Cywydd y clera yng Ngheredigion
Gwedd
gan Deio ab Ieuan Du
- Y sir oll a fesuraf
- o Deifi i Ddyfi ’dd af;
- o Dywyn ac o’r glyn floew
- y treiglaf i’m gwlad tragloew;
- profi achoedd prif uchel,
- ac ar dwf y gwr y dêl;
- dechreu o ddeheu ydd wyf,
- y Sirwern gwlad ni sorwyf:
- Hil Rhys melus y molaf,
- Tewdwr o Ddinefwr naf:
- Galw llwyth Einion Gwilym,
- y sy raid yn y sir ym’.
- Oddi yno mae f’eiddunoed,
- Dros y Cwm i dir Is Coed;
- Ym mlith llin Rhys chwith ni chaid
- Ond aur gan benaduriaid;
- Clawr rhif y gwr digrifion,
- Coed y maes yw cyd y Mon;
- Agos yw Caerwedros ym’,
- Dros y ddeheuros hoewrym.
- Dyfod at waith Llwyd Dafydd,
- Da fan gan bob dyn a fydd;
- Doniog i ni fod myn Deiniol
- Yn fardd i hil Llywelyn Foel!
- Trown yno trwy Wynionydd,
- Clera difeita da fydd;
- Llwyth Dafydd Gwynionydd gân,
- Hael faich o Hywel Fychan;
- Pob rhyw [wr] pybyr eiriau,
- O Ddinawal a dâl dau.
- Oddi yno deffro’r dyffryn
- Rhwyfo’r glod rhof ar y glyn,
- Pob man o’r glyn a blanwyd,
- Pob ffin a llin Ieuan Llwyd;
- Dyfod at wyrion Dafydd
- Tros y rhos, wttreswr rhydd;
- Dilyn y man y delwyf,
- Pobl Weithfoed erioed yr wyf:
- Mawr a wnaf, myn Mair a Non!
- O Benardd a Mabwynion,
- I riniog oludog wledd,
- Mi af yno, mae f’ annedd:
- Hil y Caplan, oedd lanaf,
- Gwir iawn, ei garu a wnaf.
- Troi f’ wyneb traw i fynydd,
- Drwy y sir o dre y sydd;
- Amlwg yw hil Gadwgon,
- O waelod hardd y wlad hon.
- Goreu ceraint gwr carawg
- A llyn fydd rhyngddyn’ y rhawg.
- Digrifion myn Duw grofwy,
- Doethion a haelion n’ hwy,
- Câr iddynt wyf o’r Creuddyn,
- Llyna haid o’i llin i hyn;
- Llinach Llywelyn Ychan
- Y maent hwy oll, myn y tân.
- Enwau y cwmmwd einym’
- Perfedd hyd Wynedd, da ym’:
- Llawdden oedd y gwarden gynt
- Hil Llawden hael oll oeddynt.
- Achau y cwmmwd uchod,
- Geneu’r Glyn lle gana’r glod;
- Moli hil Gynfyn Moelawr,
- Ydd wyf fi, ac Adda Fawr.
- Llyna hwy wrth y llinyn,
- Achau’r holl gymmydau hyn:
- Ufudd a dedwydd da iawn,
- A mawr agos môr eigiawn;
- Troi’n eu mysg trwy ddysg ydd wyf,
- Tros y wlad trasol ydwyf.
- Ni chawn, myn Duw a Chynin!
- Dy bach o’r Deheu heb win.
- Llawen fyddai gwên pob gwr
- Wrth Ddeio gymmhorthäwr;
- Rhai dibwyll aur a dybia
- Na chenid dim ond chwant da,
- Cariad y ddeheu-wlad hon,
- Rhai a’i haeddodd â rhoddion.
- Lle mager yr aderyn,
- Yno trig, natur yw hyn;
- Minnau o’r Deau nid af;
- Ar eu hyder y rhodiaf.