 Chwev., 1883.}} At y Gweinidog Cartrevol, Dr. Irigoyen.—Rhoddwyd i mi heddyw y wybyddiaeth swyddol o bendervyniad y Llywodraeth yn y mater a'm dygodd o'm cartrev pell yn y Wladva i'r ddinas hon. Dioddevais mewn amynedd yr holl helbulon a sarhad a roddwyd arnom, yn y llawn obaith y gelwid arnav o'ch blaen i roddi cyvriv am vy syniadau ac ymddygiadau, ac y cawn velly gyvle i ddangos i chwi mor anheilwng oedd y cyhuddiad wneid yn ein herbyn. Dywedir wrthyv yn awr mai y pendervyniad sydd wedi ei hysbysu i mi heddyw yw yr unig lwybr gweinyddol dichonadwy, heb vyned i'r llysoedd—ac velly nad oes ond diolch am hyny. Ond gan vod y "pendervyniad yn cynwys y cyhuddiad, nis gallav ddychwel i vy nghartrev eto heb adael ar gov a chadw i'r Llywodraeth yr hyn hevyd vynegir yn y pendervyniad—"Na vwriadwyd sarhau yr awdurdodau" a chwanegav yn awr na sarhawyd mohono genyv o gwbl." Dengys adroddiad pwyllgor y sevydlwyr vod ymddygiad y Wladva wedi bod yn bwyllog ac ystyriol, yn ol arver pobl waraidd. Ond a rhoddi o'r neilldu y mesurau y barnodd y Prwyad yn rheitiol eu cymeryd yn yr helynt, hyderav y sylwir yn glir vod yr holl gamddealltwriaeth wedi codi oblegid y dull chwith o weinyddu achosion lleol y Wladva. Yr oedd savle y prwyad cenedlaethol mor amwys—heb reolau na deddvau na dulliau i lywio wrthynt, vel yr oedd yn agored ar unrhyw vunud i ddirywio yn unbenogaeth bersonol beryglus—i'r hyn hevyd yr aeth. Chwaneger at hyny yr anhawsder o vod heb ddeall iaith y bobl (ac velly eu syniadau), a chyda hyny y duedd o edrych ar y sevydlwyr vel tramoriaid i deyrnasu arnynt, ve welir yn amlwg vod rheolaeth prwyad yn anvoddhaol ac anesmwyth. Dyna anhawsder Chubut er's talm. Yn vy natganiad cyntav wrth y prwyad nodais hyn allan yn bendant.
Tra yr oedd y pethau hyn yn digwydd yn y Wladva, deallasom wedi hyny, vod y Llywodraeth wedi cychwyn gwneud trevn ar yr amwysedd a'r anhawsderau, drwy gyvraith y Chaco. Ervyn yn unig wnawn yn awr am vrysio hyny. Nid oedd y digwyddiadau diweddar, o'u hawn ddeall, ond eglurhad o angen ac addasrwydd y Wladva i Leodraeth. Byddai ensynio vod y Wladva yn anfyddlon i'r Weriniaeth yn sarhad ar hanes ein 18 mlynedd gweinyddiad lleol. Gellwch vod yn sicr, pan gerir allan gyhoeddeb Ebrill 11, 1882, yn ol yr amlinelliad gyhoeddir ar gyver y Chaco, y mawr werthvawroga y Wladva hi, ac y cariant hi allan yn ddeallus.—L. J.
XXIV.
YMWELIAD M. D. JONES A D. RHYS: AR GANOL Y VRWYDR LEODROL.
Yn mis Mawrth, 1882, heb wybod dim wrth gychwyn oddicartrev am y traferthion a'r ormes oedd ar y sevydliad, daeth yr Hybarch M. D. Jones i ymweled â'r Wladva sylvaenasai ac a hyrwyddasai eve: a D. Rhys, Capel Mawr, yn gydymaith iddo. Y pryd hwnw y cavodd gyvle gyntav i weled peth o'r wlad, a deall drosto'i hun sevyllva a gweddau pethau yn y sevydliad. Nid oedd namyn rhyw 40 o oedogion y "Mimosa" i'w gyvarch ar ei laniad—ond llu mawr o'u plant. Eithr eve a vendithiasai niveri lawer o'r minteioedd dilynol, drwy eu gweled yn cychwyn o dro i dro, a rhoi "Duw yn rhwydd" iddynt. Dechreuasai rhai o'r rheiny lwyddo yn y byd (vel y llwyddai'r Wladva), a theimlo peth diolchgarwch i'r gŵr aberthasai gymaint i wneud iddynt hwy gartrevi a rhagolygon; ac a savasai yn gevn i'r mudiad am 20 mlynedd. Yn ei gydymaith, D. Rhys, a chyvarvyddiad â'i hen ddisgyblion a chyd—lavurwyr D. Lloyd Jones, A. Mathews, J. C. Evans, a L. J., cafai y boddlonrwydd mwynhaol o deimlo vod ei "wobr yn vawr iawn," a'i apostolaeth Wladvaol yn cael ei llawn werthvawrogi gan y rhai wyddent ei mantais yn dda. Wedi yr ymgyvarchwel i weled llu o hen gyveillion, a chydmaru adgovion ac argrafion am y wlad a'r bobl, a'r gobeithion; ac yna gael pregethau a chyrddau hwyliog a lluosog, lluniwyd mintai i roi gwibdaith o vis gyda D. Rhys i'r berveddwlad anhysbys, ac i M. D. Jones, vel gŵr 60 oed (ormod i daith velly), achub yr egwyl hono i weled ac amgyfred y wlad, ynghyd a'r sevyllva yn gyfredinol. Wedi y carcharu a'r cythryvlau yr oedd dda i L. J. gael y wibdaith hono gyda D. Rhys, a chael yn gymdeithion Grif. Huws, Esau Evans, D. S. Jones, R. O. Jones, a W. T. Williams, gan vyned i dueddau y Télsun a Banau Beiddio, ac adrev yn ol drwy ddyfryn Kel-kein a Hirdaith Edwyn. A bu y daith hono yn broviad newydd ac adnewyddiad yspryd i D. Rhys. Yn y cyvamser gwnaed cwmni bychan arall i roddi wib gyda M. D. Jones ar hyd y dyfryn-dir gyda'r avon mor belled a gwaelod yr Hirdaith, i'r havn greigiog alwyd oddiar hyny Havn Mihangel.
Tra gwnelid y gwibdeithiau hyn, travodai y sevydlwyr yr amgylchiadau cyfrous ddigwyddasai y misoedd blaenorol, a chafent varn ac ymgynghoriad M. D. Jones a D. Rhys i'w cynorthwyo. Canlyniad yr oll oedd penodi D. Ll. Jones i vyned yn ddirprwy gyda M. D. Jones a D. Rhys at yr awdurdodau (drwy Profeswr D. Lewis) yn Buenos Ayres i gyvlwyno eto gais y Wladva am Leodraeth ac Ymreolaeth. Gwnaed hyny yn furviol vel isod, ond bu llawer sgwrs ac ymweliad heblaw hyny:
Chubut, Mehevin 10, 1882.
Y rhai sydd a'u henwau isod, trigolion Gwladva Chubut, tra yn datgan eu hymlyniad wrth gyvansoddiad, cyvreithiau, a threvniadau y Weriniaeth, a'u pendervyniad i vod yn rhanog yn nadblygiad ardderchog dyvodol eu gwlad vabwysiedig, a'u llwyr argyhoeddiad nad oes ddeiliaid mwy heddychol, diwyd, a fyddlon gan y Weriniaeth a ddymunant yn barchus alw sylw at y faith eu bod yn goddev colledion dirvawr drwy ymyriad y Prwyad yn achosion lleol y Wladva. Mae y Cyngor a'r Ynad, drwy gydsyniad y Weinyddiaeth, vyth er 1865 wedi eu hethol gan y sevydlwyr eu hunain; ac yr oedd cyvraith Dyvudiaeth 1876—8 yn trevnu gweinyddiad lleol gwladvaoedd i vod yn llaw Cyngor ac Ynad. Mae tuedd mewn dyryswch vel hyn i barlysu diwydrwydd a llwyddiant y Wladva. Yr ydys gan hyny yn govyn yn barchus i'r Llywodraeth roddi gallu i'r awdurdodau lleol i dravod yn llawn ac efeithiol y buddianau lleol a berthynant i fyrdd, camlesi, iechyd, heddwch, diogelwch ac addysg y lle—pob peth perthynol i Leodraeth (municipal). Yr ydym gan hyny yn deisyvu ar Eich Urddas i gymeryd i ystyriaeth y cais hwn gynted y bo modd, a symud yr anghyvleusderau a'r niweidiau y cwynwn rhagddynt.
Arwyddwyd gan 247 o'r sevydlwyr: cyvlwynwyd gan D. Lloyd Jones.
Wrth gyvlwyno y ddeiseb yna ysgrivenai y dirprwywr vel y canlyn: Mae y Wladva agos i vil o villdiroedd o'r briv ddinas, ac ar ei phen ei hun yn gwbl. Os codai rhyw anhawsder gweinyddol ag y byddai raid ei basio i'r Llywodraeth, byddai o reidrwydd visoedd heb ei setlo. Oblegid y neillduwch hwn nid oes i'r sevydliad ddim byd yn gyfredin neu debyg gydag un man arall o'r Weriniaeth ond gyda'r môr, a chan hyny mae ei holl vaterion yn lleol. Rhaid rhoddi pwys ar hyn i vedru deall y sevyllva. Gwedd arall arni yw, y byddai pob erw o'r dyfryn yn anialedd llwyr heb ddyfrhad. Mae y sevydlwyr wedi cwblhau 89 milldir o briv gamlesi, a 100 milldir o ganghenau. Gyda hyny, tra yr oedd y gwyddonwyr yn levelu a chynllunio, gweithiodd y Wladva argae werth £3,000, vel y mae'r sevydliad wedi soddi £25,000 mewn gweithiau cyhoeddus yn dwyn elw—a diau vod y rhai di—vudd gymaint a hyny drachevn—taw y mae proviad y Wladva wedi bod yn ysgol ddrud iawn. Mae y dyfryn yn 44 milldir o hyd wrth 4 o led —dwyrain a gorllewin: yr avon yn 60 milldir o ben y dyfryn i'r môr, gan ymdroelli i bob cyveiriad, a gwneud troveydd lawer. Mae llinellau tervyn y fermi yn tori y llinell ar ongl o 45: mae'r kilomydrau yn sgwar drwy'r dyfryn uchav, ond yn hirsgwar drwy'r dyfryn isav. Cyn hir disgwylir i'r cynllun dyvrio o'r avon drwy gamlesi, fosydd, a chloddiau gyvlenwi pob erw o'r tir, vel y mae nwy yn cael ei gario drwy bob heol yn y ddinas. Vel hyn y mae genym rwydwaith o gamlesi, yn y rhai y mae gan y sevydlwyr oll vudd cyfredin : geilw hyny am bontydd a llivddoru lawer, ac ymyra hyny â'r fyrdd cyhoeddus ymhob cyveiriad, gan beri costau a govalon lawer. Rai misoedd yn ol syvrdanwyd y Wladva gan yr hysbysiad vod holl weinyddiad y buddianau hyn wedi eu hymddiried i'r prwyad. [Pell oddiwrthyv vi yw yngan gair amharchus am Mr. Finoquettoymddengys yn voneddwr bob modvedd]. Yr oedd ganddo i wneuthur rheolau am fyrdd, fosydd, caeau, heblaw setlo pob ymravael a chwynion. Rhoddodd y prwyad orchymyn y gallai'r neb a vyno gau ei ferm i vewn ond gadael 12 llath o fordd o'i hamgylch, a gadael 45 llath o vin yr avon. Setlodd hyny drevn ein fyrdd—yr oeddynt i redeg ar ogwydd o 45 i rediad y dyfryn, a phob 750 llath yr oedd fordd i vod: i vyn'd o'r drev i'r dyfryn uchav, rhaid dilyn yr avon, ac wedi hwyrach dravaelu dwy villdir bod o vewn 10 llath i'r man cychwyn, neu vynd igam—ogam gyda'r tervynau : a phe byddai gan ddyn amynedd i wneud hyny, gelwid arno rai misoedd bob blwyddyn i rydio fosydd a phantiau avrived. Nid wyv yn dweud nad hyn yw y gyvraith, ond dywedav os mai dyna ydyw, ac os rhaid i'r sevydlwyr aberthu 10 erw o dir ger pob ferm i wneud fyrdd cyvreithiol, y rhaid aberthu hevyd lawer o dir i wneud fyrdd tramwyol. Yn ol y cynllun hwn o fyrdd rhaid i bob fermwr vynd i'r draul o gau ei holl ferm, yn lle ei haner—gwn am un man y rhaid i'r fermwr wario £500 am wivro yn lle £150, a cholli 60 erw o vin yr avon—cyvriva mesurydd medrus y byddai'r cynllun hwn yn golled i'r Wladva o £160,000 rhwng tir a thraul. Gwelir velly, wrth vod y fermi yn croesi yr avon, a'r camlesi yn croesi'r fermi, a'r fyrdd yn croesi camlesi—yr arweiniai peth vel hyn i benbleth lwyr. Ceisio dangos yr wyv drwy hyn vod rheolaeth leol yn rheidrwydd. Nis gall vod camgymeriad mwy na gomedd i'r Wladva ei hawdurdodau lleol byddai yn rhwym o ddwyn y swyddwyr cenedlaethol i warth—nid am na byddant yn cyvlawni eu swyddi yn ddigon cydwybodol, ond am nas gallent wneud hyny yn ddeallus heb y proviad lleol. Ac am yr Ynadva drachevn—ve welir oddiwrth yr anhawsderau cymhleth a amlinellais y codai achosion a hawliau a buddianau i'w travod ag y byddai ry anhawdd i ddyn dyeithr eu dadrys. Mae y sevydlwyr yn Archentiaid i'r gwraidd, ac ni ddylid eu herlid oblegid eu hiaith—mae hono yn rhodd Duw. Diau vod yn hanvodol i'r awdurdodau lleol vod yn deall Hispaenaeg, a'r un mor sicr vod o ddirvawr bwys at weinyddu cyviawnder a chwareu teg ar i'r Cymry gael Ynad yn eu deall heb gyvieithydd. Mae y Cymry yn bobl ddwyieithog, ac y mae llaweroedd O blant y Wladva yn hyvedr i siarad Cymraeg, Saesnaeg, a Hispaenaeg.
"Ervyniem gan hyny am dervyn buan ar y mater hwn. Gadawer i'r Wladva deimlo vod gweinyddiad ei hachosion lleol ei hun yngoval deddvau uniawn, weinyddir gan ddynion yn meddu ei llawn ymddiried. Mae traferthion gweinyddiad wedi bod er's blyneddoedd yn rhwystr i'n fyniant diwydol. Ni vuasai ond angenrhaid yn rhoddi y nerth i wneud yr ymdrechion ydys wedi wneud: ond bu'r ymdrechion hyny yn ddadblygiad ar alluoedd vyddant bellach yn help mawr i'n llwyddiant cyfredinol. —D. LLOYD JONES.
Dychwelodd M. D. Jones a D. Rhys i Gymru yn yr ymwybyddiaeth eu bod wedi gweled y wlad a'r bobl, a chael cyvle i hyrwyddo dealltwriaeth rhwng y Wladva a'r Llywodraeth Arianin—heb vawr synied y byddid agos i dair blynedd wedyn cyn cael y Lleodraeth y brwydrid am dani.
XXV.
OEDI A GWINGO NES CAEL.
Dychwelasai D. Lloyd Jones o'i ddirprwyaeth at y Llywodr aeth yn Awst, 1882, gydag addewidion Dr. Irigoyen i ganiatau lleodraethiad yn ol amlinelliad Cyfraith y Chaco. Ond aeth y vlwyddyn hono heibio heb i ddim gael ei wneud tuag at hyny. Ganol y vlwyddyn ddilynol synwyd y Wladva pan gyhoeddwyd y nodyn canlynol yn newydduron Buenos Ayres oddiwrth y Prwyad:—
At Dr. Irigoyen.—Mae genyv i̇'ch hysbysu vy mod wedi dychwelyd yma yn ddiogel, ac wedi cymeryd eto awenau y brwyadva―am yr hyn y mae'r sevydlwyr wedi eu mawr voddhau, yn ol vel y mae llawer ohonynt wedi vy hysbysu. Yr wyv yn brysur drevnu yr ysgol—sylvaen addysg y bobl, vel y byddo addas i'r hyn y bwriadwyd hi. Yr wyv hevyd yn rhanu y gweithredoedd tir i bawb y perthynant, yr hyn sydd yn dangos y cyvlawnir pob addewid wna y Gweinidog; ac y mae gweled eich enw chwi wrthynt yn brawv o'r sylw ydych yn roddi i'w hachosion lleol, ac yn ernes o'r bwriadau da sydd genych tuag atynt. Digon yw dweud hevyd vy mod yn arolygu y materion lleol—megys fyrdd, maesydd, claddveydd, adeiladau, &c., yn yr hyn y'm cynorthwyir gan bwyllgor o'r sevydlwyr, tuag at lwyddaint y lle, yr hyn yw vy holl uchelvryd, ac yn yr hyn y gobeithiav lwyddo gyda chevnogaeth grev y Gweinidog. Mae cyfro mawr yma oblegid darganvod aur a glo yn y cyfiniau: llawer wedi rhuthro yno: ond yr wyv vi wedi cymeryd vy mesurau: danvonav adroddiad a samplau i chwi : nid yw ond taith pedwar diwrnod oddiyma: av yno, a chyda mi vwnwr proviadol i archwilio wyv anghredus vy hun, ond y mae yno aur yn ol pob adroddiad ellir gredu. Gorchymynwch eich fyddlon isswyddog—JUAN FINOQUETTO.
Wrth weled adroddiadau mor gamarweiniol, a'r hir oedi cychwyn dim mesurau at roi cyvraith y Chaco mewn grym drwy y rhaglaw Winter, vel yn y Diriogaeth nesav, dechreuodd y Wladva anesmwytho eilchwyl a gwingo, ac velly danvonwyd y llythyr canlynol at y Gweinidog Cartrevol:—
Wedi cael ar ddeall eich parodrwydd i hyrwyddo'r Wladva i gael ei Lleodraeth briodol; ac erchi i'r rhaglaw Winter barotoi etholres gyfelyb ag yn y Chaco o'r rhai a hawlvraint ganddynt i ddewis eu hawdurdodau lleol—bu lawen gan y Wladva. Eithr ysywaeth daeth i'm gwybyddiaeth yn ddiweddar vod hyny eto wedi ei ddyrysu a'i oedi yn amhenodol, drwy drovaus gyvrwysder y prwyad yn dadleu mai nid y rhaglaw sydd i'w orchymyn ev, eithr Swyddva Tiroedd a Gwladvaoedd. Mae hyny, a digwyddiadau croesion beunyddiol y lle, yn peri i mi ovni y bydd i'r prwyad eto vedru dyrysu y bwriadau da ddangosir yn y gyvraith newydd, a'r gorchymyn i'r rhaglaw Winter. A rhag bod oedi ac ystrywiau eto, dymuna'r Wladva awgrymu yn barchus i'r Llywodraeth ar iddi benodi rhyw wr neu ddau o'r brivddinas yn ddirprwyaeth arbenig i sevydlu yn y Wladva y Leodraeth linellir yn y gyvraith newydd. Ac o rhynga vodd i'r Gweinidog, cyvlwynant iddi enwau Don Juan Dillon a Profeswr Lewis, o'r Coleg Cenedlaethol, vel rhai tra addas i'r neges arbenig hono.—Dros y Wladva.—L. J.
Danvonwyd nodyn cyfelyb at y rhaglaw Winter, yr un pryd, ac yn ervyn arno vrysio erchi yr etholres. Ond yr oedd y swyddog hwnw yn vawr ei fwdan yn cario allan gynlluniau cadgyrch Gen. Roca ar y brodorion. Yn Awst, 1883, daeth ar y neges hono i'r Wladva, ac arosodd ddeuvis, heb wneud yr un osgo at lunio etholres. Lletyai y rhaglaw gyda'r prwyad, a chymdeithion hwnw, o reidrwydd, oedd o'i gylch. Wrth weled yr hir oedi hwnw wedyn, a gwybod o ba le y delai pob ystryw, furviwyd pwyllgor i vyned at y rhaglaw yn furviol, a chyvlwyno iddo y nodyn welir isod. Deallwyd hevyd y pryd hwnw nad oedd " Rhaglawiaeth Patagones ond peth cwbl ddarbodol—mai ei neges ev oedd milwra y brodorion o'r holl wlad; ac vel milwr byddai ei gydymdeimlad gyda'r swyddwyr. Ond cymerid cysur o'r faith ei vod ev wedi cychwyn Lleodraeth yn ei raglawiaeth briodol ei hun, sev Viedma, o du deheuol yr avon Negro.
At Raglaw Tiriogaeth Patagones.— Dymuna y ddirprwyaeth sydd ger eich bron ddatgan wrthych eu gobaith y bydd i'ch ymweliad presenol â'r Wladva vod yn voddhaol i chwi, ac y bydd i'r croesaw gawsoch yn yr amrywiol ardaloedd eich darbwyllo mai pobl dawel, drevnus, a diwyd yw sevydlwyr Chubut, a'u bod yn caru eu gwlad newydd, vel y dengys eu cartrevi cysurus a'u boddlonrwydd. Disgwyliant hevyd y gwel eich llygaid craf chwi yr amrywiol angenion sydd arnom am welliantau tai, fyrdd, pontydd, fosydd, ysgolion, pentrevi, &c. ——poblogaeth egniol, yn awyddu am welliantau a threvn sevydlog o reolaeth. Gwyddoch vod y Wladva wedi arver gweinyddu achosion y lle, ac iddi yn ddiweddar ddanvon dirprwywr at y Llywodraeth i ovyn am Leodraeth furviol a threvnus, a chael cevnogaeth ac addewid y Gweinidog i hyny, ac i chwithau yn Rhagvyr dilynol erchi i'r prwyad yn Chubut wneud etholres y Wladva yn ol amlinelliad Cyvraith y Chaco, eithr i'r swyddog hwnw godi anhawsderau rhag gwneud nes cael gorchymyn oddiwrth Swyddva Gwladvaoedd. Yn Mehevin diweddav gwybu y Wladva eich bod chwi wedi erchi iddo yr ail waith dynu allan etholres: ac oddiwrth hyny cesglid vod y rhwystr cyntav wedi ei symud. Velly, pan wybuwyd yn Gorfenav eich bod chwi ar vedr ymweled a'r Wladva, gobeithir bellach, tra'r ydych chwi gyda ni, y gwelwch yn dda roi mewn grym y Leodraeth addawedig gan y Gweinidog, am yr hon y mae cymaint disgwyliad.—Y PWYLLGOR.
Ymarhoid heb wneud dim at gael etholres, ac aeth 1883 i ddivancoll heb i'r Wladva vod vymryn nes o ran cael Lleodraeth. Diddymasid y prwyadaethau drwy'r Weriniaeth oll, ond cedwid Finoquetto mewn awdurdodaeth agored megys cynt: elai a delai ev i Buenos Ayres, gan adael y Wladva i ymdaro drosti ei hun drwy'r misoedd. Aethai y rhaglaw Winter i'w Diriogaeth ei hun, heb wneud un osgo at roi uvudd—dod i orchymyn y Llywodraeth am etholres leodrol—gwesgid clust a goddevid yn daeog: neb ond Finoquetto yn arglwyddiaethu, a'i waseiddion yn casglu clecion at gynud ac ager. Barnwyd ei bod yn hen bryd dwyn yr hen gyvlegr Brydeinig eto i'r vrwydr, ac velly, ar ddechreu 1884, cavwyd gan Syr Love Jones—Parry ovyn yn Nhŷ y Cyfredin, ai ni allai llys—genad Prydain yn Buenos Ayres wneuthur rhywbeth gyda'r Llywodraeth Arianin i liniaru yr ormes a'r avreoleiddwch oedd ar y Wladva Gymreig yn Chubut. Y llys—genad ar y pryd oedd yr Anrhyd. E. Monson. Am ddau vis gwasgai y llys-genad yn ddyval a bonheddig drwy y Swyddva Dramor Arianin, ac o'r diwedd cavodd yr atebiad canlynol:—
I'r Gweinidog Tramor.—Parthed eich nodyn o ymholiad am Wladva Chubut, oblegid cais Mr. Monson, llys—genad Prydian Vawr, mae'n hyvrydwch genyv ddweud wrthych yr edrychir ar ol y Wladva hono megis yr edrychir ar ol holl wladvaoedd eraill y Weriniaeth. Yn adroddiad Swyddva Gwladvaoedd am y vlwyddyn ddiweddav rhoddir adroddiad o lwyddiant y lle a'r gweithiau dyvrhaol llwyddianus wneir yno. Mae ganddynt brwyad yn ol y gyvraith sydd mewn grym, dysg a medr yr hwn sydd yn gwbl voddhaol i mi, a digon yw darllen ei adroddiadau i weled y dyddordeb a gymer a'r gwelliantau a gynygiai: cevnogir ev hevyd gan rai o'r sevydlwyr a gwyddonwyr vu yno yn ddiweddar. Yn aros am gymeradwyaeth y Congress y mae darpariaethau gweinyddol i'r Tiriogaethau sydd yn cyvarvod pob eisieu i hwylio rheolaeth leodrol, creu barnwyr cyvreithiol, ac hyd nod gynrychiolaeth yn y Congres drwy ddirprwyon, yn meddu llais yn y travodaethau. Disgwyliav y vlwyddyn hon weled y cynllun yn cael ei vabwysiadu, ac hevyd y bydd yn cyvarvod yr ymovynion gawsoch chwi oddiwrth lys—genad Prydain Vawr.
Digwyddodd vod L. J. yn Buenos Ayres ar vusnes ar y pryd, a phan wybu y llys—genad hyny, eve a ddanvonodd yr atebiad gawsai i L. J., vel y gwnelai yntau unrhyw nodiadau arno varnai yn addas. Wele y nodiadau wnaed:—
Wrth ddweud vod y Wladva yn cael yr un sylw a gwladvaoedd eraill, mae'n debyg mai cyveiriad ydyw hyny at adroddiadau y prwyad am y Wladva—nid at ddymuniadau a buddianau y sevydlwyr. Tra yr edrychir arnom vel haid o dramoriaid i'w bygylu, ac nid vel deiliaid cydradd, byddwn at drugaredd adroddiadau vel hyn—yn y rhai y mae cred y Gweinidog yn ddirvawr! Ceisiodd y Wladva ddweud ei chŵyn lawer gwaith a llawer modd, ond bu y canlyniad diweddar mor siomedig a chreulon, vel nad oes yn aros ond naill ai gwaseiddiwch ysgymun neu vudandod taeog. Llethir dadleuaeth bwyllus drwy ei alw yn vradwriaeth: deonglir cyd—ddwyn amyneddgar megis divrawder neu gydsyniad. Mae naw mlynedd er pan ymyrodd y prwyad cyntav â'r trevniadau lleol: bu dirprwyon dro ar ol tro yn ervyn cael travodaeth: ni wadwyd erioed yr hawl a'r doethineb: gwnaed addewidion lawer na oedid yn hwy, eithr hyd yn hyn y mae savle leodrol a chyvreithlon y Wladva yn cael ei gwbl anwybyddu. Gall vod adroddiadau a llythyrau yn pasio rhwng yr awdurdodau, ond y mae'r 1,200 gwladvawyr mor anhysbys ohonynt a phe byddent alltudion. (2) Sonir am 'fyniant y Wladva, a'r gwelliantau vwriedir." Eglur yw vod y cynllun unbenogol o geisio rheoli yn dallu y Gweinidog i wir gyvlwr pethau. Ysywaeth, nid yw y Wladva yn llwyddo. Drwy ystod y 18 mis diweddav y mae dyvudiaeth o Gymru wedi llwyr beidio: ymadawodd dwsinau o wladvawyr da i vyned i vanau eraill yn wir bu y_cyvnod hwn y caletav gawsid er's blyneddau. Ac eto y mae Dr. Irigoyen yn "voddhaus iawn ar adroddiad ei is—swyddog am y llwyddiant ! Gobeithio y llwydda'r Wladva eto yn y man, ond bydd hyny drwy ymdrechion diwyd a chynildeb tawel y sevydlwyr, ac nid drwy adroddiadau," a'r dull presenol o weinyddu pethau yn y lle. (3) Am y "cynlluniau dyvrhaol," maent yn yr awyr er's 8 mlynedd, a'r Llywodraeth wedi gwario £2,500 i'w "hevrydu," ac yn govyn £4,000 at ddevnyddiau yn awr: tra mae'r gwladvawyr ohonynt eu hunain WEDI gweithio camlesi sydd yn eu gosod o leiav uwchlaw dybynu ar gynlluniau y Llywodraeth. Gwerir £3,000 y vlwyddyn ar swyddogion yn y Wladva, a chyda'r holl gynlluniau mawr yn yr awyr, diau y tybiai'r Gweinidog y dylent vod yn voddlawn iawn, neu eu bod yn aniolchgar iawn; (4) Mae Dr. Irigoyen yn berfaith voddlawn ar adroddion y prwyad. Nid yw wedi covio unwaith mai disgwyl mae y Wladva am weled gweithredu rhywbeth, ac nid adrodda, a threvn weinyddol wedi ei sevydlu yn ol cyvraith. (5) "Mae rhai o'r sevydlwyr yn voddlawn i'r prwyad!" a rhoes y gwyddonwyr Frengig air da iddo! tra yr anwybyddir gwaedd vawr y Wladva pan garcharwyd ei phobl, ac na chymerwyd sylw o'u disgwyl distaw am gyhyd o amser. (6) " Mae cynllun o vlaen y Congres i drevnu gweinyddiad y Tiriogaethau" meddir. Mwynheir Lleodraeth eisoes gan sevydlwyr Rio Negro, Chaco, a Misiones: gallesid er's talm estyn yr un breintiau i Chubut pe mynasid. Yr ydys wedi hir ddisgwyl a govyn am hyny, a chael addewid swyddol gyniver waith vel nad oes genym bellach ond gwenu'n anghrediniol, a dywedyd, "Ni a gredwn pan y'i gwelwn." Bryd bynag y daw hyny, bydd ar y Wladva rwymau i ddiolch i lys—genhadon ei Mawrhydi yn Buenos Ayres am y dyddordeb gymerant bob amser yn ein helyntion ni yn y Wladva, vel dyrnaid o Brydeinwyr yn ymladd am chwareu teg dan anhawsderau lawer. Yn bersonol a Gwladvaol bu dda i mi wrth y dylanwad mawrvrydig hwnw lawer gwaith, a diau vod yr ymdeimlad hwn o nodded i'r gorthrymedig wrth wraidd ein hedmygedd o'r vaner Brydeinig.— L. J.
