D Rhagfyr Jones (o Dywysydd y Plant 1901)

Oddi ar Wicidestun
D Rhagfyr Jones (o Dywysydd y Plant 1901)

gan T Taborfryn Johns

TYWYSYDD-Y-PLANT.

Rhif 9. MEDI, 1901. Cyf. XXXI.

PARCH. D. RHAGFYR JONES, TREORCI.[1]

 MAE Mr. Rhagfyr Jones yn frodor o Ddolgellau—tref fechan ond a ystyrir fel prif dref Sir Feirionydd—saif mewn dyffryn llydan ffrwythlawn o brydferthwch mawr, wrth odreu Cader Idris. Perthyna llawer o hynafiaethau i dref Dolgellau a'r gymdogaeth—ystyrid y lle hwn hyd yn ddiweddar fel un o'r rhai mwyaf Cymreig yn Ngwynedd, ac aml y dyfelid mai yma y byddai cartref olaf yr iaith Gymraeg, ond y mae y Rheilffordd a'r ysgolion yn newid yr argoelion yn gyflym. Ar Rhagfyr 17eg, 1858, yn Nolgellau y ganwyd gwrthrych ein ysgrif. Dygwyd ef i fyny gyda ei dadcu a'i famgu o ochr ei fam. Yr oedd yn blentyn bywiog ac o feddwl cyflym a threiddgar. Dysgodd ddarllen yn bum mlwydd oed, a dechreuodd enill gwobrau am adrodd a darllen pan tua saith oed. Cymerwyd ef i'r ysgol gyda ei fod yn dechreu cerdded. Yr Ysgol Fritanaidd yn gyntaf neu Ysgol Capel Mawr (M.C.) fel ei gelwid, yna Ysgol y Bwrdd. Prentisiwyd ef yn Pupil Teacher flwyddyn cyn amser oedran, a gwasanaethodd dymor o bum mlynedd fel y cyfryw dan Fwrdd Ysgol Dolgellau. Bu am beth amser yn cael gwersi prifat gan y Parch S. O. Morris, M.A. prif athraw yr Ysgol Ramadegol yn y lle, ac yn niwedd 1877 aeth i Lundain, a bu yn is-athraw yn Kentish Town, dan Fwrdd Ysgol Llundain. Dychwelodd oddiyno yn mhen blwyddyn, a bu wedyn yn Ohebydd yn Swyddfa y Dydd, Dolgellau. Yn ystod yr amser hwnw, yr oedd yn adnabyddus fel arweinydd côr lled lwyddianus, a rhagorai hefyd am ddarllen Cerddoriaeth yn Nodiant y Sol-fa ar yr olwg gyntaf.

Cafodd ei dderbyn yn aelod o Eglwys Dolgellau yn ddeuddeg oed gan y gweinidog athrylithgar y Parch E. Aeron Jones (Manordeilo yn awr). Yr oedd ei fab y Parch E. Griffith Jones, B.A., Balham, Llundain, yn cael ei dderbyn yr un pryd. Drwy ei fod wedi ei fagu yn awyrgylch pregethu a phregethwyr teimlai awydd er yn fore iawn i fyned i bregethu ei hunan, dechreuodd yn Nolgellau o dan weinidogaeth y Parch D. Griffiths (Bethel yn awr). Mr W. Jones, Maescaled—pen duwinydd yr Eglwys a'r dref, oedd y cyntaf i'w gymell i ymgymeryd a'r weinidogaeth. Cawsai y manteision goreu yn y byd i ddyfod yn gyhoeddus drwy gymeryd rhan yn yr addoliad teuluaidd ac yn nghyfarfodydd gweddiy bobl ieuainc. Pregethodd y tro cyntaf yn y gyfeillach oddiar Luc xxii, 28. Pregethodd yn y gyfeillach yr ail dro oddiar Matthew vi, 21. Canys lle y mae eich trysor yno y bydd eich calon hefyd, yna o flaen y gweinidog nos Sul oddiar yr un testyn a'r ail dro. Aeth yn fuan wedyn ar daith bregethu am bythefnos drwy ranau o Siroedd Meirion ac Arfon. Ceir hanes llawer o'r daith yn y Dysgedydd am Rhagfyr 1894. Aeth ar ol hyny am daith arall drwy ran o Sir Drefaldwyn. Yr oedd yn pregethu ar hyd yr amser y bu yn Llundain. Peth anarferol erbyn hyn yn Nghymru yw fod dyn ieuanc yn anfon pythefnos o gyhoeddiadau i'r Eglwysi, ac yn cael derbyniad caredig yn mhob man. Rhaid iddo yn awr ddanfon am ganiatad i bregethu mewn llawer o eglwysi cyn y caiff gyhoeddiad, a dichon mae ei wrthod a gaiff wedyn. Dyna un o'r cyfnewidiadau y mae yr Enwad wedi myned dano yn yr ugain mlynedd olaf o'r 19eg canrif. Ni bu Mr. Rhagfyr Jones mewn Ysgol Ragbaratoawl o gwbl ac nid aeth allan o'i ffordd i ddarparu ar gyfer Athrofa y Bala, eto safodd yr arholiad mor llwyddianus fel y daeth allan yn gyntaf o 15 yn y flwyddyn 1879. Ei athrawon am beth o'r amser oedd y Parchn. M. D. Jones, T. Lewis, B.A. ac Ap Vychan. Collodd gynorthwy y cyntaf a'r olaf ar ol yr ymraniad yn Gorphenaf y flwyddyn hono. Glynodd ef a Mri. Machreth Rees, Llundain, Hopkyn Rees, China, Tawelfryn Thomas, Groeswen, E. M. Edmunds, Llundain, Evans, Blackpool, Thomas, Penrhiwceibr, Jones, Hyde Park America, &c wrth y Coleg y gwnaed y Parch. T. Lewis, B.A. yn brif athraw iddo. Cafwyd helynt flin gyda y ddau Gyfansoddiad—yr Hen a'r Newydd, ac yr oedd yn dywydd mor arw ar fyfyrwyr y ddau Goleg wrth gasglu atynt yn yr Eglwysi, fel yr ystyrid y myfyriwr a dderbyniai alwad yn ffodus dros ben, ac anaml y gwnai un o honynt a gaffai gynyg galwad ei gwrthod. Cafodd Mr. Rhagfyr Jones alwad o

