Daff Owen/Aberhonddu

Oddi ar Wicidestun
Sioni Cwmparc Daff Owen

gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon)

Llyfr Job


XIV. ABERHONDDU

BERNIR gan lawer mai yn y cyfnod 1887-93 y clywodd Cymru ei chanu corawl goreu erioed. Cododd tô o arweinwyr yn Ne a Gogledd yr amser hwnnw i dywys lleisiau melysion ein gwlad i ymdrechion uwch nag y bu hanes amdanynt mewn un cyfnod yn flaenorol. Nid oedd odid gwm na dyffryn poblog nad oedd iddo ei "gôr mawr" a'i barti meibion, a'r naill fel y llall yn llawn sêl ac ynni am ragori.

Ymhlith goreuon y De yr oedd Parti Treorci, Parti'r Pentre a Pharti Pontycymer, ac nid oedd un eisteddfod fawr yn gyflawn pe bai'r rhain yn absennol. Gwnaeth bechgyn Treorci wrhydri ar lawer maes cystadlu, llwyddodd Parti'r Pentre (neu y "Rhondda Glee Society," i fod yn eithaf swyddogol) i ddwyn hanner y wobr oddiar oreuon Huddersfield, o dan John North, yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain 1887, a sicrhaodd Pontycymer y wobr yn gyfan yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1891, trwy ddatgan "Cydgan y Pererinion" mewn arddull ddi-ail.

Teithiai pobl o bell ffordd i lawer eisteddfod i ddim arall ond i glywed aelodau y corau hyn yn datgan eu darnau godidog, a chlustfeinid arnynt wrth eu practis gartref gan bobl gerddorol ac angherddorol ynghyd.

Fel y gellid tybio, yr oedd cynlluniau a bwriadau y corau hyn o ddiddordeb neilltuol i'r ardaloedd y trigent ynddynt, ac nid oedd "talcen" yn yr holl ardaloedd glofaol na thrinid am ragolygon y parti hwn neu'r parti arall.

Dywedwyd eisoes fod D.Y., cyfaill Daff, yn aelod ffyddlon yng Nghôr y Pentre, ac mai canu a chantorion oedd ei fyd. Naturiol felly oedd i Daff ei hun gymryd diddordeb yn yr un peth. Yr oedd bellach wedi cyd- weithio â D. Y. am yn agos i dair blynedd, ac wedi dyfod i'w hoffi yn fawr.

Yr oedd bron â dod yn un o "Wyr y Gloren" hefyd, ys dywedai ef, oblegid nid oedd odid gapel na neuadd yng Nghwm Rhondda nad oedd ef, rywbryd, wedi ymweld â hwynt. O barch i goffa'i fam ymgartrefodd yn un o gapeli'r Bedyddwyr, ond pan fyddai sôn am gyngerdd neu gymanfa dda yn y cylch yn rhywle, ac yn enwedig o byddai un o'r corau meibion yn gwasanaethu yno, gellid penderfynu y byddai'r gŵr ieuanc gwylaidd o Lywel ("partner Dai'r Cantwr," fel y gelwid ef gan y glowyr yn gyffredin), yn sicr o fod yno'n brydlon.

Yn yr un modd dilynodd Daff y cantorion i lawer eisteddfod, ymwelodd â Phenybont-ar-Ogwr, Castellnedd, Pontypridd, ac eraill o drefydd mawrion Morgannwg, er mawr bleser a gwybodaeth newydd iddo ei hun. Un bore cynhyrfwyd ef yn fawr ar i Dai ofyn iddo yn ddigon didaro, Ble mae Aberhonddu, D.O.?

Oti a mhell o Ferthyr? Mae'r Parti'n mynd i gynnal consart yno 'mhen mis."

Dadlennwyd o flaen y gŵr ieuanc ei fywyd boreol unwaith yn rhagor, ac ar un fflach gwelodd eto yr afon, y torlannau, y meysydd cnydiog, a'r elltydd cysgodol, oll yn eu gogoniant a'u harddwch fel yn yr amser gynt. Daeth ton o hiraeth drosto ar y foment, ond yr eiliad nesaf atebodd yn ddigon digyffro, "Rhyw ddeunaw milltir f'aswn i'n ddweud. Pryd ych chi'n mynd?"

"Fe 'weta' nes ymlân. 'Dwy' i ddim yn siwr pryd. Leicet ti ddod gyda ni?"

Leicwn, wir! Waith wedi'r cwbl, D.Y., gwlad ffein yw Brycheiniog, a hen dre annwl yw 'Berhonddu, he'd. Fe leicwn fynd yn 'y nghalon!

"All right! fe 'weta' i wrth Tom" (gan olygu. Mr. Tom Stephens, arweinydd talentog y Parti).

Ymhen rhyw bum wythnos, gwelwyd hanner cant o lowyr cerddorol y Rhondda yn esgyn i lwyfan ym marchnadle'r dre hynafol yng ngwlad y Bannau. Digon cyffredin oedd yr olwg arnynt, a chredai ambell un o'r dyrfa, na wyddai'n well, mai camsyniad mawr oedd dwyn y bechgyn glas—greithiog hyn i'r llwyfan a anrhydeddwyd â phresenoldeb Patti ei hun bythefnos cyn hynny. Ond ar y frawddeg gyntaf o'r geiriau "Glory and Love to the Men of Old," yn y cytgan o Faust (Gounod), nid oedd yno ond un farn, a rhaid oedd ail ganu, mor fyddarol oedd y galw am hynny. O'r cytgan cyntaf ymlaen, y côr, y côr, oedd popeth. Hwynt—hwy oedd arwyr y dre.

Cerddodd Daff rai o'r prif heolydd cyn dechreu o'r gyngerdd, gan led—obeithio cyfarfod â rhywun neu rywrai o'r hen ardal, ond siomwyd ef yn hynny.

Ar ddiwedd y cyfarfod aeth i westy mawr y Wellington i gael lluniaeth gyda'r parti, cyn dychwelyd ohonynt oll i'r Rhondda yn hwyr y nos. Ac ar ei fynd heibio i un o'r ystafelloedd yfed, tybiodd iddo glywed llais a adwaenai.

Meddyliodd ar y foment am droi at y dyn (canys hiraeth mawr am Lywel oedd arno), ond trodd yn ei ôl drachefn, a da oedd ganddo am yr ail feddwl, oblegid clybu'r un llais eto, ac yn hynod floesg y tro hwn, yn mwmian "The man that hazh no muzhic in hizhmzhelf," etc., ac ar hynny nid oedd modd cam-syniad y gŵr mwy.

Blin iawn a fyddai gan Ddaff weld ei hen Gamaliel mewn cyflwr mor annheilwng, a mwy blin fyth a fyddai egluro i D.Y. a'r cantorion eraill mai y meddw hwn oedd yr un a'i dysgasai gynt. Felly cerddodd ar ei union i ystafell y swper, a chadwodd ei gyfrinach iddo ei hun.