O hyny allan bu Syr E. Monson yn dyval wasgu ar y Llywodraeth: cawsai gopi o'r ddeddvwriaeth oedd o vlaen y Congres, a danvonodd hi i L. J. i weled a vyddai voddhaol i'r Wladva pe y ceid hi. O'r diwedd, yn Hydrev 16, 1884, ymhen pedair blynedd wedi dechreuad y vrwydr, ac agos i 20 mlynedd wedi sylvaenu y Wladva, cavwyd Deddv y Tiriogaethau Cenedlaethol "magna charta" y Wladva.
Bwriadwyd unwaith roddi yma gyvieithiad llythyrenol o honi; ond gan vod eisoes amryw welliantau neu gyvnewidiadau wedi eu gwneud arni (vel y gwneir yn Mhrydain), ac vod llawer o'r trevniadau yn gyvreithiol, a'r cyvreithiau hyny yn ol y dull Hispaenig, ni roddir ond y crynodeb dealladwy canlynol ohoni:
Rhenir y Tiriogaethau—sev y rhandiroedd eang oedd y tu allan i'r 14 Talaeth gyvansoddent y Weriniaeth—i naw tiriogaeth: Pampa, Neuquen, Rio Negro, Chubut, Santa Cruz, Tierra del fuego, Misiones, Formosa, Chaco. Nodir finiau pob un: finiau Chubut (y Wladva) oeddynt o lanau'r Werydd hyd bigyrnau uchav yr Andes, ac yna ledredau 42 i 46 De—pedair gradd lledred, a rhywbeth tebyg yn hydred—dyweder 240 milldir ddaearyddol bob fordd.
Pan ddelo poblogaeth unrhyw diriogaeth yn 30,000 bydd mewn sevyllva barotoawl i ovyn cael bod yn dalaeth, ac i gael deddvwrva iddi ei hun nes bod yn dalaeth. Mae y dirprwyon i'r ddeddvwrva i vod yn un ar gyver pob dwy vil o'r trigolion: wedi eu hethol gan y rhanbarthau lleodrol, ac i barhau mewn swydd dair blynedd: yn vreinwyr cyvlawn oed, ac heb vod yn dal unrhyw swydd dan gyvlog y Llywodraeth.
Rheolaeth y Diriogaeth vydd drwy i'r Llywodraeth benodi Rhaglaw, drwy gydsyniad y Senedd, am dair blynedd, ac ymddiried i hwnw "drevniadau diogelwch, gweinyddiad, a dadblygiad y diriogaeth." Ysgrivenydd y rhaglawiaeth a benodir ill dau hevyd gan y Llywodraeth ar gynygiad y rhaglaw: a hwynt—hwy sydd gyvrivol i'r Llywodraeth.
Y Llywodraeth sydd i benodi Barnwr Cyvraith (am ei oes. neu ymddiswyddiad) a chydag ev ysgrivenydd o dwrnai, a dadleuydd a'r gweinyddion llysol arverol.
Y TREVNIANT LLEODROL (municipal) sydd drwy Ynadon Heddwch (taledig) dros bob rhanbarth o wlad y bo mil o drigolion ac uchod ynddi: i'w hethol drwy dugel gan bob un mewn oed vo ar yr etholres, ac i barhau mewn swydd am ddwy vlynedd. Travodant bob achos o hawl ac iawn hyd i werth $200 (yna apel at y Barnwr): mewn achosion troseddol pan na vyddo y gosb yn vwy na 4 diwrnod o garchar, neu $20 o ddirwy:: travodaeth yr ynadon i vod ar lavar ac ar ysgriv, a'r dyvarniad i vod wrth wiredd a dilysedd credadwy, gan ovalu, modd bynag, am furviau prawv a difyn.
Y CYNGOR LLEODROL O bump i bob rhanbarth, a etholir drwy dugel pob etholwr ar yr etholres ar ddydd ac yn ol trevn osodedig, i barhau yn eu swydd ddwy vlynedd, rhan i'w newid bob blwyddyn. Y Bwrdd hwn sydd i drevnu gweinyddiad eiddo a buddianau cyhoedd y lle: pènu y trethi lleol, eu casglu a'u treulio erchi pob gwaith cyhoeddus y gellir ei wneud o'r cyllid lleodrol. Mae trevniadau manwl iawn oddeutu etholiadau a furviau; ond "arverion y Weriniaeth' yn peri traferth ac anhawsderau yn aml.
Y Rhaglaw cyntav benodwyd i roddi y trevniant Tiriogaethol newydd mewn grym oedd yr is—vilwriad Luis G. Fontana, boneddwr goleuedig a thirion, drwy drugaredd, ag a vuasai yn arolygu gwladva Formosa, cwr o eithav arall y Weriniaeth. Gan vod y gwladvawyr yn hen gyvarwydd â Lleodraeth yn ymarverol, ac nad oedd y ddeddv newydd namyn hanvod yr hen drevn, gyda rhyw vanylion a dulliau Arianin, gorweddodd pethau yn esmwyth ar unwaith. Penodwyd L. J. yn Ynad tu gogleddol yr avon, a D. Ll. Jones yn Ynad y tu deheuol; ac etholwyd Cyngor cryv yn cyvarvod yn Gaiman vel y man canolog. Penodwyd Barnwr Cyvraith a swyddwyr i'w lys; a phenodwyd llu o is—swyddwyr i'r rhaglawiaeth a'r llys; a phenodwyd hevyd bost—veistr i'r Wladva—y Llywodraeth yn talu cyvlogau yr oll, oddigerth y Cyngor. Heblaw yr holl swyddwyr hyn yr oedd hevyd eisoes gabden y borth a'i wyr, a penaeth y dollva a'i glercod. Y swyddoga hwn yw malldod y Weliniaeth. Mae anibendod a furviadu hevyd yn dreth drom ar amynedd ac amser, ac yn gancr i ysu busnes ac onestrwydd y wlad.
XXVI.
Y LLEODRAETH DAN BRAWVION.
Am bum' mlynedd wedi cychwyn y Lleodraeth elai pobpeth ymlaen yn llyvn a chyson. Ond yn Medi, 1888, ceisiwyd arver y castiau gweinyddol ac etholiadol sydd yn anurddo cymaint ar hanes y Weriniaeth, a rhoddir yr adroddiad yma o'r helynt vel engraift a rhybudd at y dyvodol.
Vel canolvan i'r holl Wladva cytunid ar Gaiman vel eisteddle y Cynghor Lleodrol. Trewrawson oedd eisteddle y Rhaglawiaeth—20 milidir is i lawr na Gaiman; ond y dyfryn uchav toreithiog 15 milldir uwch i vynu (gwel map t.d. 47). Ceisiasid govalu vod aelodau y Cyngor canol hwnw yn cynrychioli y gwahanol ardaloedd yn lled drwyadl. Trerawson oedd y priv le, gan mai yno yr oedd y Rhaglawdy a'r holl swyddwyr, a chyda hyny y lluaws Italiaid ymdyrent yno i vasnachu. Wrth gwrs, yr oedd rhiv yr etholwyr gyda'u gilydd (tua 400) yn peri nad oedd llais y swyddwyr a'u cysylltiadau ond bach o riv yn y cyvriv cyfredinol. Velly, yn Medi 17, 1888, rhoddes y rhaglawiaeth allan gyhoeddeb vel y canlyn: "Gan mai eglur yw vod meithder y sevydliad a'i gynydd yn peri nad ydys yn teimlo hyd yma ddylanwad y Lleodraeth ganolog vel y byddai ddymunol, ac vel y mae angenrheidiol i gyvarvod lluaws galwadau y lle, mae y Rhaglaw yn Erchi: Penoder pwyllgor lleodrol (commision municipal). cyvyngedig i Drerawson, priv ddinas y Diriogaeth. (2) Y pwyllgor hwnw i vod yn gynwysedig o bum' aelod o breswylwyr y drev, a'i awdurdodaeth yn gyvryw ag a roddir gan y gyvraith i gorforiaethau cyfelyb. (3) Penoder i furvio y pwyllgor hwnw y breinwyr canlynol:—G. Mayo, H. Musachio, A. Delaboro, V. Zonza, J. Bollo. (4) Cymhellir arnynt i roi sylw arbenig at iechyd a harddwch y drev.—L.. JORGE FONTANA, Rhaglaw.
Aethai y Rhaglaw ymaith i Buenos Ayres yn union ar ol rhoi allan y gyhoeddeb, gan gadael ysgrivenydd y rhaglawiaeth yn rhaglaw darbodol. Yr oedd cryn wahaniaethau barn parthed deongliad ac efaith y gyhoeddeb. Teimlid vod peth rheswm yn y gŵyn vod y gweinyddiad lleodrol yn arav ac avrosgo oblegid hyd y rhanbarth: ond gwyddid hevyd mai yr amcan oedd rhanu y grym etholiadol, a bachu yr awenau lleodrol gyda'r mwyavriv oedd yn swp gyda'u gilydd yn y pentrev, tra pobl y wlad yn wasgarog, ac heb vod bob amser yn unvryd—unvarn, vel ag i vod yn rymus. Ond colyn y cast oedd datroi etholiad uniongyrchol gan y bobl am benodi yn unbenogol aelodau y Cyngor lleodrol. Nid hir y buwyd cyn canvod mai yr hyn a ovnid a ddaeth arnom. Drwy hollti y rhanbarth yn ddwy barnai y rhaglaw darbodol na vyddai vil o drigolion, vel y govynai'r gyvraith, yn y naill na'r llall, i vedru ethol drwy bleidlais, ac velly mai y rhaglaw oedd i benodi Cyngor am ranbarth islaw mil o bobl. I enhuddo mwy vyth ar y cast gelwid y corf newydd oeddid wedi benodi yn "Bwyllgor Trerawson" (commision de Rawson) ac nid Cyngor Lleodrol (consejo municipal). Yr oedd penodi pump o swyddwyr y Llywodraeth yn draha dybryd, tebyg i'r ormes y buasid dani o'r blaen; ac yr oedd hevyd anwybyddu y gwladvawyr yn newisiad Cyngor yn sarhad ar y Wladva oll—y bobl oedd wedi gwingo nes cael Lleodraeth dêg. Nid oedd bellach ddim i'w wneud ond ymladd gyda'u harvau hwy eu hunain — cyvrwysder a furviau. Nid oedd ond gwasgu clusthyd adeg etholiad. Ni newidiasai y gyhoeddeb ddim ar savle yr Ynadon, ac velly yr oedd hono wrth gevn. Cyn hir estynwyd y bawen i'r boced: archai y "pwyllgor ar i bawb dalu eu trwyddedau olwynion (vel y byddid arver) ar ddyddiad a roddid. Wrth gwrs, rhedodd llawer i dalu yn ebrwydd; ond gwelwyd hevyd vod y ddysgeidiaeth Wladvaol wedi magu asgwrn cevn yn y mwyavriv. Wedi cynull cyrddau cyhoeddus i dravod y mater mewn pwyll, cytunwyd i bawb dalu eu trwyddedau i'r Ÿnadva, o dan wrthdystiad. Dyrysodd hyny beth ar y glymblaid drahaus; a cheisiasant vygylu yr Ynad Lloyd Jones i gymeryd oddiarno swm y trwyddedau dalesid yno dan wrthdystiad. Pan welsant na wnai hyny y tro chwaith, ac vod Ꭹ Wladva yn dechreu gweled sut y byddai pethau heb etholiad lleodrol, galwasant am etholiad dau aelod ar ben y tymor y penodasid hwy. Ond gwnaed hyny mor gastiog ag oedd y cast cyntav: galwyd yr etholwyr i Rawson (rai 18 milldir a fordd) pan oedd pawb ymhen eu helynt gyda dyvrio y cnydau—Medi 26, 1889yr adeg brysurav o'r vlwyddyn—heb rybuddion amserol na chyfredinol, ac heb drevniadau etholiadol ar gyver y rhaniad wnaethid ar y rhanbarth. Cwbl over oedd govyn am ohirio vel ag i'r sevydliad oll gael ethol yn deg: mynwyd cynal etholiad, ac vel hyn y bu'r canlyniad :—Pleidleisiodd 43, tra yr oedd ar yr etholres 377; dewisodd y 43 hyny J. Bollo a V. Zonza: i'r rhai hyny pleidleisiodd 7 o Archentiaid, 25 o Italiaid, 8 tramoriaid, 3 Prydeinwr.
Ve welir oddiwrth y figyrau hyn mor llwyr yr erthylodd yr "etholiad" hono—ond yr oedd yn ol y FURV, a theimlai y glymblaid mor gadarn yn eu sedd bellach, vel yr aethant mor hyv a cheisio diswyddo yr Ynad, am iddo sevyll i beidio cydnabod y glymblaid, a gomedd rhoddi i vynu iddynt arian y trwyddedau roisid yn ei ymddiriedaeth. Tynodd hyny alan y "pendervyniad" swyddol a ganlyn:
Cyngor Lleodrol Rawson, Chwev. 4, 1890.—Yn gymaint ag vod y papurau sydd ymeddiant y Cyngor hwn yn dangos vod yr Ynad D. Ll. Jones wedi troseddu yn ei swydd yn ddivrivol, drwy anwybyddu y Cyngor hwn yn llwyr, yn groes i'r llw gymerodd yr 2 o Vedi diweddav, mae y Cyygor hwn, yn ol y gallu roddir iddo gan penr. 10 o'r Gyvraith, yn Gorchymyn:Darvydded D. Ll Jones vel Ynad Rawson, a phenoder yn ei le Pio Agustin Perez. Pasier i'r Barnwr govnodion o'r hyn barodd y gorchymyn hwn, vel y cosper yn ol yr haeddiant.—G. MAYO, Cadeirydd.
Gosodasai yr Ynad hysbysiad ar bost y bont—y man cyhoeddusav — yn hysbysu y byddai ei swyddva ev yn agored vel arver. Mawrth 6, 1890, ysgrivenodd yr Ynad y nodyn canlynol at L. J. :—Yr wyv newydd gael gwys ymddangos oddiwrth Woodley (Priv Gwnstabl). Nis gwn yr amcan, oddigerth eu bod am vy nanvon ymaith, neu vy nghadw rhag myn'd i Buenos Ayres. Mae Woodley wedi govyn am gael tori i lawr y post ar ba un y mae vy hysbysiad, a'r lle hevyd y mae hysbysiad y "municipalidad." Gwrthododd Gutyn ac Humphreys (adeiladwyr y bont). Ar vy fordd yma cyvarvyddais Woodley a dau blismon yn myned at y bont. Yr wyv yn danvon hyn er mwyn cael trevnu yn ol yr hyn a ddigwydd.—DAVID LLOYD JONES.
Ond yr oedd Lleodraeth wedi costio'n rhy ddrud i'r Wladva i veddwl ei golli drwy gastiau cyvrwys a thraha vel hyn. Cyfrôdd y Wladva drwyddi, vel ag yn adeg carchariad L. J., a chynted y cavwyd egwyl o'r fwdan dyvrhau, cynhaliwyd cyrddau ymhob ardal, ac arwyddwyd gwrthdystiad cyvreithiol grymus yn erbyn y fug etholiad, a'r holl weithrediadau trahaus dilynol. Ymdavlodd L. J. a J. M. Thomas i'r vrwydr o ddivriv, i vod yn gevn i'r Ynad. Y cam cyntav oedd i'r Ynad roddi allan gyhoeddeb yn egluro i'r Llywodraeth ei saviad ev, vel hyn :
D. Ll. Jones, Ynad Gweinran Rawson, yn egluro:—Ddarvod cyhoeddi ysgriv dan y dyddiad Chwev. 4, wedi ei harwyddo G. Mayo ac A. Blancà, ac arni stamp y Cyngor, ac a gevais i y diwrnod hwnw. Hònav vod G. Mayo a dau eraill hònant eu bod yn aelodau o'r Cyngor, yn gwneud hyny'n groes i pen. 22 o Gyvraith rhiv 1532: vod y ddau eraill yn aelodau oblegid pendervyniad y lleill, yn groes i pen. 22, 24 o'r Gyvraith: vod 5 o bob 6 o'r etholwyr wedi gomedd myn'd i'r etholiad, ac wedi cyvlwyno gwrthdystiad rheolaidd yn erbyn, a mynegu eu gwrthdystiad i'r chwilwyr ar y pryd: ddarvod i'r pwyllgor o'r etholwyr aethant i'r Rhaglawdy, gael ar ddeall yno nad oedd y "Cyngor" honedig wedi cael ei gydnabod gan y Llywodraeth: vod y bobl hyn wedi trawsveddianu yr awdurdod lleodrol, i'r dyben o rwystro yr Ynad gyvlawni ei swydd yn briodol. Gan hyny, wrth ystyried mai yr Ynad yw yr unig awdurdod leodrol gyvreithlon sydd yn awr yn y rhanbarth, a'i vod drwy benodiad arbenig yn geidwad y rhestru a phob ysgrivau; nis gall, ond i archeb y Llywodraeth yn unig, drosglwyddo y cyvryw i neb pwy bynag, heb archeb y Rhaglaw.—D. Ll. JONES.
Yn Mai dychwelodd y Rhaglaw Fontana o Buenos Ayres, a chavodd y Wladva yn verw bwygilydd oblegid y traha lleodrol. Yr oedd rhoi y Lleodraeth i veddiant penaeth y dollva, clerc y dollva, broker y dollva, meddyg y rhaglawiaeth, a'r athraw cenedlaethol, tra y mynegai'r gyvraith yn bendant nad oedd yr un swyddog taledig o'r Llywodraeth i vod ar y Cyngor, yn beth rhy warthus a beiddgar i'w oddev. Velly, Mai 17, 1890, danvonwyd y nodyn canlynol o'r Rhaglawdy i'r Ynad, G. Mayo, L. J., a J. M. Thomas:—" Yn gymaint ag vod yn well bob amser geisio heddychu drwy deg yn hytrach nag ar hawliau a llythyren, a chyn i'r Barnwr edrych i'r ysgrivau am yr anghydwelediad rhwng y Cyngor ac Ynadva Rawson, mae y Rhaglaw a'r Barnwr wedi penodi y dydd voru, am 2 o'r gloch, i dravod a heddychu y mater, a gobeithir y gellwch chwi, vel arwyddwyr y gwrthdystiad vod yn bresenol.—A. A. CONESA, dros y Rhaglaw.
Yn canlyn wele y covnodion gadwyd ar y pryd o'r ymgomva vu, a'r canlyniad:—"Gwyddvodol: Y Rhaglaw, y Barnwr, Conesa, Mayo, D. Lloyd Jones, J. M. Thomas, L. J.—Agorodd y Rhaglaw y sgwrs drwy roi ar ddeall ei vod wedi ymgynghori â'r Llywodraeth am y peth, ac wedi cael ei gymhell i gyd—ddeall evo'r Barnwr yn yr helynt. Wedi siarad maith a llac, govynwyd i Mayo ei syniad: yntau a gyvlwynai bapur o delerau ar ba rai yr ymddiswyddai eve: (a) Vod yr Ynad i dalu iddo ev arian y trwyddedau dderbyniaai dan y gwrthdystiad; (b) Yr Ynad i roi ei swydd i vynu, ac ymrwymo peidio sevyll ail etholiad pan ddelai yr amser. Gwrthodwyd y vath delerau ar unwaith. Yna gogwyddodd y siarad i ddangos vod y Barnwr yn tueddu i edrych ar ddiswyddiad yr Ynad gan Mayo vel peth byrbwyll ac avreolaidd. Wedi gweled hyny aeth Mayo allan i gydymgynghori â'i bobl, a phan ddaeth yn ol dywedodd eu bod hwy oll yn ymddiswyddo yn ddiamodol. Diolchodd y Rhaglaw yn furviol i Mayo am y gwasanaeth a wnaethai yn ystod y tymor. Dair gwaith yn ystod y sgwrs ceisiwyd dwyn i sylw bwyntiau y gwrthdystiad, yn enwedig am gael un Cyngor i'r weinran oll vel cynt; ond bu raid boddloni ar gadw urddas yr Ynadva, a gobaith cael ethol Cyngor rheolaidd.
Mai 14, 1890, galwodd y Rhaglaw am etholiad i ranbarth Rawson, vel y rhanesid hi, a chan y byddai tymor yr Ynad hevyd ar ben, gelwid am ethol Cyngor ac Ynad. Wrth gyhoeddi hono drachevn deuai yr ewin forchog i'r golwg yn y paragraf o'r gwysiad i ethol: "I vod yn aelod o'r Cyngor Lleodrol rheolaidd, rhaid bod yn drigianydd yn y rhanbarth, cyvlawn oed, yn meddu tir, a siarad yr iaith genedlaethol. I vod yn Ynad yr oedd ovynol bod yn vreiniwr (dinesydd). Dodir y bwrdd ethol ymhorth yr Eglwys Gatholig o 9 yn y bore i 4 brydnawn, neu yn neuadd y Barnwr." Yr oedd son am gymwysder tirioz a medru Hispaenaeg yn gwbl ddiwarant wrth gyvraith: ond bwriadwyd y crybwylliad yn ddiau vel math o vygylu a lleddvu tymherau ar ol y frwyno diweddar. Daeth yr un gwingo i'r golwg ymhen blyneddoedd wedyn i geisio cael yr etholiad leodrol ar y Sul, ymhorth yr Eglwys Babaidd, yn ol llythyren y gyvraith: a'r un anach barodd y drilio ar y Sul, nes y medrid newid hyny hevyd. Cynaliwyd yr etholiad hono yn vywiog a manwl yngwydd y Rhaglaw a'r Barnwr, y rhai a dystient na welsent hwy erioed etholiad gwerinol mor ddeallus ac mor anrhydeddus, heb dervysg a chastiau. Ysywaeth, y mae etholiadau y Weriniaeth Arianin ymhell o vod yn addurn i'r Genedl, ac yn aml iawn yn arwain i dervysgoedd a thywallt gwaed, oblegid tymerau nwydwyllt y bobl, a'u dibrisdod o vywydau eu gilydd. Canlyniad y cyfrawd lleodrol hwnw vu ethol pump o Wladvawyr blaenllaw i Gyngor Rawson, a D. Lloyd Jones yn ynad: ac i'r Gaiman gael Cyngor ac ynad iddi ei hun—J. C. Evans yn ynad cyntav, a Huw Griffith ar ei ol. Drwy Gymraeg y mae pob travodaeth yn y ddwy,—a rhoddi cyveithiad Hispaenig i'r Rhaglawiaeth o'r pendervyniadau.
Bu dau brawv arall ar y Lleudraeth—a'r ddau dro daliodd allan yn llwyddianus iawn, dan gryn wasgva ac anhawsderau: a chan eu bɔd yn engreiftiau o'r saviad Lleodrol rhag cael eu 'sigo gan y cawredd Llywodraethol, rhoddir yma adroddiad ohonynt er calondid a chyvnerthiad i'r bywyd lleol yn y Wladva.
Y cyntav oedd parthed y Dreth Dir. Tach. 2, 1893, ysgrivenai L. J. yr hanes i'r Dravod vel hyn :
"Bydd hwn yr 28ain tro i mi vyned at y Llywodraeth Arianin yn swyddol dros y Wladva, a'r 43ain mordaith yno—a gwaith divlas ovnadwy ydyw—croes i'm graen i erioed, ond vel y byddav yn teimlo rheidrwydd dyledswydd yn vy ngyru i geisio hyrwyddo tipyn ar y Wladva. Myvi vy hun, hwyrach, dynodd helvnt y Dreth Dir yn vy mhen y llynedd, drwy ymyryd i geisio cael sawd gweithio i'r Lleodraeth, heb neb yn vy nanvon na vy anos, ond vy neongliad i o'r gyvraith ag y barnwn oedd yn gyvle rhagorol i nerthu breichiau y Cyngor. Gyda'r mymryn cyllid lleodrol sydd genym o £250 y vlwyddyn — a £60 o'r rheiny yn myned am ysgrifenydda—nid oedd obaith gallu GWNEUD nemawr ddim. Mae y Llywodraeth Genedlaethol yn treulio £5000 mewn cyvlogau am ein swyddoga―tra ninau yn
HONG-BONT Y GAIMAN
Wnaeth yr ardalwyr wedi cael Lleodraeth i'r rhanbarth hwnw yn benav vel cyvleusdra at y
capel welir yn y darlun.
GWNEUD pobpeth erddom ein hunain heb ddimai o'r £5000 fyrdd, camlesi, ysgolion, faldiau, pontydd, glanveydd, neuaddau, capeli, &c. Caniataodd y gydgynghorfa, dro yn ol, i 40 y cant o drwyddedau masnachol y Diriogaeth vyned i'r lleodraethau: ac yr oedd hyny yn davell lled dda. Ond dadleuwn i vod y Dreth Dir leol hevyd yn perthyn i'r Lleodraeth, am vod "yr oll y tu vewn i'r finiau lleodrol yn cael eu nodi yn y gyvraith i vyned i'r Lleodraeth. Elai y $2000 neu $3000 ohono gesglid yma yn vlyneddol i'r llynclyn mawr yn y briv ddinas—ddylasai aros yma. Ond mwy na hyny, byddai cael trethu ein tir ein hunain at ein buddianau ein hunain, yn gafaeliad gwleidyddol gwerth son am dano."
Yna yn Chwev. 8, 1894, rhoddai drachevn yn y Dravod yr adroddiad canlynol:
"Wedi tri mis o bwnio dyval ar yr awdurdodau am y Dreth Dir, debygav i mi gael o'r diwedd o leiav garai o groen y Llywodraeth, os nad hevyd y croen i gyd. Gwingai y Twrnai Cyfredinol drwy ddadleu mai eiddo Tiriogaethol yw y Dreth Dir, ac nid eiddo Lleodrol, ac velly na ellid caniatau onid 160 o fermi "tu vewn i'r fin," y gallai'r Lleodraeth eu prisio a'u trethu. Ond yn swta hollol, pan oeddwn yn y niwl amwys yna gyda'r Twrne Cyfredinol, cevais y nodyn canlynol o swyddva Gweinidog y Cyllid, Dr. Terry:— Ar eich cais, mae genyv yr hyvrydwch o'ch hysbysu vod yma yn aros am arwyddiad y Gweinidog yr ysgriv yn caniatau i Leodraeth Chubut y devnyddiad o Dreth Diriogaethol y rhanbarth hono, yn ol vel y govynai eich ysgriv.'
Gwelodd y Rhaglaw a phenaeth y gyllidva yn y Wladva vod y Llywodraeth yn cydnabod grym y ddadl; a threvnwyd yn ebrwydd i weithredu yn ol hyny, a rhoddi yn ymarverol hawl i'r Lleodraeth brisio y tiroedd, a chodi y dreth leol yn ol hyny. Diogelwyd velly nad elai y Dreth Dir allan o'r Wladva; a diogelwyd hevyd weinyddiad y dreth gan y Cynghorau.
Yr engraift arall a govnodir nid ydyw, evallai, yn vanwl Leodrol, eithr dengys gyswllt y peirianwaith Lleodrol wrth y trevniant Llywodraethol mawr, ac velly y modd i'w hysgogi. Yr eglurhad cyntav ar y mater hwn yw—vod cyvraith y Weriniaeth yn ystyried pob gwryw a enir ynddi (a phob un a ovyna am ddinasvraint) yn agored i wasanaeth milwrol o 18 i 40 oed, a'u bod i vyn'd dan ddysgyblaeth vilwrol ar adegau, ond yn benav ar bob dydd Sul, am 3 mis o'r vlwyddyn: eithr yn ymarverol ni elwir ond ar ddynion sengl yn unig i vyned drwy yr ymarver hon. Yr ail eglurhad yw—Mai y Sul yw diwrnod mawr divyrion a segura y Weriniaeth, ac velly yr hawddav i'w hebgor i gorf mawr y bobl: oddiar y syniad hwnw y trevna'r gyvraith vod yr holl etholiadau, o bob math, i vod ar y diwrnod hwnw. Gyda hyna o eglurhad gellir dilyn pwyntiau yr ysgriv ddilynol gyvlwynodd L. J. i'r Llywodraeth ar ran y Wladva yn Mehevin, 1897, yn nghylch yr ymarver vilwrol ar y Suliau, a'r hon vu lwyddianus i gael newid y diwrnod i hyny :
"L. J., sylvaenydd y Wladva, Chubut, dros y bechgyn rhestredig yn y cartrevlu tiriogaethol yn cyvlwyno eu dymuniadau aiddgar i'r Llywodraeth i gael newid diwrnod y dríl vilwrol o'r Sul i ryw ddiwrnod arall o'r wythnos. Wrth wneud hyny, hofai yntau gyvlwyno yr eglurhadau canlynol, yn y gobaith y byddant yn ddigonol i gael gan yr awdurdodau ganiatau yr hyn a ovynir mor daer gan y llangciau. 1. Nid yw niver y rhai rhestredig onid 70, ac o'r rheiny nid oes onid 10 neu 12 na waeth ganddynt pa ddiwrnod i ddrilio, tra y mae i'r 60 eraill yn groes iawn i'w syniadau a'u teimladau moesol. Ni ddymunai y bechgyn mewn un modd osgoi eu dyledswyddau gwladol, eithr ervyniant ar yr awdurdodau i drevnu rhyw ymwared iddynt na vo'n sathru eu moesau, na'r eiddo eu rhiaint 2. Mae ein Tiriogaeth mor anghysbell vel y mae unfurviaeth y dydd wedi bod yn anichon droion. Y llynedd aethai 30 neu 40 niwrnod o'r amser penodedig heibio heb i'r rhaglawiaeth wybod am yr alwad. 3. Dair neu bedair blynedd yn ol, archodd y Llywodraeth ar i'r rhaglawiaeth ganiatau i'r Lleodraeth newid dydd yr etholiad o'r Sul (vel y trevna'r gyvraith) i ryw ddiwrnod arall—a gwnaed velly. 4. Mae yr un anhawsder gyda'r etholiadau am Ynadon Dyvrio, yn ol Rural Code y Tiriogaethau. Am y rhai hyny dywedai y Rhaglaw yn ei adroddiad diweddar: 'Mae y gwladvawyr hyn yn gwrthod rhestru eu hunain ar gyver etholiad ynadon dwr. am vod hyny ar y Sul, ac nis gellir yn gyvreithlon eu gorvodi i hyny.' Gweithiasant y tair camlas vawr eu hunain, gwerth tair miliwn o ddoleri, ac arolygant hwy drwy gwmnïau; ond gwrthodant gymeryd arolygaeth y camlesi hyny, am vod 'arver y wlad' yn galw arnynt wneud hyny ar y Suliau. 5. Nid yw devion ac arverion y gwladvawyr mewn un dim yn groes i voes ac anrhydedd gwareiddiad yn hytrach arbenigant hyny, a haeddant velly bob parch a sylw: maent yn vreinwyr da, yn cydfurvio â phob ymarwedd a threvn dda,—nid ydynt yn arosod eu devion ar nebun, a govynant yn unig am oddeviant ar ran y Llywodraeth ynghylch parchu y Sabboth yn ol eu cred hwy. 6. Vel sylvaenydd Gwladva Chubut goddever i mi chwanegu ystyriaeth wladol bwysig, sev yw hyny, yr efaith anfavriol a bar yr anealltwriaeth hwn ar yr ymvudiaeth Gymreig tua'r Diriogaeth hono. Mae y Rhaglaw yn gwaeddi, a chyda rheswm, am sevydlwyr i'w diriogaeth eaug, ac os gall y Llywodraeth yn garedig ganiatau y cais hwn, nid oes ynwyv amheuaeth y byddai yn hwb adnewyddol i ymvudiaeth tua'r Diriogaeth eang a gwâg acw."
