Daff Owen/Mynd i'r Anialwch
← Ymladd a'r Dyfroedd | Daff Owen gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon) |
Gwylio'r Claf → |
XL. MYND I'R ANIALWCH
ÂI Daff i lawr i brif swyddfa'r Llywodraeth bob dydd i weld a oedd gobaith o ryw gyfeiriad am le newydd. Ac ef un bore yn dychwelyd oddiyno, gwelai Indiad cloff ar yr heol yn ymlwybro tuag ato. Ar ei ddyfod eto'n nes gwelodd mai ei hen gyfaill Red Snake o'r Chilcoot ydoedd. Dangosodd hwnnw yn ei ddull ei hun ei lawenydd o weld y gŵr a dosturiodd wrtho yn ei ddydd blin, a daeth yn siaradus hyd yn oed, am unwaith yn ei oes.
Adroddodd wrth Ddaff ei hanes oddiar amser y ddamwain. Wedi i long ddiweddaf y tymor fwrw ei llwyth ar draeth Dyea a mynd i ffwrdd yn ôl llaw, ymddengys i newyn ddal y lle hwnnw hefyd. A chan nad oedd gobaith am fwyd o unman prysurodd y bobl oddiyno, naill dros y Chilcoot neu ar hyd y Skagway ar ôl y teithwyr cyntaf. Red Snake, oherwydd ei anaf, ydoedd yr olaf i ymadael, ac amser caled dros ben a fu ei ran ar y trail. Bu'n ymladd â dau flaidd wrth Rotting Horses, ac yr oedd ar newynu pan gyrhaeddodd Lyn Bennett. Yno cyflogwyd ef i dorri coed gan rai a oedd yn rhy ddiweddar i nofio'r afon y tymor hwnnw; ond ymhen pythefnos bu mor ffodus â chyfarfod â'i fab ei hun, White Cloud, ar lan y llyn. Yr oedd y mab yn berchennog ar sled ac wyth ci, ac yn y sled honno y deuthant ill dau dros yr ia a'r eira i ddinas Dawson ddeuddydd yn ôl.
O holi o Ddaff ef am ei ddyfodol, dywedodd y gwyddai ei fab am gilfach neilltuol o gyfoethog tu hwnt i'r Forks, a'i fod yn meddwl mynd gydag ef i'r lle fore trannoeth yn y sled.
Deisyfodd Daff arno gael ymuno â hwy, a dangosodd yr hen ŵr ei foddlonrwydd ar unwaith; ond y carai siarad â'i fab yn gyntaf. Trefnodd i gyfarfod â Daff ganol dydd yr un diwrnod, ac yna y caffai ateb terfynol. Pan ddaeth yr amser i ben, nid Red Snake yn unig a ddaeth i'w gyfarfod, ond y mab hefyd; ac yno ar ganol yr heol gwnaed y cytundeb rhwng y tri heb ddim i'w gadarnhau ond y teimlad o ddiolchgarwch am ddyngarwch y dyn gwyn ar y Chilcoot.
Y noson honno adroddodd Daff yr holl helynt wrth ei gyfeillion yn y caban, a chyn dydd bore drannoeth yr oedd y cŵn a'r sled yn aros i'r Cymro wrth y drws. Gan addo yr ymwelai ef â hwynt drachefn cyn pen pum wythnos cefnodd Daff ar ei gyfeillion i wynebu'r anialwch heb neb ond dau Indiad yn gwmni.
"Marchons! mush there!" gwaeddai White Cloud ar y cŵn gan glecian ei whip, ac ymhen awr yr oeddynt ymhell ar eu ffordd. Nid peth anghyffredin oedd gweld tri gŵr yn gyrru i gyfeiriad y Forks unrhyw amser, felly ni sylwodd neb arnynt. Barnwyd yn ddoeth, fodd bynnag, wedi cyrraedd ohonynt y Forks, i'r dyn gwyn fynd yn ei flaen ar y trail, tra oedai yr Indiaid yn y pentre am awr neu ddwy, cyn ei ddal a'i godi yn nes ymlaen.
Pobl effro iawn i bob maes newydd ydoedd trigolion gwlad yr aur, a chryn gamp, wedi darganfod o rywun le addawol am y mwyn, oedd ei gadw yng nghudd oddiwrth eraill.
Wedi uno â'i gilydd eto bedair milltir ymhellach na'r Forks, teithiwyd ymlaen am saith neu wyth yn rhagor cyn troi o'r sled i lawr i gilfach neilltuol mewn coedwig fechan. Yno yr oedd nant yn dechreu ei ffordd i lawr, ac o ddilyn honno deuthpwyd i'r lle y gwybu White Cloud am ei gyfoeth, sef y lle a adnebydd pawb heddiw wrth yr enw Wood Creek. Tynnwyd deunyddiau pabell oddiar y sled, a thra rhoddai Red Snake fwyd i'r cŵn gosododd White Cloud a Daff y babell i fyny o dan gysgod llwyn mawr.
