Neidio i'r cynnwys

Da Fu'r Drindod

Oddi ar Wicidestun

gan Dafydd ap Gwilym

Da fu'r Drindod heb dlodi
A wnaeth nef a byd i ni.
Da fu'r Tad yn anad neb
Roi Anna ddiwair wyneb.


Da fu Anna dwf uniawn
Ddwyn Mair, forwyn ddinam iawn.
Da fu Fair ddiwair eiriawl
Ddwyn Duw i ddiwyno diawl.


Da fu Duw I ôr, dioer oroen,
A'i groes ddwyn pymoes o'u poen.
Da y gwnŵl Mab Mair, air addef,
Ein dwyn oll bob dyn i nef.