Yr oedd dríl y tymor hwnw wedi dechreu cyn i'r ysgriv vlaenorol vyn'd drwy y furviau govynol: eithr wedi y gorfenodd, rhoddodd y Llywodraeth gyhoeddeb (decree) allan yn caniatau i Raglaw y Diriogaeth newid diwrnod y dril o'r Sul i ryw ddiwrnod arall bob tymor.
XXVII.
YR ADVYWIAD.
Y rhaglaw cyntav dan yr oruchwyliaeth newydd oedd Luis Jorge Fontana, a bu'n dal y swydd dros ddau dymor (6 blynedd), Alejandro A. Conesa yn ysgrivenydd iddo yr hwn hevyd ddewiswyd yn ysgrivenydd gan y rhaglaw ddilynodd—sev Don Eugeni Tello. Yr oedd yn 1885 pan ddaeth y rhaglaw Fontana i gymeryd ei swydd, a dechreuodd ar unwaith roddi y gweinyddiad Lleodrol mewn grym. Penododd y Senedd Dr. Horacio Reale yn Varnwr Cyvraith. Aeth pob peth i'r rhigolau yn rhwydd ac ar unwaith, wrth vod yr holl dravodaethau blaenorol wedi parotoi y lle a'r bobl i weinyddu yn ddeallus; a'r rhaglaw o'i 'du yntau yn gynevin â sevydliadau gwledig, ac yn wr goleuedig, rhyddvrydig. Bellach gellid ysgrivenu, "A'r wlad a gavodd lonydd," o ran anesmwythder gwleidyddol-gweinyddol—ac a ddechreuodd lwyddo.
Drwy gydol yr helbulon gweinyddol yr oeddys wedi bod yn ymgodymu ac ymdrechu âg anhawsderau eraill lawer, oeddynt i'r lluaws, hwyrach, yn nes adrev a chyfredadwy—sev oedd hyny: y dyvrhau, y cynyrchu, y cludo, a'r masnachu. Wedi cael y weledigaeth o ddyvrio, a rhwbio llygaid beth amser i'w darllen yn iawn, dechreuwyd cyvundrevn o fosydd o'r avon i vanau cyraeddadwy ar y dyfryn: ond cavwyd gwersi o siomedigaeth a cholled gyda'r rheiny droion oblegid anwadalwch codiadau yr avon. Yna aethpwyd i veddwl yn sicr mai argaeo yr avon a'i chadw velly yn yr un uchder o lyval oedd y cynllun diogelwch. Gweithiwyd yn wydn, egniol, a dyval ar y syniad hwn, drwy anhawsderau a chyvyngderau lawer. Yr argae gyntav geisiwyd oedd un o bolion helyg, uwchlaw Gaiman. Wedi hyny cyvunodd fermwyr y Drova Dywod i wneud cynyg teg am argae goed gynllunedig: a gwariwyd cryn arian am y coed hyny, ac ymdrechion pybyr vwy na hyny, i ymladd â'r hen avon—ond yn over. Yna yr oedd ceryg a chreigiau Gaiman wedi llygad—dynu pobl Bryn-gwyn a'r Dyfryn Uchav i deimlo yn hyderus y trechent hwy ellyll y dwr drwy vwrw digon o'r ceryg hyny i'w grombil—a milain ovnadwy vu y codymu hwnw : cawsid pen ar y mwdwl unwaith, ond cnodd a thyllodd yr hen avon am y sodlau a'r ceseiliau nes ei gadael yn vurddyn mesopotamaidd o wydnwch y Gaimanwyr. Dro wedyn, pan ddaethai peirianwyr ac arianwyr trosolion mawr y byd diweddar—i 'maelyd codwm â'r ellyll, a nerthoedd o egni a dyvais tu ol, disgwylid yn ddiogel gael y llaw uchav arno—eithr ys truain o bethau yw penau a pocedau pan gyvyd Natur yn ei mawredd arddunol i'w teilchioni a phoeri arnynt—ysgubid pob peth devlid i'r anoddyvn—bwyteid y torlanau—furvid traethau —ac elai gobeithion y gwladvawyr hevyd gyda'r lliv. Ceisiwyd unwaith neu ddwy wedi hyny glytio y murddynau argaeon hyny—ond i nemawr ddim pwrpas.
Yna, ar ol yr holl drybaeddu a sigdod, sgrwtiodd y Wladva wrthi ei hun, vel pe'n dywedyd, "Os nad wyt gryv bydd gyvrwys:" ac aed ati ar unwaith i lyvelu ac anelu i hudo yr hen avon yn arav vach o’i manau uchav yn y Creigiau Cochion i redeg drwy GAMLESI graddol dros holl wyneb y dyfryn. Hwn bellach yw yr allwedd aur sydd i agor dorau pob anhawsder—ond vod gwaith gov arno yn aml i fitio—"dim digon o rediad," "newid gwely'r fos," "tori cangen newydd, neu unioni," cavnau, dorau, &c.
Tra yr oeddys eto wrthi yn ceisio dadrys y cylymau hyn, teimlid yr esgid yn gwasgu ar vawd masnach y lle, ac wedi cosi bodiau a fèrau eu gilydd clybiodd dyrnaid o'r gwladvawyr i wneud "Cwmni Masnachol y Camwy"—C.M.C.Chubut Mercantile Co.—Compania Mercantil del Chubut! danvon eu gwenith (taw dyna goin y wlad) yn gyvunol i varchnad Buenos Ayres, a chael nwyddau ac arian yn ol am dano. Yr oedd hyn yn 1885, a chraidd y clwb oeddynt T. T. Austin, W. W. Mostyn, J. C. Evans, D. D. Roberts, B. Brunt, &c.
Tua'r un adeg credasai T. Davies (Aberystwyth), wrth weled aber salw anghyvleus yr avon, mai hwylusdod mawr vyddai cael rheilfordd o vau ardderchog Borth Madryn dros y paith i'r dyfryn (vel yr awgrymasai Syr Love Jones—Parry yn ei adroddiad), a chavodd gan L. J. ac E. J. Williams lyngcu yr un syniad. Ond "hawdd dywedyd dacw'r Wyddva, nid eir drosti ond yn ara." Wedi cael gwared o hunlle y Lleodraeth, aeth L. J. i Buenos Ayres i geisio cael breinteb ganiataol gan y Llywodraeth i wneud rheilfordd velly, a chael lech o dir rhodd o bobtu'r linell. Llwyddodd yn hyny: ond peth arall oedd cael rhywun ag arian i wneyd y fordd haiarn. Wedi unwaith daro ar wr mor egniol ag A. P. Bell, aeth y peth rhagddo i dervyniad llwyddianus a buan. Yn 1887 agorwyd y fordd haiarn honoF.C.C.C.—o 70 kilom. (42 mill.) rhwng Borth Madryn a Threlew yn y dyfryn.
Gwelir wrth y vras olwg yna mai cyvnod mawr i'r Wladva oedd hwnw: (1) Cael Lleodraeth reolaidd. weithiadwy, dan arolygaeth rhaglaw deallus. rhyddvrydig. (2) Agor camlesi dyvrio, vel gwythi arian ar hyd y dyfryn. (3) Cychwyn masnach ar seiliau cydvael, i vod yn allu lleol ac elw. (4) Gosod y rheilfordd yn llinyn travnidiaeth o Borth Madryn gyda'r byd oll, a dwyn 300 o ddyvudwyr i vywyd tra newydd.
TREM DRACH Y CEVN.
Sypiwyd digwyddion y paragraf diwedddav vel crynodeb o helynt y Wladva dros amryw vlyneddoedd, vel y byddent velly yn vwy dealladwy a dyddorol: ond rhaid myned yn ol o ran amseriad i gael penau edavedd y bellen hono eto a'u cydio a'u nyddu i wê y stori.
Yn 1875—6 (10 mlynedd cyn cael o'r niwl) pan ddylivai y dyvudwyr o Gymru i vyn'd tua'r Wladva, a hono ar y pryd yn anaeddved iawn i'r vath ruthr, oblegid y traferthion a'r anhawsderau lawer a'i cylchynai (y cyveiriwyd at rai o honynt)— danvonodd Swyddva Dyvudiaeth un vintai ohonynt i Santa Fé (ardal Reconquista), lle y mae gweddill bychan ohonynt yn aros hyd heddyw. Eithr ymhen hir a hwyr medrodd dau neu dri theulu ohonynt eu fordd i'r Wladva (H. S. Pugh, Robt. M. Jones, J. Loyd, &c.) lle maent wedi cartrevu yn gysurus.
Wrth grybwyll am Sante Fé dylid cyveirio y darllenydd yn ol i t.d. 52, lle y crybwyllir am ran o'r ddirprwyaeth aethai i vynu yno yn 1867 (yr "ail ymblaid"). Talaeth vawr boblog yw Santa Fé yn awr, lle y codir llawer o wenith, a'r tiroedd wedi eu meddianu gan gym'dogaethau o Ellmyn, Helvetiaid, Italiaid, Prydeiniaid, &c. Mae yno un teulu o'r Cymry yn aros eto (John Morgan, Pwllglas, Penygarn, ger Aberystwyth), ac mewn sevyllva gysurus, gan gadw eu hiaith a'u devion Cymreig yn rhyvedd, eithr y gweddill wedi chwalu ac ymgolli yn y cylchynion.
Yn 1877 yr oedd y wasgva yn y Wladva yn ddwys iawn, am nad oedd weledigaeth eglur parthed argaeo yr avon, neu ynte gamlesu (gwel y cyveiriadau at y cyvnod hwnw). Llu o bobl ar draws eu gilydd yn eu chwithdod a'u hiraeth yn methu cael bywoliaeth, ac ynghanol helbulon pethau ar eu haner: a'r vrwydr am leodraeth yn poethi—cynhelid cyrddau, cynhenai pleidiau, ac ymadawai y rhai vedrent. Pan alwodd y rhyvellong Brydeinig "Volage" y vlwyddyn hono, cavodd y cabden y nodyn canlynol oddiwrth rai anvoddlawn i'r sevyllva :"Govyn yr wyv i chwi am gludiad oddiyma i rywle arall i chwilio am vywoliaeth. Yr wyv yn myned yn ddirprwy dros vwy na 150 o rai eraill ddymunent wella eu hunain, yn lle myned yn ol, vel y maent yma. Am vy nghymeriad cyveiriav chwi at A. Oneto, y prwyad cenedlaethol."
Yn 1884-5, pan ddaeth ysgegva yr argae a methiant cynhauav, daeth ton arall o anesmwythder, ac aeth amryw ymaith i van a elwid Curumalan (Sauce Corto) yn nhalaeth Buenos Ayres: a chawsant yno diroedd a chyvleusderau i wneud cynyg arall. Mae yno rai yn aros hyd eto, ambell un yn fynianus, llawer wedi chwalu, ond llawer hevyd wedi dychwelyd i'r Wladva o dro i dro, a chartrevu yno yn voddlonach ymhlith eu pobl eu hunain nag yn y gymysgva a'u cylchynai: a phethau yn y Wladva erbyn hyny wedi ymunioni a gwella.
"CWMNI MASNACHOL Y CAMWY"—C. M. C.
Cyveiriwyd at y Cwmni hwn—"Y Co—operative," vel y gelwir Mae hwn yn sevydliad pwysig bellach: yn meddu tair neu bedair maelva, ac yn ddiweddar wedi prynu llong 300 tunell i'w helw ei hun: cyvala o ryw £10,000, yn rhaneion £1 yr un: rheolir y vasnach gan vwrdd o 12 aelod (elwir hyrwyddai) ac arolygydd (manager). Derbynir y gwenith (a phob cynyrch masnachol arall) oddiwrth y fermwyr, a rhoddir papur am y pwysau a'r gwerth yn gredyd i gyvriv y gwerthwr, a chaif yntau nwyddau neu arian vel y bo eisieu (i hyd ei gredyd): rhenir y vlwyddyn i dau neu dri thymor, a'r pris gwerthu ymhob tymor vydd rheol y credyd: yn Buenos Ayres gwertha y rhyngwr (broker) bob llongaid i gyvriv y Cwmni, a denvyn yn ol y nwyddau neu arian archasid gan yr arolygydd: ar ddiwedd y vlwyddyn gyllidol (Mai), yn y cwrdd blyneddol travodir y vantolen, ac yn y man telir y llôg ar y cyvala a'r elw ar y pryniadau. Mae masnach vlyneddol y C. M. Č. tua $390,000, a'i log cyfredin tua 12 y cant: mae yn delio ymhob peth, vel siopwyr mawr gwlad hen fasiwn : ond un nodwedd arbenig ynddo yw peidio masnachu dim yn y diodydd meddwol: o'i ddeutu y mae lluaws o stordai eraill, yn dybynu am eu helw agos yn gyvan ar ddiodydd (oddigerth dau neu dri eraill Cymreig): mae yn cael ei nwyddau weithiau yn syth o Brydain, er yn gorvod talu cryn 40 y cant o doll arnynt: mae y llong wedi costio £2,000, a rhedir hi i Buenos Ayres o Borth Madryn, oddieithr pan ddanvonir hi i gyrchu llwyth o nwyddau i Brydain.
RHEILFORDD BORTH MADRYN.
Ar Wyl y Glaniad, 1886, y cyraeddodd y "Vesta," gyda 300 o ddyvudwyr i weithio y rheilfordd uchod. Daethent allan dan gyvlog a chytundeb wnaethent gyda'r Cwmni yn Lerpwl, ond nad oedd gan y naill blaid na'r llall nemawr amgyfrediad o amgylchiadau yr anturiaeth. Oblegid difyg cymundeb rheolaidd i le mor anghysbell ar y pryd, ni wnaethid trevniadau digonol a phrydlon i gyvarvod y vath ruthr o bobl, a devnyddiau at waith. Yr oedd yn amser trin tir yn y Wladva, a nemawr neb yn dra hyderus y cychwynid y vath anturiaeth a fordd haiarn; vel yr oedd dyvodiad mintai y "Vesta" ar Wyl y Glaniad agos mor anisgwyliadwy a dyvodiad mintai y Mimosa 20 mlynedd cyn hyny. Eithr drwy i'r Wladva yn gyfredinol iawn vod yn groesawgar a chymwynasgar wrth y newydd-ddyvodiaid, medrwyd eu lleoli a'u hyrwyddo heb nemawr anghafael, yn arav vach. Cludid y teuluoedd dros y paith i'r dyfryn trigianol gan vèni y sevydlwyr: a threvnid pebyll ac amryvath ddarpariadau ar gyver y dynion sengl a chreftwyr oreu medrid. Wrth gwrs, yr oedd ymhlith cyniver o bobl gasglesid ar vrys gwyllt rai adar lled vrithion: ond yr oedd y mwyavriv (o'u cydmaru â gweithwyr eraill) yn burion pobl, a throdd llawer ohonynt allan yn wladvawyr llwyddianus a hapus. Mae'r paith maith o 40 milldir sydd rhwng Borth Madryn a'r avon Chubut yn ddi-ddwr, oddigerth wedi gwlaw anghyson y tymor gauav. Dechreuwyd gweithio o'r ddau ben—o Borth Madryn dan y peirianydd W. A. Brown, a chydag ev 150 o'r dynion dibriod: ac o'r pen arall (Trelew) dan y peirianydd Edward J. Williams, a chanddo y gwyr priod dan ei arolygaeth. Yr oedd cyvlenwi dwr i gyniver o bobl dan amgylchiadau y vath gylchynion yn orchwyl divrivol o anhawdd, ac nid rhyvedd i'r dynion achwyn a gomedd gweithio unwaith neu ddwy: ond ar y cyvan gweithiwyd yn İled gytun a didramgwydd, ac vel yr oedd y ddau ben yn dynesu, a'r dynion yn cynevino peth â nodwedd y wlad, delai pethau yn llyvnach ac esmwythach, vel y medrwyd cwblhau y gwaith yn 1887. Yn haner-cylch am Borth Madryn cyvyd gris o uchbaith i ryw 300 troedvedd o uchder, a dringa y rheilfordd igamogam i ben hwnw dros ryw 6 milldir, ac yna i lawr goriwaered graddol at van a elwir Twr Iosef: oddiyno rhedir dros baith graianog gwastad, gyda'r borva deneu a drain yn ei orchuddio hyd o vewn rhyw 4 milldir i Drelew, a disgyn oddiyno i lawr drwy bantle naturiol i'r dyfryn. Gwelir velly nad oedd nemawr anhawsderau naturiol neu wyddonol ar y llinell—dim pontydd na thwnel, na nemawr gòbiau na thoriadau o waith mawr. Erbyn hyn y mae glanva o 400 llath i lwytho a dadlwytho yn Mhorth Madryn. Lled y llinell yw 1 mydr (metre), y mesur savonol Frengig. Dipyn gyda haner y fordd y mae cloddva o
Borth Madryn
geryg adeiladu a llorio, o'r hon y codwyd ceryg i adeiladu yr orsav a'r tai yn Nhrelew. Diau yr estynir y llinell hon yn y man ar hyd dyfryn y Camwy, ac ysgatvydd wed'yn bob cam i'r Andes (250 milldir), gan vod y Llywodraeth eisoes wedi penodi gwyddonwr i'w chynllunio.
Cryn siomiant i'r gweithwyr ddygwyd allan o Lerpwli wneud y fordd oedd methu cael tir fermi yn eiddo iddynt wedi gorfen y gwaith. Bu hyny, debygid, am ddarvod iddynt hwy ddeall vod fermi " gweigion" ar eu cyver ar y dyfryn, gyda'u cydwladwyr oedd yno o'r blaen, ond a gymerasid bob un gan eraill ymhell cyn iddynt hwy gyraedd. Mae peth dyfryndir heb ei veddianu ymhellach i'r gorllewin: a rhyw 100 milldir o'r sevydliad mesuredig y mae dyfryn arall (Kel-kein) cwbl debyg i'r dyfryn cyntav, ond ei vod ymhellach o'r mor. Wedi talm o amser neillduodd y Llywodraeth y dyfryn hwnw i'r dyvudwyr hyny, neu eraill, ond erbyn hyny yr oedd y bobl, ran vwyav, wedi ymadael,—rhai mewn soriant, a rhai wedi ymwthio i gilvachau eraill, ond neb i Kel-kein. Bwriad cyntav A. P. Bell (hyrwyddwr y rheilfordd) oedd lleoli mintai y "Vesta" ar Kel-kein, wedi gorfen y gwaith, a'u cynorthwyo i ymsevydlu drwy roi stoc iddynt ond dyrysodd yr holl drevniadau pan luniwyd Cwmni Tir y De, ac y bu varw A. P. Bell.
Dylid deall yn y van hon vod aber yr avon Chubut ryw bedair milldir islaw Trerawson (eisteddle y Rhaglawiaeth), ac vod llongau yn tynu o 7 i 8 tr. o ddwr yn myned i mewn ac allan i vasnachu gyda Buenos Ayres yn syth oddiyno. Mae gorsav y rheilfordd (Trelew) ryw 12 milldir yn uwch i vynu'r dyfryn; a Gaiman 18 i 20 milldir uwch na hyny. Ve ddeallir y savleoedd yn well drwy y map bychan art.d. 47. Gwelir oddiwrth hwnw mai y mor—gaingc elwir yn y map New Bay (Bahia Nueva) yw yr allwedd i'r sevyllva, wrth vod aber yr avon mor anigonol ac anvoddhaol vel porthladd, tra y mae Borth Madryn yn angorva mor gyvleus a chysgodol rhag y gwyntoedd peryglus y fordd hono. Gwelir vod gorsav Trelew yn dervynva ganolog i gynyrchion y dyfryn drosglwyddir i ac o Borth Madryn.
GORSAV TRELEW AC ADEILAD VAWR CWMNI TIR Y DE.
Pentrev Trelew ar y chwith, Capel y M.C. ar y dde.
XXVIII.
Y CAMLESI A DYVRHAU.
Mae y Camlesi erbyn hyn yn rhwydwaith lled dda dros y dyfryn, ond cryn waith perfeithio arnynt eto. Digwyddodd yn fodus iawn erbyn cyvnod y camlesi hyn vod gwr ieuanc o Vostyn (E. J. Williams—evrydydd i Dr. Pan Jones yr un pryd a'r A.S. dros Flint) newydd gyraedd y Wladva, wedi ei gwrs gwyddonol vel mesurydd a pheirianydd, ond nid yw y Weriniaeth yn trwyddedu neb heb arholiad yn Hisp. Vel y dywed y Trioedd
E. J. Williams
Llwyd ap Iwan
am Hywel Dda, mai eve ddechreuodd wneuthur trevn a dosbarth ar ddeddvau Cymru, velly E. J. W. lyvelodd ac a ddynododd le y camlesi sydd erbyn hyn yn llinynau arian ar hyd y dyfryn. Yn y man (1886) cavwyd hevyd wasanaeth Llwyd ap Iwan yn yr un gelvyddyd yn gystal a chyda'r rheilfordd a'r chwiliadau i'r Andes). Buasai Rossi a Stant dros y Llywodraeth rai blyneddau cyn hyny yn lyvelu a chynllunio, a'r cynlluniad hwnw ddangosir yn y map o'r dyfryn sydd gyda'r llyvr hwn; ond nid dyna yn union y cynllun gavwyd yn ymarverol i'r dyfryndir oll, er y dengys hwnw yn ddigon agos y trevniad dyvrhaol o'r dyfryn. Y ddwy briv gamlas ydynt gyvredol o bob tu i'r avon, gan ymgangenu ar y manau uchav, vel y bo gyvleus. Ar y tu gogleddol mae'r genau (bala) gryn 50 milldir o'r mor, ac o'r tu de ryw 60 milldir. Gellir ystyried yr un ar y tu de yn un llinyn o'r Trifysg ("Santa Cruz") i Barc-yr-esgob: ond y mae'r un ar y tu gogleddol a dybledd arni ger Gaiman—h.y., bala newydd yno ivyned hyd Drerawson, tra y briv ogleddol yn dirwyn drwy Gaiman ar lyval uwch, gan ymarllwys i'r avon ar gyver Drova Dulog. Perthyna y camlesi hyn i dri chwmni, a'u trevniadau a'u rhaneion yn amrywio cryn lawer: arolygir hwynt gan swyddogion cyvlog o etholiad yr aelodau, y rhai hevyd a ddewisant y byrddau hyrwyddol sydd yn gwylio yr oll. Mae gan y Llywodraeth Arianin, yn y taleithau uchav, lawer o weithiau dyvrhaol wnaed gan bwrs y wlad: ond y mae camlesi y Wladva yn frwyth cynlluniad a gweithiad y Wladva ei hun bob doler. Yn y cyvnod bore ar yr ymdrechion camlesol hyn nid oedd ond rhaw bâl at y gwaith envawr oedd o'u blaenau, na dim ond enllyn main y bara sych a dwr i helpu gewynau a chevnau. Darllenasai un o'r gwladvawyr am varch—raw (horse—shovel) wnaethai rhyw Ianci, ac aeth yntau ati i wneud un iddo'i un gwnaed gwrhydri o waith gyda hono, a rhai "godebyg" iddi: cyn hir yr oedd march—rawiau yn ofer anhebgor a chyfredinol yn y Wladva. Aruthr o olygva i ddyeithriaid yw y tomeni pridd wrth gamlesu sydd ar hyd a lled y dyfryn—digon dolurus i lygaid, ond arwyddocaol iawn o'r egni dyval dyrchodd ac a gloddiodd y vath grugiau er mwyn y rhedweliau o ddwr bywiol sydd rhyngddynt. Gryn amser yn ol cyhoeddodd y Rhaglawiaeth amcanaeth o'r Camlesi—eu hyd a'u gwerth, lled agos.
Erbyn covriviad 1896, cyvrivai y Rhaglawiaeth y gwerth yn ddwy viliwn o ddoleri; ond tebyg nad yw yr oll ond brasamcan lled agored.
Mae cyvundrevn lled gyvlawn o gamlesi vel hyn yn golygu agos sicrwydd am gnydau, gan nad beth vo y tymhorau : a'r rheidrwydd am danynt yn golygu hevyd na raid fwdanu i gywain a chynhauavu rhag ovn drycin. O'r tu arall, mae'r camlesi a'r cangenau, mewn hinsawdd dwym, yn golygu tyviant rhonge o vrwyn a hesg a thavol a chwyn o bob math, a hadau y rhai drachevn änt gyda'r dwri bob man. Velly, ar adegau rhaid sychu'r camlesi er mwyn carthu y tyviant, gwella'r ymylon, newid neu unioni. Ve ddeallir hevyd vod pawb yn galw am y dwr agos yr un pryd ac vod y cyvlenwad ambell vlwyddyn yn brin, pan ddigwyddo yr avon vod yn isel, ac na vo bwysau dwr ar y cavnau ond gwanwyn a chanol hav, vel rheol, y mae'r avon yn ei hanterth vel na vydd brinder. Pan eangir y camlesi yn y dyvodol, vel ag i gynwys y dyfryndir dyvradwy oll—a mwy vyth pan vydd galw am ddyvrio dyfryn Kel-kein, a hwnt i hyny hyd i ddyfryn yr Alloran, rhaid i gynlluniad a rheoleiddiad y camlesi vod yn vater o evrydiaeth wyddonol, megis y mae yn Arisona, Colorado, &c. Prinder y dŵr yn y cyrion isav, pellav o enau y gamlas, yw yr anhawsder, tra y mae'r trevniant yn anghyvlawn vel yn awr: pellder i gario y cynyrch i varchnad yw yr anhawsder i'r rhai sydd yn byw uchav, ond ynghyraedd dwr ddigonedd.