EBENEZER, CEFN-COED-CYMER,

Swydd Forganwg cyn pen dwy flynedd ac urddwyd ef yno Ebrill 12 ar 13, 1881. Y noson gyntaf dechreuodd Mr. R. Thomas, Coleg y Bala (Penrhiwceiber yn awr) a phregethodd Mri. Williams, Hirwain ac R. Rowlands, Aberaman. Am 10 dranoeth dechreuodd Mr. W. E. Evans, Tresimwn, pregethwyd ar Natur Eglwys gan J. Davies. Soar, Aberdar, holwyd y gofyniadau gan Mr. W. J. Richards, Penywern, Dowlais, offrymwyd yr Urddweddi gan Mr. W. Edwards, Aberdar a rhoddwyd cyngor, i'r gweinidog gan Mr. D. Griffith. Dolgellau, Am 2 dechreuwyd gan Mr. Tawelfryn Thomas, Groeswen, a phregethodd Mri. Machreth Rees a J. M. Bowen, Pendaren—yr olaf Siars i'r Eglwys. Am 6 dechreuodd Mr. O, W. Roberts, Coleg y Bala a phregethodd Mri. Evans, Troedrhiw (Penmaen yn awr) a D. Griffiths, Dolgellau. Yr oedd gan y gweinidog ieuanc ei gynlluniau ac aeth ati i'w gweithio allan o ddifrif ond buan yr arosodd gwaith y Gyfartha ar ba un y dilynai y lle yn benaf am ei gynaliaeth, ac ni bu nemawr o lewyrch ar fasnach yn y lle am flynyddau. Er yr anfantais fawr hon ychwanegwyd at nifer a gweithgarwch yr Eglwys, a llwyddwyd i dynu peth o'r ddyled oddiar y capel: Sefydlodd Mr. Rhagfyr Jones Gymdeithas Ddirwestol yn y lle yr hon a ddaeth yn allu mawr yno, ac y mae ei hol er daioni ar amryw gymeriadau hyd heddyw. Bu ganddo hefyd Ddosbarth Beiblaidd cryf yno a Seiat y Plant' na bu ei bath. Llafuriodd yn y lle yn ddiwyd, ac er gwaethaf yr anfanteision, gyda mesur helaeth o lwyddiant hyd Ebrill 1887 pryd y symudodd i gymeryd gofal yr Eglwysi yn

SILOAM, PONTARGOTHI, A HOREB, BRECHFA.

