Cywydd Marwnad Dafydd ap Gwilym
Gwedd
gan Iolo Goch
- Hudol doe hu hoedl Dafydd,
- hoyw o ddyn, ped fai hwy'i ddydd,
- diogor awdl, da angerdd,
- fab Gwilym Gam gwlm y gerdd.
- Lluniai fawl wrth y llinyn,
- llyna arfer dda ar ddyn.
- Mau ddarpar, mi a ddirpwr
- marwnad o gariad y gŵr.
- Gem oedd y siroedd a'u swch,
- a thegan gwlad a'i thegwch,
- a mold digrifwch a'i modd,
- ymwared ym am wiwrodd;
- hebog merched Deheubarth,
- heb hwn, od gwn, aed yn garth
- cywydd pob cethlydd coethlawn,
- canys aeth, cwyofus iawn.