Mae amaethu yn Mhrydain yn gelvyddyd lled wahanol mewn amryw weddau i'r hyn yw yn y Wladva—nid o ran hau, a medi, a thrin y tir, ond o ran y DYVRHAU, a'r gwaith, a'r proviad cysylltiedig â hyny. Yn hinsawdd sych y Wladva, sychu a chrasu y mae pob peth ond a vwydir drwy ddyvrio—teisenu i vod yn danwydd y mae tom y gwartheg; a chan nad oes ond ychydig iawn o bresebau yno, na dim porthiant cefylau namyn gwellt, a gwair, a grawn, ve ddeallir nad oes nemawr wrtaith achlesol i'w gael. Amrywia ansawdd y tir hevyd, wrth gwrs, mewn gwahauol barthau; a golyga hyny wahaniaeth yn y dyvrhau, heblaw y gwahaniaeth yn y tymorau a'r adegau dyvrio. Wedi aredig ferm, rhenir y tir yn gaeau bychain a elwir sgwariau, drwy godi cloddiau pridd o ryw droedvedd neu haner llath ar draws ac ar hyd, yn ol vel y bo gogwydd y tir, ac y bo cyswllt y fos, ac ystyriaethau eraill o broviad dyvrhaol. År ol hau a llyvnu gollyngir y dwr i'r sgwariau parotoedig nes bod at uchder y cloddiau, ac ymddengys megys llyn cronedig: yna agorir adwy yn y clawdd i ollwng y dŵr i sgwar arall nes yw hono wedi ei mwydo, ac velly ymlaen nes vod yr oll wedi eu dyvrio. Eir drwy yr oruchwyliaeth hon ddwywaith neu dair yn y tymor, ac ar ryw vathau o diroedd haner dwsin o weithiau: ond os deil y cloddiau y tro cyntav, hwnw ystyrir bwysicav. Mae gwylio y cloddiau hyny a'r dwr—yn enwedig yn y nos, neu pan vo gwynt cryv—yn orchwyl dyval a deallus ac os tyr y clawdd, golyga hyny drybaeddu yn y llaca at y tòr ar ddiwrnod oer, evallai, a dyvriad anvoddhaol gyda hyny. Erbyn hyn mae pob fermwr yn adnabod manau gwan a manau goreu ei gaeau, ac yn darbod ar eu cyver: eithr beunydd y mae rhyw vanau newydd i'w dwyn dan driniaeth neu welliantau. Hyd yn hyn nid oes dim gwrteithio ar y tir yn y Wladva ragor na thaenu peth o'r gwellt ar ol dyrnu, a throi hwnw i'r ddaear wrth aredig sovl y llynedd. Ac yn y van hon y dylid crybwyll un nodwedd neillduol iawn ar farmio yn y Wladva—sev nad oes ond un haner o'r tir âr dan driniaeth yr un vlwyddyn : gadewir yr haner arall yn segur, neu evallai yr erddir hi at ddiwedd hav i'w gadael yn vraenar dros y gauav. Velly, erbyn yr ail dymor, dychwelir i drin y sgwariau cyntav, ac eir drwy yr un orchwyliaeth, ar ol cyvanu y cloddiau. Tua haner ferm (120 erw) lavurir yn y tymor: ond wrth gwrs y mae llawer heb vod haner hyny, a llawer yn anwastad, ac velly anyvradwy, neu waith clirio drain oddiarnynt. Ond dyna'r unig ddilyniad enydau" sydd yn y Wladva hyd yn hyn: a dengys nad oes mo agos i haner y tir yn cael ei ddevnyddio i gynyrchu dim mewn tymor. Yr unig eithriad i hyn yw y cnydau alfalfa, neu lucerne, a dyvir yno yn wair ac i hadu, am yr hwn hâd y mae marchnad dda bob amser yn Buenos Ayres. Math o clover yw, o'r hwn y mae cefylau a gwartheg yn hof iawn, ond pan yn las sydd beryglus i'r gwartheg: torir tri neu bedwar cnwd o hwn yn y tymor, a gwna wair rhagorol: ambell dymor gadewir iddo hadu, a chan vod yr hâd gymaint yn rhagorach na hâd cyfredin y Weriniaeth (vel hevyd y mae gwenith y Wladva). rhoddir pris da am dano, ac y mae llawer un yn elwa'n well ar yr hâd hwnw nag ar y cnwd gwenith: y gwaethav o hwn yw ei vod yn ymledu i bob cyveiriad gyda'r dŵr a'r gwynt, ac yn anhawdd iawn i'w newid, am ei vod yn gwreiddio mor ddwvn mewn daear mor briddog a chleiog: lleddir hwn gyda'r peir—bladuron (mowers) Amerigaidd ysgeivn dau gefyl a'r gyrwr ar ei eistedd. Gwelir oddiwrth hynyna nad oes ovalon lawer ac amrywiol ar fermwyr yn y Wladva, os bydd y cyvlenwad o ddwr yn ddigonol at yr alw ni raid iddo bryderu am hinddai gywain ei gnwd yd: mae ganddo vedur i'w vedi a'i rwymo, a chaif ddigon o amser i'w gario a'i ddasu ei ddwy helbul yw barug ddechreu gwanwyn, a gwynt ganol hav yn bylchu ei gloddiau dyvrio a dyhidlo ei rawn aeddved. Gallai gwas ferm yn Nghymru veddwl wrth geisio dilyn hyn o ddesgriviad na vyddai ganddo ddim i'w wneud yn y Wladva ond chwibanu i ddisgwyl i'r dŵr vynd dros y cae, ac yn y man eistedd ar y medur yn llygad haul brav i yru drwy ryw 5 erw y dydd o wenith; cario hwnw yn y vèn wrth ei bwys: disgwyl am ddiwrnod a chinio mawr y dyrnu: ac yna ei gario vesur tunell a haner i'r varchnad, gan vod ddiwrnod ar y daith. Ond covied yr ochr arall. Gwelir hevyd y golyga trevniant celvyddydol vel hyn o amaethu gryn lawer o bontydd a chobiau a llivddorau: a phan elwir i gov hevyd vod fyrdd i redeg gyda phob dwy ferm, a'r rheiny gan vwyav erbyn hyn wedi eu cau gyda physt a gwivrau,—ve ddeallir vod y dyfryn yn rhwydwe anhawdd i ddyeithr ei ddeall.
Plenir peth tatws a llysiau gerddi (anrhaethol ry vach i iechyd y lle): mewn manau addas codir tatws da; ond hyd yn hyn ansicr yw garddu drwy ddyvrhau yr arwyneb, oblegid y duedd i gramenu sydd yn y tir yngwres yr haul. Coed cynhenid y wlad ydynt yr helyg gyda min yr avon, ond erbyn hyn y mae miloedd lawer o fynidwydd (poplars) wedi eu planu, unwaith y cavwyd dyvrio cyson, ac y medrwyd gwivrio i'w cadw rhag yr aniveiliaid. Mewn manau y cymerir peth traferth a goval, tyv coed frwythau o bob math yn gnydvawr, os nad yn breifion, er llwydrew a gwynt gwanwyn yn mènu ar y blodeu. Pompiwn, letys, tomatod, &c., hevyd a dyvant yn rhwydd ac yn aruthr.
Ond gwenith a haidd yw cnydau mawr y Wladva hyd yn hyn, ac alfalfa.
XXIX
YR ARCHWILIADAU I'R ANDES.—CWMNI TIR Y DE.
Yn tudal. 90 et seq, ceir bras—adroddiad o'r chwiliadau vuasai ar y wlad o dro i dro, tra yr oedd y Llywodraeth yn ymlid y brodorion o van i van, nes cael y diriogaeth yn lled wâg ohonynt. Nid ydynt hwy eto wedi llwyr golli: canys ceir ambell vagad ohonynt mewn pebyll yma ac acw ar y cyrion anghysbell, yn byw ar yr helwriaeth sydd beunydd yn cilio o vlaen poblogiad, ond yn suddo i arverion isel o ddiota a hapchwareu nes bod yn dlawd angenus weithiau.
Pan ddaeth A. P. Bell (1884) i wneud y rheilfordd, awyddai am weled yr holl wlad: a chyn hir trevnodd i ddanvon teithwyr a chwilwyr dros y diriogaeth, ac ymhen yspaid aeth ei hunan ar eu holau, a danvonodd E. J. Williams drachevn, wedi gorfen y rheilfordd, i weled a dethol y manau goreu welai. Y rhai blaenav ddanvonwyd ar y chwil hono oedd Llwyd ap Iwan, Carlos Burmeister, a Leonard Lewis. Dygent gwch plygedig gyda hwy, ac yn hwnw ceisiodd un neu ddau ohonynt ddisgyn lawr i'r Tawelvor ar yr avon Caran-lewfw, sydd yn cychwyn o Vro Hydrev, nes eu hatal gan raiadr vawr. Gwnaed sawl cynyg wedi hyny, yn gystal a chyda'r glanau a thrwy'r coedwigoedd, ond hyd yn hyn heb gael mynediad drwodd. Daeth Burmeister a Lewis yn ol mewn bad (arall) ar hyd yr avon Camwy, a chavwyd drwy hyny amgyfred o nodwedd hono. Wedi dychwel o'i daith gyntav hono, trevnodd A. P. Bell i gychwyn sevydlu yn y lle elwid gan y brodorion Fo-fo-cawel, yngolwg yr Andes ei hunan, bron ar gwr gogleddol tiriogaeth Chubut: a danvonwyd yno vintai o ryw ddau ddwsin o Gymry, ar vulod llwythog, i barotoi lle am y sevydliad. Mae yno erbyn hyn estancia, neu raunch eang o ddaoedd.
Ar un o'r gwibiadau hyny trevnasid i ddanvon tri o Brydeiniaid drwy Patagones, ac ar draws paith sych y Valcheta, tua'r Wladva. Nid oeddynt hwy na'r trevnwyr yn deall nemawr am nodweddion ac anhawsderau y vath ymdaith, a'r canlyniad vu iddynt grwydro a cholli'r fordd. Ymhen blyneddoedd rai daethpwyd ar draws rhai o'u harvau, a gweddillion eraill ohonynt, ar vin y môr ger y Valdez. Bu cyfelyb grwydr i hyny ddwywaith yn vlaenorol yn hanes y Wladva—sev pan gollwyd D. William, Aberystwyth, yn union wedi iddo lanio o'r " Mimosa" (1865), ac y cavwyd ei weddillion, ymhen pedair blynedd, ryw 10 milldir o'r avon. Y llall ydoedd Iago Davydd, o Bryn Mawr, grwydrasai pan yn dychwelyd o Borth Madryn i geisio anelu at yr avon (1866); ond daeth yr Indiaid ar draws spectol a gweddillion eraill ohono, druan, pan yn hela tuag Arwats ymhen rhyw bum mlynedd y dwyrain o Borth Madryn, yn lle y de. Nid yw y crwydriadau a'r colliadau hyn ond pethau hawdd i ddigwydd ar y vath beithiau eang a thebyg i'w gilydd, heb nemawr vanau uwch na'u gilydd a dynodol o ran furv—o leiav yn y cyfiniau tua glan y môr, lle y bu'r dich weiniau hyn.
Yna danvonwyd E. J. Williams i weled yr holl wlad Andesaidd —o Neuquen a'r Rio Negro, gyda llyn Nahuel-huapi, heibio Eskel a Walcheina hyd at Jenua, ac yna at Makidsiaw, Kytsácl, a Valcheta, ac yn ol gyda'r avon Chubut. Yr oedd gan A. P. Bell gynllun mawr o vlaen y Senedd Arianin i redeg rheilfordd o'r Werydd i'r Tawelvor, a chyda hyny drevnu gyda'r Llywodraeth i gael meddiant o 300 lech o'r tir goreu y fordd hono. Medrwyd manteisio ar gyvraith lled amwys, y bernid oedd yn llythyren varw, i vesur a mapio y manau dewisol, a thrwy dalu yn lled ddrud i dwrneiod a swyddwyr cavwyd gavael ar y 300 lech. a furvio velly gwmni Tir y De (Southern Land Co.). Yr oedd hyny ar vlaen y dòn noviodd hevyd gwmni y rheilfordd : ond cyn hir daeth y disdyll dòrodd i vynu yr "English Bank of River Plate," a phallodd y cyvala. Gwnaethai y cwmni hwnw balasdy o sevydliad yn Makidsiaw; adeilad vawr arall yn Nhrelew i gartrevu ymvudwyr (taw yr oedd dyvudwyr lawer yn y cynllun). Gosodasid 20,000 o dda corniog a chesyg yn Fo—fo—cawel, 50,000 o ddevaid mewn manau eraill. Pan oedd y cwmni yn ei vlodeu gwerthid llawer o'r daoedd i vyned i Chili, lle yr oedd amledd y boblogaeth vwnol yno yn galw am vwy cyvlenwad o gigvwyd nag a gynyrchai y wlad hono ei hun. Yn y man, dilynodd sevydlwyr Cymreig Bro Hydrev yr un cynllun, a danvonasant i Chili ganoedd o eidionau i'w gwerthu. Disdyll ydyw ar y cwmni hwnw hyd yn hyn: ond y mae rheilfordd vawr y de (Great Southern Railway) yn parotoi i wthio cangen o'u rheilfordd Neuquen hwy i lawr tua Nahuel-huapi a Fo-fo-cawel, ac evallai Vro Hydrev neu Teca. Oddiwrth y map bychan o'r cyfiniau hyny sydd ar y tu dalen gysylltiol, a'r map mawr, ceir dirnadaeth o bwysigrwydd a dichonolion yr ardaloedd hyn.
Tiroedd cwmni Tir y De
XXX.
CYFRO YR AUR.
Mewn gwlad newydd yr ydys beunydd yn darganvod rhyw weddau ar Natur sydd ddyeithrol i'r anghyvarwydd anwyddonol: ac wrth vod hinsawdd Tiriogaeth Chubut mor sych a di—wisg, mae esgyrnedd y bryniau a'r paith yn haws i'w gweled a'u holrain—ond yn chwith a dyeithr i'r chwiliwr o Gymru. Yr oedd yr uthredd a'r dyeithrwch ar ddechreu y Wladva yn synu, pensyvrdanu dyn "—unfurvedd di—bendraw o risiau paith graianog ysgythredd o greigiau geirwon a chlogwyni llymion : havnau a holltau auhygyrch canghenog—vel petai Natur wedi bolltio y wlad rhag archwiliad. Ond yr oedd mewn rhai o'r sevydlwyr ysva aniwall i dreiddio a gweled y wlad. Ac y mae rhyw swyn hudol mewn chwilio ac ymwthio i leoedd na bu neb o'r blaen—gan ryveddu a dyvalu ar weddau dyeithr pethau yn eu gwreiddioldeb cynhenid. Dyna'n ddiau y priv gymhellai i'r teithiau a'r anturiaethau cynhyrvus sydd wedi cadw cywreinrwydd y byd yn vyw drwy'r oesau—o ddyddiau Herodotus i amser y Cymro gwydn Wm. Griffith (Africa ac Awstralia). Hyny, GYDA chwil vawr Pizarro am AUR, drwy deg neu hagr.
Rhai oedd yn berwi o'r angerdd chwiliadol hwn oeddynt J. D. Evans, Zecaria Jones, a J. M. Thomas. Tra'r oedd y rhai hyn yn cyniwair drwy anhawsderau lawer "i edrych beth welent," yr oedd rhai o hen weithwyr aur Awstralia a Columbia oeddynt yn y Wladva yn moelio clustiau pan ddaeth si vod llwch melyn a gronynau wedi eu cael yn yr avon Chupat. Un o hen eurwyr Awstralia oedd W. Richards, sir Vôn, a ddigwyddai un tymor vod yn cyd—hau gydag Edwyn Roberts— un a vreuddwydiasai lawer am yr Andes (o syml ramantedd ei veddwl, ac nid o ysva aur). Wedi i'r ddau hyn daro tân o'u gilydd, asiodd gyda hwy 5 neu 6 eraill: ac yn 1890 llwythasant eu mèni o luniaeth a rheidiau, gan anelu i'r berveddwlad anhysbys iddynt hwy, ac heb fordd mèn yn yr holl gyrau. Ac ymaith a hwy. Yr oedd llwybrau Indiaid yma ac acw, ond ni wyddai y teithwyr vawr am danynt: ond peth anhygoelach vyth oedd medru myned a meni ar hyd ddynt, nes dod at odreuon cyntav yr Andes. Buont i fwrdd 5 neu 6 mis, a phe cawsid adroddiad o'r daith hono diau y darllenasai vel "trek" y Boeriaid tua'r Transval. Wedi dychwelyd yn groeniach, a chael" tacnot" y Llywodraeth ar y manau welsent, dechreuodd y sibrwd gerdded y Wladva vod "AUR wedi ei gael!" ac o vesur ychydig chwyddodd yn ddychmygus i vod yn El Dorado.
Gwesyllu ar y daith i Lyn Fontana
Danvonodd y darganvyddwyr y newydd i Gymru, a daeth allan atynt yn vuan ddau wr cyvarwydd mewn mwnydda—sev D. Richards, Harlech, a R. Roberts, New York. Yn y cyvamser holid y darganvyddwyr gan bobl y lle am eu cafaeliad o'r mwn melyn, nes yn y man enyn yn eu gilydd y dwymyn aur arverol: ac ymaith a bagad o'r rhai parotav, mewn mèni ac ar gefylau, i wneud y rhuthr wangcus am ran o'r yspail—ac ymaith a'r "vintai ysgubol" (flying gang) helter scelter ar draws eu gilydd, dros beithiau a bryniau, drwy havnau a rhiwiau, a rhydiau a chreigiau, nes cyraedd i Teca—"eu mynyddoedd hyvryd —ac adrev yn ol dipyn aravach. Mae y wib hono yn vabinogi Wladvaol er's blyneddau—vel mwysair Ceiriog, "Mynd i dy Kit vy chwaer i dê, a chael dim." Eithr parhaodd llawer i chwilio, a thyllu, a golchi, dros y wlad y fordd hono amser hir. Wedi i'r ddau vwnwr weled y wlad drostynt eu hunain, a threvnu telerau gyda'r darganvyddwyr, aeth D. Richards yn ol i Gymru i wneuthur adroddiad. Yr oedd hyder Edwyn Roberts mor gryv yn ei ddarganvyddiad vel y gwerthodd ei ferm (am £2,000), ac yr aeth ev a'i deulu i Gymru, i wthio yr anturiaeth gyda D. Richards. Drwyddynt hwy ill dau, a chymorth yr A.S. dros vwrdeisdrevi Arvon, furviwyd y Welsh Patagonian Gold Fields Syndicate" yn Llundain, i weithio y gwaddodion a'r wythien. Daeth D. Richards yn ol i vod yn arolygwr y gwaith, a Reid Roberts, o Gwynvynydd (Dolgellau), gydag ev, ac eraill, ac hevyd wyddonwr cyvarwydd (expert) o'r enw Hoefer. O ddifyg deall y wlad a'r anhawsderau, oedwyd a bwnglerwyd gryn lawer, mae'n debyg: ond gwaeth na hyny, aeth yn anghydweled rhwng y darganvyddwyr a'r cwmni, vel y bu raid danvon W. J. Parry, Coetmor, yr holl fordd i'r Wladva (nid i Teca), i geisio heddychu—eithr methodd. Ac wedi llawer o giprys aeth y peth rhwng y cŵn a'r brain. Dywedir vod y Syndicate wedi colli cryn £13,000 ar yr antur. Bydd ambell un o gymdogion y Teca yn taro ati i olchi yno pan vydd angen gwrach arnynt a gwnaed yno ambell hwb go vilain gan Wladvawyr 'garw am dani." Hwyrach vod y nodyn canlynol gystal ag adroddiad am yr anturiaeth, vel yr ystyrid hi gan yr arolygwr cyn "dyvod y dyddiau blin."
. . . . .Wedi croesi dyfryn tlws y Teca gwersyllasom am rai wythnosau ar aberoedd a chyfiniau yr avon hono, i'r perwyl o gyd—ddeall a chyd—weithio gyda'r darganfyddwyr o berthynas i oludedd y gwaddodion, a gwelsom yn vuan yn y graian arwyddion da o aur. Yna chwiliasom yn vrysiog yr uchbaith cylchynol, a thorasom amryw draws—gloddiau a phydewau. Furvir yr ucheldir hwn o amryw haenau—tosca,
MYNYDD EDWYN.
Ceunant lle y golchir aur o Nentydd Teca.
caolin, tywodvaen, conglomerate, tywodvaen goch, &c. Mewn rhai manau mae y furviad trydeddol (tertiary) yn amlwg iawn: yn wir, bydd aruthredd ei furviadau a goludedd y gwaddodion, ryw ddydd yn sicr o synu y byd mwnawl. Mesurasom a marciasom 2500 hecterw o dir eurol, gwerth o 6s. i £3 y llath gubaidd trwch y gwaddodion yn amrywio o 4 i 20 tr., vel y gellir eu cymeryd yn 9 tr. at eu gilydd. Mewn rhai manau caem 24 gronyn ymhob padellaid o 14lb. graian. Gwnaethom brawvion vel hyny am 14 diwrnod, gan gymeryd o 2 i 4 padellaid ymhob un, ac ni chawsom ond tair padellaid heb ddim aur. Aethom o Teca yn Rhagfyr, a chan groesi y Sin—gyr daethom at draed Pegwn Katerfelt, gan gael aur mewn amryw vanau ar y fordd yno. Wedi treulio amryw ddyddiau tua llyn Fontana, aethom yn ol am y gogledd gyda llethrau y mynyddoedd tuagat yr avon Corcovado. O vewn rhyw 5 lech i'r llyn o'r enw hwnw, daethom ar draws avon yn rhedeg i'r gorllewin drwy yr Andes: ac wedi ei dilyn drwy anhawsderau dirvawr cyrhaeddasom, debygav, o vewn taith 6 awr i'r Tawelvor; eithr oblegid dewed y coed a'r tyviant, ac vod amser ein "tacnot" ninau yn dirwyn i vynu, dychwelasom i ardaloedd y Corcovado eto. Teimlav yn sicr y bydd y bwlch hwnw cyn hir yn agoriad i ac o'r Tawelvor: neu y ceir agoriad o'r Caran—lewfw a Bro Hydrev i Teca i Borth Malaspina yn y Werydd, ac velly osgoi y vordaith drwy'r cydvor neu oddeutu'r penrhyn. Ar ranau uchav y Corcovado yr oeddym ar ddyfryndir tebyg i'r Teca, a chaem argoelion addawol iawn, ar y rhai y dilynasom am bedair wythnos—un o ba rai roisom i vesur a nodi y tir vydd arnom eisieu pan ddechreuir gweithio—arwynebedd o 3000 hecterw o waddodion euraidd roddent o 6s. i £2 14s. y llath gubaidd, 7 i 9 tr. o drwch yr aur ynddynt yn vanach nag yn Teca, ond cawsom rai gronynau brasach lawer iawn mewn cloddiadau traws wnaethom. Credu yr wyv vod llawer o waddodion aur cyfelyb yn y diriogaeth hon, ond y bydd raid wrth amser, egni, a chyvala i'w dadblygu yn daladwy, ac i'w dwyn ger bron y cyhoedd yn ddestlus ac heb ruthrau.—DAVID RICHARDS.
Parodd y cyfroad am aur y Teca i lawer eraill o'r sevydlwyr grwydro a chwilio llawer yn y mynyddoedd cylchynol. Cangen o'r archwilio hyny yw Cwmni Aur Nant Rhyvon (Rio Corintos Gold Mine)—ar odreu mynydd Tswnika, neu Bigwrn Thomas, heb vod nepell o'r Teca, ond mynydd gwahanol. Gyda'r cnewyllyn o'r darganvyddwyr Cymreig, gwnaed cwmni (Ellmynig gan vwyav) yn Buenos Ayres i ddadblygu y gwaith hwnw. Codwyd melin livio yn y goedwig ar y mynydd gerllaw, vel ag i gael coed at y gwaith: cavwyd agerbeiriant a phwmp i suddo y pydewau arbrawv, a danvonwyd gwr cyvarwydd o California a Columbia i arolygu a gwneuthur adroddiad cyvlawn.
Heblaw yr ymgyrchoedd uchod, bu chwilena a thyllu a golchi lawer tua Llyn Fontana, a thrachevn tua'r Corcovado. Glynodd rhai Cymry tua Teca—rai yn golchi gwaddodion, ac eraill yn cloddio am yr wythïen euraidd o'r graig: a gwnaed ohonynt gwmni i'w novio yn Llundain ac yn Buenos Ayres.
Er's blyneddau lawer golchasai Zecaria Jones a J. D. Evans yn yr avon Camwy (Chubut) am aur, ynghyfiniau y Wladva, a phan oedd y milwyr yn ymlid y brodorion yn 1880, cavwyd argoelion golygus yn y ceunant mawr sydd yn d'od i'r Camwy o gyfiniau Kytsácl.
XXXI.
CREVYDD, ADDYSG, A LLEN Y WLADVA.
Vel syniad Cymreig Cenedlaethol, ar ol diwygiadau mawrion y ddeunawved ganriv, yr oedd y Wladva yn rhwym o vod yn Grevyddol. Nodweddid trwyadledd crevyddolder di—hoced sylvaenydd y mudiad—M. D. Jones—vel yn sicrhau yr un llinelliad yn yr olyniaeth Wladvaol, gan nad pa weddau neu raniadau gymerai arni ei hun maes law. Wrth ymgyraedd at ymreolaeth wladol, leodrol, nis gellid gobeithio hyny ond drwy ddyvnhau a grymuso yr anwyledd crevyddol sydd yn arbenigo y bobl ragor y cylchynion. Yn y wedd hono nid oedd enwadaeth arverol Cymru onid lleodru y devion crevyddol yn ol graddva yr alw a'r cyvleusderau. Velly, o'r cychwyn cyntav ni vu culni sectol o nemawr lestair i'r Wladva: daeth enwadaeth yn wahanredol yn y man, eithr nid yn fyrnig nac yn chwerw vyth. Yr oedd ymhlith y dyvudwyr cyntav rai arddelent gysylltiad â'r amrywiol raniadau crevyddol cyfredin—Anibynwyr, Methodistiaid, Wesleyaid, Bedyddwyr, Eglwyswyr, ond ni pharai hyny ymraniad, oddieithr o anghydnawsedd personol. Pan ddaeth dyvudwyr 1874, deuai yn eu plith bedwar o weinidogion berthynent i'r Anibynwyr—ac Anibynwr anibynol oedd M. D. Jones —ond ni theimlid dim gwahanvur. Wedi y dyliviad mawr o 1875 i 1880 hwyrach y parai chwithdod y bywyd i'r newyddddyvodiaid syrthio yn ol ar eu hen gynevin raniadau, ac velly yn arav vach ymddidol yn ol yr hen gorlanau: eithr, o'r tu arall, yr oedd eu bywyd newydd yn creu cysylltiadau newydd, tra hevyd mai elven vawr yn eu clybiaeth oedd lleoliad y fermi syrthiai i'w rhan. Gyda hyny eto rhaid covio vod yr hen draddodiad bychanigyn o Dde a Gogledd Cymru yn dylanwadu peth ar yr ymweithiad furviodd y Wladva. Pe na wnaethai y Wladva ddim ond lledu ein Cymreigedd i vod yn anrhaethol hwnt i hwntw a northman, yr oedd hyny yn iechyd cenedlaethol, beblaw ysgavnu y finiau enwadol. Mae'n debyg vod Cymry yr Unol Daleithau yn llawn ymwybodol o hyn, ac mai dyna un eglurhad ar gatholigedd eu hysbryd hwythau. Wrth vod Anibynwyr luosocav yn y De, a Methodistiaid yn y Gogledd, a'r ddwy frwd ddyvudol yn cyvuno i furvio y Wladva, daeth cydbwysedd crevydda y lle yn elven o loewedd ac ymdoddiad deallus, y byddai dda i Dde a Gogledd Cymru wrth uruchwyliaeth gyfelyb. Yr oedd y capel cyfredin cyntav yn un bychan a salw ddigon: a phan aethpwyd i wella ar hwnw (pan ddaethai dyvudwyr) yr oedd yn nodweddiadol iawn o'r Wladva mai codi ysgoldy dyddiol wnaed gyda'r brics vwriadwyd i godi capel, ac yna ddevnyddio hwnw yn gapel, nes y codwyd capel Anibynwyr yn Nhrerawson.
Pan gynyddodd y Bedyddwyr yn y Wladva, yr oedd eu daliadau arbenig hwy yn pwysleisio eu neillduaeth, ac velly nid hir y buont cyn cael capel cryno o'r eiddynt eu hunain—a chladdva gerllaw— o barhad eu traddodiad enwadol yn Nghymru na chaniatai cyvraith iddynt hwy gyd—gladdu gyda'r lluaws. Hwnw—y Vron—deg—yw yr unig dy cwrdd Bedyddwyr sydd weithian yn y Wladva. Mae yn y Bryn—crwn ar waelod y dyfryn uchav luaws o Vedyddwyr aiddgar, ond yn cyvuno i addoli gyda'r gynulleidva gymysg sydd yno, weithian wedi codi adail newydd gryno— i vod hevyd yn ysgoldy dyddiol at wasanaeth ysgol y Ilywodraeth: engraift arall o'r cyd—oddeviad gwladvaol.
Oddiar yr un ysprydiaeth goddevus y mae hevyd ddau neu drio dai cyrddau eraill arddelir vel rhai anenwadol," ac a ddevnyddir hevyd weithian yn ysgoldai dyddiol at wasanaeth trevniant y Llywodraeth o addysg. Y mae hevyd ddau dy cwrdd yn yr ardal elwir Tir Halen, ar du deheuol yr avon—y lleill oll ar du gogleddol yr avon.
Dynodir y gweddill o'r capeli vel yn perthyn i naill ai yr Anibynwyr neu y Methodistiaid—pump neu chwech o bob un: eithr nid oes ond un gweinidog gan y Methodistiaid, tra y mae i'r Anibynwyr chwech neu saith. Ar gyver yr anwastadrwydd rhiv yna, ni cheir un anhawsder, o ran enwadaeth, i vanteisio ar wasanaeth y gweinidogion Annibynol yn y tai cyrddau eraill.
Y mae i'r Esgobwyr Prydeinig hevyd ddwy eglwys yn y Wladva—y naill yn y Dyfryn Uchav, a'r llall yn Nhrelew. Edwyn Roberts, yn ei aidd Gymreig dros yr hen Eglwys Brydeinig, vedrodd gael gan Eglwyswyr Cymru deimlo dawr yn y syniad o gael llan yn y Wladva, a danvon clerigwr (H. Davies) yno i gychwyn yr achos, bymtheg neu ugain mlynedd yn ol— ac o hyny y daeth Llanddewi, drwy achles y Canon Thomas (o Gaergybi yn awr, ond St. Anne's gynt). Yr oedd y llan hono mor anghysbell i Edwyn Roberts a'i deulu, vel pan ddaethant hwy yn ol i Gymru, a chyfro yr aur yn ei anterth, medrodd eve a'r Canon Thomas ddanvon clerigwr arall (D. G. Davies) i gychwyn eglwys yn y man canolog Trelew. Buasai y clerigwr hwnw yn gwasanaethu yn eglwysig tua Canada a'r U. Daleithau, a gwyddai velly beth oedd gwlad newydd: ac i ychwanegu ei ddevnyddioldeb, pan ddychwelodd i Gymru, bu dalm o amser yn evrydu ac arver meddygaeth, vel y mae ei wasanaeth yn y cyveiriad hwnw yn gafaeliad mawr i'r Wladva. Cododd adail gryno a golygus yn Nhrelew: a bu esgob y Falklands yn ei chysegru tuag 1897.
Am y Babaeth dywed Cyvansoddiad y Weriniaeth (gyda gwersi yr Iesuitiaeth yn Paraguay), mai y grevydd Babaidd yw crevydd y wlad: ond nid oes gysylltiad cyvreithiol rhwng yr eglwys hono a'r wladwriaeth: telir o bwrs y wlad hyn—a—hyn y vlwyddyn i'r esgobion a'u glwysgor, a chyvrana y Llywodraeth ddognau at godi eglwysi ac adeiladau elusenol man y bernir eu heisieu. Ond o draddodiad a devosiwn y mae llawer o oludogion y wlad (yn neillduol y bonesau) yn hael iawn o'u cynorthwyon i'r ofeiriadaeth. Elusen, vel y gwyddis, yw hanvod y grevydd babaidd: mae gan yr urddau crevyddol (yn neillduol yn yr hen daleithau canol) lawer o eglwysi ac adeiladau: nid yw treuliau oferenu yn vawr iawn: ac nid yw y bobl yn gyfredin yn govalu ond y nesav peth i ddim am grevydda o vath yn y byd—oddigerth y rhai coelus a thra devodol. Eithr y mae hevyd lawer o wyr blaenav y Weriniaeth yn babyddol iawn, ac yn ystyried eu crevydda yn ddyledswydd wladol yn gystal ag yn ddyledswydd ddevosiynol, a chan hyny nad yw drais yn eu hystyriaeth hwy i ddevnyddio savle swyddol a chymdeithasol i hyrwyddo pabyddiaeth vel crevydd y wlad.