Nid oedd yr Eglwysi hyn wedi arfer bod dan yr un weinidogaeth o'r blaen. Yr oedd Siloam wedi bod heb weinidog oddiar farwolaeth y Bardd-gerddor-bregethwr ieuanc Mr. E. Ehedydd Thomas, Nantysaer, yn 1888. Drwy ymadawiad Mr. E. B. Lloyd i Bwlchnewydd daeth Horeb yn wag, ac funodd y ddwy Eglwys i roddi galwad i Mr. Rhagfyr Jones. Yr oedd cael gweinidogaeth yn nyffryn ffrwythlawn a phrydferth y Towi yn ad-dyniadol i un ddygasid i fyny mewn dyffryn bras coediog wrth odreu un o gribog fynyddau y Gogledd. Ymaflodd yn ei waith yma eto gydag egni, a chododd i sylw y wlad fel pregethwr poblogaidd yn Mhontargothi. Cychwynodd Gymanfa Ganu rhwng Siloam a Horeb, yr hon a fu yn foddion i ddiwygio y canu cynulleidfaol. Da fuasai i'r Eglwysi ymdrechu ei chadw yn y blaen. Llafuriai i ddiwyllio meddyliau y bobl ieuainc. Yn ei amser ef gwnaed Capel Horeb, Brechfa o'r newydd, ac y mae yn dy hardd a chyfleus.

Yr oedd Mr Rhagfyr Jones yn cynyddu mewn dylanwad a phoblogrwydd yma yn gyflym pan y derbyniodd alwad oddiwrth eglwys

BETHANIA, TREORCI,

a symudodd yno yn Chwefror, 1896. Cafodd yn Nhreorci faes eangach i weithio. Mae capel Bethania yn un o'r rhai mwyaf yu Nghwm Rhondda—Cwm sydd yn enwog am ei addoldai mawrion. Mesura 72 troedfedd o hyd, wrth 50 troedfedd o led. Adeiladwyd y capel eang a hardd hwn yn 1876. Mae ynddo eglwys o tua saith cant o aelodau, a chynulleidfa fawr. Perthyna i Bethania dair Ysgol Sabbathol, ac y mae ar eu llyfrau yn nghyd dros fil o enwau. Darfu i Mr Rhagfyr Jones ar ei ddyfodiad i'r lle ymaflyd o ddifrif yn ei wahanol ddyledswyddau. Y mae y Nefoedd wedi arddel ei weinidogaeth yn amlwg drwy roddi seliau. lawer iddo bellach. Mae wedi derbyn 250 o'r newydd, ac wedi adferyd tua thri ugain o wrthgilwyr. Mae yr eglwys dan ei arweiniad wedi ei breintio yn uchel a threfniadau at waith a diwylliant meddyliol, megys dosbarthiadau i'r ieuenctyd a'r plant, Cymdeithas Ddadleuol, Cymdeithas y Samariaid ar linellau tebyg i'r Christian Endeavour, a Chynadledd Arolygwyr Ymweliadol yr Ysgol Sul. Hyderwn fod y gwahanol sefydliadau hyn yn cael cefnogaeth galonog yr ieuenctyd. O ddiffyg hyny y mae llawer sefydliad daionus wedi bod fel llin yn mygu dros amser, ac yna yn marw.

Yn anterth ei ddydd, ac yn nghanol llafur mawr rhwng pregethu a bugeilio, daliwyd Mr Rhagfyr Jones y gwanwyn diweddaf gan afiechyd trwm: Pan adferwyd ef i raddau, cynghorodd y meddyg ef i fyned am dro i weld y byd, ac aeth allan i

WLAD YR AIFFT.[2]

Dychwelodd wedi derbyn adfywiad i'w feddwl a'i ysbryd, ac adferiad nerth corfforol i raddau dymunol. Ddiwedd mis Mai,—a hyny yn fuan wedi ail ymaflyd yn ei waith, er siomedigaeth fawr iddo ei hun a'r eglwys, cafodd ail ymosodiad gan ei hen ddolur, ac ymosodiad enbyd o'r gwynegon (rheumatism) ddiwedd Mehefin: Drwg genym gael ar ddeall ei fod dan waharddiad i bregethu. Y mae yn ddealledig yn yr eglwys nad yw i ddechreu pregethu cyn diwedd Medi o leiaf. Hyderwn y caiff lwyr adferiad,ac yr estynir iddo eto lawer o flynyddau i weithio yn y winllan. Heb wybod tosder ei ail gystudd, yegrifenais ato yn holi ei helynt, ac yn ceisio ganddo adrodd rhai o'r pethau a welodd yn ngwlad hynod y Pyramidiau. Ysgrifenodd yn ol o ganol poen a gwendid mawr ar Gorphenhaf Lleg, fel y canlyn;—

