Daff Owen/Canu a Chantorion
← Cyfaill Mewn Taro | Daff Owen gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon) |
Sioni Cwmparc → |
XII. CANU A CHANTORION
"DAFF! Daff! cwnnwch! 'newch chi! Mae'n gwarter wedi 'wech!" Dyna'r geiriau a darawodd ar glyw y glowr bach gyntaf fore dydd Llun. Neidiodd o'i wely, a chyn pen deng munud yr oedd wrth y bwrdd yn cymryd ei frecwast, ac yn barod i ddechreu wythnos arall o lafur.
Wedi mynd ohono ef allan o'r groesheol lle y lletyai, gwelai gannoedd o lowyr, yma ac acw, yn cyfeirio at y lofa hon neu'r lofa arall. Wrth "wddwg" ei lofa ef ei hun gwelodd ei bartner ynghanol rhyw ddwsin o'i gydlowyr, yn ei dadleu hi yn egniol iawn am rywbeth na wyddai Daff ddim o'i blegid, a'r cwbl mewn miri mawr am uchel her neilltuol a roddasai'r Cantwr pan. yn troi i ymadael â hwy.
Wedi cyrraedd o hwnnw i'r talcen glo a chyfarch Bore Da! i Ddaff cyn dechreu'r gwaith.
"Dyna foneddig 'ro'ech chi neithiwr, D.Y.," ebe'r llanc. "Gwelais chi a rhyw hanner dwsin o bapurau dan eich cesa'l wedi i fi ddod ma's o'r capel, ond yr o'ech yn rhy brysur i sylwi arna' i. Pam gymaint o hast ar nos Sul?"
"O, machan i, mynd i'r practis 'rown i, a dipyn yn ddiweddar yn cyrraedd, dyna i gyd. Wela's i monot, chwaith, neu ffêr dŵs, fe faswn wedi gweud rhwpath."
Practis i beth, D.Y?"
"O, bachan! 'steddfod Penybont sy wrth y drws, a ma'n parti ni yn cynnig yno. Chlywa'st ti ddim ohonyn nhw wrth y gwddwg, gynna' fach? Boys Treorci bob un. Ma' nhw'n cretu ma' nhw yw'r top dogs ar y Destruction, ti'n gweld. A 'wara teg, ma' nhw'n canu'n dda digynnig, rhyngton ni'n dou man hyn, a lêdar piwr iawn yw William Tomos, he'd, O ran hynny. Ond perthyn i barti'r Pentra wy' i, ti'n gweld, a rhaid dangos y colours o flân y tacla', ne' f'asa' dim shwd beth a byw gyda nhw. Beth 'wetas i o'r blân? Never say die!" on'd iefa? Fe fasa'n well na phumpunt gen i 'maeddu nhw ym Mhenybont, b'asa'n wir, taw dim ond am 'u gweld nhw mor cock sure! Ond 'nawr, D.O., at y cogyn yna, machan i!"
Dechreuwyd gweithio fel arfer, ergyd ac ergyd dibaid y glowr yn y talcen, mwm rhaff yn chwyrnu ar ben y deep, a llais soniarus yr halier yn cymysgu cân, serch neu arall, â galwadau'r heol.
Dyna un o nhw 'nawr !" ebe'r Cantwr pan neshaodd halier neilltuol at eu talcen. "Un o'r gora' oh nhw he'd, ond 'i fod yn lled ffond o boeni tipyn arna' i ambell waith." Ac megis ateb i'r disgrifiad clywai Daff ar y foment
We have bro-ken down evry altar of the
gods so worth-less and vain,
ond heb betruso am eiliad wele'r Cantwr gan bwyso ar ei fandril yn ei ateb lawn mor soniarus a chellweirus ag yntau,—
In our career never will we falter
Chwarddodd pawb oedd o fewn clyw, canys deall yr oeddynt yr ergydion a oedd yn y canu, a buan yr ymgynhullodd at ei gilydd y ddau ddatganwr, Jim Skittles a dau arall, heblaw Daff a chrwt y talcen nesa'.
"Spel Whiff, boys!" ebe Jim. "Pwy sy'n mynd i ennill ym Mhenybont? Ma' arian 'n talcan ni i gyd ar y Pentra, ta' beth!" ebe fe ymhellach.
"Wel, chi 'u collwch nhw i gyd hefyd!" ebe'i halier. "Ond rhaid i fi fynd, ma'r shwrna ar y ffordd, ne' fe faswn yn gweud pam mae'n rhaid i'r Pentra golli. Hylo! boy bach! (hyn at Daff), catw dy goesa' yn nhre, neud di! Fe fuo i bron damshal ar dy drestls di heb yn wypod. Dyna'r gwaetha o foys parti'r Pentra, ma' nhw shwd rai bach i gyd. Down bass wyt ti'n ganu, sbo! 'Ma fi'n mynd!"
"Paid shimplo neb, Shoni!" ebe Skittles, gan weiddi ar ôl yr halier direidus a oedd yn prysuro oddi— wrthynt. "Un bach oedd Tom Sayers, cofia!"
"Little and good, on'd iefa? Daff!" ebe fe drachefn gan droi yn ôl yn serchog at y glowr_bach, "Paid hito! 'do'dd e'n meddwl dim drwg. Dyna'i ffordd a, dyna gyd.'
Aethpwyd ymlaen wedi hynny i siarad am bethau eraill, ond yr oedd Daff cyn diwedd y "Spel Whiff" wedi ei ennill yn bleidiwr selog i barti'r Pentre—yn ei feddwl yn unig, wrth gwrs—oblegid ni chlywodd ef eto y naill barti na'r llall yn canu. Rhyfedd fel yr ennill gair teg, onide ? a rhyfedd fel y tramgwydda gair swrth hefyd!
Dechreuodd Daff gymryd diddordeb yn y "Spel Whiff" fel sefydliad hefyd. Hon ydyw orig y siarad y sydd wedi bod mor boblogaidd erioed gan lowyr y lefelau ymhobman, ac a etyb yr un diben yn y gweithie ag a wna efail y gof a siop y crydd yn y wlad, sef yw hynny, trafod pynciau'r dydd yn gyffredin. Nid oedd yr hogyn wedi bod eto ond wythnos yn Lefel yr Ocean, ond o fewn y cyfnod hwnnw clywodd fwy o drin a thrafod gwahanol destunau nag a glywsai yn ei oes cyn hynny. Yn eu plith yr oedd pregethau cyfarfodydd blynyddol "Noddfa," y bardd ieuanc
Nodiadau
[golygu]