Oddiar ryw ystyriaethau vel yna, mae'n debyg, y gwesgir pabyddiaeth i sylw yn y Wladva weithiau, heb raid dyvalu obeutu cudd weithrediadau "Jesuitaidd" nac arall. Nid oes nemawr amser er pan roddodd teulu Gwyddelig—Arianin goludog allor a delw ddrudvawr i eglwys babaidd Trerawson, pan oedd y Canon Vivaldi (a vedrai Saesneg yn dda) yn ofeiriad yno. Mae y rhaglaw presenol wedi cael gan y Llywodraeth gyvranu yn hael at eangu a harddu yr eglwys sydd yno: a chyda hyny godi adeiladau eang vel math o ysgoldai a lleiandai. Heblaw hyny codasai Vivaldi eglwys babaidd olygus ar y van adwaenir vel Rhyd—yrr—Indiaid——tua haner y fordd o'r Wladva i'r Andes: a dywedir yn awr vod y rhaglaw yn codi eglwys babaidd arall ar gwr Bro Hydrev—yn vwyav neillduol, meddir, ar gyver yr Indiaid a'r Chiliaid sydd yn gweithio i bobl Bro Hydrev, Fo-fo-cawel, a'r cyfiniau gwasgarog oddi yno hyd Teca.
ADDYSG AC YSGOLION.
Cyveiriwyd at yr ymdrechion wnelai y Wladva o dro i dro ymhlaid ADDYSG y lle. Y gogwydd cyntav wnaeth y Llywodraeth tuagat hyny oedd penodi Elaig yn athraw ir Glyn—du, ac iddo gyvlunio gwerslyvr Cymraeg—Hispaenaeg. Tua'r adeg hono, neu cyn, yr oedd yr Arlywydd Sarmiento (vuasai yn yr Unol Daleithau) wedi cael oddiyro niver dda o athrawesi colegol i hyforddi athrawesi ac athrawon y Weriniaeth yn y cynlluniau a'r ddysgyblaeth Amerigaidd. Cyn hir digwyddodd i athrawes o Gymraes dd'od i gysylltiad â'r rheiny, a phan glavychodd o'r cryd a'r mwyth yn Catamarca, danvonwyd hi gan y Llywodraeth i roddi y Wladva ar ben y fordd yn athrawaidd (Miss Annie Jones, y pryd hwnw, Mrs. E. M. Morgan wedi hyny). Ymhen yspaid wedi hyny cynorthwyai y Llywodraeth yn ddysbeidiol hwn a'r llall, vel y cefid dylanwad i gael swydd athraw. Tua'r adeg y rhanwyd y lleodraeth yn ddwy ranbarth, gwnaeth Gaiman ymdrech lew i sevydlu ysgolion yn lleodrol, gan drethu yn gynorthwyol at hyny, vel y caniatai'r cyllid. Cododd Cyngor y rhanbarth hono lŷsdy ac ysgoldy cyvunol yn Gaiman—un aden yn gynghordy ac ynadva, a'r rhan arall yn ysgoldy dyddiol. Cynaliodd yr ardalwyr hevyd yr ysgolion yn Maes—teg. Cevn—hir, Bryn—gwyn, a Bryn—crwn am rai blyneddau ar eu traul eu hunain.
Cyn y defroad parthed addysg drwy y Weriniaeth oll, ymrwyvai y Wladva oreu medrai i gadw ei phlant yn llythrenog bid vyno: a cheir uchod vras grynodeb o'r ymdrechion hyny. Yr oedd merch iengav L. J. (Eluned Morgan) newydd ddychwelyd adrev o'i hysgol yn Nolgellau a Llundain, ac yn vawr ei hawydd i hybu a gloewi addysg genethod y Wladva. I'r perwyl hwnw codwyd adail bwrpasol yn Nhrelew, a'i dodrenvu yn addysgol at letya y genethod yn weddaidd ac yn iachus. Wedi dwy vlynedd a haner o brawv, a gweled vod cynllun mawr y Llywodraeth eisoes yn tavlu blaen ei gysgod dros yr addysg: ac iechyd un o'r athrawesi (Mair Griffith) yn dirywio, barnwyd yn ddoeth roi yr ymgais hono i vynu.
Yr oedd un o gyn—athrawon y Wladva (Tomas Puw, o Landdervel), wedi ymddyrchavu i vod yn Brofeswr yn y Coleg Athrawol, Paraná, ac wedi bod yno rai blyneddau, a chael cyvle i gychwyn tri o vechgyn eraill y Wladva ar eu gyrva addysgawl genedlaethol, ymdynodd yn ol at ei hen gysylltiadau yn y Wladva: eisoes yr oedd gwaedd yn y sevydliad am ysgol uwchradd, ac achubwyd y cyvleusdra i sicrhau gwasanaeth y Profeswr Puw at hyny yn y Gaiman.
Yn y blyneddoedd hyny (189-2) parasai y defroad am addysg gyfredinol gychwynasai Sarmiento, i'r Cyngres ddeddvu trevniant eang o ysgolion ac addysg dros yr holl Weriniaeth.
BAN-YSGOL I ENETHOD Y WLADVA.
Swyddva'r " Dravod " ar y dde.
ELUNED MORGAN.
MAIR GRIFFITH.
Yn gadeirydd i'r Cyngor Addysg hwnw penodwyd Dr. B. Zorilla (ddaeth wedi hyny yn briv-weinidog), yr hwn a ymroddodd yn ddyval, yn erbyn llawer o ddivaterwch a gwrthwynebiadau rhagvarn Babyddol, a phrinder arian, i weithio allan y gyvundrevn yn egniol a goleuedig. Erbyn hyn y mae'r trevniant addysg yn lled gyvlawn a gweithiadwy, yn enwedig yn y brivddinas a priv-ddinasoedd y taleithau—addysg rydd-rad i bawb, a phob celvi ysgol; colegau i athrawon ac athrawesi, arolygwyr ysgolion; athroveydd; a thâl lled dda i'r oll sydd yn dal swyddi – ond vod y taliad ar ol yr amser visoedd weithiau, yn enwedig yn y manau anghysbell, yr hyn sydd yn mènu llawer ar yr efeithiolrwydd. Gwaria y Llywodraeth ar y trevniant yn awr o dair i bedair miliwn o ddoleri yn vlyneddol (dyweder £300,000). Priv fynonell y cyllid i hyny yw rhan o'r dreth dir uniongyrchol drwy y Weriniaeth oll. Adeiladau harddav y briv-ddinas yw yr ysgolion a'r colegau athrawol — ac velly lawer yn y taleithau hevyd. Yn ol y trevniant hwnw y mae bellach ddwsin o'r ysgolion elvenol hyn yn y Wladva —Tir-halen, Maesteg, Bryn-crwn, Gaiman, Bryn-gwyn, Drova-dulog, Tre-orci, Trelew, Pont-hendre, Tŷ-gwyn, Rawson. Rhoddir y figyrau canlynol am yr ysgolion yn ol adroddiad y Rhaglawiaeth: 12 o ysgolion cyhoeddus ar draul o $20,000 y vlwyddyn, dyweder $130 y mis yr un: a $7170 y vlwyddyn i dair ysgol wladol eraill. Cyvrivir 518 yn yr ysgolion hyn, eithr 268 yn gyson. Cwynir yn aml rhag anghysondeb y plant. Yr unig draferth yn awr yw yr anhawsder ieithol—megys ag yn Nghymru. Mae cyvundrevn addysg y Weriniaeth yn yr Hispaenaeg – iaith y wlad. Ond y mae miloedd lawer o Italiaid yn y wlad, vel y clywir Italaeg agos mor amled a Hispaenaeg ar yr heolydd: mewn cyrion eraill llevarir Almaenaeg yn iaith gyfredin y bobl — Swisiaid Santa Fe, a Rwsiaid Hinojo ac Entre Rios yn benav. Ceir, hwyrach, amgyfred llawnach o'r sevyllva ieithol hon drwy grybwyll vod yn y briv-ddinas newydduron dyddiol (dau neu dri bob un) yn Italaeg, Almaenaeg, Francaeg, Saesnaeg. Nodwedd arall i'w gadw mewn cov yw mai iaith twrneiaeth a gwleidyddiaeth yw Hispaenaeg, ond wrth gwrs y termau gwyddonol a chreftol cyfredinol wedi eu cyvieithu yn benav o'r Francaeg, ac y mae gan evrydwyr ac ysgolheigion yn gyfredin grap ar yr iaith hono. Iaith masnach y byd yn benav yw y Saesnaeg: ond llenyddiaeth y byd mor gyfredin i'r Francaeg a'r Almaenaeg ag iddi hithau. Yn awr yn y gymysgva ieithol yna bydd raid i addysg y Wladva vyned drwy yr un eangiad a phuredigaeth a'r Gymraeg yn Nghymru. Mae rheolaeth addysg y Weriniaeth yn awr yn nwylaw pobl oleuedig, ryddvrydig—yn llawn deimlo yr anhawsderau ieithol: ond o'r tu arall, y mae cenedlaetholdeb ivangc y genedl yn angerddol weithiau, a'r dylanwad pabaidd (vel yn Mhrydain) yn eravangu am le penelin. Yn yr ymdreiglva hon y mae devion crevyddol y Wladva, a chyvarwydd—deb y bobl gyda iaith a llenyddiaeth a syniadau Prydeinig, yn rhwym o vod yn elvenau o ddadblygiant nerthol y dyvodol—megys y mae yn ei anterth yn Nghymru yn awr.
LLEN A DIWYLLIANT.
Bywyd gwledig, ve welir, yw bywyd y Wladva—tri pentrev, a'r gweddill yn fermi 240 erw ar hyd arwynebedd o 50 milldir. Amaethu y tir a'i ddyvrhau, a'r gorchwylion gydag aniveiliaid, yw gwaith mawr y bobl wledig yno. Achlysura y gwasgaredd hwnw gryn dramwy, a chan vod cefylau a cherbydau yn rhad ac aml mae cryn gyniwair a chyrchu. Y pentrevi yw Trerawson, Trelew, a Gaiman: y vlaenav yw eisteddle y rhaglawiaeth, a chynullva y swyddogaeth a'r cysylltiadau Italaidd a chymysg eraill. Diwylliant lle cymysg a swyddol velly yn benav yw divyrion y cafes, cardiau, a billiard. Mae gan yr Italiaid glwb cyd—gyveillus yno, a byddant yn dathlu eu gwyliau yn vrwd: ar drichanmlwydd Columbus codasant govgolovn i'r arwr hwnw ar gemaes Gaiman. Yr oedd Dr. Reale yn llenor, heblaw yn Varnwr Cyvraith y lle, ac o'i ddeutu ev furviwyd clwb cyweithas ar ei enw, vel cynullvan i'r rhai coeth a thrwsiadus. Anaml y mae meddwi (Seisnig) yn brovedigaeth yno, oddigerth i'r dosbarrh isav: cryn ddiota neu lymeitian, ond llawer o'r diodydd hyny yn velus neu win main. Mae yn Rawson rai Cymry blaenllaw ynghanol yr elvenau cymysg hyn: a dau gapel at eu gwasanaeth Cymraeg.
Ryw ddwy neu dair milldir uwchlaw Rawson y mae capel Tair—helygen ac ysgol Ty—gwyn. Ac oddiyno ar i vynu'r dyfryn, o bob tu i'r avon y mae'r diwylliant arverol Cymreig yn oruchav o fynianus, ac yn gwbl debyg i ardal wledig yn Nghymru—cyrddau llenyddol, cyrddau canu, cyrddau ysgol Sul, eisteddvodau," Gwyl Dewi, Gwyl y Glaniad, Gwyl Galan, &c. Yn y pentrevi y mae llyvrdai, a darllenva neu ddwy, a cheidw y maeldai hevyd gelvi ysgol ac ysgriven. Nid yw y Cwlt Gewynau sydd yn Nghymru yn brovedigaeth i'r Wladva: ac hwyrach mai "garw" o ran ymddangosiad y bernid canlyniad y bywyd di-bryder sydd ar y bobl. Eithr yn warchodaeth rhag gormod rhusedd y fordd hono y mae cwrteisrwydd a thrwsiadedd Buenos Ayres yn gadwraeth o ddiwylliad lled ddiogel — taw y mae hono yn ddinas vawr, vywiog, a'i dylanwad yn treiddio dros y Weriniaeth oll, vel Paris dros Fraingc. Mae hyvedredd y plant a phobl ieuaingc y Wladva mewn dwy ncu dair o ieithoedd yn loewedd ynddo'i hun, heb vod tuedd yn hyny i'w hunanoli ragor Saeson uniaith oll-ddigonol.
Ddiwedd 1893 daeth alw Wladvaol i L. J. vyned i Buenos Ayres, a gadael rhwng ei verch (Eluned Morgan) â pharhau i gyhoeddi y Dravod: a hyny a wnaeth hi am rai misoedd—ei olygu a'i gysodi, gyda chymorth prentis. Ond gan vod iechyd L. J. yn vregus, a'r baich yn ormod i'w verch, trevnwyd i bwyllgor o rai blaenllaw y lle barhau y cyhoeddi ar eu cyvrivoldeb eu hunain. Blinwyd ar hyny drachevn ond wedi bod yspaid heb yr un cyvrwng, furviwyd "cymdeithas argrafu," i brynu'r swyddva a'r wasg, ac adnewyddu yr anturiaeth. Dewiswyd A. Mathews yn olygydd, o dan drevniant bwrdd y wasg, ac eve sydd bellach er's dwy vlynedd yn cario'r gwaith ymlaen, gyda'r argrafydd ddaethai allan at y gorchwyl yn 1890: a chydag E. J. Williams (Mostyn), yn gevn i'r holl ymgymeraeth. Y llynedd eangwyd peth ar y newyddur, ond y mae eto'n rhy vach i vcd yn ddyddorol i bawb. Yn yr un pentrev (Trelew) ag y cyhoeddir y Dravod, y mae dau lyvrwerthwr yn gwneud cryn vusnes o werthu newydduron a grealon Cymru a Lloegr. Mae Cwmni y Rheilfordd yn rhoddi ystavell a llyvrau i ddarllen yno hevyd yn ddi-dâl.
I geisio cadarnhau ac eangu y Diwylliant hwn, cychwynodd L. J.
Y DRAVOD,
"Newyddur wythnosol y Wladva," ac y daeth ag argrafydd gydag ev i hyny pan ddychwelai o Gymru yn 1889. Wele yr anerchiad cyntav i egluro'r amcan:—
"Wrth gychwyn y newyddur cyntav hwn yn y Wladva, yr ydys yn teimlo dipyn yn bryderus ar iddo wasanaethu yn deilwng y neges o wareiddio a choethi sydd yn arbenig waith y wasg. Nid ydys yn gallu gobeithio y bydd iddo voddio pawb, na gwneud pob peth ar unwaith. Cyvyng, gymharol, vydd ei gylchrediad, vel ei ovod, o reidrwydd; eithr oblegid hyny, ac arbenigrwydd y Wladva, llawn neillduolion gwladol, anhawdd vydd cadw y dravodaeth yn ddigon amrywiol, yn ddigon eglur, ac yn ddigon pwyllus. Eithr penav amcan y DRAVOD Vydd gwasgar dylanwad darllen a meddylio drwy ein cymdeithasiad wladvaol hon. O ddifyg cyvleusdra cymundeb â'r byd, teimlo yr ydys er's blyneddau vod perygl i ni geulo ar ein sorod, heb hogi ein gilydd, a gloewi wynebau ein cyveillion; ac yn enwedig vod ein pobl ieuaingc heb gyvleusdra gwybod na thravod, tra yn agored i lawer o ddylanwadau mall ac anghoeth. Diau hevyd y bydd ein materion gwleidyddol yn galw am aml dravodaeth, yn yr hyn y mae llawer o waith dysgu ar ein pobl—nid yn unig ein gwleidyddiaeth vel rhan o'r Weriniaeth, eithr hevyd amrywiol weddau ein gwleidyddiaeth leol—yn lleodrol, gwmnïol, a masnachol. Ond ymhob peth yr ydys am ymdrechu cadw y dravodaeth yn goeth a didramgwydd. Yn y byw rhydd, diovn, sydd arnom yn y Wladva, provedigaeth ein pobl yw arver iaith grev, dramgwyddus, wrth dravod materion cyhoeddus. Covied ein gohebwyr hynyna: boed iddynt govio hevyd mai bychan vydd ein govod, ac velly mai byr ac í bwrpas ddylai yr ohebiaeth vod."
Rhoddir y dyvynion canlynol o rai ysgrivau ymddangosent yn y Dravod vel engreiftiau o'r ymgais hono i ddevnyddio y wasg yn voddion mawr diwylliant y Wladva: a chan eu bod hevyd yn cyveirio at amrywiol weddau y mudiad a sevyllva y wladva o dro i dro, cynorthwyant y darllenydd, ysgatvydd, i ddilyn y sevyllva yn well na dim eglurhadau eraill:
Y CREDO GWLADVAOL.
"Mae y Wladva wedi bodoli ddigon o hyd yn awr i weled yn hamddenol rawd canlyniad amryw o'r mân vudiadau oddiyma, ac mewn sevyllva ddigon urddasol i beidio gogan am vethiantau a govidiau y rhai a vynasant frwyth eu fordd eu hunain, nac i genvigenu am unrhyw lwydd bydol ddigwyddodd i ran neb mewn manau eraill.
Ond O! na aller argrafu ar veddyliau rhai yn anesmwytho, beth yw banau y CREDO GWLADVAOL:—gwella'r vywoliaeth, plus cadw ein cymdeithasiad Cymreig. Ysywaeth y mae ymvudwyr Cymreig wedi bod drwy gymaint gwasgva byw, cyn cael eu gwthio dros erchwyn eu hen wlad, vel y mae manau tyner mwyniant a chysur wedi myned yn bwl a diymadverth ynddynt. Gweithiant yn ddivevl, bywiant yn galed ddigon, hunan—ymwadant ac aberthant yn ddiddig: eithr oll i'r amcan o vod heb arnynt yr un geiniog i neb," a chael "tipyn wrth gevn amgen na rhywun arall sydd yn wrthrych cenvigen. Yn awr nid oedd raid d'od i eithavoedd De Amerig i'r nodweddion uchod gael cyvleusdra llawn rhwyddach i dderbyn eu gwobr o werth ac arian; ac nid oes amheuaeth nad oes ambell un yn yr amrywiol vân heidiau godasant oddiyma, wedi llwyddo yn lew yn y peth hwnw—a rhwydd Duw iddynt. Eithr y mae Bodolaeth y Wladva yn golygu rhywbeth tu draw i hyny; a gobeithiwn vod erbyn hyn laweroedd o deuluoedd ar y Camwy wedi deall beth oedd y Weledigaeth yn ymarverol sylvaenodd y Wladva; ac y byddant bellach vyw i ddangos i'r rhai yn ymladd, vel y buont hwythau, â mân draferthion y cylch cyntav o sicrhau bywoliaeth, y sut i veddianu eu heneidiau mewn amynedd, er mwyn anwyledd y cymdeithasiad Cymreig sydd mor velus wedi y vrwydr gyntav hon, ac sydd hevyd, weithian, wedi gwreiddio a lledu yn Nhiriogaeth y Camwy, vel nad oes ei haval yn yr holl vyd vel Derbynva i Gymry."
CYWEITHAS.
"Berw gwleidyddol mawr yr Almaen a Frainc yw cyweithasiad (socialism). O ran hyny, y mae hyn hevyd lon'd yr awyrgylch yn Lloegr a'r Unol Daleithau: y bobl, werin—y traethau noethlwm o ronynau tywodog—yn ceisio codi eu penau uwchlaw y dwr, i vod yn dir tyvu a frwythloni: ac i ddilyn y fugyr, cyvala a hen vuddianau, vel gwarchgloddiau cedyrn yn cael eu gweithio ar draws y traethau i'w hysgubo ymaith gan li amgylchiadau ac angenoctyd. Gwedd vasnachol y cyweithasiad hwn yw cydvaelio: ei wedd wleidyddol yw cyd—vuddio, cydvodoli, cyd-raddio. Y wedd ymarverol ar yr ysprydiaeth hon yn Nghymru, yw Undebau gweithwyr, i gydsevyll neu gydsyrthio, wrth godymu gyda'r meistri. Yn y Wladva, y wedd arni ᎩᎳ, cydelwa drwy gadw yr enillion rhag cael eu gwasgar ar ryngion—gwyr rhwng; a'r cyweithiad gwleidyddol, yn y furv leodrol. Wrth edrych ar helyntion unigolion yn y Wladva, brithion a chymysglyd yr edrychant. Eithr wrth davlu trem ar sevyllva 3000 o Gymry yma, mewn cyweithas â'u gilydd,—swp o bobl weithio gyfredin yn yr Hen Wlad, wedi eu traws—blanu i amgylchiadau cwbl wahanol i'r hyn y tyvasant ynddo—y mae'r gweddau cyweithiol sydd arnom yn aruthr o newydd a dyddorol. O vwrw golwg ar y cyd—bori blith draphlith y mae'r aniveiliaid, —y cyd-brynu ar veduron nes ymgryvhau,—y cyd-ddyrnu,—y cyd-gamlesu envawr, a'r cyd-vaelu mewn masnach; a chyda hyny, y gydreolaeth wladol ar ein cysylltiadau cymydogol a breiniol—wrth ymgodi i edrych ar yr holl bethau hyn gyda'u gilydd, furviant vywyd pur wahanol i ddim cynevin i ni yn Nghymru. Nerthant rym enillion y lle drwy eu cydgrynhoi; lleihant gadwraeth rhai digynyrch; meithrinant ddarbodaeth a threvniadaeth veddylgar; ac arverant y bobl i veddwl dros eu gilydd, dros y lluaws, yn lle dros yr hunain hunanol. Ysgatvydd mai digon avrosgo ac anelwig yn aml vydd y gweddau hyn arnom; yn enwedig wrth vwrw cip ar ryw un neu arall o honynt, ar wahan i'r lleill. Ac y mae osgo ar ein cymeriad cenedlaethol Celtig, sydd yn mynych godi cymylau ar draws ein cyweithas, sev yw hyny ansevydlogrwydd. Nid oes well pobl yn y byd na ni am vrwdvrydedd wrth gydio mewn rhywbeth, ac hyd yn nod i aberthu, os bydd raid, tra bo gwynt yn yr hwyl; ond os dechreuir oeri, ve gerdda yr iasoer drwy y corf cyweithiol, nes y rhyno i varwolaeth; a mawr y dànod a'r ymgecru wrth ben y rhew a'r ysgerbwd. Diau hevyd vod anaeddvedrwydd proviad ynom i'r vywydaeth newydd hon; bywyd sydd yn govyn parhad dyval—nid yn unig yn yr un person, ond i'w drosglwyddo o un i'r llall yn olyniaeth gyson. Elven gryvav y vywydaeth honfrwyth proviad amyneddgar—yw cyd-ddwyn, cyd-oddev. Y mae pwdu, sòri, mòni, ar unwaith yn ddangosiad o anaeddvedrwydd. Ac yn nesav at hyny yw, cymedroledd mewn siarad: cyd-bwyllo, ac nid dadleu.
"Rhed syniadau vel yna drwom, wrth edrych ar y Wladva yn ymlavnio y dyddiau hyn, mewn amryw weddau ar ei bywyd cyweithiol. Ysprydiaeth odidog ar ein Sevydliad yw hwn. Na voed i vân gynhenau na divlasdod vallu yr ysbryd hwn yn neb. Gwylier rhag i'r cryvder vagwyd yn y cydwres hwn synied y gall eve, bellach, vyw ar ei bedion ei hun, gyda'r eiddo ei hun. Hwnyna yw gwreiddyn froenedd golud a chyvala; ac mae'n sicr o vod yn bechod parod i amgylchu pobl yn dechreu teimlo eu traed danynt."
EIN CENELAETH YN NGHYMRU.
Rhag cacyna ohonom yn ormodol tua'n bys coch bach gwladvaol hwn, hwyrach y bydd yn iechyd i ni godi golygon ein darllenwyr, yn awr ac yn y man, i wybren y byd mawr, llydan; a thavlu sylliad ar y cwr hwnw ohono o'r hwn yr hanasom, 'Cymru lân, gwlad y gân.' Tra y mae cyrchu blyneddol o'r Wladva i'r Hen Wlad, gan rai wedi crynhoi y forddiol i roi gwib yno, y mae, weithian, genedlaeth gyvan yn y Wladva o rai heb ddim dawr, ond dawr hanesiol, yn Nghymru. O gymaint a hyny, mae y rhai olav hyn ar savle i roi trem eangach ar a welant, na'r rhai yn dychwel mewn dyhead at ryw vanau neu ryw gysylltiadau a wynvydir ganddynt. Oddiyma draw hevyd, y mae Cymru vach vel rhyw
'Seren vach wen, yn entrych y nen,
Yn siriol ar ael y furvaven.'
A ninau yn gwylio ei symudiadau vel y gwylia seryddwyr droellau y llu nevol. Nid oes iddi na De na Gogledd oddiyma, nac Eglwys nac Ymneillduaeth, na Cheidwadaeth na Thrwyadlaeth. "Y maent newydd vod yn rhivo y bobl yno—y ddeiliadeb bob 10 mlynedd. Ac y mae hon eto, vel pob un o'i blaen, yn Bregeth Wladvaol groch: y boblogaeth yn teneuo, ond lle byddo gweithiau mawrion, a blodeu pob cymydogaeth yn gorvod ymvudo i chwilio am le penelin. O hyn y cyvyd Gwladva Gymreig, vel symudiad gwleidyddol, pe cafai y gwleidyddion ond hamdden sobr i gymeryd golwg eang ar eu cylchynion. Trevniant ydyw y Wladva, i geisio cadw y gover gwerthvawr hwn rhag myned ar ddivancoll cenedlaethol.
"Erbyn hyn mae y Cenedlaetholdeb' hwn—neu Genelaeth, vel y mae rwyddav ei alw—yn berwi yr Hen Wlad. Ddeng mlynedd ar hugain yn ol yr oedd ein Profwyd Gwladvaol ni, yr Hybarch o'r Bala, vel un yn llevain yn y difaethwch' ar y pwngc hwn. Pan resymai oddiwrth wers y ddeiliadeb, mor vuddiol vyddai crynhoi yr elvenau cenedlaethol hyn, 'Pw,' meddid yn ei wyneb, 'trenged cenedlaetholdeb—lol ydyw i gyd.' A chodwyd Achosion Saesnaeg,' ac aeth y merched i vursena. Ond Rhagluniaeth o'i thu hithau, yr un pryd, a wnaeth o'r elvenau chwal hyny eu hunain, yr Ysprydiaeth Genelaidd sydd yn awr yn corddi yr Hen Genedl drwyddi. Teimlodd yr alltudion ymvudol eu gwadnau danynt,—eu bod ysgwydd yn ysgwydd wrth bobloedd eraill.—vod iddynt nodweddion gwerth eu cadw, ac vod teimlo velly yn valch o'u tras ac o'u nodweddion yn rhoddi yni ac urddas i'w bywyd. Drwyddynt hwy daeth y syniadau a'r teimladau i gerdded yr holl genedl, o leiav veddylwyr a blaenaviaid y genedl. Cymer eto beth amser cyn y daw i lawr i odreuon y genedl—gwlad hud a lledrith y mursena a'r Achosion Sasnach.
Wele bapurau y ddeiliadeb wedi eu hargraphu yn Nghymraeg, a govyniad ynddynt yn Nghymru pa iaith siaradent. Wrth gwrs, gwingodd Die Sion Davydd, a cheisiodd ddyrysu y peth. Rhoddes hyny achlysur i amryw ddeisebau vyned i'r Senedd yn Nghymraeg. Mynodd pobl Ceredigion gael eu pen—dyheddwr yn Gymro, er gwaethav yr ysgweirod a'r Ysgrivenydd Cartrevol; ac yn awr wele hanes un o ynadon y sir yn cynyg yn Gymraeg, yn y chwarter sesiwn, y dyla eu Cadeirydd vod yn deall iaith y wlad, gan ddisgwyl y buasai'r Sais Blunt sydd ganddynt yno, yn ddigon o voneddwr i roi lle i'w addasach. Hysbysiadir am athraw amaethol i Brivysgol Aberystwyth, a rhaid iddo vedru llevaru Cymraeg fermwyr. Mae yr aelodau seneddol ieuaine dros Gymru wedi peri eu teimlo yn allu yn St. Stephan, ac y mae Ymreolaeth i Gymru yn rhan hanvodol o'u credo a'u neges."
SAVON PARCHUSRWYDD.