Tynnwyd hefyd allan o'r sled ymborth i'r dynion eu hunain, ac wedi cyfranogi ohono, a gweld y cŵn bob un yn ei wely eira y tu allan i'r babell, gorweddodd Daff a'i gymdeithion newydd i gysgu.
Ond pell oedd cwsg o amrannau'r Cymro y noson honno. Chwyrnai'r ddau Indiad yn ei ymyl heb na chyfrifoldeb na phryder o un math yn eu blino, chwyrnai'r cŵn y tu allan ar ei gilydd, udai blaidd yn y pellter, ac ysgrechiai tylluan yn awr ac yn y man uwch ei ben. Rhwng y cwbl, noson o flinder ydoedd i'r bachgen pell o dre.
Wrth droi yn ôl a blaen er mwyn denu cwsg, daeth i'w feddwl am y rhai a fu'n dda wrtho ar hyd ei oes,— Shams y Gof, Dai'r Cantwr, y swyddog ar y trên, a dau deulu Frazer's Hope. A welai ef hwynt eto rywbryd? neu a oedd ei bennod i ddiweddu yn eira'r Klondyke?
Ar hyn cododd White Cloud, ac aeth allan drwy agoriad y babell at y cŵn y tu allan. Ar ei chwibaniad, neidiodd pob un ohonynt i fyny, fel nifer o gesig eira byw, ysgydwodd pob un ei flew, ac ar amrantiad yr oeddynt yn barod i'w borefwyd. Wedi hynny cyneuwyd tân, ac ymhen ychydig yr oedd arogl flapjacks yn y badell ffrio yn denu Daff a Red Snake i fod yn barod i'w cyfran hwythau. Wedi gosod y rhelyw o'r bwyd heibio a sicrhau'r cŵn, dug y tri dyn eu hoffer gwaith at yr haen ym môn y graig a addawai mor dda. Unig gynllun yr Indiaid oedd ei darnio cyn belled ag y cyrhaeddai y morthwylion pigfain.
Ond eglurodd Daff mai gwell fyddai gwneuthur agoriad fel lefel i eigion y graig. Ac yma y daeth ei brofiad yn y Rhondda o fudd mawr iddo. Yr oedd digon o goed yn ymyl, ac â'r rhain bwriadai ef ddiogelu'r nengraig fel yr elent ymlaen. Gwelodd y ddau Indiad ei fedr yn trin offer, a rhoesant y flaenoriaeth iddo ymhopeth ynglŷn â'r turio. Mantais arall o gynllun y lefel oedd y gallent weithio drwy'r gaeaf er casglu tomen y gro mân yn barod erbyn y golchi yn y gwanwyn pan fai'r dyfroedd yn rhydd. Gweithiwyd fel hyn am wythnos gyfan cyn ei ddyfod i feddwl Daff nad oeddynt wedi sicrhau eu hawl i'r lle, ac nad oedd dim yn rhwystro dieithryn hollol i weithio wrth eu hochr. Gofidiodd ef beth am hyn, ac wedi egluro'r perigl i'w ddau gyfaill, gofynnodd i White Cloud ddyfod yn ôl gydag ef i Dawson i gywiro'r gwall.
Penderfynwyd peidio â chymryd dim o'r mwyn gyda hwy, ond gadael popeth fel yr oedd yng ngofal Red Snake hyd nes y dychwelent. Wedi mesur y rhan o'r haen yn y golwg, barnwyd fod yno ddigon i wneuthur pum claim. A chan mai dim ond tri oeddynt hwy eu hunain awgrymodd White Cloud i Ddaff gynnig y ddwy ran arall i'w gyfeillion yn y caban yn Dawson. Diolchodd Daff yn gynnes a chychwynnwyd y daith i'r dre.
Erbyn cyrraedd ohonynt yno ac esbonio i Syd a Jack gyflwr pethau yn Wood Creek, derbyniwyd y cynnig ar unwaith gan y ddau, ac wedi gofalu fod popeth bellach mewn trefn yn Swydda'r Mwynfeydd dychwelodd dau ŵr y sled gan ddwyn Jack yn ôl gyda hwynt, a gadael Syd wrtho ei hun i ofalu am y caban. Aeth y gwaith yn Wood Creek ymlaen yn rhagorach fyth o gael un gweithiwr yn ychwaneg, tyfai y domen bob dydd, ac edrychid gydag aidd am y dydd yn nechreu'r haf y dechreuid ei "golchi." Yr oedd y cewyll at y pwrpas eisoes yn barod, a chyn Nadolig yr oedd cwrs y nant hefyd wedi ei droi i roi mwy o hwylustod i'r gwaith pwysig pan ddechreuid ef. Yn nechreu'r flwyddyn, White Cloud yn unig a âi yn ôl a blaen i ymofyn lluniaeth a chael newyddion oddiwrth Syd. Yn y cyfamser profai'r lefel yn ardderchog a thyfai'r domen rhag blaen yn gannoedd o dunelli, parod i'r olchfa.