"Gwelais Alexandria a'i phileri, a'r catacombs, a'i gerddi breninol, a'i maesdrefi, a'i Phompey's Pillar, a 'dwn I beth i gyd. Gwelais Cairo a'i Sphinx a'i Phyramidiau, a'i Hamguddfeydd, a'i hafon Nilus (sydd yn rhyfeddach yma nac yn Alexandria), a'i hen Eglwysi Coptaidd, a'i mosque mawr Mahometanaidd, lle yr oedd 15,000 o ddynion yn darllen y Coran am ddeg o'r gloch bore dydd gwaith, Gwelais Heliopolis—hen ddinas On, lle cafodd Joseph ei wraig, a'r hen goeden lle gorphwysodd Joseph arall a'i wraig a'r Mab bychan wrth ffoi i'r Aifft, &c. Ni chaniata nerth i mi ychwanegu. Os caf wella efallai yr ysgriblaf dipyn o Hanes fy Nhaith i'r Aifft ac yn ol' ar ffurf symi er mwyn y plant, sef plant y TYWYSYDD."

Hyderaf y caiff Mr Jones nerth i gyflawni ei addewid. Bydd llu mawr darllenwyr y TYWYSYDD drwy y Gogledd a'r De yn dysgwyl am ei ysgrifau dyddorol.

Mae Mr Rhagfyr Jones yn gefnogwr gwresog i fudiadau cyhoeddus yr Enwad. Areithiodd yn nghyfarfod cyhoeddus yr Undeb yn Liverpool yn 1897 ar Y dyn ieuanc oddicartref." Tâl ei araeth yn dda am ei darllen yn Adroddiad yr Undeb am y flwyddyn hono. Y mae wedi gwasanaethu ei oes mewn amrywiol ffyrdd y tu allan i'r pwlpud. Bu yn aelod o Fwrdd Ysgol y Faenor pan ar y Cefn, Merthyr Tydfil, am dair blynedd, ac o Gynghor Plwyf Llanegwad, pan yn Pontargothi, am ddwy flynedd. Gwnaethom gyfeiriad eisoes ato fel Journalist. Y mae wedi cyfoethogi Llenyddiaeth â chryn nifer o ysgrifau, megys Croniclau Llanfairbryn-meurig[3] i'r Cenad Hedd Hanes hen gymeriadau anwyl yn Nolgellau, &c. Cyhoeddodd yn Cyfaill yr Aelwyd ddeuddeg ysgrif ar Fywyd Gwledig yn Nyffryn Tywi.' Nofel fer, Un o blant Betsi' i'r Cyfaill— Pedair Golygfa yn Mywyd Huw Rolant' i'r Dysgedydd Fy Nhaith Bregethu Gyntaf' i'r un cyhoeddiad—Chwedl y Llofft Fach' yn wyth penod i'r Diwygiwr Parch M. D. Jones fel Dirwestwr i'r Tyst Dirwestol, &c, Darnau o Farddoniaeth, Tonau Cynulleidfaol, Anthemau, &c. Derbyniodd amryw o'r ysgrifau uchod ganmoliaeth uchel ar eu hymddangosiad, a bu llawer o ddarllen arnynt.

Tachwedd 3ydd, 1881, ymunodd Mr. Rhagfyr Jones mewn priodas a Miss Minnie Dakin, merch hynaf y diweddar Mr. S. Dakin—un o heddychol ffyddloniaid Israel yn y Bala, ac adnabyddus i lu o fyfyrwyr. Y mae Mrs Jones yn wraig graff, a chymdeithasgar, a thrwy hyny yn meddu ar lu o gyfeillion: Mae iddynt un plentyn ar y ddaear ac amryw yn y Nefoedd, Enw eu merch yw Eunice Elsbeth—ganwyd hi Rhagfyr 14eg, 1887, ac y mae dan addysg yn Ngoleg Milton Mount.

Gyda'r hanes hwn rhoddwn ddarlun da o Mr. Rhagfyr Jones, yr un peth a'r un sydd ganddynt yn Bethania wedi ei helaethu, a'i hongian i fyny yn y Festri.

TABORFRYN.

Nodiadau[golygu]

  1. Tywysydd y Plant, Cyf. XXXI rhif. 9 - Medi 1901. td 230—235; PARCH. D. RHAGFYR JONES, TREORCI.
  2. Mae ei atgofion am y daith i'r Aifft ar gael ar y safle hwn: I'r Aifft ac yn Ol
  3. Llanfairbryn-meurig—Enw amgen am Ddolgellau

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.