"Mae i voesoldeb cymdeithasol ei savon. Y savon wirioneddol, mae yn wir, ydyw yr hyn sydd dragwyddol iawn, neu Dduw ; ond i gymdeithas yn gyfredin, y savon yw ymddygiadau arweinwyr cymdeithas: megis rhieni, dynion o ddysg a gwybodaeth, crevyddwyr, llywodraethwyr a chynghorwyr, ac athrawon o bob math. Velly mae savon moesoldeb, neu barchusrwydd, yn amrywio mewn gwahanol wledydd, ac weithiau mewn ardaloedd gwahanol, ac ar wahanol adegau neu gyvnodau. Dywedir, Dyna ddyn parchus,' neu, 'O mae yn ddyn parchus iawn.' Dyna ddyn yn Nghymru—mae yn gyvoethog, ac yn ddyn o wybodaeth a barn, ac yn ddevnyddiol ddigon mewn llawer cylch; ond y mae yn dueddol i yved i ormodedd. Nid yw braidd byth yn myned adrev o na phwyllgor na bwrdd heb vod yn llawn,' vel y dywedir. Os holir yn ei gylch, dywedir, 'O, dyn parchus iawn ydyw hwn a hwn,' ac os digwydd rhywun mwy manwl na'r cyfredin ychwanegu, 'Go dueddol i yved diveryn gormod ydyw,' atebir yn amddifynol iawn yn y van, mai iddo ev ei hun y mae hyny.' Ond ni edrychir ar ddyn o'r vath yna yr un modd yn y Talaethau Unedig. Ni ddywedir dyn parchus am dano yno, am vod tôn ddirwestol y wlad yn uwch nag ydyw yn Nghymru. Vel hyn, ni welwn vod savon parchusrwydd yn gwahaniaethu yn ol vel y mae tôn y cyhoedd yn uchel neu yn isel yn nglyn â gwahanol rinweddau. Yn awr, os ydyw y sylwadau uchod yn gywir, mae o bwys mawr, mi dybiwn, sut yr edrycha y Wladva ar ddechreu ei gyrva gymdeithasol (canys nid ydyw eto ond bron yn dechreu) ar wahanol rinweddau. Pa un edrychir arnynt yn uchel a chysegredig, neu ynte yn gydmarol ddibwys. Os yr olwg gyntav a gymerir, bydd savon parchusrwydd yn uchel, ond os yr olwg olav a gymerir, bydd savon parchusrwydd yn isel ac amheus, a bydd yr oes sydd yn codi vel yn y niwl beth ᎩᎳ bod yn barchus.
"Bwriadav alw sylw at dri pheth ag y mae o bwys i'r Wladva vod yn glir a diddadl yn eu cylch, sev Priodas, Sabbath, a Sobrwydd. Na ddychryned neb rhag vy mod yn myned i bregethu ar y pyngciau hyn. Mae yn wir vod iddynt eu gwedd grevyddol, vel i bob pwngc, ond nid ar y wedd hono yn uniongyrchol y bwriadwn edrych, ond edrychwn arnynt vel y maent yn gloddiau, a finiau gwareiddiad a chymdeithas dda.—A. M."
XXXII.
TIROEDD EANG GWREGYS TYVIANUS GODRE'R ANDES.
Wedi i'r Llywodraeth Arianin ymlid y brodorion o'u cynevin a'u llochesau tua'r Andes, deallwyd vod gwlad vawr, amrywiog ei nodweddion, yn ymestyn yn wregys gyda godreu yr Andes, ac vel pe rhwng hyny ag is-res o drumau nes i'r dwyrain. Cawsai J. D. Evans a'i gymdeithion anfodus laddwyd gan yr Indiaid gip arni y pryd hwnw: ac yr oedd adroddion milwrol cadgyrch y Cadvridog Roca yn cadarnhau yr argraf favriol hono, ac yn gwirio hen draddodiadau yr Indiaid am Wlad yr Avalau, a Mynydd y Taranau, a Llyn y Cyvrinion. Velly, yn 1886—7, cynullodd J. M. Thomas vintai o'r gwladvawyr i vyn'd gyda'r Rhaglaw Fontana ac yntau a G. Mayo, "i weled y wlad"—bawb yn dwyn ei draul ei hun, eithr dan reolaeth hwy ill dri. Gosgordd anrhydeddus oedd hono gavodd y Rhaglaw—heb ddim yn vilwrol ynddi ond eve ei hun a'i votymau a'i sergeant: (ond y dygai y gwladwyr beth arvau at saethu cig-vwyd). Ac ni chavodd neb erioed anturiaeth hapusach, a gwneud gwasanaeth i'w wlad ar leied o drwst a thraul. Yr oeddynt ryw 30 o niver. Gwnaeth y vintai hono ddwy daith archwil ar yr eangderau newydd ymagorai o'u blaenau, a gwnaed wedi hyny wibiadau i gywiro yr argrafion cyntav, brysiog: ac ar ol hyny aeth y Rhaglaw (a J. D. Evans gydag ev) ar hyd fordd arall bob cam i'r Rio Negro hyd i Patagones. Ymhen yspaid wedyn aeth agos yr un vagad egniol o wladvawyr (heb y rhaglaw) dros ranau o'r un daith, dan arweiniad J. M. Thomas, i agor fordd dramwy i veni, bob cam i Vro Hydrev—y fordd vawr bresenol. Hawdd mynegu hyn ar bapur ymhen blyneddoedd, ond yr oedd yn wroldeb a threvnidedd ardderchog yn y cyvnod a'r amgylchiadau hyny. Dilyna y fordd, gan amlav, hen lwybrau y brodoriongyda'r avon hyd yr oedd hyny yn ddichon, ac yna ar draws y paith maith bryniog a charegog, hyd at Ryd-yr-Indiaid, lle y gadewir yr avon wrth anelu am y gorllewin (gan ei bod hi yn gogwyddo tua'r gogledd-orllewin), a chan ddirwyn eilwaith gyda hen lwybr brodorion nes dod i Teca, ac oddiyno eilwaith balvalu eu fordd drwy Gors Bagillt a godreu mynydd Tswnica (Pico Thomas), gan ddisgyn o'r uchelderau gyda Nant Rhyvon (sydd yn arllwys i'r Tawelvor). Yno yr ymegyr gwlad vawr, hardd Bro Hydrev ("Cwm Hyvryd"). O'r van hono ymganghena y vro yn ddwy gaingc—yr un tua'r gogledd am Eskel a Cholila, a'r un tua'r de drwy goedwigoedd y "Dyfryn Oer a'r Corcovado. Oddiar waelod dyfryn Nant-rhyvon, cyn y llyngcir hono gan yr avon vawr Caran-lewfw (o'r gogledd), y mae golygva Bro Hydrev yn werth myned ymhell i'w gweled— yn enwedig wedi y daith vaith, unfurdd o'r Wladva. Cyvyd yr Andes yn gadwen benwyn tua'r gorllewin, ond y llethrau islaw moeledd gwyn y penau yn elltydd coediog hardd ac amrywiol— o'r bedw brigog—ganghenog i'r pinwydd talsyth cyhwvanog; a mathau lawer o brenau eraill addurnol neu vyth—wyrdd. Ymestyna y gelltydd hyn yn ymylwe tua'r de hyd at y Corcovado, ac i'r gogledd hyd at Eskel; y gwaelotir oddi arnynt yn ddolydd porvaog—lle yn eu tymor y bydd carped o syvi (mevus) peraidd, neu a orchuddir gan vrysglwyn, neu hesg, neu vrwyn, yn ol vel y bydd yr avonydd. Neu os troir y wyneb i godiad haul drachevn (a'r cevn at yr Andes), ymddyrcha mynydd Llwyd a mynydd Tswnica a mynydd Edwyn megys breichiau o'r Andes vawr, a'u penau gwynion ganol hav yn dangos ucheled ydynt, er heb vod mor gydiol gadwynog a'r briv drum. Oddiyno tua'r dehau rhed y gwregys iraidd hwn ynghysgod yr Andes nes d'od i Lyn Fontana, o'r hwn yr ymarllwysa'r avon Sin-gyr (lled. 45)—corf o ddwr gymaint a'r Chubut ei hunan: ond wedi gyrva o 400 o villdiroedd a ymgolla o ran gwely (a dyvroedd weithiau) yn y Chubut ryw 100 m. cyn i hono gyraedd y mor. Tua'r gogledd o Vro Hydrev eto mae yr un nodwedd o wlad nes d'od at Lyn Nahuel-huapi—dyvroedd yr hwn yw fynonell avon Limay, a hono oddiar y van yr ymuna yr avon Neuquen gyda hi, a wnant rhyngddynt yr avon Negro, sy'n ymarllwys i'r môr yn lled. 41 (a'r Chubut yn 43. 15). Ar y daith hono, wedi dargan vod Llyn Fontana a'r Avon Sin-gyr, dilynwyd hono nes gwel'd Llyn Colwapi (o vewn rhyw 50 milldir i'r Werydd), gan ddychwelyd i'r Wladva gyda dilyniad dysbeidiol y Sin-gyr, eilw y brodorion yn Iámacan ("yr avon vach "), sydd yn agor i'r Camwy ryw gan milldir o'r môr. Drwy y teithiau hyn gallodd y rhaglaw gyvlwyno i'w Lywodraeth adroddiad lled gyvlawn am y diriogaeth oedd dan ei oval. A gwybu y byd gwybodus amcan go lew am y darn daear oedd i vyn'd dan yr enw Tiriogaeth Chubut o hyny allan.
I ddangos ei chymeradwyaeth o'r gwrhydri hwnw, ac yn anogaeth i'r sevydlwyr avael yn y lle, neillduodd y Llywodraeth 50 lech (250,000 erwau) o'r tiroedd goreu welsid i vod_yn wladva yno i'r sevydlwyr —a dyna yw BRO HYDREV. Pan wnaed covriviad 1895, yr oedd yno 944 o drigolion ac 85 o dai— ond y cynwysid yn y figyrau hyny gryn 500 o Indiaid a Chiliaid. Ysywaeth, mae y Llywodraeth hyd yn hyn heb drosglwyddo meddiant cyvlawn o'r wlad i'r sevydlwyr rhag ovn i hyny beri tramgwydd i Lywodraeth Chili, wrth vod pwnge y finiau rhwng y ddwy wlad yn anorfenol. Mae hyn yn peri peth elven o anvoddlonrwydd ac ansicrwydd i veddyliau y sevydlwyr
BRO HYDREV.
Darlun o bryd bwyd yno—yr olwyth o gig yn rhostio: y tegell a'r cyllill:
y sipian mati (te Paraguay).
—er y gwneir trosiadau mynych ar y tiroedd yno. Hwyrach y bydd hyn o eglurhad byr ar y sevyllva yn ddigonol:—yn y seith-degau (gwel aml gyveiriadau), yr oedd pethau yn ymddangos yn vygythiol rhwng y ddwy weriniaeth parthed perchenogaeth rhan ddeheuol y cyvandir. Cyvryngodd yr Unol Daleithau drwy ei chenadydd yn Chili (Gen. Osborne), a gwnaed cytundeb o linelliad a finiau: yn ol hwnw rhoddid rhimyn cul o'r tir gyda chydvor Machelan i Chili—rhenid Tierra del fuego rhwng y ddwy wlad, a datgenid y fin i vod "gyda phigyrnau uchav yr Andes a rhaniad y dyvroedd." Pan aethpwyd i edrych y "pigyrnau uchav," gwahaniaethai y gwyddonwyr dros y ddwy wlad yn vawr iawn ar y rheiny: eithr os mai rhaniad y dyvroedd oedd i'w ddilyn, yna yr oedd cryn davelli o'r gwregys tyvianus godreu dwyreiniol yr Andes a'u dyvroedd yn arllwys i'r Tawelvor—ochr Chili, wrth vod yr avonydd yn cyd—redeg gryn fordd gyda'r Andes, ond yn rhedeg drwy vylchau anhygyrch o'r gadwen vynyddig i'r Tawelvor—velly drwy dri neu bedwar o vylchau, ond yr avonydd cyn myned i'r bylchau hyny yn dreinio lleiniau mawr o wlad tu dwyrain i'r Andes. Mae'r ddau briv lyn—Nahuel-huapi a Fontana—yn ymarllwys i'r Werydd, tra llynoedd y Corcovado a Cholila yn bwrw drwy'r bwlch i vôr Chili. Wedi cryn ddadleu a pheth cecru—o leiav o du newydduron y ddwy wlad—cytunodd y ddwy Lywodraeth ar i'r ymravael gael ei athrywynu rhyngddynt gan Vrenines Prydain Vawr (drwy ei chyngorwyr, wrth gwrs). Mae weithian ddwy vlynedd neu dair er pan gytunwyd velly: ond y ddwy wlad yn amlhau llongau rhyvel aruthrol, vel pe'n bygwth eu gilydd. Mae gan y ddwy wlad hevyd ddirprwyon gwyddonol yn archwilio a mapio y mynedveydd o'r naill ochr a'r llall er's tro. Yn y cyvamser mae y Werinaeth Arianin yn gwthio rheilfordd o'r Werydd, gyda'r avon Negro a Neuquen, am lyn mawr Nahuelhuapi, gyda'r hwn lyn y mae agorva lled rwydd i odreu Chili. Oblegid yr ysbrydiaeth yna, mae'n debyg, y peidiodd y Llywodraeth Arianin a rhoi meddiant tervynol o'u tiroedd i sevydlwyr Bro Hydrev, rhag y buasai hyny yn achlysur tramgwydd i Chili. Ond diau y ceir meddiant cyvlawn yn y man.
A rhoddi o'r neilldu 50 lech Bro Hydrev, a 300 lech tiroedd Cwmni Tir y De, gwnaeth y Llywodraeth drevniant mawr arall am y tiroedd eang tua'r broydd hyny. Vel hyn:—I wobrwyo y milwyr wnaethent y gadgyrch gynlluniodd y Cadvridog Roca i lethu neu ddiva yr Indiaid, deddvodd y Congres i roddi allan sicrebau (certificates), i'r milwyr hyny, yn ol eu graddau ac yn ol eu gwasanaeth: trevnid i'r swyddveydd milwrol wirebu ac arolygu y rheiny, ac yna y gellid eu gwerthu yn y varchnad "i gymeryd eu siawns a brynai neb hwynt neu beidio. Y cam nesav oedd i'r Llywodraeth vesur a gwneud adroddiad am y tir gawsid velly "yn veddiant i'r Genedl," a chytunwyd i dalu $300,000 am vesur yr holl diriogaeth velly. Yr oedd hyny dan arlywyddiaeth Juarez Celman, yn erbyn yr hwn y bu chwildroad 1890, ac y bwriwyd ev allan o swydd: a chymaint oedd y llygredd gwleidyddol y pryd hwnw vel na roddai neb ddimai am y sicrebau tirol hyny elwid "Sicrebau Milwrol Rio Negro." Pan ddechreuwyd carthu y llygredd, ac i rai dynion cywir dd'od i awdurdod, ac i adroddiad y mesurwyr vuasent dros y tiroedd ddechreu d'od yn hysbys, ymholid obeutu'r sicrebau yn gynil & gwyliadwrus. Bu clytio a newid llawer ar y trevniad gweinyddol yn eu cylch, vel y buwyd hir o amser yn eu hystyried megys "cath mewn cwd," neu lotri i anturio o ddamwain arnynt. O'r diwedd trevnwyd y gallai pwy bynag oedd yn dal sicrebau gael tir i'w gwerth, ond i'r perchen ddynodi a thalu am advesur y manau ddymunai gael. Yr oedd y mesurwyr, neu bwy bynag arall oedd wedi bod dros y tir, mewn mantais i vedru dynodi y manau goreu: ac vel y cryvhai hyder cydnabyddid velly unrhyw hysbysrwydd gwarantedig ellid gael vel sail meddiant i'r tiroedd i'r rhai gymerent yr antur. Ar y cychwyn yr oedd pris y sicrebau hyn yn isel iawn, oblegid difyg hyder y cyhoedd yn nifuantrwydd y trevniadau: ond codai y pris yn raddol nes bod, mewn rhai manau yn 4s. neu 5s. yr erw, vel y prinhai y tiroedd cyhoeddus, oblegid y gwerthu wnelai y Llywodraeth ar ran—diroedd eang—weithiau drwy "uchav ei gynyg," neu weithiau drwy drevnu arbenig gyda Swyddva Tiroedd Cyhoeddus. Yn y dull hwn tavlwyd yn agored i anturwyr ryw 2,000 lech o'r tiroedd tyviantus gyda godreuon yr Andes; a gadael 3,000 neu 4,000 eraill o vanau llai golygus at drugaredd y dyvodol. Dylid covio yn y van hon vod pob lech tua 5,000 o erwau (a bod yn vanwl 2,500 hecterw). Mae y tiroedd hyn wedi eu mesur yn sgwar (petrual) o 4 lech, sev 2 x 2, ond wedi eu rhanu weithiau i lenyrch llai: eithr amlach o lawer yn rhandiroedd o 8 neu 12 neu 16 lech yn yr un enw. Wedi i'r anturwyr gael eu dewis vanau bydd y gweddill yn agored i'r cyhoedd, yn ol rhyw vantais neu gyvleusdra y deuir i wybod am danynt. Vel engraift arall o'r gwerthiant tirol hwn, dylid nodi y llain o 60 lech gyda'r arvordir ynghyfiniau y Wladva, ychydig i'r de o'r avon Chubut, ryw 60 milldir islaw aber yr avon. Yn t.d. 75 eglurir vel y bu raid i sevydlwyr y Falklands symud eu deadelloedd oddiyno am vod yr ynysoedd hyny yn llawn: mudasent rai tua Chydvor Machelan a Santa Cruz: ac yn ddiweddar prynasant davell o 60 lech, gyda'r sicrebau milwrol oedd yn y varchnad, gan ddwyn drosodd rai miloedd o ddevaid o'r Falklands i'w dodi ar y tir brynasid gerllaw y Wladva.
Y mae eisoes sevydliadau eang (gan mwyav o ddevaid) yn britho llawer o'r tiroedd y cawsid meddiant ohonynt drwy y sicrebau milwrol, ac y mae hevyd viloedd o ddaoedd yn cael eu cadw ar diroedd velly gan squatters, heb berchenogaeth yn y byd ar y tir, na thalu ardreth am dano—hyd ryw bryd y daw perchenogion i veddianu yn ymarverol.
Neillduodd y Llywodraeth 50 lech o'r tiroedd hyn i vod yn gartrev a lleoliad i'r brodorion (reservation), tua'r van elwir Lang—iew, heb vod ymhell o dueddau Teca a Kitsawra. Ond tra bydd eangderau o dir hela heb boblogaeth arnynt, diau mai crwydro y manau hela hyny wna'r Indiaid, i ddala'r creaduriaid gwylltion, a gwerthu y crwyn ddaliant er mwyn elw y gwerthiant, yn gystal ag o nwyv yr hela a hen arver. Ar ran o'r lleoliad hwnw rhoddwyd perchenogaeth i'r hen benaeth mawr Shaihweki a'i veibion—ond chwith iawn iddynt y cyvyngiad hwn ar eu lle ragor broydd coediog eu hen gynevin tua'r Manzanas. Yr un modd caniatawyd perchenogaeth i rai penaethiaid eraill, ond gwyddis yn burion mai "gwerthu" y tiroedd hyny vydd y diwedd, i'r anturwyr a'r travnidwyr sydd yn cyniwair y parthau hyny. Yn y cyvamser mae gweddillion y brodorion ar chwal dros yr holl diriogaeth, gan hel at eu gilydd a'u cyvathrach ar adegau hela neu adegau travnidio.
Heblaw hyn oll mae tavelli eang yn leagues wedi eu prynu a'u meddianu tua'r Valdez, Arwats, Rhyd-yr-Indiaid, &c.
XXXIII.
CYVLEOEDD I YMVUDWYR.
Wrth weled y tiroedd cyhoeddus yn myned vel uchod yn davelli aruthrol rhwng y rhai arianog, gwnaeth y Llywodraeth drevniad i roddi cyvle i ddyvudwyr ac eraill gael gavael ar beth o'r tiroedd hyny, mewn lleiniau llai, ac mewn manau cyvleus, ar delerau cevnogol.
JENUA (seinier vel Chenwa yn Gymraeg—g a j pan o vlaen e ac i i'w seinio vel ch Gymraeg, ac u vel w)—Neillduir 50 lech (250,000 erwau) yn yr ardal hono man y gall sevydlwyr gael chwarter lech bob un (625 hect, tua 1300 erw) yn veddiant, (1) Os byddant Archentiaid drwy eni neu vabwysiad. (2) Os nad oes ganddynt dir o'r eiddynt eu hunain yn y Weriniaeth. (3) Os cartrevant yno am dair blynedd a dodi aniveiliaid ar y lle hyd i werth $300. Tua'r ardal elwir vel uchod cyvuna frydiau y Chirik a Jenua, i redeg drwy y dyfryndir hwnw, nes yr ymgollant (ar rai tymorau) yn agos i nant Apelé. Mae rhaniadaeth y tiroedd hyn yn chwarteri heb eu llinellu a'u mesur hyd yn hyn: ond y mae llawer o bobl ieuaingc y Wladva wedi rhestru eu henwau i ovyn hawliad i'r tiroedd hyny, a chanddynt ddaoedd yn barod i'w dodi arno pan wna y Llywodraeth drevniadaeth ymarverol ar y lleiniau hyny iddynt.
Mae dyfryndir Jenua yn waelotir porvaog manteisiol: mewn manau mor llydan a dwy i dair milldir o led, ac mewn manau eraill namyn milldir neu well: ond debygir nad yw y bryndir cyfiniol mor iraidd a manau eraill, wrth vod creigleoedd y llethrau yn lled lwm. Os cynwysir yn y mesuriad a'r lleoliad y cangenau elwir Lamseniwf, a'r gwastadeddau o Erw—waw a Chirik, yna bydd lleiniau da i sevydlu arnynt. Ar adegau bydd llivogydd cryvion ar wastadedd Jenua, yn ysgubo ar eu fordd i'r Sin—gyr tua Choiki—nilawe. Mae yn y cyfiniau amryw sevydlwyr er's rhai blyneddau, vel math o squatters, ac ydynt hysbys o'r nodweddau lleol hyny. Yn y cymoedd rhwng Erw—waw a llethrau Kytsáwra y mae peth coed, ddevnyddir yn gartrevol yno: ond lled ddi—goed yw y cyfiniau, er y dywedir vod peth coed tanwydd yn y cyraedd fordd hono.
Dynodir y sevydliad hwn yn y map mwyav dan yr enw Jenua, neu "Herman Schlieper."
Sevydliad COLWAPI, gerllaw y llyn mawr o'r enw hwnw, tua lled. 45.50, a rhyw 60 milldir o lan môr y Werydd yn y cyver. Neillduir 50 lech y fordd hono ar yr un telerau ag y gynygir yn Jenua. Eithr y mae'r gwastadeddau hyn yn dra chymwys at eu dyvrhau, yr un modd ag yr ydys yn dyvrio dyfrynoedd cnydiol y Wladva. Lliva avon vawr y Sin-gyr i'r llyn eang Colwapi, gan vyned heibio dyfrynoedd a gwastadeddau dyvradwy lawer yn yr holl gyfiniau hyny. Weithiau bydd y llyn agos yn sych, gan adael gwastadedd o waddod bras lle y bu ei wely. Gyda phroviad gwyddonwyr dyvrhau y Wladva, byddai rhagolygon y gwastadedd hwn yn eithav cyraeddadwy. Ar y ddau tu y mae ceryg hylaw yn y cyraedd at adeiladu (ac argaeo os bydd raid). Ystyriaeth arall bwysig i sevydlwyr yr ardaloedd hyny yw vod cymoedd pori manteisiol iawn yn y cyraedd; lle y mae tarddiadau dwr yn treiglo o'r llethrau gerllaw, nes ireiddio y borva i'r daoedd a'r deadelloedd. Nid oes borthladd diogel a hwylus yn nes na Bustamente neu Malaspina, ryw 150 o villdiroedd o Colwapi: ond y mae Tili Roads (ar y cyver) tua haner y pellder hwnw, ond nid mor gyraeddadwy ar bob tywydd.
Dyfryn KEL-KEIN—Neillduasai'r Llywodraeth ddyfryn Kel-kein yn fermi 100 hecterw (240 erw), ar gyver dyvudwyr y "Vesta," yn benav: un ferm yn rhodd, a'r lleill i'w gwerthu am bris cymedrol iawn. Buwyd yn hir yn cael y caniatad gweinyddol drwy y furviau govynol yn y swyddveydd: a thrachevn gyvnewid y lleoliad, vel ag i gynwys y dyfryndir ymarverol. Erbyn hyny yr oedd dyvudwyr y "Vesta" wedi chwalu, a rhoi i vynu y syniad o sevydlu yno—ac wele gwag ydyw hyd yn hyn. Yr eglurhad, mae'n debyg, sydd vel y canlyn: Mae cwr isav y dyfryn hwnw, dyweder, gryn 100 milldir o'r Wladva, a fordd lled anhawdd ac anhygyrch tuag yno. Dadleuid na ellid gobeithio "cario gwenith "oddiyno i'r Wladva am bris dalai y draul: y pryd hwnw nid oedd gwerth tunell o wenith yn y varchnad ond rhyw £3. Barnai y rhai hyderus y gellid cael 300 o fermi vedrid ddyvrio ar y dyfryn hwnw, gyda pheth gwaith camlesu a chlirio drain. Sonir yn awr am redeg rheilfordd o'r Wladva i Teca—y Llywodraeth eisoes wedi penodi gwyddonwyr i edrych ac evrydu y peth; a phan wneir hyny bydd dyfryn Kel-kein yn gyraeddadwy iawn o'r Wladva. Y dyfryn hwn yw llwybr presenol y mèni lawer sydd yn travnidio i'r Andes, ac yno mae yr orfwy sa gyntav wedi croesi yr Hirdaith vaith a'r havnau milain sydd ar y ddau ben i'r daith. Nid yw y paith cylchynol, debygid, yn borvaog iawn heb vyned ymhell tua'r gogledd, lle mae nentydd a phantiau golygus. Gellid deall y gwahaniaeth vyddai i'r dyfryn hwn pe y ceid rheilfordd yn ei gyraedd, gan vod gwlad o 300 o fermi yn golygu cartrevi i luaws o bobl ryw ddiwrnod. Y mae dyfryndir cul, troellog, am gryn 30 milldir oddiar gwr uchav y Wladva, yn myned dan yr enwau Dyfryn yr hen eglwys," a "hen wely," "campamento," &c. Bualir llawer o ddaoedd y fordd hono yn y tymor hav, i'w cadw rhag myned ar grwydr i'r meusydd yd yn y Wladva, gan dalu hyn-a-hyn y pen am eu gwarchodaeth dros y tymor. Mae tua'r fordd hono rai lleiniau o dir a rhyw vath o veddiant arnynt.
XXXIV.
Y TIRIOGAETHAU CYSYLLTIOL.
Eglurwyd yn t.d. 147 ddarvod i'r Llywodraeth greu naw o Diriogaethau wrth wneuthur trevn a dosbarth ar y tiroedd di—boblog berthynent i'r Weriniaeth. Pump o'r rheiny wnelent gynt y rhaniad daearyddol adwaenid vel "Patagonia." Tiriogaeth Chubut (y Wladva) yw y ganol o'r rheiny—Rio Negro a Neuquen i'r gogledd, Santa Cruz a Terra del fuego i'r de. Yr olav yw y leiav, gan nad yw ond haner yr ynys sydd yn gorwedd rhwng cydvor Machelan a'r penrhyn eithav—yr haner arall ymeddiant Chili. Mae'r haner isav hono drachevn yn goediog a gwlawog; tra y rhan uchav yn sych a pheithog brodorion corachaidd pysgotol sydd ar y rhan goediog a gwlyb, ond y Tsonecod cryvion a'u gwanacod ar y rhan arall, agosav i'r cydvor Mae y Llywodraeth yn nawddogi y diriogaeth vechan hono oblegid ei savle ryng-wladol—rhwng Chili ag Archentina, a cherllaw y Falklands: ond mae ei choed yn peri travnidiaeth vywiog, a'i physgodveydd yn gynaliaeth i lawer. Bu cenadaeth vlodeuog gan Eglwys Loegr yno amser yn ol at y brodorion còraidd: ond y mae hono wedi edwino oddiwrth ddylanwad mall alltudva Arianin osodasid gerllaw. [Gwel t.d. 74].
SANTA CRUZ (Groes-wen).
Mae fin ogleddol y diriogaeth hon yn cydio wrth fin ddeheuol tiriogaeth y Wladva, ac y mae hi tua'r un vaint o wlad, ac yn lled gyfelyb o ran nodweddion —gwregys tyvianus gyda'r Andes, a'r llain oddiyno i'r arvordir yn baith tebyg i'r Chubut. Un avon vawr sydd i'r diriogaeth, sev yr avon Santa Cruz; ond y mae un arall lai, yn rhedeg o'r Andes i'r môr, sev y Gallegos, tua lled. 52°: ac y mae cangen yn d'od i'r Santa Cruz (elwir Siawen), yn ymarllwys iddi heb vod ymhell o'r môr (lled. 50°).
Rhed y Santa Cruz o Lyn Viedma, yn yr Andes—llyn vel Llyn Fontana a Llyn Nahuel—huapi—ac ymddengys vod cyvres o lynoedd cydiol gyda'r llethrau Andesaidd, rai yn arllwys i'r Tawelvor, a'r lleill yn tynu at Lyn Viedma a San Martin: tra yn uwch i'r gogledd vyth y mae llyn elwir Llyn Buenos Ayres, a dyvroedd yr hwn y gobeithir vedru eu camlesu cyn hir i'w harwain i Borthaethwy (Port Desire), a dyvrio dyfryndir eang ar y fordd tuag yno. Ceisiodd Darwin a'i gymdeithion ar y "Beagle vyned i vynu'r avon Santa Cruz hyd i lyn Viedma ; ond pallodd eu hamynedd, er y llwyddasai yr Hispaenwr Viedma i archwilio'r llyn agos i ganriv cyn hyny: biď a vyno, deallwyd drwy y gwch—daith hono nad oedd nemawr ddyfryn amaethol gyda'r avon er cryved ei dyvroedd, vel nad oedd ragolygon am sevydliad amaethol mawr y fordd hono. Mae cŵr isav Tiriogaeth Santa Cruz gryn lawer yn oerach na'r gwregys paith ar y cyrion gogleddol a chan vod lled y cyvandir yno yn llai, mae lleithder y gwregys iraidd gyda'r Andes yn peri vod y borva yn well, a tharddiadau dwr yn amlach. Gyda'r gwregys llynoedd y mae creigiau basaltaidd anhygyrch: gyda'r arvordir mae y paith unfurv anwastad, nes d'od at dueddau Borth San Julian, lle sydd is a mwy tywodog, gyda morveydd eang: nes d'od eilwaith at y bryndir ar dueddau Sea Bear Bay ac ynys Penguin.
