Dacw gariad nefoedd wen
Gwedd
← Angylion doent yn gyson | Dacw gariad nefoedd wen gan William Williams, Pantycelyn |
Craig yr Oesoedd! cuddia fi → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
176[1] Cariad yn disgleirio ar y Groes.
77. 77. 77.
1 DACW gariad nefoedd wen
Yn disgleirio ar y pren;
Dacw daledigaeth lawn.
I ofynion trymion iawn;
Iesu gollodd ddwyfol waed,
Minnau gafodd wir iachâd.
2 Na ddoed gwael wrthrychau'r byd
I gartrefu yn fy mryd;
Digon, f'enaid, digon yw
Myfyrdodau dwyfol friw:
Mae mwy pleser yn ei glwy'
Na'u llawenydd pennaf hwy.
3 Iesu gollodd ddwyfol waed,
Minnau gafodd wir iachâd;
Darfu ymffrost mawr y byd,
Iesu biau'r clod i gyd;
Wrth ei draed dymunwn fyw,
Holl hapusrwydd f'enaid yw.
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 176, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930