Cywydd i F'redydd ab Ieuan Fychan, I Ofyn March

Oddi ar Wicidestun

gan Guto'r Glyn

CYWYDD I F'REDYDD AB IEUAN FYCHAN, I OFYN MARCH

Meredydd im wr ydwyd,
Yn mro Hafren, yn ben wyd;
Fab Ieuan Fychan ddi fost;
O wŷn rwth yma a'i enw'r aethost;
Heirddion dy gyffion di i gyd,
Hwfa a chynddelw hefyd.
Da bleidiaw di bwl ydwyd,
Dwyfol Sant, di falais wyd;
Dy arfer caru'r 'fferen,
A dal tŷ da wrth dlawd hen.
Dy ddewis-beth bregeth brawd,
A chywirdeb a chardawd;
Dae Llan yng Nghedewain dir,
Llyfrau brud, llafur brodyr;
Rhyfedd, o raid arfeddyd,
Fod cwys o Bowys heb ŷd.
Carwr cyfathrachwr wyd,
Caredig fal câr ydwyd.
Am dy gefn mae dy gyfarch,
Mab Ifan Fychan, am Farch.
Mawr yw fy ngholled M'redydd,
Mawr a chryf oedd y march rhydd.
A gwden am ben o'm bodd,
Y ci lleidr a'm colledoedd.
Eirch Reinallt it' farch rhawn-hir,
Fab Syr Gruffydd hafydd hir.
Dyro lle dygwyd arall,
D'ebol llwyd i Stabl y llall.
Mae gorwydd teir-blwydd i ti,
Dulas heb ei bedoli.
Troed-noeth, fal brawd lled-noeth llwyd,
Rhawn-llaes, fal Prior henllwyd.
Nid edwyn ffrwyn did yn ffrom,
Nag esgid oni gwisgom.
Rhaid i'w gern yn rhedeg allt,
Wisgo ffrwyn os caiff Rheinallt.
A gwyn ei fyd, nid gwan fo,
A gai'r ebol i'w gribo.
Mab i'r du 'mhob erw deg,
O Brydain, a b'ai redeg.
Merch yw ei fam, march o Fon,
Aeth i ddwyn wyth o ddynion.
Mae wyrion i ddu'r moroedd,
Minai a wn mai un oedd.
Mae yngo nai, myngwyl Iâl
Yn Mhowys ni's rhwym hual.
Mae'n gâr i farch Ffowc Warin
A'i gâr fal y gwair a'i fin.
Ucha march o achau Môn,
O baladr Tal ebolion;
Dewis lwdn, nid oes ledach,
A'i draed yw, ei bedair âch.
Pedest o eddestr a ddwyn,
Prior ffres yn pori'r ffrwyn.
Os bwrw naid dros Abernant,
Ef yw'r trechaf o'r tri chant.
March fal gwddf alarch yw fo,
O myn y ffroen-wyn frwyno.
A'i fwng yn debyg ddigon
I fargod tŷ, neu frig ton.
Llun ei gorph yn llawn o gig,
Llun o gwŷr, yn Llan-gurig.
Llygad-rwth, a lliw gwydraidd,
A llew yn ei flew, neu flaidd.
Llyna farch, a llaw'n ei fwng,
Troellog yn heol y Trallwng.
Nid eirch dy Nai haenen hen
Ond arched un di archen.
Moel d'ebol i bedoli,
Moes dy blanc im Stabl i.
Moes orwydd grymus hirell,
Moes farch, ac arch a fo gwell.