Borth Gallegos (lled. 52°) yw canolvan y diriogaeth, ac yno y mae'r rhaglawiaeth. Gen. Mayer oedd y rhaglaw nes y bu varw yn ddiweddar: a chan ei vod yn ieithwr da (vel Almaenwyr yn gyfredin), a llawer o Brydeiniaid wedi ymsevydlu yn y tueddau hyny, fynai dealltwriaeth a chydweithrediad calonog. Wrth benodi olynydd iddo dewisodd y Llywodraeth AmerigwrArianin o'r enw Mackinlay, yn meddu yr un cymwysder ieithol, ar gyver sevyllva gymysg y diriogaeth yno. Ve ddeallir yma vod y gwregys tyvianus gyda'r Andes yn ymestyn i'r llain cyfelyb perthynol i Chili yn y sevydliad a'r drev ar y cydvor elwir Sandy Point, neu Punta Arenas. Yno yw porthladd a chyrchva masnach y wlad hono, gan vod y borth yn ddi—dol i bob cenedl, ac ar vynedva y cydvor i agerlongau yn galw heibio.
Devaid a gwlan yw priv adnoddau y Diriogaeth hyd yn hyn: a chan mai de veitwyr cevnog o'r Falklands yw y sevydlwyr, cymerant bob goval a thraferth i wella eu deadelloedd a'u bualau, nes bod gwedd fynianus ar y diriogaeth.
TIRIOGAETH RIO NEGRO.
Yr avon vawr Negro yw fin ogleddol y diriogaeth hon, a lled. 42°, yw y fin ddeheuol, gan ymestyn rhwng yr hydredau hyny hyd at Lyn Nahuel—huapi, a dilyn y gwregys Andes hyd y fin ddeheuol. Mae hyn yn arwynebedd mawr, gan vod lled y cyvandir o'r môr i Nahuel—huapi agos i 400 mill. Ond oddieithr dyfryndir Viedma (trev Patagones) hyd at Pringles, a chyda hyny rimynau dyfryndir Couesa a Castro, ni cheir nemawr wlad amaethol nes cynwys gwastadedd mawr Choel—choel—yr hwn yn ddiau yw gardd y diriogaeth. Mae dyfryndir gweddol yn y lle elwir Chinchinal; ond amgenach na hyny yw Roca, ychydig islaw deuddwr y Limay a Neuquen: ac yn uwch na hyny eto mae gwastadiroedd eang minion llyn Nahuel—huapi. Gerllaw Roca gweithiodd y Llywodraeth gamlas ddyvrio, rai blyneddau yn ol: ond ni wneid y devnydd ohoni ddisgwylid: eithr gan vod yno yn awr wersyllva vilwrol boblog, diau bydd dda wrth y gamlas hono i gynyrchu rheidiau i'r boblogaeth y fordd hono. Mae dyfryndir mawr Choel—choel cyn hir yn debyg o vod yn ganolvan gynyrchus a chyniwair iddi—tàw eisoes y mae'r rheilfordd elwir llinell Neuquen wedi ei gweithio at y llanerchi hyny o Bahia Blanca ar y Werydd: estynir y llinell hyd at Roca ac yn y man, debygid, y croesir y Rio Negro yno, gan anelu y llinell wedyn i gyveiriad tiroedd Nahuel—huapi, man y mae bwlch mynedva i Chili.
Mae finiau Tiriogaeth Rio Negro yn cynwys rhanau o'r avon Colorado mewn manau, ac yn cydio hevyd wrth finiau Tiriogaeth Pampas, tra mae cydiadau eraill ohoni gyda thalaeth Buenos Ayres.
Paith, velly, y rhaid ystyried rhelyw y Diriogaeth eang hon —oddigerth y manau ddynodwyd, y rhai yn ddiau ydynt lanerchau pwysicav y wlad.
Mae y Rio Negro yn avon vawr ysblenydd: a rhedir agerlongau bas arni ar dymorau, hyd i vynu at Roca. Ond dengys y faith vod y Llywodraeth yn adeiladu rheilfordd gyvochrog gyda'r avon, vod anhawsderau ymarverol i wneud devnydd mordwyol ohoni.
TIRIOGAETH NEUQUEN.
Gwlad vynyddig wrth geseiliau yr Andes yw y diriogaeth hon, a'r avon Neuquen yn llivo o'r gogledd-orllewin, i uno gyda'r Limay (o Nahuel-huapi) gerllaw Roca: ac o hyny allan elwir y Rio Negro. Hon oedd hen wlad yr Indiaid—gwlad yr avalau (manzanas): a thrigai miloedd o'r Manzaneros y fordd hono, gan gyniwair i Chili ac hyd Mendoza vel y byddai cyvleusderau. Pan wasgodd Archentina am veddiant o'r wlad, vel rhan o'i thiriogaeth, ymvudodd tair mil neu ragor o'r trigolion i Chili, yn hytrach nag ystyried eu hunain yn Archentiaid.
Y mae gan y Weriniaeth Arianin raglawiaeth gyvlawn yno, vel yn y tiriogaethau eraill yn y man a elwir Chos—malal. Gyda Chili y mae hen gyvathrach y bobl hyn—yn wir hwynthwy yw yr Arawcaniaid, ac ol yr hen genadaethau Jesuitaidd ar eu devion hyd heddyw.
XXXV.
ELVENAU DAEARYDDIAETH A DAEAREG Y DIRIOGAETH.
Drwy gymorth y map cydiol gyda'r llyvr hwn, gellir amgyfred yn well a chael peth dirradaeth am y wlad vawr sydd yn myned dan yr enw Tiriogaeth Chubut—sev rhan ganol y mynegiad amwys gymerid yn gyffredin gynt dan yr enw Patagonia. Mapiau arverol Prydain ac Ewrob a'i galwasant Patagonia: eithr yr hen enw gwreiddiol Hispaenig ar yr holl wlad oedd Patagones: sev yw hyny, y Traed Mawr, am mai velly y traddodiad am vrodorion cynhenid cawraidd y wlad. Y Llywodraeth Arianin, pan gavodd veddiant o'r wlad, a'i rhanodd yn bedair tiriogaeth, sev Rio Negro, Chubut, Santa Cruz, a Tierra del fuego. A'r un yn myned dan yr enw Chubut yw y rhandir vawr sydd at law y Wladva i'w phoblogi a'i dadblygu (gwel y trevniant llywodraethol). Yr eglurhad ar yr enw sydd vel hyn: Y brodorion arverent alw y briv avon dan yr enw Chupat (vel yn Saesneg) neu Tsiwba: ond chupar yn Hispaenaeg yw diota neu lymeitian, a rhag i'r lle gael llasenw barnodd Dr. Rawson (y priv weinidog) mai Ïlareiddiach enw vyddai Chubut (a seinio y ddwy u vel w).
Wrth wneud y rhaniad hwn, nid yw ond llinelliad daearyddol dychmygol o ran de a gogleddd: ond cadwen mynyddoedd yr Andes yn y gorllewin, a Môr y Werydd ar y dwyrain yn finiau eglur. Rhaniad mawr Natur arni yw y ddwy avon o'r Andes i'r môr—sev y Chubut, o tua lled. 42° a hyd. 72°, gan arllwys i'r Werydd lled. 43.15; a'r llall yw yr avon Sin—gyr, o Lyn Fontana, yn lled 45°, ac wedi teithio rhyw 400 milldir yn ymddyrysu tua Llyn Colwapi, lled. 45.50.
Rhaniad arall Natur arni yw y gwregys, traws i'r ddwy avon (a nentydd eraill), sydd yn finio ymyl mynyddoedd yr Andes—o 42° i 46°—gwregys iraidd tyviantus. gydag aberoedd a choed mewn manau; ond chwyddiadau o ucheldiroedd gwastad, eithr gostyngiadau eang, vel meingciau neu risiau aruthr, dan wisg o borva heb vod yn doreithiog bob amser.
Megys o ystlysau y cewri dwyreiniol i'r chwyddiadau meingciol hyn y daw amryw frydiau a nentydd—y benav o'r rhai yw y Teca, yn llivo o'r de i ogledd am 250 milldir, gan ymarllwys i'r Chubut tua lled 42:50. Y lleill ydynt aberoedd Chirik, Erw—waw, Jenua, Samn, Apele—oll yn tynu tua'r Sin—gyr a Colwapi. Gyda'r arvordir dwyreiniol—min y Werydd—mae y wedd yn wahanol iawn i'r hyn ydyw tua'r gwregys Andesaidd. Yma ceir y furviadau rhyvedd alwai Darwin yn bench formation, megis meingciau neu risiau y cynvyd. Nid ydynt, yn wir, onid gwaelod y môr wedi ei ddyrchavu yn ei grynswth, nes bod yn vyrdd—dir uchel, eithr eilwaith, mewn manau, wedi ei gavnio a'i rychu yn nhreigl cyvnodau. Gan vod hinsawdd y Diriogaeth mor sych, nid yw lleithder a thyviant yn mènu nemawr ar wedd y furviadau ar y copäau: eithr eglur vod rhyw dywalltiadau mawr o wlaw ar adegau yn rhwygo llethrau y paith meingciol hwn yn bantiau a havnau. Amrywia lled y gwregys peithiog hwn o 60 milldir, tua lled. 45.50 (cyver Kolwapi), i 150 mill., lled. 42° at Banau Beiddio. Ond torir ar draws ac ar hyd y paith meingciol priddol, gwaddodol hwn gan rimynau o greigiau celyd neu ronynog garw. Ar gyfiniau y Télsun mae pigyrnau llosgvalog amlwg, yn rhedeg gydag ymylon y paith uchel: tua chwr uchav dyfryn cyntav y Camwy (Chubut) mae y creigiau celyd, talpiog hyn yn rhedeg megys mur gyda'r avon Iámacan, ac yna ryw 50 milldir is i'r de a dorant ar draws, o ddwyrain i orllewin, yn gevnen o'r un creigiau moelion—heb vod yn uchel—nes dod yn agos i'r môr.
Cyvres o'r peithiau a'r creigiau a'r tomenau hyny yw y wlad ganol vawr hono, nes dod at yr agorva o ddyfryndir elwir Dyfryn yr Allorau, neu ar lavar gwlad Rhyd-yr-Indiaid" (lle mae gogwydd i dde-orllewin yn yr avon). Oddiyno ymlaen, i gyveiriad gorllewin, (am ryw 60 milldir eraill) lle yr ymgyvyd gris neu vainc arall uwch, ond yn vwy bryniog a chydiol vel cyvresi cadwenol eithr yn eu hymyl is-beithiau a sych-lynoedd (vel tuag 'Ania"). Ryw 50 milldir pellach yn yr un cyveiriad mae vel petai lanerchau ireiddiach, eithr uwch eto o lyvel y môr—yn ymestyn velly hyd at ymylon y gwregys tyvianus y cyveiriwyd ato.
Mae'n anobeithiol gallu cyvleu mewn darlun geiriau, amgyfrediad o nodweddion mor wahanol i ranbarthau cyfredin Ewrob. Y mae mor eang unfurv o ran rhyw weddau, tra'n amrywio'n ddirvawr o ran rhai neillduolion eraill, vel nas gellir cymhwyso ati yr un desgriviad cyfredinol, vel ag i'r meddwl ddelweddu iddo'i hun ryw syniad clir am y wlad. Ovnadwy, hwyrach, yw y gair addasav am y paith maith, mud: aruthr, evallai, gyvlea y syniad am chwyddion ac uchelion yr Andes yn eu hanverthedd. Nid difaith dywodog: ond difaith gerygog,—sych-bantiau cleiog neu varianog: anialedd o ddrain, a blewyn tuswog rhyngddynt, neu grug cwta mewn manau eraill. Ar rai o'r llethrau oddiar y peithiau, neu wrth odreu rhai eraill, ymddengys tarddiadau o ddwr gloyw—eilw y brodorion "llygaid dyvroedd"—ond lle bynag y byddant dangosir tyviant o vrwyn, neu hesg, neu borva las—yn ol grym y tarddiad. Mewn manau o'r paith hwn mae rhai o'r tarddiadau hyn yn groew, a rhai eraill yn helïaidd, gerllaw i'w gilydd. Mae math arall o'r tarddiadau croew hyn yn bwrlymu o'u cwr yma neu eu cwr arall yn ddysbeidiol, bob ychydig vunudau—rai yn tavlu prilliad yn lled uchel. Lle bo frwd lled grev yn ymwthio o geseiliau neu agenau yn y creigiau, a hono yn ddigon grymus i gerdded gryn bellder, gwelir pysgod ynddi, ond y frwd yn colli ac yn darvod yn raddol, neu y dwr yn nawsio i vod yn helïaidd fel y gwanycha'r llygad. Nodwedd ryvedd yw y frydiau anghyvlawn hyn—lawer ohonynt heb na dechreu na diwedd, a elwir ar lavar gwlad yn "hen welyau". Dichon mai arllwysveydd y tymhorau gwlawog ydynt, ac yna yn madreddu yngwres yr haul nes bod y naws heliaidd ar eu dyvroedd merw oddiwrth yr halltedd sydd yn y tir. Gyda minion y merw—ddwr hwn tyv cyrs a hesg, ac y mae yn gyrchva i lawer o ednod gwyllt.
Ve ddeallir oddiwrth hynyna mai elven vawr hanvodol y Diriogaeth yw Dwr. Lle bynag y mae dwr yn y cyraedd, yno yw cyrchva dyn ac anivail. O gadwen vynyddig yr Andes lliva dyvroedd lawer—y tu gorllewinol (Chili) wlawogydd trymion aml, nes bod y wlad hono (o'i chanol i'w de) wedi ei mwydo'n barhaus. Peth o'r gwlawogydd hyny ddelir gan vrigau yr Andes a livant i lawr y llethrau dwyieiniol, ac a ireiddiant wregysau tyvianus tiriogaeth Chubut: eithr, ysywaeth y son, mae llaweroedd o'r frydiau hyny wedi medru y fordd yn ol i'r gorllewin (Chili) i'r avonydd mawrion sydd wedi ymwthio drwy vylchau yn yr Andes i wneud eu ffordd i'r Tawelfor. Pe buasai yr holl avonydd mawrion hyny i'r dwyrain (yn lle i'r gorllewin), newidiasid holl wedd tiriogaeth Chubut. Daethai avonydd mawrion y Caranlewfu a'r Corcovado (Batu—Palena) i ymyl Bro Hydrev, ond troant yn ol i'r Tawelvor yn ddyvroedd aruthr. Mae llynoedd mawrion Nahuel—huapi a Fontana, a tharddion y Chubut, gerllaw Chili, ond rhedant i'r dwyrain yn yr avonydd mawrion Rio Negro, Chubut, a Sin—gyr. Hawdd olrhain vel y llivai'r Corcovado i'r dwyrain mewn cyvnod daiaregol cymarol ddiweddar iawn, gan gyvuno gyda'r Chubut tua Teca.
Rhwng y Rio Negro (lled. 41°) a'r Chubut (lled. 43.15), nid oes frydiau rhedegog (oddigerth gwregys iraidd y Limay) ynhiriogaeth briodol Chubut. Velly y mae gogleddbarth y wlad, y tu hwnt i Banau Beiddio (hyd. 69°), yn gyvres o beithiau rhywiocach na'r peithiau deheuol: a chan hyny wedi bod yn gyrchvaoedd mawrion i'r brodorion gyda'u haniveiliaid ac i hela.
Mae un nodwedd ddaearyddol arbenig ar ddeheubarth y diriogaeth, sev Llynoedd Kolwapi ac Otron, lled. 45.50, ac o vewn rhyw 50 milldir i'r Werydd. Dangosir ar y mapiau megys petai amryw lynau eithr nid ydynt ond sych—lynau ag weithiau haenen deneu o ddwr ar eu manau isav. Ond mae y ddau lyn (Otron a Kolwapi) yn perthyn i'r avon grev Sin-gyr—y cyntav yn gronva greigiol o ddyvroedd gloywon, a pheth gover yn rhedeg ohono dros erchwyn ddwyreiniol i'r Sin-gyr, lle y gwna'r tro wrth anelu i'r badell vawr sydd yn myned dan yr enw Kolwapi—enw brodorol yn arwyddo cwdyn neu dderbynva. Pan vydd y Sin-gyr yn grev bydd llyn Kolwapi yn gryn 60 milldir o amgylchedd. Ond dywedir ei vod ar adegau yn gwbl sych; tra hyny o ddyvroedd liva o'r Sin-gyr yn ymgolli yn y corsydd canghenog rhwng hyny ag Otron. Ar gyver arllwysva'r Sin-gyr y mae vel petai barhad o'r avon yn myned yn ei blaen o'r llyn, ond mewn gwely llai lawer, ac yn myned dan yr enw Iamacan. Pan sycho Kolwapi, ganol a diwedd hav, a gwyntoedd cryvion y tymor yn codi y llaid sych yn lluwchveydd tomenog nes tagu bala yr Iamacan, neu ymlunio yn gorsydd merw, mor belled ag y bo pwysau digonol i wthio'r avon ar ei gyrva tua'r Chubut. Tua haner fordd yr Iamacan i'r Camwy y mae pantle mawr, yn agor oddiyno am y môr yn y man elwir Camerones: ar waelod y pantle mawr hwnw, gysylltai yr Iamacan â'r Camerones, y mae rhedwely heliaidd yn arwain i'r môr, yn ol vel y bydd tymorau gwlawog a'r tarddiadau oddiar y llethrau yn ymarllwys i'r pantle.
Megys i acenu y sylwadau blaenorol parthed oll—bwysigrwydd "elven deneu ysblenydd" DWR mewn tiriogaeth sech vel y Wladva, rhoddir yma rai dyvynion o lawlyvr D. S. Davies am y gelvyddyd o ddyvrhau:—
"Ceir drwy ddyvriad lawer mwy o gnwd, ac yn vwy cyson—bob blwyddyn yn ddifael, a gellir poblogaeth luosocach ar bob milltir, a gwell iechyd nag a geir mewn un wlad ar y ddaear ag sydd yn dibynu ar y gwlaw am ei chynyrch.
"Y mae y tir o vath ag sydd yn derbyn gwres yr haul i ddyvnder mawr, a pheth o'r dyvnder hwn heb ond ychydig neu ddim lleithder, nid yw y gwres yn cael ei vwrw allan na'i leihau, eithr gwasanaetha velly i gynhesu y rhan a leithir gan ddyvriad, a'r amod hwn sydd yn rhoddi tyviant heb vawr o rwystr gan nad oes nemawr ddyddiau cymylog, niwliog, oer, na llaith. Wedi i'r gwenith gael ei ddyvrio yn ddigonol, ac iddo gael pen da, atelir y dwvr, i'r gwenith gael aeddvedu y mae'r gwaith hwn yn myned rhagddo yn ardderchog. Nid oes tywydd gwlawog i achosi y rhwd, na nosau oerion, llaith yn aravu dadblygiad y grawn trwy ei grebychu na'i vallu; ac â'r gweithrediad feryllol ymlaen yn ddirwystr i vuddugoliaeth."
"Yn Nhiriogaeth Utah y mae dyvriad wedi cyraedd y llwyddiant mwyav yn America. Y mae diwydrwydd medrus a phendervynol y Mormoniaid wedi gwneud i'r "anialwch vlodeuo megis rhosyn." Yn Great Salt Lake City, mae'r frydiau o'r mynyddoedd wedi cael eu dysgu i redeg trwy yr ystrydoedd, i vaethu eu coed cysgodol, a dylivo eu gerddi, a'u maesydd a vlodeuant o frwythlonder. Arwynebedd cyvrivedig y tiroedd aradwy yw 268,000 o erwau, yr hyn, yn ol 640 enaid ar bob milltir petrual o dir dyvredig, a roddai gynhaliaeth i 402,000 o drigolion, ar gynyrch amaethyddiaeth. Dyvrir 134,000 o erwau—yr oll a drinir."
"Yn California gwelais gamlesi dyvriol wedi cael eu hagor gan y brodorion, dan gyvarwyddyd y Cenhadau Jesuitaidd. Ymhob Cenhadaeth Babyddol y mae y camlesi yn ymestyn am villtiroedd dros dir na chynyrchodd ddim cyn i'r frydiau advywiol hyn gael eu gollwng ar led drosto. Mae dylanwad cyfrous yr aurgloddiau, am beth amser, wedi aravu dadblygiad adnoddau amaethol California; ond nid yw yr amser ymhell pan y bydd yr oes euraidd" yn gwelwi o vlaen cyvundrevn berfaith o Ddyvriad; oblegid y mae hinsawdd, a gweryd, a dwvr y Dalaeth yn neillduol addas at hyny. Dygir proviad y mwnwyr ynhrosglwyddiad dwvr i wasanaeth amaethyddiaeth. Troir y dwvr sydd wedi ei groni gan natur i vaethu crasdir dyfrynoedd y Sacramento a'r San Joaquin, gan gyvoethogi yr amaethwr yn vwy na'r mwnwr.
"Yr unig ddyogelwch i amaethyddiaeth yn California yw mabwysiad cynllun eang o Ddyvriad, a'r unig ddyogelwch rhag newyn. Dim ond 20 modvedd o wlaw sydd yn disgyn yn California, pan y mae yn vwy na dwy waith hyny yn y Talaethau Dwyreiniol ac yn Ewrop,"
Italy yw gwlad glasurol y gelvyddyd o Ddyvrio. Yno y mae peirianaeth ddyvriol yn cael ei dysgu vel celvyddyd, a'i hanrhydeddu vel profeswriaeth. Yn Turin y mae priv Athrova y gelvyddyd: a cherllaw y mae cyvundrevn eang o ddyvriad; ceir velly gyvleusderau i'w dysgu yn ymarverol. Mae yr Eidaliaid presenol wedi rhoddi eu sylw yn vwy i ddyvriad tiroedd aradwy; a chanddynt hwy y mae y gyvundrevn berfeithiav o ddyvriad o bawb yn Ewrop. Camlas Ticinio yw bywyd Lombardy, ac y mae yn gweithio er ys 600 o vlyneddoedd. Ac y mae y wlad hono yn un o'r gyvoethocav a mwyav poblog a welodd y byd erioed. Yn Piedmont hevyd, mae y rhandir ddyvredig yn viliwn a haner o erwau."
"Parodd y newyn yn India Brydeinig i'r Llywodraeth ymgymeryd âg adeiladu camlesi dyvriol. Y penav o'r gweithiau hyn yw Camlas y Ganges, agos 1000 o villdiroedd o hyd. Cymer hyn o'r avon Gysegredig 8000 troedvedd cubaidd yr eiliad o ddwvr. Y mae y llavur hwn wedi cael ei wobrwyo yn helaeth yn ngwareiddiad y bobl, yn y gwelliant mawr yn eu cyvlwr iechydol, a'r cynydd anverthol yn y cyllidau i'r Llywodraeth oddiwrth ardreth y tir a'r dwvr. Drwy y rhwydwaith ddyvriol hon, darostyngwyd 11,102,048 o dir gwyllt, difrwyth ac aviachus. Yr oedd y draul yn £1,500,000, a'r elw ar ol 'talu pob treuliau, yn rhoddi cyllid i'r Llywodraeth o 23⅓ y cant.
"Anialwch o dywod a chwerwyn (sage brush) oedd y Salt Lake Basin, Utah, pan sevydlodd y Mormoniaid yno ddwy vlynedd—ar—hugain yn ol; ond trwy ddyvriad a gwrteithiad y mae rhan vawr o'r dyfryn wedi ei wneud yn gyvartal o ran frwythlondeb, i diroedd brasav y Talaethau Dwyreiniol.
"Pan aeth y Mormoniaid yno gyntav, nid oedd coed na phrysgwydd yn tyvu lle mae Dinas y Llyn Halen. Trwy eu dyvriad efeithiol, addurnir y lle yn awr â niver mawr o goed locust a chotwm. Ceir y cyntav o'r had, a thrawsblenir y llall o'r mynyddoedd. Mae gan bob heol yn y ddinas ei frwd o ddwvr, a dyvrir pob gardd yn y ddinas yn rheolaidd dan gyvarwyddyd swyddogol."
"Yn ychwanegol at y sicrwydd am gnydau rheolaidd, y mae cynyrch tiroedd dyvredig yn vwy na chynyrch tiroedd eraill (trwy wlaw) o un ran o bedair i un ran o dair. Mewn hinsawdd dymherus y mae y cynhauav yn cael ei osod allan o gyraedd dylanwad y tymhorau.
"Nid yw tiroedd dyvredig byth yn rhedeg allan. Braseir hwynt yn awr yn rheolaidd gan waddodion. Mae y pwnc o iachusrwydd a moesoldeb wedi cael ei brovi yn voddhaol yn niwylliant ac adveriad llanerchau difrwyth yn India, lle mae pobloedd lluosog wedi cael eu dwyn o gyvlwr o drueni, a newyn a gwrthryvel, i sevyllva o iechyd, boddlonrwydd, a llwyddiant, trwy y cnydau toreithiog a gynyrchir gan Ddyvriad.
"Yn Italy, lle y cedwir covriviad, y mae cynydd y boblogaeth yn y parthau dyvredig yn 50 y cant yn vwy nag ydyw yn y parthau sydd yn dybynu ar y gwlaw. Gellir priodoli lluosogrwydd mawr y Chineaidi helaethrwydd eu cyvlenwadau o ddwvr.
Yn elvenol gellid dosranu Daeareg y Diriogaeth:—(1) Cadwen vawr yr Andes, megys asgwrn cevn; (2) Y gwaenydd godreuol wrth y rheiny, vuont dan waddodion a dylivion, ac a gavniwyd ac a rychwyd wedi eu codiad; (3) Y canolbarth bryniog, creigiog, toredig, gyda chymalau ac ymylon o'r paith; (4) Y peithiau eang, unfurv, wedi eu llivio a'u sgwrio yn gymoedd priddog a chleiog, a'u malurion yn crynhoi tua'r gwaelodion; (5) Creigiau llosgvalog (volcanic) gwahanedig yma ac acw drwy y furviad paith godent yn fyrnau byw ar adegau; (6) Yr arvordir vel dangoseg o'r gweithrediadau.
Wrth vod hinsawdd y Diriogaeth mor sych a sevydlog ni raid dyvalu nemawr am y driniaeth vu ar y wlad. Gwres haul cryv mewn gwlad sych, a rhew miniog ar adegau, a rhuthr o wlawogydd yn ymdywallt weithiau ar lethrau ac i bantiau—dyna'r saernïaeth y bu'r wlad dano. Ar yr uch-wyneb graianog presenol y mae megys petai mewn argraf mai gwaelod môr ydoedd yn ei grynswth, táw ar y gwyneb hwnw ceir cyfion coed envawr wedi ymgaregu yn eu corfolaeth, 12 i 15 llath o hyd, yn brenau preifion di-geingciau; a thalpiau drylliedig ohonynt dros lawer o wlad, ac mewn amryw furviau. Yna mae yr haen drwchus o gleigraig (soap-stone Darwin) o vilionos, morol wedi bod a rhan aruthrol yn y furviadau o'r arvordir i lethrau yr Andes, yn rhimynau gwynion, neu liwiau eraill, ac o amryw furviau a graddau. Gyda'r tosca hwn y mae cregyn wystrys fosylog aruthr o vaintioli: tra ar ben uchav bryncynau neu bigyrnau o baith y mae cregyn wystrys llai a meddalach, yn gystal hevyd a chregyn gleision lled debyg i'r rhai presenol. Gyda'r rhai olav hyn y mac llavnau a chlapiau o gypsum yn disgleirio'n llachar yn yr haul, neu wedi ymdorchi i lawer furv a modd, ond oll yn awgrymu yr halen elai i'w cyvansoddi. Gyda'r malurion morol hyn ceir tomeni o ddanedd siarcod a moelrhoniaid, yn gymysg âg esgyrn pysgod o amrywiol vathau, ond rhai ohonynt heb vod yn ddyeithr iawn. Mewn manau eraill ceir fosylau neu vrisg o greaduriaid lleidiol, a rhai ereill tiriol yn byw ar wellt a gwreiddiau. Arbenigir un o'r rhai hyn gan y naturiaethwr Almaenig enwog Burmeister, vel y ddolen oedd yn cydio y cefyl yn ei ragvlaenor fosylaidd cyn iddo vagu y carn cyvlawn.
Ar gyfiniau y Télsun y mae arwyddion amlwg o gynhyrviadau llosgvalog enbyd—y bryncynau min y paith vel rhesi o simneiau pigyrnol a'u crateri yn agored, lle mae cavnau o ddwr gloyw yn ffynonau i'r gwanacod. Yr uch—baith gerllaw a orchuddir o dalpiau o geryg duon llosgedig, ac o'u deutu yn orchuddiedig o ddarnau crisial a lludw du. Beth yn nes i'r gogledd y mae nant lled grev (Nant Egwyl), a chyda minion y frwd y mae yslaven werdd, debyg a vo'n codi oddiar ryw gyfyrddiad copraidd—tra gwahanol i'r yslaven heliaidd gyfredin i'r paith.
Yn yr un cym'dogaethau ag uchod y mae mynydd Pitsaláw, o ryw vath o galchvaen laswerdd: ac o'r naill du iddo ddwy fynon y barnai gwyddonwr a'u provodd vod rhyw olew carbonaidd ynddynt. Ychydig i'r gorllewin oddiyno mae y dywodvaen goch newydd: ac ar odreu Banau Beiddio, heb vod ymhell o'r un ardal, y mae marmor gwyn yn brigo ar lawer man yno. Tua'r Iamacan y mae talpiau o obsidian du caled iawn. Hwnt i gwr uchav dyfryn Kel-kein y mae haen ddu, elwid Havn-y-glo am y tybid vod trysor du yno. Yna ar draethau y môr yn New Bay y mae tywod du trwm iawn, yn rhedeg yn rhimynau, y gelwir manganese arno: ceir yr un tywod du trwm ar ddyfryn y Camwy.
Rhestrir yma vel hyn rai dichonolion mwnol, vel awgrymion daearegol am y wlad.
