Cymru Rydd

Oddi ar Wicidestun
Cymru Rydd

gan John Morris-Jones


CYMRU RYDD:

Mi ganaf gerdd i'r wenwlad,
Y wlad y'm ganed i;
Gwlad fwynlan yw fy henwlad,
Heb ei chyffelyb hi.
Mae ysbryd dewr Llywelyn
Yn fyw, a byw yw'r delyn,
A'r iaith er pob rhyw elyn
Yn para yn ei bri.

Ei nentydd glän rhedegog
A ennill bennill bardd;
Ei bryniau gwyllt caregog,
Cyfoethog ŷnt a hardd;
A thanynt mewn tawelwch,
A hyfryd ddiogelwch,
Ei theg ddyffryndir welwch
Yn gwenu megis gardd.


Mae'n wir nad yw ei gwerin
Yn meddu o honi gwys,
Na'r Cymro ond pererin
Ar ddaear Cymru lwys;
Y trawsion a'i meddiannodd,
A mynych y griddfannodd
Y genedl a'i trigiannodd,
Mewn du gaethiwed dwys.

Er hyn i'm gwlad y canaf,
Oherwydd Cymru fydd
Ddedwyddaf gwlad a glanaf,
A dyfod y mae'r dydd
Pan na bydd trais i'w nychu,
Nac anwr i'w bradychu,
Na chweryl i'w gwanychu,
A phan fydd Cymru'n rhydd!

"Cymru Rydd"
O'r gyfrol Caniadau (1907)


Cyhoeddwyd y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1929, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.