Cywydd i'r Bel Droed

Oddi ar Wicidestun

gan Wiliam Midleton

Nwyfvs fvm anafvs fodd
yma nwyf am anafodd
yni gwyllt o nwy a gwyn
daith mowrbell daeth im erbyn
och ir nwyf ar chwarav wnaeth
mwyglo n ol im glin alaeth
y glin sydd ar galon sad
glwy oferedd glaf irad
klwyf o achos klyfychv
ochr pla fyth chware pel fv
kwyno bvm kyn kanv i bel
kana i dychan kyn dychwel
pel draed pa wlad a rodio
ba waeth byd yn boeth y bo
pellen y fad felen fawr
bail drwythfa beled rothfawr
peled vffern plaid affrig
ai hanadl yn bowdr dadl dig
penglog ledr tonog ledr tew
yn oddfynflwch addfeinflew
pypgyn o groenyn grinwyw
bola pair yn Ilawn gwair gwyw
merch medda arwa oroen
rhvw hogl grach ir rhvgl groen
glavaden lowngavl ydyw
korwgl dor mwnwgl drom yw
glain o baderav gwlan
bradwr iddew korn brydan
had gwenwyn wedi eginaw
eginyn drwg anwn draw
keglyn diawl koeg evlvn dig
gylla vffernol gwyll ffyrnig
ne gorvn het groen yw hon
y bobl o dir babilon
o groen keffvl mvl ym oedd
ne groen eidion grin ydoedd
knap di fantais pen gaision
ddylvdaw hir ddilid hon
poten y fall petai n fyw
pob astrvs pawb ai ystryw
pawb ai gais fel pe bai gâst
gwengi foel gynhaig filiast
pe brwydr pawb a redai
vwch ben hon achvbwn hai
ym gvro y mae gwerin
ym yrv yn bla ymron blin
ym dynv amod anoeth
amav r pwyll ymyrv poeth
ym droi ffell ymdaro fflwch
ym gvtio am y goetwch
ymysgwyddai ymysg eddyl
pybyr gorff pawb ar ai gwyl
a bydd yn ol baeddv n wir
fry gynen a fawr gwynir
aflawen genfigenv
kair yno dwyll y kroen dv
gwyn i fyd trwy febyd traw
gwr bydol a gar beidiaw
ag ymwrthod ar goden
afreolvs hevnvs hen
ffoledd yw ym gyffylv
och or dig ywr chwarav dv
os kellawair yn ddiwair dda
wych lwyddiant na chwilyddia
os chwarav yn dechravr daith
afrolvs na friw eilwaith
medrwn o . . . wn ymadrodd
gyngor kall roi i arall rodd
ag ni wyddwn gwn addef
gwael iawn wedd i galyn ef
ni bydd anedwydd nodan
kall erioed nes kollo i ran
pand yw n wir poen dyn arall
gwneiff dedwydd yn gelfydd gall.