Pan giliodd y môr oddiar y paith presenol, gadawodd ar ei ol lawer o naws heliaidd yn y ddaear, ac wrth mai ychydig wlaw mewn cydmariaeth sydd yn disgyn yno nid yw yr halen yn cael ei sgwrio allan i'r avonydd. Gan hyny y mae y vetel drom halen yn ymgeulo mewn llynoedd a fosydd alkalaidd, gan sychu yn yr haul hav, eithr i doddi drachevn pan syrthio gwlaw, os na vydd digon o rym yn y llivogydd i sgwrio'r heli i'r avonydd rhedegog. Pan ddeuir i gyfiniau'r Andes y mae halen yn beth mor amheuthyn vel y mae'r aniveiliaid yn chwilena am bob naws ohono gafont: a chludir peth ohono yno o'r llynoedd halen agosav i'w roi i'r daoedd, am yr ovnir vod prinder ohono yn cadw daoedd heb besgi gystal.
Rhoddir yma erthygl gyhoeddodd naturiaethwr Frengig, deithiasai yn ddiweddar dros ranau o diriogaeth Santa Cruz, sydd yn ddamcanaeth ddaearegol ddeallus am y wlad o Rio Negro i gydvor Machelan—cymwysadwy at diriogaeth Chubut.
"Adeg bell yn ol, ni vodolai y Tiriogaethau Cenedlaethol a elwir Patagonia. Lle yn awr y rhed y brodor a'r wanaco a'r estrys, rhedai tonau y môr nes golchi traed yr Andes. Ond môr bas ydoedd, a'i waelod yn graddol godi, nes o'r diwedd iddo ddyrchavu goruwch y dwr, ac wele dir newydd. Yna planhigion a chreaduriaid a ddaethant i lawr o'r mynyddoedd ac o'r gogledd, a dechreuasant gartrevu ar y gwastadedd newydd. Yr oedd yr hinsawdd yn dyner, ac nid oedd yr Andes mor uchel ag ydyw yn awr. Heidiai yr avrived vathau lawer o greaduriaid a vywient yn y llysieuaeth rongc orchuddiai y wlad. Ymhlith y Mamodiaid y rhai penav oeddynt Gedogion, tebyg i kangarw Awstralia: a chyda hyny 'epenlates, pachyderms a rodents'a'r rhai olav hyn yn anverthol vawr, tebyg i'r Megamys ddarganvyddwyd gan d'Orbigny yn Ross Bay—llygoden gymaint ag elephant. Nid oedd y tir yn uchel uwch y môr, a rhedai cilvachau lawer o'r arvordir allanol. Nid oedd brinder dwr croyw chwaith. Er na vodolai y llynoedd mawrion presenol—Viedma, Santa Crws, &c., eto yr oedd pantleoedd corsiog, bas, yn britho y gwastadedd. Yn yr Andes chwydai llosg—vynyddoedd vwg a thân a malurion, a chludid y rhai olav hyn gan yr avonydd i'r pantleoedd a'r môr. Tebyg iawn hevyd y gwlawiai, ar adegau, luwchveydd llosg—ludw vel geir yn awr, ond yn amlach a thrymach y pryd hwnw. Parhaodd pethau vel hyn yn hirhir, hyd nod i ddaeareg. Yna daeth cyvnod arall yn lle mai mynyddoedd yr Andes yn unig oedd yn llosgi a lluchio, torai y chwydion allan yn nes i'r môr,—gymaint velly vel y gorchuddiwyd llawer rhanbarth gyda'r lava ulw hwnw ddeuai allan o'r ddaear. Yna dyrchavwyd yr holl wlad yn arav, arav: a'r Andes a gododd yn uwch a mwy trwch: eira a arosai ar eu copa a'u llechweddi, a gwyntoedd oerion ddechreuasant ysgubo dros y gwastadedd. Yna y meusydd ia yn y cymoedd a'r ceselion ddelent vwy-vwy, yn enwedig ar yr ochrau dwyreiniol: llithrent yn arav tua'r gwaelodion, nes dyvod ar draws y gweryd a'r lludw ymgrynhoasai yn y gwastadeddau: ond nid arosasant yno eu pwysau anverth a'r malurion yn eu crombil a wnaent bantiau dirvawr yn y ddaear, y rhai ydynt yn awr welyau y llynoedd sydd yn y cydiad rhwng godreu yr Andes a'r gwastadedd: ac oddiyno rhai ohonynt a wthient eu gyrva tuag arvordir y Werydd: carient ar eu cevnau ac yn eu crynswth y cerig gasglasent yn yr Andes: lle bynag yr elent, rhychent wyneb y ddaear, hyd nod y lava nis ataliai hwynt: lle buasai glynoedd, avonydd, neu gorsydd, hwy a'u cavnient yn ddyfrynoedd dyvnion a llydain, y rhai drachevn a haner lanwent gyda chynwys eu crombil rhewedig. Yr oedd yr hinsawdd wedi newid evallai nad oedd ryw lawer oerach nag yn awr, ond nid oedd mwyach yn addas i'r llysiau a'r creaduriad wnaethent eu cartrev ar y gwastadeddau. Yna gwastadeddau Patagonia—o chwith i'r hyn sydd yn myned ymlaen yn awr a ddechreuasant ostwng eilwaith, nes o'r diwedd i'r holl ddwyreindir y wlad vyned drachevn dan ddyvroedd y môr, oddigerth, hwyrach, benau rhai o'r bryniau a'r mynyddau llosgval, y rhai a ymddangosent vel ynysoedd ar wasgar yma ac acw. Dyvroedd y môr a gurent yr hen valurion ddygasid gan y meusydd ia, ac a'u malent yn gerygos a graian: llyvnent ymylon y creigiau a chlogwyni, a gwasgarasant yr holl raian a thywod a cherygos dros wyneb y paith mawr lle y maent hyd y dydd heddyw. Nid ymddengys ddarvod i vawr vywyd fynu yn y môr hwnw: evallai am vod yr hinsawdd yn rhy oer eto, ac nid oedd y ceryg rolient ar y gwaelodion yn gwneud y lle yn vanau addas wersyllva i gregin-bysg. Casglu hyn yr wyv wrth nas gwn am ddim fosylau wedi eu cael ar yr haen hon. Yna ciliodd y môr drachevn, pryd y dechreuodd y codiad tir sydd yn myned yn mlaen yn ein dyddiau ni. Nid ymddengys vod y codiad hwn yn gyson barhaus, eithr weithiau yn aravu, ac ar brydiau yn peidio; ac o hyny y mae'r gyvres grisiau o raian a cherygos a geir ar y dyfrynoedd—olion traethau blaenorol. Y mae soddiad yr arvordir ar ochr Chili wedi ei vesur yn vanwl drwy'r blyneddoedd, a cheir ei vod yn saith ran o ddeg o vodvedd bob blwyddyn. Y mae'r ochr ddwyreiniol yn codi hevyd, a hyny yn gyvlymach. Yn Mhorth Gallegos y mae llawer o draeth ymhell o gyraedd y môr yn awr: nid oes dim llysieuaeth wedi cychwyn byw arno: ond y mae ei gydiad wrth y traeth presenol yn ddi-dor gwbl. Velly teg ydyw casglu vod y llain hwn wedi myned yn llwyr o gyraedd y môr, drwy godiad graddol y tir yn y van hono. Gwelais govnodiad o eiddo y Rhaglaw Fontana, am y llong "Union," gollasid yn agos i aber yr avon Chubut, gweddillion yr hon ymhen 5 mlynedd oeddynt 6 troedvedd yn uwch na lyvel uchav y môr. Yn Mhorth Aethwy aethai llong ar dân, a phan losgodd at vin y dwr, suddodd i'r gwaelod; mae y gweddillion hyny yn awr ddwy sgwar, 300 llath, oddiwrth van uchav y llanw. Velly, yr wyv yn tynu y casgliad, vod seildir yr Andes wedi ei ddyrchavu ar un cyvnod, nes bod awelon llaith y môr yn tewychu ar eu llethrau, gan beri llawer mwy o eira nag sydd yno yn awr: a'r canlyniad ydoedd—mwy o eira mwy nerthol vyth, a meusydd ia.
Mae'n amlwg vod dwyrain Patagonia dan y môr yn y cyvnod Eosin ond mai môr bas ydoedd a ddangosir gan y gwelyau wystrys mawrion adawodd yn fosylau, y rhai nad ydynt byth breswylwyr môr dwvn. Gyda'r fosylau wystrys ceir gweddillion Mamodion, yn dangos vod y gwaelod wedi codi yn dir, lle y trigodd creaduriaid mamaethol, nodwedd y rhai a brovant vod yr hinsawdd y pryd hwnw yn llawer tynerach nag yn awr—nad ysgubai gwyntoedd oerion o'r Andes vel yn awr, gan nad oedd y mynyddau hyny mor ucheled. Oddiwrth fosylau creaduriaid y cyvnod, hawdd barnu vod y tyviant y pryd hwnw yn rhonge a bras: llawer o bryvaid yn ymborth i'r dulogiad aruthrol a vodolent, y rhai yn eu tro a vywient ar lysiau. Vod yr arvordir yn vrith o gilvachau a brovir gan y mathau wystrys a hofant ddyvroedd llonydd. Mewn rhai manau y mae esgyrn Mamodion wedi eu haenu mor reolaidd a manwl, vel y gellir darllen eu bod wedi eu claddu gan ludw llosgval mewn dyvroedd tra llonydd. A chyda hwynt y mae gweddillion pysgod dwr croyw, yr hyn ddyry sail i veddwl vod llynoedd beision mawrion ar y gwastadeddau, ac avonydd arav yn cerdded rhyngddynt y rhai olav hyn yn dwyn gyda hwynt benglogau creaduriaid cevnol, haws i'w treiglo na'r aelodau. Yr oedd lludw llosgvalog yn nodwedd arbenig o'r Cyvnod Trydyddol, ac yn dra manteisiol i gladdu a fosylu unrhyw weddillion. Hysbysir vi gan Greenwood, idao ev unwaith yn ddiweddar, vod allan dan y vath gawodau o'r lludw hwn, ger Llyn Viedma, vel y bu ei gefylau am dri niwrnod yn methu cael blewyn o borva i'w vwyta. Mae yr haen lava ddiweddar yn union ar ben yr esgyrn Mamodiaid: a dan hyny y gwely gwyn fosylog trwchus o dosca—yn gap ar yr oll y mae tywod a graian cerygos yr arwyneb. A'r un mor amlwg yw vod y Cyvnod Ia ar ol y Cyvnod Lava, gan vod ol yr ia ar y lava.
XXXVI.
DINAS VAWR BUENOS AYRES, A RHAI DINASOEDD ERAILL.
Mae lle i ovni nad oes gan Brydeinwyr cyfredin nemawr syniad amgyfredol am y Weriniaeth Arianin, a llai na hyny am briv—ddinas, Buenos Ayres. [Sain briodol yr enw yw vel petai Gymraeg, pob llythyren yn cael ei seinio, ond mai sain w sydd i'r u yn Hispaenaeg].
Cyvrivir vod yn y ddinas dri chwarter miliwn o drigolion vwy nag yn Lerpwl neu Manchester.
Eithr nid yw hyny eto yn rhoddi dirnadaeth o vywyd a masnach y ddinas, na'i chyvoeth. Mae heolydd y ddinas yn union groes-ymgroes (rectangular), vel y maent yn blocks o dai unfurv: nid ydynt ond culion cymarol o led (eithr pell o vod mor gyvyng a heolydd Portugeaidd). Gynt nid oedd ond uchder lloft i'r tai, a nènau eu toau yn rhodiadwy: ond y mae bellach er's blyneddau uchderau o loftydd i'r adeiladau ynghanol y drev. Yn hyn mae y ddinas yn ymdebygu beunydd vwy-vwy i Paris,— neu hen Ruvain o ran gwychedd. Oherwydd vod canol y ddinas mor gyvyng, gwariodd y Gorforaeth viliwnau i agor mynedva lydan (avenue) drwy ganol y drev, gan brynu yr holl adeiladau, er vod y prisiad yn envawr. Hono yw mynedva neu rodva y ddinas—yn cyraedd o sgwar Swyddveydd y Llywodraeth, yn union am y gorllewin, ond yn forchi i'r ddau draws-gyveiriad ymhen rhyw villdir. Drwy y rhodva osgorddus hon y bydd holl ddangosion a rhodres a phomp y ddinas yn ymflamychu. Arweinia y vynedva odidog hon i Barc Palermo, cyrchva rwysgvawr y bonedd—ac ar y gwyliau lawer, y gwreng hevyd—i vwynhau y tywydd havaidd cyfredin i'r wlad.
Drwy agos bob un o'r mil heolydd croes—ymgroes hyn rhed y tramfyrdd yn ddibaid, gan udganu cornetau a gyru'r cefylau'n llawer cyvlymach nag y' Mhrydain.
Yna, mae y dociau cyvleus garthwyd o laid Avon Vawr y R. Plate, a'r gangen avrosgo ohoni luniwyd yn geiau tua Barracas. Mae yr agerlongau a'r llongau yn y dociau hyn, o bob parth o Ewrob ac Amerig, yn arwyddo masnach deilwng o Lerpwl: a chan nad yw mwg a niwl a gwlaw yn gordoi yr olygva ond anaml ceir syniad da am y dravnidiaeth.
Nid oes mo'r 40 mlynedd er pan wnaed y rheilfordd gyntav yn Buenos Ayres, sev yr un Orllewinol, o ryw 40 milldir, i drev Mercedes: ac ymhen rhyw 10 mlynedd wed'yn cychwynwyd pwt arall, o 50 milldir tua'r de, i Chascomus. A hono oedd cychwyniad Rheilfordd Vawr y De (Great Southern Railway) sydd erbyn hyn yn tynu at ddwy vil o villdiroedd. Ymganghena y fyrdd haiarn yn awr i bob cyveiriad i'r gogledd hyd at Salta a Jujuy: i'r gorllewin, hyd gribau yr Andes a chydiad wrth Chili: i'r de hyd at Bahia Blanca ar y Werydd, a chaingc o honi gyda'r Rio Negro i gyfiniau eraill yr Andes.
Y rheilfyrdd hyn a'r dociau a'r bangciau (mwyav) gynrychiolant y cyvala Prydeinig yn benav yn y wlad. Ond y mae'r ddyled wladol hevyd yn echwynion gavwyd o dro i dro gan arianwyr Prydeinig ac Iuddewig.
Er mai gwlad wastad yw cyfiniau y ddinas, mae ei maes—drevi yn hardd a phrydverth, wrth vod hinsawdd a gweryd y lle mor gynyrchus. Tŷv aeron a grawnwin a frwythau o bob math yn rhwydd ac yn rhad—yn wir mae'r peaches yno yn y vath gyv lawnder nes peri y vasnach helaeth sydd arnynt wedi eu tynio i varchnad Ewrob. A masnach vawr arall oddiyno yw y cig rhewedig i Ewrob: a'r daoedd byw (devaid a bustych) i Rio Janeiro a Llundain. Mae hyn yn gryn newid o'r hen vasnach gynt mewn crwyn a gwlan a gwer, a chyrn ac esgyrn a lludw. Gwneir eto gryn vasnach yn y pethau hyny, ond gan vod eu gwerth allvorol wedi codi gymaint, nid ydynt nwyddau rhad vel cynt, pan gefid anivail wrth werth ei groen yn unig.
Dinas LA PLATA—ryw 40 milldir o'r briv—ddinas― grewyd i vod yn briv—drev talaeth Buenos Ayres, pan gytunodd yr holl daleithau ar yr hen ddinas vawr i vod yn briv, ac yn seddle y Llywodraeth Genedlaethol, yn y 7—degau [gwel t.d. 14.] Ä chreadigaeth oedd hono. Gwariwyd miliwnau o ddoleri i adeiladu seneddau, llysoedd, ysgolion, dociau, a holl berthynion llywodraeth daleithol—yr oll ar raddva eang a rhwysgvawr, mewn man nad oedd dŷ na thwlc cyn hyny [gerllaw y man y glaniasai y Saeson yn 1807 i gymeryd Buenos Ayres—ond sydd erbyn hyn yn ddinas vawr, aml ei thrigolion.
Oud hwyrach mai y ddinas bwysicav, wedi Buenos Ayres, ydyw ROSARIO—ar yr avon Paraná. Gan vod agerlongau mawrion o dramor yn gallu gwneud hono yn borthladd, a'i bod yn gychwyniad i'r amrywiol reilfyrdd i'r gogledd a'r gorllewin, daeth yn ddinas vasnachol o'r radd vlaenav. Heblaw hyny, y mae o vewn cyraedd gwladvaoedd toreithiog Sante Fe: a chyda hyny heb vod nepell o eisteddle llywodraeth daleithol y dalaeth hono: a dim ond lled yr avon rhyngddi a threv Paraná gyverbyn. Yn y ciprys beunydd sydd yn digwydd rhwng sevydlwyr cymysg y gwladvaoedd amaethol yn y tueddau hyny â'r Ilywodraeth daleithol sydd yn tynu'r llinynau yn Sante Fe, mae pwysigrwydd masnachol Rosario yn mantoli pethau yn rhyvedd iawn yno.
Mae i 14 talaeth y Weriniaeth eu priv ddinasoedd hevyd, a'r rheiny oeddynt henav: gan mai o Peru a Chili yr ymwthiai'r hen Hispaeniaid i veddianu'r wlad ganol, o'r Tawelvor, wedi iddynt, dan Pizaro, gael gavael ar aur ac arian y berveddwlad. Evallai mai Córdova yw yr un vwyav dyddorol ohonynt, vel hen eisteddle dysg a chrevydd y cyvnod hwnw, pan oedd y bobl yn dra pabyddol—ac eto o ran hyny i raddau.
Eithr i wybod manylion ac agweddau y dinasoedd taleithol hyny, byddai ovynol adrodd holl hanes y wlad o gwr bwygilydd —ac nid hyny yw amcan y crybwyllion hyn.
Nid perthyn i'r Weriniaeth Arianin y mae MONTEVIDEO, eithr yn rhan o Weriniaeth Uruguay, neu yr hyn a elwir Banda Oriental (y Tu Dwyreiniol). Ond y mae'r gyvathrach mor agos rhyngddynt, o ran hanes a masnach, vel yr edrychir arnynt agos yr un. Bu y ddinas hono unwaith ymeddiant y Prydeiniaid am gryn amser; a bu wedi hyny yn vaes ymgiprys fyrnig rhwng pleidiau gwleidyddol o ddau tu yr avon Plata: yn wir, byddai deall hanes cysylltiadau y ddwy wlad yn evrydiaeth ddyrys i ddyeithriaid, er mai yr un bobl yn ymarverol ydynt, gyda rhai traddodiadau cymysg Portwgeaidd a Rio Grande.
Erbyn hyn Montevideo yw porthladd hwylus y ddwy wlad, ac amryw gysylltiadau masnachol eraill yn galw am agerlongau cyvleus i redeg bob dydd, ac amlach, rhwng y ddwy ddinas.
CYVLEUSDERAU MORDAITH I'R WLADVA.
O ran cyvleusderau y vordaith o Vrydain i'r Wladva, nid oes bellach ball ar hyny. Mae agerlongau aml yn rhedeg am Buenos Ayres o Lerpwl, Llundain, neu Southampton, am brisiau gwahaniaethol pob graddau. Diau nad oes vordaith hyvrytach yn y byd na'r un ar draws y cyhydedd i Buenos Ayres neu Montevideo, a golygveydd harddach a newyddach i ddyeithryn mae'r vordaith ynddi'i hun yn adnewyddiad–tra gwahanol i groesi'r Werydd i Amerig. Gwneir y vordaith mewn 20 i 25 o ddyddiau.
Mae weithian agerlongau cyvleus yn galw yn y Wladva'n lled reolaidd—agerlongau y Llywodraeth, wrth vyned a d'od i diriogaethau'r De (Santa Cruz a Tierra del fuego). Gan mai amcan y Llywodraeth yw nawddogi y Tiriogaethau, ac nid elwa, mae y cludiad yn rhesymol iawn (£2 neu £3) am vordaith tri neu bedwar diwrnod, gyda chyvleusderau eithav cysurus a purion bwyd, ond vod y bwyd hwnw yn un anghynevin i Brydeiniaid. Yr anghyvleusdra mwyav yw anghysondeb y dyddiau hwylio o Buenos Ayres, a mwy na hyny ansicrwydd adeg eu galw yn Borth Madryn wrth ddychwelyd o'r De. Ymgais y Llywodraeth yw rhedeg un ohonynt ddwy waith y mis, vel ag i gael danvon y mail bob pythevnos: golyga hyny, wrth gwrs, os collir cyvle y bydd raid aros yn Buenos Ayres vythevnos arall eithr i ddyvudwyr mae gan y Llywodraeth adeilad vawr i letya y rheiny yn ddi—dâl nes y cafont gyvle arall i'w mordaith.
Heblaw yr agerlongau hyn y mae hevyd longau hwylio lawer yn y dravnidiaeth i'r Wladva. Gan mai'r cynyrch mawr yw ŷd, a'r dravnidiaeth velly onid allvorio, bydd raid i amryw o'r llongau hwylio vyned i lawr i'r Wladva mewn balast, er mwyn dychwelyd gyda llwyth ŷd. Dangosir hyn yn eglur iawn wrth davleni y dollva a welir isod.
Mae'r DAITH I'R ANDES yn awr wedi d'od yn dravnidiaeth drevnus a hylaw, modd y gellir ei gwneud yn gyvleus a lled ddiymdroi—o wythnos i dair wythnos.
At ddybenion y Gyllidva, dosberthir y nwyddau ddaw i ac o'r Wladva yn ol eu prisiad swyddogol. Nid oes raid treiglo y doleri i £, gan mai cydmaru y blwyddi yn unig wneir.
Eglurhad ar anwastadrwydd y figyrau uchod yw—1 : tymorau o gynhauav salw ; (2) pris y cynyrchion yn mawr amrywio ; (3) gwerth yr arian papur yn amrywio.
Atodiad.
CERDD HELA WLADVAOL,
wnaed gan un o'r Vintai Gyntav i bortreadu aviaeth hela y cyvnod hwnw.
Ysgweirod Seisnig welsom ni'n hela,
A'r Cymry'n capio ac yn capela;
Y Sais mawr ei lais gyda'i gŵn a'i varch,
A'r Cymro gwep lwyd, prin vwyd, a di barch;
'Roedd pryvaid Cymru mor egr gysegredig
A'r Llanau newydd lle pregethid Seisnig;
Os gwelid Cymro ar varch rho'id iddo barch pregethwr,
Os gwelid pry' mewn bwthyn 'roedd yno herwheliwr.
Ond gwelwch wyr y Wladva yn hwylio am yr hela,
Yn Gymry bob copa,
Yn marchog ar gefylau, a'u milgwn wrth eu sodlau-
Rhydd-ddalwyr Patagonia!
Frwyni plethedig, spardynau duriedig,
A chwip i wneud ei hol;
Y gwely o danodd, yr enllyn oddiarnodd,
A'r llestri tùn tu ol;
A thorch o lasso, lle bydd cig, gobeithio,
Yn bynau yn d'od yn ol.
TREITHGANU.
ADRODD.
Mae'r haul a'r helwyr yn disgyn 'run pryd—
Un i wyll nos, a'r lleill wrth ryw ffos,
I aros am yfory.
Celv vreiniol yw ymorol
Am wersyll oll briodol;
Cael dw'r a phorva, tanwydd dan gamp,
A chlamp o lwyn cysgodol.
O ddewis le sydd oreu,
A dymchwel bawb ei daclau:
Rhoi'r lasso hir am vonyn pren,
A phorwch, hen gefylau.
Dechreua'r goelcerth faglu,
A'r llestri dw'r yn berwi;
Y darnau cig ar forchau pren
yn rhostio'n vendigedig.
Fwdanir am fetanau,
Palvalir i'w perveddau;
A thynir ma's bob llonaid dwrn
Ryw swrn o drugareddau.
Bydd bara 'menyn bwysi,
A siwgwr, te, a chofi,
A chaws gan rai (lled wydn ei wedd),
Ond pwynt y wledd yw'r mati.
A dyna lle bydd bwyta
O'r byrddau rhwng y coesa',
Heb sychu ceg, na hidio pwy
Wnaif vwyav, glanav, gynta'.
A'r cŵn rhag iddynt giprys,
Ga'nt bob i haner estrys;
A rhwth orweddant yn y cylch
Yn grynion dyrch cysurus.
'Rol dovi'r alw reibus,
Ymestyn yn gyforddus;
Mae pawb a'i bibell yn ei big,
Yn mygu'n ogoneddus.
Y siarad sy'n sirioli,
A chwedlau fraeth yn frydli';
Ond byrdwn pawb yw "Nghefyl I."
Neu "Nghi vi," ar ben pob stori.
O vlino ar volianu,
'E wneir cyvrwyau'n wely,
A gorwedd wneir yn union res,
A gwasgu'n nes i gysgu.
CYSGU AR Y PAITH.
Doh A.
Arav a thyner gyda mynegiant.
Gorwedd ar wastad cevn, a syll u vry 'r wybren
Covio y vreuddwyd levn oedd bywyd pan yn vachgen
A gobaith yn ddysglaer a siriol
Yn gwenu ar y nav vel y seren draw
Dacw ryw seren dlos, a chariad yn ei llygad,
Harddav ar vron y nos, a'i hamnaid yn at-dyniad ,
Vel y veinir a ddenodd vy nghalon,
A'm llygad-dynodd vel y seren draw.
Cwmwl a niwl sydd draw yn cuddio'r llygaid serog
Wele y lloer a ddaw o gôl y cwmwl torog,
A siomiant, govidiau , traferthion;
O'u hol mae llewyrch fel y lleuad draw.
ADRODD.
Hai ! Vechgyn ! mae'r wawrddydd yn tori!
Gysgadwyr, ysgydwch ddiogi;
Dadblygwch eich hun o'r carpedi,
Dangoswch eich trwynau o'r lleni :
Dowch, codwch rhag blaen, cynneuwch y tân,
A brysiwch bawb oll i ymborthi.
Daw yna ben i'r amlwg,
Ac ambell drwyn i'r golwg ;
Estynir coes, ac yna naid,
Ac wele haid ar gythlwng.
Y cŵn sy'n anodd codi—
Rhaid cicio rhei'ny o'r gwely;
Dylyvant ên, estynant goes,—
Mae'n groes i voesau helgi.
Bwrir yn awr i'r briwvwyd,
Prysurir dros voreuvwyd;
Llosgi y savn wrth lyncu pob davn ,
A thagu ar lavn o gigvwyd.
Cyvrwyir y cefylau,
'E gesglir yr holl daclau;
Mae eisieu nos yn eisieu dydd ,
Vel na vudd ddivudd bwysau.
TREITHGANU.
Ar ol i'r mygwyr danio eu boreuol bib,
A chyn i'r haul gychwyn ar ei ddyddiol wib,
Wele ni bawb ar gevn ei gefyl, &c.
ADRODD.
'Nawr rhaid dewis mayor-domo,
Nodi tervyn i'r puntero;
Gyru'r nesav ar ol hwnw,
A nesav, nesav, o vewn galw:
Yn y man dyrch mwg yn arwydd,
A phawb a droant yn gyvarwydd.
Ac wele'r rheng yn awr yn symud
Vel ' sgubell, nad oes vodd ochelyd:
Syllu, crafu, llygadrythu,
Gwylio'r cŵn pan vo'nt yn sawru,
A hai ! dacw gwrs.
HELGAN ALPAIDD.
Doh A.
Yn vywiog ac ysgavn.D.C
Hwi, hwi, ar ol 'sgy varnog! Ho! dacw'i chynfon wen.
Mae'n chwilio am ei llwybr, ac wedi cael ei ben
Dechreu a estyn coesau'n awr, a'i chlustiau arei gwàr,
Ond dyma Tango i vynụ, a gwae vydd iddi'n' awr;
Hys gi un hwb yn rhag or, a dacw hi i lawr.
ADRODD.
Ar ol rhoi'r gwaed a'r tuvewnolion brwd
I wanc y cŵn, vel rhan eu hysbail hwy,
A rhwymo'r pryv yn dyn tu ol i'r cyvrwy
Rhaid brysio i'r rheng i lanw i vynu'r adwy.
YR HELGAN.
Ho! estrys vaglog bluog sydd genym 'nawr ar hynt,
Yn estyn gwddv i redeg, yn llywio o vlaen y gwynt ;
Mae'r cŵn yn llinyn ar ei hol, ac wrth ei chwt yn awr :
Ha ! dyna dro gan Heini vach! hai 'rwan! hwi cŵn mawr.
Mae'n troi a throsi ol a blaen-a dacw hi i lawr.
ADRODD.
Darnio estrys yn hyforddus
Sydd gyvrinach gywrain gelvau;
Sypio'r holl esgeiriau baglog,
Gwneuthur pwn o'r gwddv a'r coesau,
Yna bwrw'r ddeuben hylaw
Draws y crwper oll yn gryno-
Neidio i'r cyvrwy, yna tithian,
Nes daw pry' i'r golwg eto.
YR HELGAN.
Deadell o wanacod yw rhai'n o draw s'yn d'od,
Ar garlam vawr gefylaidd, a helwyr wrth eu troed ;
Mae'r cryv yn estyn tua'r blaen, a'r wan yn syrthio'n ol-
Yn awr am ' spardyn, chwip, a gwaedd, a phwyo i yru'n gynt:
Hwi Mawddwy anwyl, llam yn nes, a dyro'i thraed i'r gwynt.
A dyna bwn, a dyna ben,
Waeth heb na hela rhagor ;
Mae pawb a'i bwn a'i lwyth yn drwm,
Ac adrev troir yr osgo.
TREITHGANU.
Ac wedi disgyn i gael mygyn bach yn chwaneg,
A dechreu adrodd blith draflith wrhydri y rhedeg,
Wele ni bawb ar gevn ei gefyl.
A dyma ni'n myn'd dow dow, dow dow,
Ar garlam, a thith, a phranc. Hwre!
Heb oval nac ovn am rent na threth!
Ond meddwl am dŷ, a thân, a the.
Argrafwyd gan W. Gwenlyn Evans, Stryd-y-Llyn, Caernarvon.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Nid yw'r mapiau ar gael yma
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.