Daff Owen/Tramgwydd Difeddwl

Oddi ar Wicidestun
Llyfr Job Daff Owen

gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon)

Pontypridd


XVI. TRAMGWYDD DIFEDDWL

A hi ym min hwyr Mehefin yng Nghwm Rhondda a phelydrau'r gorllewin yn rhoddi "Nos Da" i gopâu Moel Cadwgan, cerddodd Daff am dro ar ôl swper i gyfeiriad Treherbert, ac wedi mynd gryn ffordd i fyny i'r cwm dros y brif heol, clywodd lais yn ei gyfarch o'r cyfnos,—

"How getting! Daff?"

Edrychodd ar yr hwn a'i cyfarchai, a gwelodd nad oedd neb amgen na Jim Skittles.

"Nos da, James! Tywydd braf!

"Ffein i ryfeddu, Daff. Dera 'miwn am lasiad!"

"Na, dim thenciw, James, ond fe gera nôl gyda chi os mai nôl ych chi'n mynd."

"Right o, Lad! os wyt titha'n siwr na fynni di ddim un."

"Eitha siwr, James, thenciw, gadewch i ni fynd."

Yn ôl yr aed, a'r naill yn ceisio dyfalu beth a fyddai'n fwyaf diddorol i'r llall.

'Rwy'n clywad 'ch bod yn dechra'r piler 'fory, James," gan gyfeirio at orchwyl neilltuol yn y gwaith. "Arian da am bythewnos, tebig iawn. Lwc i rai o hyd, James."

"O, fe fydd y tocins ddicon piwr figinta. Ond bachan gwelast ti pwy o'dd hwnna a basws?

"Naddo i. Pwy o'dd a? "Shoni Injinêr!"

"Pwy yw hwnnw? Odi e'n rhywun neilltuol?"

Wel, fe 'weta' wrthot ti pwy yw a, gan nag wyt ti'n gwpod, Mishtir Wil Rwsh, Dai Bacsa' a Bili Twm, ta' beth, a ma' rhai yn 'i faco fa yn erbyn Jack O'Brien, he'd."

"Injinêr ar beth yw a, 'i fod e'n fishtir ar gyma'nt yr un pryd?"

"O! Ha! Ha! Injinêr dyrna' yw a, 'r Bachan Dwl! Ha! Ha!

"Fe 'weti nesa' nag wyt ti'n napod Bil Samwel!"

"Nag wy i, o brysur, pwy yw hwnnw yto?"

"Beth? Wyt ti'n cisho gen' i gretu nag wyt ti'n napod Bil Samwel, a 'fenta'n dod a'i salŵn i ffair Dreorci bob haf? Paid hymbygan, Daff!"

"Wel, yn wir, James, 'dwy' i ddim yn 'i napod. Oti e'n perthyn i'r hen Forgan Samwel, wn i?"

"Pwy o'dd hwnnw, f' innocent bach i?"

"Hen bregethwr yn Shir Frychinog ar'n pwys ni."

O ddywedyd o Ddaff hyn credodd ar y foment oddiwrth wynepryd James ei fod wedi ei glwyfo i'r byw, oblegid yr oedd yr olwg arno yn anhyfryd iawn. Fflachiai llid yn ei lygaid, cuchiai ei drem, a chrynai ei wefus. Sylwodd Daff arno hefyd yn cau ei ddwrn, ac am eiliad neu ddwy ofnodd y tarewid ef ganddo, a hynny heb un syniad na rheswm paham.

Yr eiliad nesaf, fodd bynnag, ciliodd gwg y drem i raddau, ond, gyda'i wefus eto'n crynu, dywedodd Jim," Dishgwl 'ma, Dafi! 'Rwyt ti a Dai'r Cantwr 'ch dau yn byw mewn twbyn, Canu-Canu-Canu tragwyddol sy' gennych chi o hyd. Ma'n syndod i fi 'ch bod yn câl amsar i lanw drams o gwbwl. Oti, myn asgwrn i, gyda'ch hen fewian o hyd!

"Ond cofia di hyn, machan i! Wyt ti'n clywad? Ma'r byd mawr yn mynd ymlán hebddo chi, a 'dyw e'n hit'o dim am 'ch canu chi mwy na mwmian cleran ar y ffenast! Ma' isha galw yn y Stag' arno i 'nawr. Good Night!"

Synnwyd Daff yn fawr gan hyn oll, a blinwyd ef gan y dybiaeth iddo fod yn ôl mewn moesgarwch ar yr unig dro y cafodd ef gwmni James wrtho ei hunan erioed. O adrodd yr helynt wrth y Cantwr drannoeth, nid ymddangosai w'n syn, ond dywedodd yn dawel ddigon, "Ia, tr'eni mawr am James! Gwithwr da! a bachan ffein mewn llawar ffordd, rhy dda i'r dafarn a'r prize ring o gryn dipyn."

"Ond nid yw hynny'n esbonio 'i gasineb ato i nithwr o gwbl!

"Oti, Daff, oti'n wir! wath mab i bregethwr yw Jim! Dyna ddicon i ti! Gofala bido sôn am bregethwr wrtho o hyn i mâs, ne' fe gred dy fod ti'n gwpod am 'i dad, ac yn ei dawlu i'w ddannadd. Look—out wedyn! Pŵr Jim!"